Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Mae twyni yn gartrefi!
A wyddoch chi bod llawer o greaduriaid gwahanol wediaddasu’n arbennig i fyw mewn twyni tywod?
Creaduriaid sy’n tylluac yn tyrchu
Dim y cranc yn unig sy’n tyrchu yn y tywod!
Mae rhai rhywogaethau o fadfall yn byw mewn twyni ac yn dodwy eu hwyau yn y tywod.
Maen nhw hyd yn oed yn dewis llethrau heulog i gadw eu hwyau’n gynnes.
Bydd gwenyn a gwenyn meirch yn tyrchu yn y tywod, a bydd rhai lindys yn cuddio yma.
Bydd cwningod hefyd yn cloddio eu tyllau ac yn cartrefu yn y tywod. Planhigion anhygoel
Mae pridd twyni tywod yn dywodlyd, yn sych ac yn alcalin yn aml, ac ychydig o faethion sydd
ynddo. Mae hyn yn golygu mai dim ondrhywogaethau o blanhigion hynod o arbenigol
all fyw yma.
Mae’n rhaid i’r twyni hefyd gynefino gyda chael eu llunio’n gyson gan y gwynt a chael eu
gorchuddio gan ddŵr hallt o’r môr.
Mae tegeirian y wenynen yn twyllo pryfed drwy ddynwared gwenynen fenywaidd, sy’n denu
gwenyn gwryw sydd wedyn yn ei beillio!
Mae angen twyni iach ar y creaduriaid hyn, ac mae angen tywod sy’n symud ar dwyni iach!Mae twyni wedi mynd yn rhy sefydlog i’r creaduriaid sy’n cartrefu ynddyn nhw.
Mae angen llai o lystyfiant trwchus arnyn nhw a mwy o arwynebedd o dywod moel.Gallwn helpu twyni a’u bywyd gwyllt drwy glirio rhai rhywogaethau o blanhigion nad oes
croeso iddyn nhw, a helpu’r tywod i symud. Gallwn wneud hyn â llaw, neu wrth ddefnyddio peiriannau!
Project partneriaeth sy’n adfer twyni tywod yn Lloegr a Chymru yw Tywod ar Symud, ac fe’i cefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Rhaglen LIFE yr UE. Y partneriaid yw Natural England, Plantlife, Cyfoeth Naturiol
Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. dynamicdunescapes.co.uk @dynamicdunes
Mae twyni yn gartrefi!A wyddoch chi bod llawer o greaduriaid gwahanol wedi
addasu’n arbennig i fyw mewn twyni tywod?
Tegeirian y wenynenMae tegeirian y wenynen hardd yn blanhigyn twyllodrus. Mae petalau’r blodyn wedi addasu i edrych fel gwenynen fenywaidd, sy’n denu sylw gwenyn gwrywaidd. Maen nhw’n galw heibio’r blodyn er mwyn dod o hyd i gariad. Mae’r twyllo yma gan y blodyn yn sicrhau bod y planhigyn yn cael ei beillio gan fod y gwenyn gwrywaidd yn cludo paill i’r planhigyn.
MoresgWedi ei addasu’n berffaith ar gyfer yr amodau sych a gwyntog,mae gan foresg ddail cwyrog wedi eu rholio at ei gilydd sy’n eirwystro rhag sychu. Mae ganddo hefyd goesau sy’n tyfu’ngyflym iawn, mor gyflym ag y mae’r tywod yn cronni. Mae’rgwreiddiau’n hynod o hir i helpu dod o hyd i ddŵr, ac yn hel at ei gilydd ar ffurf mat er mwyn sefydlogi’r tywod o’u cwmpas. Maen nhw hefyd yn angori’r planhigyn i’r ddaear a’i helpu i wrthsefyll y gwynt.
Celyn y môrMae gan gelyn y môr ddail cwyrog trwchus i helpu i gynnal dŵr ac maen nhw’n lliw golau er mwyn adlewyrchu golau’r haul, a rhwystro’r planhigyn rhag mynd yn rhy boeth a sychu’n grimp. Fe all gwreiddiau celyn y môr dyfu hyd at 1m o hyd wrth chwilio am ddŵr ffres ac maen nhw’n gweithredu fel angor yn y tywod hefyd. Mae celyn y môr yn wir bigog. Mae hyn yn ei warchod rhag cael ei fwyta gan gwningod a cheirw ond mae’n caniatau i wenyn gyrraedd y blodau. A wyddoch chi? Ar un pryd roedd gwreiddiau celyn y môr yn cael eu melysu a’u bwyta fel da da neu fferins!as sweets!
Chwilen Deigr y Twyni OgleddolChwilod teigr yw pryfed cyflymaf y byd. Mae chwilen deigr ytwyni ogleddol yn un o bump chwilen deigr yn y DU a dim ond mewn dau leoliad y ceir hyd iddi. Maen nhw’n gloddwyrrhyfeddol. Mae gan yr oedolion goesau hir i helpu i gladdu euhwyau o dan y tywod.Wedi i’r wyau ddeor, mae’r larfau’ncloddio tyllau fertigol 30 cm o ddyfnder wrth ddefnyddio eupennau gwastad i wthio’r tywod i ffwrdd. Mae’r larfa’n byw yn y tyllau hyn ac yn ymosod ar unrhyw ysglyfaeth sy’n cwympo i mewn hyd nes byddan nhw’n ymddangos fel chwilod aeddfed.
Project partneriaeth sy’n adfer twyni tywod yn Lloegr a Chymru yw Tywod ar Symud, ac fe’i cefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Rhaglen LIFE yr UE. Y partneriaid yw Natural England, Plantlife, Cyfoeth Naturiol
Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. dynamicdunescapes.co.uk @dynamicdunes
Dunes are homes_WelshDunes are homes Species Profiles_Welsh