Upload
national-parks-wales
View
230
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Parciau Cenedlaethol Cymru Cylchlythyr Gaeaf 2011/2012
Citation preview
1
lle I enaid gael llonydd cylchlythyr Parciau Cenedlaethol Cymru
Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012Gaeaf 2011/2012
Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw Un Corff i Gynnal Cymru Fyw
Mae’r ffordd o reoli’r amgylchedd a’r
adnoddau naturiol yng Nghymru’n wynebu
newid sylweddol dros y 24 mis nesaf, yn dilyn
cyhoeddiad papur gwyrdd Llywodraeth
Cymru’n ddiweddar, sef Cynnal Cymru Fyw.
Mae’r ymgynghoriad, a lansiwyd ar 30 Ionawr,
yn cynnig bod dulliau rheoli adnoddau naturiol
ar hyd a lled Cymru’n mabwysiadu dull rheoli ar
lefel yr ecosystem, dull sy’n rheoli ac yn
rheoleiddio’r amgylchedd a’i iechyd yn ei
gyfanrwydd, yn hytrach na delio â materion
unigol ar wahân.
Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r ffordd hon o
reoli:
Wneud ein hamgylchedd a’r
bioamrywiaeth sy’n ei gynnal yn gryfach a
mwy amrywiol;
Creu prosesau rheoleiddio symlach a mwy
cost-effeithiol;
Rhoi mwy o sicrwydd i benderfynwyr.
Mae’r papur gwyrdd yn cynnwys nifer fwy o
gynigion. Bydd rhai cynigion, megis y bwriad i
resymoli ac integreiddio meysydd polisi unigol,
yn dylanwadu ar ddatblygu polisi’r parciau
cenedlaethol yn y dyfodol agos. Bydd cynigion
eraill yn ymestyn dros ffrâm amser mwy, ac yn
cyfrannu at ddeddfwriaeth Cymru, megis Bil yr
Amgylchedd a’r Bil Cynllunio fydd yn cael eu
hystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol yn 2015
ac yn 2016 yn ôl eu trefn.
Parciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad CenedlaetholParciau Cenedlaethol Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol
Aneurin Phillips ac Emyr Williams o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a gynrychiolodd Parciau
Cenedlaethol Cymru ym Mhwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol ar 26
Ionawr, a chawsant gyfle i gyflwyno tystiolaeth ar yr achos busnes ar
gyfer Un Corff Amgylcheddol. Gellir gweld ymateb ysgrifenedig Parciau
Cenedlaethol Cymru drwy’r ddolen hon: http://goo.gl/fN3v9
2
Yn ystod yr wythnos yn dilyn lansio’r papur
gwyrdd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei
gynigion am Un Corff Amgylcheddol yng
Nghymru. Mae Adnoddau Naturiol Cymru’n
nodi’r trefniadau arfaethedig ar gyfer sefydlu a
llywodraethu’r corff newydd â’r dasg o reoli a
rheoleiddio adnoddau naturiol Cymru mewn
ffordd gynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth hon -
a chenedlaethau’r dyfodol. Disgrifir yr heriau
sy’n wynebu’r corff newydd fel rhai “mawr”. Er
enghraifft, disgwylir iddo wella a symleiddio’r
system o reoli’r amgylchedd yng Nghymru, gan
ddatblygu a gweithredu’r dull rheoli ar lefel yr
ecosystem wrth reoli’r amgylchedd.
Mae’r papur ymgynghori hefyd yn cynnwys cyni-
gion sy’n cyffwrdd ar nodau ac amcanion y
sefydliadau newydd, yn ogystal â ffyrdd o’i lywo-
draethu a chynnwys rhanddeiliaid.
Bydd Parciau Cenedlaethol Cymru’n ymwneud
â’r ddau ymgynghoriad parhaus a fydd yn dod i
ben ym mis Mai 2012. Gellir cyrraedd dogfen
Cynnal Cymru Fyw, sy’n dod i ben ar 31 Mai,
drwy’r ddolen hon:
http://goo.gl/hVbHk
Gellir cyrraedd Adnoddau Naturiol Cymru: Tref-
niadau Arfaethedig ar gyfer Sefydlu a Chyfarw-
yddo Corff Newydd i Reoli Adnoddau Naturiol Cymru, sy’n dod i ben ar 2 Mai, drwy’r ddolen
hon:
http://goo.gl/yj55z
““““We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-We are keepers of a fragment of near-eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not eternity, and a very gentle fragment, not
young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or young and ferocious like the Andes, or towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and towering and edged like the Alps and the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind the Atlas, but rounded, swirled, as kind and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”and smiling as wild mountains can be.”
Mae Horatio Clare, awdur a newyddiadurwr o
Gymru, yn gwybod popeth am rym y gair
ysgrifenedig, ond ei araith ysbrydoledig am ei gariad
at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a aeth â
holl fryd y rhai a oedd yn bresennol yng
nghynhadledd flynyddol Llysgenhadon Parc Bannau
Brycheiniog a gynhaliwyd yn Buckland Hall yr
wythnos ddiwethaf.
Ag yntau’n siarad yng nghynhadledd flynyddol
Llysgenhadon Parc Bannau Brycheiniog, roedd
Horatio Clare, awdur llwyddiannus ‘Running for the
Hills’, ‘A Single Swallow’ a ‘The Princes’ Pen’ a gafodd
glod mawr, wedi llwyddo i hoelio sylw ei gynulleidfa
â’i gyflwyniad sionc yngl n â chlustfeinio mewn tai
tafarn lleol, synfyfyrion doeth beirdd a’i fodryb, ac yn
bwysicach na dim, mor ffodus ydym ni i gael galw
Bannau Brycheiniog yn gartref. Caeodd pen y
mwdwl drwy dalu teyrnged i waith ardderchog
Llysgenhadon y Parc “…i ddod ag unrhyw un yma, i
roi rheswm arall i unrhyw un ddod yn ôl, i wella profiad
unrhyw un mewn ffordd fawr neu fach …”
Ag arian gan brosiect Interreg IVB yr Undeb
Ewropeaidd fel rhan o Collabor8, cafodd
Llysgenhadon y Parc - sy’n cynrychioli mwy na 50 o
fusnesau twristiaeth amrywiol ar hyd a lled y Parc -
gyfle i rwydweithio a sicrhau’r cywair ar gyfer
digwyddiadau Llysgenhadon y Parc yn y dyfodol, a’r
cydweithio rhwng Awdurdod y Parc Cenedlaethol
a’i fusnesau twristiaeth.
Ymgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadauYmgynghoriad Ardal Gadwraeth Aberhonddu – croesewir unrhyw sylwadau
Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer Gwerthusiad Ardal Gadwraeth
Aberhonddu a’r Map Ffin yn cael ei gynnal rhwng 7 Chwefror a 27
Mawrth 2012. Gellir gweld y map a’r gwerthusiad drafft drwy’r ddolen
hon: http://goo.gl/cUNou
3
Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau Defnyddio technoleg newydd i leihau
damweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryridamweiniau ar Fynyddoedd Eryri
Mae nifer y galwadau am gymorth i Dimau Achub
Mynydd yn Eryri wedi cynyddu’n sylweddol. Yn
ystod 2011, gwnaed 411 o alwadau am gymorth i
Dimau Achub Mynydd wrth i bobl fentro i Ogledd
Cymru i fwynhau prydferthwch a rhinweddau
arbennig yr ardal. Arweiniodd hyn at dimau
Achub Mynydd yn cael eu hanfon allan 291 o
weithiau.
Ond, dengys ymchwil diweddar fod nifer
sylweddol o alwadau diangen a wnaed, wedi eu
gwneud gan oedolion gwrywaidd ifanc nad
oedd wedi paratoi’n ddigonol neu nad oedd
ganddynt y sgiliau na’r offer angenrheidiol ar
gyfer eu gweithgareddau. Daeth yr arolwg
“Lleihau Damweiniau Mynydd yn Eryri” i’r casgliad
fod oedolion gwrywaidd ifanc o ardaloedd trefol
yn bennaf gyfrifol am y galwadau diangen hyn.
Lansiwyd y Prosiect Gwasanaeth Gwybodaeth
Mynydd yn ffurfiol gan Hywel Williams AS yng
Nghanolfan y Wardeiniaid ym Mhen y Pass, a’i
nod yw targedu’r gynulleidfa benodol hon drwy
ddefnyddio technoleg ffonau symudol fodern
ynghyd â menter i godi ymwybyddiaeth.
Yn ychwanegol at y gwaith o ddatblygu’r Ap
Gwybodaeth Mynydd newydd sydd ar gael o
iTunes (nododd dechreuwyr yn y cylchgrawn Trail
yn yr hydref 2011 mai dyma’r Ap gorau sydd ar
gael ar gyfer cynllunio diogelwch ar y mynydd),
mae tri adnodd ychwanegol wedi eu datblygu yn
sgil y prosiect Gwasanaethau Gwybodaeth
Mynydd, sy’n cynnwys:
Adroddiad dyddiol gan Wardeiniaid Parc
Cenedlaethol Eryri ar gyflwr o dan draed a
lefelau eira ar y mynyddoedd yn ystod
misoedd y gaeaf. Mae’r rhain yn darparu
gwybodaeth i dudalen rhagolygon ardal
Mynydd y Swyddfa Dywydd, ac ar Twitter trwy
ddilyn @safesnowdonia neu @eryridiogel.
Cyfres o bum clip fideo byr gyda sylwebaeth
gan Sian Lloyd, sy’n dangos y ffordd i baratoi
ar gyfer taith yn y mynyddoedd, gan gynnwys
osgoi perygl a beth i’w wneud mewn
argyfwng. Mae’r rhain ar gael ar wefan y
Swyddfa Dywydd a gwefan YouTube.
Ymgyrch gyhoeddusrwydd a marchnata i roi
cyhoeddusrwydd i’r prosiect, sy’n cynnwys
posteri, baneri, taflenni a chomisiynu erthyglau
mewn cylchgronau a chyfnodolion perthnasol.
4
Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar Y Parc Cenedlaethol yn dathlu cyllid ar
gyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfrogyfer cynhanes Sir Benfro
Mae prosiect i dywys ymwelwyr o amgylch y Sir
Benfro gynhanesyddol wedi cael ei
gymeradwyo diolch i £171,000 o hwb ariannol.
Bydd ‘Origins’ yn cael ei redeg gan Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’i nod yw
gwella profiad yr ymwelydd sydd am
ddarganfod mwy am orffennol Sir Benfro.
Bydd y prosiect yn cynnwys creu llwybrau,
arweinlyfrau a rhaglenni (neu ‘apps’) ar gyfer
ffonau symudol a fydd yn galluogi ymwelwyr i
fwynhau diwylliant cynhanesyddol y Parc
Cenedlaethol. Bydd canolfan ddehongli hefyd
yn cael ei hadeiladu ym Mryngaer Oes yr Haearn
Castell Henllys, sy’n eiddo i Awdurdod y Parc
Cenedlaethol, ac sy’n cael ei rheoli ganddo.
Cyhoeddwyd y cyllid gan Huw Lewis, Gweinidog
Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru.
Mae ‘Origins’ yn un o naw prosiect ledled Cymru
sy’n elwa wrth gronfa £2.4 miliwn o Brosiect
Twristiaeth Treftadaeth £19 miliwn Cadw, sy’n
cael ei ategu gan £8.5m o Gronfa Datblygu
Rhanbarthol Ewrop.
Dywedodd Phil Bennett, Rheolwr Diwylliant a
Threftadaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Rydw i wrth fy modd. Rydyn ni’n edrych ymlaen
at y prosiect yn fawr ac at weithio mewn
partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed, PLANED a’r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol i alluogi ymwelwyr i archwilio
treftadaeth gyfoethog Sir Benfro.”
Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!Anrhegion i’r Anturus a’r llai Anturus!
Roedd cynnyrch newydd sbon APCE ar gael o
Ganolfannau Croeso Parc Cenedlaethol Eryri
dros wyliau’r Nadolig. Mae’r DVD, Ehediad Dros Eryri, yn dilyn taith hebog tramor, Gwydion, dros
bentrefi, mynyddoedd a llynnoedd, a chewch
weld golygfeydd rhai o fannau anghysbell Eryri.
Paratowyd y DVD, sydd â sylwebaeth Gymraeg
a Saesneg, yn wreiddiol i’w ddangos yn Theatr
Canolfan Groeso’r Stablau ym Metws y Coed.
Ond cymaint fu’r galw am y DVD, bu’n rhaid
mynd ati i gynhyrchu mwy o gopïau.
Yn newydd hefyd ar gyfer y Nadolig oedd pecyn
o daflenni, “6 Llwybr yr Wyddfa – Y Casgliad
Cyfan”, ac mae’n cynnwys yr wybodaeth
ddiweddaraf am Lwybrau Rhyd Ddu, Cwellyn,
Llanberis, PYG, Mwynwyr a’r Watkin. Maent yn
cynnwys gwybodaeth fanwl ar fwynhau’r
mynyddoedd yn ddiogel, manylion am yr hyn a
fyddwch chi’n debygol o’i weld ar y llwybrau,
ynghyd â gweithgareddau i blant, posau a’r
Cod Cefn Gwlad. Mae’r taflenni hyn yn disodli’r
5
hen daflenni ar lwybrau’r Wyddfa a
gyhoeddwyd ar ddiwedd y 1990au.
Pris y DVD yw £4.99 ac mae’r pecyn o daflenni
Llwybrau’r Wyddfa ar werth am £3.00 neu 75c yr
un. Mae’n bosibl eu prynu dros y ffôn gyda
cherdyn credyd trwy Ganolfan Groeso Betws y
Coed (01690 710426) wrth dalu £1 yn
ychwanegol tuag at gludiant trwy’r post.
Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu Sain clychau eglwys yn ail-greu
dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y dathliadau dau gan mlwyddiant y
Gamlas!Gamlas!Gamlas!Gamlas!
I ddathlu dau gan mlwyddiant Camlas Mynwy
ac Aberhonddu, roedd mwy na 30 o eglwysi ym
Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a De
Cymru wedi cymryd rhan mewn sesiwn ‘canu’r
clychau’ am hanner dydd, ddydd Gwener 10
Chwefror, i ail-greu seremoni agoriadol Camlas
Mynwy ac Aberhonddu a gynhaliwyd yn union
200 mlynedd yn ôl.
Mae clychau eglwys yn ffordd draddodiadol o
dynnu sylw pobl at ddigwyddiadau pwysig, a
pha ffordd well o dynnu sylw Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog a De Cymru na chynnig sain
clychau eglwys yr holl ffordd o Fasn Pontymoel i
Aberhonddu i Gasnewydd i’r Gelli!
Mae’r gamlas yn ymdroelli 35 milltir o dde
Aberhonddu i Gwmbrân, gan fynd trwy Barc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Safle
Treftadaeth y Byd sy’n cydnabod gorffennol
diwydiannol pwysig yr ardal. Mae’r gamlas yn
gamp beirianyddol 200 mlwydd oed, a
adeiladwyd fel coridor ar gyfer glo a haearn yn
wreiddiol; erbyn hyn, mae’n cynnal diwydiant
hamdden ffyniannus, ac mae’n lloches wrth
fodd calon pobl a byd natur.
Drwy gyfres o weithgareddau a digwyddiadau,
bydd sefydliadau, grwpiau lleol a chyrff
cenedlaethol yn dathlu hanes y gamlas, yn
mwynhau ei harddwch ac yn edrych ymlaen at
ei datblygu wedi 2012 fel ased annwyl i’r
cymunedau y mae’n mynd trwyddynt ac yn eu
cysylltu. Am fwy o wybodaeth, ewch i
www.canalrivertrust.org.uk/monandbrec200
Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!Yr Amgylchedd Naturiol yw Prif Ased Twristiaeth Cymru – Ffaith!
Yn ddiweddar, cadarnhaodd Arolwg o Fodlonrwydd Ymwelwyr 2011 ar gyfer Croeso Cymru
rywbeth a wyddai pob un ohonom, sef bod yr amgylchedd naturiol o safon yng Nghymru yn
atyniad pwysig i dwristiaid yn ei rinwedd ei hun. Yn yr arolwg cyntaf i fesur bodlonrwydd gydag
ansawdd yr amgylchedd naturiol, sicrhaodd y sgoriau uchaf mewn
dau o’r tri arolwg (cafodd ei raddio’n ail yn y trydydd arolwg). Mwy
yma:
http://goo.gl/Uxwui
6
Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr Y Parc Cenedlaethol yn derbyn gwobr
mynediad marchogaethmynediad marchogaethmynediad marchogaethmynediad marchogaeth
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
wedi derbyn gwobr genedlaethol gan
Gymdeithas Ceffylau Prydain am ei waith yn agor
llwybrau marchogaeth. Bob blwyddyn, mae
Cymdeithas Ceffylau Prydain yn cynnal seremoni
wobrwyo i gydnabod sefydliadau ac unigolion
sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i’r byd
marchogaeth. Derbyniodd yr Awdurdod y wobr
gan fod ‘Y Parc Cenedlaethol yn weithredol iawn
yn agor llwybrau marchogaeth’.
Yn gynharach eleni, roedd Awdurdod y Parc
Cenedlaethol wedi agor wyth milltir o lwybrau oddi
ar y ffordd gydag arwyddion ffordd arnynt ar gyfer
marchogwyr, cerddwyr a beicwyr yng Nghoedwig
Pantmaenog yng Ngogledd Sir Benfro. Roedd
Awdurdod y Parc wedi adeiladu maes parcio
newydd ym mynedfa’r goedwig gyda llefydd ar
gyfer bocsys ceffylau, a bydd yn rheoli’r llwybrau
trwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd un o Gyfarwyddwyr yr Awdurdod,
Jane Gibson, wrth dderbyn y wobr: “Rydyn ni wrth
ein bodd i dderbyn y wobr hon a mawr yw ein
dyled i’n tirfeddianwyr - Mr a Mrs Holding a’r
Weinyddiaeth Amddiffyn – a alluogodd ni i agor y
llwybrau hyn yn y Parc Cenedlaethol.”
“Wrth agor y llwybrau hyn rydyn ni’n gwireddu
potensial y Parc ar gyfer marchogwyr – ynghyd â
cherddwyr a beicwyr – fel eu bod yn gallu
mwynhau rhannau o’r Parc Cenedlaethol lle’r
oedd mynediad prin at lwybrau marchogaeth
ynghynt.”
Ariannwyd prosiect Pantmaenog yn rhannol gyda
grant gan Lywodraeth Cymru o dan raglen gyllidol
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy, ac agorwyd y
llwybrau o ganlyniad i gytundeb gyda’r
tirfeddianwyr, Mr a Mrs Holding
Trydar DiogelwchTrydar DiogelwchTrydar DiogelwchTrydar Diogelwch
Yn ogystal â chynllunio eich taith yn ofalus o
flaen llaw, cofio defnyddio cyfarpar addas
megis bwyell rew a chramponau, gwisgo
esgidiau cryfion a dillad cynnes i’ch cadw’n
sych, mae’n bwysig gwybod beth yw
rhagolygon y tywydd. Eleni, am y tro cyntaf, mae
gwasanaeth dwyieithog newydd ar gael i
gerddwyr fydd yn darparu’r wybodaeth
ddiweddaraf am gyflwr yr amodau dan draed ar
fynyddoedd Eryri.
Mae’r Warden, Gruff Owen, a’i gydweithwyr
eisoes yn darparu gwybodaeth i wefan y
Swyddfa Dywydd,
www.metoffice.gov.uk/loutdoor/mountainsafet
y/snowdonia/snowdonia_latest_pressure. Gruff
sydd hefyd yn gyfrifol am y gwasanaeth newydd
dwyieithog o drydar, sef @eryridiogel yn
Gymraeg a @safesnowdonia yn Saesneg. Pan
7
fydd amodau dan draed ar y mynyddoedd yn
newid yn sgil y tywydd, bydd @eryridiogel a
@safesnowdonia yn trydar hynny. Ond yn
ogystal â thrydar am y tywydd, bydd hefyd yn
trydar cyngor cyffredinol ar fynydda ac yn tynnu
sylw at arferion da o fynydda.
Bydd trydariadau Cymraeg @eryridiogel yn cael
eu hail-drydar gan @croesoeryri, sef cyfrif trydar
Cymraeg Parc Cenedlaethol Eryri, ynghyd ag
ymddangos ar dudalen Facebook y Parc. Bydd
trydariadau Saesneg @safesnowdonia yn cael
eu hail-drydar gan @visitsnowdonia, cyfrif trydar
Saesneg y Parc Cenedlaethol, a thudalen
Facebook y Parc, Snowdonia National Park-Parc
Cenedlaethol Eryri.
Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r Chwarter miliwn i helpu pobl i fwynhau’r
Parc CenedlaetholParc CenedlaetholParc CenedlaetholParc Cenedlaethol
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir
Penfro yn dathlu ar ôl derbyn chwarter miliwn o
bunnoedd gan Gronfa’r Loteri Fawr. Bydd
prosiect yr Awdurdod, ‘Your Park, Your Future’,
yn derbyn £249,864 yn rownd ddiweddaraf
rhaglen Pawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri FawrPawb a’i Le Cronfa’r Loteri Fawr.
Dros dair blynedd, bydd y prosiect yn sefydlu
rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo’r defnydd
o’r Parc Cenedlaethol, yn enwedig pobl sy’n ei
chael yn anodd cael mynediad i’r amgylchedd
naturiol. Mae Phil Roach, Pennaeth Darganfod
Awdurdod y Parc Cenedlaethol, wrth ei fodd
gyda’r newyddion. Dywedodd:
“Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol bob am-
ser wedi rhedeg rhaglen estyn allan er mwyn
annog pobl i fanteisio ar ein maes chwarae a’n
dosbarth naturiol gwych, sef y Parc Cenedlae-
thol.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi
ymestyn y rhaglen er mwyn galluogi pobl sydd yn
ôl traddodiad heb gael mynediad hawdd i’r
amgylchedd naturiol i fwynhau’r cyfleoedd o’r
radd flaenaf sydd ar gael yma. Mae rhwystrau
megis anabledd, iechyd gwael, caledi ariannol
neu hyd yn oed eich bod yn ifanc yn gallu arbed
pobl rhag cyrraedd y Parc, ac rydyn ni wedi
gweithio gydag ystod eang o sefydliadau sy’n
cefnogi pobl leol er mwyn gwella eu bywydau.
“Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi ni i deilwra ein
gwaith ymhellach er mwyn sicrhau bod pobl o
bob oed a chefndir ar draws Sir Benfro yn gallu
cael mynediad i nodweddion arbennig y Parc
Cenedlaethol ac yn elwa wrthynt.”