Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Ffrindiau Gigiau Gogledd CymruRydyn ni angen 2 Gydgysylltydd Prosiect newydd yng ngogledd Cymru
Rydyn ni’n mynd i ddechrau prosiect Ffrindiau Gigiau yng ngogledd Cymru yn fuan.
Mae Ffrindiau Gigiau yn rhoi pobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwyr sydd yn hoffi’r un pethau.
Maen nhw’n mynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd, pethau fel cyngherddau cerddoriaeth, nosweithiau comedi a gemau rygbi.
Tudalen 1
Hawdd ei Ddeall
Rydyn ni angen 2 Gydgysylltydd Prosiect newydd.
Rydyn ni angen i’n 2 Gydgysylltydd Prosiect newydd weithio 30 awr yr wythnos rhyngddyn nhw. Er enghraifft, maen nhw’n gallu gweithio 15 awr yr un.
Rydyn ni’n gallu siarad am faint o oriau mae pob person yn ei weithio, a beth sydd yn gweithio orau i bawb.
Y cyflog ydy £20,272 i £22,803 y flwyddyn pro rata. Gradd 4 ydy hwn o Raddfa Cyflog Anabledd Dysgu Cymru.
Mae’r cyflog wedi’i seilio ar rhywun sydd yn gweithio’n llawn amser. Mae pro rata yn meddwl ein bod ni’n gweithio allan faint o arian rydych chi’n ei gael yn ôl:
y cyflog llawn amser a faint o oriau rydych chi’n weithio.
Tudalen 2
Fe fydden ni’n hoffi i chi allu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg.
Fe fydd ein Cydgysylltwyr Prosiect wedi eu lleoli yn eu cartrefi eu hunain.
Fe fyddwn ni’n trefnu lle i chi weithio yn y gymuned rydych chi’n gallu ei ddefnyddio pan fydd angen. Er enghraifft ar gyfer cyfarfodydd neu hyfforddiant.
Os ydych chi eisiau siarad rhagor am y swydd cysylltwch gyda Lyndsey Richards, Rheolwraig Arloesi:
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2068 1160
Tudalen 3
Sut i wneud cais
Mae angen gwneud cais erbyn Dydd Llun 7 Medi 2020. Fe fydd y cyfweliad yn digwydd yn yr wythnos yn dechrau 14 Medi.
Cliciwch ar y dolenni ar ein gwefan i lawrlwytho’r pecyn cais.
I wneud cais am y swydd, rydych chi’n gallu:
Llenwi’r ffurflen gais a’i hanfon yn ôl inni drwy’r post neu e-bost.
Rydych chi hefyd yn gallu gwneud cais am y swydd drwy anfon clip fideo. Mae cyfarwyddiadau ar sut I wneud hyn yn y ddogfen Sut i Wneud Cais drwy Fideo yn y pecyn cais.
Post: Recrowtio Ffrindiau Gigiau Gogledd CymruAnabledd Dysgu Cymru41 Lambourne CrescentParc Busnes CaerdyddLlanisien, CaerdyddCF14 5GG
Tudalen 4
E-bost: [email protected] Recriwtio Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru yn y llinell pwnc
Tudalen 5