24
Sicrhau bod Cymru yn lle da i dyfu’n hyn i bawb Heneiddio’n Dda yng Nghymru Cyflawniadau & Blaenolwg ^

Heneiddio’n Dda yng Nghymru · 2016. 4. 1. · Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae Rhaglen Bum Mlynedd Heneiddio’n Dda yng Nghymru eisoes wedi cyflawni llawer

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Sicrhau bod Cymru yn lle da i dyfu’n hyn i bawb

    Heneiddio’n Dda yng NghymruCyflawniadau & Blaenolwg

    ^

  • 2 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Cynnwys

    Rhagair 03

    Cyflawniadau Cam Un 04

    Cynlluniau Lleol Heneiddio’n Dda yng Nghymru 05

    Addunedau Cymunedol 15

    Gweithredu Cymunedol 16

    Cam Dau: Blaenolwg 20

    Rhagor o wybodaeth a chysylltiadau 22

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 3

    RhagairErs ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae Rhaglen Bum Mlynedd Heneiddio’n Dda yng Nghymru eisoes wedi cyflawni llawer. Bydd Cam Dau Heneiddio’n Dda yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, a hefyd ar ymrwymiad partneriaid lleol a chenedlaethol ledled Cymru, i gyflawni mwy fyth ar ran pobl hŷn. Bydd partneriaid newydd yn ymuno â Rhaglen sydd wedi’i ailstrwythuro, gyda mwy fyth o bwyslais ar ganlyniadau sy’n cyflawni’r effaith fwyaf i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

    Ar adeg pan fo llai o adnoddu ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol, mae’n holl bwysig ein bod yn mabwysiadu dull o weithio sy’n rhoi pwyslais ar asedau a chanlyniadau, sy’n buddsoddi yn ein pobl hŷn ac sy’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus arloesol sy’n helpu i fanteisio ar y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd gan bobl hŷn yng Nghymru.

    Mae’n hanfodol hefyd bod y Rhaglen yn adeiladu ar Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23 Llywodraeth Cymru a’r sbardunau deddfwriaethol allweddol fel y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015). Byddai dull gweithredu o’r fath yn helpu i sefydlu cymunedau cyfeillgar i oed ac i wella llesiant pobl 50+ oed yng Nghymru.

    Rwyf yn ddiolchgar iawn i’n holl bartneriaid ar y Grŵp Gweithredu Strategol a’r Grwpiau Cynghori Arbenigol, Cadeiryddion yr EAG a’r holl gydweithwyr eraill sydd wedi gweithio â mi yn ystod Cam Un. Hoffwn ddiolch hefyd i holl bartneriaid lleol ac aelodau rhwydwaith cymunedol Heneiddio’n Dda yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint i sicrhau llwyddiant Heneiddio’n Dda hyd yma.

    Mae cyhoeddi 21 o Gynlluniau Awdurdodau Lleol yn gyflawniad pwysig ac edrychaf ymlaen at wneud rhagor o waith â’r Awdurdodau Lleol i adeiladu ar ymrwymiadau a wnaethpwyd yn sgil llofnodi Datganiad Dulyn ac i sefydlu cymunedau cyfeillgar i oed yng Nghymru. Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn fudiad cenedlaethol ac rwyf yn falch dros ben bod nifer yr unigolion a’r grwpiau cymunedol sy’n gysylltiedig â’r mudiad hwnnw’n parhau i dyfu, a bod gwaith i gyflawni blaenoriaethau Heneiddio’n Dda wedi cael llawer o sylw yn y wasg leol a chenedlaethol a’i fod wedi sicrhau cysylltiadau agos â gwleidyddion ar bobl lefel ledled Cymru.

    Gan edrych i’r dyfodol, rwyf yn edrych ymlaen at wneud rhagor o gynnydd trwy gydol Cam Dau ac i adeiladu ar y dull cydweithredol a fabwysiadwyd hyd yma i sicrhau bod Cymru’n lle da i heneiddio, i bawb.

    Sarah RochiraComisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Cadeirydd, Heneiddio’n Dda Yng Nghymru

  • 4 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Cyflawniadau Cam Un Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi cyflawni’r canlynol:

    • Ar lefel gymunedol, mae dros 900 o grwpiau ac unigolion o bob rhan o Gymru’n gwneud cynnydd yn y pum maes blaenoriaeth yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd.

    • Ar lefel llywodraeth leol, cafodd 21 o Gynlluniau Lleol eu cyhoeddi .• Ar lefel strategol, mae partneriaid wedi cynnig ymrwymiadau cenedlaethol i

    wneud Cymru’n lle da i heneiddio.

    • Mae’r pum Grŵp Cynghori Arbenigol wedi gweithio ar amcanion a chanlyniadau penodol.

    • Ar y lefel Ewropeaidd, mae’r Rhaglen yn parhau i fod yn rhan anhepgor o’r Bartneriaeth Arloesedd Ewropeaidd ar Heneiddio’n Egnïol ac Iach (PAE-HEI), a’r Rhwydwaith Cydweithio Safleoedd Cyfeirio. Mae gwaith yn cael ei wneud ar ystod o ffrydiau cyllido’r UE er mwyn cyfnewid arferion da â rhanbarthau eraill.

    • Mae Canolfan Adnoddau wedi cael ei sefydlu ar wefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Mae’r Ganolfan yn dwyn ynghyd adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol, astudiaethau achos ac enghreifftiau o arferion da, a chysylltiadau pwysig i helpu pobl i weithredu yn eu cymunedau a’u gweithleoedd.

    • Mae Canllaw Cymunedau Cyfeillgar i Oed wedi cael ei gynhyrchu i egluro pa elfennau sydd eu hangen i wneud cymuned yn un gyfeillgar i oed. Mae’r canllaw yn cynnwys dull cam wrth gam i weithio ag eraill ac mae’n cynnig yr adnoddau sydd eu hangen i sefydlu cymuned gyfeillgar i oed.

    • Mae nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd llwyddiannus wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ar bum blaenoriaeth y Rhaglen. Daeth tua 500 o bobl i’r digwyddiadau hyn, ac mae hynny wedi helpu i ymgysylltu ag aelodau newydd, cyflwyno Heneiddio’n Dda yng Nghymru i gymunedau lleol ac i ddatblygu’r blaenoriaethau ar lefel leol.

    • Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi meithrin partneriaeth agos â’r Ymgyrch i Ddiweddu Unigrwydd. Cafodd ei ail Gynhadledd Rhwydwaith Dysgu Flynyddol ar gyfer y DU gyfan ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2016, ac mae hynny wedi helpu gyda’r gwaith i hyrwyddo blaenoriaethau Unigrwydd ac Arwahanrwydd y Rhaglen.

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 5

    Cynlluniau Lleol Heneiddio’n Dda yng NghymruCyn cyhoeddi Cam Dau Heneiddio’n Dda yng Nghymru, roedd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cyflwyno Cynllun Lleol, sy’n amlinellu pa gamau y byddant yn eu cymryd yn ystod y tair blynedd nesaf i gyflawni blaenoriaethau Heneiddio’n Dda.

    Ynys Môn

    Mae strwythur Rhaglen Heneiddio’n Dda yn Ynys Môn wedi cael ei drefnu’n fwriadol i adlewyrchu strwythur cenedlaethol Heneiddio’n Dda. Mae Cynlluniau Gweithredu felly’n cael eu datblygu ar gyfer pob un o bum thema Heneiddio’n Dda. Bydd rhaglen o weithgareddau Heneiddio’n Dda’n cael ei hymestyn i rannau eraill o’r ynys a bydd mynediad at wybodaeth yn cael ei wella trwy ddatblygu Canolfannau Gwybodaeth a chanolfannau cymunedol a fydd yn cynnig un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth.

    Mae’r Cyngor hefyd yn mynd ati i ymgysylltu â chymunedau i’w cael i gyfrannu at ddylunio a darparu gwasanaethau’n lleol. Mae’r rhaglen Llais y Gymuned (portffolio o naw mudiad trydydd sector sy’n gweithio i wella a chryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau a gwasanaethau) yn ddylanwadol yn y broses hon, sefydlu fframwaith cadarn o fforymau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau yn y gymuned sy’n cael eu cyflawni trwy ddull cyd-gynhyrchu o weithio. Bydd Hyrwyddwr Cymunedau Cyfeillgar i Oed hefyd yn cael ei benodi o fewn yr Adran Gynllunio a bydd cysylltiadau sy’n rhoi mwy o bwyslais ar bontio’r cenedlaethau’n cael eu hybu i gyflawni amcanion Heneiddio’n Dda.

    Blaenau Gwent

    Bydd gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o Gynllun Heneiddio’n Dda Blaenau Gwent yn helpu i wella sgiliau ac i roi hwb i hyder pobl leol fel y byddant yn gallu cyflawni eu llawn botensial i ennill cyflog o dan y cynllun ‘Sgiliau Gweithio i Oedolion’ ac mae’n hybu llwybrau tuag at waith o dan ‘Routes 2 Life’. Bydd y gwaith yn cael ei ategu trwy drefnu amrywiaeth o glybiau gwaith a fydd yn darparu cyngor a chymorth.

    Bydd y Grŵp Rhanddeiliaid 50+ yn cyfrannu at fapio gweithgareddau cyfranogiad a rhaglenni cymdeithasol ledled Blaenau Gwent a bydd y Rhwydwaith 50+ yn rhedeg cynllun Hyrwyddwr Iechyd. Cafodd Tredegar ei dewis fel ardal beilot i fod yn Gymuned Gyfeillgar i Bobl â Dementia lle bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith 50+ a Chymdeithas Clefyd Alzheimer. Bydd y Cyngor hefyd yn edrych ar bwyntiau sbarduno dibyniaeth i ganfod beth sy’n gymorth priodol a chyflwyno parthau dim galwadau diwahoddiad yng Ngwent.

  • 6 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Pen-y-bont ar Ogwr

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ategu gan arolwg arloesol sy’n cofnodi pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn. Mae’r arolwg yn dilyn model ‘Ansawdd Bywyd’ y Comisiynydd Pobl Hŷn, sy’n edrych ar feysydd fel ‘Cael eich clywed a’ch parchu’, ‘Gwneud y pethau sy’n bwysig i chi’, a ‘Lle’r ydych yn byw’. Mae’r arolwg yn ffordd effeithiol o ddeall beth sy’n bwysig i bobl hŷn a sut y gall meysydd blaenoriaeth Heneiddio’n Dda roi sylw iddynt.

    Hefyd cafodd Strategaeth Ddementia lleol ei datblygu ar y cyd â phartneriaid a datblygwyd dull cydweithredol i ddatblygu ymateb i gwympiadau.

    Caerffili

    Un o brif nodweddion Cynllun Cyflenwi Caerffili yw’r adran ‘Beth mae pobl hŷn yn ei ddweud wrthym?’ Er enghraifft, mae pobl hŷn yng Nghaerffili wedi dweud ‘Rwyf eisiau dewis ymhle a sut rwyf yn byw’, a ‘Rydym eisiau mynediad rhwyddach at wybodaeth’. Mae’r sylwadau hyn, a gafwyd mewn ystod eang o ddigwyddiadau a chyfarfodydd ymgysylltu, wedi helpu i sicrhau bod y Cynllun yn ymateb i anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn.

    Yng Nghaerffili, mae tua 100 o staff y Cyngor, staff cartrefi gofal a gwirfoddolwyr o Gymunedau yn Gyntaf ac Amgueddfa’r Tŷ Weindio eisoes wedi cwblhau hyfforddiant ac maent wedi cofrestru i fod yn Gyfeillion Dementia. Mae ystod o staff gwasanaethau cymdeithasol hefyd yn cwblhau modiwlau hyfforddiant Dementia Matters. Mae defnydd da’n cael ei wneud o bodiau atgofion y Cyngor gan bartneriaid fel y Tŷ Weindio.

    Mae’r gwaith sydd yn yr arfaeth yn cynnwys ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o unigrwydd ac arwahanrwydd ac i helpu pobl i gynyddu eu hincwm.

    Caerdydd

    Wrth gyflawni ei Gynllun Heneiddio’n Dda, bydd Caerdydd yn cydweithio’n agos â phob partner statudol ac anstatudol, cymunedau lleol ac unigolion i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu a’u hyrwyddo i helpu pobl i heneiddio’n dda. Mae pobl hŷn yn cael eu gweld fel partneriaid gwerthfawr ac mae parhau i alluogi pobl 50+ oed i gael llais ac i ymgysylltu â’r Cyngor a’i bartneriaid yn parhau fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer y dyfodol.

    Gan adeiladu ar y llwyddiant yng Ngorllewin Caerdydd, sydd wedi ennill statws Cyfeillgar i Bobl â Dementia yn ddiweddar, mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gobeithio ymestyn y statws hwn i rannau eraill o’r ddinas. Bydd gwaith yn parhau hefyd i godi ymwybyddiaeth ac i hyrwyddo negeseuon Heneiddio’n Dda, gyda phwyslais cryf ar ddementia, fel parhau i hyfforddi staff y cyngor fel Cyfeillion a Hyrwyddwyr Dementia, help i gaffi dementia sydd newydd ei agor a chyflawni

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 7

    amcanion prosiect technoleg cymorth dementia sy’n pontio’r cenedlaethau a lansiwyd yn ddiweddar.

    Bydd Cynlluniau Partneriaeth Cymdogaeth chwe ardal yn y ddinas hefyd yn cynnwys camau gweithredu sy’n berthnasol i hyrwyddo egwyddorion cyfeillgar i oedran, tra bydd y Porth Sengl i fyw’n annibynnol yn parhau i ddwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau ar gyfer pobl 60 oed a hŷn fel un porth, a fydd yn cael ei ategu gan Swyddogion Byw’n Annibynnol hyfforddedig a Swyddogion Ymweld Asesiadau Ariannol Cartref a Phreswyl a fydd yn cynnig gwasanaeth cyfannol ac yn lleihau nifer yr ymweliadau unigol fydd eu hangen.

    Sir Gaerfyrddin

    Mae’r Fforwm 50+, gyda 2,400 o aelodau, yn chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gyflawni amcanion Cynllun Heneiddio’n Dda Sir Gaerfyrddin, sy’n adeiladu ar waith llwyddiannus fel nodi cynlluniau ‘ewch ar-lein’, digwyddiadau gwybodaeth a chydweithio ag adran Diogelwch ar y Ffordd y Cyngor i hyrwyddo ymwybyddiaeth gyrwyr ymhlith pobl hŷn. Mae’r Fforwm hefyd yn rhedeg y prosiect Cerdded Iach Sir Gâr.

    Mae gweithgareddau arfaethedig y Cyngor yn cynnwys rhannu gwybodaeth ag aelodau’r Fforwm a rhwydweithiau eraill pobl hŷn ar atal cwympiadau. Mae darparu hyfforddiant Cyfeillion Dementia i gynghorwyr a sicrhau bod dysgu yn sgil Pontyberem sy’n Gyfeillgar i Bobl â Dementia yn cael ei rannu ar draws y sir hefyd yn flaenoriaeth, ac felly hefyd rhedeg y cynllun Bancio Amser mewn partneriaeth â Spice i annog pobl i weithredu fel gwirfoddolwyr, sydd â’r nod o leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

    Ceredigion

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Ceredigion yn disgrifio sut yr adeiladir ar arferion da lleol ar gyfer y pum blaenoriaeth Heneiddio’n Dda i gyflawni newid i bobl hŷn, fel datblygu ‘Cymdogion Cynnes’, cynllun partneriaeth sy’n darparu cyfeiriadur sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd i alluogi preswylwyr, a’r sawl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn eu cymunedau, i gael gafael ar wybodaeth gyfoes. Mae ‘Cymdogion Cynnes’ hefyd yn cyfeirio at y gwasanaethau sydd ar gael, ar lefelau lleol a chenedlaethol, gan sicrhau bod pobl yn byw mewn cartrefi cynnes a diogel.

    Gan adeiladu ar lwyddiant gwaith yn Aberaeron, sy’n gweithio i gyflawni statws cyfeillgar i bobl â dementia, mae rhanbarthau eraill yn y sir hefyd yn awyddus i ddatblygu eu cymunedau fel rhai cyfeillgar i bobl â dementia a byddant yn cael help i wneud hyn. Mae cynlluniau ar waith hefyd i ddatblygu pwyntiau gwybodaeth cymunedol mewn partneriaeth â Chymdeithasau Tai yn ogystal â sefydlu mwy o glybiau a gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau ar hyd a lled y sir.

  • 8 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Hefyd, mae’r Cynllun Heneiddio’n Dda yn amlinellu nod Ceredigion i ganfod Hyrwyddwyr ar gyfer pobl hŷn mewn mudiadau a chymunedau a’i nod yw gweithio â chymunedau ledled y Sir i gael ei chydnabod fel un Gyfeillgar i Oed.

    Conwy

    Mae themâu Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi cael eu halinio i’r ‘Pum Ffordd at Les’ sy’n cael ei ddefnyddio ar draws y byd wedi datblygu’n rhywbeth sydd ei weld yng ngwaith y Cyngor. Mae’r cysyniad yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth sefydliadol, ar gyfer datblygiad staff, ac i helpu pobl i ymgorffori mwy o weithgarwch lles yn eu bywydau. Mae hefyd yn arwain gwaith y tîm llesiant cymunedol i ddarparu gweithgareddau Iechyd a Llesiant yn yr Hybiau Cymunedol Newydd.

    Mae Grŵp Partneriaeth Dementia wedi’i sefydlu i hyrwyddo lles pobl sy’n byw â dementia, gyda’r nod o werthuso a datblygu’r gwasanaethau presennol ac i ganfod gwasanaethau arloesol newydd sy’n diwallu anghenion heddiw a’r dyfodol. Mae’r grŵp wedi mapio taith y claf i ganfod bylchau yn y ddarpariaeth. Defnyddiwyd y map hwn fel cyfrwng ymgynghori a gafodd croeso cynnes gan bobl sy’n byw â dementia gan ei fod yn fodd iddynt i weld y daith, i siarad am y dyfodol, y rhwystrau a sut y gellid eu goresgyn, yn ogystal â phrofiadau positif. Pan fydd wedi’i gwblhau bydd y pecyn yn cael ei ddatblygu i gofnodi ac i egluro taith dementia mewn ffordd weledol.

    Sir Ddinbych

    Mae cynllun ‘Fy Mywyd i, Fy Ffordd i’ Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus â phobl hŷn am wyth mlynedd ac mae’n rhan allweddol o’r Cynllun Heneiddio’n Dda. Yn seiliedig ar fodel o Sweden, mae ‘Fy Mywyd i, Fy Ffordd i’ yn fodel ataliol ar gyfer pobl hŷn nad ydynt yn ateb unrhyw feini prawf sy’n nodi’r camau sydd angen eu cymryd gan berson hŷn i fyw bywyd llawn. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Sir Ddinbych yn seiliedig ar ddiogelwch yn y cartref, rhwydweithiau cymdeithasol, symud a bwyd a diod, yn ogystal â thema a ychwanegwyd yn lleol sy’n edrych ar greadigrwydd a thwf.

    Yn ogystal â defnyddio lleisiau pobl hŷn, a fu’n rhannu eu profiadau am sut yr oeddent wedi osgoi unigrwydd, mae Sir Ddinbych hefyd wedi defnyddio canfyddiadau ymchwil pwysig gan Ganolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe fel sail i’w waith i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, a fydd yn rhoi pwyslais ar strategaethau ymdopi a chwalu rhwystrau sy’n gallu achosi i bobl fod yn unig.

    Yn sail i’r gwaith hwn mae addunedau gan ystod eang o bartneriaid i wella gwasanaethau, ynghyd ag ymrwymiad i gynnal ymarferiadau cyfnewid dysgu trwy gydol 2016 i helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i leihau unigrwydd.

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 9

    Sir y Fflint

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Sir y Fflint yn cynnig gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy’n gweld Sir y Fflint fel ‘lle da i heneiddio’ a ‘lle da i dyfu’. Mae’r weledigaeth hon wedi cael ei chyfleu ar gardiau post gan genedlaethau’r dyfodol o bobl hŷn i ddangos sut y gallai ymyriadau ym meysydd blaenoriaeth Heneiddio’n Dda wneud gwahaniaeth i’w lles. Mae gweithio mewn partneriaeth yn thema allweddol drwy gydol y cynllun, gyda gweithgarwch cymunedol, pontio’r cenedlaethau a dysgu a rennir yn nodweddion amlwg o’r weledigaeth i ddatblygu Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Chefnogi Pobl â Dementia. Bydd gwaith yn y dyfodol hefyd yn cynnwys canfod asedau cymunedol a chofrestru gweithgareddau ac adnoddau yng Nghyfeiriadur Gwasanaethau Gogledd Cymru (DEWIS).

    Yn ogystal â hyn, bydd arferion da’n dylanwadu ar ddatblygiad Cymunedau Cyfeillgar i Oed ac yn sail i ddatblygu ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, yn ogystal â chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i roi’r cynllun ar waith.

    Mae gweithgareddau sy’n adeiladu ar nod y Gwasanaeth Cwympiadau Gogledd Cymru presennol i ganfod pobl sydd mewn perygl ac i godi ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau sydd ar gael i wella cryfder a chydbwysedd.

    Mae’r Cynllun hefyd yn cydnabod bod parhau i ddysgu a gweithio’n bwysig ac mae gweithgareddau’n cynnwys gweithio â phartneriaid i sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu hystyried a bod nifer y cyfleoedd i wirfoddoli’n cynyddu.

    Gwynedd

    Bydd Cynllun Heneiddio’n Dda Gwynedd yn cael ei ategu gan Ffordd Gwynedd, sy’n cynnwys tîm integredig o staff iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd sector i sicrhau gwasanaethau cydgysylltiedig ac ymateb prydlon fel y bydd pobl yng Ngwynedd yn gallu byw’r bywydau maent yn eu dymuno. Mae gwasanaethau wedi cael eu hadolygu er mwyn eu llunio o amgylch yr unigolyn ac i ddatrys a deall achos eu problemau, yn hytrach nag edrych ar broblemau unigol.

    Mae Canolfannau Heneiddio’n Dda, sy’n cael eu rhedeg mewn cydweithrediad ag Age Cymru Gwynedd a Môn, wedi creu cyfleoedd cymdeithasol a dysgu i 1,000 o bobl hŷn. Trwy weithio ar y cyd â Chymdeithasau Tai canfuwyd bylchau yn y ddarpariaeth dai a gwnaethpwyd gwelliannau i rai cynlluniau, yn ogystal â chreu cofrestr o eiddo sydd wedi’u haddasu. Mae dau gynllun gofal ychwanegol newydd hefyd wedi cael eu hadeiladu, gydag un arall yn yr arfaeth.

  • 10 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Sir Fynwy

    Mae pwyslais y Cynllun Heneiddio’n Dda ar helpu pobl hŷn i fod yn annibynnol ac ar sicrhau bod ganddynt lais cryf.

    Bydd Prosiect Rhaglan, sy’n cael effaith bositif ar fywydau pobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr a’u cymuned, yn parhau. Nod y prosiect yw defnyddio dull naturiol sy’n ymateb mewn ffordd hyblyg i’r unigolyn o safbwynt yr hyn mae’n dymuno ei wneud. Mae gweithwyr gofal cartref yn gweithio mewn ffyrdd newydd, fel helpu defnyddwyr gwasanaeth i ymweld â’u teulu, cael bath os mai dyna yw eu dymuniad neu drin ychydig ar eu gardd. Trwy wneud y gorau o’u galluoedd mae pobl yn aml yn cael eu helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn hwy.

    Y Fforwm Pobl Hŷn yw’r prif grŵp ymgynghori ar gyfer y Grŵp Gweithredol Heneiddio’n Dda a bydd yn rhoi adborth ac yn rhannu cynllun gweithredu a blaenoriaethau’r Grŵp Gweithredol Heneiddio’n Dda. Mae’n galluogi ymgynghori â phobl a’u galluogi i fod yn rhan o faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt, a hefyd yn rhoi cyfle iddynt i fod yn ‘llais’ ar ran pobl hŷn.

    Hefyd, mae Gwasanaeth Cwympiadau Arbenigol Cymunedol Sir Fynwy ar gyfer Pobl Hŷn yn cynnig mynediad cyflym at Ymgynghorwyr Cwympiadau neu Feddyg Teulu os bydd angen, ac mae Asesiad Risg o Gwympo Amlffactorol yn cael ei gynnal yng nghartref yr unigolyn neu mewn Clinig Cwympiadau. Mae unigolion mewn perygl yn cael eu canfod a bydd rhaglen lleihau cwympiadau bwrpasol yn cael ei chynnig, sy’n cynnwys hyfforddiant cerddediad a chydbwysedd, ymarfer unrhyw weithgarwch sy’n cyfrannu at yr ofn o gwympo, mynediad at weithgareddau cymdeithasol ehangach a magu hyder yn gyffredinol.

    Castell-nedd Port Talbot

    Yn sail i Raglen Heneiddio’n Dda Castell-nedd Port Talbot mae Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin, partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe, a’r sectorau cyhoeddus a phreifat, i gynorthwyo pobl hŷn. Mae cyhoeddiad diweddaraf y rhaglen, ‘Yr hyn sy’n bwysig i Mi’, yn cynnwys enghreifftiau o ymarfer da ac mae’n disgrifio ymrwymiad ar y cyd i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig o safon uchel. Fel rhan o’r rhaglen, bydd y Prosiect Cysylltiadau Cymunedol yn parhau, a hyd yma mae wedi helpu 270 o bobl hŷn i drechu unigrwydd ac arwahanrwydd.

    Casnewydd

    Er mwyn helpu i gyflawni blaenoriaethau Heneiddio’n Dda, mae Cysylltwyr Cymunedol yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl agored i niwed ac yn eu cyfeirio at weithgareddau a grwpiau cymorth, yn ogystal â gweithio â grwpiau cymunedol. Mae’r Cysylltwyr wedi cysylltu â dros 500 o fudiadau partner lleol ac

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 11

    wedi helpu dros 400 o unigolion i gyfranogi yn eu cymunedau. Mae Hyrwyddwr Cymunedol Lleiafrifoedd Ethnig yn meithrin cysylltiadau â’r boblogaeth lleiafrifoedd ethnig amrywiol.

    Mae prosiectau fel Cymdogion Da Casnewydd, sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, yn cynnig cyfeillio a chymorth lefel isel i bobl hŷn unig ac mae dros 3,000 awr o wirfoddoli’n cael eu cyflenwi i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n gaeth i’w cartrefi bob blwyddyn.

    Gyda chymorth Cyngor y Ddinas, mae Casnewydd yn gweithio tuag at ennill statws Dinas Gyfeillgar i Bobl â Dementia ac mae wedi ffurfio Cynghrair Gweithredu ar Ddementia amlasiantaethol gyda chynllun cyflenwi ar y cyd. Mae cyfanswm o 1,047 o bobl o sefydliadau allweddol, busnesau ac ysgolion hefyd wedi cael sesiynau ar fod yn Gyfeillion Dementia, gyda rhagor o hyfforddiant wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

    Sir Benfro

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Sir Benfro’n adeiladu ar amrywiaeth o waith llwyddiannus sydd wedi bod ar flaenllaw o ran mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac i hybu a galluogi gweithgarwch cymunedol. Mae Cynlluniau Cymdogion Da Cynaliadwy wedi cael eu datblygu mewn pentrefi ledled y sir, ac mae gwaith yn cael ei wneud i sefydlu Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Chymunedau Cefnogi Pobl â Dementia ar hyd a lled y sir. Mae Abergwaun a Wdig, er enghraifft, wedi bod wrthi’n treialu dangosyddion Sefydliad Iechyd y Byd ar yr hyn sy’n gwneud cymuned yn un Gyfeillgar i Oed, ac mae hwn yn waith sydd wedi arwain at fwy o weithgareddau pontio’r cenedlaethau, a Thyddewi yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i fod yn un Gefnogol i Bobl â Dementia.

    Bydd Cynllun Heneiddio’n Dda Sir Benfro’n canolbwyntio ar flaenoriaethau a nodwyd gan bobl hŷn, ac sy’n cynnwys trafnidiaeth a chymdeithasoli. Bydd cynlluniau trafnidiaeth fel Bws y Ddraig Werdd, er enghraifft, yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi ochr yn ochr â phrosiectau sy’n annog cyfranogiad cymdeithasol.

    Powys

    Mae Powys wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i weithio mewn partneriaeth i gyflawni ei gynllun Heneiddio’n Dda yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae’r cynllun wedi’i alinio â chanlyniadau ymgynghoriad diweddar â phreswylwyr Powys, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu Cynllun Comisiynu Integredig Pobl Hŷn 2016-2021, sydd wedi amlygu’r awydd a nodwyd gan bobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi am gyhyd â phosibl. Mae cynlluniau eraill arfaethedig yn cynnwys ehangu’r wardiau rhithiol yn rhannau gogleddol a chanolbarth Powys i leihau’r angen i bobl fynd i’r ysbyty a chreu mynediad cyflym at asesiadau gofal eilaidd a gwasanaethau gwybodaeth a chyngor wedi’u targedu. Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys ymyriadau i leihau nifer y bobl hŷn sy’n cwympo a allai fod wedi arwain at driniaeth mewn ysbyty

  • 12 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    yn y gorffennol. Mae’r holl gynlluniau hyn wedi cael eu cynllunio i helpu pobl i fyw yn eu cartref a’u gwneud yn fwy ymwybodol o’r holl opsiynau cymorth sydd ar gael iddynt yn eu hardal.

    Bydd y gwaith o weithredu a chyflawni’r cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y gweithgareddau sy’n rhan ohono’n parhau i adlewyrchu ymarfer da ac y bydd yn parhau wedi’i alinio â’r holl strategaethau lleol a chenedlaethol integredig ym Mhowys.

    Rhondda Cynon Taf / Merthyr Tudful

    Mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi gweithio mewn partneriaeth i gynhyrchu Cynllun Heneiddio’n Dda ar y cyd i ategu’r Datganiad Comisiynu ar y Cyd ar gyfer Gwasanaethau Pobl Hŷn. Mae Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar y Cyd, Grŵp Ymgysylltu â’r Cyhoedd sy’n cwrdd yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf ynghyd â chwe Fforwm 50+.

    Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Hyrwyddwyr Cyfeillgar i Oed ar draws y sector cyhoeddus, hyrwyddo busnesau cyfeillgar i oed a datblygu gwaith pontio’r cenedlaethau.

    O ran atal cwympiadau, mae cynlluniau i weithio mewn partneriaeth ag ystod eang o fudiadau i addysgu, i ddarparu gwybodaeth ac i hyrwyddo cyfleoedd i wneud ymarferiadau i gryfhau a gwella cydbwysedd, yn ogystal â threfnu digwyddiadau iechyd a llesiant cyffredinol. Mae Gofal a Thrwsio’n cael ei weld fel partner gwerthfawr i wneud gwiriadau cartref.

    Mae Pontypridd a Maerdy yn gweithio i fod yn Gymunedau Cyfeillgar i Bobl â Dementia, gyda chymorth amlasiantaethol, ac mae Rhondda Cynon Taf wedi penodi swyddog fel Hyrwyddwr Dementia ac Aelod Cabinet fel Hyrwyddwr. Ym Merthyr Tydfil, mae 119 o staff a’r cyhoedd wedi cael eu hyfforddi fel Cyfeillion Dementia ac mae rhagor o hyfforddiant yn cael ei gynllunio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Clefyd Alzheimer, sydd hefyd yn rhedeg Caffis Dementia yn y rhanbarth.

    Bydd gwasanaethau cyfeillio’n parhau i gael eu darparu, gan gynnwys rhai sy’n cael eu darparu gan y Groes Goch a Chymunedau yn Gyntaf, yn ogystal â Chaffis Cymunedol a Chroeso Gyfeillion sy’n cael eu rhedeg gan Raglen Wirfoddoli’r rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hŷn (RSVP). Mae rhaglen ragnodi gymdeithasol hefyd yn yr arfaeth.

    Abertawe

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Dinas a Sir Abertawe yn bartneriaeth sy’n cynnwys y Bwrdd Gwasanaeth Lleol a Chynllun Gweithredu Bwrdd Dinas Iach ac sy’n cael ei arwain gan y Cyngor, sydd hefyd yn helpu i gyflawni darpariaethau’r Ddeddf Gwasanaethau a Llesiant (Cymru).

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 13

    Mae llawer iawn wedi’i gyflawni eisoes i wneud Abertawe’n Ddinas Gyfeillgar i Bobl â Dementia, ond bydd partneriaid y Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn ymuno â, ac yn hyrwyddo’r broses genedlaethol i Gydnabod Cymunedau Cyfeillgar i Bobl â Dementia, sy’n cael ei threfnu gan y Gymdeithas Clefyd Alzheimer. Mae’r partneriaid wedi ymrwymo i ddarparu Hyfforddiant Dementia i staff yn eu sefydliadau ac ymhlith busnesau canol y ddinas. Bydd dinasyddion Abertawe a staff rheng flaen hefyd yn cael gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

    Bydd archwiliad Cymuned Gyfeillgar i Oed yn helpu i weithredu sawl agwedd ar y Cynllun, gan gynnwys atal cwympiadau a’r amgylchedd adeiledig, darparu gwybodaeth sy’n cydnabod unigrwydd ac arwahanrwydd, a hyrwyddo gwirfoddoli a chyfleoedd dysgu.

    Torfaen

    Mae Cynllun Cyflenwi Torfaen 2015-2023, sy’n sail i waith Heneiddio’n Dda yn y sir, yn rhoi pwyslais cryf ar ganlyniadau ac ar weithio mewn partneriaeth. Mae’r cynllun yn datgan yn eglur mai’r canlyniad yw y bydd pobl yn Nhorfaen yn byw’n annibynnol wrth iddynt heneiddio, gydag ansawdd bywyd da am gyhyd â phosibl. Mae hefyd yn datgan y bydd y canlyniadau manwl a’r gweithgareddau’n rhan allweddol o gynlluniau gwasanaethau partner, gan gyfrannu at ‘Torfaen Together’, y Cynllun Integredig Sengl a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Gwasanaeth Lleol a’r Cynllun Llesiant ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ac a ddaw i rym ym mis Ebrill 2016.

    Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gwella cynllunio cyn ymddeol a chreu un pwynt cyswllt ar gyfer pob mater sy’n berthnasol i bobl 50+ oed. Bydd hyn yn cynnwys yr hyb gwybodaeth dros y ffôn ‘Byddwch yn Annibynnol’, a fydd yn cyfeirio pobl at wasanaethau perthnasol sy’n cael eu darparu gan y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector. Mae galluogi cysylltiadau cymunedol hefyd yn rhan allweddol o’r cynllun, ynghyd â dull partneriaeth i helpu pobl agored i niwed â gwasanaethau sy’n amrywio o drafnidiaeth i gasgliadau gwastraff â chymorth.

    Bro Morgannwg

    Mae Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynllun gweithredu Heneiddio’n Dda sy’n cynnwys ystod o weithgareddau ar gyfer 2016 -2018 sy’n helpu i gyflawni pum blaenoriaeth y Rhaglen Heneiddio’n Dda. Bydd cynnydd ar bob un o’r camau gweithredu yn cael ei adrodd i’r BGLl ddwywaith y flwyddyn a bydd yn rhan o Adroddiad Blynyddol y BGLl.

    Mae’r camau’n cynnwys nod i weithredu prosiect ‘Camau at Gynnydd’ a fydd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi i bobl 50 oed a hŷn i wella’u sgiliau a’u siawns o gael gwaith. Hefyd, bydd y Fro’n datblygu brand marchnata ar draws clystyrau Cymunedau yn Gyntaf y Barri a Chaerdydd i wella ymgysylltiad cyflogwyr gyda phwyslais ar sicrhau cyfleoedd swyddi ar gyfer rhai dros 50 oed.

  • 14 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Gan adeiladu ar y llwyddiant yn y Barri, sydd erbyn hyn wedi cyflawni statws cymuned cefnogi pobl â dementia, mae partneriaid yn awr yn gweithio â’i gilydd i weithredu ystod o gynlluniau atal cwympiadau.

    Mae’r Fro hefyd yn mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig a threfol trwy farchnata trafnidiaeth gymunedol hygyrch a thrwy gynnig cyfleoedd cynhwysiant digidol. Bydd pwyslais hefyd ar hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli a sicrhau bod gweithgareddau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn cael eu hintegreiddio gyda phwyslais ar y cwsmer.

    Wrecsam

    Mae Cynllun Heneiddio’n Dda Wrecsam yn canolbwyntio ar waith a fydd yn cael ei wneud o dan faner ‘Wrecsam Ynghyd’, lle mae’r Cyngor yn ymdrechu i ddod ag unigolion, cymunedau a grwpiau ynghyd er mwyn grymuso pobl i ddylanwadu ar wasanaethu ac i gyfranogi at wella ansawdd bywyd yn yr ardaloedd lle maent yn byw.

    Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig sesiynau llythrennedd TG am ddim i bobl hŷn sydd heb fawr neu ddim mynediad at gyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar i wella eu sgiliau personol a’u hyder. Mae Grantiau Cynhwysiant Cymunedol ar gael ledled Wrecsam fel rhan o ddatblygiad Strategaeth Datblygu Gwasanaethau Dydd y Cyngor. Mae proses y grantiau’n cael ei goruchwylio gan grŵp llywio sy’n cynnwys dinasyddion a gweithwyr proffesiynol.

    Mae Asiantwyr Cymunedol yn gweithio â phobl hŷn yn Wrecsam i gynnig mynediad rhwydd at ystod eang o wybodaeth, gan ddefnyddio Dewis Cymru, i’w helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ac i gael gwell ansawdd bywyd, yn ogystal â helpu pobl fwy agored i niwed i gael mynediad at gymorth. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu hefyd i weithio mewn partneriaeth â Meddygon Teulu, a fydd yn atgyfeirio cleifion sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol at y gwasanaeth Asiantwyr Cymunedol.

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 15

    Addunedau Cymunedol Mae Tîm Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi cynnal digwyddiadau ledled Cymru fel rhan o’i waith i ysbrydoli gweithredu lleol. Gwneir hyn trwy rannu enghreifftiau o arferion da a chanllawiau ar sut y gellid creu cymuned gyfeillgar i oed ac sy’n cefnogi pobl â dementia. Mae cannoedd o bobl wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau Heneiddio’n Dda ac mae’r Tîm wedi siarad â channoedd yn rhagor mewn digwyddiadau partneriaid.

    Mae pobl leol sy’n aelodau o Rwydweithiau Cymunedol Heneiddio’n Dda ledled Cymru wedi gwneud amryw o addunedau i weithredu’n bersonol ac fel cymunedau i helpu i gyflawni blaenoriaethau Heneiddio’n Dda. Mae detholiad o’r addunedau hyn i’w gweld isod:

    Cymunedau Cyfeillgar i Oed

    • “Parhau i weithio ag eraill i helpu i greu Cymunedau Cyfeillgar i Oed. Mabwysiadu egwyddorion Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.”

    • “Siarad â mwy o bobl am Gymunedau Cyfeillgar i Oed a chyhoeddi mwy amdano ar Facebook i godi ymwybyddiaeth.”

    • “Cyfrannu mwy a helpu aelodau hŷn o’r gymuned.”• “Gweithio â phartneriaid i ddylanwadu ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl

    hŷn yn Nhrelái a Chaerau.”

    • “Meithrin cysylltiadau ag ysgolion lleol, cynlluniau gwarchod eraill a chartrefi gofal.”

    Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia

    • “Gwneud Cydweli’n Gymuned Gyfeillgar i Bobl â Dementia a lledaenu’r gair.”• “Parhau i sefydlu cymuned i ddarparu hyfforddiant dementia a chreu man

    cyfarfod lleol ar gyfer rhai sy’n byw â dementia, eu cyfeillion a’u teuluoedd lle gallant gwrdd, rhannu, helpu ei gilydd a chael gwybodaeth, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, neu dim ond cael cyfle i gofleidio neu rannu eu baich.”

    • “Byddaf yn gwneud fy ngorau i ledaenu ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig.”

    • “Hyfforddi fel Hyrwyddwr Dementia a chynnig sesiynau i fy eglwys, siopau lleol a’r ganolfan gymunedol.”

    • “Annog fy nghyd-aelodau ar y cyngor cymuned i gael hyfforddiant Cyfeillion Dementia.”

  • 16 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    • “Parhau i weithio â KINDA – Knighton Initiative for Dementia Action. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwybodaeth a gobeithiwn agor ein Caffi Dementia ein hunain.”

    • “Manteisio ar yr hyfforddiant Dementia y soniwyd amdano yn ystod y gynhadledd – gallai hyn fy helpu i fod yn wirfoddolwr mwy effeithiol!”

    • “Bod yn Sefydliad Cyfeillgar i Bobl â Dementia – cyfarfodydd coffi ‘Codi Ymwybyddiaeth’ a grwpiau cymorth.”

    • “Codi ymwybyddiaeth o’r pethau y mae unigolyn â dementia’n gorfod delio â hwy bob dydd.”

    Gweithredu Cymunedol Mae dros 900 o fudiadau ac unigolion bellach yn rhan o Rwydwaith Rhaglen Heneiddio’n Dda, gyda mwy a mwy o bobl a mudiadau’n cymryd rhan.

    Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia

    Mae cymunedau ledled Cymru’n cael eu hysbrydoli i fod yn fwy gofalgar ac erbyn hyn mae momentwm gwirioneddol wedi cydio sy’n arwain at greu Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia.

    Cafodd mudiad Brecon and Hay Dementia Supportive Community ei sefydlu gan wirfoddolwyr unigol yn yr ardal. Roedd Rhiannon Davies, un o’r sylfaenwyr wedi cael ei hysbrydoli gan enghreifftiau mewn ardaloedd eraill a meddyliodd ‘mi allwn ni wneud hynny’. Ymunodd gwirfoddolwyr eraill â hi a llwyddodd i ddenu partneriaid fel cyngor y dref, ysgolion, yr heddlu a’r gwasanaeth tân, yn ogystal â busnesau lleol. Roedd y cynllun Cyfeillion Dementia, a sefydlwyd gan y Gymdeithas Clefyd Alzheimer, yn sail i’r gwaith o newid agweddau a denu cefnogaeth.

    Mae’r ‘tonnau’ (i ddyfynnu Rhiannon) a grëwyd gan y mudiad wedi dylanwadu ac wedi ysbrydoli eraill. Mae cymunedau cyfagos wedi efelychu eu gwaith, fel y Knighton Initiative for Dementia Action lle mae busnesau cenedlaethol yn gwneud newidiadau gwirioneddol er mwyn bod yn gyfeillgar i bobl â dementia. Bydd gweld cwmnïau cenedlaethol yn cymryd rhan yn arwain at fuddiannau i’r gymuned yn sgil eu gwelliannau. Mae enghreifftiau o ymarfer da’n cael eu rhannu’n eang â chymunedau ledled Cymru trwy ddigwyddiadau’r Rhaglen Heneiddio’n Dda a’i Rhwydwaith er mwyn ysbrydoli mwy fyth o weithredu.

    Mae Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia eraill, fel Tyddewi yn Sir Benfro ac Abertawe, hefyd yn gweld llwyddiant eu hymdrechion i ddiwallu anghenion pobl sy’n byw â dementia. Yn yr un modd, mae nifer o gymunedau yn y De yn cael statws cymunedau sy’n cefnogi pobl â dementia ac mae prosiectau arloesol yn cael eu datblygu. Yng Nghaerffili, er enghraifft, mae mamau plant yr ysgol feithrin wedi

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 17

    cynhyrchu llyfr plant â lluniau hyfryd o’r enw ‘The Elephant who Forgot’, sy’n cofnodi profiad bachgen ifanc sydd â thad-cu â dementia. Diolch i gefnogaeth Heneiddio’n Dda yng Nghymru, mae mwy a mwy o fusnesau a mudiadau’n sicrhau eu bod yn darparu’r gofal gorau i gwsmeriaid ac yn sicrhau bod eu staff yn cael cynnig hyfforddiant Cyfeillion Dementia.

    Mynd i’r afael ag Unigrwydd ac Arwahanrwydd

    Gall digwyddiadau bywyd fel ymddeoliad neu brofedigaeth achosi unigrwydd ac arwahanrwydd ac mae’r problemau a brofir yn aml yn fwy anodd i ddynion. Mae Men’s Sheds wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru gyda nifer o ‘siediau’ ffyniannus ledled y wlad sy’n cynnig cyfleoedd cymdeithasol. Mae Men’s Shed Hen Golwyn wedi croesawu’r swil a’r hyderus, gyda’r nod cyffredin o fynd i’r afael ag arwahanrwydd trwy annog hwyl a dysgu. Cafodd un aelod help i adennill ei leferydd yn dilyn strôc ac mae eraill wedi cael eu tynnu allan o’u swildod trwy gael eu croesawu a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys gwneud ukuleles a pherfformio yng Nghaerdydd.

    Mae dysgu anffurfiol yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn yr ymdrechion i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae grwpiau U3A yn ffynnu ar hyd a lled Cymru gyda 56 o grwpiau a phedwar rhwydwaith wedi’u sefydlu. Mae aelodau’n rhedeg dosbarthiadau ar gyfer aelodau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fel ffotograffiaeth ddigidol, darllen, astudiaethau amgylcheddol, ieithoedd, celf a blasu gwin, ochr yn ochr â gweithgareddau fel cerdded ar gyfer gwahanol alluoedd. Mae’r pwyslais ar ddysgu er mwyn pleser ac mae gwerth cymdeithasol y grwpiau’n enfawr.

    Cymunedau Cyfeillgar i Oed ar Waith

    Ar hyd a lled Cymru, mae cymunedau’n dod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a bod pobl o bob oedran yn gallu cyfranogi’n llawn mewn cymdeithas. Yn 2015, bu Heneiddio’n Dda yn gweithio â grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn Abergwaun a Wdig i ganfod y ffordd orau o fesur i ba raddau y mae cymunedau’n gyfeillgar i oed. Roedd y prosiect yn rhan o gydweithredu byd-eang a drefnwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, a gwelwyd Abergwaun a Wdig yn rhannu llwyfan â dinasoedd fel Hong Kong, Shanghai ac Washington DC. Wrth feddwl sut y gallai Abergwaun a Wdig fod yn gyfeillgar i bob oed taniwyd dychymyg y gymuned gyfan, gan arwain at nifer o gynlluniau a grwpiau newydd a oedd yn gweithio ar brosiectau pontio’r cenedlaethau.

    Bu’n fraint i Heneiddio’n Dda gael gweithio â llawer o grwpiau cymunedol rhagorol eraill a phob math o gynlluniau ledled Cymru. Mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, er enghraifft, mae profiadau grwpiau fel Dinas Powys Voluntary Concern, Cymuned Pennant a Gofal Solfach wedi eu rhannu ac mae cynulleidfaoedd wedi clywed yr hyn oedd wedi ysbrydoli a symbylu preswylwyr lleol i helpu i drawsnewid eu cymunedau i fod yn llefydd da i fyw i bobl o bob oed.

  • 18 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Heneiddio’n Dda yn y Gweithle

    Mae Heneiddio’n Dda wedi bod yn cydweithio’n glos â busnesau, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gweithleoedd Cymru mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfoeth sgiliau a phrofiad pobl hŷn, sgiliau sy’n hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol.

    Mae gweithdai wedi cael eu cynnal mewn cydweithrediad â’r TUC, gan weithio ag undebau i edrych sut y gallai gweithleoedd fod yn fwy cefnogol i weithwyr hŷn. Yn yr un modd, mae arferion da ac arloesol busnesau wedi cael eu rhannu’n eang, fel Cyllid Cymru er enghraifft, sy’n cydnabod bod gan nifer cynyddol o’i staff gyfrifoldebau gofal am berthnasau oedrannus, ac sydd o ganlyniad wedi sefydlu fforwm Gofal am yr Henoed, sy’n galluogi staff i rannu eu profiadau, ac mae’n adolygu ei bolisi gweithio’n hyblyg ar sail yr adborth a gafwyd gan y grŵp. Mae’r cwmni hefyd yn gweithio ag Age Connects i ddarparu gwybodaeth a chymorth i ofalwyr yn y gweithle.

    Ym mis Tachwedd 2015, ymunodd Heneiddio’n Dda â Busnes yn y Gymuned ar gyfer Wythnos Weithredu Cymru, lle bu dros 150 o wirfoddolwyr busnes yn rhoi o’u hamser i dynnu sylw at werth gweithwyr hŷn.

    Atal Cwympiadau

    Mae Heneiddio’n Dda wedi bod yn cydweithio’n glos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd i leihau nifer y bobl hŷn sy’n dioddef o ganlyniad i gwympiadau y gellid eu hatal. Bydd yr ymgyrch ‘Sadiwch i Gadw’n Saff’ yn helpu’r rhai sydd yn y perygl mwyaf o gwympo a bydd y neges yn cael ei rhannu â chymunedau a mudiadau ar hyd a lled Cymru trwy gydol 2016.

    Mae Heneiddio’n Dda hefyd yn gweithio â phartneriaid ar hyd a lled Ewrop fel rhan o’r grŵp ProFouND (Prevention of Falls Network for Dissemination). Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (1 Hydref 2015), bu grwpiau o Gymru’n cymryd rhan mewn fflachmob rhyngwladol i dynnu sylw at fuddiannau ymarfer corff i leihau’r perygl o gwympo.

    Amgueddfeydd yn gwneud Cymru’n lle da i heneiddio i bawb

    Yn ogystal â bod yn fannau i arddangos diwylliant a threftadaeth Cymru, mae ein hamgueddfeydd cenedlaethol yn chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech i wneud Cymru’n lle da i heneiddio i bawb.

    Ym Mhowys, mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog wedi bod yn gysylltiedig â’r cyflawniadau gwych i wneud Aberhonddu’n gymuned sy’n cefnogi pobl â dementia. Mae amgueddfa’r Tŷ Weindio yng Nghaerffili wedi bod yr un mor frwd yn ei hymdrechion yn lleol i gefnogi datblygiad cymunedau sy’n gyfeillgar i bobl â dementia, a hi yw’r amgueddfa gyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth gan

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 19

    y Gymdeithas Clefyd Alzheimer am ei hymdrechion i fod yn gyfeillgar i bobl â dementia.

    Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Stori Caerdydd wedi bod â chysylltiad agos â Heneiddio’n Dda yng Nghymru, gyda’r ddau sefydliad yn datblygu gweithgareddau pontio’r cenedlaethau ac yn cynrychioli Cymru ar y rhwydwaith Amgueddfeydd Cyfeillgar i Oed. Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi gweithio â phobl sy’n byw â dementia i adolygu ei chyfleusterau ac mae hefyd wedi sefydlu fforwm pontio’r cenedlaethau i sicrhau ei bod yn groesawgar i bob oed. Bydd Heneiddio’n Dda yn parhau i gydweithio’n glos ag amgueddfeydd yng Nghymru trwy gydol 2016, gyda digwyddiadau yn yr arfaeth i helpu cymunedau i fod yn fwy cyfeillgar i oed a fydd yn cael eu cynnal yn amgueddfeydd y Big Pit a Stori Caerdydd.

  • 20 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

    Cam Dau: BlaenolwgBydd ail gam y rhaglen yn dechrau’n ffurfiol ym mis Ebrill (ond mewn realiti, mae’n broses o ddatblygu parhaus sy’n adlewyrchu cyfleoedd ac amrywiaeth y gweithredu ledled Cymru). Cefnogir hyn gan gynllun gweithredu a nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen, amlasiantaeth a chefnogi cyflawni. Bydd chwe agwedd i’r ail gam yma:

    • Sicrhau statws Safle Cyfeirio Partneriaeth Arloesi Ewropeaidd 4 seren ar gyfer Heneiddio’n Egnïol ac Iach (EIP-AHA) a defnyddio brand a phroffil y rhaglen i gefnogi ceisiadau Ewropeaidd am gyllid.

    • Sicrhau cytundeb gan amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol neu fwy o’r sectorau cyhoeddus a phreifat i weithredu i hybu cynnwys a chefnogi cadernid unigolion a chymunedau.

    • Defnyddio arfer da’r cynlluniau lleol presennol o dan y Rhaglen a chefnogi’r gwaith o ehangu’r rhain fel arfer safonol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddechrau gwneud yr ymrwymiad maent wedi’i ddangos eisoes i gymunedau cyfeillgar i oedran (drwy gyfrwng Datganiad Dulyn) yn real.

    • Rhagor o gefnogaeth i grwpiau lleol ac unigolion i’w helpu i weithredu drostynt eu hunain i hybu cynnwys, gohirio neu atal breguster, a chynnal eu cadernid eu hunain, drwy gefnogaeth uniongyrchol a thrwy ddatblygu cyngor ac adnoddau arbenigol pellach y gellir cael mynediad atynt yn rhwydd a’u defnyddio gan unigolion. Bydd hyn yn cynnwys datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr Heneiddio’n Dda yng Nghymru lleol, pobl hŷn eu hunain sy’n gallu rhaeadru ymhellach wedyn i weithredu lleol.

    • Datblygu dull strategol o ymchwilio, gan ganolbwyntio’n benodol ar fylchau ymchwil, a throsi’r ymchwil yn weithredu ac annog trosglwyddo gwybodaeth. Mae i hyn fanteision gartref ac mewn cyd-destun Ewropeaidd mewn perthynas â cheisiadau am arian ymchwil.

    • Cysylltu gwaith y rhaglen hon â’r gwaith datblygu sy’n cael ei wneud fel rhan o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yn enwedig y Cynlluniau Lles newydd sy’n cael eu cynhyrchu gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, yr asesiad o anghenion sy’n sail iddynt, y mesurau perfformiad a’r fframweithiau perfformiad newydd, a gwaith y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol newydd yn gwerthuso effaith y gwaith sy’n cael ei wneud.

    Bydd yr ail gam hwn yn parhau i gynnwys dull partneriaeth o weithredu, nid dim ond gan y sector cyhoeddus, ond yn gynyddol gyda’r sector preifat ac, mewn perthynas â Llywodraeth Cymru, bydd yn ceisio denu adrannau ar wahân i iechyd a gofal cymdeithasol.

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 21

    Mae nod cyffredinol gwreiddiol y rhaglen yn dal i fod yr un fath, h.y. gwella lles pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru, ond bydd canolbwyntio ar gynnwys, cynnal cadernid a gohirio neu atal breguster yn ategu hyn. Bydd y rhaglen yn parhau i gael ei chefnogi fel rhan o Gam 3 Strategaeth Pobl Hŷn a’r ysgogwyr polisi cenedlaethol allweddol.

    Bydd pum prif egwyddor yn sail i ail gam y rhaglen, sef:

    • Sicrhau y gweithredir yn seiliedig ar dystiolaeth• Creu lle i arloesi• Galluogi pobl hŷn drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar asedau i weithredu

    drostynt eu hunain a chefnogi eraill, a gweld beth fyddai’n cael mwy o effaith iddyn nhw

    • Dull gweithredu sy’n pontio’r cenedlaethau• Cryfhau hawliau pobl hŷn o ran herio rhagfarn ar sail oedran.

    Fel y gwyddoch, mae’r Rhaglen yng Nghymru, yn ei hanfod, yn rhaglen ataliol, ac yn cyd-fynd yn agos ag amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae partneriaid yn cydweithio er mwyn gohirio neu leihau effaith negyddol oedran ar iechyd a lles unigolion. Mae ei manteision yn berthnasol i unigolion a, thrwy ohirio neu atal breguster neu fod yn agored i niwed, mae’n sicrhau manteision i wasanaethau cyhoeddus.

    Cyflawniadau & Blaenolwg 21

  • Heneiddio’n Dda yng NghymruMae Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn Rhaglen genedlaethol sy’n cael ei rhedeg gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’n dwyn ynghyd unigolion a chymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd arloesol ac ymarferol i wneud Cymru’n lle da i heneiddio, i bawb.

    Beth hoffai Heneiddio’n Dda yng Nghymru ei gyflawni?

    • Gwneud Cymru’n lle da i heneiddio, i bawb • Gwneud Cymru’n genedl o Gymunedau sy’n Cefnogi Pobl â Dementia• Lleihau niferoedd cwympiadau• Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd • Cynyddu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth

    Beth mae’r Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru yn ei wneud?

    • Rhwydweithiau: mae rhwydwaith sy’n tyfu’n gyflym o gannoedd o unigolion a mudiadau wedi’i sefydlu i rannu syniadau ac i weithio â’i gilydd.

    • Mynediad at arferion da: bydd gwefan Heneiddio’n Dda yn cynnwys canolfan adnoddau sy’n cynnwys arferion da o bob rhan o Gymru, y DU, Ewrop a gweddill y byd.

    • Dwyn pobl ynghyd: mae cynadleddau, gweithdai a sesiynau hyfforddi’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

    • Gwneud i newid ddigwydd: mae’r Rhaglen yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, y prif fudiadau cenedlaethol a phob Awdurdod Lleol.

    • Cysylltiadau Ewropeaidd: mae’r Rhaglen yn meithrin cysylltiadau â phartneriaid Ewropeaidd i wella mynediad at gyllid yr UE ac yn annog trosglwyddo gwybodaeth a chyfnewid arferion da.

    Ffôn: 029 2044 5030

    E-bost: [email protected]

    Twitter: @HeneiddioynDda

    22 Heneiddio’n Dda yng Nghymru

  • Cyflawniadau & Blaenolwg 23

    Rhagor o wybodaeth a chysylltiadau• Gwefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru: http://www.ageingwellinwales.com/wl/

    home

    • Trosolwg o Raglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru 2014-19: http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/AWFinalEnglish.pdf

    • Gofal Solfach: http://solva.gov.wales/solva-care / 07890 987 259• Dinas Powys Voluntary Concern: www.dpvc.org.uk 029 2051 3800• Adroddiad Abergwaun a Wdig: http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-

    hub/afc-resources

    • Busnes yn y Gymuned: www.bitc.org.uk/wales• Cyllid Cymru: www.financewales.co.uk• TUC Cymru: www.tuc.org.uk/wales• Sadiwch i Gadw’n Saff www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/83453• ProFouND - http://profound.eu.com/• Fflach Mob Stay Strong Stay Steady yr UE - https://youtu.be/iekHwmOh084• Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog http://www.powys.gov.uk/cy/

    amgueddfeydd/ymweld-ach-amgueddfa-leol/amgueddfa-ac-oriel-gelf-brycheiniog/

    • Stori Caerdydd: http://cardiffstory.com/content.asp?nav=2&parent_directory_id=2&language=CYM&pagetype=&keyword=

    • Amgueddfa Genedlaethol Cymru: www.amgueddfacymru.ac.uk• Y Tŷ Weindio: https://your.caerphilly.gov.uk/windinghouse/content/welcome

    Cyflawniadau & Blaenolwg 23