36
Gwella tiroedd ysgolion ar gyfer bioamrywiaeth ac addysg

Gwella tiroedd ysgolion ar gyfer bioamrywiaeth ac addysg...(2012) yn tynnu sylw at y manteision amrywiol i blant o fod mewn cyswllt â natur a chael profiadau awyr agored. Mae’r

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Gwella tiroedd ysgolion argyfer bioamrywiaeth ac addysg

  • 2

    Published winter 2011/Cyhoeddedig Gaeaf 2011

  • 1

    Cefndir i’r Prosiect Bioamrywiaeth mewn Ysgolion ..................................................4

    Y Prosiect Peilot .................................................................................................................6

    Cyllid a Gweithredu .................................................................................................................9

    Astudiaethau Achos Ysgol Feithrin Fairoak ...............................................................15 Ysgol Gynradd Millbrook .................................................16-17 Ysgol Gynradd Langstone .......................................................18 Ysgol Gynradd Maesglas...........................................................19 Ysgol Iau Milton ...................................................................20-21 Ysgol Basaleg (uwchradd) .......................................................22

    Gwaith Ychwanegol yn y Prosiect ..................................................................................23

    Canlyniadau’r Prosiect a’r Dyfodol .................................................................................29

    Siart Llif Sefydlu’r Prosiect.................................................................................................33

    Page Header

    3

    Cynnwys yr Adroddiad

  • 4

    Cydnabuwyd ers tro y gall mynediad i amgylcheddawyr agored ysgogol gael effaith gadarnhaolsylweddol ar ymddygiad disgyblion a’r modd ymaent yn datblygu a dysgu. Mae gwaith ymchwilwedi’i gasglu yn adroddiad yr RSPB ‘Pob Plentynyn yr Awyr Agored’ (2010) ac adroddiad yrYmddiriedolaeth Genedlaethol ‘Plentyndod Naturiol’(2012) yn tynnu sylw at y manteision amrywiol iblant o fod mewn cyswllt â natur a chael profiadauawyr agored. Mae’r manteision hyn yn cynnwyseffeithiau cadarnhaol ar addysg, iechyd corfforol,lles emosiynol a sgiliau personol a chymdeithasol,gan gynnwys datblygu dinasyddion sy’namgylcheddol gyfrifol.

    Yng Nghymru, mae cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen,hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy aDinasyddiaeth Fyd-eang, ac ailymddangosiad dullmwy ymarferol o ddysgu ar bob lefel wedi gosod yrystafell ddosbarth awyr agored wrth wraidd theori acymarfer addysgol ar bob cam o addysg.

    Mae’r Cyfnod Sylfaen yn arbennig yn hyrwyddoymagwedd gyfannol tuag at addysgu a dysgu sy’ncanolbwyntio ar brofiad a sgiliau – mae lle awyragored ysgogol a diddorol yn hanfodol yn hyn o beth.

    Mae’r rhaglen Eco-Sgolion a mentrau YsgolionCoedwig ac Ysgolion Iach i gyd wedi cyfrannu atffocws o’r newydd ar amgylchedd yr awyr agored ymmhob rhan o’r system addysg. Mae rhywfaint obwysau ar ysgolion bellach i ddatblygu eu tiroeddmewn modd sy’n cynorthwyo’r gwahanol gwricwla amentrau y maent yn cymryd rhan ynddynt, ac ynystod y blynyddoedd diwethaf y mae wedi bodcynnydd mawr wrth ddatblygu tiroedd ysgolion acmewn addysg awyr agored yn gyffredinol.

    Mae’r adroddiad hwn yn egluro’r prosesau a’rmecanweithiau y mae Cyngor Dinas Casnewydd wedirhoi ar waith er mwyn cyflawni gofynion ychwanegoly cwricwlwm a mynd i’r afael â’r diddordeb cynyddolyn yr amgylchedd awyr agored a’r manteisionaddysgol a all ddod yn ei sgil.

    Datblygu Model CasnewyddBu cynorthwyo â darparu addysg amgylcheddol arsail ad hoc am nifer o flynyddoedd ar draws CyngorDinas Casnewydd. Roedd gan feysydd gwasanaethfel Tiroedd a Chefn Gwlad gylch gwaith eang a oeddyn cynnwys addysg amgylcheddol a chodiymwybyddiaeth o’r amgylchedd; fodd bynnag, nidoedd hyn yn rhan o Gytundeb Lefel Gwasanaethffurfiol gydag Addysg. Cyn 2007, roedd nifer o

    ysgolion yng Nghasnewydd wedi gofyn am erddinatur ar eu tiroedd, ac fe ddatblygwyd nifer fechano’r rhain gan y Tîm Cefn Gwlad trwy ddefnyddiocyllid grant Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Fodd bynnag,roedd yn amlwg ar adeg pan fo wir angen cymorth arysgolion wrth ddatblygu potensial eu tiroedd mai dimond adnoddau cyfyngedig oedd ar gael i’w helpu igyflawni hyn.

    O ganlyniad i hyn, roedd ysgolion unigol yn ceisiodatblygu eu tiroedd yn annibynnol, yn aml iawn ynansicr am yr hyn yr oeddynt yn dymuno ei gael a suti’w wneud mewn modd oedd yn gwneud y defnyddgorau o’r tiroedd oedd ar gael ganddynt. Roedd hefydnifer o adroddiadau o ddolydd a glasbrennau ifanc yncael eu torri i lawr gan dimau cynnal a chadw ar ôl iysgolion greu ardaloedd ar eu pennau eu hunain heb roigwybod i’r bobl gywir. Roedd y diffyg cyfathrebu hwnrhwng ysgolion a’u timau cynnal a chadw yn arwain atbroblemau fel safle yn cael ei wahardd i beiriannaupenodol yn anfwriadol neu osodiad yn creu llawer owaith cynnal a chadw diangen a mwy o gostau. Roeddhefyd yn gyffredin i ardaloedd a phrosiectau fethu pangollwyd aelodau allweddol o staff.

    Cefndir i’r Prosiect Bioamrywiaethmewn Ysgolion

    “Mae gwybodaeth plant am fioamrywiaeth yn dirywio aradeg pan fydd angen i genedlaethau’r dyfodol ymgysylltu’nfwy a bod yn fwy ymwybodol er mwyn atal collibioamrywiaeth. Mae hyn yn amlygu angen gwirioneddol iaddysgu ein plant fel gwarchodwyr dyfodol ein planed, i roiiddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnynt heddiw er mwyngwarchod y byd naturiol ar gyfer yfory.”

    Dr Ahmed Djoghlaf, Ysgrifennydd Gweithredol ar gyfer yConfensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol mewn ymateb i arolwga gynhaliwyd yn 2009

    “Dylai amgylchedd y Cyfnod Sylfaen hyrwyddo darganfod acannibyniaeth a mwy o bwyslais ar ddefnyddio amgylcheddyr awyr agored fel adnodd i ddysgu plant.”

    Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru(2008)

  • 1

    Page Header

    5

    Oherwydd y pwysau amrywiol ar ysgolion i wella eutiroedd, gofynnodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru amddull newydd o weithredu. Adolygodd Cyngor DinasCasnewydd y ffordd orau y gallai hyn gael ei gyflawniar draws yr awdurdod ar safleoedd gyda gwahanolgyfyngiadau. Cydnabu gwasanaethau cefn gwladCasnewydd bod angen am ddull mwy cydlynol achefyd bod angen darparu arbenigedd i ysgolion.Datblygont brosiect newydd yn ystod diwedd 2007 adechrau 2008, gan ganolbwyntio ar gynyddubioamrywiaeth ac ehangu ar y cysylltiadau presennola wnaed gydag Addysg wrth greu’r gerddi natur.

    Cafodd y syniad ei gymeradwyo gan Gyngor CefnGwlad Cymru ac fe’i trafodwyd wedyn gyda Chynnala Chadw Tiroedd a Gwasanaeth YmgynghorolAddysg Cyngor Dinas Casnewydd, yn ogystal agathrawon Casnewydd. Yn raddol, diflannodd unrhywbryder cychwynnol ynghylch newid rhaglenni cynnala chadw, natur anghynaliadwy prosiectau blaenorol,a’r angen i newid rhywbeth a oedd eisoes yngweithio. Gallai pob parti weld y budd o edrych ardiroedd ysgolion yn eu cyfanrwydd ac yn eudefnyddio fel adnodd i addysg ac i fywyd gwyllt.

    Yn y pen draw, cynigiwyd penodi SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion fel y ffordd fwyafeffeithiol i gynorthwyo ysgolion i:

    Cynyddu bioamrywiaeth ar eu tiroedd, a; Gwneud y defnydd gorau o’u tiroedd wrth

    gyflwyno cynnwys amgylcheddol y cwricwlwmffurfiol ac anffurfiol

    Byddai’r nodau hyn yn cael eu cyflawni drwy greuSwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion a fyddai’nun pwynt cyswllt ar gyfer ysgolion ac a fyddai’ngweithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Cynghori Ysgolion,y Gwasanaethau Cefn Gwlad a Chynnal a ChadwTiroedd. Roedd angen cael gweithio ar y cyd rhwnggwasnaethau gwahanol yn y cyngor os am gaelprosiect llwyddiannus.

    Yn 2008/09, cynhaliodd Gwasanaeth Cefn GwladCyngor Dinas Casnewydd astudiaeth beilot i ffurfiolidull o wella bioamrywiaeth ar diroedd ysgolion – yprosiect Bioamrywiaeth mewn Ysgolion. Roedd hynyn cael ei gynnwys yng Ngrant Fframwaith pedairmlynedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Dechreuoddprosiect peilot Bioamrywiaeth mewn Ysgolion ymmis Ebrill 2008 ac roedd yn cael ei redeg gan un o’rswyddogion bioamrywiaeth fel rhaglen ran-amser(1½ diwrnod yr wythnos). Cyllidwyd hanner yprosiect peilot gan Wasanaeth Cefn Gwlad CyngorDinas Casnewydd a’r hanner arall gan Gyngor CefnGwlad Cymru fel rhan o Flwyddyn 1 y GrantFframwaith. Cyfanswm y gost ar gyfer y flwyddynbeilot oedd £12,000, gan gynnwys amser staff agweithredu, gydag arian cyfatebol ar gael ar gyferrhan o’r hyn.

    Cefndir i’r Prosiect Bioamrywiaethmewn Ysgolion

  • 6

    Y pedair ysgol beilot a ddewiswyd gyda chymorth yrAthro Ymgynghorol Gwyddoniaeth (arweinyddallweddol yn natblygiad y prosiect) oedd:

    Ysgol Gynradd Llanfarthin Ysgol Gynradd Millbrook Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig Ysgol Gynradd Sant GwynllywLleolir Ysgol Gynradd Llanfarthin ac Ysgol GynraddMillbrook ar gyrion Canol Dinas Casnewydd ac maegan y ddwy diroedd mawr gydag ardaloedd glaswellthelaeth. Lleolir Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrigac Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw yng nghanol yddinas ac mae gan y ddwy diroedd bach wedi’udominyddu gan arwynebau chwarae caled a waliauterfyn uchel.

    Dewiswyd y rhain er mwyn profi a all y prosiectBioamrywiaeth mewn Ysgolion wella bioamrywiaetha chyfleoedd addysgol ar diroedd ysgolion, waethbeth yw maint, cyflwr a lleoliad yr ysgol.

    Y Prosiect Peilot

    Adeiladu blychau nythu gyda gwirfoddolwyr oYmddiriedolaeth Natur Gwent yn Ysgol Gynradd SantGwynllyw.

    Railway Line

    Railw

    ay Lin

    e

    A48

    A467

    A48

    A449

    4M

    M4

    The City of NewportDinas Casnewydd

    Gogledd

    De

    DwyrainGorllewin

    NEWPORTCASNEWYDD

    St BridesLlansanffraid Gwynllwg

    MarshfieldMaerun

    CastletonCas-bach

    Lower MachenMachen Isaf

    BettwsBetws Malpas

    Y Malpas

    CaerleonCaerllion

    Town CentreCanol y Dref

    PillgwenllyPillgwenlli

    LliswerryLlyswyry

    RinglandTircylch

    CoedkernewCoedcernyw

    NashTrefonnen

    GoldcliffAllteuryn

    RedwickY Redwig

    LangstoneCarreglang

    LlanwernLlanwern

    PenhowPen-Hw

    UnderwoodDan-Y-Coed

    BishtonTrefesgob

    LlandevaudLlandefaud

    Parc SeymourLlanvachesLlanfaches

    RogerstoneTy Du

    CaerphillyCaerffili

    Torfaen

    CardiffCaerdydd

    MonmouthshireSir Fynwy

    PeterstoneLlanbedr Gwynllwg

    Llanmartin PrimaryYsgol Gynradd Llanfarthin

    St Patricks RC PrimaryYsgol Gynradd Gatholig Sant Padrig

    St Woolos PrimaryYsgol Gynradd Sant Gwynllyn

    Millbrook PrimaryNantmelin Ysgol Gynradd Millbrook

  • Aseswyd pob ardal beilot ar gyfer ei bioamrywiaethbresennol, ynghyd â’r cyfleoedd a heriau i wellabioamrywiaeth ym mhob lleoliad. Cysylltodd ySwyddog Bioamrywiaeth ag athrawon, rhieni aphlant yn yr ysgolion peilot i nodi cyfleoedd achyfyngiadau a chreu rhestr ymarferol o waith posibl.Yn dilyn hyn, roedd rhai o’r gwaith mwy heriol yncael ei wneud gan gontractwyr – e.e. cael gwared arwyneb bitwmen macadam. Roedd tasgau eraill yncael eu cyflawni gan dimau cynnal a chadw tiroeddneu, lle y bo’n briodol, gan ddisgyblion – erenghraifft, plannu chwipiau.

    Yn ystod y flwyddyn 2008/09, roedd y prosiect peilotyn llwyddiannus o ran cynyddu bioamrywiaeth ardiroedd yr ysgolion peilot drwy blannu gwrychoeddbrodorol, creu strwythurau helyg byw, hau dolyddgyda blodau gwyllt a gwneud blychau nythu. Roeddy swydd hefyd yn helpu i hwyluso gosod cylchoeddboncyffion at ddefnydd fel ystafell ddosbarth awyragored neu Ysgol Goedwig, a gwelyau uchel ar gyfertyfu llysiau.

    Roedd y prosiect peilot yn llwyddiannus wrth greuperthynas waith dda gyda’r athrawon arweiniol ymmhob ysgol ac wrth weithredu prosiectau ar lawrgwlad. Nodwyd bod cyfathrebu da rhwng yr ysgol a’rcontractwyr, neu’r ysgol a Chynnal a Chadw Tiroedd,o’r pwys mwyaf. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd rôl ySwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion yn ysefyllfaoedd hyn, trwy weithredu fel cyswllt a chreusefyllfa lle roedd gofynion ysgolion yn cael eudehongli’n gywir.

    1

    Page Header

    7

    Y Prosiect Peilot

    Disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yn helpucontractwr i blannu deildy helyg byw (Ionawr 2009), a’rdeildy ddau fis yn ddiweddarach, gan ddechrau blaguro.

    Mae Ysgol Gynradd Sant Gwynllyw yn un o hen ysgolion brics coch Fictoraidd Casnewydd gyda iard ddrilio draddodiadol acychydig o lwyni i liniaru ar ei gwedd. Ym mis Rhagfyr 2008, cafodd y tarmac ei dynnu a’r ardal ei thirlunio. Gosodwyd pridd oradd isel a ‘chylch’ boncyffion a roddwyd. Gosodwyd naddion pren o gwmpas y cylch boncyffion a heuwyd hadau blodau gwyllt ary pridd moel.

  • 8

    Casgliad y prosiect peilot oedd bod waeth beth fo maint neu leoliad yr ysgol a’i thiroedd, gellid gwellabioamrywiaeth a gwerth addysgol y tiroedd hyn ac ar isafswm cost.

    Arweiniodd llwyddiant y prosiect peilot at y penderfyniad i greu Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolionamser llawn ar gyfer Blynyddoedd 2, 3 a 4 o Grant Fframwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru (2009–2012),gan roi’r cynllun ar waith i bob un o’r 61 ysgol yng Nghasnewydd.

    Y Prosiect Peilot

    Roedd Clwb Eco Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yn helpu Cynnal a Chadw Tiroedd i blannu chwipiau er mwyn creu gwrychbrodorol ar hyd rhan o’u wal derfyn ym mis Rhagfyr 2008. Erbyn mis Medi 2009, roedd wedi gwreiddio’n dda ac roedd yndechrau mynd yn drwchus.

    Roedd gan Ysgol Gynradd Millbrook ardal a enwyd ‘The Dell’ganddynt ar waelod tir yr ysgol. Roedd yn goedlan fach wedi’ithyfu’n wyllt. Ni ddefnyddiwyd y goedlan ac roedd yn llawn osbwriel. Ym mis Rhagfyr 2008, cliriodd contractwr yr ardal,gan gymynu ychydig o goed wrth wneud felly a’u defnyddio igreu cylch boncyffion. Roedd gweddill y boncyffion amalurion yn cael eu defnyddio i greu pentyrrau cynefin. Erbynhyn, mae’r ardal yn Ysgol Goedwig a ddefnyddir yn rheolaiddgyda digon o aildyfiant prysgoediog.

  • 1

    Page Header

    Ymgysylltu ag ysgolion

    Lluniwyd adroddiad ar ganfyddiadau’r astudiaethbeilot a’r cynigion ar gyfer y camau nesaf ar gyferFforwm Penaethiaid Casnewydd ym mis Tachwedd2008 (ar gael ar-lein). Pleidleisiodd y fforwm ynunfrydol i ddal ymlaen â’r prosiect ac i geisiocytundeb yr holl ysgolion eraill.

    CyllidMae’r prosiect Bioamrywiaeth mewn Ysgolion yn caelei ariannu’n rhannol drwy Grant Fframwaith pedairmlynedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a gafwyd ganWasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Dinas Casnewydd(Gwasanaethau Gwyrdd bellach).

    Ym mlynyddoedd 2, 3 a 4 y Grant Fframwaith,darparodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru 50% ogyfanswm costau’r swydd a ragwelir (£28,000–£31,000, a oedd yn cynnwys cyflog, argostau achyllideb fechan). Sicrhawyd y 50% arall drwygynnig i ysgolion y dewis i ymuno â’r prosiect ar ffurfcytundeb lefel gwasanaeth tair blynedd o hyd.Cynigiwyd yr opsiwn i bob ysgol, o’r meithrin i’ruwchradd, pa un a oeddynt yn rhan o gytundebCynnal a Chadw Tiroedd y cyngor neu’n defnyddiocontractwr allanol. Gosodwyd y cytundeb lefelgwasanaeth ar £300 yr ysgol ar gyfer pob blwyddynrhwng 2009 a 2012. Er mwyn i’r grant gan GyngorCefn Gwlad Cymru gael ei gyfateb, roedd rhaid i 46 oysgolion gofrestru ar y cytundeb lefel gwasanaeth.Fel y digwyddodd, cofrestrodd 58 o’r 61 ysgol yngNghasnewydd.

    Cefnogi a HyrwyddoYn y cyfnod hwn, roedd y Swyddog Cynghori arWyddoniaeth (ar y pryd hynny) yn chwarae rôlallweddol wrth hyrwyddo’r gwasanaeth newydd achysylltu ag ysgolion gyda manylion y cytundeb lefelgwasanaeth newydd. Roedd penaethiaid yn adnabody Swyddog Cynghori ac yn ymddiried yn ei barn hi,ac yr oedd yn hynod o ddefnyddiol i gael ‘hyrwyddwr’ar gyfer y prosiect a oedd eisoes yn adnabyddus acyn cael ei hymddiried ym mhob un o ysgolionCasnewydd. Roedd hi’n gallu cymryd yr amser i fyndi weld penaethiaid unigol er mwyn cyflyno’r cytundeblefel gwasanaeth a rhoi esboniad pellach am yprosiect.

    Trafodwyd y cytundeb lefel gwasanaeth hefyd ymmhob cyfarfod llywodraethwyr, gan fod angen i’rddogfen gael ei harwyddo gan gadeirydd yllywodraethwyr yn ogystal â’r pennaeth.

    Dechreuodd ysgolion ddangos eu hymrwymiad i’rcynllun, ac erbyn mis Ebrill 2009 yr oedd digon oysgolion yn barod i ymrwymo er mwyn gweithredu’rcynllun. Ysgrifennwyd Adroddiad Cabinet i ofyn amgymeradwyaeth i greu’r swydd o SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion (ar gael ar-lein).

    Y swydd o fewn y cyngor

    Gallai swydd y Swyddog Bioamrywiaeth mewnYsgolion fod wedi eistedd mewn nifer o leoedd ofewn y cyngor, gan ei galluogi i fod yn eithaf hyblygac i ryngweithio gydag adrannau eraill (e.e. Cynnal aChadw Tiroedd, y Gwasanaethau Cefn Gwlad neu’rGwasanaeth Addysg). Penderfynwyd bod ypenderfyniad gorau ar gyfer Casnewydd oedd i’rswydd eistedd yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad, gansicrhau na chollwyd ffocws bioamrywiaeth y rôl acfel y gallai’r prosiect gyfrannu at dargedaubioamrywiaeth. Gan hynny, lleolir y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion o fewn yGwasanaethau Gwyrdd ym Maes GwasanaethGwasanaethau Stryd (Tiroedd a Gwasanaethau CefnGwlad yn gynt).

    Cyllid a Gweithredu

    Archwilio nentydd ar dir yr ysgol

    Adnabod coed trwy ddefnyddio allweddi

    9

  • 10

    Cyllid a Gweithredu

    Ar ddechrau’r prosiect, crewyd siart llif i gynorthwyo’r broses weithredu ac i helpu’r swyddog i wahanu’rgwahanol gamau yn y prosiect:

    Cyswllt ag Athro Ymgynghorol Gwyddoniaeth a Chynnal a Chadw Tiroedd

    Llythyrauallan atysgolion

    Ymweldag ysgol

    Cerddedy tiroedd

    Darganfod pwy yw’r cyswllt allweddol yn yr ysgolGwirio bod cytundeb lefel gwasanaeth mewn lle

    Casglu syniadau/awgrymiadauNodi gwerthusiad ecolegol

    Cymharusyniadau

    Blaenoriaethau

    Cynllun Gwaith

    Rhoi dogfen i’r ysgol ar ailymweliad

    Cynnwys crynodeb o’r prosiect a’rffordd ymlaen

    Amcangyfrifon o gostau

    Goruchwylio gwaith ar y tirMaterion bioamrywiaethCyswllt â Chynnal aChadw TiroeddClybiau Eco, cyfarfodyddstaff,Cyngor arbenigolNID gwersi

    Mewnbwn gan Gynnal a Chadw Tiroedd

    Trafodaeth / Cytundeb gydag Addysg Gwirio cynlluniau gyda’r Athro Ymgynghorol Gwyddoniaeth

    Gwirio cynlluniau gyda Chynllunio Addysg aRheolwyr Adeiladau

    Siarad ag Addysg ynghylch gwaredu tirYstyried hyfywedd a manteision o ran bioamrywiaethCyfeirio syniadau ‘drygionus’ yn ôl at Gynnal a ChadwTiroedd/Adeiladau e.e. ceisiadau am feinciau, problemaudraenio ac ati

    Cyflwyniad/Cefndir i’r project

    Egluro cylch gwaith y swyddog

    Crynodeb o’r prosesau

    Argaeledd cyllideb

    Ariannu posibl

    Taflen cynllun gweithredu

    Cyfredol – ‘Llawlyfr Tiroedd’ neu ei debyg

    Rheolwr cynnal a chadw tiroedd mewnol ac allanol a swyddogtechnegol

    Gweithwyr sy’n gyfrifol ar gyfer pob ysgol

    Ystyried cyllidebau Cynnal a Chadw Tiroedd

    Bioamrywiaeth mewn Ysgolion: Siart Llif o BrosesauCAM 1

  • 1

    Page Header

    11

    Cyllid a Gweithredu

    CAM 2

    Cyflwyno’r cynllun i’r ysgol

    Adolygu cynlluniau yndilyn ymgynghori

    Trefnu gwaith

    Mewnol

    Ymweliad yn ystod gwaith

    Cyfredol: Rheoli Tiroedd

    Cyfredol: Hyfforddiant Cynnal a Chadw Tiroedd

    Cwblhau’r gwaith ar y tir

    Mewnbwn i’r System Adrodd WeithreduBioamrywiaeth (BARS) (yn parhau)

    Gwaith ychwanegol a gwaithcynnal a chadw sy’n parhau

    Allanol

    Swyddog i drefnugwaith gydathechnegwyr Cynnala Chadw Tiroedd agweithwyr eraill

    Talwyd gan gyllidebCefn Gwlad,cyllideb DatblyguTiroedd, neu gan yrysgol

    Swyddog i gynorthwyo’rysgol i ddod o hyd igontractwyr ac i gytunomanylebau

    Yn gyffredinol, maeysgolion yn talu contractwyryn uniongyrchol. Os yw’ngymwys, gall y swyddogdalu’n uniongyrchol neu’ncael arian cyfatebol

    Pennaeth

    Staff

    Y Cyngor Eco Neu gyfuniad o’r tri

    Anfon y cynllun diwygiedig at yr ysgol

    Ystyried ffynonellau ariannu posibl

    Sicrhau bod manylebau cywir

    MEWNOL

    Trefnu a mynychu diwrnod/digwyddiad plannu

    Offer

    Cludiant os oes angen

    Planhigion

    Staff Cynnal a Chadw Tiroedd

    Y wasg os yw’n briodol

    ALLANOL

    Sicrhau bod y fanyleb yn cael ei bodloni

    Lluniau

    Y wasg os yw’n briodol

    Rheolwyr Ardal a Gweithwyr:

    • Newidiadau ynghylch trefniadau wedi’ucyfathrebu

    • Taflenni cynnal a chadw wedi’unewid/diweddaru

    • Ystyriaethau cost

    • Esboniadau a hyfforddiant

  • 12

    Gweithredu’r ProsiectCysylltodd y Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolionâ phob ysgol yn gyntaf drwy anfon llythyr ogyflwyniad ac yna ffonio i drefnu cyfarfod. Yn aml,cafwyd y cyfarfod gyda’r Pennaeth ac athro arall, ycydlynydd Ysgolion Eco o bosibl neu Arweinydd yrYsgol Goedwig. Yn aml, cymerodd yr athrawon hyn yrôl o gyswllt allweddol yn lle’r pennaeth. Roedd ycyfarfod cyntaf yn cynnwys taith gerdded dros y saflecyfan, gan nodi nodweddion a chynefinoeddpresennol a thrafod ychwanegiadau posibl. Weithiau,roedd yr athrawon yn gwybod yr hyn yr oeddynt yndymuno ei gael; ar adegau eraill, yr oeddynt yn gwblagored i syniadau. Roedd yr awgrymiadau a wnaed oran gwella bioamrywiaeth yn cynnwys plannu coed agwrychoedd, creu dolydd (ar ei ffurf symlaf o adaelglaswellt i dyfu’n hir), plannu bylbiau brodorol agwelyau glöynnod byw, creu strwythurau helyg bywa phentyrrau cynefin, ac adeiladu gwestai chwilod ablychau nythu. Trafodwyd nodweddion eraill hefyd iwella’r tiroedd mewn ffyrdd eraill, megis gosodcylchoedd boncyffion (boed yn benodol ar gyfer yrYsgol Goedwig neu fel ystafell ddosbarth awyr agoredyn unig), creu lleiniau rhandir neu welyau uchel argyfer tyfu llysiau, cael biniau compost, a gosodffensys o amgylch ardaloedd natur.

    Cafwyd adborth gan aelodau eraill o’r staff gan yrathro arweiniol, ac, mewn rhai ysgolion, mynychoddy Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion gyfarfodstaff i gynnig syniadau a hyrwyddo trafodaethau.Mewn llawer o ysgolion, roedd y Clwb Eco a’r CyngorYsgol yn rhan o’r broses o gynnig syniadau ar gyferdatblygu eu tiroedd. Weithiau, roedd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion yn cwrdd â phlant ynuniongyrchol; ar adegau eraill, byddai’r athroarweiniol yn adrodd yn ôl i’r swyddog. Roedd ynbwysig bod yn hyblyg gyda phob ysgol a’i galluogi ibenderfynu sut y hoffai fynd ati.

    Yn dilyn y cyfarfodydd cychwynnol, lluniwyd cynllungwaith gan y swyddog a’i ddychwelyd at yr ysgol argyfer gwirio a diwygio. Roedd yn y ddogfen manylionbyr am y prosiect, ei nodau, a rôl y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion. Roedd hefyd yncynnwys tabl gyda gwybodaeth am y tasgauarfaethedig fel amcangyfrifon costau, lle bo hynny’nbosibl, ac amseriadau tymhorol gweithgareddaupenodol. Nodwyd hefyd goblygiadau rheoli. Erenghraifft, ni fyddai angen llawer o newidiadau wrthreoli rhai prosiectau, ond gallai fod angen gwaithrheoli ychwanegol ar brosiectau eraill, gan arwain atgostau cynnal a chadw uwch ar yr ysgol. Gallaigofynion cynnal a chadw ychwanegol fel cynnalpyllau neu welyau uchel effeithio ar daliadau, neu,fel arall, gallai’r ysgolion gymryd cyfrifoldeb dros yrhain.

    Cyllid a Gweithredu

    Plant yn Ysgol Gynradd Llyswyry yn plannu eu gwrych(Mawrth 2009)

    Plannu gwely glöynnod byw yn Ysgol Gynradd Clytha

  • 1

    Page Header

    Trafodwyd gwaith arfaethedig hefyd gydachontractwyr cynnal a chadw’r ysgolion, p’un a oeddy rhain yn rhan o wasanaeth Cynnal a ChadwTiroedd y cyngor neu’n gontractwyr allanol. Gallai’rswyddog drafod pob prosiect ar ran yr ysgolion, fel ygallai’r contractwr fanylu ar y materion ymarferol a’rposibiliadau, yn ogystal â’r llafur, cyllid neuarbenigedd y gallent eu cynnig. Lle bo angen, roeddy contractwyr cynnal a chadw yn gallu awgrymulleoliadau mwy priodol neu ffyrdd amgen o weithio,ond hefyd roedd eu gwybodaeth am y safle a’r drefngynnal a chadw yn golygu y gallent gynnig sylwadauac atebion adeiladol. Yn ôl y gofyn, byddent hefyd yndarparu dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, ac yr oeddyntyn gallu nodi a fyddai unrhyw newidiadau i daliadaucynnal a chadw’r ysgol.

    Ymgynghorwyd â’r tîm cynllunio ac adeiladu ysgolionar ddatblygiadau mewn ysgolion, ac roeddynt yngallu tynnu sylw at unrhyw ysgol lle y gall fodproblem gyda chynlluniau plannu neu greu cynefin osafbwynt gwaredu tir.

    Yn dilyn cytundeb gan y gwahanol bartïon ar ygwaith arfaethedig, byddai’r Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion yn cysylltu â’r ysgol a’r contractwrcynnal a chadw. Lle bynnag y bo’n bosibl, roedd yplant yn ymwneud â’r prosiectau – plannu coed,plannu gerddi glöynnod byw, gwneud blychau nythu,plannu helyg, hau hadau ac ati.

    Byddai’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion ynsicrhau wedyn bod unrhyw newidiadau i drefniadaucynnal a chadw o ganlyniad i’r gwaith yn cael euhadrodd yn ôl i’r gweithwyr cynnal a chadw tiroedd.

    Trwy gydol y prosiect, bu cyswllt rheolaidd rhwng ySwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion a’r SwyddogCynghori ar Wyddoniaeth, a oedd yn gallu cynnigmewnwelediad pellach i’r gwaith a oedd yn myndrhagddo mewn ysgolion, yn enwedig, er enghraifft,gwaith a oedd yn ymwneud ag archwiliadau ar ygweill. Ar ei hymweliadau â’r ysgolion, byddai hefydyn edrych ar sut yr oedd ysgolion yn defnyddio eutiroedd o safbwynt addysg, ac felly y byddai unrhywawgrymiadau a wnaeth yn cael eu bwydo i mewn i’rgwaith arfaethedig yn ogystal.

    Cyllid a Gweithredu

    13

    Deildy helyg byw sefydledig

    Plannu bylbiau hydref

  • 14

    Ariannu’r gwaithYn dilyn y cytundeb ar ba waith oedd yn ofynnol,ariannwyd y gwaith mewn cyfuniad o ffyrdd:

    Cyllideb Cefn GwladRoedd y nifer uchel o ysgolion Casnewydd a oeddwedi ymuno â’r cytundeb lefel gwasanaeth yn creucyllideb fechan yr oedd y Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion yn gallu ei defnyddio i dalu am waithtir, adnoddau ac eitemau eraill yn ôl y gofyn(oddeutu £6,000 bob blwyddyn) i helpu ysgolion.Roedd hefyd yn galluogi’r swyddog i swmpbrynu acfelly cael nwyddau am brisiau cyfanwerthu (erenghraifft, prynu biniau compost a chasgenni dŵr ibob ysgol am brisiau llawer rhatach na phe bai’rysgol yn eu prynu nhw eu hunain). Roedd y prosiectfelly yn creu ‘gwerth ychwanegol’ annisgwyl ar gyferyr ysgolion, gan fod y niferoedd uchel yn golygu ygallent o bosibl gael llawer mwy yn ôl na’r pris o£300 yr oeddynt yn ei dalu bob blwyddyn.

    Cyllideb gwaith datblygu Cynnal a ChadwTiroedd Mae rhan o’r gyllideb Cynnal a Chadw Tiroedd addyrennir i ysgolion trwy’r gyllideb Addysg Ganologyn cynnwys canran fach ar gyfer gwaith datblygu.Mae’r arian hwn ar gael ar gyfer unrhyw waithargyfwng ac annisgwyl a allai fod ei angen, a gallhefyd gael ei ddefnyddio i ddatblygu’r tiroedd ymmha bynnag ffordd y mae’r ysgol yn ei dymuno.Mae’r gyllideb hon yn ddelfrydol ar gyfer gwelliannaubioamrywiaeth ac addysgol, ac mewn llawer oachosion roedd digon o arian yn y gyllideb hon i daluam gost y gwaith yn yr ysgolion unigol.

    Grantiau neu gyllid allanolMae’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion yngallu chwilio am arian grant ar ran ysgolion a’ucynorthwyo wrth wneud cais am arian i ddatblygu eutiroedd. Er enghraifft, yn ystod tair blynedd yprosiect, mae nifer o ysgolion wedi bod ynllwyddiannus wrth wneud cais am Grantiau Tesco,Cyllid y Loteri Fawr, a grantiau gan fanciau achymdeithasau adeiladu.

    Cyllideb yr ysgolByddai’r ysgolion hefyd yn dod o hyd i’w harian euhunain drwy ddyrannu rhywfaint o’u cyllideb atddatblygu tiroedd, trwy’r Gymdeithas Rhieni acAthrawon neu gronfeydd grwpiau ‘Cyfeillion’, neudrwy weithgareddau codi arian. Er enghraifft,rhoddodd un ysgol arian a godwyd yn eu FfairNadolig tuag at greu gwelyau uchel. Mewn un arall,gofynnont i blant ddod â 50c i mewn i blannucoeden yn y gwrych o amgylch eu maes chwarae.

    Cyllid a Gweithredu

    Roedd Ysgol Gynradd Sant Iwlian yn gallu defnyddio eucyllideb gwaith datblygu i gael twnnel helyg, a blannwyd ganGynnal a Chadw Tiroedd ym mis Mawrth 2011.

    Gwelyau llysiau uchel yn Ysgol GynraddGatholig Sant Joseff – roedd yr arian a godwydyn eu Ffair Nadolig yn cael ei gyfateb gan ySwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion.

  • 15

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol Feithrin FairoakMae Ysgol Feithrin Fairoak yn ysgol feithrin eithafmawr yn agos at ganol y ddinas. Mae nifer o blantyr ysgol yn dod o gefndiroedd dan anfantaiseconomaidd, gyda nifer o’u teuluoedd yn byw mewntai â chymorth. Mae gan yr ysgol adeilad o fricscoch, arddull Fictoraidd draddodiadol, a thiroeddbach sy’n faes chwarae tarmac yn bennaf, fel mewnllawer o hen ysgolion y ddinas. Mae yno sgwâr bachiawn o laswellt a waliau terfyn uchel. Mae’r ysgolmewn amgylchedd trefol, wedi’i hamgylchynu gandai, ffyrdd a busnesau.

    Gyda brwdfrydedd a dychymyg y pennaethpresennol, mae’r tiroedd wedi cael eu trawsnewid ifod yn amgylchedd ysbrydoledig a diddorol ar gyferplant yn y feithrinfa. Fe’u hanogwyd gan y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion i ddatblygu ardaloeddpellach yn y tiroedd. Gwnaed awgrymiadau ynghylch

    ychwanegu ychydig o nodweddion a fyddai’nhyrwyddo eu datblygiad.Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedicreu gwelyau uchel, twnnel polythen/sied botio, cwtieir ynghyd â ieir bantam, ‘cuddfan’ adar ac ardalsaffari natur, bwrdd adar, porthwyr a blychau nythu,pentyrrau boncyffion, perllan mewn potiau, potiau oberlysiau, blodau, ac unrhyw beth arall y gallechfeddwl amdano. Mae’n dangos yr hyn y gellir eiwneud mewn lle mor fach a di-fflach! Bore Sadwrn,maent yn rhedeg clwb garddio ar gyfer rhieni a’uplant, ac mae wedi profi mor boblogaidd fel yn amleu bod yno ymhell i’r prynhawn. Erbyn hyn, mae’rplant yn tyfu llysiau gartref gyda’u rhieni, rhywbethnad oedd llawer ohonynt wedi ei wneud o’r blaen. Mae’r ysgol feithrin hefyd yn defnyddio coetir trefollleol, Coed Oaklands, sydd tua 1 km o’r feithrinfa.Mae’r cyngor wedi gosod cylch boncyffion ar y saflehwn ac mae nifer o ysgolion lleol eraill yn eiddefnyddio hefyd. Ym mis Mawrth 2011, trefnwydgwaith gwella yn y coetir gan y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion i drwsio’r cylchboncyffion (gwaith a ariannwyd gan gyllidebau’rSwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion a’r SwyddogCoed).Ychydig o ymweliadau y flwyddyn gan y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion yw’r cyfan sydd eiangen yn yr ysgol hon, i rannu ambell syniad a’ucynorthwyo wrth ddefnyddio’r hyn sydd ganddynteisoes. Y cyflenwad o adnoddau yw’r cyfraniadallweddol yma, fel mynediad i finiau compost achasgenni dŵr ‘am ddim’, a’r gwelliannau i’w coetirlleol. Unrhyw waith a wnânt ar eu tiroedd y maentyn eu hariannu eu hunain neu drwy ofyn amgyfraniadau gan rieni/athrawon.

    Gardd synhwyraidd mewnpotiau

    Mae’r plant yn bwydo’r ieir achasglu’r wyau. Rhwngsesiynau’r bore a’r prynhawn,mae’r ieir yn crwydro yn yrardd. Mae eu hwyau yn caeleu gwerthu, eu gwneud ynfrechdanau, a’u defnyddiowrth bobi cacennau.

    Mae eu hardal glaswellt fachyn cynnwys cylch boncyffion,deildy helyg, a darn cloddioym mhen pellaf y gornel, ynogystal â digon o foncyffionac ymyl bach ar gyferglöynnod byw.

    Gwesty chwilod, tŷ draenog,porthwyr adar a bath adar.Mae’r plant yn weithredolwrth gasglu deunyddiau iychwanegu at y gwestychwilod.

    Perllan mewn potiau!

    Ardal saffari natur – “dewchyma i archwilio, dod o hyd ichwilod, adeiladu boncyffion,ymchwilio”.

  • 16

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol Gynradd MillbrookMae Ysgol Gynradd Millbrook yn ysgol o faintcanolig a leolir ar stad dai Betws ar ymyl gogledd-orllewin Casnewydd. Mae’r rhan fwyaf o’r ystad yndai cymdeithasol, ac mae Betws yn un o ardaloeddCymunedau yn Gyntaf Casnewydd. Mae hawl gantua 30% o’r plant gael prydau ysgol am ddim – ynuwch na’r cyfataledd cenedlaethol a lleol. Mae ganyr ysgol diroedd mawr o fwy na dwy erw, sy’ncynnwys cae mawr, llethrau glaswellt, coedlanfechan, a meysydd chwarae tarmac. Mae NantBetws yn rhedeg yn agos i dir yr ysgol ar y gogledda’r dwyrain, ac mae ardal goedlan yr ysgol wedi’ihamgylchynu gan ffos wlyb. Nid yw Camlas SirFynwy a Brycheiniog yn bell o’r ysgol.

    Roedd Ysgol Gynradd Millbrook yn un o’r ysgolion agymerodd ran yn y prosiect peilot Bioamrywiaethmewn Ysgolion, ac yn ystod y flwyddyn gyntafhonno, fe drowyd eu coedlan fechan, ‘The Dell’, ynYsgol Goedwig. Cliriodd contractwr rhai o’r haenbrysgwydd ac fe gymynodd nifer fach o goed ermwyn creu llannerch ar gyfer cylch boncyffion.Creuwyd y cylch boncyffion o goed a gymynwyd, agadawyd y coed a malurion a oedd yn weddill ar ysafle mewn pentyrrau cynefin. Lleolir y goedlan arwaelod llethr serth sy’n disgyn o’r cae chwarae, acmae wedi’i hamgylchynu gan ffos wlyb. Ffurfiwydgrisiau yn y llethr ac adeiladwyd pont dros y ffos ermwyn creu mynediad hawdd. Yn ogystal, roedd yllethr o laswellt ger yr Ysgol Goedwig yn cael eigadael i dyfu fel dôl (gan gael ei thorri bob blwyddyn)ar ôl trafodaeth gyda’r Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd.Mae’r Ysgol Goedwig yn cael ei defnyddio’n rheolaiddbellach gan grwpiau – unwaith yr wythnos ar gyfer yrYsgol Goedwig yn benodol ac fel ystafell ddosbarthawyr agored gyffredinol ar adegau eraill o’r wythnos.Ariannwyd y prosiect hwn gan gyllideb y prosiectPeilot, a oedd yn sylweddol uwch fesul ysgol nag yny blynyddoedd diweddarach pan oedd yn cael eidosbarthu rhwng mwy o ysgolion.

    Grisiau a phont yn arwain i mewn i’r Ysgol Goedwig

    Gwelyau uchel yn cael eu defnyddio’n llawn

  • Ers i’r ysgol gyflwyno rhaglen lawn y prosiectBioamrywiaeth mewn Ysgolion, mae wedi bod nifer owelliannau eraill ar ei thiroedd. Creuwyd chwe gwelyuchel ar gyfer tyfu llysiau gan ‘Roots’, rhan o Vision21 (Cyfle Cymru) – prosiect menter gymdeithasolsy’n cynnig sgiliau a hyfforddiant i oedolion aganableddau dysgu. Lleolir prosiect ‘Roots’ ynRhandiroedd Betws ac mae’n darparu hyfforddiantgarddwriaethol a chynnal a chadw gerddi. Roeddhyn yn creu cyswllt buddiol iawn rhwng yr ysgol a’rgymuned leol. Ariannwyd hyn drwy gyllideb ySwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion ymMlwyddyn 2.

    Plannwyd strwythur helyg yn yr ysgol hefyd – twnnelsy’n arwain i mewn i gromen a blannwyd ym misMawrth 2009. Ariannwyd y helyg drwy gyllidebdatblygu tiroedd yr ysgol.

    Mae adroddiad arolygiad Estyn ar yr ysgol yn gynnaryn 2009 yn nodi bod “y datblygiad diweddar oleoliad Ysgol Goedwig yn y tiroedd yn gwellacyfleoedd dysgu yn sylweddol”, gan gadarnhau’r farnbod datblygu tiroedd ysgol yn chwarae rhan bwysigyn addysg plant.

    Eu prosiect mwyaf diweddar oedd creu gardd gorsgan y Clwb Eco. Mae ganddynt ardal wlyb naturiolyn eu cae (lle y plannwyd y helyg) yr oedd arnynteisiau troi’n gors. Cwrddodd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion â’r Clwb Eco i siaradam ddyluniad y gors, ac aeth pawb allan ibenderfynu pa mor fawr yr oeddynt am iddi fod. Yna,ym mis Mai 2011, cloddiodd y Clwb Eco y gors euhunain (profiad mwdlyd iawn!). Darparodd llafur gany Clwb Eco eu hunain ac roedd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion yn darparu’r arian argyfer planhigion iddynt.

    Mae Ysgol Gynradd Millbrook wedi bod ynllwyddiannus hefyd wrth fod yn rhan o brosiect TyfuPerllannau Dysgu drwy Dirweddau. Ers mis Medi2010, bu swyddog Dysgu drwy Dirweddau yngweithio gyda nhw fel eu bod yn dysgu am fathau oafal, dylunio’r berllan, a chael cymorth i blannu euperllan eu hunain (bydd y plannu yn digwydd arddechrau 2012). Mae’r holl arian ar gyfer y prosiecthwn wedi dod o’r cynllun Dysgu drwy Dirweddau.

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Cynnal eu cromen helyg

    Nodi ffiniau’r gors cyn dechrau cloddio

    Yn bwrw iddi gyda’r cloddio

    17

  • 18

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol Gynradd LangstoneMae Ysgol Gynradd Langstone yn ysgol weddol fawra leolir yn ward wledig Langstone, ardal freintiedigyn economaidd ar ymyl ddwyreiniol Casnewydd.Mae ganddynt diroedd mawr o dros ddwy erw.Mae’r tiroedd yn cynnwys cae chwarae gyda chryndipyn o le o’i gwmpas, ‘Ystafell Ddosbarth Natur’ (addatblygwyd ganddynt gydag arian y Loteri Fawr), adau faes chwarae. Mae caeau a nifer fach o dai oamgylch y tiroedd.

    Yn ystod tair blynedd y prosiect Bioamrywiaethmewn Ysgolion, bu gan yr ysgol Bwyllgor Ecogweithgar a brwdfryig sydd wedi cymrydperchnogaeth dros nifer fawr o brosiectau ar dir yrysgol. Ar ôl trafodaethau gyda’r SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion, mae’r Cydlynydd Ecoa’r pwyllgor wedi hau hadau blodau gwyllt i greudôl/ardal glöynnod byw ar lethr laswelltog, heulogsydd heb ei defnyddio; wedi trefnu i welyau uchelgael eu creu – digon i gael un am bob dosbarth; awedi plannu perllan a hau hadau blodau gwyllt arlethr arw a grewyd ar ôl i faes parcio newydd gael eiadeiladu. Mae’r ddôl glöynnod byw yn ffynnu, acymddengys bod y berllan wedi sefydlu’n dda. Mae’rgwelyau uchel yn cael eu defnyddio’n gyson gan bronbob dosbarth ac mae’r plant yn cynaeafu a gwerthuneu fwyta y cynnyrch y maent yn ei dyfu. Ariannwydy prosiectau hyn i gyd gan yr ysgol a chyflawnwyd yrhan fwyaf o’r gwaith cynnal a chadw gan gontractwrallanol.

    Ar y cyd â’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion,mae gwrych brodorol wedi cael ei blannu (arddiwrnod o eira ym mis Chwefror 2010!) a gwelyglöynnod byw ei adfywio (ar ddiwrnod cynnes, hyfrydym mis Mehefin 2011). Ariannwyd y ddau brosiecthyn gan gyllideb y Swyddog Bioamrywiaeth mewnYsgolion. Mae’r swyddog hefyd yn cymryd rhanweithredol yn Niwrnod Eco blynyddol yr ysgol – gangynnal gweithgareddau yn Ystafell Ddosbarth Naturac ym mhob rhan o’r tiroedd, gan gynnwys adnabodcoed, hela chwilod ac adnabod blodau gwyllt ynystod 2010.

    Bydd Ysgol Gynradd Langstone yn mynd am wobrblatinwm Eco-Sgolion yn 2012, ac mae cynlluniau iailblannu ac adfywio’r Ardd Synhwyraidd yngNghyfnod Allweddol 1 ac i wneud gwaith cynnal achadw ar y twnnel helyg. Mae’r Clwb Eco yn ybroses hefyd o arolygu’r tiroedd i gyd er mwyn creuproffil o fioamrywiaeth yn yr ysgol a chreu mapelectronig o’r tiroedd sy’n gysylltiedig â’r data agasglwyd.

    Plannu gwrych yn yr eira

    Gwelyau uchel yn ffynnu

  • 19

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol Gynradd MaesglasLleolir Ysgol Gynradd Maesglas yn ne-orllewinCasnewydd. Mae’r ysgol yn rhannu ei chae chwaraemawr gydag Ysgol Arbennig Maes Ebwy ac maecysylltiadau agos rhwng y ddwy ysgol. Mae ardalMaesglas yn ardal Cymunedau yn Gyntaf yngNghasnewydd, ac mae anfantais gymdeithasol ynrhemp yno. Mae hawl gan tua 50% o ddisgybliongael prydau ysgol am ddim, sy’n llawer uwch na’rcyfartaledd lleol a chenedlaethol.

    Mae gan yr ysgol gae mawr o’i blaen, ardal lai olaswellt yn y cefn, a dau faes chwarae tarmac. Mae’rysgol yng nghanol stad tai Maesglas ac yn denufandaliaeth – mae tiroedd yr ysgol yn cael eu difrodiyn rheolaidd.

    Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae’r ysgol wediceisio datblygu ei thiroedd mewn sawl ffordd. Nidoes athrawon gan yr ysgol sydd wedi’u hyfforddi iddysgu mewn Ysgol Goedwig, ond mae cylchboncyffion wedi cael ei osod i’w helpu wrth ddarparuaddysg awyr agored. Fel rhan o hyn, plannwyd niferfach o goed a llwyni hefyd, ond yn anffodus nid oeddy rhain yn goroesi’r fandaliaid. Bydd mwy yn cael euplannu yn ystod gaeaf 2011/12. Ariannwyd y cylchboncyffion a’r plannu coed gan gyllideb datblyguCynnal a Chadw Tiroedd a chyllideb y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion.

    Yn ystod tymor haf 2011, gweithiodd y dosbarthderbyn ar bwnc anifeiliaid mân, gan weithio gyda’rSwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion i greu plastyanifeiliaid mân neu balas chwilod. Casglodd y staff aphlant lawer iawn o ddeunydd i lenwi’r palas, adarparodd y Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgoliony paledi a deunydd ychwanegol. Nid oedd cost yngysylltiedig â’r prosiect hwn gan mai dim onddeunyddiau a ailgylchwyd neu gasglwyd oedd yncael eu defnyddio, ac felly roedd y prosiect yn galwam ymrwymiad amser yn unig.

    Mae gan yr ysgol bedwar gwely uchel a adeiladwydyn ystod haf 2011, un ar gyfer pob un o’rdosbarthiadau Cyfnod Allweddol 1 a gwely palu, acos bydd y rhain yn llwyddiannus, bydd mwy yn dilynar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Ariannwyd y rhain gangyllideb gwaith datblygu cynnal a chadw tiroedd yrysgol.

    Symud ymlaen i ail haen y plasty anifeiliaid mân – dewis paddarnau o risgl sy’n addas

    Y palas gorffenedig

  • 20

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol Iau MiltonLleolir Ysgol Iau Milton yn Ward Ringland,Casnewydd, ar ymyl yr ardal dinas fewnol. Mae’rardal yn un o un ar ddeg o ardaloedd Cymunedauyn Gyntaf yng Nghasnewydd ac mae ganddi lefeluchel o ddiweithdra ac anfanteision economaidd-gymdeithasol sylweddol. Mae hawl gan 46% oddisgyblion gael prydau ysgol am ddim, yn llaweruwch na’r cyfartaledd lleol a chenedlaethol.

    Mae’r ysgol yn rhannu rhan o’i safle gyda’r ysgolfabanod gyfagos, ond mae’r rhan fwyaf o’r tiroedd yncael eu defnyddio yn annibynnol ar ei gilydd. Maegan yr ysgol iau ardal o randiroedd sydd wedi’idatblygu’n dda – datblygwyd yr ardd ‘Dig for Victory’fel rhan o brosiect hanes ar yr Ail Ryfel Byd – acmae’r ysgol wedi bod yn datblygu garddamgylcheddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.Erbyn hyn, mae gan yr ardd amgylcheddol ddôl facha gardd gors ynghyd â phorthwyr adar a blychaunythu.

    Creuwyd yr ardd gors yn 2009 gyda chymorth DŵrCymru fel rhan o brosiect cydweithredol allwyddiannus gyda’r ysgol. Roedd un ar ddeg oweithwyr Dŵr Cymru yn cymryd rhan mewn rhaglenhyfforddi a datblygu ym maes rheoli, ac roedd angenarnynt brosiect gwirfoddol y gallent ei gyflawni igwblhau eu hyfforddiant. Drwy gysylltu â ThîmAddysg Dŵr Cymru, cafodd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion wahoddiad i ddewisprosiect a allai fod o ddiddordeb i’r hyfforddeiondatblygu ym maes rheoli gymryd rhan ynddo. RoeddYsgol Iau Milton eisoes wedi mynegi diddordebmewn creu gwlyptir yn eu gardd amgylcheddol, acroedd teimlad y byddai’n brosiect delfrydol ar gyfer ygŵrp. Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn ei chael ynddefnyddiol iawn wrth gael rhywun a oedd eisoesmewn cysylltiad â’r ysgol gyda’r gallu i gyflwyno’rprosiect a threfnu’r cyfarfodydd cychwynnol gyda’rathrawon perthnasol.

    Yr ardd ‘Dig for Victory’ Y ddôl yng ngarddamgylcheddol yr ysgol

    Safle’r gors Gosod y pibellau

    Ôl-lenwi’r gors

  • 21

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Roedd Tîm Dŵr Cymru yn awyddus i ddod o hyd iffynhonnell ddŵr gynaliadwy y byddai’n bwydo’rgwlyptir a chynnal lefelau dŵr drwy gydol yflwyddyn. Gan dynnu ar ystod o sgiliau rheoli dŵr apheirianneg, buont yn cynllunio ateb yr oedd yndechnegol unigryw ac yn ymarferol i’w adeiladu a’igynnal a chadw. Mae’r ardd gors yn cael ei bwydogan dair casgen, ac mae lefel y dŵr yn yr ardd gorsyn cael ei rheoli gan bêl-falf y gellir ei haddasu gydathri thap ar wahanol lefelau.

    Ym mis Medi 2009, rhoddodd Tîm Dŵr Cymru le i’rplant yn y prosiect, gan esbonio’r hyn yr oeddynt ynei wneud a pham, a threfnu cystadleuaeth ar gyfer yplant i ddewis y planhigion i fynd yn y gors. Creuwydyr ardd gors yn ystod wythnos hanner tymor misHydref 2009, a chafodd y safle ei adael wedyn tanwanwyn y flwyddyn ganlynol cyn iddo gael ei blannu.Roedd plant yn cymryd rhan wrth blannu’r ardd agosod bwrdd dehongli. Roedd y Clwb Eco ynymwneud llawer wrth ddysgu am yr ardd gors a sut iofalu amdani a chynnal y lefelau dŵr, ac erbyn hyn ymaent yn dda iawn o ran gwirio bod y lefelau dŵr ynaddas.

    Ariannwyd y prosiect yn gyfan gwbl gan DdŵrCymru. Trefnodd aelodau o’r tîm ddigwyddiadau codiarian a chawsant roddion elusennol o arian,deunyddiau, offer a bôn braich gan nifer ogontractwyr Dŵr Cymru. Roedd Dŵr Cymru hefyd ynymrwymo dau ddiwrnod o amser staff i’r prosiect argyfer pob aelod o’r tîm. Mae’r lluniau yn dangosdatblygiad yr ardal dros y pum diwrnod cyntaf, acyna y diwrnod plannu yng ngwanwyn 2010.

    Y diwrnod plannu

    Yr ardd gors orffenedig –rhowch amser iddi lenwi!

    Gwirio’r panel dehongli

  • 22

    Astudiaethau AchosBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Ysgol BasalegMae Ysgol Basaleg yn ysgol uwchradd a leolir ynWard Graig, Casnewydd, i’r gorllewin o’r ddinas.Mae mwyafrif y disgyblion heb fod o gefndiroeddbreintiedig neu gefndiroedd anfreintiedig, ac maehawl cael prydau ysgol am ddim gan 4% ohonyntyn unig. Mae gan yr ysgol diroedd helaeth o dros 20erw, gan gynnwys yn bennaf caeau chwarae mawr,ond mae ganddynt hefyd berllan fach ac maent yngwneud nifer o ddatblygiadau sylweddol. Erenghraifft, maent wedi adeiladu ystafell ddosbarthawyr agored – cylch boncyffion a amgylchynnir gan‘wrych’ helyg – a adeiladwyd cyn i’r SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion fod yn ei swydd.Mae gan yr ysgol hefyd Bwyllgor Eco gweithgar abrwdfrydig iawn, ac mae wedi cael Baner Werddam yr ail dro.

    Ers i’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion fodyn ei swydd, mae’r ysgol wedi datblygu dôl fawr(cyllideb Cynnal a Chadw Tiroedd), gosod tri gwelyuchel (cyllideb Cynnal a Chadw Tiroedd) gydachasgenni dŵr (cyllideb y Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion) a datblygu eu ‘Diwrnod Mawr yTiroedd’ i gynnwys mwy o weithgareddau. Maenthefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth godi arian ibrynu a gosod tyrbin gwynt ar y safle.

    Mae ‘Diwrnod Mawr y Tiroedd’ yn ddiwrnodblynyddol a drefnir ar gyfer Blwyddyn 9, lle mae’rmyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddauallgyrsiol sy’n gysylltiedig â’r tiroedd am ddauddiwrnod. Mae’r ysgol yn gwahodd sefydliadauallanol fel Ymddiriedolaeth Natur Gwent, y ComisiwnCoedwigaeth, Cadwch Gymru’n Daclus, Dŵr Cymrua Chyngor Dinas Casnewydd i gymryd rhan. Mae’rmyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau felarolygu dolydd, adnabod coed, samplu nentydd achodi sbwriel, yn ogystal â gweithgareddau YsgolGoedwig fel coginio ar dân gwersyll. Dros y tairblynedd diwethaf, mae’r Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion wedi cynnal sesiynau samplu pyllaua sesiynau Ysgol Goedwig – diogelwch tân, coginio ardân gwersyll a chynnal a chadw helyg.

    Samplu nentydd gyda Dŵr Cymru

    Arolygu dolydd – cymharu glaswelltir sydd wedi’i dorri agardaloedd heb eu torri

  • 1

    Page HeaderGwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Yn ogystal â gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolionar eu tiroedd a chyda Chynnal a Chadw Tiroedd,mae gan y Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolionnifer o swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill.

    Wythnos EcoErs 2008, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedicynnal ‘Wythnos Eco’ ar gyfer pob ysgol yngNghasnewydd ym Mhlanhigfa Tŷ Tredegyr, un ofeithrinfeydd planhigion y Cyngor. Mae’nddigwyddiad wythnos o hyd, a gynhelir yndraddodiadol ym mis Mehefin, sydd wedi datblygudros amser i gynnig gweithgareddau mewn ystod obynciau fel ailgylchu, garddio, ecoleg achynaliadwyedd. Fe’i hanelir at blant o oedranCyfnod Allweddol 2 a diwedd Cyfnod Allweddol 1.Mae’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion wedibod yn cymryd rhan yn yr Wythnos Eco ers 2009 ymmhabell fawr y ‘Cefn Gwlad’, gan ddarparugweithgareddau fel gwneud bathodynnau pren ablychau teimlo a chwarae gemau cadwyn fwyd.Yn 2010, roedd y Swyddog Bioamrywiaeth mewnYsgolion yn cael mwy o ymwneud â threfnu’rdigwyddiad. Oherwydd y berthynas waith agos gyda’rysgolion a greuwyd yn ystod y blynyddoeddblaenorol, roedd y swyddog yn cael y gwaith oarchebu’r ysgolion a threfnu bysiau ar gyfer ydigwyddiad. Yn newydd yn 2010, cynhelodd un o’rwardeiniaid cefn gwlad weithgareddau byw yn ygwyllt, gwahoddodd y Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion Ymddiriedolaeth Natur Gwent a’rRSPB i ddod draw am yr wythnos, a chreodd yrAdran Cefn Gwlad ardd bywyd gwyllt yn y blanhigfaa oedd yn caniatáu i weithgaredd am gynefinoeddgael ei gynnal.Yn 2011, roedd y swyddog yn drefnydd arweiniol ydigwyddiad, gan archebu’r darparwyr, yr ysgolion a’rbysiau, cyd-drefnu’r wythnos, a rheoli’r gyllideb amaterion Iechyd a Diogelwch. Yn 2011,penderfynwyd y byddai’r wythnos yn cael ei chynnalym mis Medi, gan dynnu pwysau oddi ar weithwyr yblanhigfa sy’n brysur iawn yn ystod mis Mehefingydag arddangosfeydd gwelyau blodau.Mae’r Wythnos Eco wedi esblygu dros y pedairmlynedd y mae wedi bod yn digwydd, ac er bodllawer o’r darparwyr wedi bod gyda ni o’r dechrau,mae rhai wedi ymuno â ni ar hyd y ffordd. Erbynhyn, mae’r wythnos yn cynnwys cyfraniadau ganYmddiriedolaeth Natur Gwent, yr RSPB a DŵrCymru, Noddfa Tylluanod Glyn Ebwy ac AnimalZone, gwenynwyr lleol, ‘5 for life’ (sy’n hyrwyddobyw’n iach), seiri coed gwyrdd ac arbenigwyr arsgiliau byw yn y gwyllt. Mae adrannau mewnol ycyngor hefyd yn cynnal gweithgareddau ar ailgylchu,bioamrywiaeth, cynefinoedd, cadwyni bwyd,

    rhandiroedd, a phlannu basgedi crog i fynd yn ôl âhwy i’r ysgol. Yn 2011, roedd tua 1,200 o blant ynymweld â’r Wythnos Eco dros y pum diwrnod, o 27o ysgolion ar draws Casnewydd.Mae’r arian ar gyfer y digwyddiad hwn yn dod o nifero ffynonellau. I ddechrau, daeth o gyllideb graidd ycyngor, ond erbyn 2011, nid oedd y gyllideb hon argael, ac felly defnyddiodd y Gwasanaethau Gwyrdd y£6,000 o Grant Fframwaith Cyngor Cefn GwladCymru ar gyfer y digwyddiad. Am y blynyddoeddcyntaf, roedd y digwyddiad yn rhad ac am ddim i’rysgolion, ond yn 2010, penderfynwyd y byddai ffinominal yn cael ei chodi ar ysgolion, fel cyfraniad atgostau cludiant. Erbyn 2011, gofynnwyd i’r ysgoliondalu £3.50 y plentyn, a oedd yn talu am y bysiau i’rdigwyddiad ac yn ôl, yn ogystal â’r hollweithgareddau, a dau fasged crog i’r ysgol.Rhoddodd hyn gyfanswm cyllideb o £10,000 argyfer y digwyddiad (£6,000 o grant Cyngor CefnGwlad Cymru, £4,000 o gyfraniadau gan ysgolion).Roedd yr ysgolion yn gallu defnyddio cyllideb gwaithdatblygu Cynnal a Chadw Tiroedd i dalu am ydigwyddiad, felly nid oedd y rhan fwyaf o ysgolionallan o boced.

    Y tu allan i babell fawr yCefn Gwlad yn ystod yrWythnos Eco.

    Dysgu sgiliau byw yn y gwylltac archwilio’r ardd bywydgwyllt yn y cefndir.

    23

    Yr ardd bywyd gwyllt newydd ei chreu, ynghyd â gwestychwilod, pentwr boncyffion a phwll.

  • 24

    Gwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn

    Yn y gorffennol, roedd Gwasanaeth Cefn GwladCyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ymweliadauaddysgol rheolaidd i Warchodfa Leol Natur Allt-yr-ynn, ond yn ddiweddar roedd nifer yr ymweliadauhyn yn cael eu lleihau, ac yn y pen draw eu stopio,oherwydd pwysau cynyddol ar staff o gyfeiriadaueraill. Ym mis Ebrill 2011, roedd yr ymweliadau hynyn cael eu hadfywio ar raddfa lai gan y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion, y SwyddogBioamrywiaeth a’r Wardeiniaid Cefn Gwlad. Trefnoddy Swyddog Bioamrywiaeth i’r cylch boncyffion gael eidrwsio ac i un ychwanegol gael ei osod. Roeddllwyfan archwilio pyllau hefyd yn cael ei osod drosun o’r pyllau.

    Erbyn hyn, cynigir sesyniau dwy awr yn wythnosol arfore Gwener i ddosbarthiadau o 30 o blant, sydd argael ar sail y cyntaf i’r felin. Mae’r sesiynau yn caeleu darparu am ddim, ond mae’n rhaid i’r ysgolionwneud eu ffordd eu hunain i’r warchodfa. RhwngPasg 2011 i haf 2012, roedd bron pob un o’rsesiynau ar gael yn cael ei harchebu, gan arwain attua 300 o blant yn cael profiad o ymweld â’rWarchodfa Natur Leol. Mae pob sesiwn yn cynnwysdau aelod o staff ar sail gylchdroadol. Mae’r cynnwysyn seiliedig ar gyflwyniad i’r warchodfa, gydagweithgareddau mewn gwahanol fannau fel bod ygrŵp yn cerdded trwy’r coetir a’r dolydd. Rydym ynedrych ar y gwahanol gynefinoedd ar y safle ac ynarchwilio’r warchodfa gan ddefnyddio ystod osynhwyrau. Mae’r sesiynau yn addas ar gyfer plant ooedran Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2,gyda’r arweinydd yn newid y gweithgareddau fel ybo’n briodol.

    ‘Grounds for Learning’

    Ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 o Grant FframwaithCyngor Cefn Gwlad Cymru, mae’r SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion wedi cynhyrchucyhoeddiad i gynorthwyo ysgolion o’r enw ‘Groundsfor Learning’. Fel arfer, fe’i cynhyrchir ddwywaith yflwyddyn, yn y tymor hydref a’r tymor gwanwyn, felffordd o roi gwybodaeth i bob ysgol ar yr un pryd.Mae’n cynnwys manylion am ddigwyddiadaucenedlaethol, pethau i’w gwneud ar y tiroedd adeghonno’r flwyddyn, ac awgrymiadau amweithgareddau. Mae pob copi ar gael ar-lein.

    Archwilio’r coetir yngNgwarchodfa Natur Allt-yr-ynn.

    Edrychwch ar yr hyn syddgennyf!

  • 1

    Page Header

    25

    Gwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Coed Oaklands

    Mae Coed Tirderw, neu Barc Coetir, fel y’i gelwirhefyd, yn ddarn o goetir trefol a man gwyrdd sy’ncael ei werthfawrogi’n fawr gan y trigolion lleol. Fe’illeolir yn Ward Beechwood o’r ddinas ac, o faint 2.4hectar yn unig, nid yw mor fawr â rhai o’r parciaulleol eraill, ond mae’n adnodd gwerthfawr ar gyfer yrardal y mae wedi’i leoli ynddi. Am nifer oflynyddoedd (cyn i’r Swyddog Bioamrywiaeth mewnYsgolion fod yn ei swydd), mae wedi bod cylchboncyffion yn y coetir ar gyfer defnydd gan ysgolionlleol. Fe’i gosodwyd gan y cyngor ar gais YsgolGynradd Gatholig Sant Joseff, ac mae hefyd yn caelei ddefnyddio gan Ysgol Gynradd Eveswell ac YsgolFeithrin Fairoak. Mae’r rhain i gyd yn llai nag 1 kmo’r coetir. Yn achos Ysgol Gynradd Eveswell, mae’rysgol yn 300 o fetrau yn unig o’r fynedfa i’r coed.

    Fel llawer o fannau agored trefol, mae Coed Tirderwyn dioddef o fandaliaeth, ac mae’r cylch boncyffionyn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer pobl ifanc. Oganlyniad, dros y blynyddoedd y mae’r boncyffionwedi cael eu rhoi ar dân, eu dynnu oddi ar eugosodiadau diogel, ac eu gorchuddio â graffiti. Maemynediad i’r coetir wedi bod yn wael iawn hefyd amnifer o flynyddoedd – roedd llethrau serth a mynedfagreigiog yn ei wneud yn anhygyrch i lawer. Yn gynnaryn 2011, defnyddiodd y Tîm Gwyrdd (yGwasanaethau Cefn Gwlad yn gynt) eu GrantFframwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru i wneud rhaigwelliannau i’r safle ar ffurf gât mochyn newydd,grisiau a chylch boncyffion newydd.

    Ym mis Mawrth 2011, roedd y Maer a Chynghorwyrlleol, yn ogystal â thrigolion lleol a phlant o’r tairysgol leol, yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad plannucoed i ‘agor’ y fynedfa a’r cylch boncyffion newydd.Plannwyd cymysgedd o 70 o goed brodorol (Coryllus

    avelana, Prunus avium, Betula pendula) a 50 ofriallu yn agos at fynedfeydd i’r coetir.

    Mae’r cylch boncyffion yng Nghoed Tirderw yn denufandaliaeth yn rheolaidd.

    Agoriad Coed Tirderw gyda’r Maer a Chynghorwyr lleol aphlant ysgol

    Mynediad gwell i’r coetir, a’r cylch boncyffion ar ôl iddo gaelei atgyweirio a’i adfer.

  • 26

    Gwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Cyfleoedd Hyfforddi

    Bu’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion yncwblhau cwrs Lefel 2 Rhwydwaith y Coleg Agored(Cynorthwyydd Ysgol Goedwig) yn ystod gaeaf2009/10. Diben y cwrs hwn oedd i helpu’r swyddogcael dealltwriaeth lawn o egwyddorion a gofynionYsgolion Coedwig, ac felly bod â’r gallu i gynorthwyoysgolion yn well yn eu datblygiad. Fel cynorthwyyddcymwys, gall y swyddog hefyd gynorthwyo ysgolionwrth gyflwyno eu Hysgolion Coedwig, gangynorthwyo ar fyr rybudd os ar gael mewn achosiono salwch neu absenoldeb staff eraill. Nid yw’rswyddog yn cael ei ofyn yn aml i wneud hyn – tuachwe sesiwn ers cwblhau’r cwrs.

    Mae’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion hefydwedi cwblhau hyfforddiant mewn strwythurau helygbyw. Roedd y cwrs yn gyfle delfrydol i hyfforddi staffCyngor Dinas Casnewydd yn yr hyn sy’n prysur ddodyn ychwanegiad poblogaidd i diroedd ysgolion. Trwydderbyn y hyfforddiant hwn, mae timau Cynnal aChadw Tiroedd ysgolion yn gallu cynnal yn briodolbellach unrhyw strwythurau presennol sydd ganysgolion, yn ogystal â bod â’r gallu i blannu’rstrwythurau yn ôl y gofyn.

    Cyfeiriadur Mannau Gwyrdd

    Ym Mlwyddyn 4 Grant Fframwaith Cyngor CefnGwlad Cymru (2011/12), dechreuodd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion greu cyfeiriadur oFannau Gwyrdd ar gyfer ysgolion, gan weithio ochryn ochr â Wardeiniaid Cefn Gwlad a’r adrannauParciau a Hamdden. Mae’r ddogfen hon yn anelu atroi manylion am nifer o wyrddfannau naturiol ahygyrch yng Nghasnewydd sy’n addas ar gyfer

    ymweliadau gan blant ysgol. Bydd yn cynnwys maplleoliad gyda mannau mynediad, map manwl o’rsafle gyda llwybrau troed os yn briodol, rhestr fras orywogaethau ar y safle (yn enwedig os oes rhywbethdiddorol i gadw llygad amdano), ac unrhyw beryglonsy’n benodol i’r safle y bydd angen i’r ysgol fod ynymwybodol ohonynt. Bydd ar gael ar-lein ar wefan ycyngor ar ôl ei gwblhau.

    Datblygu Coetir

    Arweiniodd cais llwyddiannus ar gyfer GrantCoetiroedd Gwell i Gymru y Comisiwn Coedwigaethat gynlluniau gweithredu rheolaeth ac addysg argyfer dau goetir yng Nghasnewydd – Graig aRingland. Roedd rhan o’r prosiect hwn yn cynnwyselfen addysgol – gweithio gyda’r ysgolion yn yrardaloedd y lleolir y coetiroedd, datblygu llwybr, achynhyrchu taflen gweithgareddau i gyd-fynd â hi.Mae’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion,ynghyd â dau Warden Cefn Gwlad, yn datblygu’rllwybr gyda’r ysgolion a gwella’r coetiroedd ar gyferdefnydd y cyhoedd. Mae’r llwybr yng Nghoed Graig,Malpas, yn cynnwys pyst bob hyn a hyn lle y gallaigwahanol weithgareddau ddigwydd, gan ddibynnu ary cynefin neu adnoddau o gwmpas, ond a allai hefydgael eu newid bob tro y bydd yr ysgolion yn ymweld,er mwyn cadw pethau’n hyblyg. Bydd y taflenni agynhyrchwyd hefyd ar gael i rieni a’r gymuned leol aall fod am ymweld â’r coetir.Dysgu sut i greu strwythurau

    helyg byw

    Twnnel helyg a blannwyd ynYsgol Fabanod WaddoledigCaerllion gan y SwyddogBioamrywiaeth mewnYsgolion a’r tîm Cynnal aChadw Tiroedd

    Wardeiniaid cefn gwlad Cyngor Dinas Casnewydd a phlantYsgol Iau Eglwys Malpas yn creu llwybr natur yng NghoedGraig.

  • 1

    Page Header

    27

    Gwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Cysylltiadau busnes a gweithio mewnpartneriaeth

    Mae’r Swyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion hefydwedi bod yn ceisio datblygu cysylltiadau gydabusnesau, awdurdodau lleol eraill a sefydliadau eraillsydd â diddordeb mewn helpu ysgolion lleol.

    Dŵr CymruFel y nodwyd yn yr astudiaethau achos, roedd DŵrCymru yn gallu ymrwymo llawer o amser acadnoddau i greu gardd gors yn Ysgol Iau Milton ynRingland. Mae cysylltiadau rheolaidd hefyd rhwngswyddogion Dŵr Cymru a’r Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion, oherwydd os ydynt byth yn chwilioam ysgolion i dreialu prosiectau, byddant yn aml yntroi i Gasnewydd yn gyntaf. Mae’r SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion yn gallu cysylltu agysgolion ar eu rhan ac yn arbed amser a thrafferthiddynt. Mae prosiect posibl ar gyfer y dyfodol yncynnwys edrych ar Systemau Draenio TrefolCynaliadwy (SUDS) mewn ysgolion.

    LeadbitterLeadbitter yw’r cwmni adeiladu sydd ar hyn o brydyn adeiladu ysgol uwchradd newydd Hartridge.Maent yn gwmni sy’n awyddus i wneud cysylltiadauâ’r gymuned leol y maent yn gweithio ynddi, gangyflogi Swyddog Cysylltiadau Cymunedol i helpugyda hyn. Yn ystod haf 2010, cysylltodd y SwyddogBioamrywiaeth mewn Ysgolion â Leadbitter ar ôlsylwi bod nifer fawr o goed wedi eu torri ar safle’rysgol. Roedd diddordeb gan nifer o ysgolion gaelgosod cylchoedd boncyffion, ac felly aeth y swyddogat Leadbitter i weld a fyddai ganddynt ddiddordebmewn cyflenwi’r boncyffion ar gyfer y rhain. Yroeddynt yn fodlon ac yn gallu cyflenwi boncyffion idair ysgol am gylchoedd boncyffion, ac yr oeddynt ynawyddus bod y rhain mor leol â phosibl (ysgolion

    bwydo i Ysgol Uwchradd Hartridge lle bo’n bosibl).Yn ystod hydref 2010, gollyngodd contractwyrLeadbitter y boncyffion yn yr ysgolion priodol, llecawsant eu gosod mewn cylchoedd gan ygwasanaeth Cadw a Chynnal Tiroedd. Yr ysgolion afanteisiodd ar y rhain oedd ysgolion cynraddBrynglas, Alway ac Eveswell. Gwahoddwyd papurleol yr Argus i wers Ysgol Goedwig yn Ysgol GynraddEveswell yn y gwanwyn, ac roedd Leadbitter yn galludefnyddio’r prosiect partneriaeth i gaelcyhoeddusrwydd cadarnhaol.

    Ymddiriedolaeth Natur Gwent a’r RSPBMae cysylltiadau yn cael eu gwneud yn rheolaiddgydag Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac athrawonmaes lleol yr RSPB yng Ngwarchodfa NaturGenedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd. MaeYmddiriedolaeth Natur Gwent yn rhoi cyngor ar reolia chreu cynefinoedd, ac hefyd mae gwirfoddolwyr yrymddiriedolaeth wedi cynnig eu gwasanaethau i nifero ysgolion yng Nghasnewydd. Treuliodd grŵp owirfoddolwyr ddiwrnod yn clirio pwll yn Ysgol IauEglwys Malpas, gan iddo gael ei dagu gan gyrs a’ilenwi â llaid. Yn ogystal, mae cynllun llwyddiannusiawn gwneud blychau nythu, sydd wedi bod ynrhedeg ers dechrau’r prosiect Bioamrywiaeth mewnYsgolion. Mae gwirfoddolwyr o’r ymddiriedolaethwedi mynd i mewn i dros 50 o ysgolion ac adeiladublychau nythu gyda’r plant. Maent yn gwneud un ibob dosbarth, gan ganiatáu i bob plentyn darohoelen i mewn, gan arwain at flwch nythu yn cael eiwneud i’r dosbarth. Ers mis Ionawr 2010, mae dros150 o flychau nythu wedi cael eu gwneud mewnysgolion yng Nghasnewydd. Mae gwirfoddolwyr oganolfan addysg yr RSPB yng NgwlyptiroeddCasnewydd hefyd wedi bod yn helpu gyda’r prosiecthwn, ac mae mwy yn awyddus i ymuno lle bo modd.Erbyn hyn, mae’r ddwy elusen hefyd yn chwaraerhan weithredol yn yr Wythnos Eco, fel y nodwydeisoes.

    Gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn gwneudblychau nythu gyda phlant yn Ysgol Gynradd Alway.

    Cyflenwodd Leadbitter y boncyffion ar gyfer nifer o gylchoeddboncyffion yn Ysgolion Coedwig Casnewydd – dyma un ynYsgol Gynradd Eveswell.

  • 28

    Gwaith Ychwanegolyn y Prosiect

    Cadwch Gymru’n Daclus

    Roedd Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu helpu gydaychydig o waith clirio mewn ysgol – cawsantgyfraniad gan un o’u grwpiau o wirfoddolwyr o’r ardalleol i helpu i glirio rhai mieri yn ardal Ysgol GoedwigYsgol Fabanod Milton. Mae llawer o ysgolionCasnewydd hefyd yn cymryd rhan yn wythnosflynyddol Cadwch Gymru’n Daclus. Yn anffodus, ganfod nifer uchel o ysgolion yng Nghasnewydd gydagwobrau’r Faner Werdd, ni all Cadwch Gymru’nDaclus roi cymorth uniongyrchol i’r rhan fwyaf o’rysgolion (ariennir y wobr eco-ysgolion gan GadwchGymru’n Daclus, ac mae eu meini prawf grant yngolygu nad ydynt yn gallu ariannu ysgol ddwywaith).

    Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵg

    Mae Bwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwynllŵgyn gyfrifol am reoli lefelau dŵr ar drawsGwastadeddau Gwent. Maent yn gweithio’n agosgyda nifer o gyrff cadwraeth lleol a chenedlaethol ynyr ardal, ac yn 2011, fel rhan o’u cyfrifoldebcymdeithasol, bu iddynt fynegi diddordeb mewncymryd rhan yn y prosiect Bioamrywiaeth mewnYsgolion gyda ffocws ar addysg. Ar adeg ysgrifennu’radroddiad hwn, mae’r bwrdd yn trafod dulliau posiblo gefnogi ysgolion lleol, yn dilyn cyfarfod rhwng ySwyddog Bioamrywiaeth mewn Ysgolion achynrychiolwyr o’r bwrdd i drafod yr opsiynau syddar gael iddynt. Mae nifer o ysgolion naill ai wedimynegi diddordeb neu sydd eisoes ag ardaloedd owlyptir ar eu tiroedd – boed y rhain yn byllau neu’nerddi cors. Mae gan y bwrdd draenio mewnolarbenigedd wrth greu a chynnal y nodweddion hyn, agallai eu llafur, cyngor, adnoddau ac offer gynnigadnodd gwerthfawr i’r prosiect Bioamrywiaeth mewnYsgolion.

    Awdurdodau lleol

    Mae awdurdodau lleol eraill wedi mynegi diddordebyn y prosiect Bioamrywiaeth mewn YsgolionCasnewydd, ac mae’r Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion wedi cael y cyfle i ymweld agawdurdodau eraill er mwyn rhannu arbenigedd acesbonio sut y cafodd y prosiect ei sefydlu yngNghasnewydd. Roedd Adran Ecoleg CyngorBwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gallu dilyn ymodel a osodwyd gan Gasnewydd i weithreduprosiect tebyg gyda swyddog rhan-amser yn y swydd.Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen hefyd wedimynegi diddordeb yn y prosiect, ac maent am weld afyddai prosiect tebyg yn gweithio yn eu hawdurdodhwy. Ceir hefyd cyfleoedd rheolaidd i rannuprofiadau a syniadau rhwng awdurdodau lleol ar greucynefinoedd a gweithgareddau addysgol.

    Clirio mieri yn Ysgol Fabanod Milton

    Gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn mynd i’r afaelâ’r pwll yn Ysgol Iau Eglwys Malpas.

  • 1

    Page Header

    29

    Canlyniadau’r Prosiecta’r Dyfodol

    Canlyniadai’r Prosiecta’r DyfodolYn ystod tair blynedd y prosiect Bioamrywiaethmewn Ysgolion, mae bioamrywiaeth a manteisionaddysgol wedi gwella ar diroedd pob un o’r 58 oysgolion yn y prosiect, gan ddangos y gellir cyflawnigwelliannau waeth beth yw maint, cyflwr, neuleoliad tiroedd yr ysgol.

    Bioamrywiaeth a Gwelliannau Addysgol

    O ran gwella bioamrywiaeth, mae’r prosiect wedicanolbwyntio ar greu cynefinoedd, gan gysylltu hyn âChynllun Gweithredu Bioamrywiaeth LleolCasnewydd lle bynnag y bo’n bosibl. O fis Ebrill2009 tan fis Mawrth 2012, mae’r datblygiadaucanlynol wedi digwydd. Mae pob un o’r datblygiadaua nodir yn NEWYDD (planhigion a blannwyd neugynefinoedd newydd eu creu), ac felly nid ydynt yncymryd i ystyriaeth cynefinoedd presennol y mae’rysgolion wedi eu creu cyn i’r prosiect ddechrau:

    Mae ychydig dros 1 km o wrychoedd brodorolwedi cael eu plannu

    Mae 230 o goed brodorol wedi cael eu plannu,yn unigol ac mewn coedlannau bychain

    Mae 33 o goed ffrwythau (+30 o goed Dysgudrwy Dirweddau) wedi cael eu plannu, ynbennaf mewn grwpiau o bump neu fwy

    Mae pedair gardd gors wedi cael eu creu Mae 22 o strwythurau helyg byw wedi cael eu

    plannu

    Mae 14 o ardaloedd ar gyfer glöynnodbyw/gwenyn/pryfed wedi cael eu plannu

    Mae dolydd newydd o tua 1.5 erw o ran maintwedi cael eu neilltuo

    Mae 150 o flychau nythu wedi cael eugwneud mewn 50 o ysgolion

    Mae gwaith cadw a chynnal wedi digwydd ymmhedwar pwll presennol (gwaith clirio acailblannu)

    Ynghyd â digon o brosiectau llai fel gwestaichwilod, pentyrrau boncyffion ac annogysgolion i adael pentyrrau o falurion athoriadau glaswellt.

    Mae gwelliannau addysgol a datblygiadau eraillhefyd wedi digwydd ar diroedd ysgolion, ac mae’rrhain yn cynnwys:

    Creu gwelyau uchel neu leiniau rhandirnewydd (gan stripio’r tyweirch) yn 22 oysgolion nad oedd ganddynt unrhyw ardaloeddfelly o’r blaen.

    Gosod cylchoedd boncyffion newydd (ar gyferYsgolion Coedwig ac ystafelloedd dosbarthawyr agored) yn 20 o ysgolion, yn ogystal âgwirio cylchoedd boncyffion presennol ynbarhaus a’u hailosod yn ôl yr angen.

    Cefnogi ysgolion i reoli eu dŵr a gwastraff trwygyflenwi biniau compost a chasgenni dŵriddynt – 40 o finiau compost ac 80 o gasgennidŵr hyd yn hyn.

    Mae’r prosiect hefyd wedi dangos ei bod yn bosibldatblygu tiroedd ysgolion, er lles yr ysgol abioamrywiaeth, gyda chefnogaeth y contractwrcynnal a chadw tiroedd. Bydd gweithio ar y cydrhwng yr ysgolion a thimau mewnol cynnal a chadwtiroedd, yn ogystal â pherthynas waith dda gyda’rysgolion a chontractwyr allanol, yn sicrhau bod ygwaith ar y tir yn bodloni disgwyliadau.

    Paratoi’r tir ar gyfer plannu yn Ysgol Gynradd Maendy

  • 30

    Canlyniadau’r Prosiecta’r Dyfodol

    Y Dyfodol

    Sicrhawyd cyllid bellach gan Gyngor Cefn GwladCymru ar gyfer 2012–14 fel arian cyfatebol ar gyfery swydd, unwaith eto fel rhan o grant mwy, GrantFframwaith y Gwasanaethau Gwyrdd.

    Ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol o dair blynedd(Mawrth 2012), cyfarfu’r Swyddog Bioamrywiaethmewn Ysgolion â holl ysgolion Casnewydd, gangyflwyno Cytundeb Lefel Gwasanaeth am flwyddynarall iddynt. Oherwydd y cyfuniad arfaethedig oawdurdodau addysg lleol Gwent, penderfynwyd ycyngor y byddai pob Cytundeb Lefel Gwasanaethgydag ysgolion yn para am un flwyddyn yn unig(2012/13). Roedd pob gwasanaeth yn gorfodcydymffurfio â’r rheol hon, gan gynnwys Cynnal aChadw Tiroedd, Glanhau, Cynnal a Chadw Adeiladaua Gwasanaethau TG, yn ogystal â’r Cytundeb LefelGwasanaeth ynglŷn â bioamrywiaeth. Derbynioddpob un o’r 61 o ysgolion gopi o’r Cytundeb LefelGwasanaeth newydd, ac roedd y mwyafrif yn hapusiawn gyda’r gwasanaeth yr oeddynt wedi ei dderbyn,gan ei ail-lofnodi. Roedd nifer fach nad oedd yngwneud hyn oherwydd cyfyngiadau ariannol ar eucyllidebau. Roedd y swyddog hefyd yn ymweld âphedair ysgol nad oedd ar hyn o bryd wedi ymrwymoi’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth, a bu iddynt ddangosdiddordeb yn yr hyn y gallai’r prosiect Bioamrywiaethmewn Ysgolion gynnig iddynt.

    Yn y flwyddyn interim (2012/13), cyn dychwelyd ibatrwm tair blynedd Cytundebau Lefel Gwasanaeth,ail-lofnododd 50 o ysgolion gytundeb lefelgwasanaeth Bioamrywiaeth mewn Ysgolion.

    Y cyfnod Cytundebau Lefel Gwasanaeth nesaf yw2013–16, ac ni fyddwn yn gwybod tan fis Mawrth2013 faint o ysgolion a fydd yn ail-lofnodi’r cytundebam flwyddyn arall. Rhagwelir y gallai fod gostyngiado tua 10% o ran niferoedd. Mae ffurflenni cynnar ynawgrymu colled debyg (ar adeg ysgrifennu hyn, mae23 o ysgolion wedi ail-lofnodi am flwyddyn arall,gyda dim ond un sydd wedi bod yn y prosiect am ypedair mlynedd diwethaf yn penderfynu i beidio agail-lofnodi). Os bydd gostyngiad yn y niferoedd, ynabydd cyllideb lai at ddibenion y swyddog, ond dylaiddal i gyfateb â’r arian gan Gyngor Cefn GwladCymru.

    Yr ardd gors newydd yn Ysgol Gynradd Llys Malpas

    Plannu ymyl bach ar gyfer glöynnod byw yn Ysgol GynraddMynwy

  • 1

    Page Header

    31

    Canlyniadau’r Prosiecta’r Dyfodol

    Ac wedi hynny

    O ganlyniad i lwyddiant y prosiect hyd yn hyn, ynogystal â gwersi sydd wedi eu dysgu wrth gyflwyno’rprosiect, mae yna nifer o opsiynau ar sut i symudymlaen ac esblygu’r swydd. Mae angen i’r swyddweithredu fel sianel ar gyfer arian, gan ddod ag ef imewn i’r cyngor er mwyn gwneud y swydd yn fwyhunan-gynhaliol, a gallai hyn ddigwydd mewn sawlffordd:

    1. Gallai’r swydd, er enghraifft, barhau yn yr unmodd, ond cael ei hymestyn ar draws rhagor oawdurdodau lleol er mwyn cynnwys mwy o ysgolion.Gallai hyn wneud y swydd yn hunan-gynhaliol, ganleihau’r angen am arian gan Gyngor Cefn GwladCymru. Ar y llaw arall, fe allai effeithio ar ygwasanaeth y mae’r ysgolion yn ei dderbyn os caiffamser y swyddog ei ledaenu ar draws rhagor oysgolion.

    2. Gallai’r swydd ddatblygu i ddarparu cymorthtechnegol ar diroedd, gan fod yn fan cyswllt unigrywar gyfer yr holl faterion sy’n gysylltiedig â thiroeddysgolion, o farcio llinellau chwaraeon a gosodmeinciau i wella bioamrywiaeth a datblygiadauaddysgol. Penderfynwyd nad oedd hyn yn opsiwnymarferol ar gyfer Casnewydd, gan y gallai ffocws yswydd ar fioamrywiaeth ac addysg gael ei wanhau a’isymud tuag at ddarparu gwasanaeth cynnal a chadwtiroedd.

    3. Gallai’r swydd adeiladu ar y cyslltiadau a grëwydgyda Thîm Ailgylchu a Chynaliadwyedd Cyngor DinasCasnewydd er mwyn manteisio ar ffynonellau eraill ogyllid. Mae Rheolwr Cynaliadwyedd yn caelmynediad at grantiau y gellid eu rhoi tuag atddatblygu tiroedd ysgolion a chefnogi’r swydd. Maehyn yn digwydd yn barod, a chredir y byddcyllidebau cynaliadwyedd yn cael eu defnyddio iariannu’r Wythnos Eco yn y blynyddoedd i ddod.

    4. Gallai’r swydd ddod yn fwy o wasanaeth hyfforddi,gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i athrawon i’whelpu i ddefnyddio eu tiroedd, yn hytrach nachanolbwyntio ar ddatblygu tiroedd (gan y byddllawer o ysgolion wedi datblygu cymaint ag yr ydyntam wneud neu sy’n bosibl). Yn ogystal â chyflwynosesiynau Ysgol Goedwig, gellir cynnig hyfforddiant achyngor Ysgol Goedwig hefyd.

    5. Gallai’r swydd helpu ysgolion hefyd i edrych y tuhwnt i’w ffiniau eu hysgol er mwyn ymestyn ycwricwlwm addysg amgylcheddol. Yn benodol, gallaisicrhau bod ysgolion yn cael mynediad llawn isafleoedd eraill a berchenogir/reolir neu sy’n hysbys ofewn ardal yr awdurdod. Bydd cynhyrchu’rCyfeiriadur o Fannau Gwyrdd yn helpu gyda hyn.

    Yng Nghyngor Dinas Casnewydd, rydym yn teimlobod y dewisiadau gorau ar gyfer ni yw cyfuniad o 3,4 a 5. Hynny yw, gwneud rhagor o gysylltiadautraws-wasanaeth gyda’r Tîm Ailgylchu aChynaliadwyedd, cynnig mwy o hyfforddiant achymorth i Ysgolion Coedwig ar diroedd ysgolion, ahelpu ysgolion i archwilio eu hardal leol a defnyddiosafleoedd eraill o gwmpas Casnewydd er mwynymestyn eu cwricwlwm awyr agored y tu hwnt i’wffiniau eu tiroedd.

  • 32

    Canlyniadau’r Prosiecta’r Dyfodol

    Mae’r prosiect Bioamrywiaeth mewn YsgolionCasnewydd wedi dangos bod angen pendant mewnysgolion ar gyfer cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygua defnyddio eu tiroedd. Yn aml, nid oes ganathrawon yr amser, y profiad, neu’r wybodaeth iddatblygu eu tiroedd ar gyfer bioamrywiaeth, ac fellyy mae’r bwlch hwn o ran darpariaeth wedi cael eilenwi gan benodi Swyddog Bioamrywiaeth mewnYsgolion. Mae’r ffocws ar wella bioamrywiaeth,gwella’r tiroedd fel adnodd addysgol, a bod yn fancyswllt ar gyfer popeth ‘gwyrdd’, wedi bod ynhanfodol yng Nghasnewydd. Mae ein bioamrywiaethwedi cael ei gwella drwy greu cynefinoedd bach argyfer bywyd gwyllt, ac mae athrawon yn fwy parod ifynd allan a defnyddio eu tiroedd.

    Gallai fformat y prosiect Bioamrywiaeth mewnYsgolion Casnewydd gael ei gyflwyno mewnardaloedd eraill, cyn belled ag y bydd aelod o staffwedi’i neilltuo i’w gyflwyno. Mae angen iddo fod ynbrosiect parhaus er mwyn creu perthynas waith ddarhwng y swyddog, ysgolion a chontractwyr cynnal achadw tiroedd. Bydd prosiect hirdymor hefyd ynsicrhau bod ysgolion yn creu’r amgylcheddau gorau,eu cynnal a’u cadw, a’u defnyddio mewn fforddgynaliadwy, rhywbeth na ellid ei gyflawni mor ddamewn prosiect tymor byr neu ran-amser.

    I grynhoi, mae’r prosiect Bioamrywiaeth mewnYsgolion Casnewydd wedi dangos manteision amlwgar gyfer yr ysgolion a’r awdurdod o ran gwellabioamrywiaeth a datblygiadau addysgol. Mae gwerthy swydd ym marn yr ysgolion yn cael ei ddangos gany nifer ohonynt sydd wedi ymrwymo i’r prosiect amflwyddyn arall, ac mae gwelliannau mewnbioamrywiaeth wedi cyfrannu at Gynllun GweithreduBioamrywiaeth Lleol Casnewydd.

  • 1

    Page Header

    33

    Siart Llif Sefydlu’r ProsiectBioamrywiaeth mewn Ysgolion

    Cyflwyno cais i’ch adran cynnal a chadwtiroedd.Cael gwybod pa gontractwyr allanol eraill ymae ysgolion yn eu defnyddio a siarad ânhw hefyd.

    Datblygu’r prosiect peilot

    Cael arian

    Hanner ffordd drwy gyflawni’r prosiectpeilot llwyddiannus, cyflwyno’r prosiectllawn i’r holl ysgolion. Dechreuwch feddwl

    am hyn ym mis Medi/Hydref!

    Unwaith y bydd gennych syniad faint o ysgolionsy’n fodlon ymrwymo – digon gobeithio i

    gyfateb arian eich grant – ysgrifennu AdroddiadCabinet i argymell creu’r swydd.

    Cwrdd â phenaethiaid unigol igyflwyno Cytundeb Lefel Gwasanaeth.

    Efallai trefnu cyfarfodydd i’wgyflwyno i grwpiau clwstwr ysgolion.

    Cyflwyno’r prosiect i Fforwm Penaethiaidneu grŵp tebyg yn eich awdurdod lleol –ysgrifennu adroddiad cryno a mynychu’rcyfarfod, gan roi cyflwyniad ac yn y blaen

    Dod o hyd i rywun yn yr Awdurdod Lleolsydd eisoes â pherthynas gyda’r ysgolione.e. Athro Ymgynghorol Gwyddoniaeth Swyddog Ysgolion Cynaliadwy Swyddog Eco-ysgolion Cynghorydd y Cyfnod Sylfaen Cynghorydd Ysgolion CoedwigA chyflwyno’r syniad iddynt er mwyn ceisioeu cytundeb.

    Gall yr Athro Ymgynghorol fod yny sefyllfa orau i wneud hyn, neuymuno â chi yn y cyfarfodydd.Efallai y gofynnir i chi fynd igyfardodydd Llywodraethwyr,gan y bydd angen i Gadeirydd yLlywodraethwyr lofnodi’rcytundeb lefel gwasanaeth – yngyffredinol, bydd angen igytundebau lefel gwasanaethgael eu llofnodi erbyn misIonawr ar gyfer y flwyddynariannol nesaf, fellycynlluniwch o flawn llaw.

    • Ystyried faint sydd angen i chi ofynamdano, h.y. faint o ysgolion sydd yneich awdurdod a faint yw’r swm ygallech ei godi arnynt?

    • Cymryd i ystyriaeth argostau’r swydd.

    • Gwneud cais am gyllid grant – CyngorCefn Gwlad Cymru neu rywbethdebyg.

    Dewis croestoriad bach oysgolion i dreialu’r prosiect:

    e.e. tiroedd bach; tiroeddmawr; canol dinas; gwledig;uwchradd; cynradd ac yn yblaen.

    A all costau’r prosiect peilot gaeleu talu gan swyddi a chyllidebaupresennol? Neu a oes angen ichi gael arian cyn iddoddechrau?

    Gweithio gyda’r ysgolion i wellaeu tiroedd am hyd at flwyddyn,gan brofi’r broses.

  • 34

  • 1

    Page Header

    35

  • Gwella tiroedd ysgolion ar gyferbioamrywiaeth ac addysg

    Swyddog Bioamrywiaeth mewn YsgolionCyngor Dinas CasnewyddGwasanaethau GwyrddY-StrydynunCanolfan DdinesigCasnewydd NP20 4UR

    Ffôn: 01633 656656E-bost: [email protected]/streetscene