41
GRID COVENTRYSTRATEGAETHAU CYMORTH CYFLWR SBECTRWM AWTISTIAETH AC YMLYNIAD

GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

GRID COVENTRY– STRATEGAETHAU CYMORTH

CYFLWR SBECTRWM AWTISTIAETH AC

YMLYNIAD

Page 2: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

CYFLWYNIAD

Strategaethau Cymorth ac Awgrymiadau’n gysylltiedig â Grid Coventry, Fersiwn 2 (Addaswyd Ionawr 2015)

Gweithio ar y cyd rhwng Chris Cole, Athro Ymgynghorol Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) a Sarah Starling, Athro Cymorth Ymddygiad a Claire

Bullock, Athro Ymgynghorol ASC.

Mae’n bosibl y bydd y canllawiau sy’n dilyn yn ddefnyddiol wrth weithio gyda disgybl ion lle nad ydych yn siwr os ydynt yn arddangos Cyflwr

Sbectrwm Awtistiaeth neu Broblemau Ymlyniad.

Rydym wedi atodi awgrymiadau a strategaethau i Grid Coventry, Fersiwn 2 gan Heather Moran (addaswyd Ionawr 2015). Rydym yn gobeithio

y bydd hyn yn helpu staff sy’n gweithio gyda’r disgyblion hyn i ddiwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.

Nid yw’r canllawiau hyn yn rhai pendant, a byddem yn disgwyl i ymarferwyr ychwanegu atynt neu eu diystyru fel y bo’n briodol. Cofiwch, mae pob

plentyn yn unigolyn. Mae arfer da yn golygu bod yn rhaid i’r sawl sy’n cynorthwyo ddeall cryfderau a gwendidau’r plentyn yn llawn.

Bydd y cwrs “Dysgu gydag Awtistiaeth” yn helpu eich ysgol ddod yn “Lleoliad sy’n Gyfeillgar i Awtistiaeth”. Mae cyrsiau ar Broblemau Ymlyniad yn hanfodol i ddatblygu dealltwriaeth ac empathi staff yn achos y disgyblion hyn.

Beth bynnag yw’r achos, ASC neu broblemau Ymlyniad, bydd y ddau grŵp o blant yn dangos Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac

Ymddygiadol. Bydd y canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion gyda phroses ar gyfer deall gwreiddiau anawsterau disgyblion, beth bynnag fo’r rheswm

sylfaenol.

Mae papur Heather Moran yn awgrymu y gall edrych yn ofalus ar batrymau ymddygiad plentyn helpu i wahaniaethu rhwng awtistiaeth a

phroblemau ymlyniad sylweddol.

Rydym yn gwybod mwy am Broblemau Ymlyniad erbyn hyn, ac mae’r pwyslais ar driniaethau yn edrych ar y sylw a roddir i ddatblygu a chryfhau

perthnasoedd emosiynol.

Byddai ymyriad i blant gyda ASC hefyd yn edrych ar ddatblygu meysydd cyfathrebu, dealltwriaeth a hyblygrwydd cymdeithasol ac

emosiynol.

Page 3: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Grid Coventry ochr yn ochr â strategaethau ac awgrymiadau ar gyfer rheoli’r cyflyrau:

Symptomau Awtistiaeth

Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

1. Diffyg

hyblygrwydd o

ran meddwl ac

ymddygiad

1.1. Ffafrio pethau

rhagweladwy ym mywyd

bob dydd. Cwestiynau

ailadroddus ynglŷn â

diddordebau dwys

personol

Cwestiynu ailadroddus ynghylch newidiadau mewn rwtin a phrofiadau newydd

Cyfarchion defodol

Yn orbryderus os nad yw’r rwtin yn bresennol gan efallai geisio mynnu’r rwtin arferol e.e. eisiau’r un rwtin amser gwely pan i ffwrdd ar wyliau/ddim yn derbyn athrawon cyflenwi

Tueddol o geisio ailadrodd profiadau a dehongli unrhyw ailadrodd fel rwtin e.e. gofyn/mynnu ailadrodd yr un ffordd i’r ysgol/ddim yn gallu ymdopi gyda newid i apwyntiadau.

Gofidus iawn pan na fydd modd cwblhau rwtin neu ddefod e.e. ddim yn gallu dilyn yr un llwybr oherwydd gwaith ffordd

Amserlenni gweledol cerdyn ”wps”

Gwaith wedi’i bersonoli ar sgiliau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar agweddau lle ceir anawsterau. Sgriptiau i gefnogi gwahanol ddulliau cyfarch / sgiliau mynediad i sgwrs

Rhoi gwybod am newid ymlaen llaw ‘Social Stories’ Cwrdd â staff newydd/ gweld ystafell newydd ymlaen llaw

Ceisio rheoli newid neu bontio’n raddol, cam wrth gam

Gyda newidiadau i’r rwtin, efallai bydd plant yn cael trafferh i addasu a threfnu gwybodaeth synhwyraidd. Dylid cynnwys gweithgareddau propriodderbynnol a rhoi cyfleoedd i symud yn ystod cyfnodau o newid.

Ffafrio prosesau gofalu defodol e.e. amser gwely, prydau bwyd.

Cwestiynu ailadroddus ynghylch newidiadau mewn rwtin a phrofiadau newydd.

Ymdopi’n well gyda pethau rhagweladwy yn eu rwtinau dyddiol ond fel arfer yn mwynhau newid a dathliadau.

Edrych ymlaen at brofiadau newydd ond efallai ddim yn gallu rheoli’r emosiynau a ddaw gyda nhw e.e. ddim yn ymdopi gyda chyffro neu siom efallai.

Cymryd amser i ddysgu rwtinau newydd.

Oedolion yn dueddol o osod y rwtinau er mwyn

Darparu gwrthrychau pontio i helpu gyda dechrau yn yr ysgol e.e. hances gydag arogl rhiant neu ofalwr arno, cylch allweddi gyda llun rhiant neu ofalwr arno.

Amserlenni a chalendrau gweledol – cardiau “wps”, byrddau nawr/nesaf.

Amserlenni gweledol. Egluro newidiadau i’r rwtin, yn enwedig adeg Nadolig a diwedd y tymor – rhoi sefydlogrwydd a rhagweladwyedd – rwtinau cadarn yn seiliedig ar ddefod – gweithgareddau ochr chwith yr ymennydd, trefnu pethau, tacluso, categoreiddio (i ddisgyblion sydd â phatrymau ymlyniad yn seiliedig ar osgoi ac ansicrwydd).

Darparu amgylchedd diogel, tawel oddi wrth sŵn gormodol. Cynyddu amser 1:1

Page 4: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Cynllunio gweithgareddau dadsensiteiddio er mwyn lleihau anhyblygedd. Yn aml yn gysylltiedig â diddordebau a hoff bethau’r disgybl. Paratoi a rhoi gwybod am newid ymlaen llaw lle bo hynny’n bosibl e.e. gyrru ar hyd y llwybr newydd, nodi newidiadau i ddyddiadau/apwyntiadau ar y calendr, edrych ar ffotograffau a lluniau er mwyn ymgyfarwyddo â mannau newydd

Graddfa 5 Pwynt i fonitro a hybu hunan-reoleiddio.

ymdopi’n haws gydag ymddygiad y plentyn.

Page 5: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

1. Diffyg hyblygrwydd

o ran meddwl ac

ymddygiad

1.2 Anawsterau gyda bwyta

Efallai’n cyfyngu ar y bwydydd a fwytir yn ôl meini prawf anarferol fel gwead, siâp, lliw, gwneuthuriad, sefyllfa yn hytrach na beth yw’r bwyd e.e. yn fodlon bwyta nygets cyw iâr ond dim cyw iâr arall.

Efallai’n addasu arferion bwyta ar sail deall negesuon bwyta’n iach yn llythrennol e.e. dyddiadau gwerthu erbyn, osgoi braster.

Diet cyfyngol yn ymddangos fel petai’r plentyn am gadw at yr un pethau, ac nid yw’r bobl y mae gan y plentyn ymlyniad atynt yn gallu ei annog yn rhwydd.

Cysylltiad rhwng ASC uchel-weithredol ac anhwylderau bwyta yn ystod llencyndod.

Mae cyswllt anorfod rhwng blasu ac arogli. Mae’n bosibl bod osgoi bwyd yn gysylltiedig ag anawsterau prosesu’r synhwyrau. Dylid gadael i’r plentyn wneud gweithgareddau “trwm” fel codi, gwthio ac ati, er mwyn tynnu sylw oddi ar brosesu blasau ac arogleuon cyn bwyta. ‘Social Stories’ Efallai y bydd coginio a chwarae gyda bwyd gyda’ch gilydd yn helpu. Bydd rhai plant yn fwy parod i archwilio bwydydd newydd yn yr ysgol nag yn y cartref, neu i’r gwrthwyneb.

Efallai y bydd cnoi bwyd yn helpu rhai plant sydd angen adborth gwasgedd dwfn er mwyn ffocysu a chanolbwyntio.

Gofidus ynghylch darpariaeth bwyd ac efallai’n gor-fwyta (neu’n ceisio gwneud hynny) os oes bwyd dibendraw ar gael.

Efallai’n methu bwyta pan yn teimlo’n orbryderus.

Efallai’n casglu bwyd ynghyd ond ddim yn ei fwyta.

Efallai’n methu bwyta llawer adeg pryd bwyd.

Efallai’n “crefu” am fwyd sy’n uchel mewn carbohydrad.

Mae’n bosibl trosglwyddo bwyta o sefyllfa i sefyllfa ac mae modd i oedolion agos berswadio’r plentyn.

Plant yn tueddu i gael ystod o anhwylderau bwyta.

Sicrhau’r plentyn bod digon o fwyd ac y gellir dibynnu ar yr oedolion yn yr ysgol i ddarparu bwyd ar eu cyfer os ydynt yn cael cinio ysgol.

Defnyddio ‘Social Stories’, gan esbonio’r siarad â’i hunan y gellir ei ddefnyddio i’w cynorthwyo (mae tt138-141 Inside I’m Hurting, L. Bomber yn rhoi enghreifftiau da)

Gellir lleihau gorbryder trwy roi dewis i’r disgybl fwyta rhywle arall yn hytrach na’r ffreutur.

Gofyn am gyngor nyrs yr ysgol / tîm lles emosiynol (atgyfeiriad neu drafodaeth yng nghyfarfod TAPPAS 2 am EMHT) os oes pryderon am anhwylder bwyta.

Page 6: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Rhowch ddewisiadau ond amrywiwch yr opsiynau yn ystod y dydd er mwyn hybu dadsensiteiddiad. Peidiwch â rhoi pwysau ar y plentyn ond cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau.

Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar hunan-barch a rheoli gorbyder / rheoleiddio emosiynau.

Page 7: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

1. Diffyg hyblygrwydd

o ran meddwl ac

ymddygiad

1.3 Defnydd ailadroddus o iaith

Ecolalia

Ailadrodd geiriau a “ffafrir”, sy’n cael eu dewis am eu sain neu eu siâp, yn hytrach na’u defnydd ar gyfer cyfathrebu neu i ddangos emosiynau.

Nid yw arfer y plant i ailadrodd yn cyd-fynd â’u cam datblygiadol.

Efallai’n defnyddio iaith ffurfiol neu amhriodol nad ydynt yn ei deall (defnyddio geiriau/ymadroddion yn anghywir)

Efallai bod oedi o ran ecolalia yn helpu’r plentyn i gynorthwyo prosesu.

Defnyddio techneg “Dynwared” ar y cyd o bosibl ag “amser giglan” neu “DIR Floortime” er mwyn cynnwys y plentyn mewn cylchoedd cyfathrebu. Modelu’r lefel iaith sydd fwyaf priodol ar gyfer yr oedran. Os yw’r ecolalia yn amhriodol, dylid ceisio gosod geiriau newydd yn lle dileu’r ymadrodd/geiriau. Efallai bod ailadrodd hyn yn helpu gyda gorbryder neu anawsterau synhwyraidd.

Efallai y bydd angen helpu plant hŷn i ddeall beth yw ystyr yr iaith/ymadroddion y maent yn eu defnyddio. Gellid rhoi sgript neu gerdyn ciw gydag ystyron gwahanol neu gywir. Byddwch yn ofalus wrth ofyn cwestiwn oherwydd gallai’r plentyn ailadrodd “wyt ti eisiau”. Defnyddiwch eirfa gyfyngedig a rhowch ddewisiadau sy’n cael eu hategu gan

Efallai’n datblygu defodau ar gyfer sefyllfaoedd sy’n achosi gorbryder e.e. dweud yr un pethau yn yr un drefn wrth ddweud nos da neu wrth adael am yr ysgol.

Gall hunan-gysuro pobl ifanc hŷn fod ar ffurf camddefnyddio sylweddau/hunan-niweidio.

Ail-adrodd y plant yn debyg i blentyn iau – yn dysgu a chwarae gyda iaith.

Efallai gydag ymlyniad rheoli di-drefn – dylid defnyddio ymarferion corfforol rhythmig/cerddoriaeth neu dasgau mecanyddol i dawelu’r ymennydd – defnyddio rwtin tawel a rhagweladwy, ymatebion anwrthdrawiadol ac empathi.

Defnyddio teledu, ffilmiau a fideos i helpu disgrifio emosiynau cymeriadau.

Gall defnyddio fframiau ysgrifennu – llenwi blychau, llenwi bylchau a defnyddio geiriau allweddol helpu i leihau straen ac atal eu gorbryder rhag llifo allan ar dudalen wag (plant sydd â phatrymau ymlyniad ansicr/ yn seiliedig ar osgoi)

Page 8: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

strategaethau gweledol.

Defnyddio ciwiau gweledol er mwyn rhoi sicrwydd i’r plentyn.

Efallai y bydd angen asesiad o iaith fynegiadol a dealltwriaeth o iaith.

Page 9: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

1. Diffyg hyblygrwydd o ran meddwl ac ymddygiad

1.4 Perthynas anarferol gydag eiddo a drysorir

Ym aml yn defnyddio eiddo personol fel addurniadau, ac yn gwneud casgliadau o wrthrychau, ond ddim yn chwilio am gymeradwyaeth gymdeithasol i’r casgliad neu i ofal y casgliad.

Yn aml yn gallu dweud lle mae’r gwrthrychau y maent yn eu trysori fwyaf ac yn deall os ydynt yn cael eu symud

Efallai’n methu cael gwared o hen deganau/papurau/ llyfrau er nad ydynt yn cael eu defnyddio

Ffafrio hen deganau cyfarwydd (neu deganau sy’n rhan o gyfres) yn hytrach na theganau newydd a gwahanol

Gall fod anghydnawsedd rhwng faint o wybodaeth ddamcaniaethol sydd ganddynt a’u defnydd cymdeithasol o’r wybodaeth honno e.e. ymwybodol o ffeithiau pêl-droed ond ddim yn rhannu hynny’n gymdeithasol.

Dylid trafod eu diddordeb neu eu casgliad i ddangos eich bod yn gwerthfawrogi’r pethau y maent yn ei wneud. Peidiwch â disgwyl ymateb i ddechrau ... ond peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to.

Gall defnyddio ddiddordeb y plentyn fod yn ddefnyddiol er mwyn eu bachu i’ch agenda chi. Er enghraifft, os ydynt yn ysgrifennu llythyr yn yr ysgol, a oes gwahaniaeth at bwy mae’r llythyr .... oni allai fod at greadur estron neu gymeriad Minecraft?

Tynnu llun o’r hen wrthrych neu’r model Lego sydd angen ei dynnu’n ddarnau cyn gwneud hynny.

Gall hen deganau cyfarwydd helpu disgyblion i deimlo llai o orbryder/ymdopi gyda chyfnodau o bontio, felly peidiwch â’u tynnu oddi arnynt. Mewn amser, byddant efallai’n gallu derbyn diddordebau/teganau newydd

Defnyddio dull chwarae adlewyrchol i ymgysylltu â’r plentyn ac yna’n raddol, ceisio cyflwyno “eich” tegan i’r gêm.

Gweithio ar ffyrdd ymarferol o ddatblygu profiadau cymdeithasol yn seiliedig ar eu hoffterau/diddordebau.

Efallai’n chwilio am gymeradwyaeth gymdeithasol neu eiddigedd gan eraill am eu heiddo.

Efallai ddim yn cymryd gofal arbennig o eiddo sydd o bwysigrwydd emosiynol

Efallai eu bod yn ddinistriol gyda theganau, yn eu harchwilio a’u torri’n ddamweiniol

Gwerthfawrogi teganau newydd a gwahanol

Efallai’n colli pethau’n hawdd, hyd yn oed eiddo sy’n cael ei drysori, ac efallai’n methu derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y golled Efallai’n dinistrio eiddo sydd o bwysigrwydd emosiynol iddynt pan fyddant yn flin

Gofynnwch iddynt edrych ar ôl gwrthrych i chi. Gadewch iddynt ddod â rhywbeth bach o’r cartref a rhowch le i’r peth hwnnw yn y dosbarth er mwyn gael ymarfer cadw pethau’n ddiogel.

Modelu chware priodol. Rhoi rhywbeth a fydd yn eu helpu i fynegi eu llid yn ddiogel e.e. deunydd pacio swigod, pêl straen, gobennydd i’w wasgu. Helpwch nhw i ddeall pam eu bod efallai’n gwneud pethau pan fyddant yn flin. “Tybed a wyt ti’n dechrau teimlo’n flin; beth am i ni ddefnyddio dy obennydd i gael gwared o’r teimlad hwnnw’n ddiogel.” Modelwch sut i ddefnyddio gobennydd/pêl straen yn ddiogel

Rhowch rhywle diogel iddynt storio pethau – yn aml, mae gan blant sydd ag anawsterau o ran ymlyniad sgiliau trefnu a chofio gwael ac maent yn dueddol o golli pethau

Dysgwch strategethau priodol i ymdopi pan fyddant yn flin – defnyddio system goleuadau traffig

Page 10: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Dysgu sgiliau sgwrsio / cyfeillgarwch er mwyn galluogi disgyblion i rannu eu gwybodaeth yn gymdeithasol. Gwylio rhaglenni/cartwnau teledu i weld sut mae hyn yn ‘edrych’.

Page 11: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

2. Chwarae 2.1 Gwael am aros eu tro a cholli’n wael

Efallai’n ceisio gorfodi eu rheolau eu hunain ar gemau

Efallai’n teimlo bod colli gêm yn y diwedd yn annheg os yn ennill ynghynt yn y gêm

Ffafrio chwarae ar eu pen eu hun neu ochr yn ochr ag eraill

Fel rheol mae angen dysgu Sgiliau Cymdeithasol ar sail un-i-un i ddisgyblion sydd ag anhwylder ar sbectrwm awtistiaeth oherwydd bod datblygiad pob disgybl sydd ar y sbectrwm awtistig yn wahanol. Dylid cyfeirio at reolau ysgrifenedig/gweledol cyn dechrau’r gêm

Efallai’n ceisio gorfodi eu rheolau eu hunain ar gemau er mwyn iddynt ennill

Efallai’n flin neu’n ofidus ynghylch colli gemau gan feio eraill neu’r offer am eu methiant (mae ymdeimlad o hunan-barch bregus yn null y plentyn o ymateb)

Efallai bod ganddynt ymlyniad amwys – rhowch gyfleoedd iddynt fod yn gyfrifol am dasgau yn hytrach na phobl. Treuliwch amser i ddechrau yn magu cydberthynas gyda’r oedolion drwy chwarae gemau lle nad oes ennill a cholli.

Efallai nad yw eu diddordebau’n briodol i’w hoedran a’u bod yn gul

Mae nifer o raglenni sgiliau cymdeithasol strwythuredig ar gael a fydd yn helpu i ddysgu sut i aros eu tro a chwarae gemau.

Bydd gwaith ar emosiynau’n bwysig iawn ochr yn ochr ag unrhyw weithgareddau sgiliau cymdeithasol. Strategaethau fel: The Incredible 5 Point Scale Social Stories Comic Strip Conversations The Zones of Regulation

Ffafrio chwarae gyda phlant eraill a fydd yn gallu eu gwylio’n ennill

Diddordebau’n fwy arferol/priodol i’w hoedran ond emosiwn sydd wrth wraidd yr ymateb i’r gweithgaredd.

Pan fydd cydberthnasau cadarn wedi’u sefydlu, dysgwch sut i chwarae gemau gydag oedolyn i ddechrau, yna oedolyn ac un plentyn gan gynyddu maint y grŵp yn raddol. Dylai’r oedolyn fynegi teimladau pan fyddant yn colli a modelu ymatebion priodol. Dylai’r oedolyn fod yn sgaffald i’r grŵp gan dynnu’n ôl yn raddol.

Page 12: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn

Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

2. Chwarae 2.2 Chwarae anarferol gyda theganau

Chwarae gyda theganau fel gwrthrychau yn hytrach na’u personoleiddio

Efallai’n treulio’u holl amser yn trefnu teganau a’u rhoi mewn patrymau (e.e. yn nhrefn maint, lliw)

Efallai’n ‘chwarae’ gyda phethau anarferol (e.e. darllen y llyfr ffôn, gwylio dŵr yn diferu i lawr y draen) am gyfnodau hir o oed ifanc

Mae sgiliau chwarae’n ddibynnol ar gyd-ddiddordeb ac ar angen i gyfathrebu ag eraill. Mae denu a datblygu sylw’n hollbwysig.

Gweler y cwrs ‘Attention Autism’ (gweithgareddau bwced) ar gyfer datblygu 4 maes sgiliau talu sylw er mwyn hybu cyd-sylw.

Mae ‘DIR Floortime’ yn strategaeth ddefnyddiol.

Mae “amser giglan” a rhaglenni eraill tebyg yn hyrwyddo datblygiad cylchoedd cyfathrebu. Gellir dynwared y plentyn / person ifanc er mwyn ennyn cyfathrebu dwyochrog. Defnyddiwch ddiddordebau’r plentyn fel ffordd o ennill ymddiriedaeth a chyd-sylw.

Efallai bod y ‘chwarae’n’ helpu gyda gorbryder neu anawsterau synhwyraidd, neu’n ddiddordeb arbennig.

Defnyddio eiddo personol i geisio ennill sylw plant eraill

Efallai’n chwarae gemau sy’n cynnwys profiad personol o ddigwyddiadau bywyd trawmatig a chydberthnasau anodd

Efallai’n cael trafferth canolbwyntio ar deganau ac ond yn gallu chwarae ar eu pen eu hunain am gyfnodau byr iawn (neu ond yn gallu bod ar eu pen eu hunain am gyfnodau byr)

Gallai oedolyn gefnogi’r chwarae, gan ddefnyddio teganau/gemau y mae’r plentyn eu hoffi tra’n cyflwyno iaith gymdeithasol ac emosiynol i helpu’r disgybl ddatblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau chwarae.

Efallai bod disgyblion sy’n actio digwyddiadau trawmatig angen cymorth y Tîm Iechyd Emosiynol – gellir trafod hyn yng nghyfarfod TAPPAS 2 neu atgyfeirio’r achos

Page 13: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Os yw’n cymryd gormod o amser, gellir amserlennu un neu ddau gyfnod yn y dydd lle gall y plentyn fwynhau’r gweithgaredd.

Hefyd, gellir caniatáu amser i’r gweithgaredd a ffafrir fel gwobr neu gymhelliant.

Page 14: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

2. Chwarae 2.3 Chwarae cymdeithasol gwan

Ddim yn hoffi i eraill ymuno â’r chwarae ac yn osgoi hynny

Diffyg diddordeb mewn chwarae cymdeithasol gyda rhieni/gofalwyr

Gweler y cwrs ‘Attention Autism’ (gweithgareddau bwced) ar gyfer datblygu 4 maes sgiliau talu sylw er mwyn hybu cyd-sylw. Efallai y bydd ar ddisgyblion hŷn angen addysg ar gadarnhau sgiliau cymdeithasol a sgiliau magu cyderthynas drwy gydol eu gyrfa ysgol. Mae trosglwyddo sgiliau’n gallu bod yn anodd iddynt, felly efallai na fyddant yn trosglwyddo beth maent wedi’i ddysgu mewn un lleoliad i leoliad arall.

Efallai bod yn well gan y plentyn i oedolion ddarparu cyfleoedd chwarae a/neu gyfeirio’r chwarae.

Efallai bod yn well ganddynt chwarae gydag oedolion (yn enwedig gofalwyr) na phlant eraill.

Mae’r plentyn angen cymorth i fagu cydberthnasau gan ddechrau gydag oedolyn ac yna ymestyn i blentyn arall a chynnwys plant eraill yn y chwarae.

Ceisiwch adnabod disgyblion eraill gyda diddordebau tebyg a threfnwch amser ar yr amserlen iddynt ddod at ei gilydd. Gall disgyblion hŷn elwa ar glybiau neu grwpiau amser cinio. Weithiau, bydd y disgybl angen ac eisiau amser tawel/ar eu pen eu hun i brosesu digwyddiadau’r dydd, effaith synhwyraidd neu orbryderon.

Page 15: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Mae natur anrhagweladwy rhai chwaraeon a gemau yn gallu bod yn ormod i ddisgyblion sydd ag ASC. Dylid darparu gemau strwythuredig iawn, hawdd i’w dilyn mewn grwpiau bach neu 1:1.

Mae ‘DIR Floortime’ yn strategaeth ddefnyddiol. Mae “amser giglan” a rhaglenni eraill tebyg yn hyrwyddo datblygiad cylchoedd cyfathrebu.

Gellir dynwared y plentyn / person ifanc er mwyn ennyn cyfathrebu dwyochrog.

Defnyddiwch ddiddordebau’r plentyn fel ffordd o ennill ymddiriedaeth a chyd-sylw.

Page 16: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

2. Chwarae 2.4 Chwarae ailadroddus Diffyg diddordeb mewn datblygu ystod o weithgareddau chwarae

Llawer gwell ganddynt bethau cyfarwydd a thueddiad i chwarae ar eu pen eu hunain ar yr un gweithgaredd am gyfnodau hir

Efallai y bydd angen ychydig o ddadsensiteiddio er mwyn helpu plant a phobl ifanc i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau cymdeithasol.

Defnyddiwch ddiddordebau arbennig er mwyn datblygu hyn. Er enghraifft, os yw’r disgybl yn chwarae ar ei ben ei hun gyda theganau Star Wars, ceisiwch gyflwyno gemau bwrdd Star Wars, Top Trumps, a chysylltu gyda disgyblion eraill sy’n rhannu’r un diddordebau.

Chwarae’n ailadroddus gydag oedolion, yn debyg i’r modd y mae plentyn ifanc iawn yn hoffi chwarae gemau fel cuddio a chwilio a gemau ar lin oedolion.

Hoffi ail-greu profiadau o’r gorffennol a’r diwedd sy’n cael ei ffafrio dro ar ôl tro (e.e dianc rhag perygl, achub brodyr a chwiorydd)

Gadewch i’r plentyn chwarae’r gemau hyn, y byddai plentyn ifanc iawn yn eu chwarae, gan fod angen iddynt ddatblygu’r cysyniad o sefydlogrwydd. Mae oedolyn/gwrthrych yn dal i fodoli hyd yn oed pan na ellir eu gweld.

Cyflwynwch weithgareddau sy’n debyg i’r gweithgaredd sy’n cael ei ffafrio. Er enghraifft, os yw’r disgybl yn hoffi Lego, rhowch gynnig ar K-nex neu Magnetix

Amserlennwch weithgareddau newydd; gwobrwywch efallai gyda’r gweithgaredd sy’n cael ei ffafrio pan fyddant yn rhoi cynnig ar gêm neu dasg newydd.

Page 17: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Defnyddiwch restr wirio synhwyraidd i ddarparu proffil synhwyraidd i’r plentyn, oherwydd mae’n bosibl mai’r rhain sy’n gyfrifol am amharodrwydd y disgybl i ymgysylltu. Gweler Rhestr Wirio Synhwyraidd y NAS a’r adnoddau ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau synhwyraidd. Trafodwch broffil synhwyraidd y disgybl yng nghyfarfodydd TAPPAS 1 a TAPPAS 2.

Defnyddiwch nawr a nesaf fel strategaeth i hybu a datblygu sgiliau negodi i’r disgybl.

Mae’n hanfodol gweithio ar ymddygiadau anhyblyg er mwyn hybu sgiliau chwarae.

Page 18: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

2. Chwarae 2.5 Chwarae dychmygol cymdeithasol gwan

Cael anhawster chwarae amrywiaeth o rolau o fewn gemau

Cael anhawster ymgorffori ystod o deganau mewn un gêm (e.e. defnyddio teganau Dr Who a Spiderman mewn gêm)

Ffafrio teganau mecanyddol eu natur yn hytrach na rhai emosiynol eu natur (e.e. ceir, trenau, Lego) neu rai sy’n gofyn am resymeg a threfn (e.e. adolygu a threfnu casgliadau o wrthrychau) neu archwilio gwrthrychau (e.e. gwylio gwrthrychau’n troelli)

Sefyllfaoedd chwarae rôl.

Defnyddio ffilmiau, teledu, cartwnau i archwilio gwahanol rolau. Efallai’n gysylltiedig â diddordebau arbennig

Defnyddio technegau fideo i gefnogi ymgysylltiad mewn gweithgareddau chwarae.

Defnyddio obsesiwn disgyblion gyda theganau arbennig er mwyn hybu gweithgareddau sy’n datblygu sgiliau dallineb meddwl.

Dylid annog chwarae gwahanol. Dylid darparu cyfleoedd amrywiol a chaniatáu amser i chwarae gyda’r dewis sy’n cael ei ffafrio wedyn.

Cael anhawster gorffen gemau chwarae rôl

Efallai’n gallu chwarae rolau amrywiol ond efallai’n dangos ffafriaeth gref am fath o rôl (e.e. bod amser yn fabi, bob amser yn dad blin)

Efallai na fydd yn ymddangos fel petai’n mwynhau chwarae dychmygus ar ei ben ei hun ond yn gallu chwarae’n ddychmygus gyda pherson arall

Dylid cefnogi’r plentyn wrth iddo chwarae – modelu’r gwahanol rolau

Os yw’r chwarae’n achosi pryder e.e. Bob amser yn chwarae’r tad blin, dylid monitro rhag ofn bod angen atgyfeirio at y Tim o Amgylch y Teulu/Gofal cymdeithasol os teimlir bod y plentyn yn actio profiadau a welwyd ganddo.

Defnyddiwch luniau bach o aelodau’r dosbarth wedi’u lamineiddio a’u gludo ar friciau i dynnu sylw at ganlyniadau ac i gefnogi sgyrsiau Comic Strip (Fi Fach)

Page 19: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

3. Rhyngweithiad cymdeithasol gwael

3.1 Anawsterau gyda rhyngweithiad cymdeithasol

3.2 Mwy llwyddiannus wrth ryngweithio ag oedolion na gyda’u cyfoedion

3.3 Anghenion yr hunan yn sbarduno’u rhyngweithio

3.4 Diffyg ymwybyddiaeth o risg a pherygl personol wrth ryngweithio ag oedolion

Rhyngweithiad fel arfer yn unochrog ac yn ego-ganolog heb roi llawer o sylw i ymateb y gynulleidfa

Ddim yn aml yn manipiwleiddio eraill, ag eithrio drwy byliau sydyn blin (h.y. anaml y byddai’n ceisio ennill sylw’r gynulleidfa)

Sgyrsiau ‘Comic Strip’ sy’n dangos meddyliau a theimladau bobl eraill. Dylid dysgu sgiliau cymdeithasol gan gynnwys: osgoi monologau, sgiliau gwrando, adnabod emosiynau yn eu hunain ac eraill. Gellir defnyddio fideos, rhaglenni teledu (cartwnau/operâu sebon) i archwilio rhyngweithiad – beth sy’n dda a beth sydd ddim cystal. Chwarae rôl. Gellir gwneud fideo o ryngweithiadau, gwylio hynny wedyn a rhoi cynnig arall arni.

Ar adegau o straen, dylid sicrhau bod amser tawel yn rhan o’u diwrnod. Helpwch nhw i ganfod pethau sy’n gallu eu helpu i deimlo fel eu bod mewn rheolaeth.

Chwilio am ryngweithiadau gyda chynulleidfa sy’n mynegi teimladau (e.e. ceisio ysgogi ymatebion cryf yn y gynulleidfa fel llid, cydymdeimlad, cefnogaeth, cymeradwyaeth)

Efallai’n ceisio rhyngweithio’n barhaus gydag oedolion neu blant hŷn yn hytrach na phlant o’r un oed

Efallai’n ysgogi rhyngweithiadau ag eraill sy’n eu galluogi i chwarae’r un rôl yn aml mewn perthynas â’r hunan (e.e. y dioddefwr, y bwli). Mae angen i ni edrych ar y cydberthnasau a gweld pa angen y maen nhw’n eu cyflawni. Yn achos

Edrychwch y tu hwnt i’r ymddygiad a darparwch brofiadau gwahanol priodol yn seiliedig ar y 4 ‘Crucial C’ e.e. mae ymddygiad sy’n ysgogi llid yn aml yn chwilio am reolaeth – rhowch gyfleoedd priodol i roi rheolaeth.

Efallai’n perfformio’n well mewn sefyllfaoedd llai emosiynol

Helpwch i fagu hyder o fewn cydberthnasau gan ddechrau gyda phrofiadau chwarae 1:1 gydag oedolion, yna ychwanegwch nifer cynyddol o gyfoedion wrth i’r plentyn brofi llwyddiant yn ei chwarae â phlant eraill.

Ymwybyddiaeth wael o’i rôl ei hunan mewn rhyngweithiadau

Page 20: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Diffyg dychymyg cymdeithasol – methu dychmygu pa risgiau fyddai’n gysylltiedig â rhai cydberthnasau gyda chyfoedion/ oedolion (gall edrych yn debyg i ymlyniad o ran yr angen y wneud ffrindiau)

Mae gennym oll bethau gwahanol sy’n ein tawelu.

Mae sgriptiau’n gallu helpu. Sut i ddechrau sgwrs, testunau, sut i ofyn ac ateb cwestiynau

Dysgwch sut i adnabod emosiynau mewn eraill. H.y. sut maent yn edrych a swnio pan fyddant yn drist, blin, hapus. Helpwch nhw i ddeall bod yr hyn y maent yn ei ddweud, yn ei wneud ac yn edrych fel yn effeithio ar eraill. Defnyddiwch ddrychau i archwilio mynegiant y wyneb, a thorrwch a gludwch luniau o gylchgronau i adnabod emosiynau. Mae’n bwysig cofio bod y plentyn sydd ag ASC yn ceisio trefnu eu hamgylchedd er mwyn helpu gwneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus. Gweithiwch ar emosiynau, labelwch y rhain wrth i chi eu gweld yn digwydd. Cofnodwch yn ofalus ymatebion cynnil sy’n dangos bod disgybl yn dechrau ypsetio a rhannwch hyn gyda phob aelod o staff. Dylid nodi hyn hefyd yn achos ymatebion

ymlyniad, mae’n debygol o fod yn ateb angen emosiynol, o bosibl yn ymwneud â phlesio eraill.

Page 21: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

synhwyraidd.

Gwnewch asesiad risg ar gyfer y plentyn er mwyn llunio strategaethau cytunedig gyda rhieni i gefnogi cynhwysiant.

Gellid trafod senarios ‘beth os’ a’u hysgrifennu ar gardiau. Rhoi senario i’r plentyn: beth fyddwn i’n ei wneud petai...? Trafodwch hyn gyda nhw a phenderfynwch beth fyddai’n ffordd ddiogel/ defnyddiol i reoli’r sefyllfa.

Dysgwch am wahanol fathau o gydberthnasau, cadw’n ddiogel, gofod personol, ac ati. Helpwch nhw i ddeall beth sy’n dda a beth sydd ddim cystal o ran ymddygiad ffrindiau A beth i’w wneud os ydynt yn teimlo bod y person arall yn annheg/angharedig.

Page 22: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

3. Rhyngweithiad cymdeithasol gwan

3.5 Anhawster rhannu Diffyg ymwybyddiaeth o’r disgwyliadau cymdeithasol y bydd y plentyn yn rhannu (gan nad yw’r plentyn yn deall neu angen cymeradwyaeth gymdeithasol gan eraill)

Efallai na fydd yn sylweddoli anghenion pobl eraill sy’n aros eu tro

Defnyddiwch ddull “Cylch Ffrindiau” a “Dulliau Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn” (CCU) er mwyn datblygu sgiliau cynnal cydberthnasau. Dysgwch sgiliau rhannu’n uniongyrchol i’r plant drwy ddefnyddio rhaglen sgiliau cymdeithasol strwythuredig. Gwaith ar emosiynau, gan labelu emosiynau i’r plentyn a thynnu sylw at emosiynau pan fyddant i’w gweld yng nghyfoedion y plentyn.

‘Social Stories’.

Ymwybodol o’r angen cymdeithasol i rannu ond yn ofidus ynghylch rhannu (yn enwedig bwyd) ac efallai’n gwrthod neu’n casglu/cuddio eiddo a bwyd er mwyn osgoi gorfod

Efallai’n cymryd pethau sy’n bwysig i eraill gan wybod yn iawn bod hyn yn mynd i achosi gofid i’r person arall

‘Social Stories’ Sgyrsiau ‘Comic Strip’

Amser Cylch sy’n defnyddio Chwarae Rôl, canolbwyntio ar weithredoedd a chanlyniadau. Arfer Adferol.

Os yw’r ymddygiad hwn yn parhau, dylid ystyried atgyfeirio at y Panel Cynhwysiant a Chefnogi Pobl Ifanc (YISP).

Efallai y bydd y plentyn wedi ymgolli gymaint yn yr hyn y mae’n ei wneud fel nad yw’n ymwybodol bod eraill yn aros eu tro. Mae defnyddio amserydd i gyfyngu ar yr amser yn gallu helpu rhai plant.

Page 23: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn

Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

4. Darllen meddyliau 4.1 Cael anhawster gwerthfawrogi safbwyntiau a meddyliau eraill 4.2 Diffyg gwerthfawrogiad ynghylch sut mae eraill efallai yn eu gweld hwy 4.3 Defnydd cyfyngedig o iaith emosiynol

Anaml yn cyfeirio at safbwyntiau eraill Diffyg ymwybyddiaeth o safbwyntiau eraill o’r hunan, gan gynnwys diffyg ymwybyddiaeth o ba mor ‘weledol’ yw anawsterau’r hunan (e.e. efallai’n gallu perfformio dilyniant yn y gampfa er nad yn dda iawn gyda gymnasteg) Ddim yn gwerthfawrogi’r wybodaeth y byddai rhieni’n hoffi ei chlywed ynghylch eu llwyddiannau a’u mwynhad

Gwaith “Fi Fach” a gwaith ar emosiynau. Bydd angen dysgu rhai plant pam bod hyn yn bwysig (gallu dysgu ffeithiau/gwybodaeth newydd, bydd y sgil yn eu helpu yn y dyfodol ym myd gwaith ac wrth wneud ffrindiau). Gweithio ar ymateb dwyffordd mewn sgwrs ac osgoi monolog drwy chwarae rôl a sgriptiau sgwrsio. Sgyrsiau ‘Comic Strip’ gan ddefnyddio “Fi Fach” i ddisgyblion iau. Gwaith CCU – archwilio, beth allaf ei wneud yn dda? Beth allwn i ei wneud yn well? Gyda beth ydw i angen help? Pwy allai fy helpu? Anfon cardiau post/nodiadau adref. Gellir rhannu llwyddiannau’r plentyn, ac yn ddelfrydol, dylid eu cynnwys trwy efallai’u hannog i ysgrifennu’r nodyn. Mae dyddiaduron

Gallu manipiwleiddio eraill (neu’n rhy ufudd) ac yn ceisio intigreiddio’i hun gydag oedolion/plant. Tueddol o feio eraill am ei gamgymeriadau ei hun Tynnu sylw oddi wrth methiannau’r hunan tuag at lwyddiannau’r hunan Ceisio llywio safbwyntiau eraill o’r hunan drwy ddangos tuedd/gorliwio pethau. Gor-wyliadwrus o ran emosiynau mewn eraill (e.e. llid, gofid, cymeradwyaeth) ac yn aml yn cyfeirio at y cyflyrau hyn Geirfa emosiynau wael

Yn achos ymlyniad ansicrwydd: cynlluniwch weithgareddau tawelu a rheoleiddio sy’n ymwneud ag ymwrthedd corfforol a chyffyrddiad gwasgedd dwfn – tasgau gwahaniaethol mewn camau bach. Yn achos ymlyniad anrhefnus: darparwch amgylcheddau diogel a sicr gyda rwtinau rhagweladwy. Oedolion i fodelu gwneud camgymeriadau – defnyddio hunan-siarad er mwyn ymdopi â chamgymeriad. Sesiynau ELSA sy’n canolbwyntio ar ddelio gyda theimladau a geirfa emosiynol tra bod y Cynorthwyydd Dysgu’n esbonio’r sefyllfa yn y fan a’r lle

Page 24: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Prin y bydd yn cyfeirio at gyflwr emosiynol yr hunan neu eraill

ysgol-cartref yn gallu rhoi llawer iawn o gysur i rai rhieni. Gellir rhannu gweithgareddau plant gyda rhieni drwy apiau sydd ar gael i ffonau symudol. Gwaith labelu emosiynol gan ddefnyddio dull y raddfa 5 pwynt. Adnabod emosiynau. Dechrau gyda: hapus, trist a blin. Edrych ar wynebau mewn cylchgronau a’u didoli’n gategorïau. Edrych ar ei hun mewn drych a staff yn modelu sut mae wyneb hapus/trist/blin yn edrych, a sut mae osgo’r corff yn edrych. Wrth i bethau ddigwydd mewn bywyd go iawn neu ar y teledu/mewn ffilm, tynnwch sylw atynt a defnyddiwch iaith briodol. Gweithredu Adferol ar ôl digwyddiad/anghytundeb Trafod beth ddigwyddodd? Sut allwn i fod wedi gwybod ei bod yn flin/fy mod i’n mynd yn flin? Beth allwn i ei wneud yn wahanol tro nesaf? Efallai y byddai’n

Page 25: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

well gwneud hyn ar sail 1:1 gyda’r disgybl sydd ag ASC yn hytrach nag ail-greu’r digwyddiad gyda’r bobl eraill oedd yn rhan ohono.

Page 26: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

4. Darllen meddyliau 4.4 Problemau gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Efallai ddim yn sylweddoli nad yw cartwnau, teganau, animeiddiadau a ffuglen wyddonol yn real Efallai ddim yn ddeall bod chwarae ffantasi yn rhywbeth dros dro Efallai’n cael eu dylanwadu’n hawdd gan honiadau ffantastig a hysbysebu Yn aml, mae’n hawdd darganfod celwyddau ac mae’r rheiny’n ‘anaeddfed’

Bydd angen i blant hŷn weithio ar beth sy’n real/ddim yn real. Sut ydym yn gwybod os yw’n real ai peidio? Trafod sawl senario. h.y. Mae’r dyn yn y gêm gyfrifiadur yn cael ei anafu’n ddrwg ond mae’n nôl ar ei draed yn syth – beth fyddai’n digwydd mewn bywyd go iawn? Mae’r anawsterau hyn i’w gweld yn aml mewn disgyblion ag awtistiaeth; byddant yn cael problemau deall bwriadau eraill tuag atynt. Gall hyn ychwanegu at eu bregusrwydd neu achosi iddynt dristáu a theimlo bod y byd yn eu herbyn. Gall hyn gynyddu gorbryder yn y plant hyn. Defnyddiwch ddull myfyriol er mwyn cynnig gwahanol ddarlun o sefyllfaoedd a thrafodwch deimladau ynghylch y sefyllfaoedd. Gellir defnyddio graddfa

Tueddol o feddwl bod yr hunan yn fwy pwerus ac yn gallu goresgyn gelynion, neu’n fregus heb allu cynnig unrhyw her Efallai’n siarad yn ddiddwedd am sut i oresgyn dalwyr/dianc o garchar/lladd gelynion hyd yn oed pan fydd y gelynion hynny’n amlwg yn fwy, yn gryfach ac yn fwy pwerus na’r plentyn Efallai’n methu barnu os yw bygythiad yn realistig ac yn ymddwyn fel petai angen gweithredu yn erbyn pob bygythiad, ni waeth pa mor fach neu afrealistig. Gall celwyddau fod yn hynod o fanwl ac efallai eu bod hefyd yn fwriadol niweidiol i enw da eraill, neu wedi’u llunio i greu argraff ar y gynulleidfa

Page 27: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

5 pwynt i helpu disgyblion adnabod difrifoldeb eu gofidiau er mwyn rhoi’r cyfan mewn perspectif. Mae cynnal trafodaeth ar hyn gydag oedolyn yn hanfodol.

Page 28: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

5. Cyfathrebu 5.1 Problemau gydag iaith bragmatig

Ymwybyddiaeth wan o bwrpas cyfathrebu

Diffyg ymwybyddiaeth o anghenion y gynulleidfa

Ddim yn ceisio gwella pethau pan fydd cyfathrebu’n methu

Cyswllt llygad gwael (cyswllt byr, syllu, ddim yn cyd-fynd â chyfathrebu llafar)

Agosrwydd ddim yn arwydd o agosatrwydd neu awydd am gyswllt

Yn aml ddim yn dechrau sgwrs drwy gyfarch y person

Sgwrs yn dameidiog

Mae ‘pragmatig’ yn cyfeirio at y sgiliau iaith cymdeithasol a ddefnyddiwn wrth ryngweithio’n ddyddiol ag eraill. Mae’n cynnwys beth ddywedwn ni, sut ydym yn ei ddweud, iaith ein corff a pha mor briodol ydyw yn y sefyllfa honno.

Efallai bydd angen dysgu uniongyrchol un-i-un ar blentyn sydd ag awtistiaeth. Mae nifer fawr o raglenni sgiliau cymdeithaol strwythuredig ar gael.

Mae chwarae rôl a defnyddio fideos yn gallu helpu. (Social Eyes) ar gyfer plant hŷn.

Ddim yn talu sylw i anghenion y gwrandawr oherwydd sylw gwael i gyfathrebu (oherwydd modelu gwael)

Cyflwr emosiynol yn effeithio ar gyswllt llygad

Mae agosrwydd yn arwydd/cyfathrebu emosiynol

Gallu dechrau sgwrs yn well

Efallai’n or-sensitif i dôn llais (gor-wyliadwrus o’r posibilrwydd o gael eu gwrthod yn emosiynol)

Efallai bod oedi o ran cyfathrebu di-eiriau (mae hyn yn cynnwys darllen mynegiant y wyneb ac ystumiau) ond gellir gwneud cynnydd da gydag ymyriad. Gall hyn amrywio gan ddibynnu ar y math o anawsterau ymlyniad.

Mae cynlluniau fel Time to Talk (Ginger Bear) a Socially Speaking yn effeithiol iawn o ran datblygu’r sgiliau hyn dros nifer o wythnosau. Fodd bynnag, mae’n rhaid gofalu bod y sgiliau hyn yn cael eu hatgyfnerthu yn y fan a’r lle mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyd-destunau.

Page 29: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Mae’r baich o gyfathrebu yn gorwedd ar y gwrandawr/oedolyn

Dealltwriaeth wael o ystumiau cyfathrebu

Tybio bod gan y gwrandawr wybodaeth flaenorol

Chwarae Rôl. Gwneud fideo a gwylio wedyn. Gwylio rhaglenni teledu/clipiau youtube a thrafod beth oedd yn dda/beth ellir ei wella.

Fel yr uchod, ond ar gyfer archwilio’r defnydd o ystumiau a iaith y corff.

Mae recordiadau clywedol o sgyriau yn gallu helpu disgyblion hŷn wybod os ydynt yn siarad yn rhy gyflym neu’n rhy araf, os yw’r sgwrs yn dameidiog neu os ydyn nhw’n domineiddio’r sgwrs.

Defnyddiwch jariau cyfathrebu. Llenwir y jariau gyda thestunau sgwrs, ymadroddion i ddechrau neu ddiwedd sgwrs neu gwestiynau i’w gofyn i’r person arall. Dylai disgyblion gymryd un a chynnal sgyrsiau gan ddefnyddio’r rhain i brocio’r sgwrs.

Plant iau: modelu effeithiol/brwdfrydig, rhyngweithio a chanmol.

Efallai y bydd rhyngweithio dwys yn briodol i rai disgyblion.

Gallu bod yn or-wyliadwrus; disgrifir yn aml fel cymeriad sy’n manipiwleiddio oherwydd rheolaeth wael ar emosiynau

Page 30: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

5. Cyfathrebu 5.2 Dealltwriaeth wael o ystyr a awgrymir, jôcs, coegni a thynnu coes ysgafn

Dealltwriaeth wael o iaith idiomatig

Dylid siarad â’r disgyblion gan ddefnyddio iaith glir, ddiamwys. Dylid sicrhau bod y staff i gyd yn ymwybodol o’r angen yma gyda disgyblion ar y Sbectrwm Awtistig.

Dysgwch idiomau drwy gael disgyblion i baru lluniau o’r ystyron llythrennol ac anllythrennol.

Pan fydd iaith anllythrennol yn cael ei defnyddio neu’n ymddangos mewn gwaith, rhowch esboniad.

Dysgwch y gwahaniaeth rhwng tynnu choes a bwlio. Trafodwch senarios. Actio/chwarae rôl. Sicrhewch bod y plentyn yn gwybod y gallant ofyn i oedolyn os ydynt yn ansicr o hyn.

Tynnu coes ysgafn yn gallu achosi gofid mawr (fel petai hunan-barch yn rhy fregus i ymdopi) – mewnoli/tybio bod hyn amdanyn nhw

Dealltwriaeth wael o iaith idiomatig (ac efallai’n cymryd camddealltwriaeth yn bersonol)

Synau sy’n chwilio am sylw (e.e. sgrechian/swnian/ ochneidio dan straen) i ddangos anghenion a dymuniadau emosiynol

Ystod geirfa gwael yn aml i’r oed a’r gallu

Hyn yn amlwg iawn erbyn iddynt gyrraedd llencyndod

Efallai’n defnyddio geirfa fwy emosiynol (i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hateb)

Defnyddio llawer o eirfa sylfaenol negyddol i ddisgrifio emosiynau eraill.

Gwaith ELSA i godi hunan-barch. Sicrwydd a chanmoliaeth parhaus i godi hunan-barch. Amser Cylch ar ddelio â sefyllfaoedd anodd. Cynlluniau fel Emotional Coaching (Robyn Hromek) i blant 7-14 oed – adran ar fwlis.

Taflenni ABC i ganfod pryd fydd disgybl yn teimlo dan straen. Oedolyn allweddol i “feddwl yn uchel”

Gwrthrychau ffidlan

Defnyddio Hyfforddiant Academaidd, Cymdeithasol ac Emosiynol.

Fel yr uchod – sicrhau bod iaith o’u hamgylch drwy’r amser.

Page 31: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

5.3 Defnyddio sŵn yn hytrach na iaith

5.4 Geirfa

5.5 Sylwadau

Gwneud synau er mwyn pleser personol (fel hoff eiriau) e.e. cyfarth

Efallai’n cael problemau canfod geiriau

Yn aml â geirfa anarferol o dda (i’r oed neu allu gwybyddol, neu o fewn meysydd diddordeb arbennig)

Llai o ddefnydd o iaith sy’n ymwneud ag emosiwn

Darparu manylion mewn modd pedantig, ac yn rhoi

Gall hyn fod yn angor synhwyraidd sy’n eu helpu i reoleiddio eu hunain, a gall fod yn fwy amlwg ar adegau o newid neu ofid. Mae cnoi yn gallu helpu. Dylid caniatáu amser ar gyfer y synau pan nad yw’n amharu ar eraill. Gall clustffonau helpu os yw’r disgybl yn gwneud y synau i’w helpu i foddi synau diangen. Trafodwch iaith ac ymddygiadau priodol / amhriodol. Trafodwch gydar disgyblion ble allant ymddwyn fel hyn a rhowch enghreifftiau iddynt o ymddygiad sy’n fwy derbyniol yn gymdeithasol. Gwnewch yn siwr bod yr holl staff yn ymwybodol o broffil llafar disgyblion ac unrhyw anawsterau prosesu a ddaw i’r golwg.

Ymarferion dosbarthu. Gellir defnyddio diagramau pry cop i restru geirfa a gysylltir â phob emosiwn e.e. trist: truenus, ypset, dagreuol, isel

Dylid targedu darllen ar gyfer mynegiant. Gwaith drama

Gall fod yn cadw at steil gyfathrebu’r stryd a ddim yn gwybod sut i newid cywair yn ôl y gynulleidfa. Llai o ymddygiad sy’n rhoi sylwadau

Page 32: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

gormod o wybodaeth Defnyddiwch gerdyn amser siarad. Os yw’r disgybl yn siarad gormod, rhowch gerdyn amser siarad iddynt sy’n caniatáu iddynt sgwrsio â chi am 5 munud ar ddiwedd y wers. Gallai hyn eu rhwystro rhag tarfu ar y sesiwn.

Defnyddiwch amserydd i ddangos yn weledol bod terfyn amser ar y sgwrs.

Page 33: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

6. Rheoleiddio emosiynau 6.1 Anawsterau o ran rheoli eu hemosiynau a gwerthfawrogi sut mae pobl eraill yn rheoli eu hemosiynau hwy

Emosiynau eithafol yn gallu ysgogi gorbryder a chwestiynau ac ymddygiad ailadroddus

Ddim yn dysgu sut i reoli emosiynau’n rhwydd oddi wrth waith modelu (hefyd yn debygol o fod angen esboniad)

Cael anhawster adnabod eu hemosiynau eu hunain ac emosiynau eraill

Emosiynau’n cymryd drosodd oddi wrth resymeg/gwybodaeth o beth ddylai rhywun ei wneud e.e. wrth golli gêm

Ddim yn dangos emosiwn i bawb – gwahaniaethu rhwng pobl a mannau e.e. byth yn cael pwl o dymer ddrwg yn yn ysgol

Cael anhawster dangos empathi hyd yn oed tuag at bobl eraill pwysig yn eu bywydau

Empathi gwybyddol yn wan

Os ydych yn rhagweld bod sefyllfa neu newid anodd ar y gorwel, helpwch ddisgyblion i baratoi ar gyfer hyn a chanfod ffyrdd a fydd yn eu helpu i ymdopi. Ymarfer corff, amser tawel, amser diddordeb arbennig. Ysgrifennwch gwestiynau ac atebion i lawr er mwyn i’r disgybl allu cyfeirio at yr atebion os oes angen.

Gweithiwch ar reoli emosiynau gan ddefnyddio rhaglenni fel y Raddfa 5 Pwynt neu Parthau Rheoleiddio. Cofiwch bod y plentyn yn teimlo’r emosiwn ond efallai’n methu ei labelu heb sôn am hunan-reoleiddio.

Labelwch emosiynau i’r plentyn pan ydych yn meddwl eu bod yn eu profi – sicrhewch bod hyn yn beth arferol a’ch bod yn cynnwys emosiynau positif a negyddol. “Rwy’n gallu gweld dy fod yn hapus, rwy’n meddwl hyn oherwydd ...”

I blant hŷn, defnyddiwch broses ‘Person Construct Psychology’ i wella hunan-barch y disgyblion. Helpwch disgyblion i adnabod emosiynau yn eu hunain drwy drafod sut mae’r emosiynau’n teimlo (yn gorfforol) a sut y maent yn edrych (defnyddiwch ddrychau/ffotograffau).

Cael anhawster ymdopi gyda emosiynau eithafol ac o ddod dros hynny wedyn (e.e. cyffro, ofn, llid, tristwch)

Efallai’n ysgogi adweithiau emosiynau eithafol mewn eraill sy’n dueddol o roi eraill mewn rolau o berthnasoedd llai iach sy’n gyfarwydd iddynt o’u profiad eu hunain yn y gorffennol

Efallai y gallant ddysgu’n haws o enghraifft di-eiriau yn hytrach nag ar lafar

Y plentyn yn dangos emosiynau i bobl nad yw’n eu hadnabod (anwahaniaethol) ac yn dueddol o gario ymlaen yn hirach (e.e. pyliau o dymer ddrwg yn digwydd yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg)

Cael anawsterau o ran dangos empathi’n gyffredinol ond yn gallu dangos gwell empathi tuag at berson pwysig yn eu bywydau

Gallu adnabod agweddau di-eiriau ar emosiynau’n dda

Darparwch le diogel iddynt ddangos eu teimladau, rhowch weithgareddau tawelu iddynt; gallant fod yn rhythmig neu’n gerddorol neu weithgareddau gwasgedd dwfn.

Os oes pryder ynghylch chwarae rôl sy’n dangos cydberthnasau llai iach, ystyriwch a oes angen atgyfeirio’r achos at Y Tim o Amgylch y Teulu/Gofal Cymdeithasol.

Sicrhewch fod y plentyn yn gwybod eu bod yn ddiogel yn amgylchedd yr ysgol.

Defnyddiwch raglenni teledu, trosiadau a gemau i ddarparu pellter wrth archwilio emosiynau gan bod siarad yn uniongyrchol am deimladau’n gallu bod yn rhy fygythiol i’r disgyblion hyn. Mae cynlluniau fel “Dealing with feelings” yn ddefnyddiol.

‘Social Stories’

Sgyrsiau ‘Comic Strip’

Dysgwch gyfarchion priodol os yw’r plentyn yn rhy gyffyrddol e.e. mae Pawen Lawen yn fwy priodol na chofleidio mewn rhai sefyllfaoedd.

Page 34: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Anogwch y disgyblion i adnabod beth allant ei wneud i’w helpu i reoli’u hunain os ydynt yn aflonydd. Ysgrifennwch y syniadau iddynt allu cyfeirio atynt. Defnyddiwch bethau gweledol/lluniau i blant llai galluog neu blant iau. Mae fersiwn llai o’r raddfa 5 pwynt, sef graddfa 3 pwynt yn gallu bod yn ddefnyddiol, gan amlygu camau emosiynol Coch, Oren a Gwyrdd oherwydd bod rhai disgyblion yn cael trafferth adnabod mwy o gamau.

Darparwch fannau/

gweithgareddau tawel ar gyfer ymdawelu. Defnyddiwch sgyrsiau ‘Comic Strip’ i ddysgu sut i ymateb yn wahanol i sefyllfaoedd sy’n digwydd.

Cofiwch bod y plentyn yn cael ei werthfawrogi a’i dderbyn bob amser, ac mai awtistiaeth sy’n gyfrifol am yr ymddygiadau.

Archwiliwch i weld os oes

problemau synhwyraidd posibl yn arwain at orbryder sy’n llethu’r plentyn/ person ifanc.

Os yw’r plentyn yn gallu adnabod emosiynau yn ei hunan, gellir eu dysgu i adnabod rhai emosiynau mewn eraill. Bydd rhai disgyblion wedyn yn gallu cael eu dysgu sut i ymddwyn mewn modd empathetig. Er enghraifft, os yw person yn crio, gallent ddysgu gofyn iddynt os ydynt yn iawn - a rhoi hances iddynt!

Page 35: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

6. Rheoleiddio emosiynau 6.2 Patrymau hwyliau anaferol

6.3 Tueddol o fynd i banig

Hwyliau’n newid yn sydyn mewn ymateb i’r hyn y mae’n credu sy’n anghyfiawnder

Mynd i banig ynghylch newid mewn rwtinau a defodau ac ynghylch profiadau annisgwyl

Defnyddiwch raglenni sgiliau cymdeithasol strwythuredig er mwyn gweithio ar sgiliau cymdeithasol sy’n benodol i’r disgybl. Dylid defnyddio modelau rôl da os yn gweithio mewn grwpiau.

Efallai y gallai Arfer Adferol helpu. Ar ôl y digwyddiad, trafodwch ar sail 1:1 gyda’r disgybl i weld beth oeddynt yn ei deimlo aeth o’i le a beth allent ei wneud petai’n digwydd eto.

Newidiadau sydyn mewn hwyliau sy’n ymwneud â chyflyrau mewnol e.e. Anhwylder straen wedi trawma (PTSD), ôl-fflachiadau, a chredu bod rhywbeth yn pwyso arnynt

Panig yn ymwneud ag ofn na fydd eu gofynion yn cael eu cyflawni (yn enwedig bwyd, diod, cysur, sylw)

Dylid darparu rhywle i’r plentyn dawelu ynghyd â gweithgareddau tawel e.e. Blwch Tawelu.

Dylid cydnabod y gorbryder – “Rwy’n gwybod bod hyn yn anodd. Gad i ni wneud hyn gyda’n gilydd.”

Dylid defnyddio sylwebaeth Emosiynol a Chymdeithasol i dynnu sylw at ymddygiadau positif.

Dylid sicrhau cysondeb yn nulliau staff o ran newid i rwtinau. Mae amserlenni a blaengynllunio’n hanfodol i bob plentyn sydd ag Awtistiaeth.

Bydd graddfa 3 neu 5 pwynt yn helpu. Mae hyn yn galluogi disgyblion i adnabod sut mae’r panig yn teimlo a byddai’r golofn gerllaw yn nodi ffyrdd y maent yn teimlo y gallant reoleiddio’u hunain. Mae angen i’r plentyn a/neu’r rhiant gyfrannu at nodi beth sy’n eu tawelu gan

Page 36: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

fod hynny’n beth personol iawn i’r unigolyn.

Anadlu’n dawel. Mae anadlu allan am gyfnod hirach na mewnanadlu yn gallu helpu tawelu’r corff a’r meddwl. Er enghraifft, gallai disgyblion anadlu allan am 8 eiliad a mewnanadlu am 5 eiliad.

Mae cardiau senario’n gallu helpu pan fydd disgybl yn symud i ysgol newydd, mynd ar daith neu wyliau teulu, er enghraifft. Gallai’r cardiau ddweud: Beth fyddwn i’n ei wneud petawn i’n mynd ar goll ... colli fy ngwaith cartref ... teimlo’n sâl yn y car?

Hefyd, mae edrych ar y llefydd y maent yn mynd iddynt neu’r gwesty y byddant yn aros ynddo ar y we’n gallu rhoi sicrwydd.

Yn gyffredinol, mae rhybudd o newid ymlaen llaw yn hanfodol i ddisgyblion sydd ag ASC, fodd bynnag, bydd rhai disgyblion yn dechrau gorbryderu os rhoddir gormod o rybudd. Mae’n dibynnu ar yr unigolyn. Trafodwch gyda’r rhieni os yn ansicr am hyn.

Page 37: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

7. Problemau gyda swyddogaeth weithredol

7.1 Cof anarferol

7.2 Anhawster gyda chysyniad amser - ymwybyddiaeth gyfyng o amser

Cof gweithredol gwael os nad ydynt wedi’u cymell yn dda

Cof hirdymor anarferol iawn, gallu dwyn manylion i gof

Dibynnu’n haearnaidd ar ddefnyddio amserau manwl-gywir (e.e. defnyddio oriawr, methu dyfalu’r amser)

Mae aros yn blino’r plentyn oherwydd bod hynny’n amharu ar rwtin

Mae ‘Mastering Memory’ yn adnodd defnyddiol. Gwaith dilyniannu. Defnyddiwch gymhellion i annog ffocws a chysylltwch gwaith gyda diddordebau arbennig lle bo hynny’n bosibl.

Rhoi rhaglen o dasgau ar gyfer gwersi, pwyntiau bwled yn nodi trefn cwblhau tasgau

‘Social Stories’ i hybu agwedd fwy hyblyg at amser.

Mae amser yn un o’r cysyniadau anoddaf i’w ddysgu, mae’n gallu ymddangos yn ddiddiwedd. Gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi gwybodaeth benodol i’r disgyblion o amserau pontio. Rhowch rybudd o 10 munud ar ddiwedd gweithgaredd. Mae’n bosibl i ddisgyblion sydd ag awtistiaeth fynd i banig os ydynt yn meddwl bod disgwyl iddynt barhau â gweithgareddau am “y bore” neu’r “diwrnod cyfan”. Efallai hefyd y byddant eisiau i weithgaredd a ffefrir ganddynt barhau ar ôl yr amser gorffen penodol, felly byddwch yn benodol. Defnyddiwch galendrau, amseryddion tywod a chlociau i ddangos pa mor hir y bydd tasg yn parhau.

Mae amser heb ei strwythuro weithiau’n anodd i blant sydd ag ASC.

Obsesiwn gyda digwyddiadau penodol.

Efallai’n drysu wrth geisio dwyn i gof

Dwyn i gof dethol

Mae gan amser arwyddocâd emosiynol (e.e. mae aros am ginio am amser hir yn cael ei gysylltu’n gyflym gyda theimladau o esgeulustod neu wrthodiad emosiynol)

Mae tuedd emosiynol yn arwain at anwybyddu rhai elfennau o sefyllfa (sylw’n cael ei dynnu at elfennau sydd ag arwyddocâd emosiynol)

Gweithgareddau dilyniannu, Kim’s Game, Parau, Gemau cof

‘Social Stories’

Cardiau cof Sicrhewch bod plant yn gwybod eich bod yn eu hystyried ac nad ydynt wedi cael eu hanghofio – bydd eu tro i gael bwyd yn dod, bydd yr athro yn dod atynt – mae rhoi gwrthrychau iddynt eu dal tra’n aros am athro yn gallu eu helpu i wybod bod rhywun yn meddwl amdanynt.

Page 38: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

7.3 Cydlyniad canolog gwael

Yn dueddol o ystyried y cyd-destun yn union fel ag y mae (methu ystyried profiadau blaenorol a ffactorau emosiynol)

Rhowch dasg er mwyn tynnu sylw’r plentyn oddi ar y rhwystredigaeth o aros.

Atgoffwch y disgybl o brofiadau dysgu blaenorol a sut mae’r wybodaeth honno’n berthnasol i’r dysgu presennol

Helpwch y disgybl i flaenoriaethu, ac i drefnu pethau

Rhowch amser ychwanegol ar gyfer cwblhau tasgau a phrosesu gwybodaeth (ychydig bach ar y tro)

Efallai y byddant yn gor-ganolbwyntio ar un agwedd o’r dasg ac felly’n cael trafferth symud ymlaen. Mae hyn yn gallu bod yn anodd mewn gwaith grŵp felly rhowch rolau sy’n gweddu i bawb.

Rhowch restr glir o’r hyn y dylid ei gyflawni yn ystod sesiwn, a sut mae’n cysylltu gyda gwaith blaenorol.

Page 39: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

Symptomau Awtistiaeth Presennol mewn Problemau Awstistiaeth ac Ymlyniad

Arwyddion nodweddiadol yn y sbectrwm Awtistiaeth

Strategaethau ac Awgrymiadau

Arwyddion nodweddiadol mewn Problemau Ymlyniad

Strategaethau ac Awgrymiadau

8. Problemau integreiddio synhwyraidd

8.1 Cael anhawster integreiddio gwybodaeth o’r synhwyrau (e.e. diffyg ymwybyddiaeth o wres, oerfel, poen, bod yn sychedig, chwant bwyd, yr angen i bi-pi/ymgarthu)

Efallai’n oddefol a thawel gan dderbyn yr anghysur, neu efallai’n ofidus ond ddim eisiau cyfleu beth yw ffynhonnell hynny

Efallai’n or-sensitif i rai synwyriadau ysgafn hyd yn oed pan fydd trothwy poen yn uchel e.e. labeli mewn dillad yn cosi ond cnoead ar y fraich ddim yn effeithio.

Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o boen corfforol, gallant fod yn llai amlwg mewn disgyblion sydd ag awtistiaeth. Rhowch egwyl nyth/cysur/symud i bawb oherwydd bydd holl blant yn elwa o hyn, ond bydd yn help arbennig i blant ag awtistiaeth.

Cyfathrebwch gyda rhieni neu ofalwyr i gael gwybod beth yw’r proffil synhwyraidd.

Trafodwch hyn gyda’r Therapydd Galwedigaethol yn y cyfarfod TAPPAS 2

Efallai y bydd anghysur corfforol yn ysgogi ymateb emosiynol cryf tuag at y gofalwr (e.e. llid a beio’r gofalwr am yr anghysur)

Efallai na fydd y gofalwr yn cael gwybod am yr anghysur sy’n deillio o anghenion sylweddol e.e. chwant bwyd, sychedig hyd nes eu bod yn ddifrifol

Gall yr anghysur sy’n gysylltiedig ag anghenion corfforol ysgogi blinder a gofid yn gyflym, gan brocio’r gofalwr i weithio allan a datrys y problemau i/gyda’r plentyn

Ar ddechrau sesiwn, gwiriwch sut mae’r plentyn yn teimlo ac os ydynt wedi bwyta/yfed. Dysgwch nhw i adnabod eu bod eisiau bwyd os yw eu boliau’n brifo cyn cinio – maent yn aml yn credu eu bod yn sâl!

8.2 Agosrwydd corfforol anarferol

Nid oes perthynas rhwng pellter corfforol ac agosatrwydd e.e. maent yn sefyll yn rhy agos oherwydd nad ydynt yn ymwybdol o reolau agosrwydd cymdeithasol

Cwblhewch Broffil Synhwyraidd gyda staff a rhieni. Mae gan y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol (NAS) fersiwn ddefnyddiol iawn arlein.

Addysgwch am agosrwydd, yn enwedig gyda phlant hŷn. Efallai bydd angen arddangos hyn. Efallai bod angen esbonio iddynt ei bod yn iawn sefyll yn agosach at rai bobl na phobl eraill.

Dangos ymwybyddiaeth bod agosrwydd corfforol yn gysylltiedig ag ymatebion emosiynol (e.e. cynyddu pellter i ddangos gwrthodiad; chwilio am ormod o agosrwydd os yn synhwyro bod gwahanu ar fin digwydd)

Efallai y bydd angen gosod oedolyn gyda grŵp i’w galluogi i oddef yr oedolyn yn hytrach na cheisio creu ymlyniad rhwng oedolyn a phlentyn penodol.

Rhowch wrthrychau pontio i gysylltu’r plentyn â’r gofalwr/cartref – pethau fel dillad gydag arogleuon sy’n rhoi cysur iddynt

Page 40: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar

8.3 Hunan-ysgogi

Mae hunan-ysgogi’n debygol o fod yn gysylltiedig ag anghenion synhwyraidd yr hunan

Mae cydnabod yr ymddygiadau hyn yn gallu bod yn ffordd o adnabod problemau o ran emosiynau neu synhwyrau.

Os yw’r ymddygiad yn achos pryder, fel cnoi eraill neu nhw eu hunain, yna ceisiwch gynnig rhywbeth amgen. Mae’n hynod o anodd dileu ymddygiad ond mae’n bosibl rhoi rhywbeth yn ei le. Gyda phlentyn sy’n cnoi, byddai modd rhoi cyfle i’r plentyn gnoi neu gnoi tegan ar adegau yn ystod y dydd.

Mae egwyl i symud yn gallu helpu

Cynigiwch degan synhwyraidd neu wrthrych y gellir ‘ffidlan’ ag ef

Efallai’n dangos ymddygiad wedi’i rywioli er mwyn ysgogi ymatebion neu i dawelu’r hunan.

Mae hunan-niwed yn gysylltiedig â chyflwr emosiynol.

Defnyddiwch ‘Social Stories’ i ddysgu beth sy’n dderbyniol a lle!

Gyda phlant iau sy’n cyffwrdd eraill yn amhriodol, gallai’n fuddiol cynnal Amser Cylch sy’n trafod peidio â chyffwrdd llefydd sy’n cael eu gorchuddio gan wisg nofio. Os oes gan ddisgybl allu isel (NVR, dan 69), gellir ystyried atgyfeirio’r achos at PBIS er mwyn cael cymorth ynghylch ymddygiad wedi’i rywioli.

Gellir ystyried atgyfeirio’r achos at Dîm Iechyd a Lles Emosiynol. Dylid sicrhau bod y disgybl yn gallu cael gafael ar oedolyn cefnogol/lle diogel a thawel os oes angen. Os yw’r plentyn yn hunan-niweidio yn yr ysgol, dylid sicrhau bod asesiad risg yn ei le.

Page 41: GRID COVENTRY STRATEGAETHAU CYMORTH …...cynigiwch amrywiaeth o flasau a gweadau. Gellir gwneud hyn mewn ffordd hwyliog gyda phlant iau. Gellid defnyddio ELSA yr ysgol i weithio ar