224
Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Ymgynghoriad Cyhoeddus Adolygiad o Siarter y BBC #yourBBC 16 Gorffennaf – 8 Hydref 2015

GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Adran Diwylliant,Cyfryngaua Chwaraeon

Ymgynghoriad Cyhoeddus Adolygiad o Siarter y BBC#yourBBC

16 Gorffennaf – 8 Hydref 2015

Page 2: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 3: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ymgynghoriad Cyhoeddus Adolygiad o Siarter y BBC

Cyflwynwyd i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon drwy Orchymyn ei Mawrhydi

Gorffennaf 2015

CM9116

Page 4: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

© Hawlfraint y Goron 2015

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn dan delerau trwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, trowch nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at Information Policy Team, The National Archives, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e-bostiwch: [email protected].

Os gwelsoch wybodaeth sydd dan hawlfraint trydydd parti bydd angen ichi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/government/publications

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn [email protected]

ISBN argraffu 9781474123334

ISBN gwe 9781474123341

ID 06071508 07/15

Argraffwyd ar bapur yn cynnwys lleiafswm o 75% o gynnwys ffibr wedi ei ailgylchuArgraffwyd yn y Deyrnas Unedig gan Williams Lea Group ar ran Rheolydd Llyfrfa ei Mawrhydi

Page 5: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Rhagair 2

Crynodeb gweithredol 6

Proses yr Adolygiad o’r Siarter 16

Cwestiynau

1: Pam y BBC? Cenhadaeth, diben a gwerthoedd 24

2: Beth mae’r BBC yn ei wneud. Maint a chwmpas 92

3. Cyllid y BBC 128

4. Llywodraethu’r BBC

Rhestr termau 158

Ôl-nodion 162

Page 6: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Rhagair

John Whittingdale

Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant,y Cyfryngau a Chwaraeon

Mae’r BBC wrth galon Prydain. Mae’n un o’r sefydliadau a drysorir fwyaf gan y genedl hon - mae’n chwarae rhan ym mywydau bron iawn bob un ohonom. Bydd y Siarter Frenhinol bresennol, sail gyfansoddiadol y BBC, yn dod i ben ar ddiwedd 2016. Mae’r papur hwn yn lansio proses ymgynghori’r Llywodraeth a fydd yn llywio ein penderfyniadau ynghylch dyfodol y BBC.

Y llynedd, fel Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, gwrandawais ar dystiolaeth gan amrywiaeth o arbenigwyr ar y BBC ynghylch yr heriau mae wedi’u hwynebu a’r materion i’r dyfodol. Mae hyn wedi fy nghynorthwyo i sefydlu beth mae angen i’r Adolygiad hwn o’r Siarter ei ystyried. Fel Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n dymuno gwrando ar bobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, fel gallaf ddeall beth mae ar y wlad hon ei eisiau a’i angen gan ac ar gyfer y BBC.

Ddeng mlynedd yn ôl, y tro diwethaf y cynhaliodd y Llywodraeth adolygiad o’r siarter, roedd tirwedd y cyfryngau yn edrych yn wahanol iawn. Roedd miliynau o gartrefi yn dal i gael dewis o bum sianel teledu yn unig. Nid oedd Facebook wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig, roedd YouTube wrthi’n cael ei lansio, ac nid oedd yr iPhone yn bodoli. Pan ddaeth y Siarter Frenhinol i rym yn Ionawr 2007, ni fyddai neb wedi gallu rhagweld sut byddai’r technolegau oedd newydd ymddangos bryd hynny yn llunio ein dulliau o ddefnyddio’r cyfryngau a byw ein bywyd yn y pen draw, nac i ba raddau y byddai rhai pethau yn aros yr un fath.

Mae’r ffrwydrad yn y defnydd o’r rhyngrwyd a dyfeisiau symudol yn golygu fod pobl

Page 7: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

bellach yn treulio mwy o amser yn defnyddio cyfryngau ac yn cyfathrebu nag yn cysgu,1 a byddant yn defnyddio cyfrifiaduron llechen symudol a ffonau clyfar i ffrydio cynnwys fideo a sain byw ac ‘ar gais’ trwy bwyso botwm. Ond nid yw hynny wedi golygu ‘marwolaeth’ teledu na radio - yn lle hynny, rydym wedi gweld amrywiaeth y dewisiadau yn cynyddu - ac mae’r gwasanaethau newydd yn ategu yn hytrach na disodli’r hen rai. Nid yw’r ffaith fod llawer o bobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyrchu fideo ar gais, ffrydio cerddoriaeth a chanfod y newyddion diweddaraf yn newid y ffaith fod y rhan fwyaf o bobl yn dal i ddymuno gwylio rhaglenni teledu pan fyddant yn cael eu darlledu, y dal i ddibynnu ar y radio ac yn dal i ddymuno darllen papurau newydd.

Mae’r BBC wedi addasu yn unol â’r dirwedd heriol hon. Gofynnwyd iddi arwain y symudiad at deledu digidol, ac mae wedi arloesi â gwasanaethau newydd megis yr iPlayer, a gafodd 3.5 miliwn o geisiadau am raglenni yn 20142. Mae wedi gwneud hyn ac wedi parhau i ddarparu rhaglenni a gwasanaethau rydym wedi dod i ddibynnu arnynt i’n hysbysu, ein haddysgu a’n diddanu. Rydym yn dymuno gweld y BBC yn parhau i addasu a ffynnu,

a chwarae ei rhan o fewn tirwedd ehangach Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a’r cyfryngau.

Mae’r BBC yn dal yn annwyl iawn gan gynulleidfaoedd, yn beiriant twf gwerthfawr ac yn feincnod rhyngwladol o ran teledu, radio, gwasanaethau ar-lein a newyddiaduraeth. Mae wedi dangos hyn dro ar ôl tro yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf: sylw i ddigwyddiadau sy’n dod â phob un ohonom ynghyd megis y Gemau Olympaidd; rhaglenni teledu sy’n diddanu miliynau fel Miranda, Sherlock a Bake Off neu sy’n addysgu ac yn hysbysu fel rhaglenni dogfen o’r radd flaenaf y BBC ynghylch natur a hanes; gwasanaeth radio arobryn, sy’n denu hanner oedolion y Deyrnas Unedig i wrando ar orsafoedd cerddoriaeth y BBC bob wythnos3; gwefan fwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig; a gwasanaeth newyddion dibynadwy a ddefnyddir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac mae’r World Service yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang o 210 miliwn ac yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y modd y canfyddir y Deyrnas Unedig yn rhyngwladol4. Mae wedi gwneud hyn ac wedi targedu arbedion blynyddol gwerth £700 miliwn ar yr un pryd trwy Delivering Quality First5.

Page 8: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Rhagair

Ond mae angen i ni hefyd holi nifer o gwestiynau anodd yn yr Adolygiad o’r Siarter fel gallwn sicrhau llwyddiant y BBC, ac yn wir, darlledu yn y Deyrnas Unedig, yn y dyfodol. Beth ddylai’r BBC geisio’i gyflawni mewn oes pan mae’r dewis i ddefnyddwyr yn llawer iawn helaethach nag erioed o’r blaen? Beth ddylai ei faint a’i gwmpas fod yng ngoleuni'r nodau hynny ac i ba raddau mae’n effeithio ar eraill ym meysydd teledu, radio ac ar-lein? A beth yw’r strwythurau llywodraethu a rheoleiddio priodol? Wedi’r cwbl, y cyhoedd sy’n talu am y BBC. Felly mae’n briodol i’r cyhoedd gael cyfle i ddweud pa mor dda y mae wedi gwario'r £30 biliwn a rhagor o arian y bydd wedi’i gael dros gyfnod y Siarter hon, a sut ddylid talu amdani a’i llywodraethu yn y dyfodol.

Mae’n bwysig cydnabod fod amrywiaeth o heriau wedi codi yn ystod cyfnod y Siarter presennol lle methodd y BBC gyflawni’r safonau uchel y dylem ei ddisgwyl ganddi. Fe wnaeth y datguddiadau ynghylch Jimmy Saville a rhai o gyn-enwogion eraill y BBC amlygu ymddygiad gwarthus na chafodd ei herio. Er bod y rhain yn ymwneud yn bennaf

â digwyddiadau hanesyddol, bu methiannau golygyddol mewn perthynas â’r datguddiadau hyn ac mewn meysydd eraill. Mae’r BBC hefyd wedi cael ei beirniadu yn ystod y cyfnod hwn am ei rheolaeth ariannol a’i thryloywder. Mae taliadau diswyddo i uwch weithredwyr a’r twf yn nifer yr uwch reolwyr a maint eu cyflogau wedi denu beirniadaeth y mae’r BBC wedi cychwyn ymateb iddi ond yn ddiweddar. Ni lwyddodd y Fenter Cyfryngau Digidol (prosiect technoleg sylweddol) i gyflawni ei hamcanion, na darparu unrhyw gynnyrch yn y pen draw, er ei bod wedi costio £100 miliwn dalwyr ffi’r drwydded6. Mae systemau llywodraethu wedi bod yn anrhyloyw a beichus. Rhaid dysgu gwersi ym mhob un o’r meysydd hyn i sicrhau fod y BBC yn mynd i’r afael â heriau’r dyfodol. Erys cwestiynau hefyd ynghylch hynodrwydd y rhaglenni a ddarperir gan y BBC, a pha un ai a yw’n defnyddio ei dibenion eang i weithredu mewn modd sy’n rhy fasnachol, gan ganolbwyntio ar ffigyrau gwylio yn hytrach na darparu rhaglenni nodedig o ansawdd uchel na fyddai darparwyr eraill yn eu darparu.

Mae’r modd yr ariannir y BBC hefyd yn destun y ceir trafodaeth frwd yn ei gylch, yn enwedig

Page 9: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

pan mae gwasgfa ar gyllidebau yn ein cartrefi ac yn y pwrs cyhoeddus. Ar 6 Gorffennaf, cyhoeddais fod y Llywodraeth wedi cytuno gyda’r BBC na fydd yn cael cyllid gan y trethdalwr i ariannu trwyddedau teledu am ddim i bobl sydd dros 75 mlwydd oed erbyn 2020. Mae angen i ni hefyd foderneiddio ffi’r drwydded i gwmpasu teledu dal i fyny darlledu gwasanaeth cyhoeddus a byddwn yn lleihau’r cyfraniad a wneir gan y BBC at ariannu cyflwyno band eang. Ond er bod y Llywodraeth yn rhagweld y bydd ffi’r drwydded yn codi yn unol â chwyddiant, fe wnes i hefyd ddatgan yn glir y bydd angen gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch lefel y drwydded yn ystod cyfnod y Siarter nesaf yng nghyd-destun casgliadau’r Adolygiad o’r Siarter mewn perthynas â dibenion a chwmpas y BBC, a’r BBC yn sicrhau arbedion effeithlonrwydd yn union fel cyrff eraill y sector cyhoeddus. Ac wrth gwrs, mae cwestiynau ynghylch beth ddylai system ariannu gyffredinol y BBC fod yn y tymor canol a’r tymor hir y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy yn yr Adolygiad hwn o’r Siarter.

Mae heriau eraill yn wynebu’r BBC o ran diwallu anghenion newidiol cynulleidfaoedd. Nid yw ein gofynion yn newid o ran

y modd rydym yn defnyddio technoleg yn unig, mae angen i ni sicrhau fod y BBC yn cynrychioli’r cymunedau amrywiol ar draws y Deyrnas Unedig, gan gofio sefyllfa gyfnewidiol Prydain. Mae’r BBC wedi ymateb i’r angen i gynhyrchu rhagor yn ein gwledydd a’n rhanbarthau, ond mae rhai yn awgrymu ei bod yn canolbwyntio gormod ar Lundain. Ac er bod y BBC wedi cymryd camau positif o ran amrywiaeth a chynrychiolaeth, dylem barhau i holi beth arall all ei wneud.

Credaf y gall y BBC barhau i ffynnu. Ond i wneud hynny, bydd rhaid iddi ddatblygu. Mae’r papur hwn yn amlinellu’r materion a rhai o’r dewisiadau o ran sut allai hynny ddigwydd, gan gychwyn y broses ddemocrataidd o ymgynghori â’r wlad. Hoffwn weld hyn yn sbarduno trafodaeth a dadl yn ystod y misoedd sy’n dod wrth i ni fapio dyfodol y BBC.

John WhittingdaleYsgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant,y Cyfryngau a Chwaraeon

Page 10: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Crynodeb gweithredol Y Siarter Frenhinol yw sail gyfansoddiadol y BBC. Bydd yn dirwyn i ben ar ddiwedd 2016. Felly, mae’r papur ymgynghorol hwn yn ceisio annog y Deyrnas Unedig i drafod dyfodol y BBC.

“ Mae’r BBC wedi newid yn sylweddol yn ystod y can mlynedd bron iawn ers iddi gael ei sefydlu. Felly hefyd y byd y mae’n gweithredu ynddo.

Y BBC yw un o sefydliadau mawr Prydain. Ond er mwyn parhau i ffynnu, bydd rhaid iddi barhau i ddatblygu. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn archwilio pedwar maes lle gallai newid ddigwydd:

- Cenhadaeth, Diben a Gwerthoedd – beth yw diben y BBC, ystyried sail resymegol gyffredinol y BBC a’r achos dros ddiwygio ei dibenion cyhoeddus;

- Maint a chwmpas – beth felly ddylai’r BBC ei wneud, archwilio’r gwasanaethau y dylai eu darparu a’r cynulleidfaoedd y dylai geisio eu gwasanaethau;

- Cyllid – sut ddylid talu am y BBC, gan ystyried modelau ariannu i’r dyfodol a materion cysylltiedig megis y ffordd orau o orfodi taliadau; a

- Llywodraethu – sut ddylid goruchwylio’r BBC, gan ystyried opsiynau ar gyfer diwygio’r model Ymddiriedolaeth presennol ynghyd â materion llywodraethu eraill.

Page 11: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Pam y BBC?Cenhadaeth, dibenion a gwerthoedd

Mae’r BBC wedi newid yn sylweddol yn ystod y can mlynedd bron iawn ers iddi gael ei sefydlu. Felly hefyd y byd y mae’n gweithredu ynddo. Yn ystod y ddegawd ers cyflwyno’r Siarter bresennol, gellir dadlau ein bod wedi gweld mwy o newidiadau nag yn ystod unrhyw ddegawd flaenorol - a chafwyd ffrwydrad yn y dewis i gynulleidfaoedd o ran dulliau cyrchu cynnwys ac amrywiaeth y darparwyr. Wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd, mae rhai o’r dadleuon gwreiddiol dros y BBC wedi dod yn llai perthnasol. Ond mae’r sail resymegol dros gael BBC wedi’i ariannu gan y pwrs cyhoeddus sy’n “hysbysu, addysgu a diddanu” yn parhau yn gryf hyd yn oed yn oes y cyfryngau presennol. Mae’r Llywodraeth felly wedi ymroddi i ddyfodol y BBC a’r genhadaeth Reithaidd sy’n sail iddi.

Fodd bynnag, mae tirwedd y cyfryngau sydd wedi newid ac sydd yn newid yn codi cwestiynau ynghylch y ffordd orau o ddiffinio rôl unigryw y BBC. Un cwestiwn sy’n neilltuol o bwysig yw’r ffordd orau i ni allu deall y cysyniad o wasanaethu pawb. Wrth i nifer gynyddol o opsiynau ddod ar gael o ran sut gall cynulleidfaoedd wylio, darllen a gwrando ar gynnwys, mae’n berthnasol i ystyried y cwestiwn ynghylch i ba raddau y dylai’r BBC ganolbwyntio ar ddarparu rhaglenni ar gyfer pob cynulleidfa, yn gyfartal, ar draws pob llwyfan, neu a ddylai yn lle hynny ganolbwyntio ei hallbwn ar gynulleidfaoedd penodol neu nad ydynt wedi eu gwasanaethu’n ddigonol.

Page 12: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Crynodeb gweithredolAr hyn o bryd, mae gan y BBC chwe diben cyhoeddus eang iawn, a gafodd eu pennu ar adeg Adolygiad diwethaf y Siarter. Dylai holl weithgarwch y BBC fod yn gweithio tuag at gyflawni un neu ragor o’r rhain:

1. Cynnal dinasyddiaeth a chymdeithas sifil;2. Hybu addysgu a dysgu;3. Annog creadigrwydd a rhagoriaeth

ddiwylliannol;4. Cynrychioli’r Deyrnas Unedig, ei

gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau;5. Mynd â’r Deyrnas Unedig i’r byd a dod â’r

byd i’r Deyrnas Unedig;6. Darparu buddion technolegau a

gwasanaethau cyfathrebu newydd i’r cyhoedd.

Yn yr Adolygiad o’r Siarter, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr achos dros ddiwygio’r dibenion hyn, er mwyn darparu rhagor o eglurder ynghylch beth yn union mae’r BBC yn bodoli i’w gyflawni. Bydd hefyd yn ystyried yr achos ynghylch pa un ai a fyddai’r BBC yn elwa ar set o werthoedd wedi’u diffinio’n glir, gan sefydlu set o

nodweddion unigryw y BBC trwy gyfrwng y Siarter, yn cynnwys ei hannibyniaeth a’i hamhleidioldeb.

Beth mae’r BBC yn ei wneud.Maint a chwmpas

Mae’r dibenion cyhoeddus yn pennu’r fframwaith ar gyfer yr hyn ddylai’r BBC geisio ei gyflawni. Yn ychwanegol, mae’r Siarter yn datgan y dylai prif weithgareddau’r BBC gynnwys darparu cynnyrch gwybodaeth, addysg ac adloniant trwy gyfrwng teledu, radio a’r gwasanaeth ar-lein. Ond nid yw’r siarter yn dweud faint yn union o gynnyrch gwybodaeth, addysg ac adloniant y dylid ei ddarparu, y niferoedd a’r mathau o sianeli i’w defnyddio fel dull o ddarparu hyn, y cydbwysedd rhwng darpariaeth gwybodaeth, addysg ac adloniant, neu lefel y ddarpariaeth ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd - i bob pwrpas, beth ddylai bennu maint a chwmpas y BBC. Mae’r cwestiynau ynghylch pa un ai yw’r maint a’r cwmpas presennol yn briodol o fewn yr amgylchedd presennol y cyfryngau ac o ran darparu gwasanaethau mae ar y gynulleidfa eu heisiau ac mae’n barod i dalu amdanynt, yn gwestiynau allweddol ar gyfer yr Adolygiad hwn o’r

Page 13: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Siarter. Mae hynny’n neilltuol o wir yn achos cyd-destun gwasanaethau digidol – y maes lle cafwyd y datblygiadau mwyaf yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried pedair o brif agweddau maint a chwmpas:

- Ystod y gwasanaethau. Mae amrywiaeth y gwasanaethau a ddarperir gan y BBC wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod cyfnod y ddwy Siarter ddiwethaf. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan y BBC ddwy sianel a phum gorsaf radio genedlaethol yn unig. Bellach, dyma Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus mwyaf y byd, ac mae’n darparu naw sianel deledu a deg gorsaf radio, ac mae ganddi bresenoldeb enfawr ar-lein sy’n cyrraedd miliynau o bobl bob dydd. Mae’r Adolygiad o’r Siarter yn gyfle i benderfynu a yw’r ystod hwn o wasanaethau yn briodol i dalwyr ffi’r drwydded, neu a fyddai aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu’n well gan amrywiaeth mwy canolbwyntiedig o wasanaethau gan y BBC. Ynghyd â hyn, ceisir safbwyntiau ynghylch natur ac i ba raddau y dylai’r BBC symud oddi wrth lwyfannau darlledu traddodiadol tuag at ragor o bresenoldeb ar-lein.

- Effaith ar y farchnad. Mae’r modd mae’r gwasanaethau hyn yn effeithio ar sefydliadau eraill yn sector y cyfryngau yn ffactor bwysig wrth ystyried pa wasanaethau mae’r BBC yn eu darparu a sut. Mae sectorau ehangach y cyfryngau wedi tyfu yn ystod degawdau diweddar ac mae gan y Deyrnas Unedig un o sectorau cyfryngau a diwydiannau creadigol mwyaf bywiog y byd. Gall y BBC effeithio’n gadarnhaol ac yn negyddol ar weithgareddau ei chystadleuwyr. Gellir dadlau ei bod wedi cynorthwyo datblygiad y sector trwy annog safonau uchel a thrwy fuddsoddi mewn cynyrchiadau annibynnol a seilwaith dosbarthu’r cyfryngau. Fodd bynnag, mae eraill yn dadlau fod y lefel o arian cyhoeddus yn rhoi mantais annheg i’r BBC ac yn ystumio’r gyfran o’r gynulleidfa mewn modd sy’n tanseilio modelau busnes masnachol. Mae gan y BBC 60 y cant o refeniwiau sector radio’r Deyrnas Unedig, er enghraifft, ac mae’r cynnwys helaeth rhad ac am ddim y mae’n ei ddarparu ar-lein yn effeithio ar amrywiaeth helaeth o chwaraewyr.

Page 14: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Crynodeb gweithredol

- Cynulleidfaoedd. Mae’r BBC yn dal yn fawr ei pharch ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhan fwyaf o bobl yn y Deyrnas Unedig. Ond mae amrywiaeth ar draws grwpiau gwahanol, ac mae heriau penodol o ran cyrraedd cynulleidfaoedd o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a diwallu anghenion cynulleidfaoedd iau sy’n gwneud mwy a mwy o ddefnydd o gynnwys ar-lein, yn hytrach na thrwy gyfrwng llwyfannau traddodiadol megis teledu a radio. Mae amrywiaeth ar draws gwledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig hefyd. Bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried i ba raddau y mae’r BBC yn diwallu anghenion y gwahanol rannau o’r gynulleidfa gartref. Bydd hefyd yn ystyried beth yw’r ffordd orau o wasanaethu cynulleidfaoedd tramor, yng nghyd-destun rôl bwysig y BBC o ran sut canfyddir y Deyrnas Unedig yn rhyngwladol (mae gwasanaethau’r BBC bellach yn cyrraedd mwy na 300 miliwn o bobl ledled y byd bob wythnos).

- Cymysgedd, ansawdd a hynodrwydd y cynnwys. Mae’r Adolygiad o’r Siarter hefyd yn gyfle i ystyried y cynnwys a ddarperir gan y BBC. Mae’r BBC wedi gwneud newidiadau i’w chymysgedd o genres yn ystod blynyddoedd diweddar, ac mae angen ystyried a yw’n sicrhau cydbwysedd priodol o ran ei harlwy. O ran ansawdd a hynodrwydd, mae data’r BBC ei hun yn awgrymu fod canfyddiadau wedi bod yn weddol gyson yn ystod blynyddoedd diweddar. Ond yn yr adolygiad hwn, byddwn yn holi cwestiynau ynghylch ansawdd a hynodrwydd cynnwys y BBC a beth yw’r ffordd orau o fesur llwyddiant i’r BBC.

Mae’r modd y mae’r BBC yn penderfynu sut bydd yn gwario £2.4 biliwn ar gynnwys yn elfen arall o faint a chwmpas ei weithgarwch y bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ei ystyried. Caiff y modd y caiff cynnwys ei gynhyrchu ei reoli gan ddwy elfen: y fframwaith rheoleiddiol ehangach yn cynnwys y Telerau Masnachu, sy’n amlinellu sut mae’r BBC a darlledwyr eraill yn gweithio gyda chynhyrchwyr annibynnol, a system cwotâu'r BBC. Mae’r cwotâu yn pennu isafsymiau o gynnwys y mae’n rhaid iddo gael ei gynhyrchu

Page 15: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

gan y BBC ei hun a gan gwmnïau cynhyrchu annibynnol, yn ogystal â phennu gofynion eraill megis cynyrchiadau ‘y tu allan i Lundain’. Rhaid ystyried yr elfennau hyn yn gyffredinol, i sicrhau fod y BBC yn parhau i allu darparu cynnwys rhagorol i gynulleidfaoedd, yn effeithlon ac yn gost effeithiol, gan leihau i’r eithaf unrhyw effaith negyddol ar y farchnad ehangach a manteisio’n llawn ar unrhyw fuddion. Mae’r BBC wrthi’n paratoi cynigion am strategaeth ‘cystadlu a chymharu’ a fyddai’n dileu cwotâu ac yn troi gweithrediadau cynhyrchu’r BBC yn is-gwmni masnachol. Bydd yr adolygiad o’r siarter yn ystyried y cynnig hwn yn ogystal â dewisiadau eraill ar gyfer diwygio.

Cyllid y BBCMae ffi’r drwydded deledu wedi profi i fod yn ffynhonnell hynod o hydwyth o refeniw ar gyfer y BBC - darparodd hyn werth £3.7 biliwn o gyllid cyhoeddus y llynedd. Er bod gan hyn nifer o gryfderau fel model ariannu, mae’n wynebu heriau hefyd:

- Mae pryderon ynghylch pobl yn cael eu herlyn am osgoi talu am drwydded deledu, ac mae’n destun adolygiad annibynnol diweddar gan David Perry QC;

- Mae’n gyfradd unffurf orfodol sy’n golygu fod y sawl sydd ag incwm isel yn talu cymaint â’r sawl sydd ag incwm uchel;

- Mae’n wynebu anawsterau o ran dal i fyny â thechnoleg oherwydd mae nifer gynyddol o bobl – yn enwedig pobl ifanc – yn gwylio teledu dal i fyny ar-lein yn unig, ac o dan y drefn bresennol, maent wedi’u heithrio rhag gorfod cael trwydded teledu.

Page 16: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Crynodeb gweithredol

Er nad oes unrhyw anawsterau o ran y ffi’r drwydded, nid oes unrhyw ateb syml o ran ei ddiwygio. Un opsiwn y gellid ei ystyried yn y tymor hirach yw model tanysgrifio. Er bod gan hyn rywfaint o fanteision, nid yw’r dechnoleg sydd ei angen i’w gyflwyno - rheolaethau cyrchu yn benodol - ar gael yn helaeth mewn cartrefi. O’r herwydd, os ystyrir fod yr opsiwn hwn yn ddymunol, bydd angen ei gyflwyno dros gyfnod hirach. Dyma’r tri opsiwn o ran newid y model ariannu sy’n ymarferol yn y tymor byrrach:

- ffi trwyddedu teledu diwygiedig;- tâl am ddefnyddio cyfryngau;- model cymysg yn cynnwys ffi trwyddedu

teledu a model tanysgrifio.

Byddai manteision a chostau yn sgil bob un o’r rhain, a thrwy’r Adolygiad o’r Siarter, mae arnom eisiau ystyried pa un sy’n cynnig y model gorau i’r dyfodol.

Mae’r Llywodraeth wedi ymroddi i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod y flwyddyn nesaf i foderneiddio ffi’r drwydded er mwyn cwmpasu teledu dal i fyny Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae hyn yn bwysig i sicrhau fod y cyhoedd sy’n gwylio rhaglenni teledu yn cael bargen deg a bod cyllid y BBC yn parhau yn gadarn am ddegawdau i ddod.

Mae ail fater ariannu yn ymwneud â’r meysydd a’r gweithgareddau y dylid gwarchod eu cyllid. Ar hyn o bryd, mae amrywiaeth o brosiectau a meysydd lle cytunwyd â’r Llywodraeth pa lefel o gyllid y dylid ei warchod, yn hytrach na rhoi rhyddid llwyr i’r BBC ddewis hynny. Mae hyn yn ymwneud â meysydd megis cyflwyno band eang, newid i ddigidol, teledu lleol, y World Service ac S4C. Mae’r BBC a’r Llywodraeth eisoes wedi cytuno ar rai agweddau o hyn, ond erys cwestiynau

Page 17: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

ynghylch a ddylid gwarchod cyllid meysydd eraill, megis y newid i radio digidol, newyddion a chynnwys rhanbarthol. Mae ystyriaeth bwysig hefyd ynghylch a ddylai darlledwyr eraill allu hawlio cyfran o ffi’r drwydded i’w galluogi i gynhyrchu mwy o wasanaeth cyhoeddus na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall.

Yn drydydd, wrth ystyried cyllid, mae’n bwysig hefyd ystyried y gwerth am arian a’r effeithlonrwydd y mae’r BBC yn eu cyflawni. Cwestiynwyd hyn ar brydiau yn ystod cyfnod y siarter bresennol – er enghraifft, o ran taliadau diswyddo mawr ar gyfer uwch weithredwyr a’r Fenter Cyfryngau Digidol aflwyddiannus a gostiodd £100 miliwn cyn iddi gael ei ddileu. Mae’r BBC yn dal yn rhatach na’r rhan fwyaf o becynnau rhaglenni teledu ac mae’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, ond mae cwestiynau dilys ynghylch a allai wneud rhagor i sicrhau gwerth pennaf ffi’r drwydded, a sut.

Yn olaf, mae cwestiwn pwysig hefyd ar gyfer yr Adolygiad o’r Siarter ynghylch sut mae’r BBC yn cynhyrchu ei hincwm ei hun trwy weithgarwch masnachol. Ar hyn o bryd, mae incwm masnachol yn cynrychioli tua chwarter o gyfanswm incwm y BBC. Mae hyn yn bwysig o ran uchafu’r elw ar fuddsoddiad mewn cynnwys y gellir ei ail-fuddsoddi maes o law. Caiff y rhan fwyaf o weithgarwch masnachol y BBC ei gynnal gan BBC Worldwide, a enillodd dros £200 miliwn i’r Gorfforaeth y llynedd. Y cydbwysedd sy’n rhaid ei sicrhau yw sut gellir uchafu’r enillion hyn a sicrhau ar yr un pryd fod cynnwys y BBC yn cael ei lywio gan werth cyhoeddus yn hytrach na’i werth masnachol mewn marchnadoedd rhyngwladol. Caiff yr holl opsiynau eu hystyried i ganfod beth yw’r ffordd orau i sicrhau hyn.

Page 18: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Crynodeb gweithredol

Llywodraethu a rheoleiddio’r BBC

Y mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu Ymddiriedolaeth y BBC. Fe wnaeth hyn sefydlu corff sy’n gyfrifol yn anad dim am gynrychioli buddion talwyr ffi’r drwydded, ac ar eu rhan, a gwneud y BBC yn atebol. Er bod hyn wedi arwain at newidiadau cadarnhaol yn cynnwys cyflwyno elfennau newydd megis Profion Budd Cyhoeddus a Thrwyddedau Gwasanaethau, mae’r strwythur hwn wedi cael ei feirniadu’n gyson trwy gydol cyfnod y Siarter.

Mae penderfyniad lefel uchel ynghylch y strwythurau a’r sefydliadau sy’n rhan o’r model llywodraethu a rheoleiddio. Mae tri dewis cyffredinol:

- cadw Ymddiriedolaeth bresennol y BBC ond ei diwygio;

- creu corff rheoleiddio penodol newydd a rhoi bwrdd unedol i’r BBC;

- symud y gwaith o reoleiddio yn llwyr i’r corff rheoleiddio darlledu a thelathrebu presennol, Ofcom, a rhoi bwrdd unedol i’r BBC.

Mae gan bob un o’r rhain fanteision ac anawsterau a bydd llwyddiant unrhyw fodel yn dibynnu’n benodol ar ble mae rolau, cyfrifoldebau a phwerau penodol wedi’u lleoli. Bydd angen datblygu’r manylyn hwn trwy’r Adolygiad o’r Siarter. Wrth newid, bydd yn bwysig sicrhau na chollir unrhyw gynnydd a wnaed o dan yr Ymddiriedolaeth. O’r herwydd, bydd yr Adolygiad o’r Siarter hefyd yn ystyried a ddylid cadw’r Profion Gwerth Cyhoeddus a’r Trwyddedau Gwasanaethau, neu eu gwella ymhellach.

Page 19: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae agweddau pwysig eraill o lywodraethu a rheoleiddio y bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn eu hystyried.

- Ymgysylltu â’r cyhoedd. Sut mae’r BBC yn dryloyw wrth ymdrin ag aelodau’r cyhoedd, a sut mae’n gwrando arnynt ac yn ymgysylltu â hwy.

- Llywodraeth a’r Senedd. Mae annibyniaeth y BBC yn rhan hollol ganolog o’i chenhadaeth. Bydd angen i unrhyw fframwaith llywodraethu a rheoleiddio ystyried y berthynas briodol rhwng y BBC a strwythurau democrataidd y Deyrnas Unedig.

- Siarter Frenhinol. Mae cwestiwn hefyd ynghylch a yw Siarter ddeng mlynedd yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng buddion sefydlogrwydd a hyblygrwydd yn wyneb newidiadau cyflym.

£4.8bnRefeniw BBC Group

100,000Cyfanswm oriau teledu a radio rhwydwaith yn 2014

18 awr 17 munudYr amser cyfartalog bydd y gynulleidfa’n ei dreulio yng nghwmni’r BBC mewn wythnos

343mNifer y ceisiadau am raglenni i’r iPlayer yn Ionawr 2015

18,974Cyfanswm cyfartalog staff darlledu gwasanaeth cyhoeddus y BBC 2014-15

Page 20: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Proses yr Adolygiad o’r Siarter

Mae adolygu Siarter Frenhinol yn golygu mwy na dim ond cyhoeddi ymgynghoriad. Rydym yn dymuno ymgysylltu â’r cyhoedd a’r diwydiant i sicrhau fod bob safbwynt yn cael ei ystyried yn briodol. Dyma pam rydym yn ymgysylltu â phobl ledled y Deyrnas Unedig trwy sawl dull i’w wneud yn hawdd i bawb ymateb.

“Rydym yn dymuno ymgysylltu â’r cyhoedd a’r diwydiant i sicrhau fod bob safbwynt yn cael ei ystyried yn briodol.

Dweud eich dweud

Rydym wedi creu dull syml i’r cyhoedd ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar-lein: dywedwch eich barn wrthym ni yn www.gov.uk/government/consultations/bbccharter-review-public-consultation

Gallwch hefyd e-bostio eich ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad at [email protected]

Neu gallwch ysgrifennu atom yn:BBC Charter Review ConsultationDCMS100 Parliament StreetLlundain SW1A 2BQ

Page 21: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Bydd yr ymgynghoriad ar agor am 12 wythnos o 16 Gorffennaf 2015 hyd at 8 Hydref 2015.

Un o greadigaethau y Siarter ddiwethaf oedd Ymddiriedolaeth y BBC – cafodd ei sefydlu i gynrychioli talwyr ffi’r drwydded. Yn rhinwedd y rôl hon, bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn ymgynghori ynghylch cynigion ar gyfer dyfodol y BBC. Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i waith yr Ymddiriedolaeth ac yn gweithio gyda hwy ar amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer y diwydiant a’r cyhoedd i ystyried y materion pwysig yn fanwl yn ystod y misoedd sy’n dod.

Mae angen astudiaethau, adolygiadau ac ymchwil mewn perthynas â rhai meysydd hefyd – i ychwanegu arbenigedd technegol neu annibyniaeth oddi wrth y Llywodraeth. Byddwn yn comisiynu’r rhain yn ystod y misoedd sy’n dod. Bydd y broses hon yn rhedeg trwy gydol yr hydref a bydd yn llywio’r cynigion y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cyflwyno i ymgynghori ymhellach yn eu cylch yng ngwanwyn 2016.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi sefydlu Grŵp Ymgynghorol i gynorthwyo’r broses o Adolygu’r Siarter, a sicrhau fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael barn arbenigwyr ynghylch yr amrywiaeth o faterion sy’n cael eu trafod.

Mae rhagor o fanylion am y Grŵp a’i aelodau ar gael yn www.gov.uk/bbccharterreview

Page 22: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Beth yw’r Adolygiad o Siarter y BBC?

Sefydlir y BBC trwy Siarter Frenhinol, nid deddf seneddol, i bwysleisio annibyniaeth y BBC o lywodraeth y cyfnod.

Mae’n amlinellu dibenion cyhoeddus y BBC ac yn amlinellu dyletswyddau priodol Ymddiriedolaeth y BBC a’i Bwrdd Gweithredol.

Sut allwch chi gyfrannu at y cam hwn o’r adolygiad o’r siarter

Ymgynghoriad yn cychwyn 16 Gorffennaf 2015

Gorffennaf Awst

Ymgysylltu â’r cyhoedd a’r diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig.

Grŵp Ymgynghorol i gynorthwyo’r broses o Adolygu’r Siarter.

Astudiaethau, adolygiadau, ac ymchwil i amrywiaeth o faterion.

Ar-lein E-bost

www.gov.uk/government/consultations/bbc-charter-review-public-consultation

Page 23: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Daeth y siarter bresennol, yr wythfed, i rym ar 1 Ionawr 2007, a bydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2016 (cyfnod deng mlynedd yw’r safon hanesyddol).

Yr Adolygiad o’r Siarter yw’r cyfle i ystyried pob agwedd o’r BBC.

Medi Hydref

Ymgynghoriad yn dod i ben 8 Hydref 2015

Ysgrifennu

Page 24: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Themâu yr Adolygiad o’r Siarter

1. Pam y BBC?- Pam mae’r BBC yn bodoli?- Ar gyfer beth rydym yn dymuno i’r BBC fod yn ystod y blynyddoedd sy’n dod?- Ei chenhadaeth, ei dibenion a’i gwerthoedd. 2. Cyllid. Sut rydym yn talu amdani.- Y model ariannu.- Meysydd y gwarchodir eu cyllid.- Gwerth am arian, effeithlonrwydd a masnachol.

Page 25: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

3. Maint a chwmpas y BBC- Beth mae’r BBC yn ei wneud a sut mae’n gwneud hynny.- Y gynulleidfa mae’n ei gwasanaethu.- Rôl y BBC o fewn y sector cyfryngau a chreadigol ehangach.4. Llywodraethu’r BBC- Sut mae’r model presennol yn gweithio.- Opsiynau ar gyfer diwygio.- Materion llywodraethu ehangach.

Page 26: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cwestiynau

Pam y BBC? Cenhadaeth, diben a gwerthoedd Beth mae’r BBC yn ei wneud: maint a chwmpasC1 Sut gellir gwella dibenion cyhoeddus y BBC fel bydd rhagor o eglurder ynghylch beth ddylai’r BBC ei gyflawni?

C4 A ellir cyfiawnhau ehangiad y BBC yng nghyd-destun rhagor o ddewis ar gyfer cynulleidfaoedd? A yw’r BBC yn cymryd lle cystadleuwyr masnachol, ac os felly, a ellir cyfiawnhau hyn?

C2 Pa elfennau o wasanaethu pawb yw’r rhai pwysicaf i’r BBC?

C5 Ble mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod gan y BBC effaith ehangach cadarnhaol neu negyddol ar y farchnad?

C3 A ddylai’r Adolygiad o’r Siarter fynd ati’n ffurfiol i sefydlu set o werthoedd ar gyfer y BBC?

C6 Pa rôl ddylai’r BBC gael o ran dylanwadu’r dirwedd dechnolegol yn y dyfodol, yn cynnwys newid i radio digidol yn y dyfodol?C7 Pa mor dda mae’r BBC yn gwasanaethu ei chynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol?C8 A yw’r BBC yn cynnig y gymysgedd briodol o genres ar draws ei gwasanaethau?C9 A yw safon cynnwys y BBC yn ddigon uchel, ac a yw’n ddigon gwahanol i gynnwys darlledwyr eraill? Pa ddiwygiadau allai ei wella?C10 Sut ddylai’r system o gynhyrchu cynnwys gael ei gwella trwy ddiwygio cwotâu neu ddewisiadau mwy radical?

Page 27: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cyllid y BBC Llywodraethu a Rheoleiddio’r BBCC11 Sut ddylem ni dalu am y BBC a sut ddylid moderneiddio ffi’r drwydded?

C15 Sut ddylai model llywodraethu a rheoleiddio presennol y BBC gael ei ddiwygio?

C12 A ddylai lefel y cyllid ar gyfer rhai gwasanaethau neu raglenni penodol gael ei warchod? A ddylai rhywfaint o gyllid fod ar gael i ddarparwyr eraill er mwyn darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus?

C16 Sut ddylai’r Profion Gwerth Cyhoeddus a’r Trwyddedau Gwasanaethau gael eu diwygio a phwy ddylai fod yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn?

C13 A yw’r BBC wedi bod yn gwneud digon i sicrhau gwerth am arian? Sut allai fynd ymhellach?

C17 Sut all y BBC ymgysylltu’n well â thalwyr ffi’r drwydded a’r diwydiant, yn cynnwys trwy gyfrwng ymchwil, tryloywder a thrafod cwynion?

C14 Sut ddylai gweithgareddau masnachol y BBC, yn cynnwys BBC Worldwide, gael eu diwygio?

C18 Sut ddylai’r berthynas rhwng y Senedd, y Llywodraeth, Ofcom, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r BBC weithio? Pa strwythurau atebolrwydd a disgwyliadau ynghylch hynny, yn cynnwys tryloywder ariannol a rheolaethau ar wariant, a ddylai fod yn gymwys? C19 A ddylai dull gweithredu presennol Siarter Frenhinol a Chytundeb Fframwaith 10 mlynedd barhau?

Page 28: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

1. Pam y BBC?

Cenhadaeth, dibenion a gwerthoedd

Page 29: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 30: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Pam y BBC?

Cenhadaeth, dibenion a gwerthoedd

Mae’r BBC wedi datblygu ac ehangu ers ei sefydlu yn y 1920au fel unig ddarlledwr y Deyrnas Unedig, i fod yn un o blith llawer, yn darparu llu o sianeli a gwasanaethau. Y tu hwnt i ffiniau’r DU, mae’r BBC yn ddarlledwr ac yn frand a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang wythnosol o dros 308 miliwn o bobl7. Ond mae’r cyd-destun y mae’r BBC yn gweithredu ynddo wedi newid yn ddramatig yn ystod blynyddoedd diweddar.

“Mae’r BBC yn ddarlledwr ac yn frand a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn cyrraedd cynulleidfa fyd-eang wythnosol o dros 308 miliwn o bobl.

Mae’r bennod hon yn holi’r cwestiwn, beth mae’r BBC yn bodoli i’w gyflawni?

I wneud hyn, mae’n trafod y canlynol:

- y sail resymegol dros y BBC - beth oedd hynny’n wreiddiol, a pha un ai a sut mae hynny’n gymwys mewn tirwedd darlledu a chyfryngau sy’n newid yn ddramatig

- dibenion cyhoeddus y BBC – pa un ai a oes angen newid y rhain, neu eu hailasesu i adlewyrchu anghenion newidiol, disgwyliadau a blaenoriaethau’r gynulleidfa.

- gwerthoedd y BBC – pa un ai a ddylid eu cyfundrefnu trwy’r broses o Adolygu’r Siarter, gan nodi dulliau y gellid disgwyl i’r BBC eu gweithredu, a hysbysu ynghylch sut gallai’r BBC asesu ei pherfformiad.

Page 31: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cartref aml-sianel

Yn dilyn y newid i ddigidol, mae bob cartref yn ‘gartref aml-sianel’:70 sianelMae Freeview yn cynnig dros 70 sianel ac mae gwasanaethau lloeren a chebl yn cynnig mynediad at gannoedd o rai ychwanegol.Ar gael i 95% Erbyn diwedd 2017, bydd band eang cyflym iawn ar gael i 95 y cant o gartrefi a busnesau'r Deyrnas Unedig.

Page 32: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y sail resymegol dros y BBC

Yn union fel ymyrraeth y Llywodraeth mewn meysydd megis iechyd ac addysg, prif bwyslais y sail resymegol graidd dros y BBC, a pholisi darlledu gwasanaeth cyhoeddus8 (PSB) yn ehangach, yw’r angen i’r wladwriaeth ymyrryd yn y farchnad er mwyn sicrhau canlyniadau cymdeithasol.

Roedd yr achos gwreiddiol dros y BBC yn ymwneud â diffyg cystadleuaeth. Yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd y defnydd o’r sbectrwm (a’r gystadleuaeth) yn gyfyngedig dros ben, ac un darlledwr teledu yn unig oedd yn bodoli tan y 1950au. Roedd Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus yn ddewis a ffafrid yn well na monopoli preifat. Mae datblygiad technoleg wedi newid hyn. Bu twf cyson yn y sbectrwm a ddefnyddir ar gyfer darlledu yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, a gellir dadlau fod deng mlynedd siarter bresennol y BBC wedi profi’r cyfnod mwyaf dramatig o newid ym meysydd darlledu a thelathrebu ers i’r BBC gael ei sefydlu.

Yn dilyn y newid i ddigidol, mae bob cartref yn gartref ‘aml-sianel’ sydd â gwasanaeth Freeview sy’n cynnig dros 70 sianel9 a gwasanaethau lloeren a chebl sy’n cynnig mynediad at gannoedd o rai ychwanegol (o’i gymharu â 57 y cant yn 2006),10 ac erbyn diwedd 2017, bydd band eang cyflym iawn ar gael ar gyfer dros 95 y cant o gartrefi a busnesau y Deyrnas Unedig.11

Page 33: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae mynychder dyfeisiau symudol hefyd wedi arwain at lu o ddewisiadau ar gyfer gwylio a gwrando ynghyd â’r set teledu neu’r radio traddodiadol, neu yn lle hynny. Er enghraifft, mae gwasanaethau newydd megis Netflix, Amazon Prime, Spotify a Deezer eisoes wedi cychwyn gweddnewid arferion a disgwyliadau pobl o’r cyfryngau, a byddem yn disgwyl gweld y duedd hon yn parhau yn ystod y blynyddoedd sydd o’n blaen.

Mae hyn yn herio un o’r seiliau rhesymegol gwreiddiol dros PSB - bod y rhwystrau sylweddol rhag mynediad yn golygu fod angen ymyrraeth gyhoeddus. Mae’r genhedlaeth bresennol o setiau teledu clyfar,12 a’r nifer gynyddol o wasanaethau dal i fyny ac ar gais sydd ar gael, yn cynnig hyd yn oed rhagor o ddewis; mae’r cwsmer yn cael gwasanaeth gwell nag erioed.

Mae’r tueddiadau hyn yn codi cwestiynau ynghylch parhad perthnasedd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn oes y cyfryngau modern. Ond mae cynnwys PSB o ansawdd uchel ar y cyfan wedi cael ei ystyried yn wasanaeth sy’n haeddu arian cyhoeddus, ac ni fyddai darpariaeth ddigonol o ran hynny mewn

marchnad rydd. Nid yw hynny’n golygu y gellid dadlau na all marchnadoedd preifat ddarlledu rhaglenni o ansawdd uchel. Mae sawl enghraifft yn ystod blynyddoedd diweddar o ddarlledwyr masnachol yn darparu cynnwys sy’n cyflawni safon a ystyrid yn draddodiadol fel maes arbennig Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB). Mae’r cyfresi drama arobryn a gynhyrchir gan HBO yn enghraifft o hyn. Ond mae PSBs megis y BBC yn parhau i sicrhau effeithiau positif i gymdeithas megis ehangu gwybodaeth ddemocrataidd trwy gyfrwng newyddion a materion cyfoes, gan helpu i ymestyn dylanwad ac enw da’r Deyrnas Unedig dramor, mynd i’r afael ag anghenion cynulleidfaoedd megis grwpiau sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol, a gwasanaethu cynulleidfaoedd (megis plant) ble byddai hysbysebu gormodol yn amhriodol. Ni allai’r farchnad yn unig ddarparu nifer ddigonol o’r cynhyrchion hyn.

Ar waethaf y newid mewn technoleg, mae sail resymegol gryf dros barhad bodolaeth y BBC yn ystod yr unfed ganrif ar hugain yn dal i fodoli.

Page 34: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y sail resymegol dros y BBC

Mae cenhadaeth bresennol y BBC, ‘Cyfoethogi bywydau pobl trwy raglenni a gwasanaethau sy’n hysbysu, addysg a diddanu’13, fwy neu lai yr un fath ers cychwyn y Gorfforaeth, ac mae’n canolbwyntio ar y gwerthoedd a sefydlwyd gan Gyfarwyddwr Cyffredinol cyntaf y BBC, yr Arglwydd Reith.

Mae llawer o agweddau o blaid parhad cenhadaeth bresennol y BBC. Mae pwysau hanes y tu cefn iddi, caiff ei hadnabod a’i deall yn helaeth, ac efallai’n wir fod talwyr y drwydded yn disgwyl i’r BBC ddarparu pob un o’r tair elfen. Ond ceir beirniadaethau o’r genhadaeth hefyd. Yn benodol, caiff ei beirniadu am beidio bod yn genhadaeth eang iawn, ac am fod yn un a allai arwain at y BBC yn cystadlu am ffigyrau gwylio yn hytrach na darparu ansawdd, neu hynodrwydd, dan faner ‘adloniant’. Ar y cyfan, mae’r Llywodraeth yn credu fod y dadleuon dros gynnal y genhadaeth hanesyddol hon yn gadarn, ond efallai bydd angen newidiadau i’r dibenion, y maint a’r cwmpas i sicrhau na fydd hyn yn arwain at ehangu’r BBC yn ormodol.

Page 35: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Elfen sefydledig arall o ddull gweithredu’r BBC yw ei chysyniad o wasanaethu pawb. Mae hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:

- i rai, mae hyn wedi golygu y dylai’r BBC ddarparu pob math o gynnwys, a diwallu anghenion pob math o gynulleidfa, waeth pa mor eang yw arlwy darparwyr eraill.

- i eraill, mae hyn wedi cael ei ddehongli fel rhoi pwyslais dyledus ar roi sylw i ddigwyddiadau unigol sy’n dod â’r genedl ynghyd, megis y Proms, priodasau Brenhinol, ac ymdrin ag etholiadau; ac

- i eraill, mae wedi golygu fod angen iddo fod ar gael ac yn hygyrch ar bob llwyfan a dyfais, ac ar gael am ddim pan fydd ei angen. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae hyn wedi golygu pwyslais gan y BBC ar ehangu ei gwasanaethau digidol ac ar-lein.

Mae cwestiynau amlwg ynghylch pa un o’r diffiniadau hyn sy’n parhau yn fwyaf perthnasol yn ystod oes y cyfryngau presennol, a pha un a yw’n dal yn bwysig i’r BBC barhau i ddarparu popeth mae’n ei ddarparu ar hyn o bryd, neu wedi’i ddarparu’n draddodiadol, neu a fyddai anghenion y gynulleidfa’n cael eu diwallu’n well gan y BBC pe byddai ganddi ffocws mwy cyfyng.

Page 36: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dibenion cyhoeddus y BBC

Yn y Siarter bresennol a ddaeth i rym yn Ionawr 2007, fe wnaeth y Llywodraeth amlinellu set lefel uchel o ddibenion cyhoeddus ar gyfer y BBC (gweler Tabl 1, tudalennau 34-36), ac yn dilyn hynny, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth sefydlu cylchoedd gorchwyl ar gyfer bob diben, i bennu blaenoriaethau a meini prawf i’w defnyddio i asesu darpariaeth.

“Dibenion cyhoeddus y BBC:pa un ai a ydynt yn darparu’r fframwaith priodol, pa un ai a yw’r dibenion eu hunain yn briodol, a pha un ai a ellid neu a ddylid eu hail-lunio neu eu blaenoriaethu.

Mae chwe diben cyhoeddus wedi tanategu gweithgarwch y BBC yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf, ac maent wedi bod yn rhan o’r fframwaith y mae’r BBC wedi’i ddefnyddio i asesu priodoldeb a llwyddiant ei chynnwys a’i gwasanaethau. Mae’r papur hwn yn ceisio casglu safbwyntiau ynghylch dibenion cyhoeddus y BBC: pa un ai a ydynt yn darparu’r fframwaith priodol, pa un ai a yw’r dibenion eu hunain yn briodol, a pha un ai a ellid neu a ddylid eu hail-lunio neu eu blaenoriaethu.

Page 37: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae dadl dros gynnal y dibenion hyn. Maent yn diffinio’n gyffredinol beth mae pobl yn ei ddisgwyl o allbwn y BBC, a thrwy roi cyfarwyddyd lefel uchel y unig, maent yn caniatáu i’r BBC wneud penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o’u cyflawni. Er enghraifft, mae ‘cynrychioli’r Deyrnas Unedig’ wedi caniatáu i’r BBC ddarlledu digwyddiadau o bwys cenedlaethol, megis y briodas Frenhinol, ac mae ‘mynd â’r Deyrnas Unedig i’r byd’ yn cynorthwyo i gefnogi buddsoddiad sylweddol yn y BBC World Service. Mae’r dibenion hefyd yn set gweddol newydd o ddisgrifwyr lefel uchel, felly efallai gellid dadlau dros roi cyfle iddynt ymsefydlu.

Ond mae dadl hefyd dros ddiwygio’r dibenion. Maent yn eang iawn, a gellid dadlau y byddai’n anodd i unrhyw raglen neu weithgarwch beidio cael eu cwmpasu ganddynt. Trwy gael eu cyfleu mor eang, nid ydynt yn cyfeirio’n uniongyrchol at y genres allweddol megis drama, hanes a newyddion, yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn sylfaen i ddarpariaeth y BBC. Ac nid ydynt ychwaith yn pennu terfynau clir ynghylch beth sydd neu beth sydd ddim yn briodol fel darpariaeth gan y BBC. Felly gellid dadlau fod beirniadaethau o’r BBC am fod yn rhy fawr neu’n

rhy eang yn ganlyniad i’r dibenion eang iawn hyn a bennwyd gan y Llywodraeth. I’r gwrthwyneb, mae rhai wedi dadlau dros ehangu’r dibenion. Er enghraifft, gallai’r BBC fod â chyfrifoldebau mwy penodol dros weithio mewn partneriaeth, neu gefnogi’r sector ehangach trwy hyfforddiant a sgiliau.

Cwestiwn 1

Sut gellir gwella dibenion cyhoeddus y BBC fel bydd rhagor o eglurder ynghylch beth ddylai’r BBC ei gyflawni?

Cwestiwn 2

Pa elfennau o wasanaethu pawb yw’r rhai pwysicaf i’r BBC?

Page 38: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dibenion cyhoeddus y BBC

Tabl 1: Dibenion cyhoeddus y BBC a chylchoedd gorchwyl y dibenion14

Diben Cylch gorchwyl y diben‘Beth fydd y BBC yn ei wneud i gyflawni’r diben hwn’

1. Cynnal Dinasyddiaeth a Chymdeithas Sifil - Darparu newyddiaduraeth annibynnol o’r radd flaenaf.

- Ennyn diddordeb cynulleidfa ehangach mewn newyddion, materion cyfoes a phynciau cyfamserol.

- Annog a galluogi trafodaethau a dadleuon ynghylch newyddion, materion cyfoes a phynciau cyfamserol.

- Datblygu gwell dealltwriaeth o’r broses seneddol a sefydliadau gwleidyddol sy’n llywodraethu’r Deyrnas Unedig.

- Galluogi cynulleidfaoedd i gyrchu, deall a rhyngweithio â gwahanol fathau o gyfryngau.

2. Annog Addysgu a Dysgu - Hybu dysgu anffurfiol ar draws amrywiaeth lawn o bynciau a materion ar gyfer bob cynulleidfa.

- Ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn gweithgareddau a dargedir i gyflawni canlyniadau penodol sy’n llesol i gymdeithas.

- Annog a chefnogi nodau addysgol penodol i blant a phobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig mewn perthynas â datblygu sgiliau hanfodol.

Page 39: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Diben Cylch gorchwyl y diben‘Beth fydd y BBC yn ei wneud i gyflawni’r diben hwn’

3. Annog creadigrwydd a rhagoriaeth ddiwylliannol

- Darparu cynnyrch sy’n wahanol ac yn greadigol ar ei holl lwyfannau.

- Sicrhau fod pob cynulleidfa yn cael ei chyfoethogi trwy roi sylw i amrywiaeth helaeth o weithgareddau creadigol a diwylliannol.

- Annog cyfranogi gweithredol mewn gweithgareddau creadigol.

- Darparu ystod eang o gynnwys pleserus a difyr.

- Magu creadigrwydd a meithrin a chefnogi doniau’r Deyrnas Unedig ar draws amrywiaeth eang o genres.

4. Cynrychioli’r Deyrnas Unedig, ei gwledydd, ei rhanbarthau a’i chymunedau

- Cynrychioli gwahanol wledydd, rhanbarthau a chymunedau i weddill y Deyrnas Unedig.

- Darparu ar gyfer gwahanol wledydd, rhanbarthau a chymunedau'r Deyrnas Unedig.

- Dod â phobl ynghyd i rannu profiadau.- Annog diddordeb mewn cymunedau lleol a

thrafodaeth ynghylch hynny.- Adlewyrchu credoau crefyddol a chredoau

eraill yn y Deyrnas Unedig- Darparu cynnyrch trwy gyfrwng ieithoedd

lleiafrifol.

Page 40: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dibenion cyhoeddus y BBC

Diben Cylch gorchwyl y diben‘Beth fydd y BBC yn ei wneud i gyflawni’r diben hwn’

5. Mynd â’r Deyrnas Unedig i’r byd a dod â’r byd i’r Deyrnas Unedig

- Datblygu dealltwriaeth fyd-eang o faterion rhyngwladol.

- Darparu gwasanaeth darlledu newyddion o’r radd flaenaf.

- Galluogi cynulleidfaoedd ac unigolion i gyfranogi yn y drafodaeth fyd-eang ynghylch materion o bwys rhyngwladol.

- Ehangu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig o faterion rhyngwladol.

- Ehangu profiad cynulleidfaoedd y Deyrnas Unedig o ddiwylliannau gwahanol o bob cwr o’r byd a’u cysylltiad â hwy.

6. Darparu buddion technolegau a gwasanaethau cyfathrebu newydd i’r cyhoedd

- Sicrhau fod cynnwys a gwasanaethau digidol diddorol ar gael ar amrywiaeth helaeth o lwyfannau a dyfeisiau digidol.

- Cydweithio â’r diwydiant i barhau i wneud gwelliannau i ddosbarthiad cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.

- Cynyddu cyrhaeddiad Darlledu Sain Ddigidol (DAB).

- Cefnogi gweithgarwch cyfathrebu Digital UK er mwyn datblygu ymwybyddiaeth o’r newid i ddigidol a pharodrwydd am hynny.

- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i helpu bob cynulleidfa i ddeall a mabwysiadu technolegau a gwasanaethau cyfathrebu newydd.

- Cefnogi cynllun cymorth a dargedir y Llywodraeth i helpu’r bobl fwyaf bregus yn ystod y newid i ddigidol.

Page 41: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 42: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerthoedd y BBC

Gellid dadlau fod dulliau unrhyw sefydliad cyhoeddus o gyflawni ei genhadaeth a dulliau gweithredu ei strwythurau a’i bobl yr un mor bwysig â’r strategaeth ei hun. Efallai fod hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol i’r BBC, o gofio’r lle unigryw sydd gan y sefydliad yn niwydiant cyfryngau’r Deyrnas Unedig, ei bywyd cymdeithasol a diwylliannol, a’n cydsynwyr o hunaniaeth a gwerthoedd Prydeinig.

“Mae’r BBC yn sefydliad darlledu cyhoeddus, ac mae’n briodol y dylai ei gwerthoedd adlewyrchu safbwyntiau’r cyhoedd.

Bydd llawer o sefydliadau yn datgan yn gyhoeddus sut byddant yn gweithredu trwy ddatganiad gwerthoedd. Mae dogfennau cyhoeddus sy’n cyfeirio at werthoedd y BBC; er enghraifft, mae’n ofynnol i’r Ymddiriedolaeth gynnal annibyniaeth y BBC a sicrhau ei bod yn cyflawni safonau uchel o ran gonestrwydd a thryloywder. Mae gan y BBC set o werthoedd corfforaethol hefyd, sy’n amlinellu i’w gweithwyr sut disgwylir i’r BBC weithredu. Ond nid cheir amlinelliad o set ffurfiol a chyfundrefnol o werthoedd yn unman.

Page 43: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae cyfnod y Siarter ddiwethaf wedi bod yn un o’r rhai mwyaf trwblus yn hanes y Gorfforaeth, ac mae nifer o faterion wedi codi a wnaeth arferion gwaith a phobl y BBC yn destun llawer iawn o graffu.

Mae’r BBC yn sefydliad darlledu cyhoeddus, ac mae’n briodol y dylai ei gwerthoedd adlewyrchu safbwyntiau’r cyhoedd. Mae’r Adolygiad hwn o’r Siarter yn cynnig cyfle i ymgynghori ynghylch beth allai set posibl o werthoedd fod, y gellid eu defnyddio i farnu a mesur ei pherfformiad. Amlinellir rhai gwerthoedd posibl i’w hystyried yn Nhabl 2 gyferbyn. Mae hyn yn cynnwys gwerth posibl yn ymwneud ag amrywiaeth, y gellid ei gyfiawnhau o gofio’r angen i sicrhau parhad cynnydd y BBC o fewn y maes hwn (gweler Blwch 1 ar dudalen 40/41.

Tabl 2: Gwerthoedd posibl y BBC

Annibynnol

Diduedd

Ansawdd uchel

Effeithlon/gwerth am arian

Tryloyw

Nodedig

Amrywiol/cynrychiadol

Cwestiwn 3

A ddylai’r Adolygiad o’r Siarter fynd ati’n ffurfiol i sefydlu set o werthoedd ar gyfer y BBC?

Page 44: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerthoedd y BBC

Blwch 1. Amrywiaeth

Mae’r BBC a’r sector darlledu ehangach wedi wynebu heriau mewn perthynas â pha mor gynrychiadol yw eu gweithlu, ar y sgrîn ac o ran gwaith y tu ôl i’r camera. Fe wnaeth y BBC gyhoeddi strategaeth amrywiaeth ym Mehefin 2014, yn cynnwys cronfa gwerth £2.1 miliwn i helpu doniau o blith cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ar y sgrîn ac oddi ar y sgrîn i ddatblygu rhaglenni newydd; rhagor o interniaethau hyfforddi; Gweithgor Annibynnol ar Amrywiaeth a gadeirir gan yr Arglwydd Hall;15 a phennu targedau newydd i gynyddu uwch staff BME o 8.3 y cant i 10 y cant erbyn 2017, ac yna i 15 y cant erbyn 2020.16

Mae’r BBC eisoes wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ystod y 12 mis diwethaf: roedd y gyfran o staff BAME yn 13.2 y cant yn Chwefror 201517 (o’i gymharu â 12.6 y cant ym Mawrth 2014).

Yn ychwanegol, mae 31 o raddedigion dan hyfforddiant o gefndiroedd BAME wedi cael eu recriwtio o’r Rhaglen Mynediad Creadigol, ac mae chwe darpar ‘Gomisiynydd y Dyfodol’ wedi cychwyn hyfforddi o fewn nifer o feysydd.

O ran nifer yr aelodau staff anabl, mae angen i’r BBC wneud rhagor o gynnydd. Mae’r gyfradd gyffredinol o staff anabl wedi parhau yn 3.8 y cant.18 Fodd bynnag, mae rhywfaint o gynnydd wedi digwydd, er enghraifft, sefydlu cynllun lleoliad gwaith o’r enw ‘Extend’ ar gyfer pobl anabl. Mae’r cynllun yn cynnig lleoliadau gwaith cyflogedig tymor byr, a chyflwynwyd y cynllun ManageAble eleni, sy’n targedau lleoliadau mewn uwch swyddi a rolau gwneud penderfyniadau.19

Mae’r BBC wedi cael ei beirniadu’n helaeth yn ystod blynyddoedd diweddar oherwydd y modd mae’n cyfleu merched ar y sgrîn, ac mae wedi awgrymu fod gwella hyn yn dal yn flaenoriaeth. Fodd bynnag, ceir darlun mwy cadarnhaol wrth ystyried ei

Page 45: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

gweithlu, oherwydd roedd nifer y staff benywaidd yn 48.5 y cant fis Chwefror diwethaf, fymryn yn llai nag ym mis Mawrth 2014. Cynyddodd nifer yr uwch reolwyr benywaidd i 38.4 y cant a’r nifer o ferched sy’n arweinyddion i 41.1 y cant.20

Fel rhan o’i ymroddiad i ddarparu rhaglenni o ansawdd uchel sy’n cyfleu Prydain fodern, fe wnaeth y BBC edrych yn fanwl ar sut caiff lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol eu portreadu a’u cynnwys, ac roedd hyn yn cynnwys ymchwil cynulleidfa ac ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r argymhellion dilynol yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd, ac fel rhan o’r Strategaeth Amrywiaeth, mae’r BBC hefyd wedi ymroddi i ymgynghori ynghylch y portread o oedran ar draws darlledwyr i lywio cynnyrch ac arferion cyflogaeth ar draws y diwydiant.21

Page 46: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

2. Beth mae’r BBC yn ei wneud.Maint a chwmpas

Page 47: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 48: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Beth mae’r BBC yn ei wneud.Maint a chwmpas

Mae’r bennod hon yn archwilio’r cwestiwn ynghylch maint a chwmpas priodol ar gyfer y BBC, ar gyfer cyfnod y Siarter nesaf, gan ystyried y canlynol:

− Gwasanaeth: pa un ai a yw’r BBC yn cynnig yr amrywiaeth briodol o wasanaethau, gan ystyried yr effaith ar y farchnad;− Cynulleidfaoedd: pa mor dda mae’r BBC yn gwasanaethu gwahanol gynulleidfaoedd;− Cynnwys: pa un ai a yw’r BBC yn darparu’r amrywiaeth briodol o gynnwys, ansawdd a hynodrwydd; a− Cynhyrchu: sut ddylai’r cynnwys gael ei gynhyrchu.

Mae’r Siarter bresennol yn amlinellu’r gweithgareddau y dylai’r BBC eu gwneud er mwyn cyflawni ei dibenion cyhoeddus yn gyffredinol. Mae’n datgan y dylai’r prif weithgareddau gynnwys darparu gwybodaeth, addysg ac adloniant, trwy gyfrwng gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein. Mae’r Siarter hefyd yn rhoi rhwydd hynt i’r BBC wneud gweithgareddau eraill os ydynt yn cefnogi’r dibenion cyhoeddus.22

Mae’r fframwaith hwn, ynghyd â’r dibenion cyhoeddus eang a ystyrir yn y bennod flaenorol, wedi rhoi anogaeth a rhyddid i’r BBC i ddatblygu ei gwasanaethau dros gyfnod y Siarter, ac mae’n adeiladu ar dwf y BBC, yn ystod degawdau diweddar, i ddod yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus mwyaf y byd (gweler Blwch 2 gyferbyn am gymhariaeth â darlledwyr Ewropeaidd). Fel rhan o’r Adolygiad o’r Siarter, mae angen i ni benderfynu a yw’r maint a’r cwmpas yn briodol i amgylchedd presennol y cyfryngau a’r amgylchedd hwnnw yn y dyfodol, o gofio’r dewis helaeth sydd ar gael..

Page 49: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 2: Beth yw safle’r BBC yn rhyngwladol?Refeniw darlledwyr cyhoeddus23

Deg uchaf Darlledwyr Cyhoeddus Ewrop Refeniwiau gweithredol 2013, biliwn Ewro

BBC (ac eithrio is-gwmnïau masnachol)France TelevisionsRAIZDFSRG-SSR idee suisseWDRSWRChannel 4NDRBR

Y Deyrnas UnedigFfraincYr EidalYr AlmaenY SwistirYr AlmaenYr AlmaenY Deyrnas UnedigYr AlmaenYr Almaen

Ffynhonnell: European Audiovisual Observatory, Blwyddlyfr 2014, t.90

Page 50: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwasanaethau

Mae’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y BBC wedi ehangu yn ystod blynyddoedd diweddar wrth i dechnoleg ddigidol greu cyfleoedd nad oedd ar gael yn ystod yr oes analog. Caniatawyd hyn o fewn fframwaith y siarter Bresennol, wedi’i alluogi gan y rhyddid cyffredinol y mae wedi’i roi i’r BBC i benderfynu beth yw’r ffordd orau o gyflawni ei dibenion cyhoeddus.

Mae gwasanaethau’r BBC wedi ehangu yn ystod blynyddoedd diweddar (gweler Blwch 3 ar dudalen 48 a 49). Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan y BBC ddwy sianel deledu, ac ers hynny, mae’r nifer wedi cynyddu i naw (yn cynnwys BBC Parliament); mae’r Red Button yn sicrhau fod symiau sylweddol o ddeunydd darlledu ychwanegol ar gael. Mae nifer y gorsafoedd radio cenedlaethol wedi dyblu o bump i ddeg yn sgil lansio BBC1xtra, BBC Asian, BBC5 Live Sports Extra a BBC Music fel gwasanaethau digidol yn 2002 a Radio 4 Extra (Radio 7 cyn hynny) a gafodd ei ail-lansio yn 2011. Ynghyd â gwasanaethau lleol, bellach mae gan y BBC 57 o wasanaethau radio. Mae gan y BBC bresenoldeb enfawr ar-lein hefyd, ac mae ei gwasanaeth iPlayer yn llwyddiannus iawn ac fe wnaeth cyrhaeddiad wythnosol ei gwefan yn y Deyrnas Unedig gynyddu o 3.9 miliwn ym mis Medi 200224

i 24.7 miliwn erbyn mis Medi 2014.25

Page 51: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gellid dadlau fod darpariaeth y gwasanaeth yn briodol ar y cyfan o gofio fod y cydbwysedd rhwng gwasanaethau traddodiadol a rhai ar-lein yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd mewn amgylchedd cyfryngau sy’n gynyddol dameidiog, ac mae’r amrywiaeth o wasanaethau hefyd yn helpu’r BBC i gyflawni ei chyrch gorchwyl presennol. Gellid dadlau hefyd fod darpariaeth o’r fath wedi chwarae rhan yn y newid i dechnoleg ddigidol ar ddiwedd y 1990au trwy ehangu’r nifer a’r math o wasanaethau am ddim i bawb oedd ar gael i wylwyr a gwrandawyr.

Fodd bynnag, â’r newid i deledu digidol bellach wedi’i gwblhau ac wrth i’r nifer o sianeli teledu a radio gynyddu ac wrth i’r rhyngrwyd aeddfedu fel llwyfan ar gyfer cynnwys radio a theledu, gellid gwrthddadlau nad oes angen i’r BBC fod yn darparu ystod mor eang o wasanaethau er mwyn cyflawni ei dibenion gwasanaeth cyhoeddus. Mae dadl hefyd y gallai rhai o’r gwasanaethau fod yn gwasanaethu cynulleidfaoedd sy’n gorgyffwrdd yn sylweddol – gan fethu bod yn ddigon gwahanol, nid yn unig i gynnyrch masnachol, ond i wasanaethau eraill y BBC hefyd.

Enghraifft ddiweddar yw adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC a ganfu orgyffwrdd sylweddol rhwng cynulleidfaoedd Radio 1 a Radio 226 – rhywbeth mae’r BBC wedi ymdrechu i fynd i’r afael ag ef ers hynny. O gofio’r dewis enfawr sydd bellach ar gael i wylwyr, gellir dadlau y gallai’r BBC ganolbwyntio mwy ar set o wasanaethau craidd mwy cyfyng a all barhau i gyflawni ei chenhadaeth a’i hamcanion. Gallai BBC llai olygu fod y cyhoedd yn talu llai am eu trwydded teledu, ac mae’n debyg y byddai’r effaith ar y farchnad yn lleihau hefyd (gweler Blwch 4 ar dudalen 50/51).

Page 52: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 3: Ehangu gwasanaethau’r BBC

1994-95

Teledu 2 sianel

Radio 5 cenedlaethol 39 lleol6 gwlad

Ar-lein Dim

Page 53: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

2014-15

Teledu 9 sianel

Radio 5 cenedlaethol 40 lleol5 digidol 6 gwlad

BBC iPlayerBBC Online

Ar-lein BBC Red Button

Page 54: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwasanaethau

Blwch 4: Effeithiau ar y farchnad

Mae’n bwysig ein bod yn deall yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y gall y BBC eu cael ar y farchnad ehangach.

O ran effeithiau cadarnhaol, dywed rhai fel â ganlyn:

- Mae’r BBC yn dylanwadu ar wella safonau darlledu. Mae ffi’r drwydded yn cynnig ffynhonnell o arian sefydlog a thymor hir i’r BBC, sy’n caniatáu iddi fuddsoddi mewn cynnwys, er enghraifft, cyfresi drama blaenllaw uchel eu gwerth, a thechnoleg megis yr iPlayer. Os yw darlledwyr masnachol yn dymuno dal i fyny a darparu cynulleidfaoedd ar gyfer hysbysebwyr, mae angen iddynt gyflawni’r un ansawdd a’r un safonau â’r BBC. Gallai hyn ddarparu gwell dewis ac ansawdd ar gyfer cynulleidfaoedd.

- Gall gallu’r BBC i wario symiau mawr ar y bobl yn ei sefydliad ac ar gynnwys yn y Deyrnas Unedig arwain at effeithiau positif ar gyfer y diwydiannau creadigol, yn cynnwys cynhyrchwyr annibynnol, ac o ran hyfforddi sgiliau a doniau sy’n llesol i bartïon masnachol hefyd.

Ar y llaw arall dadleuir y canlynol:

- Gall y sector teledu masnachol wynebu anawsterau wrth geisio cystadlu â chynnwys y BBC a ddosbarthir am ddim. Er enghraifft, roedd BBC News 24, a gyflwynwyd yn 1997, wedi’i anelu at yr un farchnad â Sky News, a chaiff Channel 4 ac ITV yn benodol eu heffeithio gan ddarpariaeth y BBC ar gyfer cynulleidfaoedd amser brig.

- Mae risg tymor hirach y gallai cyfran y BBC o’r farchnad radio barhau i dyfu oni bydd refeniwiau hysbysebu masnachol yn parhau yn gryf. Mae’r BBC yn cyfrif am oddeutu 60 y cant o gyfanswm refeniwiau radio, ac mae wedi meddu ar oddeutu

Page 55: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

55 y cant o’r gyfran o’r gynulleidfa yn ystod cyfnod y Siarter bresennol.

- Mae’r BBC yn effeithio mewn sawl ffordd ar farchnadoedd ar-lein. Er enghraifft, mae poblogrwydd BBC News yn y Deyrnas Unedig (roedd gwefan BBC News yn denu 27 miliwn o ddefnyddwyr bob wythnos ar gyfartaledd ar ddechrau 2015, a dros 65 miliwn ledled y byd)27 wedi arwain at awgrymiadau fod maint arlwy ar-lein y BBC yn rhwystro gallu darparwyr newyddion eraill yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu modelau busnes proffidiol, megis waliau talu a thanysgrifiadau, mewn archfarchnadoedd presennol a newydd.

- Caiff rhai sectorau eu heffeithio gan fwy nag un o wasanaethau’r BBC. Mae model busnes papurau newydd lleol wedi cael ei erydu yn ystod blynyddoedd diweddar wrth i dechnolegau newydd, newidiadau mewn ymddygiad defnyddwyr, colli hysbysebion a phwysau eraill y farchnad greu heriau sylweddol. Nid yw’r BBC yn darparu gwasanaethau ar lefel mor fanwl â

darparwyr lleol, ond wrth ddarparu amrywiaeth eang o gynnwys ar-lein yn ogystal ag ar radio a theledu, gallai effeithio ar ymdrechion gan grwpiau newyddion lleol i ddatblygu gwasanaethau atyniadol ar-lein yn lleol ac yn hyperleol.

- Mae gallu’r BBC i draws-hyrwyddo ei gwasanaethau yn effeithio ar y farchnad ehangach. Mae dadl o blaid y BBC yn marchnata ei gwasanaethau a’i rhaglenni ei hun, yn enwedig lle mae hynny’n cyfeirio pobl at gynnwys megis rhaglenni dogfen a a materion cyfoes na fyddent yn eu defnyddio fel arall. Ond o gofio na all gwasanaethau eraill hysbysebu eu cynnwys ar y BBC, gellid dadlau fod angen ystyried natur a maint y traws-hyrwyddo hwn.

Page 56: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwasanaethau

Mae gan y BBC y potensial hefyd i weithredu fel partner effeithiol mewn nifer o farchnadoedd fel mae wedi’i wneud, er enghraifft, o fewn y sectorau celfyddydau a diwylliannol. Yn achos papurau newydd lleol a darparwyr cyfryngau lleol eraill, gall y BBC gynorthwyo i gefnogi’r diwydiant trwy amlygu cynnwys a gynhyrchir yn rhanbarthol a chydnabod yn glir pan fydd yn defnyddio straeon newyddion a grëwyd yn wreiddiol neu a ddatblygwyd gan y wasg leol.

Mae partneriaethau masnachol yn ddull mae BBC Worldwide wedi’i ddefnyddio mewn meysydd eraill, er enghraifft, mae’r BBC yn rhan o fenter ar y cyd a arweiniodd at sefydlu UKTV (sy’n cynnig chwe sianel y telir amdanynt a phedair sianel a ddarlledir am ddim) ac sydd wedi profi twf mewn refeniwiau yn ystod blynyddoedd diweddar.28 Mae’r adran isod ynghylch gwasanaethau digidol yn cyfeirio at sut mae’r BBC wedi

cychwyn archwilio llwyfannau amgen i ddarparu cynnwys, megis y cydweithio rhwng YouTube a Radio 1. Fodd bynnag, mae’r partneriaethau yn codi materion cymhleth, er enghraifft, sut bydd y BBC yn dewis ei phartneriaid.

Gwasanaethau digidol

O blith gwasanaethau’r BBC, gellir dadlau mai’r gwasanaeth digidol sydd wedi newid fwyaf, yn enwedig o ran datblygiad yr iPlayer. Mae’r Siarter bresennol yn cynnwys chweched diben: sicrhau fod y cyhoedd yn elwa ar dechnolegau a gwasanaethau cyfathrebu newydd. Mae’r BBC wedi chwarae rhan allweddol, ar gais y Llywodraeth, yn y gwaith o ddatblygu seilwaith ddigidol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys:

- Buddsoddi i ymestyn cwmpas daearol digidol holl wasanaethau’r BBC i hwyluso’r Newid i Deledu Digidol (un o brosiectau peirianyddol mwyaf y Deyrnas Unedig)29, a chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gyflwyno Freeview, llwyfan teledu mwyaf y Deyrnas Unedig – a FreeSat – y gwasanaeth lloeren heb dâl tanysgrifio y caiff y ddau ohonynt eu rhedeg

“Yn ystod cyfnod y Siarter bresennol, mae’r BBC wedi chwarae rhan allweddol, ar gais y Llywodraeth, yn y gwaith o ddatblygu seilwaith ddigidol ar gyfer y Deyrnas Unedig

Page 57: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

ar y cyd â darlledwyr masnachol fel mentrau ar y cyd.

- £150 miliwn y flwyddyn o 2013 i 2017 i ariannu cyflwyno band eang fel gall 95 y cant o gartrefi elwa ar fand llydan tra chyflym.30

- Sicrhau fod hyd at £25 miliwn ar gael rhwng 2012 a 2017 i ddatblygu seilwaith Teledu Lleol yn ogystal â £15 miliwn i ariannu cynnwys a gynhyrchir gan wasanaethau teledu lleol.31 ac

- Ymestyn gwasanaethau Darlledu Sain Ddigidol i (DAB) i 97 y cant o gartrefi erbyn 2017 a chefnogi buddsoddiad gorsafoedd radio masnachol mewn gwasanaethau DAB i wella gwasanaethau digidol gwledydd y BBC a gwasanaethau radio lleol32.

Ynghyd â datblygiad yr iPlayer hynod lwyddiannus, mae’r BBC bellach yn archwilio llwyfannau ar-lein newydd i ddarparu cynnwys trwy ddarparwyr megis Facebook a Netflix. Mae hefyd wedi defnyddio mathau newydd o wasanaethau digidol i ategu rhai traddodiadol, megis sianel YouTube BBC Radio 1 sydd ag 1.3 miliwn o danysgrifwyr (mae un rhan o dair ohonynt yn 13-17 mlwydd

oed) ac a arweiniodd at lansio sianel fideo arbennig Radio 1 iPlayer. Mae hyn wedi cael ei gefnogi gan ymchwil a datblygu ym maes ymddygiad cynulleidfaoedd.

Mae gan sianel Youtube Radio 11.3m o danysgrifwyr⅓ ohonynt yn 13-17 mlwydd oed

Gan edrych ymlaen, mae cwestiwn pwysig ynghylch y cydbwysedd rhwng darlledu traddodiadol, ar-lein a dosbarthu digidol. Ar y naill law, trwy ddatblygu’r technolegau diweddaraf, ystyrir y gall y BBC addasu yn unol â galw newidiol defnyddwyr a pharhau i wasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol a thameidiog, yn enwedig pobl ifanc. Fodd bynnag, mae dadl i’r gwrthwyneb fod twf cyflym gwasanaethau digidol ac ar-lein yn fwy cyffredinol yn golygu fod y farchnad eisoes yn cael ei gwasanaethu’n dda, a gallai’r BBC, fel cyfranogwr pwysig, lesteirio eraill sy’n dymuno datblygu dulliau newydd o reoli a dosbarthu cynnwys.

Page 58: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwasanaethau

Mae dadleuon yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynghylch y penderfyniad i symud BBC Three ar-lein. Mae cwestiwn hefyd ynghylch rôl y BBC ym maes radio digidol (gweler Blwch 5 gyferbyn) o gofio’r angen i’r BBC fuddsoddi’n sylweddol mewn rhwydweithiau FM ac AM yn y ddeng mlynedd nesaf.

Wrth gwrs, bydd angen i unrhyw benderfyniad i ddarparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau ystyried goblygiadau ariannol y dull gweithredu hwn. Ac mae’n wir hefyd, ar waethaf y cynnydd mewn gwylio ar-lein, fod teledu a ddarlledir yn draddodiadol yn dal yn gryf; fe wnaeth adroddiad diweddaraf Marchnad Cyfathrebu Ofcom 2014 amlinellu fod gwylio byw yn dal i gyfrif am 89 y cant o gyfanswm y gwylio.33

Blwch 5: Radio digidol

Mae gwrando ar radio digidol bellach yn cyfrif am 40 y cant o’r holl wrando ar radio a bydd bron iawn 55 y cant o oedolion yn gwrando ar wasanaethau radio digidol o leiaf unwaith yr wythnos.34 Â chefnogaeth gwasanaethau digidol masnachol newydd, mae’r diwydiant radio yn disgwyl i wrando digidol oddiweddyd gwrando analog rywbryd yn ystod 2017. Bryd hynny, bydd angen i’r Llywodraeth ystyried amserlen ar gyfer diffodd gwasanaethau radio analog yn y dyfodol ar ddyddiad sy’n debygol o gychwyn wedi 2020.

Cyrhaeddiad o 40%

Mae gwrando ar radio digidol bellach yn cyfrif am 40 y cant o’r holl wrando ar radio

55% bob wythnos

Bydd bron iawn 55 y cant o oedolion yn gwrando ar wasanaethau radio digidol o leiaf unwaith yr wythnos

Page 59: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae’r BBC wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad radio digidol, yn cynnwys chwarae rhan arweiniol yn natblygiad technegol Darlledu Sain Ddigidol (DAB) a gwasanaethau DAB+. Bydd cam 4 cyflwyno gwasanaeth DAB cenedlaethol y BBC (yn cwmpasu dros 97 y cant o gartrefi) yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2015. Mae’r BBC hefyd yn ariannu ehangiad sylweddol mewn gwasanaethu DAB lleol o ganlyniad i bartneriaeth unigryw â DCMS a Radio Masnachol. Dylai’r rhaglen hon gael ei chwblhau ym mis Medi 2016.

Mae dadl dros roi rhan ganolog i’r BBC yn unrhyw newid i radio digidol yn y dyfodol, fel y digwyddodd yn y rhaglen lwyddiannus newid i deledu digidol. Bydd hyn yn golygu ehangu gwasanaethau cenedlaethol y BBC i gyfateb â chwmpas ei rhwydwaith FM genedlaethol. Bydd angen buddsoddiad sylweddol yn rhwydweithiau analog y BBC ar ddechrau’r 2020au ac wedi hynny os na phennir amserlen ar gyfer y newid i ddigidol.

Bydd union rôl y BBC yn y newid yn dibynnu ar sut cynllunnir a darparir y newid i radio digidol, a bydd angen ystyried hynny pan fydd gwrando digidol wedi cyrraedd y trothwy o 50 y cant. Ond gallai gynnwys:

- cefnogi’r cyfathrebiadau tymor hir â chynulleidfaoedd a diwydiant y bydd eu hangen i gefnogi newid;

- gweithio gyda radio masnachol a diwydiant ar ddatblygiadau technegol a wnaiff wella radio digidol; a

- sicrhau fod cymorth ar gael i wrandawyr hŷn a mwy bregus, er bod ymchwil o arbrawf newid llwyddiannus yng Nghaerfaddon wedi dangos fod y broses yn llawer symlach nag yn achos teledu.

Page 60: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwasanaethau

Mae oblygiadau hefyd o ran cyrchu a rheoli yn sgil sicrhau fod cynnwys y BBC ar gael ar lwyfannau eraill, pa un ai a oes rhaid talu tanysgrifiad amdanynt neu beidio. Mae’r BBC yn un o blith nifer o sefydliadau sy’n treialu system lle caiff erthyglau eu lletya ar Facebook, yn hytrach na’r defnyddiwr yn dilyn cyswllt at y BBC, sy’n codi pryderon ehangach ynghylch data defnyddwyr a’r cyd-destun y gwylir data ynddo, ac mae’r BBC wedi cydnabod hynny.

Ymchwil a datblygu

Dadleuir fod sector y cyfryngau ac economi’r Deyrnas Unedig wedi elwa ar rôl y BBC mewn arloesi a’r BBC yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu na fyddai’r farchnad ehangach wedi’i wneud. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau mewn technoleg cywasgu, a datblygu safonau manylder uchel iawn, a chydweithio â grwpiau megis y Grŵp Teledu Digidol, a chyrff safonau technegol

rhyngwladol. Mae’r BBC hefyd wedi gweithio gydag Innovate UK (y Bwrdd Strategaeth Technoleg) ar nifer o brosiectau yn cynnwys Thira35 a’r RadioPlayer.

Fodd bynnag, mae cwestiynau dilys ynghylch a ddylai’r BBC barhau i geisio arwain datblygiad y dechnoleg newydd o flaen y farchnad. Roedd costau datblygu’r BBC yn £83 miliwn y llynedd.36 Gallai rôl y BBC o ran datblygu a defnyddio technolegau newydd - yn enwedig dosbarthu ar-lein - effeithio’n negyddol ar allu cystadleuwyr masnachol i wneud arian o dechnolegau newydd, a gallai lesteirio’r gwaith o sefydlu busnesau newydd. Gallai arbedion i dalwyr ffi’r drwydded ddigwydd yn sgil y farchnad yn darparu’r datblygiadau hyn.

Page 61: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cwestiwn 4 A ellir cyfiawnhau ehangiad y BBC yng nghyd-destun rhagor o ddewis ar gyfer cynulleidfaoedd? A yw’r BBC yn cymryd lle cystadleuwyr masnachol, ac os felly, a ellir cyfiawnhau hyn?Cwestiwn 5

Ble mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod gan y BBC effaith ehangach gadarnhaol neu negyddol ar y farchnad?Cwestiwn 6

Pa rôl ddylai’r BBC gael o ran dylanwadu’r dirwedd dechnolegol yn y dyfodol, yn cynnwys newid i radio digidol yn y dyfodol?

Page 62: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynulleidfaoedd

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o gynulleidfa’r BBC a sut mae’r gwahanol is-grwpiau ynddi yn cael eu gwasanaethu. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae’n llywio’r cwestiwn ynghylch pa wasanaethau y dylai’r BBC eu darparu.

“Mae bron iawn bob oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio gwasanaethau’r BBC bob wythnos, sy’n golygu fod gan y BBC le canolog ym mywyd pobl.

Mae’r BBC yn cyrraedd cynulleidfa eang o fewn y BBC. Yn ôl ymchwil i gynulleidfaoedd gan y BBC, mae bron iawn bob oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio gwasanaethau’r BBC bob wythnos37, sy’n golygu fod gan y BBC le canolog ym mywyd pobl. Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad y BBC a bodlonrwydd pobl â hi yn amrywio ar draws grwpiau gwahanol yn y gymdeithas. Mae’n debyg fod rhai grwpiau’n cael eu gwasanaethu’n neilltuol o dda; ar y cyfan, grwpiau o bobl hŷn a phobl o gefndir ethnig gwyn Prydeinig sy’n fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau’r BBC, ac mae’r ffigyrau gwylio teledu a gwrando ar radio yn uchel iawn ymhlith y grwpiau hyn. Mae’n debyg nad yw rhai grwpiau’n cael eu gwasanaethu cystal gan raglenni presennol y BBC; dengys Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion mai cynulleidfaoedd o blith grwpiau ethnig du yn benodol sy’n lleiaf tebygol o ddweud fod y BBC yn cynrychioli eu hethnigrwydd yn effeithiol.38 Nid yw hyn yn fater i’r BBC yn unig. Canfu Adolygiad Ofcom o’r PSBs fod mwy na hanner gwylwyr o gefndiroedd ethnig du yn credu eu bod yn cael eu tangynrychioli a’u cynrychioli’n negyddol gan yr holl PSBs.39

Page 63: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dengys data hefyd fod cynulleidfaoedd y BBC yn gyfartal ar y cyfan o ran y ddau ryw (bydd merched yn gwylio ychydig bach yn fwy o gynnwys teledu na dynion) ac o ran grwpiau cymdeithasol-economaidd.40

Mae defnydd o’r BBC gan wahanol grwpiau oedran hefyd yn bwysig: mae pobl ifanc 16-24 mlwydd oed yn ymgysylltu llai â theledu a radio traddodiadol nag unrhyw grŵp arall,41 tuedd sydd wedi bod yn sefydlog dros gyfnod y Siarter bresennol ac sy’n cwmpasu’r holl sianeli darlledu teledu. Ar yr un pryd, mae aelodau’r grŵp oedran hwn yn fwy tebygol o ddweud fod gan y BBC rywbeth i’w gynnig iddynt na grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ymgysylltu â darlledu traddodiadol.42 Mae Adolygiad Ofcom o’r PSBs hefyd yn codi nifer o bwyntiau perthnasol ynghylch ymddygiad cynulleidfaoedd a sut mae cynulleidfaoedd yn teimlo am ddarpariaeth PSBs.43 Bydd deall cynulleidfaoedd y BBC a’u hanghenion gwahanol a’u parodrwydd i ariannu gwasanaethau’r BBC yn bwysig wrth ystyried maint a chwmpas gweithgareddau’r BBC yn ystod y ddegawd nesaf.

Page 64: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynulleidfaoedd

Lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

Mae gan y BBC oblygiadau clir i ddarparu gwasanaethau i’w holl gynulleidfaoedd, yn benodol yn unol â’r hyn a amlinellir o dan y pedwerydd diben cyhoeddus (‘Cynrychioli’r Deyrnas Unedig, ei Gwledydd, ei Rhanbarthau a’i Chymunedau’). Yn ogystal â dod â chynulleidfaoedd ynghyd ar gyfer digwyddiadau o bwys cenedlaethol, mae angen i’r BBC hefyd gynrychioli ac adlewyrchu talwyr ffi’r drwydded, yn cynnwys i’r byd ehangach.

Mae llwyddiant y BBC wrth geisio cyflawni’r oblygiadau hyn yn gymysg. Yn ôl Ymddiriedolaeth y BBC, y llynedd roedd un o bob chwech oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn credu fod y BBC yn perfformio’n dda o ran cynrychioli eu gwlad neu eu rhanbarth.44 Fodd bynnag, mae sgoriau perfformiad ym maes ‘Cynrychioli fy ngwlad/rhanbarth yn y newyddion/mewn drama’ yn yr Alban wedi bod yn is nag yng Nghymru a Gogledd Iwerddon trwy gydol cyfnod y Siarter. Amlinellir gwybodaeth ynghylch ieithoedd lleiafrifol ym Mlwch 6 gyferbyn.

Page 65: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 6: Cefnogi’r gwahanol ieithoedd brodorol o fewn Ynysoedd Prydain

Wrth wasanaethu cymunedau penodol, mae rôl y BBC o ran cefnogi gwahanol ieithoedd brodorol Ynysoedd Prydain yn neilltuol o bwysig. Mae’n farchnad fechan sydd â photensial cyfyngedig i gael ei gwasanaethu gan ddarlledwyr masnachol, felly mae’n faes allweddol lle gall arian cyhoeddus gefnogi cynulleidfaoedd na wasanaethir yn ddigonol. Er enghraifft, mae S4C, y darlledwr cyfrwng Cymraeg, yn cael arian cyhoeddus yn uniongyrchol trwy grant gan y Llywodraeth (£6.8 miliwn y flwyddyn) a hefyd trwy ffi’r drwydded (£74.5 miliwn y flwyddyn). Darperir darlledu trwy gyfrwng Gaeleg yr Alban trwy BBC Alba, sianel bartneriaeth rhwng y BBC ac awdurdod Gaeleg yr Alban, MG Alba.

Mae bron iawn dwy ran o dair o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn y Deyrnas Unedig yn dweud fod y BBC yn cefnogi eu hiaith.45 Ond er bod y BBC a gwasanaethau a ariennir gan ffi’r drwydded yn amlwg yn golofn bwysig ar gyfer cymunedau ieithoedd brodorol, mae heriau hefyd. Mae cyfanswm y gynulleidfa a gyrhaeddir wedi bod yn gostwng yn ystod blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng Nghymru.46 Ac mae cost yn gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn; mae’r gost fesul awr o gynhyrchu cynnwys radio trwy gyfrwng ieithoedd brodorol yn yr Alban a Chymru gryn dipyn yn uwch na chost cynhyrchu cynnwys cyfrwng Saesneg, sy’n codi cwestiynau ynghylch gwerth am arian.47

Page 66: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 6: Gwasanaethau gwledydd a rhanbarthau y BBC

Lloegr

Cynhyrchir cynnyrch newyddion dyddiol mewn deuddeg rhanbarth yn Lloegr. 39 gwasanaeth radio lleol a 42 gwefan leol.

Gogledd Iwerddon

Dau wasanaeth radio: Radio Ulster a Radio Foyle. Trawsyrrir TG4, y gwasanaeth cyfrwng Gwyddeleg, trwy Femorandwm Dealltwriaeth â Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon.

Siaradwyr Gwyddeleg (2013)201,000(1.6% o boblogaeth GI)

Siaradwyr Sgoteg Wlster (2013)148,000(8.1% o boblogaeth GI)

Page 67: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Yr Alban

Pedair sianel deledu: BBC Alba, BBC One Scotland, BBC Two Scotland, BBC Two Scotland ac STV. Dwy orsaf radio, Radio Scotland a Radio Nan Gàidheal.

Siaradwyr Gaeleg yr Alban (2013)

87,000(1.64% o boblogaeth yr Alban)

Cymru

Pedair sianel deledu: BBC One Wales, BBC Two Wales, S4C ac ITV Cymru Wales.Dwy orsaf radio: Radio Wales a Radio Cymru.

Siaradwyr Cymraeg (2013)572,000(19% o boblogaeth Cymru)

Page 68: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynulleidfaoedd

Cynulleidfaoedd rhyngwladol

Mae gan y BBC ddiben cyhoeddus hefyd o ran mynd â’r Deyrnas Unedig i’r byd a dod â’r byd i’r Deyrnas Unedig. Mae’r gynulleidfa ryngwladol wedi cynyddu wrth i gysylltedd a’r nifer sy’n derbyn y rhyngrwyd gynyddu - mae gan oddeutu 46 y cant i gartrefi fynediad i’r rhyngrwyd heddiw o’i gymharu â 18 y cant yn 200548 - ac mae gwasanaethau a llwyfannau newydd yn gwella gallu cynulleidfaoedd ledled y byd i gyrchu gwasanaethau’r BBC (gweler blwch 7 ar dudalennau 66/67). Fe enghraifft o gyrhaeddiad y BBC yn fyd-eang, fe wnaeth pennod hanner canmlwyddiant Dr Who bennu record am y cyd-ddarllediad mwyaf erioed o raglen ddrama deledu: dangoswyd y bennod mewn 98 o wledydd ar draws chwe chyfandir, mewn 15 iaith. Mae gan y BBC gynulleidfa fyd-eang wythnosol o 308 miliwn o bobl, ac mae cynulleidfa newyddion wythnosol y BBC bellach yn 283 miliwn o bobl49, o’i chymharu â 233 miliwn o bobl yn 2006-07.50 Yn ychwanegol, caiff y BBC ei gwerthuso’n gyson fel y darparwr newyddion rhyngwladol mwyaf dibynadwy a mwyaf adnabyddus, ac mae cynulleidfaoedd byd-eang yn ei hystyried yn

fwy diduedd, gwrthrychol a gwell na sianeli newyddion eraill.50 Yn y Deyrnas Unedig, mae talwyr trwyddedau teledu yn gefnogol o ddarpariaeth y BBC o’i diben sydd â ffocws rhyngwladol. Mynd â’r Deyrnas Unedig i’r byd a dod â’r byd i’r Deyrnas Unedig oedd y diben a gafodd y sgôr uchaf o blith yr holl ddibenion yn ystod 2013-14.52

Mae cynulleidfa newyddion ryngwladol wythnosol y BBC bellach yn

283m o bobl47

o'i gymharu â 233m yn 2006-07.

Page 69: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae gwasanaethu’r gynulleidfa fyd-eang hon yn fuddiol i’r Deyrnas Unedig. Mae’r BBC yn chwarae rhan sylweddol yn y canfyddiad o’r Deyrnas Unedig ledled y byd. Bydd gan gynulleidfaoedd sy’n defnyddio gwasanaethau’r BBC yn amlach safbwyntiau mwy cadarnhaol ynghylch y Deyrnas Unedig na’r sawl sydd â llai o gysylltiad â’r BBC.53 Mae enillion ariannol i’r Deyrnas Unedig hefyd: er bod y ddarpariaeth newyddion am ddim yn y gwledydd y darperir ar eu cyfer, bydd BBC Worldwide yn gwerthu rhaglennu i’w darlledu ledled y byd gan ddenu refeniw a gaiff ei ail-fuddsoddi yn rhaglenni’r BBC.

Tra bod y BBC wedi bod yn llwyddiannus ar y llwyfan byd-eang, mae’r llwyfan hwnnw yn newid. Mae’r rhyngrwyd yn ei gwneud hi’n haws i gyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae cydgyfeiriant gwahanol wasanaethau yn golygu fod y BBC yn cystadlu â chwaraewyr newydd megis Amazon, Google ac Apple. Ac ym myd y newyddion, yn ogystal â darparwyr sydd wedi ennill eu plwyf fel CNN, mae’n wynebu cystadleuaeth gynyddol gan Al-Jazeera a darlledwyr a ariennir gan y wladwriaeth yn Rwsia a Tsiena.

Yn y cyd-destun hwn, mae Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, wedi pennu targed uchelgeisiol o gyrraedd 500 miliwn o bobl erbyn 2022, canmlwyddiant y BBC.54

Cwestiwn 7

Pa mor dda mae’r BBC yn gwasanaethu ei chynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol?

Page 70: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 7: Cyrhaeddiad byd-eang y BBC

Ffeithiau allweddol

Cynulleidfa fyd-eang wythnosol y BBC ar gyfer gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein (2014-15):

308m

Oedolion ledled y byd sy’n defnyddio gwasanaethau BBC News:

1 o bob 16

World Service – y gynulleidfa fwyaf mewn unrhyw wlad yw’r un yn yr Unol Daleithiau:

30m

Mae un rhan o dair o gyfanswm cynulleidfa'r World Service yn byw ar yng nghyfandir Affrica:

100m

Uchelgais y BBC i gyrraedd cynulleidfa fyd-eang o500m o bobl erbyn 2022.

Mae’r BBC yn rhedeg dros 100 o swyddfeydd mewn dros 70 o wledydd:

BBC WorldwideBBC Global News

Ffynhonnell: Cyhoeddiad gan y BBC, 21 Mai 2015Ffynhonnell: Adroddiad gan y BBC: The economic return to the UK of the BBC's global footprint, Tachwedd 2013, t.8

Page 71: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 72: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Mae'r cynnwys y mae’r BBC yn ei ddarparu i’w chynulleidfaoedd wrth wraidd ei darpariaeth o’i dibenion cyhoeddus. Mae math ac ansawdd ei chynnwys yn galluogi i’r BBC hysbysu, addysgu a diddanu. Mae sicrhau safon uchel cynnwys y BBC yn hollbwysig i sicrhau fod ei chenhadaeth yn cael ei chyflawni ac i sicrhau gwerth am arian i dalwyr ffi’r drwydded.

“Mae strwythur ariannu unigryw y BBC, sy’n cael swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn rhoi’r gallu i’r BBC i fentro â’r cynnwys y mae’n ei ddarparu a chyflwyno diwygiau newydd a rhai heb eu profi i’w chynulleidfaoedd.

Mae’r Cytundeb Fframwaith sy’n ategu Siarter bresennol y BBC yn nodi fod angen i gynnwys y BBC gyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol: ansawdd uchel, heriol, gwreiddiol, arloesol a deniadol.

Mae strwythur ariannu unigryw y BBC, sy’n cael swm sylweddol o arian cyhoeddus, yn rhoi’r gallu i’r BBC i fentro â’r cynnwys y mae’n ei ddarparu a chyflwyno diwygiau newydd a rhai heb eu profi i’w chynulleidfaoedd.

Yn y cyd-destun hwn, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried yn benodol:

- Cymysgedd o genres – a yw’r BBC yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y genres

- Ansawdd a hynodrwydd – i ba raddau mae’r BBC yn cyflawni meini prawf y Fframwaith, a disgwyliadau cynulleidfaoedd, o ran ansawdd ac arloesedd.

Page 73: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwariant ar gynnwys yn ôl gwasanaeth

Teledu BBC ar-lein

Radio

Ffynhonnell: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, rhwng 2006-07 a 2014-15.

Page 74: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 8: Faint mae’r BBC yn ei wario(cost fesul awr mewn cromfachau)

Teledu

£1,1434m £533m £114m £63m £100m £41m(6.5c) (9,0c) (8.1c) (6.6c) (18.8c) (2.7c)

£9m £63m £10m Cyfanswm

£2,367m

Detholiad o wariannau eraill

Cerddorfeydd a grwpiau perfformio eraill

Gwariant ar ddatblygu

Trwydded gweithredu BBC World Service

Costau casglu ffioedd trwyddedau teledu

Ariannu S4C yn uniongyrchol

Teledu Lleol

£33m £83m £254m £101m £76m £24m

Cyflwyno band eang

Cyfanswm

£150m £720m

Ffynhonnell: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, 2014-15, t. 139

Page 75: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Radio

£54m ` £60m £55m £116m £66m £6m(1.1c) (0.5c) (6.4c) (1.4c) (2.5c) (1.3c)

£11m ` £13m £8m £11m £154m £31m(2.3c) (0.9c) (0.7c) (31c) (3.8c) (6.5c)

£6m ` £20m £18m £24m Cyfanswm(18.9c) (7.0c) (19.2c) (6.3c) £653m

Ar-lein

BBC Online a BBC Red Button Cyfanswm£201m

Page 76: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Mae penderfyniadau’r BBC ynghylch y cymysgedd o genres yn elfen allweddol o safbwynt y gwerth mae’n ei ddarparu i’r cyhoedd. Caiff rhain eu pennu ar lefel uchel gan Ymddiriedolaeth y BBC trwy Drwyddedau Gwasanaethau a’u darparu gan y BBC trwy bob un o’i gwasanaethau. Mae dau brif ffordd o fesur y gymysgedd o genres o fewn gwasanaethau ac ar draws y BBC: ar deledu a radio trwy’r oriau a ddarlledir, ac ar draws teledu, radio ac ar-lein trwy gyllid (gweler Blwch 8 ar dudalennu 70/71).

TeleduRoedd teledu yn cyfrif am dri chwarter (£1.89 biliwn) o wariant y BBC ar gynnwys yn 2014. Mae rhaglenni plant a rhaglenni ffeithiol yn cyfrif am dros 50 y cant o'r oriau teledu. Fodd bynnag, o gofio fod gan wahanol genres gostau gwahanol iawn, caiff rhai o symiau mwyaf o wariant y BBC eu gwario ar chwaraeon, drama a rhaglenni ffeithiol, ac maent gyda’i gilydd yn cyfrif am bron iawn hanner gwariant y BBC ar gynnwys. Mae gwariant yn ôl genre wedi newid yn sylweddol yn ystod cyfnod y Siarter bresennol, wrth i'r BBC wneud nifer o benderfyniadau strategol trwy newid

nifer yr oriau yn y gwahanol genres (gweler blwch 9 ar dudalennau 74/75). Ond fel darlledwyr eraill, roedd rhaid i’r BBC ddelio â chynnydd mewn costau, er enghraifft, ym maes drama. Hefyd gwelwyd gwerth hawliau darlledu chwaraeon yn parhau i gynyddu mewn marchnad ryngwladol yn ystod cyfnod y Siarter, sy’n rhoi pwysau ar allu’r BBC i barhau i ddarlledu digwyddiadau chwaraeon o werth sylweddol megis y Pencampwriaethau Golff Agored.

Gwariant ar gynnwys (is-gategori gwariant ar wasanaethau)55

£18bn teledu

£474m radio

£125m ar-lein

Page 77: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Radio

Roedd radio yn cyfrif am oddeutu 20 y cant o wariant ar gynnwys a chyfanswm o £474 miliwn yn 2014 (gweler Blwch 8 ar dudalennau 70/71).Mae’r BBC yn gwario oddeutu 55 y cant o’i gwariant ar gynnwys ar y pum gorsaf radio genedlaethol (Radio 1, Radio 2, Radio 3, Radio 4 a Radio 5 Live), 6 y cant ar y gorsafoedd sy’n ddigidol yn unig a 39 y cant ar wledydd a gorsafoedd lleol y BBC. Mae cynulleidfaoedd radio’r BBC wedi bod yn sefydlog ar y cyfan yn ystod cyfnod y Siarter presennol.

Ar-leinMae BBC Online yn cyfrif am oddeutu 5 y cant o gyfanswm cyllideb cynnwys y BBC, sy’n gyfanswm o £125 miliwn56, ar amrywiaeth o wasanaethau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwariant ar wasanaethau bwrdd gwaith, teledu, llechen a symudol y BBC sy’n cwmpasu’r amrywiaeth o gynnwys a ddarperir gan wefannau’r BBC. Mae hefyd yn cwmpasu’r gwasanaethau digidol rhyngweithiol a ddarperir trwy Red Button y BBC a’r gwasanaethau sydd ar gael trwy’r iPlayer. Mae Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC ar gyfer

2014-15 hefyd yn amlygu cyflwyniad rhaglen myBBC, sy’n caniatáu i wasanaethau’r BBC gael eu personoli ymhellach, a chychwynnodd hynny eleni â chyfleuster i bersonoli cynnwys ar ap newyddion y BBC.57

Ansawdd a hynodrwydd

Ni all y BBC gyflawni ei hamcanion oni bydd cynulleidfaoedd yn ystyried fod ei chynnwys yn ddarpariaeth ddymunol a da, yn enwedig mewn tirwedd cyfryngau sy’n gynyddol gystadleuol a byd-eang lle ceir nifer gynyddol o opsiynau o ran amser a gwariant cynulleidfaoedd.

Mae ymchwil Ymddiriedolaeth y BBC i gynulleidfaoedd yn awgrymu fod y BBC wedi bod yn weddol lwyddiannus wrth gyflawni disgwyliadau cynulleidfaoedd ynghylch ansawdd, sy’n dangos fod safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch cynnwys ac ansawdd y BBC wedi bod yn eithaf sefydlog trwy gydol cyfnod y Siarter a bod cynulleidfaoedd ar y cyfan yn fodlon â chynnwys y BBC (gweler Blwch 10 ar dudalen 77).

Page 78: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Blwch 9: Oriau teledu rhwydwaith yn ôl genre yn 2014(ffigyrau 2006 mewn cromfachau)

Drama 1,344 (2,062)

Plant Chwaraeon 9,074 (10,989) 2,073 (1,652)

Newyddion a Thywydd3,705 (3,059)

Ysgolion/Addysgol309 (1,389) Materion

Cyfoes917 (821)

Comedi1,670 (-) Ffeithiol

7,625 (5,766)Adloniant1,118 (2,384)

Ffilm1,458 (1,792)

Crefydd157 (181)

Cerddoriaeth a’r Celfyddydau1,812 (1,612)

Ffynhonnell: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBCNodyn: Mae newidiadau yn nosbarthiadau genres wedi digwydd yn ystod cyfnod y Siarter bresennol

Page 79: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Oriau radio yn ôl genre yn 2014(ffigyrau 2006 mewn cromfachau)

Ysgolion/ DramaAddysgol 4,280 (4,719)112 (169)

Adloniant Chwaraeon7,490 (3,955) 5,166 (4,731)

Crefydd Newyddion a 592 (1,084) Thywydd

11,391(12,642)

Materion Cyfoes1,668 (3,470)

Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Ffeithiol42,024 (43,096) 3,318 (1,575)

Ffynhonnell: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, 2014-15.

Page 80: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Agwedd hollbwysig o ansawdd, mewn perthynas â darpariaeth newyddion a materion cyfoes y BBC, yw’r angen i fod yn ddiduedd ac osgoi rhagfarn tuag at safbwyntiau neu leisiau penodol.58 Mae hyn wedi bod yn destun nifer o adolygiadau annibynnol a mewnol, o Adroddiad yr Arglwydd Wilson (2005)59, i Adolygiad mwy diweddar Stuart Prebble, ‘Ehangder Barn a Adlewyrchir yn Allbwn y BBC’, yn 2013.60

Mae’r ail gwestiwn ynghylch cynnwys yn ymwneud â pha un a yw’r BBC yn darparu cynnwys sy’n ddigon nodedig ar draws y fformatau gwahanol. Mae’r BBC yn darparu ystod helaeth o gynnwys ar draws llwyfannau a fyddai naill ai ddim yn cael eu darparu neu’n cael eu darparu’n annigonol gan y farchnad ehangach. Er enghraifft, cyfresi hanes naturiol nodedig megis Planet Earth, rhaglenni cerddoriaeth glasurol a chelfyddydau manwl ar Radio 3, cyfresi dogfen arloesol megis The History of the World in 100 Objects ar gyfer Radio 4, a rhaglenni gwyddoniaeth da megis Horizon.

Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu amrywiaeth o raglenni y gellir dadlau eu bod yn llai nodedig na’r cynnwys a ddarperir gan gystadleuwyr masnachol. Wrth ddarparu cynnwys poblogaidd i gynulleidfaoedd, mae’r BBC yn gallu cyrraedd sylfaen ehangach o dalwyr ffi’r drwydded, ac mae elfen o raglenni poblogaidd yn hanfodol i sicrhau fod y BBC yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau y mae cynulleidfaoedd yn dymuno eu cyrchu. Fodd bynnag, mae pryderon wedi’u mynegi fod y BBC yn ymddwyn mewn modd gor-fasnachol, gan orgyffwrdd â genres a fformatau teledu a allai gael eu gwasanaethu’n dda gan ei chystadleuwyr masnachol, yn enwedig yn ystod yr oriau brig sy’n hollbwysig i’w gallu i gasglu refeniw. Gall hyn amlygu ei hyn ar lefel y gwasanaethau: mae cyllideb cynnwys Radio 6 yn £8 miliwn, o’i gymharu â chyfanswm o bron iawn £87 miliwn ar gyfer Radio 1 a 2,61 y gellir dadlau eu bod yn llawer iawn llai nodedig, ac mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi canfod fod ei gwasanaeth sy’n gwario fwyaf, BBC1, wedi cael y sgôr isaf am fod yn ‘ffres a newydd’ o blith ei brif sianeli.62

Page 81: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 10: Beth yw barn cynulleidfaoedd ynghylch cynnwys y BBC63

“Mae’r BBC yn darparu rhaglenni neu gynnwys ar-lein da iawn”

76%

“Mae gan y BBC lawer o syniadau ffres a newydd”

61%

“Mae’r BBC yn cynnig ‘cryn dipyn’, ‘llawer iawn’ neu ‘bopeth y mae arnaf ei angen’”

58%

“Mae gan y BBC amrywiaeth helaeth o raglenni a chynnwys ar-lein pleserus a difyr”

74%

Ffynhonnell: Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion, 2013.

“Mae’r BBC yn darparu cynnwys da ar y rhyngrwyd sy’n bleserus a defnyddiol i mi”

66%

Teledu Rhyngweithiol

58%

Radio digidol DAB

46%

“Mae’r BBC yn gwneud rhaglenni a chynnwys ar-lein na fyddai unrhyw ddarlledwr arall yn eu gwneud”

49%

Page 82: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynnwys

Nid yw hynny’n golygu na ddylai’r BBC fod yn ddifyr; mae’n ymwneud â’r BBC yn darparu rhaglenni nodedig ar draws yr holl genres. Er enghraifft, fe wnaeth y BBC gaffael fformat The Voice. Dyma raglen doniau canu a ddatblygwyd dramor, a brynwyd gan y BBC am gost y adroddwyd ei fod oddeutu £20 miliwn64, ac mae’n debyg i X-Factor ITV. Mae hyn yn wahanol i Strictly Come Dancing a ddatblygwyd yn fewnol gan y BBC ac a werthwyd dramor wedi hynny.

Mae’r BBC wedi wynebu cwestiynau tebyg ynghylch hynodrwydd ei gynnwys radio, yn enwedig mewn perthynas â’i gorsafoedd radio yn ystod oriau brig. Mewn adroddiad diweddar ynghylch BBC Radio 1, gwasanaeth radio mwyaf ‘prif ffrwd’ y BBC efallai, canfu Ymddiriedolaeth y BBC fod gorgyffyrddiad y gerddoriaeth a chwaraeid ar Radio 1 o’i gymharu â phum gorsaf fasnachol gymharol yn isel, oddeutu un rhan o dair o’i allbwn.

Ar y llaw arall, canfu’r Ymddiriedolaeth hefyd fod gofyniad BBC Radio i ddarlledu 40 rhaglen ddogfen newydd bob blwyddyn, er bod yr orsaf yn cyflawni hynny, yn cael ychydig iawn o effaith

ar hyn o bryd ymhlith cynulleidfaoedd. Mae’r slot darlledu presennol am 9yh ar nos Fawrth wedi’r oriau brig yn golygu mai ychydig sy’n gwrando arnynt ac mae ymwybyddiaeth cynulleidfaoedd ohonynt yn isel.65

Yn yr un modd, mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch a yw’r cynnwys ar wefan y BBC yn ddigon gwahanol i’r cynnwys a allai gael ei ddatblygu ac sy’n cael ei ddatblygu a’i ddarparu gan eraill. Mae twf y rhyngrwyd fel cyfrwng defnyddio gwybodaeth yn un o’r datblygiadau mwyaf nodedig yn ystod cyfnod y Siarter bresennol. Yn y cyd-destun hwn, yr her i’r BBC fydd sicrhau ei bod yn ddigon gwahanol i’r gweddill sydd yn y gofod ar-lein ac efallai ceisio osgoi darparu gwasanaethau megis, er enghraifft, ryseitiau, lle mae amrywiaeth o wefannau eraill eisoes yn gwneud hynny.

Ni ddylai’r BBC, fel sefydliad cyhoeddus, fod â’r un gofynion â chwmnïau masnachol, megis ceisio uchafu’r gyfran o’r gynulleidfa. Fodd bynnag, o gofio pa mor anodd yw mesur ansawdd mewn modd gwrthrychol, gall ffigyrau megis

Page 83: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

ffigyrau gwylio gael sylw gormodol gan uwch reolwyr. Rhaid holi felly, sut ddylid mesur llwyddiant rhaglenni â llawer iawn yn dibynnu ar allu’r BBC i gyflawni ei dibenion cyhoeddus trwy ei chynnwys, a sut i sicrhau fod diwylliant y BBC yn canolbwyntio ar ansawdd a hynodrwydd yn hytrach na chael ei lywio gan ffigyrau gwylio.

Cwestiwn 8

A yw’r BBC yn cynnig y gymysgedd briodol o genres ar draws ei gwasanaethau?Cwestiwn 9

A yw safon cynnwys y BBC yn ddigon uchel, ac a yw’n ddigon gwahanol i gynnwys darlledwyr eraill? Pa ddiwygiadau allai ei wella?

Page 84: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Mae’r adran hon yn ystyried y fframwaith rheoleiddio sy’n ymwneud â chynhyrchu cynnwys a’r opsiynau ar gyfer diwygio.

“Roedd y BBC yn cyfrif am fwy na hanner (bron iawn £1.3 biliwn) o fuddsoddiadau gan PSBs yn 2014, sy’n golygu mai’r BBC yw comisiynydd mwyaf cynnwys teledu ym marchnad y Deyrnas Unedig.

Mae PSBs yn parhau i chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y sector cynyrchiadau annibynnol, gan fuddsoddi (gan gynnwys chwaraeon) £2.5 biliwn mewn cynnwys newydd yn y Deyrnas Unedig yn 201466, ac mae’n cyfrif am y rhan fwyaf o’r buddsoddiad yn sector cynyrchiadau annibynnol y Deyrnas Unedig.

Roedd y BBC yn cyfrif am fwy na hanner (bron iawn £1.3 biliwn) o fuddsoddiadau gan PSBs yn 2014, sy’n golygu mai’r BBC yw comisiynydd mwyaf cynnwys teledu ym marchnad y Deyrnas Unedig.67 Mae fframwaith rheoleiddio sy’n ymwneud â sut mae’r BBC yn comisiynu ac yn cynhyrchu felly yn effeithio’n sylweddol ar y sector cynyrchiadau annibynnol a’r cyfryngau a’r economi creadigol ehangach. Mae hefyd yn effeithio ar effeithlonrwydd ffi’r drwydded. Dylid nodi fod Adolygiad Ofcom wedi canfod fod buddsoddiad mewn cynnwys newydd sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig wedi gostwng yn ystod blynyddoedd diweddar.

Page 85: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y system bresennol

Mae gan y fframwaith rheoleiddio presennol sy’n ymwneud â chynhyrchu cynnwys ddwy brif elfen: cwotâu a thelerau masnachu.

Cwotâu'r BBCBydd y BBC yn comisiynu, cynhyrchu a chaffael symiau enfawr o raglenni teledu a radio a chynnwys ar-lein. Caiff yr allbwn hwn ei lywio gan gwotâu y mae angen i’r BBC eu cyflawni o ran comisiynu a chynhyrchu. Mae’r rhain yn cwmpasu cynyrchiadau annibynnol ar gyfer teledu, radio ac ar-lein yn ogystal â chynyrchiadau teledu gwreiddiol a rhanbarthol (gweler Blwch 11 ar dudalen 82). Yn ystod cyfnod y Siarter bresennol, mae’r BBC wedi cyflawni mewn cymhariaeth â’r cwotâu hyn, ac adlewyrchir hynny yn adroddiad Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch trefniadau cyflenwi cynhyrchu cynnwys a BBC a gwasanaethau, a gyhoeddwyd ym Mehefin 2015.68

Page 86: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Blwch 11: Cwotâu cyflenwi cynnwys presennol y BBCTeledu

- Gwarantir 25 y cant o’r oriau teledu a gomisiynir gan y BBC i gynhyrchwyr annibynnol, gwarantir 50 y cant i gynhyrchwyr mewnol y BBC ac mae 25 y cant yn agored i gystadleuaeth gan gynhyrchwyr mewnol a chwmnïau cynhyrchu allanol o dan y Ffenestr Cystadlu Creadigol (WOCC).

- Mae cwotâu hefyd ar gyfer cynyrchiadau gwreiddiol, ar gyfer cynyrchiadau y tu allan i Lundain (50 y cant o wariant ar deledu rhwydwaith y tu allan i Lundain erbyn 2016) yn cynnwys cynyrchiadau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon (o leiaf 17 y cant o’r gwariant ar deledu rhwydwaith).

Radio- Caiff o leiaf 10 y cant o gynnwys oriau

radio eu cynhyrchu’n annibynnol, ac mae 10 y cant ychwanegol ar gael trwy’r WOCC ar gyfer radio, a gyflwynwyd yn 2012.69

Ar-lein- Y targed yw defnyddio 25 y cant o wariant

ar-lein cymwys i brynu gan ddarparwyr annibynnol.

Page 87: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Telerau MasnachuMae dull y BBC o gomisiynu a chynhyrchu cynnwys yn rhan o gyfundrefn reoleiddio ehangach. Mae’r Telerau Masnachu, a sefydlwyd yn 2003 i fynd i’r afael â’r sefyllfa drafod anghytbwys rhwng darlledwyr a chwmnïau llai yn y sector cynyrchiadau annibynnol, yn golygu fod rhaid i drafodaethau gydymffurfio â chod ymarfer a gymeradwywyd gan Ofcom (gweler Blwch 12 isod). O dan y system bresennol o hawliau eiddo diwylliannol sy’n gysylltiedig â rhaglenni, ar y cyfan, bydd y cwmni cynhyrchu yn cadw 85 y cant ohonynt a’r comisiynydd yn cadw 15 y cant yn unig.

Blwch 12 Telerau Masnachu

Mae gan ddarlledwyr hawl i ddefnyddio rhaglen nifer benodol o weithiau yn ystod y ffenestr drwyddedu gychwynnol (dwy flynedd ar y cyfan). Pan ddaw’r ffenestr i ben, gall cynhyrchwyr annibynnol gadw hawliau hawlfraint ac eiddo deallusol, a breindaliadau fideos, DVDs a nwyddau masnachol. Caiff elw net ei rannu trwy gyd-drafod hynny, ond ar y cyfan, bydd y cynhyrchwr yn cael 85 y cant a’r darlledwr yn cael 15 o’r elw.

Page 88: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Fe wnaeth adolygiad diweddar Ofcom o PSBs ystyried a oes angen ail-gydbwyso’r Telerau Masnachu, a chyfeirir isod at ei gasgliadau.

Sail resymegol dros ddiwygio

Mae gan y system cwotâu bresennol gryfderau. Mae wedi helpu’r farchnad cynyrchiadau annibynnol i dyfu ar gyfradd o 3.4 y cant y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2009 a 2013, gan gynhyrchu refeniwiau gwerth £3 biliwn bron iawn yn 2013.70 Mae hefyd wedi helpu i gynyddu cynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, ac fe wnaeth cyfanswm yr oriau rhwydwaith sy’n deillio o Lundain ostwng o 65 y cant yn 2009 i 41 y cant yn 2013.41 Ar yr un pryd, mae wedi galluogi adran cynyrchiadau mewnol y BBC i barhau i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel.

Er bod y drefn yn llwyddiannus, mae nifer o resymau dros ystyried darlun presennol cynhyrchu cynnwys trwy’r Adolygiad o’r Siarter. Yn neilltuol:

- Effaith y system bresennol.Mewn perthynas â rhaglenni teledu, mae’r BBC wedi awgrymu fod y strwythur bresennol yn llyffetheirio arloesedd a chreadigrwydd, gan ddadlau fod ei huned cynyrchiadau mewnol wedi’i chyfyngu i gynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC yn unig. Yn ychwanegol, rhaid holi a yw gweithredu’r system cwotâu yn feichus o safbwynt gweinyddol ar gyfer y BBC ac Ymddiriedolaeth y BBC.

- Maint y cwotâu. Yn achos cynnwys radio, gall safle dominyddol y BBC ym maes radio llafar, ynghyd â’r cwotâu gweddol fychan ar gyfer cynyrchiadau annibynnol, fod yn llyffetheirio sector bychan ond bywiog, sydd – fel mae’r Gwobrau Rhaglenni Radio Rhyngwladol yng Ngŵyl Efrog Newydd wedi dangos yn ddiweddar – yn darparu cynnwys a fformatau gwirioneddol arloesol. Ar 19 Mehefin,

Page 89: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

cyhoeddodd y BBC ei bwriad i ddirwyn cwotâu radio i ben, a rhoi gwell cyfle i gynhyrchwyr annibynnol rhaglenni radio i gystadlu am gomisiynau.

- Amrediad y cwotâu. Yn achos cynnwys ar-lein, dylid ystyried effaith presenoldeb y BBC ar-lein ar eraill - yn enwedig darparwyr newyddion lleol, y mae rhai ohonynt wedi mynegi pryderon fod presenoldeb lleol y BBC yn effeithio’n negyddol ar y defnydd o’u cynnwys. Mae hyn yn cynnwys pryderon mewn rhai achosion fod y BBC yn defnyddio cynnwys a gyrchir oddi wrth sefydliadau newyddion lleol heb roi cydnabyddiaeth am hynny, sy’n awgrymu galwadau am sefydlu cwotâu penodol o ran newyddion lleol.

Fe wnaeth yr amgylchedd newidiol hwn annog Ymddiriedolaeth y BBC i lansio adolygiad o drefniadau cyflenwi cynnwys y BBC, a chafwyd adroddiad ar hynny ar 19 Mehefin.72 Casglodd yr adroddiad fod dadleuon dros ddiwygio’r cwotâu sydd yn eu lle ar gyfer cynnwys teledu, radio ac ar-lein, ond dywedodd fod angen manylion llawn

cynnig BBC Studios, a amlinellir isod, a chanlyniad Trydydd Adolygiad Ofcom o’r PSBs mewn perthynas â’r sefyllfa gyffredinol ynghylch Telerau Masnachu, cyn gallu gwneud penderfyniad llawn. Cyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar 2 Gorffennaf a chanfuwyd fod y cydgrynhoi a’r caffael fertigol (cwmnïau cynhyrchu yn cael eu caffael gan ddarlledwyr) sydd wedi digwydd ym marchnad cynyrchiadau’r Deyrnas Unedig wedi arwain at fuddion yn ogystal â risgiau ar gyfer darlledwyr. Casglodd Ofcom nad oedd yn credu fod achos cryf dros ddiwygio cwotâu cynyrchiadau annibynnol, ond byddai’n parhau i fonitro datblygiadau o gofio y bydd y sector yn parhau i newid a gallai gydgrynhoi ymhellach. Bydd y canfyddiadau hyn, yn ogystal ag unrhyw ganlyniadau pellach o adolygiadau Ymddiriedolaeth y BBC ac Ofcom, yn cael eu hystyried yn ystod yr Adolygiad o’r Siarter.

Page 90: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Mae tri phrif opsiwn ar gyfer diwygio’r system bresennol (yn ogystal â’r cwestiwn cysylltiedig ynghylch yr achos dros ddiwygio’r Telerau Masnachu presennol): diwygio cwotâu presennol; cynnig BBC Studios; a lleihau cynyrchiadau mewnol yn uniongyrchol.

Diwygio cwotâu presennol

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwygio’r system cwotâu presennol:

- ehangu’r cwotâu presennol ar gyfer cynyrchiadau annibynnol ar draws teledu, radio neu ar-lein;

- cynnwys cwota gofynnol ar gyfer darpariaeth newyddion lleol;

- ehangu Ffenestr Cystadleuaeth Greadigol (WOCC) teledu neu radio a chyflwyno WOCC a chyflwyno WOCC ar gyfer cynnwys ar-lein;

- adolygu trefniadau cynhyrchu rhanbarthol;- asesu cwotâu yn ôl gwerth yn hytrach nag

oriau; neu- unrhyw gyfuniad o’r opsiynau uchod.

Byddai gan y Llywodraeth ddiddordeb penodol mewn clywed safbwyntiau ynghylch a ddylid lleihau’r gyfran o gynyrchiadau mewnol a warantir, i ganiatáu i gyfran uwch o oriau gael eu darparu gan gynhyrchwyr annibynnol. Gellid gwneud hyn naill ai fel cwota penodol newydd ar gyfer cynhyrchwyr annibynnol, cystadleuaeth ehangach trwy’r WOCC, neu gyfuniad o’r ddau.

Page 91: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 13: Darpariaeth ranbartholMae’r BBC wedi llwyddo i symud rhannau o’i sefydliad a’i gwariant oddi allan i Lundain, gan helpu’n benodol i sbarduno canolbwynt y cyfryngau yn Salford. Fodd bynnag, erys y cwestiwn ynghylch a yw wedi llwyddo i ganfod y taeniad daearyddol priodol. Er gall costau gweithredu fod yn gysylltiedig â chael nifer o ganolbwyntiau rhanbarthol, mae rhai yn dadlau y gallai ac y dylai’r BBC wneud rhagor lle mae’n gost effeithio i wneud hynny.

Un enghraifft o’r fath yw gwariant y BBC yng Nghanolbarth Lloegr. Mae ymgyrch diweddar yn y Canolbarth wedi amlygu gwahaniaeth sylweddol rhwng cyfanswm y ffi trwyddedu teledu a gesglir yno (cyfeirir at £942 miliwn) a chyfanswm buddsoddiad y BBC yno (cyfeirir at £80 miliwn – neu 8.5 y cant). Mae’r BBC wedi amlinellu ei chynlluniau i gynyddu gwariant a nifer y swyddi yn y Canolbarth, ac i wneud Birmingham yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer sgiliau, hyfforddiant a datblygu yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae pryderon o’r fath yn berthnasol wrth ystyried pa mor llwyddiannus mae’r BBC wedi bod wrth gyflawni ei hoblygiadau yn ystod cyfnod y Siarter.

Page 92: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Cynnig BBC Studios

Mae Bwrdd Gweithredol y BBC wedi nodi ei fod yn credu fod angen newid y dull o gynhyrchu cynnwys, yn bennaf oherwydd y newidiadau ehangach dros gyfnod y Siarter bresennol, o safbwynt cyflenwi cynnwys a sut caiff ei ddosbarthu. Er enghraifft, mae’r newid i ddigidol, gwell cysylltedd a chynnydd yn y defnydd o’r rhyngrwyd wedi arwain at amrywiaeth o fodelau dosbarthu, megis sefydlu Netflix ac YouTube.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Arglwydd Hall wedi galw am ddull gweithredu ‘cystadlu a chymharu’. Byddai hyn yn dileu cwotâu ar gyfer cynyrchiadau gan y BBC, yn caniatáu i gynhyrchwyr annibynnol ymgeisio am gomisiynau gan y BBC (ac eithrio yn achos materion cyfoes, chwaraeon a chynnwys i blant) a sefydlu BBC Studios fel un o is-gwmnïau masnachol y BBC, fyddai’n gallu gwneud ceisiadau ar sail fasnachol am gomisiynau a chynhyrchu rhaglenni ar gyfer darlledwyr eraill.

Page 93: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae’r BBC yn dadlau y byddai’r cynnig hwn, nad yw ei fanylion wedi eu cyhoeddi eto ond y disgwylir y bydd yn hwyrach eleni, yn cynyddu cystadleuaeth ac amrywiaeth o ran creu rhaglenni. Byddai hefyd, dadleua’r BBC, yn delio â heriau o ran cynyrchiadau mewnol o newidiadau i’r gadwyn gyflenwi, gyda chysoni cynyddol yn y farchnad gynhyrchu.

Fodd bynnag, mae’r cynigion hyn wedi denu cryn dipyn o feirniadaeth. Byddai sefydlu uned gynhyrchu’r BBC fel is-gwmni masnachol yn creu un o gynhyrchwyr cynnwys mwyaf y Deyrnas Unedig yn cystadlu’n uniongyrchol gyda thua 400 o gwmnïau cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig.

Mynegwyd pryderon yn gyhoeddus hefyd y byddai cam o’r fath yn arwain at bryderon Cymorth y Wladwriaeth ac y byddai angen mwy o fanylion am gyflawniad BBC Studios.74 Mae’r Llywodraeth yn gofyn am farnau ar y cynigion hyn ac yn croesawu unrhyw dystiolaeth yn sefydlu manteision posibl neu bryderon yn sgìl BBC Studios.

Page 94: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cynhyrchu cynnwys

Graddio cynhyrchu mewnol yn ôl yn uniongyrchol

Fel y nodwyd uchod, y ffordd amlycaf o gynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC, ar draws teledu, radio ac ar-lein, yw trwy unedau cynhyrchu mewnol (yn cyflawni 55 y cant, 78 y cant a 70 y cant yn y drefn honno ar gyfer teledu ac oriau radio a gwariant ar-lein ar gyfer 2013-14). Mae nifer o fanteision i hyn, yn cynnwys dargadw hawliau eiddo deallusol, gan ganiatáu buddiannau masnachol (dan yr Amodau Masnachu presennol), datblygu gweithlu cynhyrchu medrus, a chyflawniad cynnwys o safon uchel, a groesawir.

Fodd bynnag, mae yna angen ystyried i ba raddau mae angen i’r BBC weithredu fel darparwr cynnwys sengl mwyaf y wlad, yn cyflogi oddeutu 2,000 o bobl. Er bod gan gynyrchiadau’r BBC enw da haeddiannol ar gyfer safon, gall nifer o gwmnïau cynhyrchu annibynnol gynnig gwerthoedd cynhyrchu tebyg - ac yn wir mae nifer o raglenni mwyaf enwog y BBC megis Question Time a First Life David Attenborough eisoes yn cael eu cynhyrchu gan y sector annibynnol. Yn y cyd-destun hwn y dywedodd y cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Arglwydd Grade, yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’i ddyfynnu yn adroddiad terfynol y Pwyllgor, y dylai’r BBC geisio rhoi prosesau a chyfleusterau cynhyrchu allan i’r “sector preifat sydd â mwy o allu i amsugno’r gwaith”.75

Page 95: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae cwestiynau hefyd ynghylch pa mor dda mae cynyrchiadau mewnol y BBC yn cymharu, o ran eu pris a’u hansawdd. Yn ystod blynyddoedd diweddar, pan mae’r BBC wedi cystadlu’n gyfartal â chynhyrchwyr annibynnol am gomisiynau trwy’r WOCC, mae’r BBC wedi ennill rhwng 17 a 30 y cant ohonynt yn unig (gweler blwch 14 gyferbyn). Gallai hyn awgrymu fod cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn cynnig gwell gwerth am arian i dalwyr trwyddedu teledu. O ganlyniad, mae’r Llywodraeth yn awyddus i ddeall a oes dadleuon dros leihau galluoedd cynhyrchu’r BBC a beth fyddai effaith hynny ar gynulleidfaoedd, darlledwyr eraill ac ar y sector gynhyrchu yn ei gyfanrwydd.

Cwestiwn 10

Sut ddylai’r system o gynhyrchu cynnwys gael ei gwella trwy ddiwygio cwotâu neu ddewisiadau mwy radical?

Blwch 14: Ffenestr Cystadleuaeth Creadigol

Cyfran o’r holl oriau WOCC a enillwyd gan y BBC a chynhyrchwyr annibynnol yn ystod cyfnod y Siarter

Cynhyrchwyr annibynnolBBC

Ffynhonnell: 07 – 08 – 11 – 12 Cyfanswm y data a gynhwysir yn ‘Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o’r WOCC ar gyfer teledu’ Mawrth 2013

12 – 13 – 13 – 14 Cyfanswm y data a gynhwysir yn ‘Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o drefniadau’r BBC ar gyfer cyflenwi cynnwys teledu a radio a gwasanaethau ar-lein’, Ionawr 2015.

Page 96: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

3. Cyllid y BBC

Page 97: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 98: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cyllid y BBC

Rydym wedi ystyried maint a chwmpas y BBC a’i dibenion, sydd yn amlwg yn gysylltiedig â chyfanswm yr arian cyhoeddus a gaiff y BBC, pwy sy’n talu amdani a sut caiff ei hariannu.

“Mae angen trwydded ar unrhyw un yn y Deyrnas Unedig sy’n gwylio teledu yn fyw (neu bron iawn yn fyw) o unrhyw ffynhonnell.

Fe wnaeth Cyllideb Haf 2015 amlinellu nifer o ddiwygiadau a ddatblygir trwy’r Adolygiad o’r Siarter, wedi’u cynnwys mewn cytundeb gyda’r BBC i gymryd cyfrifoldeb am ariannu trwyddedau teledu am ddim i bobl sydd dros 75 mlwydd oed. Maent yn cynnwys setliad ariannol y BBC ac yn benodol lefel ffi’r drwydded (neu fodel ariannu arall), na wnaed penderfyniad yn eu cylch hyd yn hyn.

Ar hyn o bryd, mae’r BBC yn cael buddsoddiad cyhoeddus gwerth £3.7 biliwn bob blwyddyn trwy ffi’r drwydded. Ategir arian cyhoeddus gan y refeniwiau masnachol a gynhyrchir gan y BBC, sy’n golygu fod cyfanswm incwm y BBC bron iawn yn £5 biliwn y flwyddyn. Cynhyrchir refeniwiau masnachol yn bennaf trwy BBC Worldwide, a chânt eu hail-fuddsoddi yn y BBC er mwyn gweithio tuag at ei ddibenion cyhoeddus trwy ddifidend. Mae ffi’r drwydded yn ymyriad sylweddol yn y farchnad ddarlledu, ac felly mae’n briodol bod y Llywodraeth yn ystyried y mater hwn trwy’r adolygiad o’r Siarter.

Page 99: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae’r bennod hon yn ystyried pedwar mater yn ymwneud ag ariannu:

- Y model ariannu: opsiynau ar gyfer modelau ariannu’r BBC i’r dyfodol yn cynnwys ffi’r drwydded wedi’i foderneiddio, ardoll amgen ar gyfer cartrefi ac elfennau o danysgrifiad. Bydd yr adran hon hefyd yn ystyried y mater o ddad-droseddoli osgoi talu’r ffi trwyddedu teledu.

- Defnyddiau a warchodir o ffi’r drwydded: ar gyfer beth yn union y gellir ac mae’n rhaid defnyddio ffi’r drwydded, yn cynnwys opsiwn cyllid y gellir cystadlu amdano;

- Gwerth am arian ac effeithlonrwydd: sut mae’r BBC yn gwario ei harian a’r mecanweithiau i sicrhau ei bod yn gwneud arbedion lle gellir gwneud hynny;

- Gweithgareddau masnachol y BBC: sut mae’r BBC yn cynhyrchu ei hincwm ei hun.

Blwch 15: Incwm y BBC dros gyfnod y siarter, ym mhrisiau 2014

Incwm masnachol ac incwm arallIncwm ffi’r drwydded

Ffynhonnell: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC

Page 100: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cyllid y BBC

Blwch 16: Hanes y ffi trwyddeduCafodd ffi’r drwydded ei lansio am y tro cyntaf yn 1923 ac roedd yn cwmpasu gwasanaethau radio yn unig. Y Swyddfa Bost oedd yn casglu’r ffi, ac roedd y Swyddfa Bost a’r Trysorlys yn cael cyfran o’r incwm.76 Cyflwynwyd ffi cyfunol trwyddedu teledu a radio ym Mehefin 1946 i dalu am gostau gweithredu’r gwasanaeth 405-llinell (teledu analog monocrom). Yn 1968, wedi cychwyn y darllediadau lliw, ychwanegwyd tâl atodol am deledu lliw at ffi’r drwydded, ac yn 1971, diddymwyd trwyddedau radio yn unig.

Yn 1991, cymerodd y BBC gyfrifoldeb am gasglu a gorfodi ffi’r drwydded oddi wrth y Swyddfa Gartref. Mae’r BBC yn gwneud y gwaith hwn o dan y nod masnach “TV Licensing”.

Bellach, mae angen trwydded ar unrhyw un yn y Deyrnas Unedig sy’n gwylio teledu byw (neu bron iawn yn fyw)77 o unrhyw ffynhonnell. Defnyddir y mwyafrif helaeth o’r incwm hwn i ddarparu gwasanaethau’r BBC, a defnyddir cyfran fechan ar gyfer prosiectau eraill sy’n cefnogi dibenion y BBC, megis y newid i ddigidol a chyflwyno band eang.

Cost bresennol trwydded teledu lliw yw £145.50 a chost trwydded teledu du a gwyn yw £49.00. Mae consesiynau ar gael i bobl ddall, y sawl sy’n 75 mlwydd oed neu’n hŷn, a’r sawl sy’n byw mewn llety gofal preswyl cymwys. Caiff lefel ffi’r drwydded, y consesiynau a’r cynlluniau talu eu hamlinellu yn Rheoliadau Cyfathrebu (Trwyddedu Teledu) 2014 (fel y’u diwygiwyd).

Page 101: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dyddiadau allweddol

1923

Lansio’r ffi trwyddedu gwasanaeth diwifr cyntaf

1946

Cyflwyno’r ffi cyfunol trwyddedu teledu a radio.

1968

Ychwanegu tâl atodol am deledu lliw at ffi’r drwydded.

1971

Diddymu trwyddedau ar gyfer radio yn unig.

1991

Cymerodd y BBC gyfrifoldeb am gasglu a gorfodi ffi’r drwydded oddi wrth y Swyddfa Gartref.

Page 102: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Prif ffynhonnell cyllid y BBC yw ffi’r drwydded sydd wedi bodoli ar sawl ffurf ers ei sefydlu; amlinellir hynny ym Mlwch 16 ar dudalen 48.

“Nid oes unrhyw opsiwn ariannu yn berffaith, ac maent oll yn golygu cyfaddawdau rhwng amcanion gwahanol sydd, ar brydiau, yn cystadlu.

Fel mecanwaith ariannu, mae gan ffi’r drwydded nifer o gryfderau:

- mae’n darparu cysylltiad uniongyrchol rhwng talwr ffi’r drwydded a’r gwasanaeth a ddarperir gan y BBC;

- mae’n darparu lefelau cyson a rhagweladwy o arian ar gyfer y BBC sy’n caniatáu i’r sefydliad fuddsoddi a darparu’r gwasanaethau rydym yn eu mwynhau heddiw;

- mae’n sicrhau rhywfaint o annibyniaeth oddi wrth y Llywodraeth; ac

- mae’n helpu’r BBC i gynhyrchu cynnwys na fyddai mathau eraill o arian (megis tanysgrifiadau) yn eu darparu efallai.

Page 103: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Fodd bynnag, mae ffi’r drwydded hefyd wedi cael sawl beirniadaeth:

- mae’n atchweliadol ac mae’n ofynnol i bawb dalu’r un faint, waeth beth fo’u hincwm;

- nid yw’n gysylltiedig â defnydd – bydd rhywun sy’n gwneud ychydig iawn o ddefnydd o’r BBC yn talu cymaint â rhywun sy’n gwneud defnydd helaeth ohoni.

- mae’n orfodol ar gyfer gwylio unrhyw sianel deledu, nid y BBC yn unig, sy’n golygu nad oes unrhyw ddewis i’r sawl sy’n dymuno eithrio o wasanaethau’r BBC.

- caiff ei orfodi trwy gosbau troseddol;

- mae annhegwch o ran mynnu fod angen trwydded i wylio teledu byw yn unig oherwydd mae’n cael ei ddefnyddio hefyd i ariannu cynnwys radio, ar-lein ac ar gais, yn ogystal ag ymrwymiadau eraill megis cyflwyno band eang.

Opsiynau ar gyfer newid

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwygio cyllid y BBC. Nid oes unrhyw opsiwn ariannu yn berffaith, ac maent oll yn golygu cyfaddawdau rhwng amcanion gwahanol sydd, ar brydiau, yn cystadlu (gweler Blwch 17 ar dudalen 100). Bydd dichonoldeb a dymunoldeb unrhyw opsiynau hefyd yn newid dros amser mewn ymateb i newidiadau yn ymddygiad cynulleidfaoedd a’r farchnad, felly bydd angen i unrhyw ystyriaeth o fodelau ariannu edrych yn ddeinamig ar y sefyllfa.

Page 104: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Blwch 17: Meini prawf y model ariannuWrth asesu cryfderau a gwendidau priodol y gwahanol fodelau, mae’n bwysig ystyried pa feini prawf sy’n ddymunol mewn model ariannu.

Efallai byddant yn cynnwys:

- y gallu i dalu/talu’n raddol – gan ystyried incwm uniogolion a’u gallu i dalu

- tegwch – cysylltu taliadau â gwerth y buddion a gaiff talwyr y ffi;

- sicrwydd – rhoi’r sefydlogrwydd i’r BBC i fuddsoddi mewn prosiectau tymor hir megis y Newid i Ddigidol a sicrwydd i drethdalwyr ynghylch eu rhwymedigaethau;

- effeithlonrwydd – y BBC yn sbarduno effeithlonrwydd ariannol.

- symlrwydd a chost gweinyddu isel – sicrhau fod y model ariannu yn syml a thryloyw a lleihau costau gweinyddu i’r eithaf;

- derbynioldeb – barn y cyhoedd am rinweddau cymharol y modelau ariannu;

- cynaliadwyedd – sicrhau ei bod yn ddiogel at y dyfodol gan baratoi ar gyfer newidiadau technolegol a sicrhau y bydd yn berthnasol yn y dyfodol;

- dichonadwy – gweithredu a darparu technegol, cyfreithiol ac ariannol

- maint – cynhyrchu digon o arian i dalu am wasanaethau’r BBC ac unrhyw ymrwymiadau eraill megis World Service a chyflwyno band eang (trafodir hyn yn fanylach isod yn yr adran ar ddefnyddiau gwarchodedig o arian ffi’r drwydded).

Page 105: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae dau opsiwn na ystyrir yn gyffredinol yn briodol i’r BBC, ac nid ydym yn bwriadu eu trafod yn fanwl trwy’r Adolygiad hwn o’r Siarter:

- Ariannu yn llwyr trwy incwm hysbysebu. Ni chaiff hyn ei ystyried yn briodol, oherwydd fel gwelwyd yn y dystiolaeth ar gyfer adolygiad Dyfodol y BBC gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ychydig iawn o awydd sydd yna i symud i fodel hysbysebu. Ni ddymunir model o’r fath oherwydd nid yw’r farchnad yn ddigon mawr i gynnal sefydliad o faint y BBC yn ei gyfanrwydd. Byddai mabwysiadu model o’r fath yn debygol o ddylanwadu’n negyddol ar eraill yn y farchnad, yn cynnwys gallu Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus eraill i ariannu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, a gostyngiad cyffredinol yng ngwerth hysbysebion fesul munud. Efallai byddai cynulleidfaoedd yn cael eu heffeithio’n negyddol gan newid o’r fath hefyd, oherwydd mae darlledu cynnwys heb hysbysebion yn agwedd boblogaidd o’r BBC.

- Ariannu trwy drethi. Ni fyddai hyn yn briodol oherwydd gallai beryglu lleihau annibyniaeth y BBC oddi wrth y Llywodraeth. Gallai hefyd arwain at ragor o ansicrwydd ynghylch cyllid, a byddai’n effeithio ar amcan gyffredinol y Llywodraeth o leihau’r diffyg ariannol.

Yn y tymor hirach, efallai bydd posibilrwydd o symud y BBC tuag at fodel tanysgrifio. Byddai hyn yn arwain at amrywiaeth o fuddion a ddaw yn sgil rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i gynulleidfaoedd dros y gwasanaethau a gânt, a byddai gorfod ysgwyddo pwysau’r farchnad yn cryfhau cymhelliant y BBC i fod yn ymatebol i gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, byddai eraill yn dadlau y byddai hyn yn tanseilio gallu’r BBC i ddarparu amrywiaeth mor helaeth o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Heb ryw elfen o gymhorthdal cyhoeddus, byddai ysgogiadau’r BBC yn fwy masnachol, ac yn sgil hynny, byddem yn disgwyl i’w hallbwn flaenoriaethu elw masnachol yn hytrach na budd cymdeithasol.

Page 106: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Mae cwestiwn hefyd ynghylch dichonoldeb a chost. Wrth i dechnolegau newydd ei gwneud hi’n haws i ddarparwyr cynnwys reoli mynediad at gynnwys a ddarlledir, bydd dichonoldeb model tanysgrifio yn cynyddu. Ond ni fyddai modd gweithredu hyn yn gyflym. Byddai angen i symudiad i danysgrifiad llawn ddigwydd dros nifer o flynyddoedd, a byddai angen cydweithrediad rhwng y Llywodraeth a’r diwydiant i baratoi at hynny, yn enwedig o ran cyflwyno technoleg cyrchu amodol. Rydym felly o’r farn y dylid ystyried hyn fel opsiwn ar gyfer y tymor hirach, a byddem yn croesawu safbwyntiau ynghylch hyn trwy’r Adolygiad o’r Siarter.

Modelau ariannu

Mae tri opsiwn a ystyrir yn gyffredinol fel y rhai mwyaf dichonol i’w cyflwyno yn y tymor byr neu’r tymor canol.

Ystyrir y rhain yn y tabl isod:

- ffi’r drwydded wedi’i ddiwygio - model ariannu cyhoeddus cyffredinol,

tebyg i’r ‘ardoll cyfryngau’ yn yr Almaen; a- chyfuniad o arian cyhoeddus a

thanysgrifiad.

Page 107: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Modelau ariannu ar gyfer y BBC

Opsiwn Cryfderau a gwendidauCadw ond diwygio ffi’r drwydded

Byddai ffi’r drwydded yn cael ei gadw ond yn cael ei ddiwygio i gau’r ‘bwlch’ sy’n gysylltiedig â’r ‘iPlayer’.

- Cadw manteision y drefn bresennol;- Diddymu anghysonder y ‘bwlch’ sy’n

gysylltiedig â’r iPlayer, gan sicrhau fod incwm y BBC yn cael ei warchod o gofio beth yw’r tueddiadau defnydd i’r dyfodol (trafodir hyn mewn adran ar wahân ar dudalen 106).

- Cynnal elfen o ddewis – ar hyn o bryd, dim ond y sawl sy’n defnyddio teledu byw sy’n gorfod prynu trwydded. Byddai’r dewis hwn yn parhau i roi’r dewis i bobl i beidio prynu’r drwydded os na fyddant yn defnyddio teledu byw. Fodd bynnag, efallai byddai rhai o’r unigolion hyn yn defnyddio cynnwys radio neu ar-lein a ariennir gan ffi’r drwydded nad oes angen trwydded i’w ddefnyddio, ac felly, byddent yn cael y gwasanaeth heb gyfrannu at ei gostau.

- Mae’n cynnal ardreth unffurf orfodol sy’n atchweliadol.

- Mae’r Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded (gweler tudalen 106) yn argymell na ddylid newid y drefn orfodi bresennol (tra bydd mecanwaith casglu ffi’r drwydded yn ei le) oherwydd mae’n deg a chymesur ar y cyfan). Fodd bynnag, mae’n casglu fod gorfodi yn parhau yn anodd o gofio’r angen i brofi fod teledu byw yn cael ei ddefnyddio. Mae hefyd yn argymell ystyried newidiadau er mwyn cau ‘bwlch’ yr iPlayer.

Page 108: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Opsiwn Cryfderau a gwendidauArdreth gyffredinol ar gartrefi

Mae ardreth gyffredinol ar gartrefi yn opsiwn sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar, a chafodd ei amlygu gan y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fel y dewis mwyaf addawol yn ei adroddiad ynghylch Dyfodol y BBC.78 Mae’n seiliedig ar y model Almaenaidd lle mae pob cartref yn talu ffi am ddarpariaeth cyfryngau, yn cynnwys teledu, radio, ar-lein a chynnwys ar gais. Gellid sefydlu consesiynau, er enghraifft, i roi’r dewis i’r sawl sy’n byw mewn aelwydydd meddiannaeth unigol i dalu ffi llai.

- Diddymu anghysonder ‘bwlch’ yr iPlayer, oherwydd byddai’r ardreth yn cael ei thalu gan bob cartref (yn amodol ar gonsesiynau ac eithriadau) waeth beth fo’u dull o ddefnyddio cynnwys y BBC.

- Cefnogi’r cysyniad o wasanaeth cyffredinol ac adlewyrchu’n well y gwasanaethau a ariennir, gan gysylltu cyllid cyhoeddus yn uniongyrchol â chynnwys radio, ar-lein a gwasanaethau eraill, yn hytrach na theledu yn unig.

- Gellid ei defnyddio i fynd i’r afael ag elfennau atchweliadol ffi’r drwydded deledu.

- Dan yr opsiwn hwn, bydd pob cartref yn cyfrannu at wasanaethau’r BBC, pa un ai a fyddant yn defnyddio cynnwys y BBC neu beidio. Fodd bynnag, bydd oddeutu 97 y cant o unigolion yn defnyddio cynnwys y BBC.79

- Byddai hyn yn ehangu’r sylfaen o bobl sy’n talu am y BBC ac felly gallai ganiatáu lleihad yn ffi’r drwydded neu ragor o fuddsoddiad mewn cynnwys.

- Gallai fod yn gostus i’w weithredu.

- Casglodd yr Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded y gallai newid y dull o gasglu olygu newid y dull o orfodi, yn cynnwys ailystyried yr achos dros ddad-droseddoli osgoi talu ffi’r drwydded. Nododd hefyd y byddai ardreth gyffredinol hefyd yn datrys llawer o’r pryderon sy’n rhwystro diwygio’r drefn orfodi bresennol ar hyn o bryd.

Page 109: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Dewis Cryfderau a gwendidauCymysgedd o arian cyhoeddus a thanysgrifiadau

Mae sawl opsiwn ar gyfer model sy’n cynnwys cymysgedd o arian cyhoeddus a thanysgrifiadau. Gallai’r elfen arian cyhoeddus gadw ffi’r drwydded ar rhyw lefel neu’i gilydd, neu gyflwyno ardreth fel y disgrifir uchod. Yna, gellid gweithredu’r elfen o danysgrifio yn achos rhai elfennau o bortffolio ehangach y BBC, er enghraifft, trwy ariannu ‘gwasanaeth craidd’ trwy gyfrwng ffi’r drwydded â thanysgrifiad ychwanegol am wasanaethau premiwm, neu trwy wneud yr iPlayer yn wasanaeth trwy danysgrifiad yn unig.

- Darparu gwell dewis ynghylch defnydd i gynulleidfaoedd.

- Efallai na fydd y BBC yn gallu darparu ‘rhywbeth i bawb’ fel mae’n wneud ar hyn o bryd.

- Efallai bydd tanysgrifiad am wasanaethau premiwm yn ddrutach nag o dan y model presennol a gallai greu arbediad bychan yn unig i dalwyr ffi’r drwydded.

- Efallai bydd pecynnau ‘gwasanaeth craidd’ a phecynnau ‘gwasanaeth premiwm’ yn anodd eu pennu, yn sgil safbwyntiau amrywiol iawn ynghylch beth ddylid ei gynnwys yn y pecyn craidd.

- Byddai angen ystyried argaeledd mynediad amrywiol a thechnolegau eraill i alluogi tanysgrifiadau i gael eu casglu oddi wrth bob gwyliwr. Er enghraifft, byddai hyn yn weddol syml i’w weithredu yn achos y gwasanaethau ar-lein gan ddefnyddio technoleg waliau talu presennol. Fodd bynnag, yn achos gwasanaethau teledu, byddai angen cyflwyno seilwaith sylweddol i alluogi tanysgrifiadau. Byddai angen nifer o flynyddoedd i wneud hyn a byddai costau cysylltiedig sylweddol.

- Gall fod yn gostus i’w weithredu.

- Casglodd yr Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded y gallai newid y dull o gasglu olygu newid y dull o orfodi, yn cynnwys ailystyried yr achos dros ddad-droseddoli osgoi talu ffi’r drwydded.

Page 110: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Bwlch yr iPlayer

Un maes y mae’r Llywodraeth wedi ymroddi i’w ddiwygio yw’r hyn a elwir yn ‘fwlch yr iPlayer’. Pa bynnag rai o wasanaethau’r BBC a ddefnyddir (radio, ar-lein, ar gais), ar hyn o bryd, mae angen trwydded deledu i wylio gwasanaethau teledu a ddarlledir yn fyw yn unig ar hyn o bryd.80 Mae hynny’n golygu nad oes angen trwydded ar hyn o bryd i wylio gwasanaethau ar gais neu rai dal i fyny.81 Amcangyfrifir fod oddeutu 0.5 miliwn o bobl, oddeutu 2 y cant, yn gwylio rhaglenni ar gais neu ddal i fyny yn gyfreithlon (ar yr iPlayer a gwasanaethau eraill) ond nid ydynt yn talu ffi’r drwydded.82 Mae’n debygol y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu wrth i ragor o bobl ddewis gwylio ar gais yn unig. Mae rhagolygon Mediatique yn amcangyfrif y bydd cyfran cynnwys ar gais o’r teledu a wylir yn dyblu o’r 12 y cant presennol i bron iawn 25 y cant o’r holl wylio erbyn 2017.83

Mae hyn yn creu pedair problem:

1. Arian – os bydd rhagor o bobl yn gwylio rhaglenni’r BBC ar gais heb drwydded deledu (fel sy’n digwydd ar hyn o bryd), bydd incwm y BBC yn gostwng.

2. Tegwch – mae’r defnydd o fwlch yr iPlayer i osgoi talu’r drwydded deledu yn annheg oherwydd mae talwyr ffi’r drwydded yn talu’r bil am ddarparu cynnwys y mae pobl sy’n gwylio cynnwys ar gais yn unig yn gallu ei fwynhau.

3. Gorfodi – mae’r gallu i atal osgoi talu yn cael ei lesteirio’n gynyddol gan fynychder derbynyddion teledu anhraddodiadol megis cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol oherwydd mae’n haws cuddio’r rhain (neu honni defnydd cyfreithlon ohonynt) oddi wrth swyddogion gorfodi TV Licensing.

4. Eglurder a symlrwydd – gallai mynychder dyfeisiadau ynghyd â bwlch yr iPlayer greu dryswch ymhlith y cyhoedd ynghylch pwy ddylai fod yn talu am drwydded deledu.

Page 111: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae’r Llywodraeth wedi ymroddi i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod y flwyddyn nesaf i foderneiddio ffi’r drwydded er mwyn cwmpasu teledu dal i fyny darlledu gwasanaeth cyhoeddus.84 Bydd angen i’r Adolygiad o’r Siarter ystyried sut i weithredu’r ymroddiad hwn yn y tymor byr, o dan fodel presennol ffi’r drwydded, ac yn y dyfodol, o dan unrhyw fodelau eraill.

Mae sawl dull posibl o weithredu hyn. Bydd angen i’r Adolygiad o’r Siarter hefyd ystyried ymarferoldeb gorfodi newidiadau o’r fath i fodel ffi’r drwydded, a sut bydd y newid hwn yn berthnasol i unrhyw fodelau ariannu amgen. Byddai’r Llywodraeth yn croesawu safbwyntiau ynghylch y mater hwn fel rhan o’r ymgynghoriad.

Page 112: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Model ariannu

Gorfodi’r model ariannu

Cyhoeddwyd yr Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded (‘Adolygiad Perry’) ym mis Medi 2014 i ystyried a yw’r cosbau sydd yn eu lle ar hyn o bryd am osgoi talu am drwyddedau teledu yn briodol ac yn deg, a pha un ai a yw’r gyfundrefn yn cynnig gwerth am arian da i dalwyr ffi’r drwydded a threthdalwyr. Ysgogwyd hyn gan bryderon nad yw elfen droseddol y drefn bresennol yn ymateb cymesur i’r broblem o osgoi talu am drwyddedau teledu. Yna, comisiynwyd adolygiad annibynnol gan David Perry QC.

Casglodd Adolygiad Perry na ddylid gwneud newidiadau sylfaenol i’r drefn gosbi sy’n gysylltiedig â’r system bresennol o gasglu ffi’r drwydded. Canfu’r adolygiad fod y drefn bresennol yn ymateb teg a chymesur ar y cyfan i’r broblem o osgoi talu am drwyddedau teledu (i dalwyr ffi’r drwydded a threthdalwyr).

Fodd bynnag, fe wnaeth Adolygiad Perry wneud sawl argymhelliad i wella’r drefn bresennol, yn cynnwys ystyriaeth ar frys o ‘fwlch yr iPlayer’. Dylid nodi fod Adolygiad Perry wedi canolbwyntio’n benodol ar orfodi o fewn fframwaith casglu presennol ffi’r drwydded. Nodai “pe bai unrhyw newid yn y dull o gasglu...byddai symudiad at ddull arall o orfodi yn dod yn fwy ymarferol a byddai angen ystyried y cwestiwn o ddad-droseddoli unwaith eto.”85

Bydd angen i’r Adolygiad o’r Siarter ystyried argymhellion yr Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded a’u cymhwysedd i’r model ariannu presennol a modelau ariannu amgen.

Cwestiwn 11

Sut ddylem ni dalu am y BBC a sut ddylid moderneiddio ffi’r drwydded?

Page 113: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 18: Ffeithiau allweddol ynghylch gorfodi ffi’r drwydded deleduMae Ymddiriedolaeth y BBC yn gyfrifol oruchwylio’r trefniadau o gasglu ffi’r drwydded sydd wedi’u sefydlu gan Fwrdd Gweithredol y BBC, a sicrhau eu bod yn “effeithlon, priodol a chymesur”. Amlinellwyd y cyfrifoldeb hwn am y tro cyntaf yn Siarter Frenhinol 2006. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn darparu adolygiad o drefniadau casglu ffi’r drwydded bob blwyddyn fel rhan o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC.

Nifer y bobl â gafwyd yn euog o drosedd trwyddedu teledu yn 2013-14.86

153,369

Cyfran achosion trwyddedu teledu o amser Llysoedd Ynadon87

0.3%

Nifer y bobl a garcharwyd am beidio talu dirwyon cysylltiedig â throsedd trwyddedu teledu yn 2013-14.88

32

Nifer y cartrefi sydd â thrwydded.89

25.4m

Page 114: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Defnydd gwarchodedig o gyllid ffi’r drwydded

Blwch 19: Beth mae’r ffi’r drwydded yn ei ariannu

Defnyddir ffi’r drwydded i ariannu’r ystod lawn o wasanaethau’r BBC

57 gorsaf radio 9 sianel deledu BBC Online

iPlayer a Red Button BBC World Service

Yn ychwanegol, mae ffi’r drwydded yn ariannu nifer o wasanaethau a phrosiectau eraill yn cynnwys:

S4C (y Darlledwr Gwasanaeth Teledu Lleol Cyflwyno seilwaith band eangCyhoeddus Gymraeg)

Page 115: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae dau fater allweddol wrth drafod beth mae ffi’r drwydded yn ei ariannu. Yn gyntaf, pa feysydd gweithgarwch y dylai eu hariannu, ac yn ail, pa un ai a ddylai lefel eu cyllid gael ei warchod. Bydd angen ystyried y ddau yn setliad ariannol y BBC.

Mae’r BBC eisoes wedi cytuno i’r defnydd o ffi’r drwydded y tu hwnt i ddarparu ei gwasanaethau a’i sianelau yn uniongyrchol. Fe wnaeth setliad ffi’r drwydded yn 2010 gytuno i ystod eang o weithgareddau y byddai ffi’r drwydded yn eu hariannu, yn cynnwys: World Service, S4C (y Darlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus Cymraeg), cyflwyno seilwaith a chynnwys teledu lleol,90 a chyflwyno band eang cyflym iawn trwy Broadband Delivery UK.91 Yn fwyaf diweddar, fe wnaeth y BBC gytuno i ariannu costau trwyddedau teledu am ddim i bobl sydd dros 75 mlwydd oed yng Nghyllideb Haf 2015. Bydd y BBC hefyd yn cymryd cyfrifoldeb ynghylch sut ddylid pennu’r consesiwn hwn yn ystod y senedd nesaf. Trwy gydol cyfnod

yr Adolygiad o’r Siarter, bydd angen i ni ystyried y camau ymarferol sydd eu hangen er mwyn trosglwyddo’r cyfrifoldeb hwn, yn cynnwys trefniadau llywodraethu priodol.

Mae’r rhain, a defnydd blaenorol o ffi’r drwydded, wedi, er enghraifft, cefnogi cyflwyno seilwaith digidol, derbyn technolegau newydd megis y newid i ddigidol, ac amcanion polisi cyhoeddus megis helpu rhagor o bobl i ‘fynd ar-lein’ a darpariaeth newyddion a chynnwys rhanbarthol. Mae’r Llywodraeth wedi ymroddi i barhau i ariannu’r mentrau a wnaiff alluogi diwydiant y cyfryngau i dyfu ac arloesi, ac mae’n credu ei fod yn briodol i ffi’r drwydded (neu fodel ariannu amgen) ariannu ymrwymiadau o’r fath.92 Trwy’r Adolygiad o’r Siarter, rydym yn dymuno trafod sut gallai dibenion cyhoeddus y BBC gael eu cefnogi fel hyn (er enghraifft, trwy gefnogi’r newid i radio digidol neu newyddion a chynnwys rhanbarthol).

Page 116: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Defnydd gwarchodedig o gyllidau ffi’r drwydded

Yn setliadau blaenorol ffi’r drwydded, mae’r Llywodraeth hefyd wedi gofyn i’r BBC ymrwymo i ariannu rhai pethau ar lefel benodol (swm wedi’i glustnodi) i sicrhau fod y cyllid ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn dal i gael ei warchod. Yn fwyaf diweddar, mae hyn wedi cynnwys cyllid ar gyfer S4C, teledu lleol a’r World Service (gweler Blwch 19 ar dudalen 110 a Blwch 20 ar y dde). Er bod hyblygrwydd yn fantais wrth reoli cyllidebau, mewn rhai achosion, mae rheswm penodol dros sicrhau isafswm cyllid i sicrhau fod gwasanaethau penodol yn cael eu gwarchod. Yn y setliad ariannu nesaf, bydd angen i’r Llywodraeth ystyried pa wasanaethau a ddylid eu gwarchod ac rydym yn croesawu safbwyntiau ynghylch y mater hwn fel rhan o’r ymgynghoriad.

Blwch 20: World Service

Mae’r World Service yn parhau i gael ei werthfawrogi ledled y byd am ei newyddion cywir, diduedd ac annibynnol, ond mae wedi wynebu heriau yn ystod cyfnod y Siarter bresennol. O ganlyniad i lai o arian a’r angen i ymateb i anghenion newidiol cynulleidfaoedd, caeodd 15 o wasanaethau trwy gyfrwng ieithoedd penodol, daeth rhaglenni radio trwy gyfrwng nifer o ieithoedd i ben, a bu lleihad yn nosbarthiad gwasanaethau tonfedd fer a thonfedd ganolig. Ar waethaf hyn, mae’r World Service wedi parhau i ffynnu. Mae wedi lansio gwasanaethau teledu Arabeg a Pherseg, ac mae bellach yn darparu teledu, radio a chynnwys ar-lein trwy 29 o wasanaethau trwy gyfrwng ieithoedd gwahanol ac mae ei gynulleidfa wedi parhau i gynyddu, ac mae bellach yn 210 miliwn o bobl.93

Page 117: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ond mae’r cyd-destun y mae’r World Service yn gweithredu ynddo yn newid. Mae cystadleuaeth gynyddol gan ddarparwyr rhyngwladol eraill megis darlledwyr gwladol Rwsia a Tsieina, ac mae ymchwil newydd yn awgrymu fod newyddion digidol yn cael ei ddominyddu gan ychydig o enwau llwyddiannus ac mae’r gweddill yn ei chael hi’n anodd cyrraedd cynulleidfa ehangach.94 Rydym yn dymuno ystyried sut gall y rhan bwysig hon o wasanaeth y BBC barhau i gystadlu â darparwyr rhyngwladol eraill a pharhau yn berthnasol mewn amgylchedd byd-eang sy’n newid.

Trosglwyddwyd y cyllid ar gyfer y World Service i ffi’r drwydded yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf, a dewisodd y BBC gynyddu ei gwariant ar drwyddedau gweithredu i £254 miliwn yn ystod 2014-15.95 Nid yw lefelau cyllid 2015-16 wedi’u cadarnhau eto. Bydd sicrhau fod y World Service yn parhau i gael yr arian y mae arno ei angen yn hanfodol er mwyn caniatáu iddo barhau i gynnig gwerth am arian ar gyfer y Deyrnas Unedig.

Page 118: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Defnydd gwarchodedig o gyllidau ffi’r drwydded

Cyllid y cystadlir amdano

Ar hyn o bryd, caiff y rhan fwyaf o incwm ffi’r drwydded ei wario ar wasanaethau’r BBC.

Mewn byd lle ceir darpariaeth gynyddol a gwasanaethau cyfryngol amrywiol, ac o gofio fod darlledwyr eraill yn darparu cynnwys sydd â nodweddion gwasanaeth cyhoeddus (er enghraifft, newyddion sy’n tarddu o’r Deyrnas Unedig, drama, rhaglenni dogfen, celfyddydau, a rhaglenni plant), dylai’r Adolygiad hwn o’r Siarter ystyried a oes achos dros ganiatáu i ddarparwyr eraill allu defnyddio elfen o’r cyllid hwn. Er enghraifft, mae rhaglenni plant yn faes y mae gan y BBC fonopoli ynddo bron iawn, fel yr amlygwyd yn Adolygiad diweddar Ofcom o’r PSBs, a gallai cyfanswm bychan o gyllid y cystadlir amdano gyflwyno mwy o amrywiaeth o ddarparwyr a mwy o luosogrwydd o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus. Cafodd yr egwyddor o gyllid y cystadlir amdano ei argymell yn flaenorol gan Banel Burns, oedd yn cynghori y tro diwethaf yr adolygwyd y Siarter.

Gallai’r BBC barhau i allu cystadlu am yr arian, neu gallai fod ar gyfer darparwyr eraill yn unig, yn cynnwys trwy drefniant arian cyfatebol. Yn achos y naill neu’r llall, byddai angen dewis sefydliad arall i oruchwylio’r gwaith o weinyddu a llywodraethu cronfa ariannol o’r fath. Gallai’r corff hwnnw fod yn gorff rheoleiddio’r BBC neu sefydliad arall.

Page 119: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cyllid y cystadlir amdanoManteision Anfanteision

- cyflwyno elfen o gystadleuaeth, gan annog y BBC a PSBs eraill i fod yn fwy effeithlon;

- gallai wella lluosogrwydd darpariaeth genres allweddol; a

- gallai helpu i gynnal ecosystem ehangach darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

- creu elfen o ansicrwydd yng nghyllid y BBC, a allai wanhau ei sefydlogrwydd;

- gall fod yn gostus ac yn gymhleth i’w weinyddu; a

- gallai’r mesurau atebolrwydd ychwanegol sy’n gysylltiedig ag arian cyhoeddus leihau’r galw gan ddarlledwyr eraill.

Cwestiwn 12

A ddylai lefel y cyllid ar gyfer rhai gwasanaethau neu raglenni penodol gael ei warchod? A ddylai rhywfaint o gyllid fod ar gael i ddarparwyr eraill er mwyn darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus?

Page 120: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerth am arian ac effeithlonrwyddMae’r BBC yn atebol i’r dalwyr ffi’r drwydded am ddarparu gwerth am arian yn lle’r cyllid a gaiff.96 Dros gyfnod y Siarter, bu trafodaeth gyhoeddus sylweddol ynghylch record effeithlonrwydd a gwerth am arian y BBC.

Yn dilyn setliad ariannu 2010, mae’r BBC, fel llawer o gyrff cyhoeddus eraill, wedi gorfod gwneud arbedion sylweddol. Fe wnaeth y setliad arwain at y BBC yn ymgymryd â nifer o gyfrifoldebau newydd ac fe wnaeth ffi’r drwydded barhau yn £145.50 tan 2016-17. Fe wnaeth y ffactorau hyn, yng nghyd-destun refeniwiau cynyddol o nifer fwy o gartrefi a gwasanaethau masnachol, olygu fod rhaid i’r BBC gyflawni targed arbedion effeithlonrwydd o 16 y cant dros bedair blynedd. Fe wnaeth y BBC ymateb i’r setliad ariannu trwy sefydlu menter effeithlonrwydd sylweddol (Delivering Quality First), gan osod targed o arbedion cylchol blynyddol gwerth £700 miliwn erbyn diwedd 2016-17 mewn cymhariaeth â llinell sylfaen 2011-12.

Blwch 21: Prif arbedion effeithlonrwydd gan y BBC

Mae’r prif arbedion a wnaed gan y BBC yn ystod blynyddoedd diweddar yn deillio o ostyngiadau ym meysydd biliau cyflogau, caffael, ystadau, TG a chynnwys. Er enghraifft, fe wnaeth y Gorfforaeth sicrhau gostyngiad o 17 y cant mewn termau real mewn costau staffio rhwng 2011-12 a 2013-14, a bu gostyngiad o 14 y cant yn nifer yr uwch reolwyr ers 2011, o 477 i 410; serch hynny, yn ystod dwy flynedd gyntaf Delivering Quality First, cafwyd gostyngiad bychan iawn yn nifer y staff (1 y cant).97

Mae enghraifft o sut mae’r arbedion hyn wedi digwydd yn yr isadran teledu, isadran sydd ag arbedion ariannol eithaf mawr wedi’u cynllunio o dan Delivering Quality First, wedi’i amlinellu gyferbyn.98

Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos fod y gyfran uchaf o arbedion yn ystod 2013-14 wedi’u sicrhau trwy arbedion cwmpas, lle mae’r BBC yn gwneud llai, a dilynir hynny gan newidiadau i reolaeth contractau a chostau cynhyrchu.

Page 121: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Arbedion yn yr isadran teledu 2013-14

£78m

Arbedion cwmpas – gwneud llai£2m

Gorbenion nad ydynt yn gysylltiedig â staffio

£29m

Ail-drafod contractau rhaglenni a lleihau costau cynhyrchu

£3m

Incwm masnachol

£14m

Arbedion cynnar ac unigryw£3m

Rheoli contractau

£4m

Staff a gorbenion sy’n gysylltiedig â staff

Ffynhonnell: Reducing costs Through Delivering Quality First, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2014

Page 122: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerth am arian ac effeithlonrwyddWrth asesu Delivering Quality First, gwelodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod y BBC wedi canfod amrywiaeth o ddulliau o gyflawni ei thargedau effeithlonrwydd (gweler Blwch 21 ar dudalen 116/117). Er bod cynnydd wedi digwydd, mae record y BBC dros gyfnod y Siarter hefyd yn amlygu nifer o enghreifftiau lle na chafodd arian talwyr ffi’r drwydded ei ddefnyddio yn dda, neu lle codwyd cwestiynau ynghylch gwerth am arian. Er enghraifft:

- Gwariwyd £100 miliwn o incwm ffi’r drwydded gan y BBC ar ei Menter Cyfryngau Digidol, oedd yn ceisio darparu technoleg i alluogi i staff y BBC ddatblygu, creu a rhannu darllediadau fideo a chynnwys arall o gyfrifiaduron bwrdd gwaith. Methodd y fenter, ac ni wnaeth ddarparu unrhyw asedau diriaethol, a dywedodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, er enghraifft, ‘nad oedd y bwrdd gweithredol wedi craffu’n ddigonol..’.99

- Mae cwestiynau wedi’u codi ynghylch y modd mae’r BBC wedi moderneiddio rhannau o’i hystâd. Er enghraifft, yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, mae gan ailwampiad gwerth £1 biliwn100 cyfadeilad Broadcasting House yn Llundain gostau rhedeg meincnodedig llawer uwch nag adeiladau tebyg.101

- Er bod y BBC wedi cyfyngu ar dâl diswyddo’r holl staff i £150,000 yn ddiweddar, ni ddigwyddodd hyn nes i’r senedd roi pwysau sylweddol ar y BBC ynghylch maint a graddfa taliadau diswyddo’r BBC dros gyfnod y Siarter; roedd rhai ohonynt yn fwy na beth oedd yn ofynnol i’r BBC ei dalu.102

- Ar sawl cyfrif, mae tâl uwch reolwyr y BBC yn cymharu’n ffafriol â darlledwyr eraill. Er enghraifft, cafodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC becyn gwerth cyfanswm o £466,000103 yn 2014-15, o’i gymharu â Phrif Weithredwr

Page 123: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

ITV a gafodd becyn gwerth cyfanswm o £4.4 miliwn yn 2014.104 Ond mae adroddiad blynyddol y BBC yn dangos fod o leiaf 74 aelod staff yn cael cyflog uwch na’r Prif Weinidog,105 ac yn wahanol i sawl rhan arall o’r sector cyhoeddus, nid yw’r cyfanswm a gyflogir wedi gostwng yn sylweddol.106

- Wrth ystyried y cynigion ynghylch BBC Three a BBC One+1 yn ddiweddar, roedd rhaid i Ymddiriedolaeth y BBC gydbwyso pryderon ynghylch gwerth am arian ag effeithiau posibl ar y farchnad. Gellid dadlau, fodd bynnag, lle mae capasiti ychwanegol ar gyfer sianeli ar gael neu heb ei ddefnyddio, gallai dulliau eraill fod ar gael o sicrhau gwerth am arian i dalwyr ffi’r drwydded (gweler Blwch 22 isod).

Blwch 22: Cynigion ynghylch BBC Three a BBC One +1 – gwell gwerth am arian?Yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi ystyried cynigion gan y Gweithgor i wneud BBC Three yn wasanaeth ar-lein yn unig, i sicrhau arbedion y gellir eu gwario ar gynnwys drama, a lansio gwasanaeth ‘BBC One +1’.107

Er bod yr Ymddiriedolaeth wedi derbyn y cynnig ynghylch BBC 3, yn amodol ar ragor o ymgynghori ac amodau penodol, penderfynwyd peidio derbyn gwasanaeth BBC One+1, o gofio’r effeithiau posibl ar y farchnad ehangach.

Erys cwestiynau, fodd bynnag, ynghylch a allai’r capasiti amlbleth108 roedd y BBC wedi bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth BBC One+1 newydd sicrhau rhagor o fuddion, neu trwy fod ar gael i’w ddefnyddio gan ddarlledwyr masnachol.

Page 124: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerth am arian ac effeithlonrwyddEr bod ffi’r drwydded yn rhatach na’r rhan fwyaf o becynnau teledu y telir amdanynt (mae’n costio £12 y mis o’i gymharu â chystadleuwyr masnachol sydd ar gyfartaledd yn costio lleiafswm o £20 y mis), mae’r safbwyntiau ynghylch gwerth am arian ffi’r drwydded yn dal yn gymysg. Dengys y ffigyrau diweddaraf gan y BBC fod 57y cant o atebwyr wedi dweud fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian, ac nid yw’r sgôr hwn wedi newid rhyw lawer dros gyfnod y Siarter.109 Mae’r gyfradd yn cynyddu yn unol â nifer y gwasanaethau a ddefnyddir: dywedodd 66 y cant o’r sawl sy’n defnyddio pob un o dri chyfrwng y BBC (teledu, radio, ar-lein), fod y BBC yn cynnig gwerth am arian da.110

Dengys ffigyrau diweddaraf y BBC fod57% o atebwyr wedi dweud fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian da.

Mae gwahaniaethau sylweddol ar draws y rhanbarthau o ran safbwyntiau ynghylch gwerth am arian y BBC. Yn yr un arolwg yn 2014, cytunai 60 y cant o’r atebwyr o Gymru fod y BBC yn cynnig gwerth am arian da iddynt, yna 58 y cant yn Lloegr, 50 y cant yn yr Alban a 47 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan grwpiau ethnig gwahanol safbwyntiau gwahanol iawn hefyd: cytunai 58 y cant o gynulleidfaoedd gwyn fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian da, o’i gymharu â dim ond 47 y cant o blith cynulleidfaoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.111

Page 125: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Canfyddiad o werth am arian y BBC ar draws y rhanbarthau

Cytunai

47% 50%yng Ngogledd yn yr Alban Iwerddon

60% 58%yng Nghymru yn Lloegr

fod y BBC yn cynnig gwerth da am arian iddynt.

Mae gan grwpiau ethnig gwahanol safbwyntiau gwahanol iawn hefyd:

Mae

58% o blith cynulleidfaoedd gwyn

47% o blith cynulleidfaoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

yn cytuno fod y BBC yn cynnig gwerth da am arian iddynt.

Cwestiwn 13

A yw’r BBC wedi bod yn gwneud digon i sicrhau gwerth am arian? Sut allai fynd ymhellach?

Page 126: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gweithgareddau masnachol y BBC

Bydd y BBC yn gwneud ac yn comisiynu cynnwys sy’n boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig a ledled a byd. Mae’r Siarter bresennol yn caniatáu i’r BBC wneud amrywiaeth o weithgareddau masnachol er mwyn ennill arian y gellir ei ail-fuddsoddi yn ei rhaglenni.

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar hyn; dylai unrhyw weithgarwch masnachol gyd-fynd â’r dibenion cyhoeddus, bod yn effeithlon yn fasnachol, peidio peryglu enw da'r BBC a dilyn rheolau masnachu teg.

Mae gweithgareddau masnachol y BBC wedi’u canolbwyntio ar is-gwmni mwyaf y BBC, BBC Worldwide. BBC Worldwide yw dosbarthwr teledu mwyaf y byd y tu allan i stiwdios mawr yr Unol Daleithiau,112 a bydd yn marchnata cynnwys y BBC yn y Deyrnas Unedig ac yng ngweddill y byd. Bydd yn cynhyrchu oddeutu £1 biliwn y flwyddyn. Bydd y BBC hefyd yn ennill £90 miliwn o werthiant trwy Global News, sy’n

rhedeg BBC.com ledled y byd, a £30 miliwn trwy BBC Studios a Post Production, sy’n rhentu gofod cynhyrchu’r BBC. Yn y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth Worldwide ddychwelyd £227 miliwn i’r gorfforaeth.113 Ynghyd â chefnogi cynnwys a gynhyrchir yn fewnol, mae Worldwide trwy hynny yn cefnogi cynhyrchwyr annibynnol sy’n cynhyrchu cynnwys a gomisiynir gan y BBC, a thrwy gyfrwng BBC Worldwide, gallant elwa ar faint a chyrhaeddiad marchnata byd-eang y BBC.

Wrth bennu’r ffordd orau o sicrhau gwerth i’r Gorfforaeth, mae BBC Worldwide wedi profi amrywiaeth o strategaethau. Mae elw BBC Worldwide wedi tyfu ers cychwyn cyfnod y Siarter, a chafwyd llwyddiannau rhyngwladol sylweddol megis Sherlock, Doctor Who, Strictly Come Dancing, a Dancing with the Stars. Fodd bynnag, ni fu’r holl benderfyniadau yn llwyddiannus, er enghraifft, fe wnaeth Worldwide gaffael Lonely Planet, cyhoeddwr arweinlyfrau teithio, ac yna, fe wnaeth ei werthu gan wneud colled sylweddol. Mae Worldwide

Page 127: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

bellach wedi cyfyngu ar ei bortffolio o weithgareddau, ac mae’n canolbwyntio ar farchnata cynnwys y BBC.

Mater cyson sy’n effeithio ar strategaeth fyd-eang BBC Worldwide yw ei allu i gael cyllid: mae’n rhaid iddo ddilyn rheolau gwariant cyrff cyhoeddus, felly mae’r arian y gall ei fenthyca wedi’i gyfyngu i £350 miliwn, a phennwyd hynny gan y Llywodraeth. Yn ôl rhai, mae hyn yn rhwystro gallu BBC Worldwide i ddatblygu marchnadoedd tramor mawr megis yr Unol Daleithiau.

Wrth i gynulleidfaoedd byd-eang barhau i ehangu, mae’r cyfleoedd i sbarduno twf mewn refeniw hefyd yn ehangu. Yn amlwg, mae gwneud y gorau o raglenni presennol y BBC yn beth da, a gall helpu’r BBC i barhau i fuddsoddi mewn cynnwys o ansawdd uchel. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau eraill i’w hystyried. Mae’n bwysig i dalwyr ffi’r drwydded yn y Deyrnas Unedig nad yw allbwn y BBC yn cael ei lywio gan yr ystyriaeth o’i werth manwerthu mewn marchnadoedd rhyngwladol. Yn yr un modd, rhaid ystyried yn ddifrifol beth yw effaith gwerthu eiddo deallusol y BBC ar

Ddarlledwyr a chynhyrchwyr eraill y Deyrnas Unedig, sydd hefyd efallai yn ceisio marchnata cynnwys o Brydain i gynulleidfa ryngwladol. Yn y cyd-destun hwn, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried yr amrediad llawn o opsiynau ar gyfer diwygio gweithgareddau masnachol y BBC, yn cynnwys preifateiddio Worldwide yn rhannol neu yn llawn.

Cwestiwn 14

Sut ddylai gweithgareddau masnachol y BBC, yn cynnwys BBC Worldwide, gael eu diwygio?

Page 128: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gwerth am arian ac effeithlonrwyddEr bod ffi’r drwydded yn rhatach na’r rhan fwyaf o becynnau teledu y telir amdanynt (mae’n costio £12 y mis o’i gymharu â chystadleuwyr masnachol sydd ar gyfartaledd yn costio lleiafswm o £20 y mis), mae’r safbwyntiau ynghylch gwerth am arian ffi’r drwydded yn dal yn gymysg. Dengys y ffigyrau diweddaraf gan y BBC fod 57y cant o atebwyr wedi dweud fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian, ac nid yw’r sgôr hwn wedi newid rhyw lawer dros gyfnod y Siarter.109 Mae’r gyfradd yn cynyddu yn unol â nifer y gwasanaethau a ddefnyddir: dywedodd 66 y cant o’r sawl sy’n defnyddio pob un o dri chyfrwng y BBC (teledu, radio, ar-lein), fod y BBC yn cynnig gwerth am arian da.110

Dengys ffigyrau diweddaraf y BBC fod57% o atebwyr wedi dweud fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian da.

Mae gwahaniaethau sylweddol ar draws y rhanbarthau o ran safbwyntiau ynghylch gwerth am arian y BBC. Yn yr un arolwg yn 2014, cytunai 60 y cant o’r atebwyr o Gymru fod y BBC yn cynnig gwerth am arian da iddynt, yna 58 y cant yn Lloegr, 50 y cant yn yr Alban a 47 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Mae gan grwpiau ethnig gwahanol safbwyntiau gwahanol iawn hefyd: cytunai 58 y cant o gynulleidfaoedd gwyn fod ffi’r drwydded yn cynnig gwerth am arian da, o’i gymharu â dim ond 47 y cant o blith cynulleidfaoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.111

Page 129: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Canfyddiad o werth am arian y BBC ar draws y rhanbarthau

Cytunai

47% 50%yng Ngogledd yn yr Alban Iwerddon

60% 58%yng Nghymru yn Lloegr

fod y BBC yn cynnig gwerth da am arian iddynt.

Mae gan grwpiau ethnig gwahanol safbwyntiau gwahanol iawn hefyd:

Mae

58% o blith cynulleidfaoedd gwyn

47% o blith cynulleidfaoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

yn cytuno fod y BBC yn cynnig gwerth da am arian iddynt.

Cwestiwn 13

A yw’r BBC wedi bod yn gwneud digon i sicrhau gwerth am arian? Sut allai fynd ymhellach?

Page 130: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gweithgareddau masnachol y BBC

Bydd y BBC yn gwneud ac yn comisiynu cynnwys sy’n boblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd yn y Deyrnas Unedig a ledled a byd. Mae’r Siarter bresennol yn caniatáu i’r BBC wneud amrywiaeth o weithgareddau masnachol er mwyn ennill arian y gellir ei ail-fuddsoddi yn ei rhaglenni.

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar hyn; dylai unrhyw weithgarwch masnachol gyd-fynd â’r dibenion cyhoeddus, bod yn effeithlon yn fasnachol, peidio peryglu enw da'r BBC a dilyn rheolau masnachu teg.

Mae gweithgareddau masnachol y BBC wedi’u canolbwyntio ar is-gwmni mwyaf y BBC, BBC Worldwide. BBC Worldwide yw dosbarthwr teledu mwyaf y byd y tu allan i stiwdios mawr yr Unol Daleithiau,112 a bydd yn marchnata cynnwys y BBC yn y Deyrnas Unedig ac yng ngweddill y byd. Bydd yn cynhyrchu oddeutu £1 biliwn y flwyddyn. Bydd y BBC hefyd yn ennill £90 miliwn o werthiant trwy Global News, sy’n

rhedeg BBC.com ledled y byd, a £30 miliwn trwy BBC Studios a Post Production, sy’n rhentu gofod cynhyrchu’r BBC. Yn y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth Worldwide ddychwelyd £227 miliwn i’r gorfforaeth.113 Ynghyd â chefnogi cynnwys a gynhyrchir yn fewnol, mae Worldwide trwy hynny yn cefnogi cynhyrchwyr annibynnol sy’n cynhyrchu cynnwys a gomisiynir gan y BBC, a thrwy gyfrwng BBC Worldwide, gallant elwa ar faint a chyrhaeddiad marchnata byd-eang y BBC.

Wrth bennu’r ffordd orau o sicrhau gwerth i’r Gorfforaeth, mae BBC Worldwide wedi profi amrywiaeth o strategaethau. Mae elw BBC Worldwide wedi tyfu ers cychwyn cyfnod y Siarter, a chafwyd llwyddiannau rhyngwladol sylweddol megis Sherlock, Doctor Who, Strictly Come Dancing, a Dancing with the Stars. Fodd bynnag, ni fu’r holl benderfyniadau yn llwyddiannus, er enghraifft, fe wnaeth Worldwide gaffael Lonely Planet, cyhoeddwr arweinlyfrau teithio, ac yna, fe wnaeth ei werthu gan wneud colled sylweddol. Mae Worldwide

Page 131: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

bellach wedi cyfyngu ar ei bortffolio o weithgareddau, ac mae’n canolbwyntio ar farchnata cynnwys y BBC.

Mater cyson sy’n effeithio ar strategaeth fyd-eang BBC Worldwide yw ei allu i gael cyllid: mae’n rhaid iddo ddilyn rheolau gwariant cyrff cyhoeddus, felly mae’r arian y gall ei fenthyca wedi’i gyfyngu i £350 miliwn, a phennwyd hynny gan y Llywodraeth. Yn ôl rhai, mae hyn yn rhwystro gallu BBC Worldwide i ddatblygu marchnadoedd tramor mawr megis yr Unol Daleithiau.

Wrth i gynulleidfaoedd byd-eang barhau i ehangu, mae’r cyfleoedd i sbarduno twf mewn refeniw hefyd yn ehangu. Yn amlwg, mae gwneud y gorau o raglenni presennol y BBC yn beth da, a gall helpu’r BBC i barhau i fuddsoddi mewn cynnwys o ansawdd uchel. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau eraill i’w hystyried. Mae’n bwysig i dalwyr ffi’r drwydded yn y Deyrnas Unedig nad yw allbwn y BBC yn cael ei lywio gan yr ystyriaeth o’i werth manwerthu mewn marchnadoedd rhyngwladol. Yn yr un modd, rhaid ystyried yn ddifrifol beth yw effaith gwerthu eiddo deallusol y BBC ar

Ddarlledwyr a chynhyrchwyr eraill y Deyrnas Unedig, sydd hefyd efallai yn ceisio marchnata cynnwys o Brydain i gynulleidfa ryngwladol. Yn y cyd-destun hwn, bydd yr Adolygiad o’r Siarter yn ystyried yr amrediad llawn o opsiynau ar gyfer diwygio gweithgareddau masnachol y BBC, yn cynnwys preifateiddio Worldwide yn rhannol neu yn llawn.

Cwestiwn 14

Sut ddylai gweithgareddau masnachol y BBC, yn cynnwys BBC Worldwide, gael eu diwygio?

Page 132: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

4. Llywodraethu a rheoleiddio’r BBC

Page 133: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 134: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Llywodraethu a rheoleiddio’r BBC

Mae llywodraethu a rheoleiddio da yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y BBC. Dyna sy’n sicrhau fod y BBC yn gwneud beth ddylai wneud. Mae’n golygu datblygu’r fframweithiau priodol o ran atebolrwydd, cymhellion, rhwystrau a gwrthbwysau sy’n angenrheidiol i sicrhau fod y BBC yn darparu ar gyfer talwyr ffi’r drwydded, yn ystyried ei heffaith ar y farchnad, yn gwario ei harian yn ddoeth ac yn cael ei galw i gyfrif wrth wneud hynny.

“Mae llywodraethu a rheoleiddio da yn rhag-amod, ond nid ydynt yn gwarantu llwyddiant y BBC i’r dyfodol

Mae sicrhau fod y fframwaith hwn yn briodol yn hollbwysig - ond nid yw’n ddigon ar ei ben ei hun. Mae ar y BBC hefyd angen y bobl, yr ymddygiad a’r diwylliant cyfundrefnol priodol i ffynnu. Mae llywodraethu a rheoleiddio da yn rhag-amod, ond nid ydynt yn gwarantu llwyddiant y BBC i’r dyfodol.

Mae’r adran hon felly yn ystyried:

- Y model presennol; ac- Opsiynau ar gyfer diwygio.

Mae hefyd yn ystyried amrywiaeth o faterion llywodraethu ehangach:

- Trwyddedau Gwasanaethau a Phrofion Gwerth Cyhoeddus;

- Atebolrwydd cyhoeddus a democrataidd; a’r

- Siarter Frenhinol

Page 135: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Blwch 23: Sut sefydlwyd y model YmddiriedolaethTan 2007, roedd gan y BBC Fwrdd o Lywodraethwyr oedd yn gyfrifol am weithredu fel ymddiriedolwyr y budd cyhoeddus trwy oruchwylio unrhyw gwynion, cymeradwyo cyfeiriad strategol y BBC, penodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr a sicrhau fod rheolwyr y BBC yn gweithredu ei strategaeth. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gymeradwyo gwasanaethau newydd.

Bu rhywfaint o feirniadaeth o’r model hwn, yn enwedig y ffaith fod disgwyl i’r Bwrdd Llywodraethwyr roi anogaeth i’r BBC a bod yn feirniadol ohoni, felly fe wnaeth y model arwain at ddiffyg eglurder rhwng y swyddogaethau llywodraethu a rheoleiddio, ac yn y pen draw, roedd yn anghynaladwy. Arweiniodd hyn at ganfyddiad nad oedd y BBC wedi cael ei rhedeg er budd talwyr ffi’r drwydded, ac nad oedd gan y trefniadau ddigon o dryloywder ac atebolrwydd.

Yn 2005, fe wnaeth panel annibynnol wedi’i gadeirio gan yr Arglwydd Burns, a benodwyd gan y Llywodraeth, argymell y dylid sefydlu Comisiwn Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (PSBC) yn lle’r Bwrdd Llywodraethwyr.

Argymhellwyd y dylai’r PSBC gynghori Gweinidogion ynghylch lefel ffi’r drwydded, yn ogystal â chymryd y cyfrifoldebau rheoleiddio oedd gan y Llywodraethwyr, a gweithredu elfen y cystadlir amdano o ffi’r drwydded. Fe wnaeth y panel hefyd argymell creu bwrdd unedol. Yna, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol bryd hynny wrthod yr argymhelliad, a chyflwynodd y model Ymddiriedolaeth yn lle hynny.

Page 136: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y model presennol

Mae’r BBC yn sefydliad unigryw, ac fe wnaeth y Siarter diwethaf greu model llywodraethu a rheoleiddio oedd â’r nod o geisio mynd i’r afael â diffygion y model blaenorol o Fwrdd Llywodraethwyr (gweler Blwch 23 ar dudalen 131) gan barchu annibyniaeth y BBC ar yr un pryd. Canlyniad hyn oedd sefydlu’r model Ymddiriedolaeth. Cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd eraill hefyd, megis Profion Gwerth Cyhoeddus a Thrwyddedau Gwasanaethau, a gwelliannau mewn meysydd megis tryloywder a chwynion, a drafodir mewn adrannau diweddarach.

Mae tri grŵp allweddol yn cyfrannu at system llywodraethu a rheoleiddio presennol y BBC: Ymddiriedolaeth y BBC, Bwrdd Gweithredol y BBC ac Ofcom.

Ymddiriedolaeth y BBC, a ddisgrifir uchod, yw corff sofran y BBC. Y cadeirydd presennol yw Rona Fairhead, ac fel Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, gellir ei galw hefyd yn Gadeirydd y BBC. Prif nodau’r Ymddiriedolaeth yw gweithredu fel stiwardiaid ffi’r drwydded, gwarchod y budd cyhoeddus a hybu’r dibenion cyhoeddus. Wrth wneud hyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y BBC, cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel a chyllidebau gwasanaethau, a dal y Bwrdd Gweithredol i gyfrif

Page 137: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

wrth gyflawni hyn. Mae hyn y golygu ei bod yn pennu beth ddylai bob gwasanaeth wneud, penderfynu sut ddylent gael eu hasesu, monitro cydymffurfiaeth a chymeradwyo unrhyw newidiadau. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn annibynnol ar y Bwrdd Gweithredol, ac mae ganddi ei chyllideb a’i staff ei hun - yr hyn sy’n cyfateb i 61.8 aelod staff amser llawn a gwariant o £10 miliwn yn 2014-15.

Page 138: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y model presennolMae’r Bwrdd Gweithredol yn cynnwys cymysgedd o aelodau Gweithredol ac Anweithredol, ynghyd â’r Cadeirydd, a all fod yn aelod anweithredol neu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Ers creu’r model llywodraethu presennol, Cadeirydd y bwrdd Gweithredol i bob pwrpas yw’r Cyfarwyddwr Cyffredinol (Tony Hall ar hyn o bryd). Rôl y Bwrdd Gweithredol, yn gryno, yw rhedeg y BBC. Mae’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau’r BBC a’i hallbwn golygyddol a chreadigol, a rheoli’r BBC. Bydd yn gwneud hyn oll yn unol â’r strategaethau a’r blaenoriaethau a bennir gan yr Ymddiriedolaeth.

Mae rôl Ofcom mewn perthynas â llywodraethu a rheoleiddio’r BBC yn bwysig. Fel y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am y dirwedd darlledu a thelathrebu ehangach, mae ganddo amrywiaeth o ddyletswyddau sy’n ymwneud â’r BBC yn uniongyrchol ac o ran pennu’r fframwaith ehangach. Mae elfennau allweddol y rhain y cynnwys rheoleiddio cynnwys a ddarlledir (er enghraifft, mewn perthynas â materion megis niwed a thramgwydd), trin a thrafod cwynion am y materion hyn, cyfrannu at ymgynghoriadau ynghylch pennu cwotâu, a’i rôl mewn Asesiadau o Effaith ar y Farchnad – trafodir rhai o’r meysydd hyn yn ddiweddarach yn yr adran hon.

Mae gan y model Llywodraethu presennol nifer o fanteision. Wrth wahanu rolau Ymddiriedolaeth a Bwrdd Gweithredol y BBC, a sicrhau fod ganddynt staff, cyllid ac adroddiadau cyhoeddus ar wahân, mae mwy o bellter rhwng elfennau rheoleiddio rôl yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Gweithredol nag oedd o dan y model Llywodraethwyr. Mae hyn wedi helpu i sicrhau fod y BBC yn cael ei dal i gyfrif yn fwy caeth. Mae rhoi cyfrifoldeb penodol i Ymddiriedolaeth y BBC

Page 139: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

dros gynrychioli talwyr ffi’r drwydded yn cydnabod pwysigrwydd eu buddiannau, ac yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi datblygu amrywiaeth o fecanweithiau i ymgysylltu â’r cyhoedd. Trwy gyflwyno amrywiaeth o fecanweithiau a dulliau, mae’r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau fod penderfyniadau’r BBC yn cael eu harchwilio’n well.

Fodd bynnag, yn ystod cyfnod y Siarter hon, bu amrywiaeth o faterion y mae beirniaid yn credu eu bod yn symptomau o strwythurau llywodraethau aneffeithiol:

- methu cyflawni prosiectau sylweddol megis y Fenter Cyfryngau Digidol;

- methiannau golygyddol difrifol, megis yr adroddiad ynghylch Jimmy Saville a gafodd ei ganslo, a honiadau Newsnight/Arglwydd McAlpine; a

- diffyg eglurder ynghylch cyfrifoldebau a dim digon o oruchwylio gan y Bwrdd Gweithredol a’r Ymddiriedolaeth, fe a welwyd yn achos taliadau diswyddo ar gyfer uwch staff.

Fe wnaeth y pryderon hyn arwain at adolygiad o lywodraethu mewnol y BBC yn 2013 a argymhellodd newidiadau i’r dull o weithredu’r egwyddorion llywodraethu. Fodd bynnag, mae llawer, yn cynnwys Cadeirydd newydd Ymddiriedolaeth y BBC,116 ac adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch dyfodol y BBC117 wedi mynd ymhellach, ac wedi cynnig y gallai diwygiadau mwy sylfaenol fod yn angenrheidiol i fynd i’r afael â phroblemau systemig y model presennol. Erys beirniadaeth fod gwrthdaro rhwng rolau’r Ymddiriedolaeth fel anogwr a chorff rheoleiddio’r BBC. Er ei fod wedi’i amlinellu yn y Siarter, nid yw’r gwahaniaeth rhwng yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Gweithredol wedi’i ddeall na’i fynegi’n dda. Mae awgrym hefyd nad oes gan yr Ymddiriedolaeth y pwerau a’r sancsiynau sydd eu hangen i sicrhau newid o fewn y model presennol.

Page 140: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Opsiynau ar gyfer diwygio

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer diwygio’r model llywodraethu a rheoleiddio.

Dyma’r tri opsiwn strategol:

- model yn seiliedig ar yr Ymddiriedolaeth;

- sefydliad rheoleiddiol penodol newydd (megis y Comisiwn ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a amlinellir yn Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) a

- rhoi rhagor o gyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom a diddymu’r Ymddiriedolaeth.

Byddai’r ddau opsiwn diwethaf yn debygol o arwain at fwrdd unedol ar gyfer y BBC, a byddai’n pennu’r strategaeth ac yn gyfrifol am ei gyflawni, a byddai corff neu gyrff allanol yn gyfrifol am y swyddogaethau rheoleiddio. Mae gan bob un o’r opsiynau hyn fuddion a gwendidau, fel y nodir isod. Yn ogystal â’r cwestiwn strategol hwn, bydd llawer o benderfyniadau ynghylch ble ddylid lleoli cyfrifoldebau am elfennau penodol o lywodraethu a rheoleiddio.

Model Ymddiriedolaeth ddiwygiedig

Yr opsiwn cyntaf yw cadw’r fframwaith presennol, ond ei ddiwygio ymhellach trwy:

- Egluro rolau – ar waethaf y strwythurau ffurfiol, nid yw gwahaniad yr Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Gweithredol wedi bod yn eglur bob amser, ac nid yw’r cyhoedd ehangach yn deall y rhaniad. Gwelir hyn yn aml fel rhywbeth sy’n cyfrannu at y problemau y mae’r BBC wedi’u hwynebu wrth geisio delio â rhai o’r heriau a wynebodd yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf. Gellid datrys rhywfaint o’r dryswch (canfyddedig a go iawn) trwy ddatgan yn glir beth yw’r gwahaniaeth rhwng Bwrdd Gweithredol y BBC a’r Ymddiriedolaeth, gan egluro’r cyfrifoldebau yn fanylach, a chynnwys monitro rhaniad y cyfrifoldebau fel rhwymedigaeth.

- Cryfhau swyddogaeth strategol yr Ymddiriedolaeth - un feirniadaeth a wneir o’r Ymddiriedolaeth ar brydiau yw ei bod, ar y naill law yn cymeradwyo strategaeth ffurfiol y BBC, ond ar y llaw arall, mae’n rhy oddefol wrth bennu cyfeiriad strategol y sefydliad. Yn hytrach na sbarduno’r hyn mae ar dalwyr ffi’r drwydded ei eisiau, yn lle hynny

Page 141: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

ystyrir ei bod yn ymateb i newidiadau a arweinir gan y Bwrdd Gweithredol, fel a welwyd yn sgil y cynnig i ychwanegu fideo at BBC Radio 1 neu symud BBC Three ar-lein.

Gellid datrys hyn trwy newid cyfrifoldebau penodol yr Ymddiriedolaeth a sut mae’n ymwneud â’r Bwrdd Gweithredol, neu efallai trwy gyflwyno mecanweithiau penodol a fyddai’n golygu fod gan yr Ymddiriedolaeth ran fwy blaenllaw yn y gwaith o bennu strategaeth y BBC.

- Cryfhau’r pwerau gorfodi – mae gan yr Ymddiriedolaeth amrywiaeth o fecanweithiau i ddal y Bwrdd Gweithredol i gyfrif. Gallai cryfhau’r rhain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, er enghraifft, trwy roi’r gallu i’r Ymddiriedolaeth atal arian, helpu i wella rheoleiddio effeithiol y BBC.

Mae dull gweithredu sy’n addasu’r system bresennol yn cynnig manteision penodol dros ddiwygiadau mwy radical. Bydd unrhyw newid cyfundrefnol yn golygu amser a chost ariannol, a bydd yn cyflwyno aflonyddwch, risg ac ansicrwydd. Byddai newidiadau llai i’r system bresennol yn lleihau’r risgiau hyn ac yn cynyddu hyder yn y canlyniadau. Mae’n werth nodi hefyd fod yr Ymddiriedolaeth yn llai na deng mlwydd oed, ac os caiff fwy o amser, ac os gweithredir rhai o’r newidiadau strwythurol yr awgrymir uchod, efallai gellir ei diwygio ymhellach ac ymateb i rai o’r beirniadaethau a wneir ohoni. Ond mae anfanteision sylweddol i’r dull gweithredu hwn hefyd. Waeth pa mor eglur fydd rolau’r Ymddiriedolaeth a’r Bwrdd Gweithredol, erys tensiwn yn y strwythur yn sgil yr angen i’r Ymddiriedolaeth weithredu fel corff rheoleiddio a pharhau yn rhan o’r BBC ar y un pryd. Mae hyd yn oed Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn disgrifio’r newid o fodel Ymddiriedolaeth i gorff rheoleiddio allanol fel ceffyl blaen o blith y dewisiadau, felly mae’n amlwg fod achos dros newid mwy radical.

Page 142: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Modelau llywodraethu a rheoleiddio

Model corff rheoleiddio penodol

Defnyddir y syniad o fodel corff rheoleiddio penodol yma i gynrychioli amrywiaeth o opsiynau sydd oll â strwythur tebyg, ac a gyfeirir atynt ar brydiau fel ‘Ofbeeb’. Eu nodwedd gyffredin yw eu bod yn ail gorff - sy’n hollol wahanol i’r BBC ac Ofcom – fyddai’n perfformio rhai neu’r cyfan o’r swyddogaethau goruchwylio a rheoleiddio sydd yn nwylo’r ymddiriedolaeth ar hyn o bryd. Yn fwyaf cyffredin, byddai’r model hwn yn arwain at y BBC yn mabwysiadu bwrdd unedol a fyddai’n atgyfnerthu’r gwaith o bennu strategaethau a’r cyfrifoldeb dros ddarpariaeth weithredol - er gallai rhai o elfennau strategol ei swyddogaethau gael eu rhoi i gorff gwahanol. Dull gweithredu o’r math hwn oedd yr opsiwn yn adroddiad gwreiddiol Burns yn 2006 a’r un a argymhellwyd yn adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2015.

Wrth symud rheoleiddio i ofal corff allanol sy’n hollol ar wahân i’r BBC o ran strwythur ac enw, mae’r model hwn yn diddymu llawer o’r feirniadaeth am y tensiwn rhwng bod yn gorff rheoleiddio ac yn anogwr ar yr un pryd. Gallai hefyd ddod â’r holl gyfrifoldebau strategol a gweithredol allweddol ynghyd mewn un bwrdd unedol, fyddai â llinellau atebolrwydd eglur iawn ac aelodaeth anweithredol gref a allai sicrhau fodd buddiannau’r cyhoedd ym Mhrydain yn cael eu cynrychioli’n briodol. Ni fyddai perygl o gyfrifoldebau ehangach yn gwrthdynnu sylw corff rheoleiddio penodol.

Ond mae gan y model hwn heriau hefyd. Mae cyrff rheoleiddio pwrpasol yn anodd eu sefydlu mewn modd sydd ddim yn gwneud iddynt fod yn or-ddibynnol ar y sefydliad maent yn eu rheoleiddio neu’n gwrthdaro ag ef, fel mae enghreifftiau hanesyddol, fel gwaith Comisiwn y Gwasanaethau Post (Postcomm) yn rheoleiddio’r Post Brenhinol, yn ei ddangos. Gallai strwythur a sefydlir y tu allan i’r BBC ei chael hi’n anodd yn sgil bod yn rhy bell oddi wrth y corff – yn methu dylanwadu ar broses gwneud penderfyniadau bwrdd unedol pwerus.

Page 143: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae risg sylweddol hefyd y byddai hyn yn drysu’r dirwedd rheoleiddio trwy rannu’r cyfrifoldebau dros gyfryngau a thelathrebu mewn sector sy’n cydgyfeirio’n gynyddol. Byddai hyn yn gwaethygu pe byddai’r corff rheoleiddio yn cael unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol mewn perthynas â darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Byddai angen trafod pa bwerau’n union a gâi’r corff rheoli hwn, ac mae amrywiaeth o gynigion a allai roi pwerau cryf i’r corff. Gallai hyn ddigwydd naill ai trwy newid cydbwysedd y cyfrifoldebau y byddai gan y corff rheoleiddio hwn a gan Ofcom, neu trwy roi cyfrifoldeb i’r corff am unrhyw benderfyniadau eraill megis dyrannu unrhyw gyllid y cystadlir amdano (trafodir hyn yn fanylach ym Mhennod 3).

Ofcom

Mae Ofcom yn gorff rheoleiddio annibynnol mawr ei barch sydd â hanes cryf, a dyna pam y mae rhai wedi awgrymu y gallai ymgymryd â rôl ehangach o ran rheoleiddio’r BBC. Y trydydd opsiwn felly yw symud y swyddogaeth rheoleiddio i ofal Ofcom â bwrdd unedol yn gyfrifol fwy na thebyg am y swyddogaethau darparu a llywodraethu. Ystyriwyd fersiwn o’r cynnig hwn fel opsiwn yn Adroddiad Burns yn yr Adolygiad diwethaf o’r Siarter, a thrafodwyd hyn eto yn Adroddiad diweddar y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Byddai’r opsiwn hwn yn debyg mewn sawl ffordd i gorff rheoleiddio penodol. Byddai sut yn union y dylai Ofcom newid er mwyn gwneud gwaith o’r fath yn dibynnu ar y cyfrifoldebau penodol a roddid iddo, ond mae’n debyg y byddai’n golygu adnoddau ychwanegol sylweddol a gallai olygu sefydlu strwythurau ychwanegol o fewn Ofcom ei hun megis byrddau ymgynghorol annibynnol.

Page 144: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Modelau llywodraethu a rheoleiddio

Mae’r opsiwn hwn yn ddeniadol oherwydd mae Ofcom eisoes yn adnabyddus fel corff rheoleiddio effeithlon, ac mae’n deall y sector darlledu a’r cyfryngau a thelathrebu ehangach yn llawn. Byddai costau ac aflonyddwch symud cyfrifoldebau i ofal Ofcom yn llawer llai na chreu corff hollol newydd, fwy na thebyg. Byddai symudiad o’r fath yn cydgrynhoi cyfrifoldebau dros reoleiddio’r cyfryngau a thelathrebu dan ofal un corff, sydd â’r fantais o symlrwydd ac eglurder, yn enwedig o fewn sectorau sy’n cydgyfeirio. Wrth rannu llywodraethu a rheoleiddio yn eglur fel hyn, byddai’r model hwn hefyd yn diddymu unrhyw wrthdaro buddiannau posibl.

Fodd bynnag, mae anawsterau hefyd. Gallai maint gweithgarwch o’r math hwn olygu aflonyddwch sylweddol, a byddai angen lliniaru hynny ar gyfer y BBC ac Ofcom. Er bod Ofcom yn ymgymryd â mesurau gwerth cyhoeddus, nid yw’n cymeradwyo gwasanaethau penodol ar hyn o bryd. Gallai’r newid hwn gael ei ystyried fel gwneud Ofcom yn rhy bwerus, gan ehangu ei gylch gorchwyl a’i wariant sydd eisoes yn fawr. Y llynedd, roedd gan Ofcom gyllideb o £117 miliwn a bron iawn 800 o staff.118

Page 145: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Yn achos y tri model, erys y cwestiwn ynghylch i bwy mae’r corff llywodraethu yn atebol iddo yn y pen draw. O dan y system bresennol, y sawl sy’n talu ffi’r drwydded yw hwnnw, ac fe’i disgrifir yn y fath fodd i gwmpasu budd cyhoeddus yn ehangach. Mae rhinweddau yn perthyn i’r dull gweithredu hwn - mae’n cysylltu meddylfryd y sefydliad yn benodol â’r sawl sy’n talu amdano, ac yn darparu cyswllt eglur iawn o ran atebolrwydd. Fodd bynnag, efallai y dylem ni feddwl yn wahanol am hyn. Mae cynrychioli budd cyhoeddus yn waith cymhleth - rhaid gwahaniaethu rhwng budd cynulleidfaoedd, grwpiau diddordebau arbennig a’r gymdeithas yn gyffredinol, ac ystyried y buddion i’r Deyrnas Unedig gyfan yn ogystal â’r sawl sy’n defnyddio cynnwys y BBC. Mae angen eglur hefyd i ystyried yr oblygiadau pe byddai’r model ariannu yn newid, fel y trafodir ym Mhennod 3.

Cwestiwn 15

Sut ddylai model llywodraethu a rheoleiddio presennol y BBC gael ei ddiwygio?

Page 146: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Modelau llywodraethu a rheoleiddio

Blwch 24: Fframwaith llywodraethuI wneud penderfyniadau deallus ynghylch y dull gorau o lywodraethu a rheoleiddio, mae angen dealltwriaeth eglur o beth mae’n ceisio ei gyflawni a fframwaith ar gyfer asesu hynny. Mae nifer o egwyddorion llywodraethu da sy’n gymwys i bob sefydliad. Nid yw’r BBC yn eithriad, ac mae eisoes yn adrodd mewn cymhariaeth â’r egwyddorion hyn – sydd wedi’u hamlinellu yng Nghod Llywodraethu Corfforaethol y Deyrnas Unedig – yn ei Hadroddiad a’i Chyfrifon Blynyddol. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau. Dyna pam rydym yn cynnig y dylid sefydlu fframwaith asesu sy’n cynnwys egwyddorion cyffredinol a rhai penodol y BBC, yn ogystal ag ystyriaeth o’r gost a’r ddarpariaeth i sicrhau gwerth am arian i’r cyhoedd.

Egwyddorion llywodraethu cyffredinol

- Arweinyddiaeth; rolau a chyfrifoldebau cryf.

- Effeithlonrwydd; cydbwysedd rhwng sgiliau a phrofiad. Prosesau penodi a gwerthuso priodol.

- Atebolrwydd; tryloywder, rheoli risgiau a systemau rheolaeth fewnol. Perthynas ag archwilwyr.

Page 147: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Egwyddorion penodol y BBC- Atebolrwydd cyhoeddus; atebol

i’r cyhoedd fel yr hyn sy’n cyfateb i gyfranddalwyr, yn cynnwys tryloywder.

- Sensitif i’r effaith ar y farchnad; mecanweithiau i sicrhau fod unrhyw effaith yn cael ei ddeall a’i gyfiawnhau.

- Annibyniaeth; rhyddid rhag unrhyw ymyrraeth mewn materion golygyddol.

- Rheoleiddio; fframwaith rheoleiddio priodol.

Materion ymarferol- Gwerth am arian; mae’r model

llywodraethu yn cynnig gwerth am arian da i’r cyhoedd.

- Cyraeddadwy; model llywodraethu cymesur a phriodol sy’n ystyriol o risgiau a chostau gweithredu.

Page 148: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Trwyddedau Gwasanaethau a Phrofion Gwerth Cyhoeddus

Mae’r broses o Adolygu’r Siarter yn gyfle i bennu fframwaith ar gyfer yr hyn rydym yn dymuno i’r BBC wneud a sut dylai wneud hynny. Ond heb os, bydd penderfyniadau allweddol i’w gwneud ar adegau eraill. Fe wnaeth y Siarter ddiwethaf sefydlu mecanweithiau newydd i sicrhau fod unrhyw newid yn adlewyrchu budd cyhoeddus yn briodol ac yn ystyriol o’r effaith ar y farchnad. Trwyddedau Gwasanaethau a Phrofion Gwerth Cyhoeddus (PVTs) oedd y rhain.

Mae’r Trwyddedau Gwasanaethau yn amlinellu beth mae bob gwasanaeth yn ei wneud a sut, er enghraifft, mae trwydded BBC 1 yn datgan y dylai fod yn ‘...wasanaeth teledu genres cymysg mwyaf poblogaidd Prydain, yn cynnig amrywiaeth helaeth o raglenni o ansawdd uchel,’ a ‘...phrif gyfrwng y BBC ar gyfer digwyddiadau o bwys yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, a dylai ei allbwn adlewyrchu’r Deyrnas Unedig gyfan.’ Adolygir Trwyddedau Gwasanaethau o leiaf ddwywaith yn ystod cyfnod pob Siarter. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori â’r diwydiant a’r cyhoedd i sicrhau fod pob gwasanaeth yn dal i ddiwallu anghenion talwyr ffi’r drwydded. Y PVTs yw’r mecanwaith a ddefnyddir i asesu unrhyw newidiadau sylweddol a gynigir ar gyfer gwasanaethau. Byddant fel arfer yn ymateb i gynigion gan Fwrdd Gweithredol y BBC ac mae ganddynt ddwy ran allweddol:

- asesiad o werth cyhoeddus a wneir gan yr Ymddiriedolaeth ac sy’n cynnwys ymgynghori sylweddol â’r cyhoedd a diwydiant;

- asesiad o Effaith ar y Farchnad a wneir gan Ofcom ar ran Ymddiriedolaeth y BBC, sy’n ceisio deall ac egluro effaith posibl unrhyw newidiadau arfaethedig ar y farchnad.

Page 149: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn caniatáu i Ymddiriedolaeth y BBC gael darlun cwbl wybodus o gostau a buddiannau'r newid arfaethedig. Gall y penderfyniad sy’n dilyn effeithio’n sylweddol ar y gwasanaethau y bydd cynulleidfaoedd yn eu cael, er enghraifft, y penderfyniad amodol diweddar gan yr Ymddiriedolaeth i gymeradwyo’r cynnig i symud BBC Three ar-lein ond i wrthod y cynnig am orsaf BBC +1. Mae cyflwyno’r prosesau hyn wedi cael croeso cyffredinol ac mae’n gam sylweddol ymlaen. Fodd bynnag, efallai bydd hi’n bosibl cryfhau'r system gyffredinol trwy fynd i'r afael â rhai o’r beirniadaethau a wnaed:

- Gall y PVT fod yn offeryn rhy wan, mae’n broses unigol gweddol gostus sy’n cymryd llawer o amser a chaiff ei weithredu pan fydd cynigion yn croesi trothwy perthnasedd; naill ai’n cymryd rhif hir i’w ddarparu neu’n methu newid na wnaeth gyflawni’r trothwy arwyddocâd. Gall hyn gael ei waethygu gan yr amser a gymerir i’r Ymddiriedolaeth dderbyn cynnig.

- Mae’r defnydd o PVTs yn ymatebol, yn ystyried cynnig ar wahân yn hytrach nag ystyried y BBC yn ei chyfanrwydd a’r rôl ddylai bob gwasanaeth ei chwarae o fewn y BBC.

- Er bod y Trwyddedau Gwasanaethau yn cynyddu lefel y craffu a’r rheolaeth, efallai nad ydynt yn ddigon i ddal y BBC i gyfrif am safonau digon uchel neu nid ydynt yn cynnwys digon o fanylion penodol ynghylch allbwn.

- Efallai nad yw mecanweithiau gorfodi adolygiadau’r Trwyddedau Gwasanaethau yn ddigon cadarn. Er enghraifft, bu cwynion yn y diwydiant nad yw argymhellion ynghylch oedran cyfartalog gwrandawyr gorsafoedd radio mwyaf poblogaidd y BBC wedi cael eu gorfodi’n ddigonol.119

Cwestiwn 16

Sut ddylai’r Profion Gwerth Cyhoeddus a’r Trwyddedau Gwasanaethau gael eu diwygio a phwy ddylai fod yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn?

Page 150: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Atebolrwydd cyhoeddusYn ogystal â’r modelau llywodraethu a rheoleiddio cyffredinol a sut gwneir newidiadau yn ystod y Siarter, mae angen i ni ystyried a ddylid diwygio atebolrwydd uniongyrchol y BBC.

“Un o brif ddulliau’r BBC o ymgysylltu â’r cyhoedd yw trwy ei rhaglen ymchwil.

Mae tri phrif fath o atebolrwydd cyhoeddus uniongyrchol:

- Cynghorau Ymchwil a Chynulleidfaoedd

- tryloywder; a- thrafod cwynion

Cynghorau Ymchwil a Chynulleidfaoedd

Un o brif ddulliau’r BBC o ymgysylltu â’r cyhoedd yw trwy ei rhaglen ymchwil. Gwneir rhywfaint o hyn yn fewnol, ond comisiynir arbenigwyr annibynnol a sefydliadau arolygon barn ac ymchwil i wneud llawer o’r gwaith. Mae’n edrych ar bob agwedd o’r BBC – teledu, radio a’r rhyngrwyd yn ogystal â materion golygyddol, y BBC fel sefydliad a grwpiau cynulleidfaoedd gwahanol. Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn cynnal amrywiaeth helaeth o ymgynghoriadau i lywio’r penderfyniadau a wneir ganddi.

Mae Cynghorau Cynulleidfaoedd yn ffordd arall o ddarparu cyswllt uniongyrchol rhwng talwyr ffi’r drwydded a’r Ymddiriedolaeth. Mae Cyngor Cynulleidfa ar gyfer pob gwlad yn y Deyrnas Unedig. Bydd pob un yn rhoi adborth i’r cynrychiolydd ar fwrdd Ymddiriedolaeth y

Page 151: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

BBC. Mae’r cynghorau hyn yn cynnig cipolwg ar beth mae ar gynulleidfaoedd ei eisiau a beth maent yn disgwyl ei gael gan y BBC yn eu gwledydd, a pha mor dda mae’r BBC yn gwneud hyn. Byddant hefyd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol i’r Ymddiriedolaeth. Mae hyn yn cynnig mecanwaith uniongyrchol, ond nid yw’r system yn amlwg iawn i’r cyhoedd yn gyffredinol, ac nid yw’n eglur beth yw effaith y cynghorau hyn ar weithredu’r BBC yn gyffredinol.

Tryloywder

Tryloywder yw’r ail ddull allweddol o sicrhau fod y BBC yn gweithredu er lles y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Ar waethaf pryderon ynghylch diffyg tryloywder o fewn y BBC, cafwyd nifer o welliannau dros gyfnod y Siarter diwethaf. Bydd y BBC yn mynd at i gyhoeddi:

- cyflogau a chostau swyddogion gweithredol;

- cofnodion cyfarfodydd Ymddiriedolaeth y BBC;

- manylion newidiadau arfaethedig yn ei ymgynghoriadau â’i wasanaethau cyhoeddus;

- Trwyddedau Gwasanaethau; a

- phrotocolau ynghylch sut mae’n gweithredu.

Mae’r BBC hefyd yn destun y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (ac eithrio gwybodaeth a gedwir at ddibenion newyddiaduraeth, celf neu lenyddiaeth). Mae’r ffynonellau gwybodaeth hyn yn helpu’r gymdeithas ddinesig a’r cyfryngau ehangach i ddal y BBC i gyfrif. Bydd straeon ynghylch y BBC, sy’n aml yn deillio o adroddiadau ynghylch tryloywder neu geisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn ymddangos yn rheolaidd mewn llawer o bapurau newydd cenedlaethol, megis adroddiad y Daily Mail ynghylch costau hyfforddiant yn y BBC120 neu adroddiad y Telegraph ynghylch pethau a gafodd eu dwyn oddi wrth y BBC.121

Fodd bynnag, nid yw rhai elfennau o’r BBC mor dryloyw â hynny, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau masnachol, a gall maint a chymhlethdod y sefydliad ei gwneud hi’n anodd deall sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud a sut a phryd gellir cynnig safbwyntiau. Mae meysydd lle na ellir bod yn hollol dryloyw oherwydd rhesymau masnachol, newyddiadurol neu artistig. Ond mae angen i ni sicrhau’r cydbwysedd priodol wrth sicrhau fod gwybodaeth ar gael yn y ffordd iawn er mwyn adeiladu ymddiriedaeth ymhlith talwyr ffi’r drwydded. Gallai hyn gynnwys edrych ar sut mae’r Ddeddf

Page 152: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Atebolrwydd cyhoeddus

Rhyddid Gwybodaeth yn gymwys i’r BBC, pa un ai a ellir cyhoeddi lefel fanylach o wybodaeth (er enghraifft, cyhoeddi cyflogau a strwythurau staffio yn unol â gofynion y Llywodraeth ynghylch tryloywder) a pha un ai a allai rhagor o ddata masnachol fod ar gael. Un maes lle mae tryloywder yn neilltuol o bwysig yw mewn perthynas â chystadlu agored a theg trwy’r rheolau masnachu teg.

Cwynion

Yn ychwanegol, bydd y BBC yn ymgysylltu â’r cyhoedd trwy wrando ar beth fydd pobl yn ddweud pan fyddant yn ysgrifennu at ac yn ffonio’r sefydliad. Bydd y BBC yn trafod cannoedd o filoedd o gwynion golygyddol a chyffredinol bob blwyddyn (gweler Blwch 25 gyferbyn). Cwynion golygyddol yw’r rhan fwyaf o’r rhain a chânt eu trafod yn y lle cyntaf gan dîm gwasanaethau cynulleidfaoedd y BBC. Os na fydd hyn yn datrys y mater, caiff cwyn ei hanfon at yr is-adran sy’n gysylltiedig â’r gŵyn. Lle byddir yn dal i fethu datrys cwyn, caiff ei huwchgyfeirio at yr Uned Cwynion Golygyddol cyn cael ei

huwchgyfeirio at yr Ymddiriedolaeth a’r Pwyllgor Safonau Golygyddol os bydd hynny’n briodol. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi ei phenderfyniadau yn rheolaidd a darperir trosolwg yn Adroddiad Blynyddol y BBC. Mae protocolau ar wahân yn achos cwynion cyffredinol ac yn wir yn achos yr Ymddiriedolaeth ei hun.122 Mae Ofcom yn gyfrifol am safonau golygyddol ar draws y sector darlledu, sy’n cynnwys y BBC, ac mae eithriad yn achos amhleidioldeb a chywirdeb sy’n cael eu trafod gan Ymddiriedolaeth y BBC yn unig. Mae hyn yn golygu gall gorgyffwrdd ddigwydd mewn sawl maes lle mae gan y BBC ac Ofcom gyfrifoldebau.

Adolygwyd y broses trin cwynion a chafodd ei gwella yn ystod cyfnod y Siarter diwethaf, ac atebwyd 96 y cant o gwynion yn brydlon y flwyddyn ddiwethaf.123 Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch y drefn adrodd ddeuol. Mae’r BBC ac Ofcom wedi sefydlu gweithdrefnau i sicrhau fod y drefn adrodd ddeuol hon mor syml â phosibl, ond nid yw hyn ynddo’i hun yn ddigon i gael gwared ar y dyblygiad. Mae rhai wedi dadlau y gallai fod yn fwy effeithlon i wneud newidiadau fel

Page 153: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

bydd un sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb am gamau diweddarach trin a thrafod cwynion a barnu yn eu cylch.

Cwestiwn 17

Sut all y BBC ymgysylltu’n well â thalwyr ffi’r drwydded a’r diwydiant, yn cynnwys trwy gyfrwng ymchwil, tryloywder a thrafod cwynion?

Blwch 25: Ystadegau cwynion golygyddol y BBC124

259,886 cwyn

Atebwyd 96% yn brydlon

Cam 2: Cwynion golygyddol a uwchgyfeiriwyd at yr Uned Cwynion Golygyddol

583 cwyn

Atebwyd 85% yn brydlon

Cam 3: Apeliadau at Bwyllgor Safonau Golygyddol yr Ymddiriedolaeth

326 cwyn

Atebwyd 98% yn brydlon

Page 154: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Strwythurau Democrataidd

Yn ogystal â’i hatebolrwydd cyhoeddus uniongyrchol, craffir ar y BBC gan strwythurau democrataidd yn y Deyrnas Unedig – y Llywodraeth a’r Senedd. Ategir hyn gan rôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO o ran craffu ar ei gwariant.

Mae gan y BBC atebolrwydd i’r gwledydd datganoledig hefyd; er enghraifft, yn dilyn Comisiwn Smith, cytunwyd ar Femorandwm Dealltwriaeth rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban, y BBC a Senedd yr Alban.

Mae hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r BBC gyflwyno ei Hadroddiad Blynyddol a’i Chyfrifon ger bron Senedd yr Alban ac ymddangos ger bron ei phwyllgorau yn union fel yn achos Senedd y Deyrnas Unedig. Fel rhan o’r adolygiad hwn byddwn yn ystyried a yw’r swyddogaethau hyn yn effeithiol, ac yn diogelu annibyniaeth y BBC ar yr un pryd.

Pwyllgorau Seneddol

Caiff Pwyllgorau Dethol y Senedd eu sefydlu i graffu ar waith adrannau’r Llywodraeth a’u cyrff cysylltiedig, yn cynnwys y BBC, ar ran Tŷ’r Cyffredin a’r etholwyr. Gelwir y BBC yn amlach na dim i ymddangos ger bron y Pwyllgorau Dethol Cyfrifon Cyhoeddus (PAC) neu Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (CMS). Mae gan yr olaf o’r rhain rôl o ran cynnal gwrandawiad cyn apwyntio Cadeirydd

Page 155: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ymddiriedolaeth y BBC. Bydd y BBC hefyd yn cyflwyno ei Hadroddiad a’i Chyfrifon Blynyddol ger bron Senedd y Deyrnas Unedig ar ddiwedd bob blwyddyn adrodd.

Gall Pwyllgor Dethol CMS gynnal ymchwiliadau ynghylch meysydd o ddiddordeb cyfredol, er enghraifft, yn Chwefror 2015, cyhoeddodd adroddiad Dyfodol y BBC.125 Yn ystod y Senedd flaenorol, fe wnaeth y Pwyllgor gynnal pedwar ymchwiliad ar wahân ynghylch y BBC ac fe wnaeth y PAC gynnal dau. Yn ychwanegol, gofynnwyd i’r BBC gyflwyno tystiolaeth o flaen nifer o Bwyllgorau Dethol eraill megis y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd. Felly mae cyfleoedd helaeth i’r Senedd graffu ar y BBC. Fodd bynnag, trwy’r Adolygiad o’r Siarter, hoffem wybod a ellir gwneud unrhyw newidiadau.

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Cynhelir arolygon gan y NAO o werth am arian y BBC, yn unol â rhaglen a gytunir ag Ymddiriedolaeth y BBC. Mae hyn yn un o ofynion y Cytundeb Fframwaith rhwng y Llywodraeth a’r BBC, ac yn ystod blynyddoedd diweddar, mae mynediad wedi cael ei wella. Mae adroddiadau diweddar wedi cynnwys archwilio’r arbedion a wnaed trwy Delivering Quality First (Mawrth 2015) ac ynghylch Rheoli Ystâd y BBC (Ionawr 2015), ac mae pwyllgorau wedi craffu arnynt. Yn ystod blynyddoedd diweddar, cafwyd galwadau am adael i’r NAO gael mynediad statudol at gyfrifon y BBC, fel sydd ganddi yn achos adrannau ac asiantaethau eraill y Llywodraeth. Byddai hyn yn caniatáu i’r NAO archwilio Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC a chraffu’n fanylach ar y Gorfforaeth. Mae rhagor o atebolrwydd ariannol yn ofyniad pwysig, na ddylai danseilio annibyniaeth olygyddol y BBC.

Page 156: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Strwythurau democrataidd

Llywodraeth

Yn ffurfiol, mae’r BBC yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond fel corff a ariennir gan arian cyhoeddus, caiff ei gwariant ei gynnwys yng nghyfanswm cyffredinol gwariant cyhoeddus, fel caiff ei gategoreiddio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rhaid i gyrff hyd braich a sefydliadau eraill sy’n cael arian cyhoeddus gydymffurfio â rheolaethau ar eu gwariant a chanllawiau eraill a amlinellir yng nghyhoeddiad Trysorlys ei Mawrhydi, Managing Public Money.126 Ar hyn o bryd, nid yw hynny’n wir yn achos y BBC, sydd â fframwaith gwahanol a amlinellir yn y Siarter a’r Cytundeb Fframwaith ac a reoleiddir gan yr Ymddiriedolaeth. Mae hyn yn golygu fod gan y BBC ofynion adrodd a rheolaethau ariannol gwahanol i gyrff eraill sy’n cael arian cyhoeddus.

Oherwydd y model unigryw sydd ganddi, gall fod yn aneglur a ddylai targedau a gynlluniwyd ar gyfer adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth fod yn gymwys i ddarlledwr annibynnol. Bydd y gwaith o bennu gofynion cyfrifyddu’r BBC at ddibenion yr arian cyhoeddus a gaiff yn digwydd o fewn yr Adolygiad o’r Siarter a setliadau ffi’r drwydded, ac oherwydd hynny, byddwn yn ystyried sut ddylid trin y BBC mewn perthynas ag unrhyw oblygiadau a allai godi rhwng yr adolygiadau hyn.

Page 157: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Cwestiwn 18

Sut ddylai’r berthynas rhwng y Senedd, y Llywodraeth, Ofcom, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a’r BBC weithio?

Pa strwythurau atebolrwydd a disgwyliadau ynghylch hynny, yn cynnwys tryloywder ariannol a rheolaethau ar wariant, a ddylai fod yn gymwys?

Page 158: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Y Siarter Frenhinol

Mae’r BBC yn cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ers 1927. Y Siarter yw sail gyfansoddiadol y Gorfforaeth ac mae’n sicrhau ei hannibyniaeth oddi wrth y Senedd a’r Llywodraeth.

“Y Siarter yw sail gyfansoddiadol y Gorfforaeth ac mae’n sicrhau ei hannibyniaeth oddi wrth y Senedd a’r Llywodraeth.

Caiff y rhan fwyaf o fanylion gweithredu’r BBC eu hamlinellu mewn Cytundeb Fframwaith rhwng y Llywodraeth a’r BBC. Mae hyn yn cynnwys cylchoedd gorchwyl ei dibenion, sut ddylai’r Trwyddedau Gwasanaethau a’r PVTs weithio, oblygiadau rheoleiddio, trin cwynion a’i pherthynas ag Ofcom.

Mae’r BBC yn cael ei llywodraethu gan Siarter Frenhinol ers 1927

Page 159: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Mae rhywfaint o ddadlau ynghylch a yw’r Siarter Frenhinol a’r Cytundeb Fframwaith ategol yn parhau i fod yn ddull mwyaf priodol o gorffori’r BBC. Mae sawl opsiwn ar gyfer diwygio, a’r mwyaf perthnasol o’r rhain yw hyd y Siarter. Nid oes unrhyw gyfnod penodol; mae wyth Siarter wedi bod, ac maent wedi amrywio rhwng pump a phymtheg mlynedd, yn ogystal ag ambell Siarter atodol. Mae’r ddwy Siarter ddiwethaf wedi para am ddeng mlynedd yr un.

Mae’r cyfaddawd allweddol rhwng buddiannau sicrwydd a hyblygrwydd. O ystyried byd y cyfryngau sy’n newid mor gyflym, mae costau cymharol bod yn anhyblyg yn cynyddu. Un ffordd o fynd i’r afael â hyn fyddai newid hyd y Siarter – ei lleihau i amserlen y gallwn fod yn fwy sicr yn ei gylch. Fel arall, byddai modd cyflwyno mecanwaith newydd sy’n darparu cam adolygu hanner ffordd trwy gyfnod Siarter, naill ai yn unol ag amserlen benodol neu â sbardun perthnasol.

Cwestiwn 19

A ddylai dull gweithredu presennol Siarter Frenhinol a Chytundeb Fframwaith 10 mlynedd barhau?

Page 160: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion

Page 161: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu
Page 162: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

GeirfaBwrdd Gweithredol y BBCMae’r Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am reolaeth weithredol y BBC.

Ymddiriedolaeth y BBCYmddiriedolaeth y BBC yw corff llywodraethol y BBC.

BBC GroupMae BBC Group yn cyfeirio at y BBC a’i his-gwmnïau masnachol.

BDUK Broadband Delivery UK – y gangen ddarparu ar gyfer rhaglenni band eang y Llywodraeth (a rhan o’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon).

Band eangTerm a ddefnyddir gan ddarparwyr gwasanaethau Rhyngrwyd i ddisgrifio eu mynediad cyflym i’r Rhyngrwyd sydd ymlaen yn barhaus. Mae’r term band eang yn cyfeirio’n wreiddiol at yr amrediad o signalau amledd uchel a ddefnyddir i gludo’r data a drawsyrrir. Caiff band eang ei ddarparu fel arfer trwy gysylltiad llinell ffôn neu gebl, ond gellir ei ddarparu hefyd trwy gysylltiadau diwifr neu loeren. Nid yw cyflymder mynediad posibl o 512Kbps yn cael ei gyfrif yn fand llydan.

Teledu dal i fynyneu deledu ‘ar gais’ yw’r system i wylio rhaglenni teledu’r Deyrnas Unedig ar ôl iddynt gael eu darlledu, gan ddefnyddio cyfrifiadur, ffôn ayyb sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd.

DABDarlledu Sain Ddigidol – radio digidol.

DCMSYr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Page 163: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Delivering Quality First

Delivering Quality First (DQF) yw cynllun y BBC ynghylch sut gall ddarparu rhaglenni o’r ansawdd uchaf i gynulleidfaoedd at ddiwedd y Siarter yn 2007.

Y Newid i Ddigidol.Y broses o newid y system darlledu teledu analog yn system ddigidol, yn ogystal â sicrhau fod pobl yn addasu neu’n uwchraddio eu setiau teledu a’u hoffer recordio er mwyn derbyn teledu digidol. Cwblhawyd y broses hon ledled y Deyrnas Unedig yn 2012.

MIAAsesiad o’r Effaith ar y Farchnad – elfen o’r Prawf Gwerth Cyhoeddus sy’n ystyried effaith unrhyw wasanaeth newydd gan y BBC neu newid sylweddol i un o wasanaethau presennol y BBC.

NAOY Swyddfa Archwilio Genedlaethol

OfcomY Swyddfa Rheoleiddio Cyfathrebiadau - corff rheoleiddio ac awdurdod cystadleuaeth annibynnol dros ddiwydiannau cyfathrebu'r Deyrnas Unedig.

Ar gaisGweler ‘teledu dal i fyny’ uchod.

PSBDarlledu (neu Ddarlledwr) Gwasanaeth Cyhoeddus – yn y Deyrnas Unedig, mae’r rhain yn cynnwys: y BBC, ITV, Channel 4, S4C a Channel 5.

PVTPrawf Gwerth Cyhoeddus – y dull o gymharu gwerth cyhoeddus â’r effaith ar y farchnad. Bydd Ymddiriedolaeth y BBC yn defnyddio PVTs i gyfrifo gwerth gwasanaethau newydd y BBC i’r cyhoedd a chyfrifo’r effaith y gallant ei gael ar y farchnad.

Page 164: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

S4C

Sianel deledu gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg a ddarlledir ledled Cymru.

Dyma’r sianel deledu gyntaf a anelid yn benodol at gynulleidfa Cymraeg ei hiaith.Ar ôl BBC One, ITV, BBC Two a Sky1, S4C yw’r bumed hynaf o blith sianeli teledu’r Deyrnas Unedig (lansiwyd Channel 4 yng ngweddill y wlad ddiwrnod yn ddiweddarach).

Trwyddedau GwasanaethauRhoddir Trwyddedau Gwasanaethau gan Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Maent yn diffinio cwmpas, nodau, amcanion, prif gyllideb a nodweddion pwysig eraill bob gwasanaeth, ac mae’n datgan sut caiff perfformiad ei asesu gan yr Ymddiriedolaeth..

Teledu clyfarIntegreiddio’r Rhyngrwyd (a rhaglenni meddalwedd cysylltiedig) mewn setiau teledu a dyfeisiau cysylltiedig megis chwaraewyr Blu-Ray, consolau gemau a blychau pen set. Gall defnyddwyr bori’r Rhyngrwyd a chyrchu ystod o wasanaethau (teledu dal i fyny, fideo ar gais, cynnwys a lwythir i fyny gan ddefnyddwyr), yn ogystal â chynnwys teledu a ddarlledir yn llinol, trwy gyfrwng eu set teledu.

SpectrwmSbectrwm radio – y rhannau hynny o’r sbectrwm electromagnetig (a ddiffinnir gan amlaf fel rhai sydd rhwng 3KHz a 300GHz) a ddefnyddir gan amrywiaeth o wasanaethau diwifr, yn cynnwys darlledu, telathrebu a radios busnes.

Band eang Tra ChyflymMae BDUK (gweler tudalen 158) yn diffinio Band eang Tra Chyflym fel band cyflym sydd â chyflymder mynediad posibl o 24Mbps, heb unrhyw uchafswm. Gan amlaf, ar lefel cyfanwerthu, gellir mesur y gallu gwaelodol mewn gigabits. Yna, bydd y farchnad adwerthu yn cymryd y gallu hwn ac yn darparu cynigiadau fforddiadwy.

Page 165: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

TelathrebuTrosglwyddo cerddoriaeth a synau eraill, delweddau gweledol neu signalau dros bellter cyflymder, trwy ddulliau trydanol, magnetig neu electromagnetig.

Telerau MasnachuCanllawiau a gynhyrchir gan Ofcom (yn ei ‘God Ymarfer ar gyfer Comisiynu gan Gynhyrchwyr Annibynnol’) sy’n amlinellu sut ddylai Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus gyd-drafod cytundebau â’r sector cynyrchiadau annibynnol ynghylch comisiynu gwaith newydd.

Teledu Manylder Uchel Iawn (Ultra HD)Mae Teledu Manylder Uchel Iawn (a elwir hefyd yn Super Hi-Vision, teledu Ultra HD, UltraHD, UHDTV, neu UHD) yn cynnwys UHD 4K (2160p) ac UHD 8K sy’n ddau fformat fideo digidol a ddarperir gan NHK Science & Technology Research Laboratories ac a ddiffinnir ac a gymeradwyir gan yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU).

Page 166: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion

1 Adroddiad Ofcom ar Farchnad Cyfathrebiadau 2014: http://stakeholders.ofcom.org.uk/market-data-research/market-data/communications-market-reports/cmr14/

2 Pecyn Perfformiad Misol BBC iPlayer,Ionawr 2015: http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/iplayerperformance-pack-jan15

3 Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o BBC Music Radio, 2015, t12: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/music_radio/music_radio.pdf

4 Cyhoeddiad gan y BBC, 21 Mai, 2015:www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/combinedglobalaudience

5 Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Lleihau Costau Trwy Delivering QualityFirst, Chwefror 2015 , t.11: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2015/reducing_costs

6 Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, Menter Cyfryngau Digidol y BBC, Ionawr 2014, t.11:http://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2015/01/BBC-Digital-Media-Initiative.pdf

7 Cyhoeddiad gan y BBC, 21 Mai, 2015:www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/combinedglobalaudience

8 Mae Adolygiad Ofcom o’r PSBs a gyhoeddwyd ar 2 Gorffennaf yn ystyried marchnad ehangach y PSBs– bydd y Llywodraeth yn ystyried canfyddiadau Ofcom maes o law.

9 Canllaw Sianeli Freeview, Gwanwyn2015: www.freeview.co.uk/wpcontent/uploads/2015/02/Freeview-ChannelGuide_Feb-2015.pdf

10 Internet Access – Households andIndividuals 2014, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 7 Awst 2014, t.1: www.ons.gov.uk/ons/dcp171778_373584.pdf

11 Targed Broadband Delivery UK (BDUK):https://www.gov.uk/broadbanddeliveryuk

Page 167: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

12 Setiau teledu digidol sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd ac sydd felly yn gallu darparu’r gwasanaethau a alluogir gan y cysylltiad hwn.

13 Cenhadaeth a gwerthoedd, ‘Inside the BBC:’ www.bbc.co.uk/corporate2/insidethebbc/whoweare/mission_and_values

14 Cylchoedd Gorchwyl Dibenion y BBC, BBC 2013: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/about/how_we_govern/purpose_remits/2013/purpose_remits.Pdf

15 Yn cynnwys y Farwnes Tanni Grey Thompson, Lenny Henry, Nihal cyflwynydd Asian Network a’r Fonesig Benjamin. Datganiad i’r Wasg gan y BBC, Mehefin 2014: www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2014/bame-representationplans

16 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, 2014-15, t. 88: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

17 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t. 88: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

18 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t. 88: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

19 Strategaeth Amrywiaeth y BBC 2011-15, t. 12: http://downloads.bbc.co.uk/diversity/pdf/Diversity_strategy_110523.pdf

20 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t. 88: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

21 Strategaeth Amrywiaeth y BBC 2011-15, t.11: http://downloads.bbc.co.uk/diversity/pdf/Diversity_strategy_110523.pdf

22 Y Siarter Frenhinol er parhad y BBC, Hydref 2006, Erthygl 5:http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/about/how_we_govern/charter.pdf

Page 168: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion

23 Blwyddlyfr Arsyllfa Glywedol Ewrop 2013, adroddiadau cwmnïau, 2011-12 a data 2012-13 lle mae hynny ar gael: http://www.obs.coe.int/en/-/pr-yearbook-2013-volume-2

24 Ralph Rivera, Fifteen Years of BBC Online, Blog y BBC, 12 Rhagfyr 2012: www.bbc.co.uk/blogs/bbcinternet/2012/12/fi fteen_years_ofbbc_online.html

25 Lawrlwythiadau Tablau Data Cynulleidfaoedd y BBC,Gorffennaf - Medi 2014:bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/accountability/pdf/summary_audience_information_july_sept_2014.pdf

26 Adolygiad o Wasanaethau gan Ymddiriedolaeth y BBC: Radio 1,1Xtra, Radio 2, Radio 3, 6 Music acAsian Network, Mawrth 2015 t. 13:http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/music_radio/music_radio.pdf

27 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t.73: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

28 Adroddiad Blynyddol UK TV 2012 ac Adroddiad Blynyddol UK TV 2014: http://corporate.uktv.co.uk/article/results/

29 Cynllun Cymorth y Newid i Ddigidol,DCMS, Chwefror 2012: http://downloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/partnerships/helpscheme/SHS_scheme_agreement_feb2012.pdf

30 Setliad ffi’r drwydded 2010: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/strategy/licence_fee/2010_settlement.html

31 Setliad ffi’r drwydded 2010: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/strategy/licence_fee/2010_settlement.html

32 Cyhoeddiad gan y BBC, 8 Ebrill 2015:http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/dab-network

Page 169: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

33 Adroddiad ynghylch y Farchnad Cyfathrebiadau, Ofcom, 2014 t.154:

34 RAJAR, Cyhoeddiad Data, Ch1 2015.www.rajar.co.uk/docs/news/RAJAR_DataRelease_InfographicQ12015.pdf

35 Mae THIRA yn brosiect cydweithredol dan arweiniad y BBC ac a gyd-ariannir gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg sy’n mynd o’r afael â’r defnydd o fformatau fideo cydraniad uchel: thira.ch.bbc.co.uk/

36 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC,2014-15, t. 129: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

37 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t. 3: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

38 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion, Hydref 2013, t. 31:

39 Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom, 2 Gorffennaf 2015, t.14: stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

40 Ymddiriedolaeth y BBC, Adolygiad o Wasanaeth Teledu’r BBC, 2014 Dadansoddiad Cefnogi Perfformiad, t. 13: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/regulatory_framework/service_licences/service_reviews/television_services/television_services.pdf

41 Ymgynghoriad ynghylch adolygiad Ofcom o’r PSBs, Rhagfyr 2014, t. 21: http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

42 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion, Gaeaf2012-13, t.8: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/audiences/previous_prs_reports.html

43 Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom, 2 Gorffennaf 2015:stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

Page 170: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion44 59 y cant: Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15 t. 27: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

45 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion, Hydref 2013, t. 28: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/audiences/previous_prs_reports.html

46 Adroddiad Blynyddol ynghylch PSBs 2014, Ofcom, t.6: http://stakeholders.ofcom.org.uk/broadcasting/reviews-investigations/public-service-broadcasting/annrep/psb14/

47 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15 tt. 76-78: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

48 ITU (asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedig dros dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu), datganiad i’r wasg, 26 Mawrth 2015: www.itu.int/net/pressoffi ce/press_releases/2015/17.aspx#.VZz-SGTF-CY

49 Cyhoeddiad gan y BBC, 21 Mai 2015:www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/combinedglobalaudience?lang=cy

50 Cyhoeddiad gan y BBC, 21 Mai 2007:http://www.bbc.co.uk/pressoffi ce/pressreleases/stories/2007/05_may/21-global.shtml

51 The economic return to the UK of theBBC’s global footprint, BBC, Tachwedd2013, t. 7: www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2013/bbc-global-footprint.html

52 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2013-14, t. 33: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

53 The economic return to the UK of theBBC’s global footprint, BBC, Tachwedd2013, t. 4: www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2013/bbcglobal-footprint.html

Page 171: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

54 Cyhoeddiad gan y BBC, 8 Hydref2013: www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2013/dg-global-audience.Html

55 Data Bwrdd Gweithredol y BBC ac Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t.139:www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

56 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t.75: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

57 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014-15, t.75: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

58 Adolygiad gan Ymddiriedolaeth y BBC o’r ehangder barn a adlewyrchir yng nghynnwys y BBC, Gorffennaf 2013: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/editorial_standards/impartiality/breadth_opinion.html

59 Adolygiad gan Lywodraethwyr y BBC: Ymdirniaeth y BBC o’r Undeb Ewropeaidd, 2005: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/governors_archive/european_union.html

60 Adolygiad gan Ymddiriedolaeth y BBC o’r ehangder barn a adlewyrchir yng nghynnwys y BBC, 2013: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/editorial_standards/impartiality/breadth_opinion.html

61 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion2012-13: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/audiences/previous_prs_reports.html

62 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC, 2014-15, tt. 71-72: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

63 Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Wasanaeth Teledu’r BBC,Gorffennaf 2014 t. 22: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/regulatory_framework/service_licences/service_reviews/television_services/television_services.pdf

Page 172: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion64 Daily Mail, 18 Mehefin 2011: www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-2004929/The-Voiceconfirmedair-BBC-One-X-Factor.html

65 Ymddiriedolaeth y BBC, Adolygiad o Wasanaethau Radio Cerddoriaeth, Mawrth 2015. r. 28:http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/music_radio/music_radio.pdf

66 Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom, 2 Gorffennaf 2015, Ofcom, t.3: http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

67 Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom, 2 Gorffennaf 2015, t.3: http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

68 Trefniadau Cyflenwi Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch cynhyrchu cynnwys a gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC, 19 Mehefin 2015: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/content_supply/2015/content_supply_review.pdf

69 Cyhoeddiad gan y BBC, 25 Mehefin 2015:www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2015/compete-or-compareradio

70 Ymgynghoriad ynghylch adolygiad o’r PSBs, Ofcom, Rhagfyr 2014 t. 2: http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psb-review-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

71 Trefniadau Cyflenwi Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch cynhyrchu cynnwys a gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC, 19 Mehefin 2015, t. 53: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/content_supply/2015/content_supply_review.pdf

Page 173: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

72 Trefniadau Cyflenwi Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch cynhyrchu cynnwys a gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC, 19 Mehefin 2015:http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/content_supply/2015/content_supply_review.pdf

73 Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yn Oes y Rhyngrwyd, Ofcom, cyhoeddwyd 2 Gorffennaf 2015, t. 30: http://stakeholders.ofcom.org.uk/binaries/consultations/psbreview-3/statement/PSB_Review_3_Statement.pdf

74 Telegraph Online, ‘ITV ThreatensLegal Action Against BBC ProductionPlans’, 21 Gorffennaf 2015: www.telegraph.co.uk/fi nance/newsbysector/mediatechnologyandtelecoms/media/11690018/ITV-threatenslegalaction-against-BBC-productionplans.html

75 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 4ydd Adroddiad ynghylch Dyfodol y BBC, 2015, para. 138: www.publications.parliament.uk/pa/cm201415/cmselect/cmcumeds/315/31502.htm

76 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, A public BBC, 2005, t.34: www.publications.parliament.uk/pa/cm200405/cmselect/cmcumeds/82/8208.htm

77 Mae hyn yn cynnwys darllediadau teledu byw a oedir, ond nid yw’n cynnwys gwasanaethau ‘ar-gais’. www.tvlicensing.co.uk/check-if-you-needone/topics/technology--devices-andonlinetop8

78 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 4ydd Adroddiad ynghylch Dyfodol y BBC, 2015: www.publications.parliament.uk/pa/cm201415/cmselect/cmcumeds/315/31502.htm

Page 174: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion

79 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15 t. 3: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

80 O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n ofynnol dan y gyfraith i feddu ar drwydded deledu ddilys i ddefnyddio unrhyw offer derbyn teledu, megis set teledu, blwch digidol, recordydd DVD neu fideo, cyfrifiadur personol, gliniadur neu ffôn symudol, i wylio neu recordio rhaglenni teledu wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu. Os byddir yn gwylio trwy wasanaethau ar gais (e.e. trwy’r iPlayer neu wasanaethau dal i fyny eraill), nid yw trwydded yn ofynnol.

81 Mae angen trwydded i wylio gwasanaethau rhaglenni teledu (yn cynnwys darllediadau a oedir) ond nid gwasanaethau ar gais (gwasanaethau megis yr iPlayer lle cyrchir y gwasanaeth ar gais, h.y. pan fydd y gwyliwr yn gofyn am hynny.

82 Ymateb gan y BBC i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth,16 Ebrill 2014: downloads.bbc.co.uk/foi/classes/disclosure_logs/tv_licence/RFI2014-0469-no-licence-neededclaims.pdf

83 Trefniadau dosbarthu’r BBC ar gyfer ei Wasanaethau Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig: Adroddiad gan Mediatique a gyflwynwyd i Bwyllgor Cyllid Ymddiriedolaeth y BBC, Tachwedd 2013,t.57: downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/review_report_research/vfm/distribution.pdf

84 Cyllideb Haf 2015: www.gov.uk/government/publications/summerbudget-2015/summerbudget-2015

85 Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded Teledu, Gorffennaf 2015.

86 Ystadegau Chwarterol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Canlyniadau yn ô y math o drosedd, Mai 2014www.gov.uk/government/statistics/criminal-justicestatistics-quarterlydecember-2013

Page 175: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

87 Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded Teledu, Gorffennaf 2015.88 Adolygiad o System Gorfodi Ffi’r Drwydded Teledu, Gorffennaf 2015.

89 Cyhoeddiad ynghylch Rhyddid Gwybodaeth gan TV Licensing 2014 www.tvlicensing.co.uk/about/foi-licences-facts-andfiguresAB18

90 Newid i’r Cytundeb, Medi 2011 downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/about/how_we_govern/agreement_amend_sep11_sum.pdf

91 Cytundeb cyflwyno a defnyddio band eang (16 Gorffennaf 2012) rhwng Ymddiriedolaeth y BBC a DCMS: http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/our_work/local_television/broadband_agreement.pdf

92 I wybod rhagor am ddibenion cyhoeddus y BBC, darllenwch bennod 1.

93 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

94 Nic Newman, David A. L. Levy aRasmus Kleis Nielsen, Adroddiad ynghylch Newyddion Digidol 2015, Reuters Institute, 2015:www.reutersinstitute.politics.ox.ac.uk/publication/digital-news-report-2015

95 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t.129: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

96 Y Siarter Frenhinol er parhad y BBC, Hydref 2006, Erthygl 38(1)(h):http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/about/how_we_govern/charter.pdf

Page 176: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion97 Lleihau costau trwy DeliveringQuality First, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2015, t.26: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2015/reducing_costs

98 Lleihau costau trwy DeliveringQuality First, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2015, t.25: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2015/reducing_costs

99 Y Fenter Cyfryngau Digidol, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2014, t.9: http://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2015/01/BBCDigital-Media-Initiative.pdf

100 Rheoli Ystâd y BBC, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2014, t.13: http://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2015/01/Managing-the-BBCestate.pdf

101 Rheoli Ystâd y BBC, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2014, t. 7: http://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2015/01/Managing-the-BBCestate.pdf

102 Taliadau diswyddo a buddion ehangach ar gyfer uwch reolwyr y BBC,Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2013, t.5:http://www.nao.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/10193-001_BBC_BOOK.pdf

103 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t.110: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

104 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol ITV ccc 2014: www.itvplc.com/investors/announcements/annual-report-andaccounts-2014

Page 177: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

105 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC 2014- 15, p.85: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

106 Lleihau costau trwy DeliveringQuality First, Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2015, t.26: http://www.bbc.co.uk/bbctrust/news/press_releases/2015/reducing_costs

107 Ymddiriedolaeth y BBC, Casgliadau amodol ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau teledu ac ar-lein y BBC, 30 Gorffennaf 2015: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/services/service_changes

108 Grŵp o sianeli digidol sydd oll yn cael eu darlledu ar yr un donfedd. Bwriad y BBC yw defnyddio capasiti ar yr amlbleth PSB-3 – dyma’r unig amlbleth ar hyn o bryd sydd â digon o gapasiti i gynnal sianel 24 awr y dydd.

109 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t.23: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

110 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion 2012-13, t.9: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/audiences/previous_prs_reports.html

111 Arolwg Ymddiriedolaeth y BBC o Gylchoedd Gorchwyl y Dibenion 2013-14, t.9: www.bbc.co.uk/bbctrust/our_work/audiences/previous_prs_reports.html

112 Creative Industries, TV Case 2: BBCWorldwide TV exports, 2014: www.thecreativeindustries.co.uk/industries/tv-fi lm/tv-fi lm-case-studies/tvcasebbc-worldwide-tv-exports

113 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15 pp. 134-135: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

Page 178: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

Ôl-nodion114 Cyhoeddiad gan y BBC, 8 Ebrill 2014:www.bbc.co.uk/mediacentre/worldwide/50th-country-strictly

115 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t. 42: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

116 Rona Fairhead, BBC Governance: TheCase for Intelligent Reform, 4 Mawrth2015: www.bbc.co.uk/bbctrust/news/speeches/2015/oxford_media_convention

117 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 4ydd Adroddiad ynghylch Dyfodol y BBC, 2015: www.publications.parliament.uk/pa/cm201415/cmselect/cmcumeds/315/31502.htm

118 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol Ofcom2014-15, p.14: http://www.ofcom.org.uk/content/about/annualreportsplans/1262041/annualreport-14-15/annual-report-14-15.pdf

119 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Tystiolaeth Ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Global Radio:www.data.parliament.uk/writtenevidence/committeeevidence.svc/evidencedocument/culture-mediaandsport-committee/future-of-thebbc/written/4506.html

120 Mail Online, ‘BBC Blows £220000 ofLicence Fee Payers Money TrainingStaff,’ 13 Hydref 2014: www.dailymail.co.uk/news/article-2790700/bbc-blows-220-000-licencefeepayers-money-training-staffuseiphone-nearly-800-employeessentcourse-costs-300-person.html

121 Telegraph Online, ‘More than 80iPads among goods stolen from BBC,’23 Rhagfyr 2014: www.telegraph.co.uk/news/uknews/crime/11311683/Morethan-80-iPads-among-goodsstolenfrom-BBC.html

Page 179: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu

122 Ymddiriedolaeth y BBC, Protocol E3 y BBC – Fframwaith Cwynion, Hydref 2014:http://downloads.bbc.co.uk/bbctrust/assets/fi les/pdf/regulatory_framework/protocols/2014/e3_complaints_framework.pdf

123 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t. 20: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

124 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC2014-15, t.20: www.bbc.co.uk/aboutthebbc/insidethebbc/howwework/reports/ara

125 Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, 4ydd Adroddiad ynghylch Dyfodol y BBC, 2015: www.publications.parliament.uk/pa/cm201415/cmselect/cmcumeds/315/31502.htm

126 Trysorlys EM, Managing Public Money,Gorffennaf 2013: www.gov.uk/government/publications/managing-public-money

Page 180: GOV UK€¦  · Web viewY mater olaf, ac un sydd yn y pen draw yn tanategu bob un arall, yw llywodraethu a rheoleiddio. Fe wnaeth y Siarter ddiweddaf gyflwyno model newydd, a chreu