16
Eu Gorffennol Eich Dyfodol

Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

Eu Gorffennol Eich Dyfodol

Page 2: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

www.culturenetcymru.com

dysgle.llgc.org.uk

[email protected]� 01970 632415

[email protected]� 01970 632528 / 632913

Nod y pecyn hwn yw sicrhau bod disgybion ysgol a phobl ifanc eraill sydd â diddordeb ynhanes cythryblys y 1930au a’r 1940au yn dod i wybod mwy am y pwnc drwy gasgliadauunigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r pecyn yn cynnig:

5 cyflwyniad i’r pwnc i’r rhai sydd heb wybodaeth ohono5 golwg ar rai ffynonellau gwreiddiol, eilaidd a digidol sydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru5 deunydd y gall disgyblion ysgol ddefnyddio i drosglwyddo gwybodaeth i’w cyfoedion fel

rhan o Sgiliau Allweddol neu Addysg Bersonol a Chymdeithasol5 deunydd ar gyfer myfyrwyr hanes Safon Uwch Atodol a Safon Uwch5 gwybodaeth bellach am rai o gasgliadau unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lluniwyd y pecyn fel rhan o brosiect Eu Gorffennol Eich Dyfodol ac mae’n derbyn cefnogaethCronfa Dreftadaeth y Loteri. Fe’i lluniwyd gan Wasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymrugyda chymorth Culturenet Cymru.

Cynnwys: Gwasanaeth Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Delweddau: Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Culturenet Cymru.

Mae Gwasanaeth Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig:

5 sesiynau cyffredinol neu arbenigol i grwpiau ac ysgolion5 teithiau o amgylch y Llyfrgell 5 taflenni gwaith a chyflwyniadau wedi’u cynllunio’n benodol ar eich cyfer5 cyfle i weld deunyddiau o gasgliadau’r Llyfrgell5 ystafelloedd addas i weithio a thrafod5 gwasanaeth estyn allan - gallwn ni ddod atoch chi i gyflwyno’r deunyddiau5 cyflwyniadau Cymraeg neu ddwyieithog5 sesiynau fideogynadledda gydag ysgolion neu grwpiau o ysgolion

Cynnwys3-5 David Lloyd George6-7 Gareth Vaughan Jones8-9 Bywydau plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd10-11 Bywydau menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd12-15 Y Ffrynt Cartref yn ystod yr Ail Ryfel Byd16 Casgliad Geoff Charles ac Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru

Page 3: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

3

David Lloyd George

David Lloyd George (1863-1945) yw'r gwladweinyddrhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Buei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth Cymru, yDeyrnas Gyfunol ac Ewrop. Bu'n aelod seneddolRhyddfrydol am hanner can mlynedd ganwasanaethu mewn llywodraeth fel Llywydd y BwrddMasnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15),Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916).Ym mis Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog ar ganol yRhyfel Byd Cyntaf. Daliodd ei afael ar swydd y PrifWeinidog tan 1922. Am weddill ei yrfa seneddol nichafodd unrhyw swydd mewn llywodraeth. Yn 1945fe'i hurddwyd yn Iarll Lloyd-George o Ddwyfor, ond bufarw ddeufis yn ddiweddarach.

Fel Prif Weinidog Lloyd George oedd yn arwaindirprwyaeth Prydain i drafod telerau heddwch ynVersailles ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. I unrhyw unsy’n astudio hanes yr Ail Ryfel Byd mae amodauCytundeb Versailles (1919) a’r cytundebau eraillddilynodd yn hollbwysig. Dadl rhai haneswyrdylanwadol iawn yw mai’r amodau llym osodwyd aryr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’rrhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhaio’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain atboblogrwydd Hitler a’i bolisi tramor yn ystod y 1930au,ac yn y pen draw felly at yr Ail Ryfel Byd.

Mae personoliaeth Lloyd George, ei agwedd bersonolat sut dylid trin yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel BydCyntaf, ei ymateb i farn gyhoeddus y cyfnod, a’rffaith ei fod yn ben ar glymblaid ryfedd oGeidwadwyr a rhai Rhyddfrydwyr yn allweddol felly iddeall gwreiddiau rhai o’r digwyddiadau wnaetharwain at yr Ail Ryfel Byd yn ddiweddarach.

David Lloyd George yn ymweld â Threforys fel Prif Weinidog. Mae’rslogan ar y faner yn dweud “Croesaw (Croeso) i’n Prif Weinidog”(Arddangosfa David Lloyd George, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Page 4: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

4

David Lloyd George

Ffotograffydd anhysbys, David Lloyd George yn arolygugwirfoddolwyr yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1915.(Arddangosfa David Lloyd George, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

W Williams (Caernarfon), David Lloyd George. Ygwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchoddCymru erioed.(Arddangosfa David Lloyd George, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)

Dyddiadur David Lloyd George,1886. Mae rhai o ddyddiaduronLloyd George yn rhan ogasgliad eang LlyfrgellGenedlaethol Cymru.(Y Drych Digidol, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)

Ym Mis Medi 1936 fe dreuliodd David Lloyd George bythefnos yn yr Almaen gangyfarfod ag Adolf Hitler ddwywaith. Yr oedd Hitler wedi bod mewn grym am dairblynedd a hanner ac wedi llwyddo i ddileu diweithdra ar raddfa eang, a hyn oeddyn denu Lloyd George i'w gyfarfod. Trafodwyd y sefyllfa ryngwladol, amaethyddiaetha materion cymdeithasol. Yr oedd Lloyd George yn frwdfrydig iawn am agweddau'rAlmaen tuag at ddiweithdra, yswiriant iechyd, a mudiadau lles a hamdden.

Page 5: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

5

David Lloyd George

Central Office of Information (Llundain), "TheRight Honourable David Lloyd George."Mae’r golau yn y llun yn helpu i atgyfnerthu’rddelwedd o’r “Dewin Cymreig”.(Arddangosfa David Lloyd George, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)

Llythyron David Lloyd George at ei frawd, Tachwedd 1918. Ysgrifennai DavidLloyd George at William ei frawd yn Saesneg yn bennaf, ond byddai’ncynnwys brawddegau Cymraeg yn aml i drafod materion personol.(Y Drych Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Arddangosfa David Lloyd George: http://www.llgc.org.uk/ardd/dlgeorge/dlg0001.htm

Deunydd amrywiol: http://www.tlysau.org.uk/cy/subjects/5367

Dyddiadur Lloyd George: http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c037.htm

Fideo o Lloyd George yn ymweld â’r Almaen: http://www.llgc.org.uk/drych/drych_c005a.htm

Mae casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunyddiau ar David Lloyd George yncynnwys dyddiaduron personol, llythyrau teuluol a swyddogol, nodiadau areithiau,lluniau, darluniau, llyfrau hanes, cofiannau ac eitemau digidol. Gellir cael hyd i rai o’ruchod ar y gwefannau hyn:

Page 6: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

6

Gareth Vaughan Jones

Mae casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yncynnwys deunyddiau unigryw o eiddo’rnewyddiadurwr o Gymro Gareth Vaughan Jones.Magwyd Gareth Jones yn y Bari ac oddi yno aeth iastudio ieithoedd modern yng Ngholeg PrifysgolCymru, Aberystwyth. Aeth ymlaen i Goleg y Drindod,Caergrawnt ac ennill graddau pellach yno. Wedidarlithio am gyfnod cafodd swydd yn cynghori LloydGeorge ar faterion tramor. Wedi hyn daeth ynnewyddiadurwr ac ymunodd â staff y Western Mail, achael y cyfle i deithio’r byd yn ysgrifennu erthyglau arfaterion tramor.

Yn ystod ei fywyd byr cafodd gyfle i gwrdd âKrupskaya, gweddw Lenin, rhannu awyren gyda Hitlera Goebbels, cwrdd â William Randolph Hearst,adrodd ar y Newyn Mawr yn yr Wcrain, a theithio iardaloedd sensitif fel Mongolia Fewnol lle yr honniriddo gael ei lofruddio gan ysbeilwyr yn 1935.

Mae erthyglau, nodiadau, llythyron a sylwadauGareth Jones am y sefyllfa ryngwladol yn ystod y1930au yn rhoi darlun unigryw a gwahanol i ni o’rcyfnod, ac mae rhai o’r deunyddiau hyn ar gael argof a chadw fel rhan o gasgliad LlyfrgellGenedlaethol Cymru.

Gareth Jones, y newyddiadurwrwnaeth gofnodi digwyddiadaurhyngwladol pwysig yn ystod y1930au mewn dyddiaduron,erthyglau a llyfrau nodiadau.(Llun trwy garedigrwyddwww.garethjones.org)

Page 7: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

Dyddiaduron a nodiadau Gareth Jones. Gareth Jones oedd y newyddiadurwrcyntaf i ddatgelu’r gwirionedd am yr Holodomor, Newyn Mawr yr Wcrain, acmae’n dal i gael ei gofio gan lawer o bobl y wlad honno heddiw.(Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Gareth Vaughan Jones

Rhan o lyfr nodiadau Gareth Jones ar gyfer 1931. Yn ydyddiadur mae’n disgrifio tlodi pobl gyffredin mewnKolkhoz neu fferm gydweithredol yn yr UndebSofietaidd.

“The peasant women talked to me. It was the samestory. How can we live on 10lbs of bread a month forwomen. And no clothes. I’ve been in the Kolkhoz nowfor the second year and not a scrap of new clotheshave they given us”.

(Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

7

Page 8: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

8

Bywydau plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd dros filiwn(1,000,000) o blant o ddinasoedd Prydain fel eu bodyn fwy diogel rhag y bomiau a'r cyrchoedd awyr.Anfonwyd dros 200,000 o'r plant hyn i bob rhan oGymru, a'r enw oedd yn cael ei ddefnyddio am blantoedd yn cael eu symud i gefn gwlad oedd faciwîs. Ynaml byddent yn gorfod gadael eu teuluoedd atheithio ar drên gyda dim byd ond ychydig eiddopersonol, mwgwd nwy a thag adnabod.

Newidiodd bywydau plant Cymru hefyd yn y cyfnodhwn. Roedden nhw'n cael eu hannog i gyfrannu at yrymgyrch ryfel drwy ddysgu sgiliau fel garddio, gwnïo,a chasglu adnoddau i ailgylchu. Roedd plant yngorfod ymarfer gwisgo mygydau nwy, ac roeddnwyddau fel siocled yn brin ac yn cael eu dogni.

Mae Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell GenedlaetholCymru yn rhoi darlun o fywydau plant yn ystod yr AilRyfel Byd. Yn ogystal â’r lluniau hyn mae gwefannauCulturenet Cymru yn cynnig golwg ar fywydau pobldrwy gyfrwng delweddau digidol o ddeunydd o’rcyfnod.

Faciwîs o Benbedw yn cyrraedd Croesoswallt, 1939. Mae’r plantyn cario’u heiddo personol mewn bagiau, yn cario mwgwd nwyyr un mewn bocs, ac yn gwisgo tagiau adnabod.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Page 9: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

9

Bywydau plant yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mwgwd nwy babi, 1930au. Roedd y babi yn cael ei roi yn gyfanmewn i’r mwgwd nwy, a byddai’n rhaid pwmpio aer i fewn.(Culturenet Cymru a Michael Donovan)

Faciwîs o Benbedw yn cyrraedd y Drenewydd.Mae’r llun iconig hwn gan y ffotograffydd GeoffCharles yn porteadu dewrder, ofn, amheuon aphenderfyniad y plant oedd yn dod i Gymru.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell GenedlaetholCymru)

Plant yn ymarfer gwisgo mygydau nwy, 1939. Roedd yLlywodraeth yn annog pobl i ymarfer eu gwisgo ynbarod am ymosodiad nwy gan y gelyn.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Mwgwd nwy 'Mickey Mouse', 1939-45.Mwgwd nwy ar gyfer plant.(Culturenet Cymru ac AmgueddfaHeddlu De Cymru)

Page 10: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

10

Menywod a’r Ail Ryfel Byd

Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd swyddogaethaucymdeithasol y ddau ryw wedi’u diffinio’n glir. Yngyffredinol credwyd mai lle’r fenyw oedd y cartref, acmai lle’r dyn oedd mynd allan i weithio. Roedd yndderbyniol i fenyw weithio y tu allan i’r cartref cynbelled a bod dim teulu ganddi i edrych ar ei ôl, ondroedd menywod yn cael eu talu llai na dynion hyd ynoed pan yn gwneud yr un gwaith.

Newidiodd bywydau llawer o fenywod yn gyfan gwblyn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma'r tro cyntaf i lawerohonyn nhw adael y cartref i weithio: yn 1939 roedd94,000 o fenywod yng Nghymru yn gweithio, onderbyn 1944 roedd y nifer wedi cynyddu i 204,000.

Aeth llawer o'r menywod hyn i weithio ar y tir fel rhan oFyddin Tir y Merched. Erbyn 1943 roedd bron i 4,500 ofenywod yn rhan o Fyddin Tir y Merched yng Nghymru.Roedd miloedd o fenywod hefyd yn gweithio ar ffermy teulu yn helpu cynhyrchu bwyd ar gyfer yr ymgyrchryfel.

Aeth eraill i weithio mewn swyddi newydd felffatrïoedd cemegau, ffrwydron, ac adeiladuawyrennau. Erbyn 1944 roedd 55% o weithwyr rhyfelCymru yn fenywod. Gweithiau menywod hefyd ynadeiladu llongau, cynhyrchu peiriannau a cherbydau,ar y rheilffyrdd, y camlesi, ac ar y bysiau. Roedd niferhefyd yn rhan o’r gwasanaethau brys a’rgwasanaethau achub.

Merched ysgol o Groesoswallt yn dysgu sgiliau gwnïo, 1939.Roedd y llywodraeth yn annog pobl i drwsio dillad yn lle eutaflu fel rhan o’r ymgyrch “Trwsio a gwneud y tro”.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Aelod o Fyddin Tir y Merched,1939-1945. Roedd y merched yngwneud gwaith fel godro, gwaithfferm, gweithio mewn melinaucoed a dal llygod mawr.(Casgliad Geoff Charles, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)

Page 11: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

Ymunodd rhai menywod gyda'r Lluoedd Arfog.O fis Rhagfyr 1941 ymlaen roedd yn rhaid i bobmenyw rhwng 20 a 30 oed gofrestru ar gyfergwaith rhyfel neu waith gyda'r Lluoedd Arfog.Ymunodd llawer gyda GwasanaethauCynorthwyol Menywod y fyddin, y llynges a’r lluawyr. Doedd dim hawl ganddyn nhw i ymladdond roedden nhw’n cefnogi gwaith y dyniongyda thasgau fel teipio, coginio, glanhau, ateb yffôn ayb. Yn ddiweddarach cawsant waith oeddyn ymwneud yn uniongyrchol â’r rhyfel fel bodmwy o ddynion yn gallu mynd i ffwrdd i ymladd.

Mae Casgliad Geoff Charles, LlyfrgellGenedlaethol Cymru yn rhoi darlun o fywydaumenywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ogystal â’rlluniau hyn mae gwefannau Culturenet Cymru yncynnig golwg ar fywydau pobl drwy gyfrwngdelweddau digidol o ddeunydd o’r cyfnod.

11

Menywod a’r Ail Ryfel Byd

Menyw yn Sir Drefaldwyn yn gweithioar beiriant gwau sanau, 1940. Yn ystody rhyfel aeth menywod hefyd i weithiomewn swyddi newydd fel ffatrïoeddcemegau, ffrwydron, ac adeiladuawyrennau.(Casgliad Geoff Charles, LlyfrgellGenedlaethol Cymru)

Byddin Tir y Merched, 1939-1945. Gan amlaf byddent yn gwisgo siwmperi gwyrdd,trowsusau brown a hetiau ffelt brown.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Page 12: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

12

Y Ffrynt Cartref a Dogni

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhai pethau'n brin iawnoherwydd ymosodiadau ar longau oedd ynmewnforio nwyddau i Brydain, a'r ffaith fod ffatrioeddyn canolbwyntio ar gynhyrchu arfau rhyfel.

Bu'n rhaid dogni pethau elfennol i sicrhau bodnwyddau'n cael eu dosbarthu'n deg i bawb.Dosbarthwyd llyfrau dogni a daeth pobl i arfer âchyfnewid cwpon am fwydydd neu nwyddau.

Roedd tecstiliau a dillad yn brin iawn, a chyhoeddoddy Bwrdd Masnach daflenni yn annog pobl i 'Drwsio agwneud y tro', ac ailgylchu hen ddillad yn lle eu taflu.Roedd llawer o fwydydd hefyd yn brin, ac yn ogystal âdogni bwyd roedd y llywodraeth yn annog pobl i dyfubwyd eu hunain.

Roedd pobl hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddioadnoddau yn fwy effeithiol ac ailgylchu nwyddau ynlle eu taflu. Cyhoeddwyd taflenni a phosteri fel y rhaioedd yn gofyn i bobl am nwyddau alwminiwm i’wtoddi i wneud darnau awyrennau.

Bechgyn ysgol o Groesoswallt yn dysgu sgiliau garddio. Roedd yLlywodraeth yn annog pobl i dyfu eu bwydydd eu hunainoherwydd bod bwyd yn brin.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Page 13: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

13

Y Ffrynt Cartref a Dogni

Roedd y llywodreth yn gofyn i bobl hefydi baratoi ar gyfer ymosodiadau. Mae'rgwaith oedd yn cael ei wneud gan boblgyffredin i helpu Prydain yn yr ymgyrchryfel i gyd yn rhan o'r hyn sy'n cael eialw'n Ffrynt Cartref.

Daeth y blacowt i rym ym Medi 1939 iatal awyrennau’r gelyn rhag medrugweld golau ar y ddaear. Roedd ynrhaid sicrhau nad oedd golau yn dianco ffenestri’r cartref a rhoddwyd caeadar lampau ceir. Roedd Wardeniaid CyrchAwyr yn sicrhau bod y blacowt yn cael eiweithredu.

Adeiladwyd llochesi cyhoeddus mawrrhag y bomiau, a rhai llai mewn gerddi(llochesi "Anderson”) ac mewn tai(llochesi "Morrison"). Roedd rhai pobl yn ytrefi mawr hefyd yn defnyddio pontyddrheilffordd, twneli a seleri tai i guddiorhag y bomiau.

Taflen wybodaeth ‘Dig For Victory’, 1939-1945. Roeddy llywodraeth yn annog pobl i dyfu bwyd eu hunain.(Culturenet Cymru ac Archifdy Ceredigion)

Detholiad o’r daflen “DIG FOR VICTORY”

“Y WYNWYN (Winwns) mwyaf eu gwerth yw’r rhai ygellir eu cadw ar gyfer y gaeaf. Pan fônt wedityfu’n dda, wedi eu cynaeafu’n ofalus, a’uhystorio’n gymwys, fe ellir eu cadw’n llwyddiannusam chwe mis. Ond mae’n bwysig cael y mathaumwyaf cyfaddas ar gyfer storio.”

Taflen “Y Weinyddiaeth Hyspysrwydd”, 1940’au. (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Detholiad o’r daflen OS DAW’R GERMANS

BETH I’W WNEUD – A SUT I’W WNEUDOs daw’r Germans, mewn “parachute” neueroplen neu long, gofalwch aros lle’r ydych. Dyna’rgorchymyn – “Arhosed pawb lle mae.”…Peidiwch a rhoi coel ar chwedlau disail apheidiwch a’u hailadrodd. Pan y derbyniwchorchymyn, gwnewch yn siwr nag gorchymyn gauydyw… Arferwch eich syn[n]wyr cyffredin.

Page 14: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

14

Y Ffrynt Cartref a Dogni

Llyfr Dogni Dillad a Llyfr Dogni Bwyd. Dosbarthwyd llyfrau dogni a daeth pobli arfer â chyfnewid cwpon am fwydydd neu nwyddau.(Culturenet Cymru ac Elizabeth Richards)

Cyfraniad menywod Y Trallwng at ymgyrch yr Arglwydd Beaverbrook i gasglu henalwminiwm sgrap ar gyfer Spitfire, 1940. Cyhoeddwyd taflenni a phosteri oedd yngofyn i bobl am nwyddau alwminiwm i’w toddi i wneud darnau awyrennau.(Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Page 15: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

15

Y Ffrynt Cartref a Dogni

Lloches cyrch awyr yn Abertawe, 1941. Roedd poblyn cael eu hannog i gyfrannu at yr ymgyrch ryfel apharatoi ar gyfer ymosodiadau (Culturenet Cymru a Gwasanaeth Archifau GorllewinMorgannwg)

Caead a roddwyd ar lampau ceir yn ystodblacowt yr Ail Ryfel Byd. Daeth y blacowt i rymym Medi 1939 i atal awyrennau’r gelyn rhagmedru gweld golau ar y ddaear.(Culturenet Cymru ac Amgueddfa Powysland aChanolfan Camlas Trefaldwyn)

'How to patch a shirt', taflen Bwrdd Masnachgyhoeddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, 1940au.Roedd tecstiliau a dillad yn brin iawn, achyhoeddodd y Bwrdd Masnach daflenni ynannog pobl i 'Drwsio a gwneud y tro'.(Culturenet Cymru ac Elizabeth Richards)

Page 16: Eu Gorffennol Eich Dyfodol...yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd

16

Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru Atgofion Cymreig o’r Ail Ryfel BydMae Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru yn wefan sy’ncoffáu'r Ail Ryfel Byd trwy gyfrwng storïau, delweddau, acatgofion y rhai wnaeth fyw trwy’r rhyfel. Daw’r atgofion hyngan bobl gyda phrofiadau gwahanol iawn:

6 y rhai fu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog6 y rhai oedd yn blant yn ystod blynyddoedd y rhyfel6 pobl oedd ar bigau’r drain i glywed hanes eu hanwyliaid6 rhai a weithiai’n ddiflino gartref yn cefnogi ymdrech y rhyfel.

Mae Eu Gorffennol Eich Dyfodol Cymru, sy’n derbyncefnogaeth Cronfa’r Loteri Fawr, yn ffurfio teyrnged barhaoli’r rhai wnaeth fyw trwy’r rhyfel, ac yn adnodd addysgol argyfer cenedlaethau sydd i ddod. Mae’r wefan yn cynnwysdros 1500 o ddelweddau a llawer o storïau sy’n dogfennuprofiadau pobl yn ystod y cyfnod nodedig hwn yn ein hanes.

Geoff CharlesFfotograffau o Gymru a'r Gororau adeg yr Ail Ryfel Byd

Mae ffotograffau Geoff Charles o'r cyfnod 1939-1945 yn dalysbryd pobl Cymru a'r Gororau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.Maent yn goffâd o'r ymdrech ar y ffrynt cartref ac yn gofnodcyfoethog o ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu.

Erbyn heddiw mae archif Geoff Charles yn un o drysorauLlyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae’r wefan newydd yma,a noddir gan Gronfa'r Loteri Fawr fel rhan o'r rhaglenaddysgol Eu Gorffennol Eich Dyfodol, yn rhoi cyfle i bawbchwilio a mwynhau’r ffotograffau unigryw hyn. Mae’ncynnwys:

6 dros 6,500 o ffotograffau Geoff Charles 6 gweithgareddau addysg rhyngweithiol a diddorol i blant aphobl ifanc

6 dolenni cwricwlaidd a gwybodaeth bellach am gasgliadau’r Llyfrgell

6 cyfle i chwilio cronfa ddata enfawr o luniau Geoff Charles yn ôl thema, pwnc, ardal neu allweddeiriau.

Yn ogystal â hyn ceir canllawiau i athrawon a disgyblion arsut i ddefnyddio ffotograffau fel tystiolaeth, hanesffotograffiaeth fel cyfrwng a gwybodaeth am Geoff Charlesei hun.

ADNODDAU I ATHRAWON A DISGYBLION SY’ NASTUDIO’ R AIL RYFEL BYD

www.eged-cymru.com

geoffcharles.llgc.org.uk