39
Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff Celebration of a New Ministry Dathlu Gweinidogaeth Newydd The Licensing of The Reverend Charlotte Rushton as Priest in Charge of the Rectorial Benefice of Pontypridd (Pontypridd Ministry Area) Trwyddedu’r Parchedig Charlotte Rushton yn Offeiriad mewn Gofal Bywoliaeth Reithorol Pontypridd (Ardal Gweinidogaeth Pontypridd) 5 Mai 2021 5 May 2021 7.30pm

Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

  • Upload
    others

  • View
    9

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff

Celebration of a New MinistryDathlu Gweinidogaeth Newydd

The Licensing ofThe Reverend Charlotte Rushton

as Priest in Chargeof the Rectorial Benefice of Pontypridd

(Pontypridd Ministry Area)

Trwyddedu’rParchedig Charlotte Rushton

yn Offeiriad mewn GofalBywoliaeth Reithorol Pontypridd

(Ardal Gweinidogaeth Pontypridd)

5 Mai 20215 May 2021

7.30pm

Page 2: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

SEFYLLY Dod Ynghyd

Cyfarch a Chroesawu

Yr Esgob: Gras, trugaredd a thangnefedd Duw’r Tad a’r Arglwydd Iesu Grist a fo gyda chwi.

A hefyd gyda thi.

Alelwia! Atgyfododd Crist.Atgyfododd yn wir. Alelwia!.

Bydd yr Esgob yn croesawu’r gynulleidfa.

Yr Esgob: Mae heddiw’n ddechrau cyfnod newydd ym mywyd Ardal Gweinidogaeth Pontypridd gyda thrwyddedu Charlotte yn Offeiriad–mewn-Gofal newydd. Cofiwn gyda diolch am weinidogaeth holl gyn-offeiriaid y lle hwn. Cofiwn fod y weinidogaeth yn perthyn i bawb a fedyddiwyd a’n bod ni i gyd yn gyfrifol am rannu gwaith Crist. Y mae felly yn amser addas inni ein cysegru ein hunain o’r newydd a gofyn am arweiniad a nerth Duw i gyflawni ei waith yn y gymuned hon.

Page 3: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

STANDThe Gathering

Greeting and Welcome

Bishop: Grace, mercy and peace from God our Father and the Lord Jesus Christ be with you.And also with you.

Alleluia. Christ is risen.He is risen indeed. Alleluia.

The Bishop welcomes the congregation.

Bishop: Today marks the beginning of a new stage in the life of the Ministry Area of Pontypridd with the licensing of Charlotte as the new Priest in Charge. We remember with thanksgiving the ministry of former priests in this place. We recall that ministry belongs to all the baptised and that we all have the privilege and responsibility of sharing in Christ’s work. It is therefore an appropriate time for us all to dedicate ourselves anew, and ask for God’s guidance and strength to accomplish his work in this community.

Page 4: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Y Cyflwyniad

EISTEDD

Cynrychiolwyr y Plwyf: Esgob June, fel Cynrychiolwyr y Plwyf yr ydym wedi bod yn rhan o’r proses dewis, gan geisio offeiriad newydd i wasanaethu yn y fywoliaeth hon.

Dywedwyd yn y Proffil Plwyf ein bod yn dymuno penodi rhywun â’r nodweddion canlynol:

yn gyd-weithiwr naturiol yn edrych allan ac yn barod i ddatblygu’r gwaith o

estyn gorwelion yr Ardal Gweinidogaeth yn barod i ddathlu amrywiaeth ac i gofleidio ystod

o ddulliau addoli yn unigolyn â dycnwch ac yn ysbrydol aeddfed

Ar ôl ystyriaeth weddigar ac ar ôl proses drwyadl ac agored, dewiswyd Charlotte ar gyfer y rôl hon. Yr ydym yn ei chyflwyno hi i chi ac yn gofyn i chi ei phenodi i’r gofal eneidiau hwn.

Esgob: Diolchaf i chwi am eich cyflwyniad a’r gweddi a’r ddirnadaeth oedd yn sail iddo.Cyflwynir yn gryno yr offeiriad plwyf newydd gan yr Archddiacon.

Esgob: Wardeniaid Eglwys a phobl y Fywoliaeth hon, a ydych yn croesawu Charlotte fel eich Arweinydd Ardal Geinyddiaeth.Pawb: Yr ydym

Esgob: A wnewch chwi rannu â Charlotte yng nghenhadaeth Crist ac mewn gofal bugeiliol.

Pawb: Gwnawn.

Esgob: Charlotte, a ydych yn credu eich bod wedi eich galw gan Dduw i ofal bugeiliol ac ysbrydol y Ardal Gweinidogaeth hon?

Page 5: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Offeiriad: Ydwyf.

Page 6: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Presentation

SITParish Representatives:

Bishop June, as the Parish Representatives we have been part of the selection process, seeking a new priest to serve in this benefice.

In the Parish Profile it was said that we wished to appoint someone with the following qualities:

A natural collaborator Outward-looking & ready to build on existing

outreach in the Ministry Area Willing to celebrate diversity, & embrace a wide

range of worship styles Personally reilient and spiritually well resourced

After prayerful consideration and a careful, open process Charlotte has been chosen to fulfil this rôle. We now present her to you and ask you to admit her to this cure of souls.

Bishop: I thank you for your presentation and for the prayer and discernment that lie behind it.

The archdeacon briefly introduces the new Ministry Area Leader.

Bishop: Churchwardens and people of this Benefice, do you welcome Charlotte as your new Ministry Area Leader?

All: We do

Bishop: Will you share with Charlotte in Christ’s mission and in pastoral care?

All: We will

Bishop Charlotte, do you believe you are called by God to the pastoral and spiritual care of this Ministry Area?

Priest: I do.

Page 7: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Y Weddi Agoriadol

Esgob: Gweddïwn.

Dad nefol, a eneiniaist dy Fab Iesu Grist â’r Ysbryd Glân ac â nerth i ddwyn i’r byd bendithion dy deyrnas: eneinia dy Eglwys â’r un Ysbryd Glân, fel y gallwn ni sy’n rhannu ei ddioddefaint a’i fuddugoliaeth ddwyn tystiolaeth i efengyl iachawdwriaeth; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, un Duw, yn awr a hyd byth. Amen.

Amen

Cyhoeddi’r Gair

Darlleniad o’r Hen Destament

Darlleniad o lyfr y proffwyd EseiaY mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion; i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru, a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant. Ailadeiladant hen adfeilion, cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd; atgyweiriant ddinasoedd diffaith ac anghyfanedd-dra llawer oes. Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd, ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr. Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD, a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni; cewch fwyta o olud y cenhedloedd ac ymffrostio yn eu cyfoeth. Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid. “Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy. Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd, a'u hil ymhlith y bobloedd; bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabod yn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.” Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd

Page 8: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof, fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.

Page 9: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Opening Prayer

Bishop: Let us pray.

Heavenly Father, who anointed your Son Jesus Christ with the Holy Spirit and with power to bring to the world the blessings of your kingdom: anoint your Church with the same Holy Spirit, that we who share in his suffering and his victory may bear witness to the gospel of salvation; through Jesus Christ your Son our Lord, who is alive and reigns with you, in the unity of the Holy Spirit, one God, now and for ever.Amen

The Liturgy of the WordAn Old Testament Reading

A reading from the book of the prophet Isaiah

The spirit of the Lord GOD is upon me, because the LORD has anointed me; he has sent me to bring good news to the oppressed, to bind up the broken-hearted, to proclaim liberty to the captives, and release to the prisoners; to proclaim the year of the LORD’s favour, and the day of vengeance of our God; to comfort all who mourn; to provide for those who mourn in Zion—to give them a garland instead of ashes, the oil of gladness instead of mourning, the mantle of praise instead of a faint spirit. They will be called oaks of righteousness, the planting of the LORD, to display his glory. They shall build up the ancient ruins, they shall raise up the former devastations; they shall repair the ruined cities, the devastations of many generations. Strangers shall stand and feed your flocks, foreigners shall till your land and dress your vines; but you shall be called priests of the LORD, you shall be named ministers of our God; you shall enjoy the wealth of the nations, and in their riches you shall glory. Because their shame was double, and dishonour was proclaimed as their lot, therefore they shall possess a double portion; everlasting joy shall be theirs. For I the LORD love justice, I hate robbery and wrongdoing; I will faithfully give them their recompense, and I will make an everlasting covenant with them. Their descendants shall be known among the nations, and their offspring among the peoples; all who see

Page 10: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

them shall acknowledge that they are a people whom the LORD has blessed. I will greatly rejoice in the LORD, my whole being shall exult in my God; for he has clothed me with the garments of

Page 11: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd. (Eseia 61. 1-11)

Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys I Dduw y bo’r diolch.

Bydd distawrwydd ar ôl y darlleniad.

Darlleniad o’r Testament Newydd

Darlleniad o’r Llythyr Paul at y Philipiaid

Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a'm cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o'm heiddo fy hun sy'n tarddu o'r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd. Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef, fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw. Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu'r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu. Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu. (Philipiaid 3. 7-14)

Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys I Dduw y bo’r diolch.

Y Bregeth

Page 12: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

salvation, he has covered me with the robe of righteousness, as a bridegroom decks himself with a garland, and as a bride adorns herself with her jewels. For as the earth brings forth its shoots, and as a garden causes what is sown in it to spring up, so the Lord GOD will cause righteousness and praise to spring up before all the nations. (Isaiah 61. 1-11)

Hear what the Spirit is saying to the Church.Thanks be to God.

Silence follows the reading

A hymn or psalm may be sung

A New Testament Reading

A reading from the letter of St Paul to the PhilippiansYet whatever gains I had, these I have come to regard as loss because of Christ. More than that, I regard everything as loss because of the surpassing value of knowing Christ Jesus my Lord. For his sake I have suffered the loss of all things, and I regard them as rubbish, in order that I may gain Christ and be found in him, not having a righteousness of my own that comes from the law, but one that comes through faith in Christ, the righteousness from God based on faith. I want to know Christ and the power of his resurrection and the sharing of his sufferings by becoming like him in his death, if somehow I may attain the resurrection from the dead.  Not that I have already obtained this or have already reached the goal; but I press on to make it my own, because Christ Jesus has made me his own. Beloved, I do not consider that I have made it my own; but this one thing I do: forgetting what lies behind and straining forward to what lies ahead, I press on towards the goal for the prize of the heavenly call of God in Christ Jesus. (Philippians 3. 7-14)

Hear what the Spirit is saying to the Church.Thanks be to God.

The Sermon

Page 13: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Y Trwyddedu

DATGANIAD O GYDSYNIAD.

Mae’r darpar Offeiriad mewn Gofal yn sefyll o flaen yr Esgob

Dywed y’r Esgob:Mae’r Eglwys yng Nghymru yn rhan o’r Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig sy’n addoli’r un gwir Dduw, Tad, Mab ac Ysbryd Glân. Mae’n arddel y Ffydd a ddatguddir yn unigryw yn yr Ysgrythur Lân ac a draethir yn y Credoau Catholig; hon yw'r Ffydd y gelwir ar yr Eglwys i'w chyhoeddi ym mhob cenhedlaeth. Dan arweiniad yr Ysbryd Glân, mae wedi tystiolaethu i'r gwirionedd Cristnogol a'i ffurfiaduron hanesyddol, y Deugain Erthygl Crefydd namyn Un, Y Llyfr Gweddi Gyffredin a Threfn Ordeinio Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid. Charlotte yn y datganiad yr wyt ar fin ei gyhoeddi, a wnei di gydnabod dy ffyddlondeb i'r ffydd hon fel y bydd yn ysbrydoliaeth ac yn arweiniad i ti dan Dduw i gyflwyno gras a gwirionedd Crist i'r genhedlaeth hon, a'i wneud Ef yn hysbys i'r rhai hynny a fydd dan dy ofal?

Dywed yr Offeiriad Newydd mewn Gofal:Yr wyf yn ddifrifol ddatgan fy nghred yn y Ffydd a ddatguddir yn yr Ysgrythur Lân ac a draethir yn y Credoau Catholig ac y tystiolaethir iddi yn y ffurfiaduron hanesyddol, sef y Deugain Erthygl Crefydd namyn Un, y Llyfr Gweddi Gyffredin, a Threfn Ordeinio Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid a gyhoeddwyd yn 1664 ac mewn gweddi gyhoeddus ac wrth weinyddu’r Sacramentau, defnyddiaf y gwasanaethau hynny a ganiateir dan awdurdod cyfreithlon, a’r rhai hynny yn unig. Yr wyf, trwy hyn, yn cytuno i ymrwymo i Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, ac i dderbyn a chyflawni yn ufudd unrhyw ddedfryd neu ddyfarniad a roddir arnaf ar unrhyw adeg gan yr Archesgob, Esgob yr Esgobaeth neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru neu dribiwnlys yr Eglwys Yng Nghymru.

DATGANIAD O UFUDD-DOD CANONAIDD

Dywed yr Offeiriad ȃ Gofal Newydd:Yr wyf i, Charlotte Rushton, yn ddifrifol ddatgan y rhoddaf ufudd-dod llwyr a chanonaidd i Esgob Llandaf, ac i'w

Page 14: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

holynwyr, ym mhob peth cyfreithlon a gonest. Duw a fo'n gymorth i mi

Arwyddir y datganiad gan Arweinydd newydd yr Ardal gweinidogaeth

Page 15: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Licensing

THE DECLARATION OF ASSENT

The Ministry Area Leader designate stands before the Bishop

The Bishop says:The Church in Wales is part of the one, Holy Catholic and Apostolic Church worshipping the one true God, Father, Son and Holy Spirit. It professes the Faith uniquely revealed in the Holy Scriptures and set forth in the Catholic Creeds, which faith the Church is called upon to proclaim afresh in each generation. Led by the Holy Spirit, it has borne witness to Christian truth in its historic formularies, the Thirty-nine Articles of Religion, the Book of Common Prayer and the Ordering of Bishops, Priests and Deacons. Charlotte in the declaration you are about to make, will you affirm your loyalty to this inheritance of Faith as your inspiration and guidance under God in bringing the grace and truth of Christ to this generation, and making Him known to those in your care?

The new Priest in Charge says:I do solemnly declare my belief in the Faith which is revealed in Holy Scripture and set forth in the Catholic Creeds and to which the historic formularies, namely the Thirty-nine Articles of Religion, the Book of Common Prayer, and the Ordering of Bishops, Priests, and Deacons as published in 1662, bear witness; and in public prayer and the administration of the Sacraments, I will use only those forms of service which are allowed by lawful authority, and none other. And I hereby undertake to be bound by the Constitution of the Church in Wales, and to accept, submit to, and carry out any sentence or judgement which may at any time be passed upon me by the Archbishop, a Diocesan Bishop or any Court or the Tribunal of the Church in Wales.

THE DECLARATION OF CANONICAL OBEDIENCE

The Priest in Charge designate says:

I, Charlotte Rushton, do swear by Almighty God that I will pay true and canonical obedience to the Bishop of Llandaff,

Page 16: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

and her successors, in all things lawful and honest. So help me God.

The new Ministry Area Leader signs the declaration

Page 17: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Darllenir y Trwydded gan yr Esgob a’i rhoddir i Arweinydd newydd yr Ardal Gweinidogaeth gan ddweud:

Charlotte, derbyn y trwydded hwn i wasanaethu yn Ardal Gweinidogaeth Pontypridd ac i weinyddu gofal bugeiliol ac ysbrydol ynddo. Yn enw'r Tad a'r Mad a'r Ysbryd Glân. Amen.

Bydd yr Esgob yn gweddïo dros y gweinidog newydd:

Hollalluog Dduw, dyro i’th wasanethferch Charlotte ras i gyflawni ei gweinidogaeth yn y lle hwn. Dyro iddi barch wrth weinyddu’r sacramentau, ffyddlondeb wrth gyhoeddi dy air, gofal wrth fugeilio, tynerwch wrth gysuro, nerth wrth iacháu clwyfau pobl Dduw, a gostyngeiddrwydd, hunan-aberth a gwroldeb ym mhob peth; a bendith Duw Hollalluog, y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân a fo gyda thi yr awr hon a hyd byth.Amen

Symbolau’r WeinidogaethEISTEDD

Cyflwynir symbolau o’r weinidogaeth Gristnogol fugeiliol a litwrgaidd i’r Offeiriad-mewn-gofal newydd gan aelodau o’r Gymuned Gristnogol Bydd aelod o’r plwyf yn cyflwyno Stola gan ddweud:

Charlotte, derbyn y Stola hon a bydd yn ein plith yn fugail ac yn offeiriad.

Esgob: Mae’r Stola hon yn symbol o’th weinidogaeth offeiriadol. A wnei di osod y Bugail Da o’th flaen bob amser yn batrwm i’th alwedigaeth, a gofalu am y bobl a roddir dan dy ofal?

Offeiriad: Gwnaf, â’r Arglwydd yn gymorth i mi.

Byddwn yn gweddïo drosot ac yn dy gynnal yn y weinidogaeth hon.

Page 18: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Bishop reads the Licence and gives it to the new Ministry Area Leader saying:

Charlotte, receive this licence to minister in this Ministry Area of Pontypridd, and to exercise pastoral and spiritual care within it. In the name of the Father and of the Son and of the Holy Spirit. Amen

The Bishop prays for the new Ministry Area Leader:

Almighty God give to your servant Charlotte grace to fulfil her ministry here. Give her reverence in celebrating the sacraments, faithfulness in proclaiming your word, diligence in pastoral care, tenderness in comforting, power in healing the wounds of God’s people and humility, self-sacrifice and courage in all things. And the blessing of God Almighty, the Father, the Son and the Holy Spirit, be upon you and remain with you always. Amen

Symbols of the Ministry

Various symbols of the Christian pastoral and liturgical ministry are presented to the new Priest in Charge by members of the christian community.

A parishioner presents the Stole saying:

Charlotte, receive this stole, and be among us as our pastor and priest.

Bishop: The stole is a symbol of your priestly ministry. Will you always set the Good Shepherd before you as the pattern of your calling, caring for the people committed to your charge?

Priest: I will, the Lord being my helper.

We will pray for you and support you in this ministry.

Page 19: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Bydd aelod o’r plwyf yn cyflwyno llestr o ddŵr gan ddweud:

Charlotte, bydded i'r dŵr hwn dy atgoffa o weinidogaeth bedydd yr wyt yn ei rhannu â’r Esgob.

Archddiacon: Dy fraint a’th gyfrifoldeb yw dod ag aelodau newydd i’r Eglwys trwy fedydd sanctaidd, a’u cyflwyno, pan ddaw’r amser, i’r Esgob i’w conffyrmio. A wnei di gynnal a meithrin yr ifanc a’r hen a ddaw atat i dderbyn y sacrament hwn, fel y gallant rodio o dywyllwch i oleuni, a chynyddu mewn ffydd a sancteiddrwydd?

Offeiriad: Gwnaf, â’r Arglwydd yn gymorth i mi.

Byddwn yn gweddïo drosotac yn dy gynnal yn y weinidogaeth hon.

Bydd aelod o’r plwyf yn cyflwyno Beibl gan ddweud:

Charlotte, derbyn yr Ysgrythur Lân, a bydd yn barod i glywed Gair Duw a’i gyhoeddi yn ein plith.

Deon Bro: Braint holl bobl Dduw yw atgyfnerthu eu ffydd trwy ddarllen a myfyrio ar Air Duw. A wnei di, wrth addysgu a phregethu, fod yn weinidog cywir i air sanctaidd Duw?

Offeiriad: Gwnaf, â’r Arglwydd yn gymorth i mi.

Byddwn yn gweddïo drosot ac yn dy gynnal yn y weinidogaeth hon.

Bydd aelod o’r plwyf yn cyflwyno Cwpan a Phlât Cymun gan ddweud:

Charlotte, derbyn y bara a'r gwin hwn, a llywydda’n ostyngedig a pharchus yng ngwasanaeth y Cymun Bendigaid pan gyfarfyddwn i gyhoeddi a dathlu marwolaeth ac atgyfodiad yr Arglwydd.

Page 20: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

A parishioner presents a large vessel of water saying:

Charlotte, let this water remind you of the ministry of baptism that you share with the bishop.

Archdeacon: It is your privilege and responsibility to bring new members into the Church by holy baptism, and to present them at the appropriate time to the Bishop to be confirmed. Will you support and nurture those, both young and old, who come to receive this sacrament that they may pass from darkness to light, and grow in faith and holiness of life?

Priest: I will, the Lord being my helper.

We will pray for you and support you in this ministry.

A parishioner presents a Bible saying:

Charlotte, accept the Holy Scriptures, and be ready to hear and proclaim the word of God among us.

Area Dean: It is the privilege of all God’s people to deepen their faith by reading and meditating on the word of God. Will you, in your teaching and preaching, be a diligent minister of God’s holy word?

Priest: I will, the Lord being my helper.

We will pray for you and support you in this ministry.

A parishioner presents a Chalice and Paten saying:

Charlotte, receive this bread and wine, and preside with humility and reverence at the celebration of the Eucharist when we meet to show forth and celebrate the death and resurrection of the Lord.

Page 21: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Archddiacon: Braint a chyfrifoldeb yr offeiriad yw arwain y bobl trwy lywyddu yng ngwasanaeth y Cymun. A wnei di hyn yn llawen ac o'th wirfodd?

Offeiriad: Gwnaf, â’r Arglwydd yn gymorth i mi.

Byddwn yn gweddïo drosot yn y weinidogaeth hon ac yn cyfranogi’n ffyddlon ac yn fynych o’r Cymun Bendigaid. Wedi’n maethu â sacrament Corff a Gwaed Crist, awn allan i’r byd i fyw ac i weithio er mawl a gogoniant i’w Enw.

Bydd aelod o’r plwyf yn cyflwyno llestr o Olew gan ddweud:

Charlotte, cymer yr olew hwn yn arwydd inni gael ein cymodi a’n hiacháu yng Nghrist.

Deon Bro: Braint a chyfrifoldeb yr offeiriad yw gwasanaethu’r bobl sydd yn ei gofal gydol eu bywydau: cyhoeddi bendith Duw ar y rhai sy'n priodi, cynghori'r trallodus, gofalu am y cleifion, rhoi gollyngdod i'r edifeiriol, gweinyddu defodau angladdol yr Eglwys, a chysuro'r rhai sy'n galaru. Disgwylir i ti fod yn arwydd o iachâd a chymod i'th bobl; hyfforddi pawb dan dy ofal yn nysgeidiaeth Crist, a hyrwyddo, trwy air ac arfer da, dangnefedd ac undod yr Eglwys. A wnei di hyn yn llawen ac o'th wirfodd?

Offeiriad: Gwnaf, â’r Arglwydd yn gymorth i mi.

Byddwn yn gweddïo drosot ac yn dy gynnal yn y weinidogaeth hon. Gyda’n gilydd, fe weithiwn i atgyfnerthu ac adeiladu bywyd yr Eglwys yn y lle hwn, a’r Arglwydd yn gymorth i ni

Page 22: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Archdeacon: It is the privilege and responsibility of the priest to preside and lead the people in the celebration of the Eucharist. Will you do this gladly and willingly?

Priest: I will, the Lord being my helper.

We will pray for you in this ministry and will participate faithfully and frequently in the celebration of the Eucharist, that, nourished by the sacrament of Christ’s body and blood, we may go out into the world to live and work to his praise and glory.

A parishioner presents a vessel of Oil saying:

Charlotte, take this oil, and be a sign of our reconciliation and healing in Christ.

Area Dean: It is the privilege and responsibility of the priest to serve the people in her care at every stage of their lives: to pronounce God’s blessing on those who marry, to counsel the distressed and care for the sick, to absolve the penitent, to celebrate the funeral rites of the Church, and to console the bereaved. You are to be a sign of healing and reconciliation to your people, to instruct all in your care in the teachings of Christ, and to promote by word and good example the peace and unity of the Church. Will you do these things gladly and willingly?

Priest: I will, the Lord being my helper.

We will pray for you and support you in this ministry. We will seek to strengthen and build up the life of the Church in this place, the Lord being our helper.

Page 23: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Mae’r Archddiacon yn arwain yr Offeiriadmewn-Gofal newydd i’w sedd ac yn dweud:

Charlotte, trwy ras Duw cyflawna’r weinidogaeth hon yr wyt wedi dy alw a dy benodi iddi.

Y Deon Bro: Yn enw Offeiriaid a phobl y Ddeoniaeth hon, croesawaf di i ymuno â ni wrth inni geisio hyrwyddo cenhadaeth Duw yn y rhan hon o’r Esgobaeth.

Esgob: Frodyr a chwiorydd, dathlwn yn llawen ddyfodiad offeiriad newydd i'r plwyf hwn.Yr ydym yn dy groesawu yn enw’r Arglwydd.

Croesawir Arweinydd newydd yr Ardal Gweinidogaeth â chymeradwyaeth wresog.

Y TangnefeddSEFYLL

Bydd Charlotte yn cyflwyno’r Tangnefedd

Corff Crist ydym ni. Mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff. Gadewch inni, felly, geisio’r pethau sy’n arwain i heddwch, ac sy’n nerthu ein bywyd fel cymuned. Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser.

A hefyd gyda thi.

Bydd y gynulleidfa’n cyfnewid arwydd o dangnefedd.

Page 24: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Archdeacon leads the new Ministry Area Leader to her stall and says:Charlotte, by God’s grace fulfil this ministry to which you have been called and appointed

The Area Dean: In the name of the clergy and people of this Deanery, I welcome you as you join us in ourendeavour to serve God’s mission in this part of the

Diocese.

Bishop: My brothers and sisters, we joyfully celebrate the arrival of a new parish priest among us.

We welcome you in the name of the Lord.

The congregation greets the new Priest-in-Charge with a round of applause.

The PeaceSTAND

The new Priest in Charge introduces the Peace:

We are the body of Christ. In the one Spirit we were all baptised into one body. Let us pursue all that makes for peace and strengthens our common life.The Peace of the Lord be with you always.And also with you.

A sign of peace is exchanged among the congregation

Page 25: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Y Gweddïau EISTEDD

NEU BENLINIO

Bydd yr Offeiriad mewngofal yn gwahodd pawb i weddïo. Bydd yr ymbiliau’n dilyn

Bydd y Gweddïau’n cloi â Gweddi’r Arglwydd.

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,sancteiddier dy enw;deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys;megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.A maddau i ni ein dyledion,fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.Ac nac arwain ni i brofedigaeth;eithr gwared ni rhag drwg.Canys eiddot ti yw’r deyrnas,a’r gallu a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

Bydd yr Offeiriad mewn Gofal yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau a hefyd yn cyhoeddi gwasanaethau’r Sul canlynol yn y plwyf.

Bendith ac Anfon AllanSEFYLL

Esgob: Yr Arglwydd a fo gyda chwi.A hefyd gyda thi.

Esgob: Bydded i’r Hollalluog Dduw, sydd, er iachawdwriaeth y byd, yn rhoi i’w bobl amryw ddoniau a gweinidogaethau er mawl a gogoniant i’w enw, gyffroi ynoch ddoniau ei ras a’ch cynnal bob un yn ei weinidogaeth ei hun; a bendith Duw Hollalluog, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.

Esgob: Ewch mewn tangnefedd i garu a gwasanaethu'r Arglwydd.

Page 26: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

Yn enw Crist. Amen.

Page 27: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The IntercessionsSIT OR KNEEL

The new Priest invites all to pray. The prayers may be led by a member of the congregation or the new Priest-in-Charge. Prayers of intercession follow.

The Prayers conclude with the Lord’s Prayer.

Our Father, who art in heaven,hallowed be thy name;thy kingdom come;thy will be done;on earth as it is in heaven. Give us this day our daily bread,and forgive us our trespasses,as we forgive those who trespass against us.And lead us not into temptation,but deliver us from evil.For thine is the kingdom,the power and the glory, for ever and ever. Amen

The new Priest in Charge announces any notices and the services in the parish for the following Sunday

The Blessing and DismissalSTAND

Bishop: The Lord be with you.And also with you

Bishop: Almighty God, who for the salvation of the world gives to his people many gifts and ministries for the advancement of his glory, stir up among you the gifts of his grace, and sustain each one of you in your own ministry; and the blessing of God Almighty, the Father, the Son and the Holy Spirit, be amongst you and remain with you always. Amen.

Bishop: Go in peace to love and serve the Lord.In the name of Christ. Amen.

Page 28: Esgobaeth Llandaf : Diocese of Llandaff  · Web view2021. 4. 29. · Esgobaeth Llandaf :Diocese of Llandaff. Celebration of a New Ministry. Dathlu Gweinidogaeth Newydd. The Licensing

The Bible reading are copyright ©New Revised Standard Version Bible: Anglicized Edition, copyright 1989,

1995, Division of Christian Education of the National Council of the Churches of Christ in the United States of America. Used by permission.

All rights reserved.’© Cymdeithas y Beibl 2004

© British and Foreign Bible Society 2004