Upload
halle
View
50
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion !. Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg amgylcheddol. Helo!. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Eich cyfle chi i fabwysiadu eich bylbiau eich hun a chymryd rhan mewn project addysg
amgylcheddol.
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion!
Helo!
Athro’r Ardd ydw i!
Rwy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru –National Museum Wales yng Nghaerdydd. Rwy’n astudio planhigion a natur yn adran fotanegol yr amgueddfa.
Rwy’n ysgrifennu i ofyn os fedrwch chi fy helpu gydag ymchwiliad natur pwysig.
Mae clociau byd natur wedi drysu!
Mae blodau yn agor yn
gynharach
Mae dail ar goed yn agor yn gynharach
Weithiau gellir gweld pryfed fel
gwenyn drwy gydol y flwyddyn
Mae adar fel y wennol yn cyrraedd i’r DG yn gynharach
bob blwyddyn.
Ond pam…
Mae’r Tymheredd yn newid!Mae ein byd yn cynhesu! Mae gwyddonwyr yn dweud bod ein hinsawdd yn newid ac mai llygredd sydd ar fai.
Y newid yn yr hinsawdd sy’n newid ein tymhorau ac sy’n drysu cloc byd natur.
Sut all newidiadau yn y tymheredd effeithio’r byd natur?
• Edrychwch ar y gadwyn fwyd hon. Beth fyddai’n digwydd i’r gadwyn fwyd hon petai’r lindys yn tyfu ac yn hedfan i ffwrdd
cyn i’r cyw gael ei eni?
Deilen Dderwen Lindys Gwyfyn y Gaeaf Cyw Titw Tomos Las
Yn ôl cofnodion a gasglwyd dros y 200 mlynedd diwethaf, mae’r gwanwyn yn digwydd yn gynharach bob blwyddyn!
Mae pobl wedi bod yn astudio planhigion ac anifeiliaid ers cryn amser.
Byddai’n rhaid i’r helwyr cynnar wybod pryd fyddai haid o anifeiliaid yn pasio heibio, a byddai’n rhaid i ffermwyr wybod pryd i hel eu cnydau.
Heddiw, bydd cofnodion yn cael eu cadw mewn amgueddfeydd, gerddi botanegol a phrifysgolion.
Gallwch chi gadw cofnodion hefyd- ewch i http://www.naturedetectives.org.uk/ am fwy o wybodaeth!
Anheddiad Hela a Physgota 9,000 o flynyddoedd yn ôl
Mae bylbiau’r gwanwyn yn offer gwych i fesur newidiadau yn ein tymhorau gan eu bod yn sensitif iawn i newidiadau
mewn tymheredd.
Os ceir gwanwyn oer, bydd blodau yn agor yn hwyrac os cawn wanwyn cynnes, bydd blodau yn tyfu ac yn agor yn
gynharach.
Cennin Pedr ar y 1af o Chwefror (1917-1926)
Allwch chi dyfu eich bylbiau cennin Pedr a saffrwm a chofnodi pryd maent yn ymagor?
Allwch chi helpu?
Allwch chi gadw cofnodion
o'r tywydd a'u rhoi ar y we?
Siart dywydd ar-lein Map blodeuo ar-lein sy'n
dangos pa flodau sydd wedi ymagor ym mha ysgolion
Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw
cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth
hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
Gwyddonwyr Gwych!
Os allwch helpu…
Byddwch yn derbyn eich pot a bylbiau eich hun a gweithio tuag at gael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych
+ cyfle i ennill trip diwrnod i’ch dosbarth.
Ymunwch â ni!
• Os hoffech helpu, gallaf drefnu i’m cyfeillion anfon bylbiau atoch er mwyn i chi fedru fy helpu gyda’r ymchwiliad hwyliog ond pwysig hwn.
Yn gywir,
Athro’r Ardd .