24
Ebrill 2015 April 2015 Croeso i rifyn mis Ebrill o 'Seren Syr Hugh', a'r cyntaf o 2015! Roedd 2014 yn flwyddyn prysur iawn i’r ysgol, croesawyd ein Pennaeth newydd, derbynwyd canlyniadau arholiadau llwyddiannus a llawer mwy. Mae’r rhifyn cyntaf o’r ‘Seren’ 2015 yn dangos y bydd hon hefyd yn flwyddyn gyffroes a llwyddiannus, felly beth am wneud Ysgol Syr Hugh a’r flwyddyn yma yn flwyddyn i’w chofio! Welcome to this month’s edition of ‘Seren Syr Hugh’, and the first of 2015! 2014 was a busy year for the school, we welcomed our new head teacher, successful exam results were achieved and much more. ‘Seren’s’ first 2015 edition shows that this year will be equal, if not better for our pupils, therefore lets make this a year to remember! 1

Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

  • Upload
    ngominh

  • View
    225

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Ebrill 2015

AApprriill 22001155

Croeso i rifyn mis Ebrill o 'Seren Syr Hugh', a'r cyntaf o 2015! Roedd 2014 yn flwyddyn prysur iawn i’r ysgol, croesawyd ein Pennaeth newydd, derbynwyd canlyniadau arholiadau llwyddiannus a llawer mwy. Mae’r rhifyn cyntaf o’r ‘Seren’ 2015 yn dangos y bydd hon hefyd yn flwyddyn gyffroes a llwyddiannus, felly beth am wneud Ysgol Syr Hugh a’r flwyddyn yma yn flwyddyn i’w chofio!

Welcome to this month’s edition of ‘Seren Syr Hugh’, and the first of 2015! 2014 was a busy year for the school, we welcomed our new head teacher, successful exam results were achieved and much more. ‘Seren’s’ first 2015 edition shows that this year will be equal, if not better for our pupils, therefore lets make this a year to remember!

1

Page 2: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

“Dawnsio i’r Bît” oedd hanes disgyblion Bl 7 & 8 yn y disgo blynyddol cyn i’r ysgol gau am y Nadolig. Mae’r disgo yn rhan annatod o galendr y flwyddyn ysgol bellach a’r cyfrifoldeb am y trefniadau yn disgyn ar ysgwyddau tebol disgyblion y Chweched. Cafodd pawb amser da iawn a diolch Shannon, Ffion, Ela, Casey, Kevin a Tomos am drefnu.

“Dancing to the beat” is what we saw in the annual school disco for yrs 7 & 8. The disco has firmly established itself in the school diary by now and the responsibility for organising the event went to the capable Sixth formers. Everyone thoroughly enjoyed the disco and thanks to the Shannon, Ffion, Ela, Casey, Kevin and Tomos for organising the event.

Bu criw o fyfyrwyr y Chweched Dosbarth yn brysur yn tref-nu disgo Nadolig i ddiddanu holl ddisgyblion Ysgol Pendal-ar eto eleni. Daeth dros 90 o ddisgyblion i fwynhau pryn-hawn hwyliog o ddawnsio a chwrdd â Siôn Corn a chael anrheg ganddo yn Neuadd Ysgol Syr Hugh Owen. Diolch i Alaw, Mali, Tia, Ela a Mia am eu gwaith.

A group of Sixth Form Students busily organised a Christmas Disco to entertain all Ysgol Pendalar pupils again this year. Over 90 pupils came to the Ysgol Syr Hugh Owen hall to enjoy an afternoon of dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause and recive a gift from him. Thanks to Alaw, Mali, Tia, Ela and Mia for their hard work.

2

Page 3: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Comic Relief is a charity known for raising money for the poorest and most disadvantaged people in Africa, Wales, and the rest of the UK. This year, a group of six form pupils organized the highly successful Red Nose Day. 120 red noses were sold and several cakes were eaten during the day. Pupils also wore 'red'clothes to school. In front of a packed school hall, two teams of brave teachers came together to take part in the quiz hosted by Mrs Rhian Parry Jones. Congratulations to the Headmaster, Mrs Lora Stephen, Mrs Sioned Glyn, and Mr Tristan Thomas on their victory. Special thanks to Mr John Gareth Williams, Mr Gareth Evans, Mr Ted Stephen and Mr Sion Jones for being so brave with the custard pies! A total of £1,121 was collected.

Diwrnod o hwyl yn codi arian ar gyfer pobol tlotaf a mwyaf difreintiedig Affrica, Cymru, a gweddill Prydain yw elusen Comic Relief. Eleni, bu gr p o'r chweched yn trefnu’r diwrnod Trwynau Coch a fu’n hynod lwyddiannus. Gwerthwyd 120 o drwynau coch a chafodd sawl cacen ei bwyta yn ystod y dydd. Yn ogystal a hyn, codwyd dirwy am gael gwisgo dillad ‘coch’. Gwelwyd y neuadd dan ei sang wrth i ddau dîm o athrawon dewr ddod ynghyd i gymryd rhan yn y Cwis dan ofal Mrs Rhian Parry Jones. Llongyfarchiadau i’r Prifathro, Lora Stephen, Sioned Glyn a Tristan Thomas ar eu buddugoliaeth, a diolch i John Gareth Williams, Gareth Evans, Ted Stephen a Sion Jones am fod mor ddewr gyda’r slepjans! Llwyddwyd i gasglu £1,121 i'r elusen.

3

Page 4: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Diolch yn fawr iawn i Ysgol Syr Hugh Owen am eich cydweithrediad a’ch parodrwydd i ryddhau cerddorion ifanc Seindorf Ieuenctid Beaumaris o’r ysgol ddydd Llun a dydd Mawrth ym mis Tachwedd, 2014 ar gyfer cyngerdd y Schools Prom. Roedd eu perfformiad yn y Royal Albert Hall nos Lun yn wefreiddiol ac wedi achosi i fwy nag un rhiant golli mwy nag un deigryn!

Mae hi’n anodd egluro’r ymateb gafodd y cerddorion, ond teg yw dweud eu bod wedi creu tipyn o argraff ar y gynulleidfa o rieni a chyd-gerddorion ifanc yn ogystal ag ar rai o wybodusion y byd cerddoriaeth.

Thank you very much Ysgol Syr Hugh Owen for your co-operation and willingness to release young Beaumaris Youth Band musicians from school on Monday and Tuesday in November, 2014 for the Schools Proms Concert. Their performance at the Royal Albert Hall on Monday night was thrilling and caused more than one parent to lose a few tears!

It's difficult to explain the response the musicians received on the night, but it’s fair to say they created quite an impression on the audience of parents and fellow young musicians as well as some of the world’s most famous musicians.

Llongyfarchiadau mawr i Jac Williams, Bl.9. Cafodd ei wobrwyo fel chwarewr mwyaf addawol 2014 gan Fand Deiniolen.

Mae Jac yn chwarae’r Corn gyda Band Deiniolen a band yr ysgol ac yn amlwg iawn yn mwynhau. Dal ati Jac, da iawn chdi.

Congratulations Jac Williams, Yr.9. He has been awarded most promising player of 2014, an award that was given to him by Band Deiniolen. Jac plays

the Horn for the Band and the school’s Band. It’s clear to see the enjoyment he has and will surely go on to bigger and better things. Well

done Jac, keep going!

4

Page 5: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Llongyfarchiadau i Betsan, Emyr, Tomos Owen a Mirain o’r Chweched dosbarth ar gael eu dewis i fod yn rhan o’r cast ar gyfer cynhyrchiad newydd o Les Misérables. Cynhyrchiad ar y cyd fydd hwn, rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Ysgol Glanaethwy a Phrifysgol Dewi Sant i ddathlu deng mlynedd ers agor Canolfan Mileniwm Cymru a Gwersyll Caerdydd. Bydd y pedwar yn cael profiad o fod yn rhan o un o sioeau cerdd mwyaf adnabyddus y byd ar un o lwyfannau amlycaf Cymru yn ystod mis Hydref 2015. Mwynhewch y profiad!

Congratulations to Betsan, Emyr, Tomos Owen and Mirain from the sixth form for being selected as members of the cast of the new production of Les Misérables. This will be a co-production between the Millenium Centre Cardiff, the Urdd, Ysgol Glanaethwy and St David’s University to celebrate the tenth anniversary of the opening of the Millenium Centre and the Cardiff Urdd Camp. The four will have the fantastic opportunity of being in the cast of one of the world’s most famous musicals during October 2015. Enjoy the experience!

Derbyniodd Dewi yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol “Dylanwad Deg” Dylan Thomas am ei gerdd “Cryndod Christchurch”. Aeth Dewi i’r seremoni wobrwyo yn Abertawe a gafodd ei ragflaenu gan weithdy cyfansoddi barddoniaeth. Ymysg y llenorion a’r enwogion, cafodd Dewi y cyfle i fod yng nghwmni Anni Llyn a Bethan Gwanas! Gwefr yn wir! Da iawn chdi!

Dewi Morgan received the second prize at the Dylan Thomas International Competition "Influence of Flying" for his poem "Trembling Christchurch". Dewi went to the awards ceremony in Swansea which was preceded by a workshop composing poetry. Among the writers and celebrities, Dewi had the opportunity be in the company of Anni Llyn and Bethan Gwanas! Well done!

5

Page 6: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Unawd Bechgyn bl 10 a dan 19 oed Emyr Lloyd Jones 1af

Parti Bechgyn bl 7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 1af

Côr Merched SA bl 13 ac iau Ysgol Syr Hugh Owen 1af

Côr Bechgyn TB bl 13 ac iau Ysgol Syr Hugh Owen 1af

Côr SATB, bl 13 ac iau Ysgol Syr Hugh Owen 1af

Cyflwyno Alaw Werin, bl 7, 8 a 9 Fflur Davies 1af

Cyflwynor Alaw Werin, bl 10 a dan 19 Emyr Lloyd Jones 1af

Unawd Cerdd Dant bl 10 a dan 19 Mali Fflur 1af

Ensemble, bl 7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 1af

Parti Merched bl 7,8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 2il

Côr SATB bl 7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 2il

Unawd Prês, bl 7, 8 a 9 Ela Haf Williams 2il

Unawd Telyn, bl7, 8 a 9 Ela Haf Davies 2il

Unawd Prês, bl 10 a dan 19 William Porter 2il

Cerddorfa/Band dan 25 oed Ysgol Syr Hugh Owen 2il

Unawd Cerdd Dant bl 7, 8 a 9 Fflur Davies 2il

Deuawd Cerdd Dant bl 10 a dan 19 Mali ac Alaw 2il

Ymgom, bl 7, 8 a 9 Betsan, Lowri a Gwyn 2il

Ymgom bl 10 a dan 19 Lleucu a Malan 2il

Monolog bl 10 a dan 19 Emyr Lloyd Jones 2il

Unawd o Sioe Gerdd, bl 10 a dan 19 Betsan Ceiriog 3ydd

Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb ar eu llwyddiant.

Dymunwn y gorau i’r buddugwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili.

6

Page 7: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Boys Solo Yr 10 under 19 Emyr Lloyd Jones 1st

Boys Party Yrs 7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 1st

Girls Choir SA Yr 13 and younger Ysgol Syr Hugh Owen 1st

Boys Choir TB Yr 13 and younger Ysgol Syr Hugh Owen 1st

SATB Choir, Yr 13 and younger Ysgol Syr Hugh Owen 1st

Presenting a Folk Song, Yrs 7, 8 a 9 Fflur Davies 1st

Presenting a Folk Song, Yr 10 and under 19 Emyr Lloyd Jones 1st

Cerdd Dant Solo, Yr 10 and under 19 Mali Fflur 1st

Ensemble, yrs7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 1st

Girls Party yrs 7,8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 2nd

SATB choir, yr 7, 8 a 9 Ysgol Syr Hugh Owen 2nd

Brass Solo, yrs 7, 8 a 9 Ela Haf Williams 2nd

Harp Solo, yrs 7, 8 a 9 Ela Haf Davies 2nd

Brass Solo, yr 10 and under 19 William Porter 2nd

Orchestra/Band under 25 Ysgol Syr Hugh Owen 2nd

Cerdd Dant Solo, yrs 7, 8 a 9 Fflur Davies 2nd

Cerdd Dant Duet yr 10 and under 19 Mali ac Alaw 2nd

Debate, yrs 7, 8 a 9 Betsan, Lowri a Gwyn 2nd

Debate, yr 10 and under 19 Lleucu a Malan 2nd

Monologue yr 10 and under 19 Emyr Lloyd Jones 2nd

Solo from a Musical, yr 10 and under 19 Betsan Ceiriog 3rd

Congratulations to all the contestants on their achievement.

We wish all the winners the very best at the National Urdd Eisteddfod in Caerphilly.

7

Page 8: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Gwych oedd canlyniadau gwaith Celf yr Urdd Ysgol Syr Hugh Owen Dyma chi ychydig o’r gwaith fu’r plant yn ei greu a’r canlyniadau.

The Urdd’s Art & Crafts competitions were very successful for YSHO

Here are those results with pictures of their hard work. Gwaith Lluniadu 2D Bl, 7 - 9 - 1af, Tomos Owen, 2ail, Rhydian Evans, 3ydd, Christina Sam Gwaith 2D Drawing, Yrs 7 - 9 Creadigol 2D Bl.7 - 9 (Unigol) - 1af, Elan Jones, 2ail, Elin Parry, 3ydd, Elan Rowlands 2D Inidivdual Creatvie work, Yrs 7 - 9 Gwaith Creadigol 3D Bl.7 - 9 (Grwp) - 1af, Grwp Bo Leung, 2ail, Grwp Sioned, 3ydd, Grwp Alaw 3D Creative group work, Yrs 7 - 9 Gwaith Creadigol 2D Bl.7 - 9 (AA) - 1af, Callum Haines, 2ail, Kimberly Hughes 2D Creative Work, Yr 7—9 (SEN) Gwaith Creadigol 2D Bl.7 - 9 (AA Grwp) - 1af, Grwp James 2D Creative Group Work, Yr 7 - 9 (SEN) Gwaith Creadigol 3D Bl.7 - 9 (AA Grwp) - 1af, Grwp Tomos 3D Creative Group Work, Yr 7 - 9 (SEN) Dyluniad 2D Bl.7 - 9 - 1af, Osian Evans, 2ail, Caio Llyr Evans, 3ydd, Rhys Ellis 2D Design, Yrs 7 - 9 Argraffu / Addurno ar Ffabrig Bl.7 - 9 - 1af, Shannon Elias Fabric Printing, Yrs 7 - 9 Gwaith Creadigol 2D Tecstiliau Bl.7 - 9 - 1af, Elen Baines 2D Creative Textile Work, Yrs 7 - 9 Print Monocrom Bl.7 - 9 - 2ail, Catrin FFlur, 3ydd, Caio Llyr Evans Monochrome Print, Yrs 7 - 9 Print Lliw Bl.7 - 9 - 2ail, Caio Llyr Evans, 3ydd, Catrin FFlur Colour Print, Yrs 7 - 9 Cyfres o Brintiau Monocrom Bl.7 - 9 - 1af, Catrin Fflur Series of Monochrome Prints, Yrs 7 - 9 Cyfres o Brintiau Lliw Bl.7 - 9 - 2ail, Catrin Fflur Series of Colour Prints, Yrs 7 - 9 Gemwaith Bl.7 - 9 - 1af, Elan Rowlands Jewellery, Yrs 7– 9

8

Page 9: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Dydd Llun, Mawrth y 9fed, cafodd criw o flwyddyn 7 gyfle i ymuno mewn gweithdy lanteri yn yr ystafell Gelf. Cychwynodd y disgyblion am 9.15 a cawsant eu tywys cam wrth gam i greu lanteri mawr trawiadol. Gosodwyd drws a lamp i mewn yn y lanteri er mwyn gallu rhoi a diffodd y golau.

Yng Nghaernarfon, nos Iau, Mawrth 26ain, ymddangosodd crochan enfawr ger y Cei Llechi – crochan sydd wedi ei greu ar gyfer dal creadigrwydd artistiaid, awduron, cerddorion a storïwyr Cymru gyfan. Roedd y grochan yn rhan o brosesiwn gafodd ei harwain gan o gwmpas 100 o blant a gadawodd Y Galeri gan deithio drwy rai o strydoedd Caernarfon tuag at Bont yr Aber. Yno, cafodd anrheg ‘Cyfoeth o’r Môr’ ei drosglwyddo i gwch pysgota oedd yn anfon yr anrheg lawr y Fenai dan oleuni tân gwyllt arbennig iawn.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddeg oed. Fe fydd y cwch pysgota yn cyrraedd Caerdydd gyda’r anrheg ym mis Medi mewn digwyddiad mawr tu allan i Ganolfan y Mileniwm.

Yn sicr cafodd y disgyblion lawer o hwyl wrth greu’r gwaith ac roedd yn brofiad arbennig iddynt gael bod yn rhan o’r prosiect yma.

Monday March 9th saw a group of children joining a workshop on creating lanterns in the Art Department.. Work started at 9:15am and the pupils were taken step by step through the process to create large stunning lanterns. A door and lamp were placed in the lanterns so that the lights could be switched on and off.

In Caernarfon, on Thursday 26th March a large cauldron appeared by the Slate Quay - this is a cauldron created to hold the creativity of all of Wales’s artists, poets, authors and musicians. The cauldron formed part of a procession which was led by 100 children that left the Galeri to walk through Caernarfon streets towards the estuary bridge. Once there, the gift “The Sea’s Riches” was transferred onto a fishing vessel that sent the gift down the Menai Straits under a fantastic display of fireworks.

The event was held to mark the tenth anniversary of the opening of the Millenium Centre. The vessel and the gifts will arrive in Cardiff in September and will be part of an even bigger event outside the Millenium Centre.

The pupils thoroughly enjoyed the experience and it was certainly an honour for them to be part of a such an important project.

9

Page 10: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Bwriad y Diwrnod Sgiliau yw hybu medrusrwydd ein disgyblion gan eu paratoi at bob agwedd o fywyd, mae'n ddiwrnod i ganolbwyn o ar fedraudarllen, rhifedd, cyfathrebu, sgiliau gwaith, a chodi ymwybyddiaeth o bynciau pwysig. Dyma rai o'r gweithgareddau y tro yma:

Ar y Diwrnod Sgiliau ar Chwefror 23ain, cafodd Blwyddyn 7 ddiwrnod iddathlu ein iaith a'n Cymreictod. Roedd ymateb posi f y disgyblion yndangos fod llais y disgybl yn gryf dros y Gymraeg yn Ysgol Syr Hugh. Cafwydsesiynau megis dawnsio gwerin gydag Idwal Williams, gwneud bara brith,

gwahoddwyd cast Rownd a Rownd hefyd i roi gweithdai drama roedd cynhyrchwyr, actorion a phobl camera ynbritho'r coridorau! Yn bwysicaf oll, sylweddolwyd pa mor bwysig yw hein bod yn siarad yr iaith bob dydd yn yrysgol ac yn ein cymuned a sut y gall hyn wella ein gwaith yn yr ysgol.

Cawsom hefyd gyfle i gyfrannu tudalen i Bapur Dre gyda'r disgyblion yn caelsgwrs gan Glyn Tomos. Aeth criw i Stryd Llyn i holi pobl beth oedd cau CofiRoc yn ei olygu iddyn nhw! Roedd yr ymatebion yn wreiddiol a hwyliogcofiwch brynu eich copi i ddarllen yr hanes!

Yn y prynhawn daeth y peldroediwr byd enwog o Ddeiniolen, Malcolm Allendraw i gael sgwrs gyda'r disgyblion yntau yn dweud fod y Gymraeg wedibod yn hanfodol yn ei fywyd, a'i fod yn byw ac yn gweithio trwy gyfrwng yGymraeg heddiw. Mawr oedd yr holi a'r edmygu wrth iddo adrodd un stori ar ôl y llall am ei anturiaethau ac amei hiraeth am adra.

'Sut mae cynnal Ysgol Werdd' dyna oedd thema blwyddyn 8; tra roedd blwyddyn 9 yn mwynhau sesiwn ddramagyda Cat's Paw yn y Neuadd, a gweithdai Gwyddoniaeth i ddilyn.

Roedd Blwyddyn 10 ac 11 yn canolbwyn o ar sgiliau byd gwaith a chyfathrebu. Ucha wynt y diwrnod i Flwyddyn 12 a 13 oedd sesiwn 'Hawl i Holi 'gyda gwleidyddion 'go iawn'.

Heb anghofio bod odduetu 80 o ddisgyblion wedi cychywn benbore ar fws i Techniquest yn Wrecsam i gymryd rhan mewngweithgareddau Rhifedd drwy’r dydd.

Diwrnod a oedd yn llawn i'r ymylon! Diolch i'r cyfranwyr i gydac i'r holl sta ameu gwaith caled.

“Y diwrnod gorau erioed dwi wedi cael! Fe wnaeth grwp 4 gael diwrnod arbennig gyda diwrnod sgiliau. Yn y wers

gyntaf cawsom ni Ymwybyddiaeth iaith a

gwers 4 oedd fy un orau i oherwydd roedden ni’n cael cyfarfod Rownd a Rownd “

Alaw Rowlands 7E

“Hefyd mi wnes i ddysgu ond 600,000 mil o’r 3 miliwin sy’n byw yng

Nghymru sy'n siarad yr iaith. Canran y pobl sy'n

siarad cymraeg yng Nghmru yw tua 18%. Oni ddim yn hoffi y dawnsio gwerin “

Trystan Hughes 7E

“Credaf fod Techniquest yn ffordd dda i ni fwynhau

mathemateg mewn ffordd mwy difyr, a hwyliog”

Meagan Jones 7E

10

Page 11: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

The aim of the Skills Day is to improve our pupils' abilities whilst preparing them for every aspect of life; a day that allows us to concentrate on reading, numeracy, communication and work skills by increasing awareness of important subjects. Here's what was organised:

During the Skills Day on February 23rd, Year 7 had a day to celebrate being Welsh and the Welsh language. The pupils' positive reaction proved that the Welsh language is very important to them. A folk dancing session was held with Idwal Williams, they made Bara Brith and the cast of Rownd a Rownd were invited to present a drama workshop - the corridors were full of actors,

producers and cameramen! Everyone realised how important it is to speak Welsh in our school and the community and how this will help our work at school.

We were also given an opportunity to contribute a whole page of news to Papur Dre, with the children discussing this with Glyn Tomos. A group of children walked down to Pool Street to ask the shoppers their opinion on what closing Cofi Roc meant to them! The answers were both original and humorous - remember to purchase a copy so that you can read about it!

During the afternoon session Malcolm Allen, the famous footballer from Deiniolen visited the children for a chat - and he reiterated the message regarding the importance of using our language by saying how essential it had been in his life, and that he lives and works through the medium of Welsh these days. The children's admiration of him was clear as he relayed story after story of his adventures on and off the field, but also about his yearning for home.

Year 8's theme was "How to sustain the Green School" , whilst year 9 enjoyed a drama workshop session with the touring company Cat's Paw, and the science workshops that followed.

Year 10 and 11 pupils concentrated on work skills and communication. The highlight for Years 12 and 13 though was the Question Time session in the hall which entailed pupils fielding questions to 'real' MPs and AMs. Last but not least 80 pupils left for Techniquest, Wrexham at the crack of dawn to partake in Numeracy activities all day.

An absolutely jam packed day!

Thanks to the pupils for their enthusiastic response and a huge thank you to all the guests and the staff for ensuring the success of yet an- other Skills Day at Ysgol Syr Hugh

Owen.

““DDuurriinngg sskkiillllss ddaayy II wweenntt iinnttoo ttoowwnn ttoo aasskk ppeeooppllee’’ss ooppiinniioonn oonn wwhhaatt sshhoouulldd rreeppllaaccee CCooffii RRoocc aass iitt’’ss cclloossiinngg ddoowwnn aanndd tthheenn wwee

rreettuurrnneedd ttoo sscchhooooll ttoo ddiissccuussss aanndd lleeaarrnn hhooww ttoo ppllaaccee tthhee

iinnffoorrmmaattiioonn ccoorrrreeccttllyy oonn YYssggooll SSyyrr HHuugghh’’ss

ppaaggee iinn PPaappuurr DDrree”” MMeeggaann JJoonneess 77SS

““II tthhiinnkk tthhaatt TTeecchhnniiqquueesstt iiss aa ggrreeaatt wwaayy ffoorr uuss ttoo eennjjooyy mmaatthhss iinn aa mmoorree

iinntteerreessttiinngg aanndd ffuunn wwaayy ““ MMeeaaggaann JJoonneess 77EE

““II eennjjooyyeedd wwaattcchhiinngg RRoowwnndd aa RRoowwnndd aanndd tthhee ffoollkk ddaanncciinngg!! ##ffuunn””

AAnnttoonnyy BBaacckk HHoollllaanndd HHuugghheess 77SS

““II hhaavvee lleeaarrnntt aa lloott ooff tthhiinnggss aabboouutt hhooww ttoo ddoo ffoollkk ddaanncciinngg,, hhooww ttoo uussee aa TTVV ccaammeerraa,, hhooww ttoo mmaakkee bbaarraa bbrriitthh aanndd II aallssoo lleeaarrnntt hhooww iimmppoorrttaanntt tthhee

WWeellsshh llaanngguuaaggee iiss bbeeccaauussee pprreevviioouussllyy wwee ccoouulldd hhaavvee lloosstt tthhee llaanngguuaaggee.. II hhaadd aa lloott ooff ffuunn””

CChhllooee RRoobbeerrttss 77OO

11

Page 12: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Ymgeiswyr Arfon yn cael eu holi gan

Chweched Dosbarth Syr Hugh

Sion Trewyn, Bl.13

Wythnos diwetha, trefnwyd gweithgaredd "Hawl i Holi" yn Ysgol Syr Hugh Owen. Roedd cynrychiolwyr o’r 4 prif blaid yno i drafod: Anwen Barry (Ceidwadwyr), Alun Pugh (Llafur), Aled Roberts (Rhyddfrydwyr AM), and Hywel Williams (Plaid Cymru Arfon MP). Bydd tri o’r ymgeiswyr yn chwilio i gael eu hethol fel Aelodau Llywodraeth dros Arfon. Daeth Aled Roberts i gyn-rychiloi Mohammed Shultan, ymgeisydd Y Rhyddfrydwyr dros Arfon.

Holodd y disgyblion nifer o gwestiynau tanbaid, gan gynnwys: Fformiwla Barnett i ariannu Cymru; codi trethi ar aelodau mwyaf cyfoethog cymdeithas a chynllun niwclear Trident Prydain. Cafodd y pynciau hyn eu trafod yn fywiog gan aelodau’r panel a chawsant ymateb brwdfrydig gan aelodau Chweched Dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen.

Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd am brofiad gwerth chweil a phleserus dros ben.

AArrffoonn CCaannddiiddaatteess CChhaalllleennggeedd BByy SSyyrr HHuugghh SSiixxtthh FFoorrmm

SSiioonn TTrreewwyynn,, YYrr..1133

Last week, Ysgol Syr Hugh Owen hosted their very own Question Time. Representatives from the four main political parties in Wales participated in the debate: Anwen Barry (Conservative), Alun Pugh (Labour), Aled Roberts (Liberal Democrat AM), and Hywel Williams (Plaid Cymru Arfon MP). Three of the candidates will be seeking election as Member of Parliament for the Arfon constituency. Aled Roberts stood in for Mohammed Shultan, the Liberal Democrat candidate for Arfon.

Students posed a number of contentious questions, amongst which were: the Barnett formula, funding for Wales; the raising of taxation on wealthy citizens and the UK's Trident nuclear deterrent. The issues raised were hotly debated by the panel members and were enthusiastically received by members of the Sixth Form Ysgol Syr Hugh Owen.

We would like to thank all involved for the worthwhile and thoroughly enjoyable experience.

12

Page 13: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Ar Chwefror 11fed cefais i, Deio Huws, ac Alaw Gwenlli Jones, brofiad anhygoel o gael mynd i Wlad Pwyl am ddiwrnod. Yna, mi aethom ni, ynghyd â 158 o ddisgyblion eraill o Gymru, i wersyll crynodiad (Concentration Camp) Auschwitz. Mae’n siwr fod llawer ohonych wedi clywed am y digwyddiad erchyll yn ystod yr Ail Ryfel Byd sef yr Holocaust, ble cafodd dros 6 miliwn o Iddewon eu llofruddio ynghyd a dros 3 miliwn o filwyr Sofietaidd, 2 filiwn o bobl gyffredin Sofietaidd, a dros 1.5 miliwn o blant. Er fod y marwolaethau yma i gyd wedi digwydd dros gyfnod o 6 mlynedd dros Ewrop gyfan, yn Auschwitz-Birkenau cafodd dros 1.1 miliwn o bobl eu llofruddio drwy saethu a gwenwyno efo nwy.

Pan gefais wybod fy mod wedi cael fy newis i fynychu’r diwrnod yma roeddwn i ryw raddau yn “edrych ymlaen” i gael ymweld â’r gwersyll. Yn amlwg nid gan ei fod yn safle cyffrous, ond gan fy mod wedi clywed amdano mewn ffilmiau, llyfrau ac hyd yn oed yn y gwersi ysgol. Roeddwn eisiau cael gweld yr amodau erchyll yr oedd y carcharorion yn byw ynddo yn uniongyrchol.

“Gwisgwch ddillad cynnes” meddai’r trefnwyr dro ar ôl tro, ond ar ôl cyrraedd, nid oedd hyd yn oed yn fy nghôt sgio, long johns a jeans trwchus, sanau gwlannog a sgidiau cerdded mynyddoedd yn ddigon i’m gwarchod rhag yr oerfel anioddefol. Cawsom ymweld â llawer o lefydd diddorol yn cynnwys dau wersyll crynodiad a safle un o’r Synagogau mwyaf yng Ngwlad Pwyl, a gafodd ei losgi gan y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Er mai dim ond am ychydig oriau yr oeddwn i yn y gwersyll, roedd fy nghalon yn gwaedu dros y carcharorion truenus hynny â oedd yn gwisgo dim ond un haen denau o ddillad carpiog ac yn droednoeth.

Er fod llawer o bethau ar fy meddwl yn ystod y daith mae un olygfa’n sefyll allan llawer mwy na’r gweddill. Tra’n cerdded trwy’r amgueddfa cefais gyfle i ymweld ag un ystafell rwyf wedi clywed amdani sawl gwaith yn y gorffennol. Yn yr ystafell yma roedd 80,000 o esgidiau a oedd yn perthyn yn wreiddiol i 40,000 o Iddewon. Dim ond canran fychan iawn o eiddo a gadwyd oedd hyn ac mewn ystafell arall roedd dros 7kg o wallt wedi ei bacio tu ôl i wal wydr.

Gobeithio na ddigwyddith hyn eto, ac ni ddylai neb anghofio’r erchyllderau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

On February 11th both myself (Deio Huws) and Alaw Gwenlli Jones were given the opportunity to experience a visit to Poland for the day. We, along with a 158 other Welsh pupils visited the Auschwitz concentration camp. I’m sure that many of you have heard about the terrible Holocaust during the Second World War, where 6 million Jews, over 3 million Soviet soldiers, 2 million Soviet citizens and 1.5 million children were all murdered. Although these atrocities took place all over Europe for 6 years, 1.1 million of them were killed at Auschwitz-Birkenau by being shot or poisoned by gas.

When I was told that I had been chosen to attend the day I was somewhat “looking forward” to visiting the camp. Clearly, not because it was an exciting site, but because I had seen and read about it in films and books and also during lessons at school, and I wanted to see with my own eyes the dreadful conditions in which the prisoners were forced to live.

“Wear warm clothes” was the advice given on many occasions by the organisers, but after arriving my skiing jacket, long johns, thick jeans, woollen socks and walking boots weren’t enough to keep me warm as the cold was unbearable. We visited some very interesting sites including two concentration camps as well as the site of one of Poland’s largest Synagogues which was burnt to the ground by the Nazis during the Second World War.

Although our visit was only for a couple of hours, my heart bled for the prisoners who had worn nothing apart from a thin layer of clothing and no shoes.

I had many things on my mind during the visit, but one experience stood out. Whilst walking through the exhibition I visited one room that I had heard about previously. In the room were 80,000 shoes belonging to some 40,000 Jews. This was only a small percentage of the number of possessions kept and in another room behind a glass wall was 7kg of human hair

I sincerely hope that this doesn’t happen again, and none of us must ever forget the horrors of what occurred during the Second World War.

13

Page 14: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Mae sawl cyfle ar gael i ddisgyblion yr ysgol ddefnyddio Technoleg i‘w helpu gyda’u gwaith ysgol.

Gwefan HWB+

Drwy’r wefan hon gall pob disgybl fanteisio ar fynediad i OFFICE365 sy’n golygu y gall pawb ddefnyddio WORD, EXCEL a POWERPOINT ar unrhyw ddyfais sydd gennych e.e. ffôn symudol, cluniadur, Mac neu PC. Mae hefyd storfa 1TB ar gael ichi gadw’ch gwaith. Os hoffech ragor o gymorth sut i ddefnyddio hwn edrychwch ar: hwb.wales.gov.uk/Pages/office365

Mae nifer o ddosbarthiadau Blwyddyn 7 ac 8 wedi bod yn arbrofi gyda’r wefan ac wedi llwyddo i ysgrifennu Blogiau am eu Llyfrau Darllen, wedi bod yn sgwrsio mewn ystafelloedd

sgwrsio ar y wefan am y Diwrnod Sgiliau ac yn mynegi eu barn ar y Wisg Ysgol. Mae hyn wedi gwella eu sgiliau Llythrennedd a’u sgiliau Llythrennedd Digidol nhw. Gobeithio y bydd rhagor o ddisgyblion yn gwneud defnydd o’r adnoddau hyn yn y dyfodol agos.

ADNODDAU ADOLYGU LLYTHRENNEDD a GWYDDONIAETH cyfrwng Cymraeg

Yn ogystal â hyn, mae adnoddau adolygu TGAU Gwyddoniaeth ar gael am ddim ar ffurf ap yn yr AppStore sydd wedi ei ddatblygu gan Mr Robyn Wheldon-Williams a disgyblion YSGOL SYR HUGH:

https://itunes.apple.com/gb/app/adolygu-revision/id900110539?mt=8

Mae e-lyfr llythrennedd hefyd ar gael yn yr iBookstore lle gallwch ymarfer sgiliau iaith a threiglo Cymraeg. Mae’r bennod gyntaf am ddim:

https://itunes.apple.com/gb/book/e-lyfr-llythrennedd/id950988477?mt=11

ADNODDAU ADOLYGU

I’r rhai ohonoch sydd eisiau adolygu termau neu ffeithiau ar gyfer unrhyw arholiad mae gwefan QUIZLET.COM yn ardderchog ar gyfer gwneud hyn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy teipio’r term ac esboniad o’r term i’r wefan a bydd yn creu set o gardiau fflach adolygu effeithiol iawn i chi. Mae’r wefan hefyd yn creu gemau adolygu i’ch helpu i ddysgu’r termau yn erbyn y cloc. Mae dyfyniadau Barddoniaeth TGAU eisoes ar y wefan yn barod i chi ynghyd â sawl pwnc arall. Ewch i chwilio!

14

Page 15: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

There are many opportunities for the school’s pupils to use Technology to help them with their school work.

HHWWBB++ wweebbssiittee

By accessing this website the pupils can take advantage of the package OFFICE365 which means that everyone can use WORD, EXCEL and POWERPOINT on any device they have e.e. mobile phone,

laptop, Apple Mac or PC. Also provided within this package is 1TB of storage to keep your work. For further information on using this website please visit: hwb.wales.gov.uk/Pages/office365

Classes from Yrs 7 and 8 have been experimenting with the website and have been successful in creating

Blogs regarding their Reading Books, chatting on webchats about the recent Skill’s Day and providing an opinon on the school’s Uniform. This has provided them with the opportunity to improve both their Literacy and their Digital Literacy skills. We hope that many more pupils will make more use of these resources in the near future.

WWeellsshh LLaanngguuaaggee LLIITTEERRAACCYY aanndd SSCCIIEENNCCEE RREEVVIISSIIOONN RREESSOOUURRCCEESS

Revision resources for GCSE Science developed by Mr Robyn Wheldon-Williams and YSHO puils are also available for free in the App Store:

https://itunes.apple.com/gb/app/adolygu-revision/id900110539?mt=8

An e-book is also available on the iBookstore where you can practice language skills and Welsh mutations. The first chapter is free:

https://itunes.apple.com/gb/book/e-lyfr-llythrennedd/id950988477?mt=11

RREEVVIISSIIOONN RREESSOOUURRCCEESS

For those of you who wish to revise terms and facts for any exam, QUIZLET.COM is for you. All you need do is type the term and a short explanation of the term into the website and it will create a set of extremely useful revision flash cards for you. The website will also create revision games for you to play against the clock. GCSE Poetry quotations are already on the website along with many other subjects. Go and have a look!

15

Page 16: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Rydym fel Ysgol yn gweithio ar y ‘Cynllun Ysgol Iach’ i geisio gwella Iechyd holl ddisgyblion a staff

yr ysgol. Trefnwyd Ffair Iechyd gan ddisgyblion Blwyddyn 12 sy’n dilyn Cwrs ‘Iechyd a Gofal’ yn

Neuadd yr ysgol ar y 5ed o Fawrth, 2015 . Roedd pob math o wahanol stondinau yn y ffair, gan gynnwys rhai ar ‘Alcohol, Cyffuriau, Ysmygu a

Bwyta’n Iach’.

Roedd disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 wedi mwynhau yn fawr iawn.

As a school, we are working on the school ’s 'Healthy School Scheme' to try and improve the health of all pupils and staff. Here are Year 12 pupils, who are studying 'Health and Social Care' organising a ’Health Fair’ in the school hall on, March 5th , 2015. There were all kinds of different stalls at the fair, including those on 'Alcohol, Drugs, Smoking and Healthy Eating'.

Year 7 and 8 pupils thoroughly enjoyed the fair.

Yn ystod y tymor bu’r criw Arlwyo blwyddyn 11 wrthi’n brysur yn coginio pryd dau gwrs o unrhyw wlad dramor ar gyfer eu harholiad. Cafwyd campweithiau blasus gan bawb! Piciwch i wefan yr ysgol i

gael gweld mwy o’r danteithion a wnaed.

During the term the Year 11 Catering crew were busy cooking a two course meal from any foreign country for their examination. There were delicious

masterpieces by everyone! Please visit the school's website to see more of the delights prepared.

16

Page 17: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Llongyfarchiadau enfawr i Catrin Hopkins, Bl.13 a fuodd yn llwyddiannus gyda genod Phena i gyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru 2015 ym Mona, Ynys Môn ar Fawrth 7fed.

Roedd y gystadleuaeth yn un wych, gyda nifer o dalentau cyffrous yn perfformio. Roedd perfformiad Catrin yn wefreiddiol a’r gân ‘Cariad Pur’ yn un gofiadwy (a oedd yn sicr yn llwyr haeddianu cael bod yn y 4 olaf!).

Hoffai Catrin ddiolch i genod Phena am ysgrifennu cân ffantasig iddi ac am fod yn fentoriaid gwych.

Hefyd diolch i griw YSHO - Dewi Morgan, Malan Fôn, Elan Gwilym, Betsan Angell, Tomos Wyn a Ffion Angell am ei chefnogi ar y noson.

Huge congratulations to Catrin Hopkins, Year 13, on her success on reaching the final of ’Can I Gymru’, she performed a song written by ‘Phena’. The competition was held in Mona, Anglesey on March 7th. The competition this year was fierce , and lots of exciting talents performed on the night, Catrin’s

performance was brilliant, and the song 'Cariad Pur' was very 'catchy' and thoroughly deserved to go through to the last 4!.Catrin would like to thank the ‘Phena’ girls for writing a fantastic song for her, and for being great mentors. Also thanks to YSHO pupils - Dewi Morgan, Malan Fôn, Elan Gwilym, Betsan Angell, Tomos Wyn and Ffion Angell for their support on the night .

17

Page 18: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Llongyfarchiadau mawr i Fran Smith, Bl.11 a ennillodd wobr Hyfforddwr y Flwyddyn Inspire 2 Coach Tenis Cymru 2014.

Mae Fran yn gwirfoddoli yn y Ganolfan Denis drwy hyfforddi tenis a chynorthwyo gyda nifer o weithgareddau gwahanol sydd yn digwydd yno. Mae wedi gwneud dros 300 awr o waith gwirfoddol!! Da iawn

chdi Fran!

Congratulations Fran Smith, Yr.11 who received ‘Coach of the Year, Inspire 2 Coach Tennis Wales 2014’ award.

Fran is often seen volunteering at Caernarfon’s Tennis Centre, where she assists in teaching Tennis and other various activities,. She has dedicated over 300 hours at

the Tennis Centre - Well done Fran!

Llongyfarchiadau mawr i Elis Roberts, Bl.11 sydd wedi ei ddewis i garfan dan16 Rygbi Ysgolion Cymru.

Hefyd Llongyfarchiadau mawr i Robin Williams, Bl.11 sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i Rygbi Gogledd Cymru yn Llandrillo

Congratulations Elis Roberts, Yr.11, for his successful selection to the Wales U-16’s squad.

Robin Williams is also congratulated as he’s been awarded a scholarship with RGC in Colwyn Bay

Tîm hoci dan 14 wedi cael llwyddiant yn nhwrnament Môn-Arfon ym mis Chwefror, aethant ymlaen i gynrychioli Arfon yn nhwrnament Eryri ym Mhlas Silyn.

Well done to YSHO’s Hoci Team U-14’s for their success in the Anglesey/Arfon tournament during February, the girls went on to represent Arfon in the Eryri tournament in Plas Silyn recently.

Llongyfarchiadau mawr i Ryan Williams, Bl.11, mae o wedi derbyn ysgoloriaeth i chwarae yn nhîm pel-droed Wrexham.

Congratulations Ryan Williams, Yr.11, he has been successful in receiving a scholarship with Wrexham Football club.

18

Page 19: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Dyma luniau o Ryan Cain, Jody Cain a Ffion Williams. Daeth Ryan a Ffion yn 1af yn eu rasys hwy yn Râs y Plant oedd yn

rhan o Ras yr Ynys ym mis Mawrth eleni. Gwych!

Here are pictures of Ryan Cain, Jody Cain and Ffion Williams. Ryan and Ffion came 1st in their races.

The Children’s race was part of The Island Race Anglesey, which was held in March, 2015

Well done!!

Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Ysgol Syr Hugh ar ôl ennill cwpan Gwynedd yn erbyn Ysgol Glan y Mor, Pwllheli ar gae CPD Dyffryn Nantlle ar brynhawn braf ym mis Mawrth. Roedd yn gêm andros o galed a aeth i amser ychwanegol, ond sgoriodd Syr Huw y gôl fuddugol eiliadau cyn diwedd yr amser ychwanegol. Llongyfarchiadau i'r bechgyn a'u hathro Mr Bryn Williams ar y fuddugoliaeth. Roedd Pwllheli wedi ennill dwy waith o'r blaen, ond y tro yma daeth y gwpan i Syr Hugh. Roedd y bechgyn yn achos cryn falchder i'r Ysgol a'r dre gyda'u hymdrech a'u hymddygiad. Da iawn chi hogia a phob lwc yn y dyfodol.

Congratulations go to Ysgol Syr Hugh’s football team on their win in the Gwynedd cup against Ysgol Glan y Mor, Pwllheli, at Nantlle Vale’s football club on a sunny afternoon in March. The hard fought match went to extra time, and Syr Hugh’s team scored the winning goal in the dying minutes of the match. Congratulations to the boys and their teacher, Bryn Williams on their win. Pwllheli had won twice before, but this time the cup came to Syr Hugh. The school and the local area are very proud of the boys’ effort and behaviour. Well done boys and we wish you luck in the future.

Llongyfarchiadau mawr i Ryan Reyonalds, Bl.9, sydd wedi ei ddewis i chwarae pêl-droed i Gymru dan 15 yn y Swistir ym mis Ebrill - Pob lwc i ti Ryan, mwynha’r profiad.

Congratulations Ryan Reynolds, Yr.9, he has been chosen to play for Wales U15’s in Switzerland in April - All the best Ryan, hope you enjoy this amazing experience.

19

Page 20: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Mae tîm pêl rwyd yr ysgol sydd yn dwyn yr enw “Amigos” ac sydd yng nghynghrair Pêl Rwyd Ardal Penygroes wedi bod yn brysur bob nos Fawrth yn ymarfer a chwarae gemau ym Mhlas Silyn yn erbyn timau lleol eraill. Oherwydd yr ymarferion hyn, mae safon chwarae’r genod wedi codi’n aruthrol ac wrth reswm maent yn mwynhau’n arw. Bydd Betsan Gruffydd yn gadael y tîm ddiwedd y tymor a bydd colled fawr ar ei hôl!

The school’s netball team, who play under the name “Amigos” and are in the Penygroes Area League have been busy honing their skills against other local teams on Tuesday evenings at Plas Silyn. Following on from these practice sessions, the girls have shown a vast improvement in their netball skills and clearly they enjoy the challenges. Betsan Gruffydd will be leaving the team at the end of the season and she will be missed

Llongyfarchiadau i ddawnswyr yr ysgol sydd wedi bod yn brysur yn cystadlu yn yr Eisteddfod ac sy’n mynd i fod yn brysurach byth wrth ymarfer ar gyfer cynrychioli Eryri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili.

Daeth grwp dawnsio Fflamau yn 1af yn y gystadleuaeth grwp dawns hip hop/stryd/disgo yn y Steddfod Sir.

Congratulations to the school dancers who have been busy competing in the Eisteddfod, and are going to be busier still as they practice to represent Eryri in the National Eisteddfod in Caerphilly.

Dance Group, Fflamau came 1st in the competition group dance hip hop / street / disco in the County Eisteddfod.

Llongyfarchiadau i Zara Tudor Jones, Bl.7 a fu hefyd yn llwyddiannus ar gipio’r wobr gyntaf yn yr un gystadleuaeth ond I rai ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.

Congratulations to Zara Tudor Jones, Yr.7 who also successfully won the first prize in the same competition but for years 7, 8 and 9.

Tîm llwyddiannus pêl-fasged Eryri Celts - Sam, Rhun, Tomos, Osian a Llyr, ennillwyr gwpan Ysgolion Eryri Dan 15, 2015. Mae Rhun, Tomos, Osian a Llyr hefyd yn chwarae pêl-fasged i Ogledd Cymru .

Here are Eryri Celts, a successful Basketball Team - Sam, Rhun, Tomos, Osian and Llyr, They won Eryri’s U15’s Basketball tournament. Rhun, Tomos, Osian and Llyr also play Basketball for North Wales.

20

Page 21: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Ddydd Mercher, Mawrth 18fed, aeth Mrs Mererid Llwyd o Adran y Gymraeg i Gynhadledd Technolegau Dysgu Gogledd Cymru. Yn y gynhadledd derbyniodd wobr gyntaf am brosiect digidol sy’n hyrwyddo arloesedd a chreadigedd drwy ddefnyddio technoleg digidol. Nod y prosiect oedd hybu llythrennedd y disgyblion. Ers rhai misoedd mae hi wedi bod yn gweithio gyda disgyblion 7E, 7O a 7I ar wefan HWB+. Mae’r disgyblion wedi bod yn gweithio’n galed yn cyfrannu eu sylwadau i adran o’r enw ‘TRAFODAETHAU’ ar y wefan. Buont yn mynegi barn ar y wisg ysgol ac ar y diwrnod sgiliau drwy gyfrwng y wefan hon. Roedd y gwaith yn hwb iddynt

wrth gyflawni tasgau ysgrifennu a thasgau llafaredd yn y dosabrth. Yna aethant ati i ysgrifennu BLOGIAU ar y wefan. Buont yn darllen llyfrau o lyfrgell yr ysgol ac yn ysgrifennu Blog ar y llyfrau hyn a’u rhannu gyda gweddill y dosbarth. Wedyn roedd y disgyblion eraill yn gallu

ymateb ar y We i’w blogiau a dewis pa lyfr i’w ddarllen nesaf. Roedd gwaith Blwyddyn 7 mor llwydiannus nes bod Blwyddyn 8 hefyd bellach yn defnyddio’r Wefan. Gan fod y prosiect mor llwyddiannus y bwriad yw gwneud mwy o ddefnydd o’r wefan ac mae pob disgybl yn yr ysgol

bellach wedi derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair.

On Wednesday, 18th March, Mrs Mererid Llwyd from the Welsh Department attended the North Wales Conference for Teaching Technologies. Whilst at the conference she received the first prize for a digital project

which promotes innovation and creativeness when using digital technology. The aim of the project is to increase the pupils’ literacy. The pupils of 7E, O along with Mrs Llwyd have worked for many months on the

HWB+ website. The pupils have tirelessly contributed to the DISCUSSION area on the website with their comments and opinions. They’ve expressed opinion on the school uniform and on the skills day held

recently. They have also been writing BLOGS. They’ve read books from the school library and then written blogs on the books to share with their fellow pupils. Following on from there, the other pupils could respond to the blogs on the website and choose which book to read. The work done by Yr 7 has been very successful, so much so that Yr 8 is now also using the website. Due to the unprecedented success of the project we fully

intend to make further use of the website and all the pupils have now received a username and password.

21

Page 22: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Kevin Roberts dwi, a dwi’n ddisgybl yn Chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen. Ar hyn o bryd rwy’n astudio Hanes, y Gyfraith a Busnes er buaswn wedi hoffi astudio Gwleidyddiaeth. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a mawr obeithiaf cael bod yn wleidydd yn cynrychioli pobl Arfon unai yn y Cynulliad neu yn Llundain fel Aelod Seneddol yn y dyfodol.

Ychydig yn ôl bum ar brofiad gwaith yn Rhif 10 Stryd Downing gan weithio yn swyddfa’r Prif Weinidog. Cefais brofiad bythgofiadwy a chael cyfle i gael cip-olwg ar y gwaith sy’n digwydd ym myd gwleidyddiaeth.

Rwy’n hynod o falch i’m cais gael ei dderbyn gan fod cymaint o geisiadau i fynd i ‘Rhif 10’ ar brofiad gwaith yn cael eu hanfon i’r swyddfa, a chredaf hefyd mai braint ag anrhydedd oedd cael cynrychioli Ysgol Syr Hugh yn ‘Rhif 10’.

My name is Kevin Roberts I am a sixth form student at Ysgol Syr Hugh Owen, currently studying History, Law and Business however my chosen subject would have been Politics. I am fascinated by politics and hope, one day to become a politician representing the people of Arfon, whether it be in the Welsh assembly or down in London as an MP.

A few weeks ago I was on work experience in No.10 Downing Street working within the Prime Minister's Office, this was a great experience and an insight into the world of politics.

Although I did not meet the Prime Minister I got to see just how much work is involved with politics.

I think it was great that my application was chosen out of so many people and was great for the school and Caernarfon to be represented in No.10.

22

Page 23: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

23

Page 24: Ebrill 2015 April 2015 - Ysgol Syr Hugh Owenysgolsyrhughowen.org/downloads/180515-seren-ebrill.pdf · Ebrill 2015 April 2015 ... dancing, and got an opportunity to meet Santa Clause

Cewch fwy o luniau o weithgareddau’r ysgol ar ein gwefan

For more picture of our school’s activities, visit our website :

www.ysgolsyrhughowen.org

Dilynwch ni ar ein safle Trydar am ragor o wybodaeth am yr ysgol ac dyddiadau

pwysig!!

Follow us on Twitter for more information about the school, and important dates to remember

Mae gan yr Adran Addysg Gorffrol safle ‘Trydan’ newydd dilynwch : @agysho

The P.E department has a new ‘Twitter’ page, please follow : @agysho

Gwyl Fai

May Day

04.05.15

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

National Reading and Numeracy Tests

29.04.15

-

06.05.15

Hanner Tymor

Half Term

25.05.15

-

29.05.15

Arholiadau TGAU a Lefel-A yn cychwyn

GCSE Exams & A-levels start

08.05.15

-

23.06.15

HMS Ysgol - Dim Ysgol i ddisgyblion

INSET Day - School closed for pupils

24.06.15

Ysgol yn cau am yr Haf

School closed for Summer holidays

17.07.15

-

02.09.15

Cysylltwch â ni / Contact us :

Prif Swyddfa / Head Office : 01286 673076

E-bôst / E-mail :

[email protected]

Gwefan / Website: www.ysgolsyrhughowen.org

Trydar / Twitter :

@YsgolSyrHughOwen

@agysho

Pennaeth / Headteacher :

Mr Paul G. S. Matthews-Jones

24