4
Diwrnod y Cyfnod Sylfaen Gweithgareddau hwyliog, ymarferol a defnyddiol i gefnogi gwaith y cylchoedd meithrin

Diwrnod y Cyfnod Sylfaen · 2017. 4. 21. · Rhagor o wybodaeth am y siaradwyr: - Mae Jan White yn gweithio dros y byd fel ymgynghorydd wrth iddi gefnogi a darparu cyfleoedd chwarae

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Diwrnod y Cyfnod

    Sylfaen

    Gweithgareddau hwyliog, ymarferol a defnyddiol i gefnogi gwaith y cylchoedd meithrin

  • D ewch i gael diwrnod o hwyl wrth rannu

    profiadau a dysgu trwy chwarae y tu

    allan gyda chylchoedd meithrin eraill

    ledled Cymru.

    Bydd pecyn defnyddiol a gwerthfawr o adnoddau i bob cylch

    meithrin fydd yn mynychu’r diwrnod.

    Mae Richard Shaw o gwmni Coginio’n Cyfri yn mynd i rannu profiadau ymarferol a dangos sut i weithio’n ddiogel gyda phlant bach wrth baratoi bwyd. Bydd hefyd yn rhannu negeseuon positif am fwyta’n iach er lles y plant. Bydd cyfle i drafod cynhwysion a’u pwyso a mesur, coginio’r bwyd ac wrth gwrs ei flasu! Meddai Richard ‘Coginio gyda phlant 3 oed mewn neuadd capel a heb ffwrn – dim problem!’

    Beth yn union mae Estyn eisiau gweld wrth ddefnyddio TGCh yn y cylch? A yw’r plant â mwy o wybodaeth na chi am offer technolegol? Bydd Helen Scully yn helpu i ddatrys y dryswch am TGCh. Bydd yn trafod ble mae cyfleoedd i gyflwyno TGCh yn y ddarpariaeth barhaus a sut i gynnwys TGCh wrth gynllunio. Bydd hefyd yn edrych ar sut i ddefnyddio’r IPads/ llechen (tablets) er mwyn sicrhau cyfleoedd dysgu i’r plant. Bydd cyfle i drafod aps yn ystod y sesiwn - sut i’w defnyddio a sut i’w creu!

    Mae Jan White yn awdures byd enwog ac wedi ennill gwobrau am ei llyfrau ‘Playing and Learning Outdoors’ a ‘Making a Mud Kitchen’. Bydd Jan yn siarad am ei gwaith a’i gwaith ymchwil i mewn i bwysigrwydd y dosbarth tu allan i blant bach. Bydd Jan hefyd yn cynnal sesiwn ymarferol ble bydd cyfle i chwarae, palu, peintio a gwneud pastai—i gyd yn y mwd!

  • Rhagor o wybodaeth am y siaradwyr:

    - Mae Jan White yn gweithio dros y byd fel ymgynghorydd wrth iddi gefnogi a darparu cyfleoedd chwarae tu allan o’r ansawdd gorau i blant o enedigaeth hyd at bump oed. Mae Jan yn credu fod profiadau plant wrth iddynt chwarae tu allan gyda mwd yn rhai o’r profiadau mwyaf gwerthfawr a hanfodol byddent yn cael.

    - Mae Richard Shaw wedi bod yn dysgu coginio am flynyddoedd mewn ysgolion yng Nghymru a Llundain ac yn fwy diweddar ar y Bws Coginio. Mae Richard nawr yn cynnal dosbarthiadau coginio ymarferol i blant a’u rhieni led led Cymru. Mae e’n cyflwyno bwyta’n iach i deuluoedd ac athrawon wrth goginio bwydydd blasus a hawdd.

    - Mae Helen Scully yn Brifathrawes Ysgol Gynradd Saint Baruc yn y Barri, Bro Morgannwg. Mae Helen yn athrawes brofiadol iawn ac wedi bob yn dysgu yn y blynyddoedd cynnar am nifer o flynyddoedd. Mae’n arbenigo ym maes TGCh a Mathemateg yn Y Cyfnod Sylfaen.

  • Dychwelwch y ffurflen hon trwy e-bost at:

    neu trwy ei phostio at :

    ŷ

    Enw Swydd