11
Swyddogion Gweinyddol Cyfnod Penodol Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

  • Upload
    phamdan

  • View
    226

  • Download
    5

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Swyddogion Gweinyddol Cyfnod Penodol

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Page 2: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Cyflwyniad

Diolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn.

Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn.

Mae’r swyddi gwag hyn yn rhai cyfnod penodol, ac maent yn debygol o fod hyd at 31 Mawrth 2019.

Mae Estyn yn cynnal ei fusnes yn Gymraeg a Saesneg ac mae llawer o’i gwsmeriaid a’i gleientiaid yn ddwyieithog. Ar gyfer rhai swyddi, mae’n hanfodol ein bod yn gallu penodi rhywun sy’n gallu defnyddio eu medrau cyfathrebu yn effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd.

Mae’r pecyn gwybodaeth hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am weithio i Estyn, gwybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais. Cyfeiriwch at y Ddogfen Arweiniad am fanylion ar sut i lenwi’ch cais.

Os ydych yn teimlo bod gennych y rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt, yna edrychwn ymlaen yn fawr at gael eich cais.

Page 3: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Ynglŷn ag Estyn

Pwy ydym ni

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn gorff y Goron, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn cael ein hariannu ganddi. Caiff Estyn ei arwain gan Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein cenhadaeth yw cyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Rydym yn cyflogi tua 118 o staff ar hyn o bryd. Mae tua dau o bob tri ohonynt yn Arolygwyr Ei Mawrhydi (AEM) ac mae gweddill y staff yn gweithio yn yr adran Gwasanaethau Corfforaethol.

Beth rydym yn ei wneud

Anghenion dysgwyr sydd wrth wraidd ein holl waith. Rydym yn arolygu addysg a hyfforddiant ledled Cymru, o ysgolion, colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith i ddysgu oedolion ac awdurdodau lleol. Rhestrir ystod lawn ein cyfrifoldebau yn estyn.llyw.cymru/amdanom-ni. Trwy ein harolygiadau, rydym yn adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddysgwyr, ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr.

Yn ogystal â’n gwaith arolygu, rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ystod eang o destunau thematig, fel y cyfnod sylfaen, llythrennedd a rhifedd a gyrfaoedd. Rydym hefyd yn cyhoeddi a rhannu astudiaethau achos arfer effeithiol am strategaethau addysgu a dysgu.

Caiff ein harolygiadau a’n gwaith cynghori ei wneud gan Arolygwyr Ei Mawrhydi (AEM) ac fe’i cefnogir gan ein staff Gwasanaethau Corfforaethol trwy swyddogaethau fel cynllunio a defnyddio, cyllid, cymorth ysgrifenyddol, rheoli digwyddiadau a cefnogi’r gwaith o redeg y swyddfa o ddydd i ddydd. Mae’r timau mewn Gwasanaethau Corfforaethol yn gweithio gyda’i gilydd a gyda’n harolygwyr i gyflwyno gwasanaethau hyblyg i helpu Estyn i gyflawni ei dri amcan strategol, sydd i’w gweld yn estyn.llyw.cymru/amdanom-ni/trosolwg-strategol.

I gael rhagor o wybodaeth am Estyn a’n gwaith, trowch at estyn.llyw.cymru/amdanon-ni/cyhoeddiadau-corfforaethol-chyfrifon lle gwelir ein Cynllun Blynyddol a’n Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf.

3

Page 4: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

4

Page 5: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Gweithio i Estyn

Rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth nid yn unig yn ein gweithgareddau arolygu, ond fel cyflogwr hefyd. Mae Estyn wedi ymrwymo i fod yn batrwm o gyflogwr rhagorol. Ein nod yw cyflawni hyn drwy barchu ein staff, gwrando arnynt, a’u hannog i ddatblygu eu medrau a’u doniau. Rydym wedi ymrwymo i alluogi staff i ffynnu a rhoi o’u gorau trwy ddysgu unigol, dysgu mewn tîm a dysgu sefydliadol, a thrwy ddatblygiad parhaus. Mae Estyn yn cydnabod y daw pob unigolyn â medrau a phrofiad gwahanol gyda nhw pan fyddant yn gweithio i ni. Fel sefydliad, rydym yn cefnogi ac yn croesawu amrywiaeth ac yn parchu’r gwahaniaethau hyn.

Mae Estyn yn ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl i’w holl staff rannu’r ymrwymiad hwn.

Oriau gwaith, gwyliau blynyddol, buddion iechyd a lles

Fel gweithiwr amser llawn parhaol, mae fel arfer yn ofynnol i chi weithio wythnos pum niwrnod (dydd Llun i ddydd Gwener) o 37 awr, ac eithrio amser cinio. Bydd gennych hawl i lwfans gwyliau blynyddol o 31 diwrnod y flwyddyn, yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus/braint (sy’n cael eu cymryd ar adegau penodedig o’r flwyddyn). Mae’r holl weithwyr rhan-amser yn cael lwfans pro-rata sy’n gymesur â’u patrwm gweithio.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, iach a chefnogol i’n gweithwyr, ac mae ein gwaith i hyrwyddo iechyd a lles ein cyflogeion wedi’i gydnabod yn ein llwyddiant i gyflawni’r Wobr Arian ar gyfer y Safon Iechyd Corfforaethol a’r dyfarniad Safon Aur ar gyfer Buddsoddwyr mewn Pobl. Mae ein pecyn o fuddion lles yn cynnwys:

manteisio ar gynllun Gofal Plant, Di-dreth archwiliadau iechyd blynyddol yn rhad ac am ddim cymhorthdal ar gyfer gofal llygaid (ar gyfer offer sgriniau arddangos) Rhaglen Cymorth Cyflogeion sy’n darparu cwnsela, gwybodaeth a chyngor 24 awr yn

rhad ac am ddim mynediad i gymdeithasau gofal iechyd meddygol mynediad at Gynllun Beicio i’r Gwaith

Fel Gwas Sifil bydd rhagor o fuddion a gwasanaethau ar gael i chi, gan gynnwys:

Clwb Cymdeithasol y Gwasanaeth Sifil – Chwaraeon a Hamdden Cymdeithas Foduro’r Gwasanaeth Sifil Elusen ar gyfer Gweision Sifil Cymdeithas Yswiriant y Gwasanaeth Sifil Gofal Iechyd y Gwasanaeth Sifil

Pensiwn

Mae gan ein staff hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil o’r adeg y byddwch yn dechrau ar eich penodiad. Gall dechreuwyr newydd ymuno naill ai â alpha, sef cynllun pensiwn galwedigaethol â buddion diffiniedig sydd wedi’i gysylltu â’r pris mynegai, neu Partnership, sef pensiwn rhanddeiliaid. Fel eich cyflogwr, bydd Estyn yn cyfrannu at ba gynllun pensiwn bynnag y penderfynwch ymuno ag ef.

5

Page 6: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Cyflog

Yr ystod cyflog ar gyfer Swyddog Gweinyddol (Gradd SG) yw £19,240 - £22,500. Bydd y cyflog cychwynnol fel arfer ar y pwynt cyntaf yn y raddfa sydd uwchlaw eich cyflog presennol (o fewn yr ystod cyflog ar gyfer y rôl). Mae graddfeydd cyflog Estyn i’w gweld ar ein gwefan www.estyn.gov.wales (cliciwch ar ‘Amdanom Ni’, ‘Gweithio i Estyn’ a dewiswch ‘Swyddi Gwag’). O dan y system gyflogau gyfredol, byddech fel arfer yn cyrraedd uchafswm y raddfa gyflogau o fewn pedair blynedd o ymuno ag Estyn.

Hyfforddiant a datblygiad personol

Mae Estyn yn Fuddsoddwr mewn Pobl (Aur) achrededig, sydd wedi ymrwymo i wella perfformiad a gwireddu ein hamcanion trwy reoli a datblygu ein pobl yn dda. Byddwn yn eich cefnogi gyda’ch anghenion dysgu a datblygu, gan gynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ac yn ystod eich mis cyntaf, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cynhwysfawr ar y sefydliad.

Lleoliad

Mae’r rolau hyn wedi’u lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, ble gellir parcio am ddim y rhan fwyaf o ddiwrnodau.

6

Page 7: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Crynodeb o’r Rôl

Mae Swyddogion Gweinyddol yn darparu cymorth gweinyddol i sicrhau cyflawni swyddogaethau allweddol yn Estyn, trwy gynorthwyo rheolwyr tîm, a sicrhau bod targedau ac amcanion y tîm yn cael eu bodloni. Bydd Swyddogion Gweinyddol yn hyblyg, a gellir eu defnyddio o fewn neu ar draws unrhyw un o swyddogaethau cefnogi busnes Estyn, yn cynnwys:

Cyllid, caffael a gwasanaethau swyddfa Adnoddau Dynol Gwasanaethau Cymorth Arolygu Ymgysylltu â rhanddeiliaid (cyfathrebu, digwyddiadau, cyhoeddiadau ac

ysgrifenyddiaeth) Gwasanaethau Ystadegau, Gwybodaeth a Hysbysrwydd

Gall Swyddogion Gweinyddol gael eu gosod mewn rôl yn unrhyw un o’r swyddogaethau cefnogi busnes, fel y bydd anghenion busnes yn mynnu.

Manyleb yr Unigolyn

Meini prawf penodol i swydd

1. Medrau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, gan gynnwys delio ag ymholiadau cyffredinol a galwadau ffôn, prosesu a drafftio gohebiaeth arferol– mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg (siarad ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda) yn hanfodol.

2. Y gallu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol, gan gynnwys pecynnau Microsoft (e.e. Excel, Word, Outlook a PowerPoint).

3. Y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm, profiad o feithrin a chynnal perthnasoedd gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

4. Gallu i flaenoriaethu tasgau, gweithio’n gywir a sicrhau bod systemau a gweithdrefnau’n cael eu cynnal yn effeithiol, a’u bod yn gweithredu’n effeithiol

5. Chefnogi datblygiadau corfforaethol i sicrhau bod nodau ac amcanion Estyn yn cael eu bodloni.

Sgiliau allweddol (yn berthnasol i Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil)

Pennu Cyfeiriad

Newid a gwella – adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella’r ffordd y caiff pethau eu gwneud, cydweithredu a bod yn agored i bosibiliadau newydd ac ystyried ffyrdd o weithredu ac addasu i newid yn eich rôl gwaith eich hun.

Ymgysylltu â Phobl

Arwain a chyfathrebu – cynnig eich barnau eich hun mewn dull clir ac adeiladol, gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ddelio ag eraill.

Cydweithredu a phartneru – cyfrannu’n rhagweithiol at waith y tîm cyfan, bod yn agored i ysgwyddo rolau gwahanol, ceisio gweld materion o safbwyntiau pobl eraill a gwirio dealltwriaeth.

7

Page 8: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Cyflawni canlyniadau

Rheoli gwasanaeth o safon – mynd ati i geisio gwybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deall eu hanghenion a’u disgwyliadau, gweithredu i atal problemau, rhoi gwybod am faterion lle bo angen, cymryd perchenogaeth o faterion, canolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd i gwsmeriaid a phartneriaid cyflawni.

Cyflawni yn gyflym – gweithio mewn dull trefnus i gyflawni’n brydlon ac yn unol â’r safon, gweithio gydag egni a chyflymder i wneud y gwaith, cymryd cyfrifoldeb am ansawdd eich gwaith eich hun a rhoi gwybodaeth gyson i’r rheolwr am sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen.

Sut i wneud cais

8

Page 9: Cyflwyniad - estyn.gov.wales Web viewDiolch am ddangos diddordeb yn rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn. Ar hyn o bryd, mae gennym swyddi wag ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol yn Estyn

Rhaid gwneud ceisiadau trwy ddefnyddio ein ffurflen gais. Cyfeiriwch at y Ddogfen Arweiniad cyn llenwi’r ffurflen gais. Mae’r dogfennau hyn hefyd ar gael o www.estyn.gov.wales (Cliciwch ar ‘Amdanom Ni’, a dewiswch ‘Gweithio i Estyn’, yna ‘Swyddi Gwag’’).

Rydym yn gobeithio recriwtio Swyddogion Gweinyddol Cyfnod Penodol sy’n siarad Cymraeg. Os gallwch ddefnyddio eich medrau cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg, dylech gwblhau’r datganiad ategol yn Gymraeg. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfnod didoli, bydd eich medrau Cymraeg yn cael eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.

Ni allwn ystyried ffurflenni cais sy’n hwyr neu’n anghyflawn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y ffurflen gais yn cael ei llenwi’n llawn ac yn gywir a’i chyflwyno erbyn y dyddiad cau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Chwefror 2018 am 10yb. Ni ellir ystyried ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a’r amser hwnnw, am ba bynnag reswm.

Dylid dychwelyd eich cais a’ch dogfennau cysylltiedig dros yr e-bost at: [email protected] neu ar ffurf copi caled i:

Adnoddau Dynol, Estyn, Llys Angor, Heol Keen, CaerdyddCF24 5JW

Ymholiadau Pellach

Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â’r ymarfer recriwtio hwn, cysylltwch ag Adnoddau Dynol, ar 029 2044 6336 neu dros yr e-bost at: [email protected] .

Mae Estyn yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg, bydd yn ymateb i ohebiaeth yn y Gymraeg, ac ni fydd gohebu yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Amserlen

Cyfeiriwch at y ddogfen arweiniad i gael manylion llawn am y broses ddethol.

Dyddiad cau Dydd Mawrth 20 Chwefror 2018 am 10yb

Didoli cychwynnol Wythnos yn dechrau 26 Chwefror 2018

Asesiadau & Cyfweliadau Wythnos yn dechrau 5 Mawrth 2018

9