Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Canllaw Addoliad
i Ysgolion Catholig
A Worship Resource
for Catholic Schools
Carys Whelan
Mared Furnham
Cwrs i athrawon
A course developed under the auspices of the Archdiocese of Cardiff
Department of Religious Education (Schools) - February 2011
Archesgobaeth Caerdydd Archdiocese of Cardiff
Cynhaeaf a Diolchgarwch
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân
Diolch i Ti, O Dduw
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
Gweddїwn:
Am ein teulu... Diolch i ti, O Dduw.
Am ein ffrindiau... Diolch i ti, O Dduw.
Am ein bwyd... Diolch i ti, O Dduw.
Am ein hysgol... Diolch i ti, O Dduw.
Am yr haul a'r glaw... Diolch i ti, O Dduw.
♫ Gadewch i ni ganu! ♫
Diolch diolch Iesu,
diolch diolch Iesu,
diolch diolch Iesu yw fy nghân;
diolch diolch Iesu,
O diolch diolch Iesu,
diolch diolch Iesu yw fy nghân.
Gadewch i ni ddiolch i Dduw.
Gadewch i ni ddweud:
'Gogoniant i Ti, O Dad!'
Cynhaeaf a Diolchgarwch - Harvest and Thanksgiving
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân - In the name of the Father and
of the Son and of the Holy Spirit.
Diolch i Ti, O Dduw - Thanks to you, O God
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân
Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
It's prayer time.
Let's make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Hands together, eyes closed.
Gweddїwn:
am ein teulu... Diolch i ti O Dduw
am ein ffrindiau...
am ein bwyd...
am ein hysgol...
am yr haul a'r glaw...
Let us pray:
for our family... Thanks to you O God
for our friends...
for our food...
for our school...
for the sun and the rain...
Gadewch i ni ddiolch i Dduw
Gadewch i ni ddweud:
Gogoniant i ti O Dad
Let us thank God
Let us say:
Glory to you O Father
Gadewch i ni ganu:
Diolch, diolch Iesu,...
diolch diolch Iesu yw fy nghân
Let us sing:
Thank you, thank you Jesus,
thank you, thank you Jesus is my song
Tachwedd
Tangnefedd i chi
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen.
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
Gweddїwn:
Gweddїwn dros bawb sydd wedi marw... Dyro dy dangnefedd, Arglwydd
Gweddїwn dros bawb sydd yn sâl... Dyro dy dangnefedd, Arglwydd
Gweddїwn dros __________ ... Dyro dy dangnefedd, Arglwydd
♫ Gadewch i ni ganu emyn: ♫
Dyro dangnefedd, O Arglwydd,
i'r sawl a gred ynot ti;
dyro, dyro dangnefedd, O Arglwydd,
dyro dangnefedd.
Gadewch i ni rannu tangnefedd : Tangnefedd i chi.
Tangnefedd i chi bob amser.
Tachwedd - November
Tangnefedd i chi - Peace be with you
Mae'n amser gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen.
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
It's prayer time:
Let us make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Hands together, eyes closed
Gweddїwn:
Gweddїwn dros bawb sydd wedi marw...
Dyro dy dangnefedd, Arglwydd
Gweddїwn dros bawb sydd yn sâl... Dyro
dy dangnefedd, Arglwydd
Gweddїwn dros _____... Dyro dy
dangnefedd, Arglwydd
Let us pray:
We pray for all who have died...Grant
your peace, Lord
We pray for all who are sick... Grant your
peace, Lord
We pray for ______... Grant your peace,
Lord
Gadewch i ni ganu emyn:
Dyro dangnefedd, O Arglwydd,
i'r sawl a gred ynot ti;
dyro, dyro dangnefedd, O Arglwydd,
dyro dangnefedd.
Let's sing a hymn:
Grant peace O Lord,
to those who believe in you;
grant, grant peace, O Lord,
grant peace.
(Dona la Pace, Taizé)
Gadewch i ni rannu tangnefedd
Tangnefedd i chi
Tangnefedd i chi bob amser
Let us share peace
Peace be with you (peace to you)
Peace to you always
Adfent/ Y Dyfodiad
Tyrd Arglwydd Iesu!
Dere atom ni Iesu!
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen.
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
Gweddїwn:
Rydyn ni'n cynnau cannwyll........Dere atom ni, Iesu.
Rydyn ni'n disgwyl am Iesu.........Dere atom ni, Iesu
Iesu, goleuni'r byd...........................Dere atom ni, Iesu
♫ Gadewch i ni ganu! ♫
Disgwyl yr Iôr,
ei ddydd a ddaw;
disgwyl yr Iôr,
fe'th gynnal di.
Gadewch i ni eistedd yn
dawel.
Gadewch i ni fod yn
barod.
Adfent/ Y Dyfodiad - Advent
Tyrd Arglwydd Iesu! - Come Lord Jesus!
Dere atom ni Iesu! - Come to us Jesus!
Mae'n amser gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
It's prayer time:
Let us make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Hands together, eyes closed
Gweddїwn:
Rydyn ni'n cynnau cannwyll... Dere atom
ni, Iesu.
Rydyn ni'n disgwyl am Iesu... Dere atom
ni, Iesu
Iesu, goleuni'r byd... Dere atom ni, Iesu
Let us pray:
We light a candle... Come to us, Jesus
We wait for Jesus... Come to us, Jesus
Jesus light of the world...Come to us, Jesus
Gadewch i ni eistedd yn dawel
Gadewch i ni fod yn barod
Gadewch i ni ganu!
Disgwyl yr Iôr,
ei ddydd a ddaw;
disgwyl yr Iôr,
fe'th gynnal di.
Let us sit quietly
Let us be ready
Let's sing!
Wait for the Lord,
his day will come,
wait for the Lord,
he will sustain you.
Wait for the Lord (Taizé)
Nadolig
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
Gweddїwn:
Diolch am ddod yn faban ym Methlehem... Iesu rwy'n dy garu
Diolch am olau seren Bethlehem... Iesu rwy'n dy garu
Diolch am gariad Mair ein Mam... Iesu rwy'n dy garu
♫ Gadewch i ni ganu! ♫
Gadewch i ni foli Duw
Iesu rwy'n dy garu
♫ Baban bach, baban bach,
Baban bach yn cysgu,
Baban bach, baban bach
Yn cysgu yn y preseb.
♫
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd
Dda!
Nadolig - Christmas
Gogoniant yn y goruchaf i Dduw - Glory to God in the highest
Mae'n amser gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau
It's prayer time:
Let's make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen
Hands together, eyes closed.
Gweddїwn:
Diolch am ddod yn faban ym
Methlehem... Iesu rwy'n dy garu
Diolch am olau seren Bethlehem... Iesu
rwy'n dy garu
Diolch am gariad Mair ein Mam... Iesu
rwy'n dy garu
Let us pray:
Thank you for coming as a baby in
Bethlehem... Jesus I love you
Thank you for the light of the star of
Bethlehem.... Jesus I love you
Thank you for the love of Mary our
mother... Jesus I love you
Gadewch i ni foli Duw
Iesu rwy'n dy garu
Let us praise God.
Jesus I love you
Nadolig Llawen!
Blwyddyn Newydd Dda!
Happy Christmas!
Happy New Year!
Gadewch i ni ganu carol:
Baban bach, baban bach,
baban bach yn cysgu,
baban bach, baban bach,
yn cysgu yn y preseb.
Let's sing a carol:
Little baby, little baby,
little baby sleeping,
little baby
sleeping in the manger.
(tune 'Edelweiss')
Y Grawys/ Yr Wythnos Fawr
Arglwydd trugarha wrthym
Crist trugarha wrthym
Arglwydd trugarha wrthym
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Plygwch eich pennau, caewch eich llygaid.
Gweddїwn:
Am fod yn gas............ ............................mae'n flin 'da fi *
Am dy anghofio di............ ...................mae'n flin 'da fi
Am beidio â charu fel Iesu.............. .mae'n flin 'da fi
Amen
Maddau i fi, Iesu, am bechu yn dy erbyn.
Helpa fi i'th garu'n well bob dydd.
Amen.
♫ Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd: ♫
1. Kyrie eleison, 2. Trugarha wrthym, Kyrie eleison, trugarha wrthym,
Kyrie eleison. trugarha wrthym.
Gadewch i ni ddweud:
*“Mae’n flin 'da fi” /
“Mae’n ddrwg 'da fi”
Diolch i ti am faddau i fi.
Y Grawys/ Yr Wythnos Fawr - Lent/ Holy Week
Arglwydd trugarha wrthym - Lord have mercy
Crist trugarha wrthym - Christ have mercy
Arglwydd trugarha wrthym - Lord have mercy
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen.
Plygwch eich pennau, caewch eich
llygaid.
Welcome to Prayer Time:
Let's make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen
Bow your heads, close your eyes.
Gweddїwn:
Am fod yn gas... mae'n flin 'da fi *
Am dy anghofio di... mae'n flin 'da fi
Am beidio â charu fel Iesu... mae'n flin
'da fi
Amen
Maddau i fi, Iesu, am bechu yn dy erbyn.
Helpa fi i'th garu'n well bob dydd.
Amen.
Let us pray:
For being unkind... I'm sorry
For forgetting you... I'm sorry
For not loving like Jesus... I'm sorry
Amen.
Forgive me Jesus, for sinning against
you.
Help me to love you more each day.
Amen
Gadewch i ni ddweud *"Mae'n flin 'da fi/
Mae'n ddrwg 'da fi"
Diolch i ti am faddau i fi
Let us say "I'm sorry"
Thank you for forgiving me
Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd:
1. Kyrie eleison
2. Trugarha wrthym
Let us sing together:
Lord have mercy
Have mercy on us
(Russian Orthodox Liturgy)
Y Pasg
Atgyfododd Crist, Halelwia!
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Plygwch eich pennau, caewch eich llygaid.
Gweddїwn:
Mae Iesu wedi atgyfodi.............................. ......Halelwia
Mae'n dangos y ffordd i'r nefoedd............. Halelwia
Iesu yw'r bywyd tragwyddol....................... Halelwia
♫ Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd: ♫
Halelwia, Halelwia
Halelwia, Halelwia,
Halelwia, Halelwia,
Halelwia, Halelwia!
Gadewch i ni foli Duw:
Halelwia!
Pasg Hapus!
Y Pasg - Easter
Atgyfododd Crist, Halelwia! - Christ is risen, Alleluia!
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen
Plygwch eich pennau, caewch eich
llygaid.
Welcome to Prayer Time:
Let us make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Bow your heads, close your eyes.
Gweddїwn:
Mae Iesu wedi atgyfodi... Halelwia
Mae'n dangos y ffordd i'r nefoedd...
Halelwia
Iesu yw'r bywyd tragwyddol... Halelwia
Let us pray:
Jesus is risen... Alleluia
He shows us the way to heaven... Alleluia
Jesus is eternal life... Alleluia
Gadewch i ni foli Duw
Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd:
Halelwia, Halelwia,
Halelwia, Halelwia,
Halelwia, Halelwia,
Halelwia, Halelwia!
Pasg Hapus!
Let us praise God
Let's sing together:
Alleluia...
traditional, South Africa.
Happy Easter!
Sulgwyn/ Pentecost
Tyrd Ysbryd Glân!
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen.
Plygwch eich pennau, caewch eich llygaid.
Gadewch i ni weddїo:
Rho dy gariad i ni, O Dduw... Tyrd Ysbryd Glân!
Bydd gyda ni bob dydd... Tyrd Ysbryd Glân!
Helpa ni i fyw fel Iesu... Tyrd Ysbryd Glân!
♫ Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd: ♫
Abba fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Iesu fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Ysbryd fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Gadewch i ni ddweud:
“Tyrd, Ysbryd Glân!”
Sulgwyn - Pentecost
Tyrd Ysbryd Glân!
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen.
Plygwch eich pennau, caewch eich
llygaid.
Welcome to Prayer Time:
Let's make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Bow your heads, close your eyes.
Gadewch i ni weddїo.
Rho dy gariad i ni O Dduw... Tyrd Ysbryd
Glân
Bydd gyda ni bob dydd... Tyrd Ysbryd
Glân
Helpa ni i fyw fel Iesu... Tyrd Ysbryd Glân
Let us pray.
Give us your love, O God... Come Holy
Spirit
Be with us every day... Come Holy Spirit
Help us to live like Jesus... Come Holy
Spirit
Gadewch i ni ddweud: 'Tyrd Ysbryd
Glân'
Let us say: 'Come Holy Spirit'
Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd:
Abba fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Iesu fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Ysbryd fe'th addolwn,
ac o'th flaen ymgrymwn,
ti a garwn.
Let us sing together:
Abba we worship you,
and we bow before you,
we love you.
Jesus we worship you,
and we bow before you,
we love you.
Spirit we worship you,
and we bow before you,
we love you.
Mair, Fam Duw
Mis Mai/ Mis Hydref/ Gŵyl Fair y Canhwyllau
Gweddїa drosom ni
Croeso i Amser Gweddi:
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Plygwch eich pennau, caewch eich llygaid.
Gadewch i ni gyfarch Mair:
Henffych well, Fair, gyflawn o ras,
y mae'r Arglwydd gyda thi.
Bendigedig wyt ti ymhlith merched,
a bendigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.
Sanctaidd Fair, Fam Duw,
gweddїa drosom ni bechaduriaid,
yr awr hon ac yn awr ein hangau. Amen.
Gweddїwn:
Mair, Fam Iesu... Gweddїa drosom ni
Mair, ein Mam ni ... Gweddїa drosom ni
Mair o Benrhys... Gweddїa drosom ni
Mair o Aberteifi... Gweddїa drosom ni
♫ Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd: ♫
Fair Forwyn ddibechod,
dy enw mor fawr
sy'n llenwi ein calon
â chariad yn awr.
Ave, ave, ave Maria!
Ave, ave, ave Maria!
Gadewch i ni ddiolch i Fair.
Mair Fam Duw - Mary, Mother of God
Mis Mai/ Mis Hydref/ Gŵyl Fair y Canhwyllau - May/
October/ Candlemass
Gweddїa drosom ni - Pray for us
Croeso i Amser Gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Amen
Plygwch eich pennau, caewch eich
llygaid.
Welcome to Prayer Time.
Let us make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the Son
and of the Holy Spirit, Amen.
Bow your heads, close your eyes.
Gadewch i ni gyfarch Mair:
Henffych well Fair, gyflawn o ras......
Let us greet Mary:
Hail Mary, full of grace.............
Gweddїwn:
Mair, Fam Iesu... gweddїa drosom ni
Mair ein Mam ni .... gweddїa drosom ni
Mair o Benrhys...
Mair o Aberteifi...
Let us pray:
Mary, Mother of Jesus... pray for us
Mary, our Mother... pray for us
Mary of Penrhys...
Mary of Cardigan...
Gadewch i ni ganu gyda'n gilydd:
Fair Forwyn ddibechod
dy enw mor fawr
sy'n llenwi ein calon
â chariad yn awr.
Ave, ave, ave Maria...
Let's sing together:
Mary without sin,
your great name
fills our hearts
with love now.
Ave...
(Lourdes hymn - Immaculate Mary)
Gadewch i ni ddiolch i Fair.
Let us thank Mary.
Dydd Gwyl Dewi – Mawrth y cyntaf
Byddwch yn llawen, cadwch y ffydd
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
Gweddїwn:
Gadewch i ni ddweud diolch:
Am ein nawddsant Dewi... Diolch i ti, O Dduw.
Am ein ffydd... Diolch i ti, O Dduw. Cennin Pedr
Am Gymru ein gwlad... Diolch i ti, O Dduw.
Am yr iaith Gymraeg... Diolch i ti, O Dduw.
Gwnewch y pethau bychain!
Cennin
♫ Gadewch i ni ganu! ♫
Pwy yw Dewi, pwy yw Dewi,
Dewi Sant, Dewi Sant?
Ie, ie, ie, ie,
Nawddsant Cymru,
nawddsant Cymru.
Dros Gymru’n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri,
Y winllan wen a roed i’n gofal ni;
D’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon byth,
A boed i’r gwir a’r glân gael ynddi nyth;
Er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun,
O crea hi yn Gymru ar dy lun.
Dydd Gwyl Dewi – St. David’s Day
Mawrth y cyntaf – March 1st
Byddwch yn llawen, cadwch y ffydd -
Be joyful, keep the faith!
Diolch i Ti, O Dduw - Thanks to you, O God
Mae'n amser gweddi.
Gadewch i ni wneud arwydd y groes:
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân
Amen
Dwylo ynghyd, llygaid ar gau.
It's prayer time.
Let's make the sign of the cross:
In the name of the Father and of the
Son and of the Holy Spirit, Amen.
Hands together, eyes closed.
Gweddїwn:
Gadewch i ni ddweud diolch:
am ein nawddsant Dewi…
am ein ffydd…
am Gymru ein gwlad
am yr iaith Gymraeg...
Let us pray:
Let us say thank you:
for Dewi our patron saint…
for our faith...
for Wales our country...
for the Welsh language…
Gwnewch y pethau bychain a welsoch
ac a glywsoch gennyf fi!
Do the little things which you have
seen and heard me do!
Gadewch i ni ganu:
Pwy yw Dewi, pwy yw Dewi?
Dewi Sant? Dewi Sant
Ie, ie,
Nawddsant Cymru!
Let us sing: London’s burning
Who is Dewi?
Saint David?
Yes, yes,
The patron saint of Wales!
Dros Gymru’n gwlad, O Dad,
dyrchafwn gri,
Y winllan wen a roed i’n gofal ni;
D’amddiffyn cryf a’i cadwo’n ffyddlon
byth,
A boed i’r gwir a’r glân gael ynddi nyth;
Er mwyn dy Fab a’i prynodd iddo’i hun,
O crea hi yn Gymru ar dy lun.
Lewis Valentine
Tôn: Finlandia
For Wales our land O Father, we raise
our song,
The blessed vineyard which was
entrusted to us,
May your defence keep her ever
faithful,
And may truth and purity dwell within;
For the sake of your Son, who bought
her for Himself,
O form her as a land in your image.
Gweddїau - Prayers
Yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân, Amen In the name of the …
Gogoniant i'r Tad ac i'r Mab ac i'r Ysbryd Glân Glory be…
megis yr oedd yn y dechrau, y mae'r awr hon,
ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
Ein Tad, y sy yn y nefoedd, Our Father...
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
bydded dy ewyllys,
ar y ddaear megis yn y nef.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau i ni ein dyledion,
fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
Henffych well, Fair, gyflawn o ras, Hail Mary…
Y mae’r Arglwydd gyda thi.
Bendigedig wyt Ti ymhlith merched,
A bendigedig yw ffrwyth dy groth di, Iesu.
Sanctaidd Fair, Fam Duw,
Gweddia drosom ni bechaduriaid,
Yr awr hon ac yn awr ein hangau. Amen
Tyrd Ysbryd Glân! Llanw galonnau dy
ffyddloniaid, a chynnau ynddynt dân dy
gariad.
Come Holy Spirit! Fill the hearts of your
faithful and kindle in them the fire of your
love.
Bydded i'r Arglwydd ein bendithio, May the Lord bless us,
ein cadw rhag pob drwg, keep us from all evil,
a'n harwain i'r bywyd tragwyddol. and lead us to eternal life.
Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser The peace of the Lord be with you
always.
Llurig Padrig St. Patrick's breastplate
Crist yn f'ymyl, Crist o'm mewn i, Christ be with me, Christ beside me,
Crist o'm hôl a Christ o'm blaen i, Christ behind me, Christ before me,
Crist i'm hennill, Crist i'm cael i, Christ to win me, Christ to gain me,
Crist i'm nerthu a'm cyfodi. Christ to strengthen and uphold me.
Gweddїau bob dydd - Everyday Prayers
Gweddi'r Bore
Ein Tad yn y nefoedd,
rwyt ti'n fy ngharu i.
Rwy eisiau dy garu di bob amser
wrth chwarae a gweithio.
Bendithia fi drwy'r dydd.
Amen
Morning prayer
Our Father in heaven
you love me.
I want to love you always
as I work and play.
Bless me through the day.
Amen
Gweddi'r Hwyr
O Dduw ein Tad,
diolch am dy gariad heddiw.
Diolch am fy nheulu a'm ffrindiau.
Bydd gyda fi drwy'r nos ac yn y bore.
Amen
Evening prayer
O God our Father,
thank you for your love today
Thank you for my family and friends.
Be with me through the night and in the morning.
Amen
Gweddi i'r Ysbryd Glân
Ysbryd Glân, rwy eisiau gwneud yr hyn
sy'n iawn ....helpa fi
Ysbryd Glân, rwy eisiau byw fel Iesu..
...arwain fi
Ysbryd Glân, rwy eisiau gweddїo fel Iesu
..dysga fi
Prayer to the Holy Spirit
Holy Spirit, I want to do what is right
.....help me
Holy Spirit, I want to live like Jesus...
...guide me
Holy Spirit, I want to pray like Jesus
...teach me
Gras o flaen bwyd
Diolch i Ti am y byd,
diolch am ein bwyd bob dydd,
diolch am yr haul a'r glaw,
diolch Dduw am bopeth ddaw.
Grace before meals
Thank you for the world,
thank you for the food we eat,
thank you for the sun and rain,
thank you God for everything.
Gweddi Dydd Gŵyl Dewi
Diolch, diolch am Gymru,
diolch am wlad, am dir, am iaith.
Diolch, diolch am Iesu,
am ei gariad, am ei waith;
dyma weddi Dydd Gŵyl Dewi,
de a gogledd, cenwch gân:
boed i’r Cymry garu’r Iesu
cadwn Gymru’n Gymru lân.
St. David's Day prayer
Thanks, thanks for Wales
thanks for our country, land and language.
Thanks, thanks for Jesus,
for his love and his work;
this is a St David’s Day prayer,
north and south, sing this song:
let us in Wales love Jesus
and keep our country pure.
Ymadroddion a gweddїau
Ymbiliau - Intercessionary prayer
Gweddїwn dros ______ Arglwydd gwrando arnom R. Arglwydd derbyn ein gweddi
We pray for _______ Lord hear us R. Lord receive our prayer
Gweddїwn dros ... blant ein hysgol......... .....the children of our school
Gweddїwn dros .... bobl Haiti__________ ....the people of a country/area
Gweddїwn dros... ___ Dafydd________ ....person's name
Arglwydd agor ein gwefusau Lord open our lips
R. a molwn dy enw R. and we shall praise your name
Awn ymaith mewn tangnefedd Let us go in peace
R. Diolch i ti, O Dduw R. Thanks be to God
Bendigedig yw Duw yn dragywydd Blessed be God for ever
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd, Arglwydd Dduw'r lluoedd - Holy, holy, holy, Lord God of
Hosts
Dewi Sant, gweddїa drosom Saint David, pray for us
Sant Philip Evans, gweddїa drosom Saint Philip Evans, pray for us
Caneuon ac Emynau
Calon Lân
Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
aur y byd na'i berlau mân,
gofyn wyf am galon hapus,
calon onest, calon lân.
Calon lân yn llawn daioni,
tecach yw na'r lili dlos,
dim ond calon lân all ganu
canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
adain fuan ganddo sydd,
golud calon lân rinweddol
yn dwyn bythol elw fydd.
Hwyr a bore fy nymuniad
gwyd i'r nef ar adain cân
ar i Dduw, er mwyn fy ngheidwad,
roddi imi galon lân.
Calon Lân
I do not ask for a life of ease,
for wordly gold nor pearls,
I ask for a happy heart,
honest and pure.
A pure heart, full of goodness,
fairer than the lily,
only a pure heart can sing,
day and night.
If I desire wordly wealth,
it flies on swift wings,
the riches of a good, pure heart
bring eternal gain.
Morning and evening my prayer
rises to heaven on the wings of song,
that for the sake of my Saviour,
God will grant me a pure heart.
Siyahamba
R'yn ni'n cerdded nawr 'da golau Duw
R'yn ni'n cerdded nawr 'da golau Duw
x2
R'yn ni'n cerdded, ww,
R'yn ni'n cerdded nawr 'da golau Duw
x2
Siyahamba
We are walking in the light of God.......
O Dduw, clyw fy nghri,
O Dduw, clyw fy nghri,
galw 'rwyf, ateb fi;
O Dduw, clyw fy nghri,
O Dduw, clyw fy nghri,
tyred, erglyw fy llef.
O Lord hear my prayer...
when I call, answer me
Taizé
Rhannu llewyrch Iesu
llewyrch sy'n goleuo'r ffordd,
rhannu llewyrch Iesu,
rhannu ysbryd Duw yn awr.
Share the light of Jesus........
Bernadette Farrell
Canu'n llawen wnawn, alelwia.......
Sing and shout for joy, alleluia......
Bernadette Farrell
Galwaist ti ein henwau ni,
ryn ni'n eiddo i ti,
galwaist ti ein henwau ni,
ni yw dy blant
You have called us by our name,
we belong to you
you have called us by our name
and we are yours.
Bernadette Farrell
Emynau Catholig i ysgolion
Emynau Catholig 204
Pan wyf i'n penlinio As I kneel before you
ac yn dweud fy ngweddi fach,
cymer fy nydd, hawlia fe'n llwyr,
rho im dy gariad iach.
Ave, Maria, gratia plena,
dominus tecum, benedicta tu.
Emynau Catholig 118
Hedd sy'n llifo fel yr afon Peace is flowing like a river
llifo drwot ti a mi,
llifo allan i'r anialwch,
rhyddid bellach ddaeth i ni.
(there are 5 verses...peace, love, faith, hope, joy)
Emynau Catholig 69
Diolch am roddi imi'r bore, am bob Thank you for giving me the morning
rhyw newydd ddydd a ddaw,
diolch am sicrwydd fod fy meichiau oll
o dan dy law.
Emynau Catholig 36
Ceisiwch yn gyntaf deyrnas ein Duw, Seek ye first the kingdom of God
a'i gyfiawnder ef,
a'r pethau hyn yn ychwaneg roir i chwi:
Halelwia, halelwia.
Emynau Catholig 86 -
Cân Hosanna Sing Hosanna
Dyro gân dan fy mron, gad im foli,
dyro gân dan fy mron yn awr,
Dyro gân dan fy mron, gad im foli,
gad im foli nes daw toriad gwawr.
Cân Hosanna, cân Hosanna,
cân Hosanna nawr i Frenin nef,
cân Hosanna, cân Hosanna
cân Hosanna iddo ef.