13
Amddiffyn y genedl Darganfyddiad Cyfeiriad Radio (RDF: Radio Direction-finding)

Amddiffyn y genedl

  • Upload
    aysel

  • View
    59

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Radar. Darganfyddiad Cyfeiriad Radio (RDF: Radio Direction-finding). Amddiffyn y genedl. Llinell amser radar. Ffeithiau am radar. Diagramau radar a gweithgareddau. Radar – Ffeithiau Diddorol. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: Amddiffyn y genedl

Amddiffyn y genedl

Darganfyddiad Cyfeiriad Radio

(RDF: Radio Direction-finding)

Page 2: Amddiffyn y genedl

Llinell amser radar

Ffeithiau am radar

Diagramau radar a gweithgareddau

Page 3: Amddiffyn y genedl

1935 19451937 1939 1941 1943

Dechreuodd wyddonwyr Prydain arbrofi gydag offer darganfod cyfeiriad

radio, RDF.

Roedd Llynges yr Almaen wedi creu set

radar oedd yn gweithio yn 1934.

‘Arbrawf Biggin Hill’’.Arbrofion ymarferol ar radar

wnaethpwyd gan yr RAF.

Ychwanegwyd 17 gorsaf radar newydd i’r gadwyn o orsafoedd

‘Chain Home’ ar hyd arfordir Lloegr.

Awst 1940. Mae’r Luftwaffe yn targedu gorsafoedd radar

yn y gobaith am ‘ddallu’ Prydain.

Yn y Môr Tawel roedd radar wedi canfod awyrennau llu awyr Japan oedd ar fin ymosod ar ganolfan llynges yr Unol Daleithiau, yn Pearl Harbour.

Cafodd y signalau eu hanwybyddu!

Wrth fomio dinas Hamburg yn yr Almaen, roedd

awyrennau Prydain yn gollwng stribedi

alwminiwm. Roedd y stribedi hyn yn ymyrryd yn ddifrifol ar sgriniau radar yr

Almaenwyr.

Radar – Ffeithiau Diddorol

Defnyddiwyd offer ymyrryd ar radar yn helaeth yn ystod y

dyddiau’n arwain at Oresgyn Ewrop (Dydd-D). Y bwriad oedd

rhwystro’r Almaenwyr rhag canfod pryd a ble byddai milwyr

Prydain a’r U.D.A. yn glanio.

Page 4: Amddiffyn y genedl

Y gorsafoedd radar oedd amddiffyniad cyntaf Prydain. Roedden nhw’n helpu i ganfod awyrennau’r gelyn cyn iddyn nhw gyrraedd Ynysoedd Prydain.

Byddai’r signalau’n cael eu taflu o drosglwyddyddion radio ac ar draws y sianel. Byddai’r signalau’n bownsio nôl i’r gorsafoedd derbyn radar. Roedd awyrennau’r gelyn yn ymddangos fel ‘smotiau’ ar y sgrin radar.

Roedd y ‘smotiau’ hyn yn rhoi darlun eithaf cywir o faint, safle, uchder a phellter cyrch gelyn oddi wrth arfordir Prydain.

Page 5: Amddiffyn y genedl

Sut mae Radar yn gweithio?

Mae trosglwyddydd yn anfon signal radio i’r awyr mewn hyrddiadau byr. Os yw’r signal yn cyfarfod â gwrthrych (awyren) bydd y signal radio’n cael ei adlewyrchu nôl at dderbynnydd. Bydd hyn yn ymddangos ar sgrin radar fel naid neu bigyn ar linell wastad, hir.

Roedd modd defnyddio hyn i weithio allan yn fras gyfeiriad, pellter ac uchder yr awyren. Byddai’r wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i’r Ystafell Reoli. Yna, byddai awyrennau ymladd yn cael eu sgramblo a byddai Rheolaeth Awyrennau Ymladd yn cyfeirio’r awyrennau hynny at y targed.

20 40 60Curiad EcoDarged – mae bod dros y marc 60 yn

golygu bod yr awyrennau 60 milltir i ffwrdd.

Page 6: Amddiffyn y genedl

Derbyn gwybodaeth o’r gorsafoedd derbyn radar.

Mae’r Ystafell Hidlo Gwybodaeth ym mhencadlys Rheoli Awyrennau Ymladd yn dechrau plotio cyrchoedd y gelyn.

Pasio gwybodaeth ymlaen i Bencadlys y Grŵp.

Mae Corfflu’r Gwylwyr yn anfon gwybodaeth ychwanegol at y rheolwyr fel y daw awyrennau’r gelyn i’r golwg.

Mae sgwadronau’n cael eu sgramblo yn ôl yr angen ac yn cael eu tywys at awyrennau’r gelyn gan y rheolwyr.

Cliciwch ar y sgrin i ddilyn llif y wybodaeth

Page 7: Amddiffyn y genedl

Roedd y gorsafoedd radar yn anelu i ganfod signalau dros y Sianel (Môr

Udd).

Gorsaf Chain Home, Dover

Gallai erialau derbyn y mastiau radar fod hyd at 350 troedfedd o uchder.

Er bod y mastiau’n ymddangos yn fregus roedden nhw’n dargedau anodd

i’r Luftwaffe eu taro.

*RDF oedd yr enw gwreiddiol ar radar – (Radio Direction Finding).

Page 8: Amddiffyn y genedl

Does dim syndod fod gorsafoedd radar yn dargedau allweddol

i’r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain. 12 Awst Ymosododd 14 o awyrennau Bf 109 y Luftwaffe ar orsafoedd radar, yn

cynnwys Pevensey, Rye, Dover a Ventnor.

Roedd maint bychan y gorsafoedd yn eu gwneud yn dargedau anodd eu taro. Roedd tair o’r pedair gorsaf yn gwbl weithredol eto erbyn diwedd y dydd.

15 Awst Unwaith eto, effeithiwyd ar orsafoedd radar Pevensey a Rye pan dorodd bomiau’r Luftwaffe y prif wifrau trydan. Digwyddodd yr un peth i orsaf radar Foreness a doedd ‘run o’r tair gorsaf yn gweithio am y rhan fwyaf o’r dydd.

16 Awst Gorchmynodd Goering i beidio ymosod ar orsafoedd radar Prydain rhagor. Mae’n ymddangos fel penderfyniad tyngedfennol, ond roedd Goering yn benderfynol o ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar dargedu prif feysydd awyr Prydain. Gwnaeth hyn “yng ngolwg y ffaith nad oes yr un

ohonynt (y gorsafoedd radar a ymosodwyd arnynt) wedi cael eu dinistrio hyd yn hyn.”

Page 9: Amddiffyn y genedl

Pencadlys Rheoli Awyrennau

Ymladd

Maes Awyr

Corfflu’r Gwylwyr

Allwch chi farcio gyfeiriad llif y wybodaeth ar y diagram?

Pencadlys Grŵp

‘Ystafell Rheoli Sector’

Gorsafoedd Radar

Page 10: Amddiffyn y genedl

Pencadlys Rheoli Awyrennau

Ymladd

Maes Awyr

Pencadlys Grŵp

‘Ystafell Rheoli Sector’

Gorsafoedd Radar

Corfflu’r Gwylwyr

Allwch chi farcio ar y diagram gyfeiriad llif y wybodaeth?

Page 11: Amddiffyn y genedl

Gosodwch y wybodaeth gywir yn y blychau gwag.

Y rhain oedd amddiffyniad cyntaf Prydain

RDF

Cafodd y Luftwaffe drafferth mawr targedu a tharo’r rhain.

GweithredyddionDarganfyddiad Cyfeiriad Radio (Radio Direction

Finding) oedd yr enw gwreiddiol ar radar.

Gorsafoedd radar

Mastiau radar

Yn aml roedd y rhain yn gallu amcangyfrif maint, safle, uchder a phellter rhengoedd awyrennau’r

gelyn.

Page 12: Amddiffyn y genedl

Beth rydych chi’n gallu ei gofio am radar a sut roedd yn cael ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel

Byd?

Page 13: Amddiffyn y genedl

Ysgrifennwch baragraff byr sy’n disgrifio’r system amddiffynnol

oedd yn bodoli i amddiffyn Prydain rhag ymosodiadau o’r awyr?

Radar

Grwpiau

Gwylwyr

Plotwyr

Sgwadronau