Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Rhondda Cynon Taf
CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG AR ADDYSG GREFYDDOL (CYSAG)
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYFER BLWYDDYN ACADEMAIDD 2012 - 2013
2
CYNNWYS Adran 1. Gwybodaeth am CYSAG 1.1 Dyletswydd i sefydlu CYSAG 1.2 Cyfansoddiad CYSAG 1.3 Aelodaeth CYSAG 1.4 Swyddogaethau CYSAG 1.5 Cyfarfodydd 1.6 Dosbarthu’r adroddiad 1.7 Cynllunio gwaith CYSAG a’i drefnu Adran 2 – Crynodeb Gweithredol 2.1 Addysg Grefyddol 2.2 Maes Llafur Cytûn 2.3 Training materials 2.4 Hyfforddiant ar gyfer athrawon 2.5 Addoli ar y cyd 2.6 Materion eraill Adran 3 – Crynodeb o’r cyngor i’r awdurdod addysg lleol ar addysg grefyddol 3.1 Maes llafur cytûn lleol 3.2 Safonau ym maes Addysg Grefyddol 3.3 Dulliau addysgu, deunydd addysgu a hyfforddi athrawon Adran 4 - Crynodeb o'r cyngor am addoli ar y cyd 4.1 Adroddiadau Arolygu Ysgolion 4.2 Hunan – arfarnu ysgolion 4.3 Dyfarniadau 4.4 Arsylwi addoli ar y cyd 4.5 Canllawiau Cymdeithas CYSAGau Cymru ynghylch addoli ar y cyd Adran 5 - Crynodeb o faterion eraill 5.1 Cymdeithas CYSAGau Cymru 5.2 Coffáu'r Holocost 5.3 Cynllun Gwersi o Auschwitz 5.4 Defnyddio celf weledol yn addysg grefyddol 5.5 Addysg Grefyddol mewn Addysg Bellach 5.6 Newyddion Addysg Grefyddol 5.7 Adroddiad thematig Estyn: safonau addysg grefyddol Atodiadau Atodiad 1. Rhestr o aelodau o CYSAG Atodiad 2. Cofnodion y cyfarfodydd Atodiad 3. Rhestr y sefydliadau a dderbyniodd yr adroddiad Atodiad 4. Cynllun Datblygu CYSAG ar gyfer 2012–2015 Atodiad 5. Dadansoddi arholiadau – Safon Uwch a TGAU 2010 - 2012 a
chanlyniadau Lefel Mynediad 2012 Atodiad 6. Canlyniadau asesiadau’r athrawon yng nghyfnod allweddol 3 Atodiad 7 Cyfansoddiad CYSAG
3
1.1 Dyletswydd i sefydlu CYSAG
Mae hi’n ofynnol i bob Awdurdod Lleol (ALl) sefydlu Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) yn ei ardal.
1.2 Cyfansoddiad CYSAG Mae angen i’r sefydliadau canlynol gael eu cynrychioli yn rhan o CYSAG:
• enwadau Cristnogol neu grefyddau eraill sy’n adlewyrchu prif dueddiadau
crefyddol yr ardal yn ôl yr awdurdod lleol; • cyrff sy’n cynrychioli athrawon; • a'r awdurdod lleol Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gofalu bod aelodau o’r grwpiau yn cael eu penodi a’u bod yn gynrychioliadol.
1.3 Aelodaeth CYSAG
Mae rhestr o aelodau o CYSAG Rhondda Cynon Taf wedi’i chynnwys yn Atodiad 1.
1.4 Swyddogaethau CYSAG Prif swyddogaethau CYSAG:
• rhoi cyngor i’r awdurdod lleol ar faterion addoli a’r addysg grefyddol sydd i’w rhoi yn unol â’r maes llafur cytûn, gan gynnwys rhoi cyngor ar ddulliau addysgu, deunyddiau dysgu a hyfforddi athrawon;
• ystyried a oes angen argymell y dylai’r Awdurdod Lleol adolygu’r maes llafur cytûn cyfredol drwy ymgynnull Cynhadledd Maes Llafur Cytûn;
• ystyried ceisiadau o ysgolion er mwyn eu dyfarnu (cael eu heithrio rhag addoli yn y dull "Cristnogol"); ac • adrodd yn ôl yn flynyddol i’r awdurdod lleol a'r Adran Addysg a Sgiliau
am ei weithgareddau. 1.5 Cyfarfodydd CYSAG
Cynhaliwyd pedwar cyfarfod o CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd 2012–2013:
• 8 Hydref 2012 – Y Pafiliynau, Cwm Clydach; • 3 Rhagfyr 2012 - Ysgol Gyfun y Pant
ADRAN UN
GWYBODAETH AM CYSAG
4
• 8 Mawrth 2013 – Eglwys y Bedyddwyr Meisgyn a'r Ganolfan Gristnogol, Penrhiwceiber
• 6 Mehefin 2013 – Y Pafiliynau, Cwm Clydach.
Yn ogystal, cynhaliwyd un Gynhadledd Maes Llafur Cytûn ar 6 Mehefin 2013. Mae cofnod o brif eitemau’r agendâu a gafodd eu trafod yn ystod y cyfarfodydd yn Atodiad 2. 1.6 Dosbarthu’r adroddiad
Mae copïau o’r adroddiad wedi’u dosbarthu i’r cyrff/sefydliadau sydd wedi'u rhestru yn Atodiad 3.
1.7 Cynllunio gwaith CYSAG a’i drefnu
Cyn dechrau blwyddyn academaidd 2012–2013, roedd CYSAG wedi cytuno i drefnu ei waith drwy lunio Cynllun Datblygu a phennu blaenoriaethau. Mae copi o’r Cynllun Datblygu, gan gynnwys manylion am y cynnydd a fu yn ystod y flwyddyn, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4.
5
ADRAN DAU
CRYNODEB GWEITHREDOL CRYNODEB O’R CYNGOR A RODDODD CYSAG I’R AWDURDOD LLEOL
2.1 ADDYSG GREFYDDOL: Nod: Monitro darpariaeth a safonau ym maes addysg grefyddol. Gweithred 1. Mae CYSAG yn ystyried ac yn dadansoddi adroddiadau arolygu ysgolion. Os
oes unrhyw faterion yn codi ynghylch maes Addysg Grefyddol, fel ysgol yn methu â chyflawni ei dyletswyddau statudol, bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd i'r afael â hyn. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2012 - 2013, doedd dim angen cymryd camau dilynol.
2. Mae CYSAG wedi penderfynu defnyddio dull hunanwerthuso ysgolion er mwyn cyflawni ei ddyletswydd statudol o fonitro darpariaeth a safonau ym maes addysg grefyddol. Chafodd adroddiadau hunan-arfarnu mo’u hadolygu y flwyddyn academaidd yma ond bydd hyn yn cael ei gyflawni yn 2013 - 2014.
3. Mae CYSAG yn dadansoddi canlyniadau arholiadau dros gyfnod o dair blynedd ac yn dangos tueddiadau cyflawniad trwy eu cymharu â data Cymru Gyfan. Bydd ysgolion yn cael gwybod am ganlyniadau'r dadansoddiad yma ac am unrhyw faterion a gododd CYSAG.
4. Mae’r Awdurdod Lleol a’i CYSAG yn cronni data a’i ddadansoddi parthed Asesiadau Athrawon Addysg Grefyddol CA3. Bydd yr wybodaeth yma’n cael ei chyflwyno i CYSAG ac yn cael ei hanfon i bob ysgol uwchradd yn yr ALl.
5. Cafodd Adroddiad y Prif Gymedrolwr ar Gadarnhau Asesiad Athrawon CBAC / Adran Addysg a Sgiliau yn CA3 ei ystyried gan CYSAG a chafodd prif ddeilliannau ysgolion yr ALl eu rhannu ag aelodau.
2.2 MAES LLAFUR CYTÛN Nod: Bodloni’r gofyn cyfreithiol i adolygu’r maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol. Gweithred
1. Yn 2008, mabwysiadodd CYSAG Rhondda Cynon Taf faes llafur cytûn newydd ar gyfer ysgolion yr awdurdod gyda dyddiad gweithredu o fis Medi 2008. Derbyniodd pob ysgol raglen hyfforddiant mewn swydd yn ystod haf 2008 a phecyn o ddeunyddiau’n gefn i’r maes llafur cytûn newydd. Mae rhaglen flynyddol o hyfforddiant mewn swydd wedi mynd yn ei blaen ac mae hyfforddiant penodol ynglŷn â'r maes llafur cytûn wedi cael ei gynnig. Mae deunyddiau cynorthwyol cynhwysfawr, gan gynnwys Cynlluniau Gwaith a ffeiliau electronig 'Progress in Learning' ar gyfer yr ysgolion uwchradd, eisoes wedi'u dosbarthu i'r ysgolion.
2. Ym mis Mehefin 2013, cytunwyd i ail-fabwysiadu maes llafur cytûn addysg grefyddol yn Rhondda Cynon Taf, ac hyn gyda'r ddealltwriaeth y bydd y maes
6
llafur yn cael ei adolygu unwaith bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei derbyn mewn perthynas â'r asesiad ac arolwg o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
2.3 DEUNYDDIAU DYSGU Nod: Sicrhau bod ysgolion yn cael gwybod am ddeunyddiau dysgu addas. Gweithred
1. Rhoddwyd gwybodaeth i ysgolion yr ALl am thema Diwrnod Cofio'r Holocaust 2013 'Cymunedau gyda'i gilydd: Adeiladu Pont', a bod adnoddau i gefnogi'r thema ar gael o wefan 'Holocaust Memorial Day' (www.hmd.org.uk).
2.4 HYFFORDDIANT AR GYFER ATHRAWON Nod: Sicrhau bod cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaol addas ar gael i athrawon. Gweithred
1. Drwy Gonsortiwm Canolbarth y De, cynigodd yr awdurdod lleol gwrs i athrawon ysgolion cynradd ynglŷn ag addysg grefyddol a llythrennedd yn y Cyfnod Sylfaen: 'Not Just Any Old Story'. Cafodd cwrs cyfnod allweddol 2 'Let's Think' ei ail-drefnu ar gyfer tymor yr Hydref 2013 oherwydd diffyg niferoedd.
2. Derbyniodd pob ysgol uwchradd hyfforddiant ar fonitro safonau yng nghyfnod allweddol 3. Pwrpas yr hyfforddiant oedd dilyn y prif negeseuon a gafodd eu trosglwyddo i ysgolion yn adroddiad y Prif Safonwr, haf 2012. Cafodd y cwrs ei ariannu gan CYSAGau ar sail consortia.
3. Mae pryderon wedi codi ynghylch lefel y cymorth penodol sydd ar gael o ran addysg grefyddol. Mae'r broblem wedi cael ei chodi gyda Chonsortiwm Canolbarth y De a bydd Pennaeth Gwe Ysgolion ar gyfer Dysgu ac Arloesedd (LINKS) yn bresennol yng nghyfarfod CYSAG tymor yr Hydref i drafod y mater ymhellach.
2.5 ADDOLI AR Y CYD Nod: Sicrhau bod ysgolion yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer addoli ar y cyd ac yn rhoi profiad gwerth chweil i ddisgyblion. Gweithred
1. Mae CYSAG yn monitro adrannau o adroddiadau'r arolygwyr sy'n ymwneud ag addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Os oes unrhyw faterion yn codi ynghylch cyflawni dyletswyddau statudol, bydd yr Awdurdod Lleol yn mynd i'r afael â hyn. Cafodd ei nodi mewn adroddiad arolygu un o'r ysgolion cynradd fod cyfleoedd i ddatblygu yn ysbrydol ddim yn cael digon o sylw yn ystod sesiynau addoli ar y cyd a bywyd bob dydd yr ysgol. Un o’r argymhellion oedd bod yr ysgol yn rhoi rhagor o bwyslais ar ddimensiwn ysbrydol mewn gwasanaethau ac yn ystod bywyd bob dydd yr ysgol. Roedd CYSAG wedi gwneud cais am gynllun gweithredu'r ysgol ac mae CYSAG wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd.
2. Mae CYSAG wedi penderfynu defnyddio dull hunanwerthuso ysgolion er mwyn cyflawni ei ddyletswydd statudol o fonitro gofynion statudol, darpariaeth
7
a safonau addoli ar y cyd. Chafodd adroddiadau hunan-arfarnu mo’u hadolygu y flwyddyn academaidd yma ond bydd hyn yn cael ei gyflawni yn 2013 - 14.
3. Mae CYSAG wedi trafod canllawiau Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer addoli ar y cyd. Mae copïau wedi cael eu dosbarthu i bob ysgol yn yr awdurdod lleol.
2.6 MATERION ERAILL Nod: Sicrhau bod CYSAG yn cael gwybod am bopeth trwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â materion lleol a chenedlaethol.
1. Mae aelodau wedi adolygu a mabwysiadu cyfansoddiad ar gyfer CYSAG Rhondda Cynon Taf.
2. Mae CYSAG yn parhau'n aelod o Gymdeithas CYSAGau Cymru ac yn derbyn adborth bob tymor o gyfarfodydd y gymdeithas.
3. Mae aelodau CYSAG wedi trafod yr adroddiad ‘CYSAG’au a'r Gymuned Leol’ ac wedi ystyried yr argymhellion.
4. Mae aelodau wedi derbyn nifer o gyflwyniadau: • swyddogaethau a chyfrifoldebau CYSAG gan Carys Pritchard; • defnydd o gymhorthion gweledol yn y maes addysg grefyddol gan Sarah
Burnell, aelod o adran AG Ysgol Gyfun y Pant; • AG mewn Addysg Bellach gan David Brookes o Goleg Morgannwg ac
Amanda Jones o Ysgol Cardinal Newman. 5. Mae gwasanaethau ysgolion yr Awdurdod Lleol wedi derbyn adborth er mwyn
Diwrnod Cofio'r Holcost. 6. Bu aelodau yn trafod ac yn cwestiynu datblygiadau Newyddion AG. Bydd
copïau yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn y dyfodol. 7. Derbyniodd aelodau wybodaeth gefndirol ynghylch adolygiad thematig Estyn o
addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd.
8
ADRAN TRI
CRYNODEB O’R CYNGOR I’R AWDURDOD ADDYSG LLEOL AR ADDYSG GREFYDDOL
3.1 Y MAES LLAFUR CYTÛN LLEOL Yn ystod tymor y gwanwyn 2008, mabwysiadodd y Gynhadledd Sefydlog faes llafur cytûn newydd ar gyfer ysgolion yr awdurdod i’w weithredu o fis Medi 2008. Mae rhaglen flynyddol o hyfforddiant mewn swydd wedi mynd yn ei blaen ac mae hyfforddiant penodol ynglŷn â'r maes llafur cytûn wedi cael ei gynnig. Mae deunyddiau cynorthwyol cynhwysfawr, gan gynnwys Cynlluniau Gwaith a ffeiliau electronig 'Progress in Learning' ar gyfer yr ysgolion uwchradd, eisoes wedi'u dosbarthu i'r ysgolion. Yn ystod blwyddyn academaidd 2012-2013, rhoddwyd gwybod i CYSAG am gyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau am adolygiad o'r asesiadau a Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Byddai'r adolygiad yn cynnwys cyflwyniad o'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac yn nodi diwygiadau i'r asesiad presennol a threfniadau cwricwlaidd. Ym mis Mehefin 2013, cytunwyd i ail-fabwysiadu maes llafur cytûn addysg grefyddol yn Rhondda Cynon Taf, ac hyn gyda'r ddealltwriaeth y bydd y maes llafur yn cael ei adolygu unwaith bydd gwybodaeth ychwanegol yn cael ei derbyn mewn perthynas â'r asesiad ac adolygiad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. 3.2 SAFONAU YM MAES ADDYSG GREFYDDOL Rhoddodd CYSAG ystyriaeth i ganlyniadau arholiadau yn yr ysgolion uwchradd ar gyfer 2012. Mae canlyniadau arholiadau Rhondda Cynon Taf yn cael eu cymharu â ffigurau Cymru Gyfan a chanlyniadau’r blynyddoedd blaenorol. Caiff aelodau eu hysbysu hefyd o ganran carfan Blwyddyn 11 sy’n cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau Astudiaethau Crefyddol TGAU (Manylebion A a B). Mae canlyniadau’r arholiadau yn Atodiad 5, ynghyd â chanlyniadau ar gyfer 2010 a 2011. Roedd cynnydd o ran nifer y myfyrwyr a ddilynodd cwrs byr astudiaethau crefyddol TGAU. Yn 2012, roedd 1,442 o ymgeiswyr o 18 o ysgolion, o gymharu â 1378 o ddisgyblion yn 2011. Ar gyfartaledd, canran carfan disgyblion Rhondda Cynon Taf a oedd 51.7%. Mae hyn ryw fymryn yn uwch na'r gyfartaledd yn 2011 o 49.1%, ond yn is na'r ffigwr yn 2010 sef 63.4%. Llwyddodd 56.7% o fyfyrwyr Rhondda Cynon Taf i ennill graddau A* – C, sy'n well na'r canlyniadau blaenorol a chyfartaledd Cymru gyfan, sef 54%. Ar y cyfan, cafodd 97.7% o ymgeiswyr Rhondda Cynon Taf raddau A* – G, sy'n debyg i'r canlyniadau blaenorol ac yn well na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 94%. Ar y cyfan, cafodd 16.9% o ymgeiswyr graddau A* - A, sy'n well na'r cyflawniad blaenorol. Roedd hefyd ostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr a gafodd eu cofrestru i ddilyn cwrs astudiaethau crefyddol TGAU yn 2012, gydag 790 o ymgeiswyr mewn 15 o ysgolion. Yn 2011 roedd 875 o ymgeiswyr mewn 15 o ysgolion a 857 o ymgeiswyr yn 2010. Ar
9
gyfartaledd, canran carfan disgyblion Rhondda Cynon Taf oedd 27.4%, sy'n is na ffigwr 2011 (29.5%) a 2010 (29%) Pasiodd 70.9% o ymgeiswyr gyda gradd A*- C, sy’n well na chyflawniad 2011 (68.1%) a 2010 (68.4%) ond yn is na ffigwr Cymru Gyfan sef 74%. Cafodd 99% o ymgeiswyr gradd A*- G, sydd ychydig well na chyflawniad 2011 (98.2%) a 2010 (97.3%) ac yn well na ffigwr Cymru Gyfan sef 98%. Ar y cyfan, cafodd 28.7% o ddisgyblion Rhondda Cynon Taf raddau A*– C, sy'n well na chanlyniadau 2011 (27.7%) a 2010 (23%), ond mae'n is na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 35%. Yn 2012, cafodd 155 o ymgeiswyr eu cofrestru ar gyfer cwrs astudiaethau crefyddol Lefel A ar draws 16 o ysgolion. Mae hyn yn well na ffigyrau 2011 (115 o ddisgyblion) a 2010 (109 o ddisgyblion). Pasiodd 97.4% gyda graddau A* - E, sy'n debyg i berfformiad 2011 (98.3%) ac yn well na chanlyniadau 2010 (90.5%) ond yn fymryn yn is na chanran Cymru Gyfan o 99%. Ar y cyfan, cafodd 77.4% o ddisgyblion Rhondda Cynon Taf raddau A*– C, sy'n well na chanlyniadau 2011 (66.1%) a 2010 (68.6%), ond mae'n is na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 81%. Llwyddodd 26 o fyfyrwyr Rhondda Cynon Taf (16.8%) i ennill gradd A* - A, sy'n well na'r canlyniadau blaenorol ond yn is na chanlyniadau Cymru gyfan, sef 22 %. Mae aelodau o CYSAG Rhondda Cynon Taf hefyd yn ystyried y lefelau mae’r athrawon yn eu rhoi i ddisgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 3. Maen nhw’n cymharu cyflawniad blaenorol ym maes addysg grefyddol ac hefyd o gymharu â phynciau craidd a sylfaen yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Canran y disgyblion (bechgyn a merched) a lwyddodd i gyrraedd lefel 5 ac uwch oedd 69.1% a'r canran a lwyddodd i gyrraedd lefel 6 ac uwch oedd 23.8%. Roedd aelodau CYSAG yn falch i nodi gwelliant yng nghanlyniadau lefel 5 ac uwch ymhlith bechgyn a merched. Mae’r lefelau ar ddiwedd cyfnod allweddol 3 a chanlyniadau 2011 wedi’u nodi yn Atodiad 6. Mae CYSAG, gyda chytundeb a chydweithrediad yr awdurdod lleol, yn cael adroddiadau gan swyddogion proffesiynol am safonau a darpariaeth, ac yn adolygu canfyddiadau arolygiadau ac arolygon Estyn. Yn ystod blwyddyn academaidd 2012 - 2013, cafodd aelodau CYSAG fanylion am arolygiadau a gynhaliwyd rhwng y gwanwyn a’r hydref, 2012. Cafodd 17 o adroddiadau arolygu eu hystyried yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys 15 o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd. Doedd dim problemau ynghylch addysg grefyddol wedi'u nodi yn yr adroddiadau, felly doedd dim angen gweithredu. Mae CYSAG wedi penderfynu defnyddio dull hunanwerthuso ysgolion er mwyn cyflawni ei ddyletswydd statudol o fonitro darpariaeth a safonau ym maes Addysg Grefyddol. Bydd adroddiadau hunan-arfarnu yn cael eu hadolygu y flwyddyn academaidd yma, 2013 - 14. 3.3 DULLIAU ADDYSGU, DEWIS DEUNYDD ADDYSGU, HYFFORDDI
ATHRAWON 3.3.1 DEUNYDDIAU DYSGU Rhoddwyd gwybodaeth i ysgolion yr ALl am thema Diwrnod Cofio'r Holocaust 2013 'Cymunedau gyda'i gilydd: Adeiladu Pont', a bod adnoddau i gefnogi'r thema ar gael o wefan 'Holocaust Memorial Day Trust' (www.hmd.org.uk).
10
3.3.2 HYFFORDDIANT MEWN SWYDD Drwy Gonsortiwm Canolbarth y De, cynigodd yr awdurdod lleol gwrs i athrawon ysgolion cynradd ynglŷn ag addysg grefyddol a llythrennedd yn y Cyfnod Sylfaen : 'Not Just Any Old Story'. Roedd 100% o'r ffurflenni gwerthuso yn nodi'r ansawdd uchaf o hyfforddiant o ran cwrdd ag anghenion y cwrs, pa mor effeithiol oedd darpariaeth y cwrs ac i ba radd yr oedd disgyblion wedi ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. Mae cwrs cyfnod allweddol 2 'Let's Think' ei ail-drefnu ar gyfer tymor yr Hydref 2013 oherwydd diffyg niferoedd. Cafodd ysgolion uwchradd hyfforddiant ynghylch monitro safonau yng nghyfnod allweddol 3. Pwrpas yr hyfforddiant oedd dilyn y prif negeseuon a gafodd eu trosglwyddo i ysgolion yn adroddiad y Prif Safonwr, haf 2012. Cafodd y cwrs ei ariannu gan CYSAGau Cymru ar sail consortia. Mae CYSAG yn dymuno bod y rhaglen hyfforddiant yn parhau i redeg. Mae pryderon wedi codi ynghylch lefel y cymorth penodol sydd ar gael o ran addysg grefyddol. Codwyd y broblem gyda Chonsortiwm Canolbarth y De a bydd Pennaeth Gwe Ysgolion ar gyfer Dysgu ac Arloesedd (LINKS) yn bresennol yng nghyfarfod CYSAG tymor yr Hydref i drafod y mater ymhellach.
11
ADRAN PEDWAR
CRYNODEB O'R CYNGOR AM ADDOLI AR Y CYD
Mae addoli ar y cyd wedi parhau i gael ei fonitro trwy archwilio adroddiadau, arolygon ac ymweliadau Estyn, ac i ysgolion gan aelodau o GYSAG, lle bo hynny’n briodol. 4.1 ADRODDIADAU AROLYGU YSGOLION Yn ystod blwyddyn academaidd 2012-2013, cafodd aelodau CYSAG fanylion am arolygiadau a gynhaliwyd rhwng gwanwyn a hydref 2012. Cafodd 17 o adroddiadau arolygu eu hystyried yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys 15 o ysgolion cynradd a 2 ysgol uwchradd. Cafodd sylwadau ynglŷn â datblygiad ysbrydol eu nodi ym mhob un o'r adroddiadau arolygu. Roedd yr adroddiadau yn tynnu sylw at y canlynol:
• ystod eang o weithgareddau dysgu ac allgyrsiol sy'n hybu datblygiad ysbrydol disgyblion, e.e. amser cylch, sesiynau addoli ar y cyd, gwersi addysg grefyddol a threfniadau gofal bugeiliol;
• defnydd effeithiol o ddarparwyr ac asiantaethau cymorth allanol sy'n sicrhau bod anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol y disgyblion yn cael eu cwrdd;
• datblygiad ysbrydol yn cael eu hyrwyddo'n llwyddiannus/yn effeithiol/yn effeithiol iawn;
• cyfleoedd ar gael i ddisgyblion er mwyn iddyn nhw fyfyrio ynglŷn â'u credoau eu hunain a chredoau crefyddau eraill; a
• cyswllt da gyda'r eglwys a'r capel lleol yn gwella datblygiad moesol, cymdeithasol ac ysbrydol y disgyblion.
Cafodd ei nodi mewn adroddiad arolwg un o'r ysgolion cynradd fod cyfleoedd i ddatblygu yn ysbrydol ddim yn cael digon o sylw yn ystod sesiynau addoli ar y cyd a bywyd bob dydd yr ysgol. Awgrymwyd bod yr ysgol yn rhoi rhagor o bwyslais ar ddimensiwn ysbrydol mewn gwasanaethau ac yn ystod bywyd bob dydd yr ysgol. Roedd CYSAG wedi gwneud cais am gynllun gweithredu 'r ysgol ac maen nhw wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd. Yn ôl Fframwaith Asesu Cyffredin newydd Estyn, mae eisiau i'r arolygwyr nodi dim ond achosion lle nad yw'r ysgol yn bodloni'r gofynion statudol. Dydy Estyn ddim wedi nodi unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio yn yr adroddiadau, felly, mae'n bosibl i ni dybio bod yr ysgolion a gafodd eu harolygu yn ystod tymhorau'r gwanwyn a hydref 2012 i gyd yn bodloni'r gofynion statudol o ran addoli ar y cyd. Roedd sylwadau a oedd yn ymwneud ag addoli ar y cyd yn amlwg mewn wyth o'r adroddiadau arolygu. Mae’r nodweddion da a nodwyd yn cynnwys:
• cyfleoedd priodol i wella datblygiad moesol, ysbrydol a chymdeithasol y disgyblion;
12
• sesiynau addoli ar y cyd sydd wedi'u paratoi'n dda ac o ansawdd da; • cyfleoedd da i ddathlu amrywioldeb; • cyfleoedd i'r disgyblion fyfyrio; a • cyfleoedd i ddisgyblion ddeall materion sy'n effeithio ar eu hardal leol a'r byd
ehangach.
Croesawodd CYSAG agweddau o’r adroddiad, sy’n nodi arfer da ac yn nodi hefyd unrhyw ddiffygion. Mae hyn felly’n cynnig agenda ar gyfer gwella. 4.2 HUNAN-ARFARNU YSGOLION Penderfynodd CYSAG ddefnyddio dull hunan-arfarnu ysgolion er mwyn cyflawni ei ddyletswydd statudol o fonitro cyflawniad o ofynion statudol, darpariaeth ac ansawdd addoli ar y cyd. Ni chafodd adroddiadau hunanwerthuso eu hadolygu y flwyddyn academaidd yma. 4.3 DYFARNIADAU Fel y llynedd, ddaeth dim cais gan unrhyw ysgol am benderfyniadau i dynnu’r gofynion i addoli ar y cyd fod yn hollol Gristnogol neu’n rhannol Gristnogol ei gymeriad. 4.4 ARSYLWI SESIYNAU ADDOLI AR Y CYD Mae CYSAG yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd sydd ar gael i'r aelodau o ran arsylwi sesiynau addoli ar y cyd mewn ysgolion. Roedd yr aelodau hefyd wedi mynychu sesiynau addoli ar y cyd er mwyn coffáu Diwrnod Cofio’r Holocost yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gymunedol Glynrhedynog. 4.5 CANLLAWIAU CYMDEITHAS CYSAGau Cymru AR ADDOLI AR Y CYD Rhoddwyd gwybod i aelodau CYSAG ynglŷn â chanllawiau Cymdeithas CYSAGau er mwyn sicrhau sesiynau addoli ar y cyd effeithiol. Cytunodd CYSAG y byddai'r canllawiau'n ddefnyddiol i ysgolion wrth fynd i'r afael â nifer o'u hymholiadau a phryderon a'u cefnogi nhw wrth ddarparu sesiynau addoli ar y cyd arwyddocaol. Cafodd copïau o'r canllawiau eu hanfon i bob ysgol yn yr Awdurdod Lleol.
13
ADRAN PUMP
CRYNODEB O FATERION ERAILL
5.1 CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU Mae CYSAG yn parhau i gefnogi gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru ac mae’n cydnabod yr hyn mae’r corff yn ei wneud i hyrwyddo addysg grefyddol ac addoli ar y cyd ledled y wlad. Yn ystod 2012–2013, daeth adroddiad llawn ar y materion a gafodd eu trafod yng nghyfarfodydd y Gymdeithas. Mae Brian Rogers, sef cadeirydd CYSAG, hefyd yn aelod o bwyllgor gweithredol CYSAGau. Mae aelodau CYSAG Rhondda Cynon Taf hefyd wedi trafod adroddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru ‘CYSAG a’i Gymuned Leol’ ac wedi ystyried yr argymhellion. 5.2 COFFÁU'R HOLOCOST Rhoddwyd gwybod i CYSAG ynglŷn â thema Diwrnod Cofio'r Holocost 'Cymunedau gyda'i gilydd: Adeiladu Pont' , a bod adnoddau i gefnogi'r thema ar gael o wefan 'Holocaust Memorial Day' (www.hmd.org.uk). Cafodd llythyr ei anfon i'r holl ysgolion uwchradd er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw ynglŷn â'r thema a'r deunyddiau a oedd ar gael ar y wefan. Cafodd aelodau o CYSAG hefyd eu gwahodd i wasanaethau Diwrnod Cofio'r Holocost yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gymunedol Glynrhedynog. Cafodd adborth ei roi ynglŷn â'r gwasanaethau yng nghyfarfod CYSAG yn ystod tymor y gwanwyn. 5.3 CYNLLUN GWERSI O AUSCHWITZ
Cafodd CYSAG wybod bod Cymru wedi cael ei chynnwys yn y rhaglen 'Gwersi o Auschwitz' ar gyfer 2011. Cafodd rhestr ei rhoi i CYSAG o'r ysgolion yn Rhondda Cynon Taf a oedd yn bresennol ar y daith i Auschwitz. 5.4 DEFNYDDIO CELF WELEDOL YN ADDYSG GREFYDDOL
Yn ystod cyfarfod ym mis Rhagfyr, dangoswyd cyflwyniad i'r aelodau ynglŷn â 'Defnyddio celf weledol yn addysg grefyddol'. Esboniodd Sarah Burnell, sef aelod o adran addysg grefyddol Ysgol Gyfun y Pant, nifer o wahanol strategaethau a ffynhonellau gweledol i hoelio sylw disgyblion. Roedd y cyflwyniad yn ymarferol iawn a bu'r aelodau yn mwynhau cymryd rhan yng ngweithgaredd 'Maps from Memory'.
14
5.5. ADDYSG GREFYDDOL MEWN ADDYSG BELLACH Cafwyd cyflwyniad gan David Brookes, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr Coleg Morgannwg ac Amanda Jones, cyfarwyddwr addysg grefyddol Ysgol Cardinal Newman. Amlinellwyd cyd-destun y Ganolfan Safon Uwch (Lefel A) a'r bartneriaeth rhwng Coleg Morgannwg a Cardinal Newman a fydd yn cynnig y ddarpariaeth addysg grefyddol Lefel A. Derbyniwyd gwybodaeth hefyd ynghylch y gaplaniaeth ac elfennau ysbrydol a chrefyddol y sesiynau tiwtora. 5.6 NEWYDDION ADDYSG GREFYDDOL
Bu aelodau yn trafod datblygiadau ynghylch Newyddion AG. Bydd copïau yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn y dyfodol. Awgrymodd CYSAG y dylai'r ALl gefnogi'r cynllun newydd a pharhau i gyfrannu at y gost. 5.7 ADRODDIAD THEMATIG ESTYN: SAFONAU ADDYSG GREFYDDOL Derbyniodd aelodau wybodaeth gefndirol ynghylch adolygiad thematig Estyn ynghylch addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd. Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yn ei gyfanrwydd yn ystod cyfarfod CYSAG yn nhymor yr hydref.
15
Atodiad 1 AELODAETH CYSAG
SEFYDLIAD
ENW
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Mark Adams
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Jeffrey Elliott
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Geraint Hopkins
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Craig Middle
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Jane Ward
Yr Eglwys yng Nghymru
Y Tad Haydn England-Simon
Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
Wendy Lavagna
Yr Eglwys Fethodistaidd
Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
Y Parchedig Gethin Rhys
Undeb Bedyddwyr Cymru
Y Parchedig David Brownnutt
Mudiad Efengylaidd Cymru
Mr Brian Rogers
Cynrychiolydd y ffydd Fwslimaidd
Mr Qasam Shad
Undeb Cenedlaethol yr Athrawon
Mrs Lesley Jones
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau
Mrs Susan Allan
Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr
Dr Alec Clark
Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon
Mr R James
Cymdeithas Penaethiaid Uwchradd
Dr Sue Mitchell
Cymdeithas Athrawon Addysg Grefyddol y Cymoedd
Mrs Lynda Davies
16
Atodiad 2
COFNODION CYFARFODYDD CYSAG
Cynhaliwyd pedwar cyfarfod o CYSAG yn ystod y flwyddyn academaidd 2012–2013:
• 8 Hydref 2012 – Y Pafiliynau, Cwm Clydach • 3 Rhagfyr 2012 - Ysgol Gyfun y Pant • 8 Mawrth 2013 – Eglwys y Bedyddwyr Meisgyn a'r Ganolfan Gristnogol,
Penrhiwceiber • 6 Mehefin 2013 – Y Pafiliynau, Cwm Clydach
Yn ogystal, cynhaliwyd un Gynhadledd Maes Llafur Cytûn ar 6 Mehefin 2013. 8 HYDREF 2012 – Y PAFILIYNAU, CWM CLYDACH
• Ymddiheuriadau • Ethol cadeirydd • Ethol is-gadeirydd • Cofnodion o'r Cyfarfod Diwethaf • Materion yn deillio • Cyflwyniad ynglŷn â swyddogaethau a chyfrifoldebau CYSAG. • Cyfansoddiad CYSAG Rhondda Cynon Taf • Aelodaeth CYSAG - y wybodaeth ddiweddaraf a chais dyneiddwyr • Adroddiad blynyddol CYSAG 2011-2012 • Cynllun Datblygu CYSAG 2010 – 2012 a 2012 - 2015 • Casgliadau arolwg addysg grefyddol: gwanwyn 2012 a'r wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch ysgolion unigol • Templed hunan-arfarniad ysgol • Adolygiad thematig Estyn • Sicrhau canlyniadau o'r broses cymedroli - Asesiadau Athrawon yng
nghyfnod allweddol 3 • Adroddiad y Prif Gymedrolwr 2012 - Asesiadau Athrawon yng nghyfnod
allweddol 3 • Cymdeithas CYSAGau: adborth o gyfarfodydd tymhorau'r gwanwyn a'r haf a
chynrychiolaeth yn y cyfarfod nesaf, Tachwedd 23 ar ddiwrnod Coffau'r Holocost
• Diwrnod Coffau'r Holocost 2013 • Canllawiau ynghylch addoli ar y cyd • Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Consortiwm Canolbarth y De • Amserlen cyfarfodydd 2012 - 2013 • Gohebiaeth • Unrhyw faterion eraill
3 RHAGFYR 2012 - YSGOL GYFUN Y PANT
• Ymddiheuriadau • Cofnodion o'r Cyfarfod Diwethaf • Materion yn deillio • Defnydd o gymhorthion gweledol yn y maes addysg grefyddol. Cyflwyniad
gan Sarah Burnell, aelod o adran AG Ysgol Gyfun y Pant • Adolygiad o faes llafur cytûn Rhondda Cynon Taf
17
• Lefelau asesiadau athrawon ar gyfer addysg grefyddol 2012 • Casgliadau arolwg addysg grefyddol: haf 2012 • Gweddi ysgol • Cyrsiau HMS 2012 - 2013 • Arolwg Cymdeithas CYSAGau Cymru: CYSAG a'i gymuned leol • Adborth o'r cyfarfod Cymdeithas CYSAG ym Merthyr Tudful, Tachwedd 23,
2012, a chynrychiolaeth yn y cyfarfod nesaf • Diwrnod Coffau'r Holocost 2013 • Amserlen Cyfarfodydd • Gohebiaeth • Unrhyw faterion eraill
8 MAWRTH 2013 – Eglwys y Bedyddwyr Meisgyn a'r Ganolfan Gristnogol, Penrhiwceiber
• Ymddiheuriadau • Cofnodion o'r Cyfarfod Diwethaf • Materion yn deillio • Addysg Grefyddol mewn Addysg Bellach • Adborth o wasanaethau Ddiwrnod Coffau'r Holocost 2013 • Gwersi Auschwitz • Adolygiad o faes llafur cytûn Rhondda Cynon Taf • Canlyniadau arholiadau addysg grefyddol 2012 • Casgliadau arolwg addysg grefyddol Hydref 2012 • Templed hunan-arfarniad ysgol • Cyrsiau HMS 2012 - 2013 • Cynrychiolaeth yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAG, Mawrth 22, 2013
yng Nghasnewydd • Materion Cymdeithas CYSAG: enwebiadau ar gyfer y pwyllgor gwaith a
phapurau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod • Gohebiaeth • Unrhyw faterion eraill
6 MEHEFIN 2013 – Y PAFILIYNAU, CWM CLYDACH.
• Ymddiheuriadau • Cofnodion o'r Cyfarfod Diwethaf • Materion yn deillio • AG mewn Addysg Bellach: cyflwyniad gan David Brookes o Goleg
Morgannwg ac Amanda Jones o Ysgol Cardinal Newman • Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch arholiadau: cwrs byr astudiaethau
crefyddol TGAU a lefel A • Adroddiad thematig Estyn: safonau addysg grefyddol • Adborth o gyfarfod Cymdeithas CYSAG, Mawrth 22 yng Nghasnewydd • Materion Cymdeithas CYSAG: cynrychiolaeth yng nghyfarfod nesaf
Cymdeithas CYSAG, Mehefin 18, 2013 yng Nghaernarfon, a phleidlais ar gyfer y pwyllgor gwaith
• Cynllun datblygu CYSAG 2012 - 2015: adolygu cynnydd • Amserlen cyfarfodydd 2013 - 2014 • Gohebiaeth • Unrhyw faterion eraill
18
Cyfarfod Cynhadledd Sefydlog - Maes Llafur Cytûn
• Adolygiad o faes llafur cytûn Rhondda Cynon Taf
19
Atodiad 3 RHESTR O’R SEFYDLIADAU YR ANFONWYD YR ADRODDIAD YMA ATYN NHW
• Yr holl ysgolion yn Rhondda Cynon Taf • Yr Adran Addysg a Sgiliau
• Llywodraeth Cymru
• Estyn • Cyfarwyddwyr Addysg pob Awdurdod Addysg Lleol arall yng Nghymru • Cymdeithas CYSAGau Cymru • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant • Canolfan Addysg Grefyddol Genedlaethol Cymru – Bangor • Consortiwm Canolbarth y De
• Yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Llandaf) • Yr Eglwys Gatholig (Archesgobaeth Caerdydd) • Eglwysi eraill • Cymdeithas Athrawon Addysg Grefyddol Cymru • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth • Mudiad Addysg Grefyddol Cymru
• Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
• Prifysgol Fetropolitan Abertawe
20
Atodiad 4
CYNLLUN DATBLYGU CYSAG RHONDDA CYNON TAF 2012-2015
Nod 1: Monitro safonau ym maes addysg grefyddol ac astudiaethau crefyddol.
Cynllun gweithredu Amserlen Swyddogion sy’n rhan o bethau
Amser a chostau
Canlyniadau Cynnydd
1.1 Monitro safonau drwy adolygu adroddiadau arolygu yn rheolaidd; argymell yr AALl i gymryd camau priodol, yn ôl yr angen.
Eitem agenda tymhorol
CYSAG llawn Ymgynghorydd
Amser yr agenda. Amser yr ymgynghorydd i ddadansoddi
Cyngor i’r AALl am dueddiadau ledled y fwrdeistref sirol; cyngor am ysgolion penodol lle bo’n briodol; gwaith dilynol yn cynnwys ymweld ag ysgolion ac adolygu cynllun gweithredu lle bo angen.
2012 – 13 Ystyriwyd: 8:10:12, 3:12:12 ac 8:3:13
1.2 Cael gwybodaeth am ganlyniadau: asesiadau athrawon ar ddiwedd CA3; cyrsiau byr a llawn astudiaethau crefyddol; lefel A/AS astudiaethau crefyddol.
Tymor yr Hydref/ Gwanwyn
CYSAG llawn Ymgynghorydd
Amser yr agenda. Amser yr ymgynghorydd i ddadansoddi
Cyngor i’r AALl am dueddiadau; cyngor am ysgolion penodol lle bo’n briodol.
2012 – 13 Asesiadau athrawon CA3 - Ystyriwyd: 8:10:12 a 3:12:12; ystyriwyd canlyniadau arholiadau 8:3:13; ystyriwyd diweddariadau i'r cwrs byr TGAU 6:6:13
1.3 Nodi anghenion HMS, monitro a chynnig cyngor ar hyfforddiant.
Tymor yr Haf
CYSAG llawn
Amser yr agenda.
Derbyn y rhaglen hyfforddiant ynghyd â ffigurau am y niferoedd sy’n cymryd rhan; cyngor i’r AALl.
2012 – 13 Ystyriwyd: 3:12:12 ac 8:3:13.
21
CYNLLUN DATBLYGU CYSAG RHONDDA CYNON TAF 2012–2015
Nod 2: Adolygu'r Maes Llafur Cytûn (fel y bo'n briodol) a chefnogi ei weithrediad
Cynllun gweithredu Amserlen Swyddogion sy’n rhan o bethau
Amser a chostau
Canlyniadau Cynnydd
2.1 Adolygu'r maes llafur cytûn ar gyfer addysg grefyddol
Hydref 2012 o hyn ymlaen (neu fel y bo'n briodol)
CYSAG llawn Ymgynghorydd Gweithgor NAPfRE
Amser ymgynghori i adolygu'r maes llafur cytûn. Sefydlu grŵp gwaith (os yw'n briodol) Cynhadledd Sefydlog i fabwysiadu'r maes llafur cytûn Costau cyhoeddi/cyfieithu (fel y bo'n briodol)
Cynhadledd Sefydlog i adolygu a mabwysiadu maes llafur Cytûn Rhaglen hyfforddiant 'Maes llafur cytûn' i ysgolion (os oes angen) Maes llafur cytûn i'w roi mewn grym yn nhymor yr Hydref (ar ôl ei fabwysiadu)
2012 – 13 Ystyriwyd 3:12:12 a 8:3:13; cynhaliwyd cynhadledd sefydlog ar 12:6:13 er mwyn trafod ailfabwysiadu'r maes llafur cytûn presennol.
2.2 Deunyddiau cymorth yn gefn i roi’r maes llafur cytûn ar gyfer AG ar waith.
Mater yn parhau CYSAG llawn Ymgynghorydd
Amser ymgynghori
Deunyddiau cefnogol ar gael i ysgolion. Modd eu cyrraedd drwy wefan y Consortiwm.
2012 – 13 Darparwyr HMS gan Gonsortiwm Canolbarth y De ar gyfer addysg grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2. Cynhaliwyd hyfforddiant Cymdeithas CYSAG ar gyfer ysgolion
22
uwchradd ynghylch cymedroli safonau yng nghyfnod allweddol 3.
23
CYNLLUN DATBLYGU CYSAG RHONDDA CYNON TAF 2012–2015 (BLWYDDYN ACADEMAIDD)
Nod 3: Monitro’r ddarpariaeth a chynorthwyo addoli ar y cyd.
Cynllun gweithredu Amserlen Swyddogion sy’n rhan o bethau
Amser a chostau Canlyniadau Cynnydd
3.1 Monitro’r ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd trwy adolygu adroddiadau arolygu / adroddiadau hunanwerthuso'r ysgolion yn rheolaidd ac argymell i'r AALl gymryd camau priodol, yn ôl yr angen.
Eitem agenda tymhorol
Ymgynghorydd CYSAG llawn
Amser yr agenda. Amser yr ymgynghorydd i ddadansoddi
Cyngor i’r AALl am dueddiadau ledled y fwrdeistref sirol; cyngor am ysgolion penodol lle bo’n briodol; gwaith dilynol yn cynnwys ymweld ag ysgolion ac adolygu cynllun gweithredu lle bo angen.
2012 – 13 Ystyriwyd: 8:10:12, 3:12:12 ac 8:3:13
3.2 Cynorthwyo â’r gwaith o gynnal addoli ar y cyd yn ôl y gofynion statudol.
Mater yn parhau
Gwasanaeth ymgynghori
Amser ymgynghori
Darpariaeth HMS (os yw'n berthnasol) Ysgolion yn cael gwybod am adnoddau a gwefannau ynghylch addoli ar y cyd. Ysgolion yn cael gwybod am y canllawiau sydd ar gael ynghylch addoli ar y cyd.
2012 – 13 Canllawiau Cymdeithas CYSAGau Cymru ynghylch addoli ar y cyd wedi'u trafod a'u hanfon i bob ysgol yn yr Awdurdod Lleol.
24
CYNLLUN DATBLYGU CYSAG RHONDDA CYNON TAF 2012–2015
Nod 4: Sicrhau bod CYSAG yn cael gwybod am bopeth trwy ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ynglŷn â materion lleol a chenedlaethol sy'n berthnasol i Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion.
Cynllun gweithredu Amserlen Swyddogion sy’n rhan o bethau
Amser a chostau
Canlyniadau Cynnydd
4.1 Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am swyddogaeth CYSAG a’i oblygiadau; datblygiadau diweddar ym meysydd AG ac addoli ar y cyd; mewnbwn gan athrawon wrth eu gwaith a darparwyr allanol.
Yn flynyddol fel y bo angen
Aelodau CYSAG, Ymgynghorydd, athrawon, darparwyr allanol
Amser yr aelodau; amser ymgynghorwyr/swyddogion
Aelodau CYSAG yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau. CYSAG ac ysgolion i gael gwybod o ddatblygiadau a mentrau diweddar, ar raddfa lleol a chenedlaethol.
2012 – 13 Cyflwyniad gan Carys Pritchard ynglŷn a swyddogaethau a chyfrifoldebau CYSAG 8:10:12; Trafodwyd Adroddiad y Prif Gymedrolwr 2012 - Asesiadau Athrawon yng nghyfnod allweddol 3, 8:10:12; Arolwg Cymdeithas CYSAG Trafodwyd CYSAG a'i gymuned leol 3:12:12; cyflwyniad ynghylch defnydd o gymhorthion gweledol ym maes Addysg Grefyddol gan Sarah Burnell, sef aelod o adran AG Ysgol Gyfun y Pant 3:12:12; cyflwyniad am AG mewn addysg bellach gan
25
David Brookes o Goleg Morgannwg ac Amanda Jones o Ysgol Cardinal Newman.
4.2 Rhaglen ymweliadau’r ysgolion. Yn flynyddol fel y bo angen
Aelodau o CYSAG ac ymgynghorwyr/swyddogion
Amser yr aelodau; amser swyddog i drefnu ymweliadau
CYSAG mwy gwybodus i ddelio a darpariaeth ac arferion ynghylch addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion.
2012 – 13 Ymweliad i Ysgol Gyfun y Pant ar gyfer cyflwyniad ynghylch y defnydd o gymhorthion gweledol yn AG 3:12:12 Arsylwi gwasanaethau Diwrnod Coffau’r Holocost yn Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr ac Ysgol Gymunedol Glynrhedynog – Ionawr 2013.
Atodiad 5 - Canlyniadau Arholiad Astudiaethau Addysg Grefyddol Lefel A (Safon Uwch) RhCT 2010 RhCT 2011 RhCT 2012 Cymru Gyfan
2012
A*- A 13.3% 12.2% 16.8% 22% A* - C 68.6% 66.1% 77.4% 81% A* - G 90.5% 98.3% 97.4% 99% Mynediad
109 o ddisgyblion 15 o ysgolion
115 o ddisgyblion 15 o ysgolion
155 o ddisgyblion 16 o ysgolion
1447 o ddisgyblion
Astudiaethau Crefyddol TGAU RhCT 2010 RhCT 2011 RhCT 2012 Cymru Gyfan
2012
A*- A 23% 27.7% 28.7% 35% A* - C 68.4% 68.1% 70.9% 74% A* - G 97.3% 98.2% 99% 98% Mynediad
857 o ddisgyblion 15 o ysgolion
875 o ddisgyblion 15 o ysgolion
790 o ddisgyblion 15 o ysgolion
10,221 o ddisgyblion
TGAU Astudiaethau Crefyddol (Cwrs Byr) RhCT 2010 RhCT 2011 RhCT 2012 Cymru Gyfan
2012
A*- A 14% 12.4% 16.9% 19% A* - C 52.1% 45.6% 56.7% 54% A* - G 96% 96.9% 97.7% 94% Mynediad
1930 o ddisgyblion 16 o ysgolion
1378 o ddisgyblion 16 o ysgolion
1442 o ddisgyblion 18 o ysgolion
13,070
27
Atodiad 6 CYSAG Rhondda Cynon Taf: Cyfnod Allweddol 3: Lefelau Addysg Grefyddol Blwyddyn 9, 2011 a 2012 Cyfnod Allweddol 3: Lefelau Addysg Grefyddol Blwyddyn 9, 2011
BECHGYN Nifer ar Gofrestr
Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim lefel
Cyfanswm niferoedd 1371 3 16 154 427 525 203 36 3 1368 Canran 0.2 1.2 11.2 31.1 38.3 14.8 2.6 0.2 99.8 55.9 17.7 0.2
MERCHED Nifer ar
Gofrestr Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim
lefel Cyfanswm niferoedd 1302 1 7 36 295 528 359 70 4 1300 Canran 0.1 0.5 2.8 22.7 40.6 27.6 5.4 0.3 99.8 73.8 33.3 0.2
POB DISGYBL Nifer ar
Gofrestr Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim
lefel Cyfanswm niferoedd 2673 4 23 170 711 1063 581 108 7 2668 Canran 0.1 0.9 6.4 26.6 39.8 21.7 4.0 0.3 99.81 65.81 26.04 0.19
Cyfnod Allweddol 3: Lefelau Addysg Grefyddol Blwyddyn 9, 2012
BECHGYN Nifer ar Gofrestr
Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim lefel
Cyfanswm niferoedd 1248 0 14 117 367 538 174 24 2 1236 Canran 0 1.1 9.4 29.4 43.1 13.9 1.9 0.2 99 59.1 16.0 1.0
MERCHED Nifer ar
Gofrestr Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim
lefel Cyfanswm niferoedd 1220 0 3 27 216 580 313 72 3 1214 Canran 0 0.2 2.2 17.7 47.5 25.7 5.9 0.2 99.5 79.3 31.8 0.5
POB DISGYBL Nifer ar Lefel 1 Lefel 2 Lefel 3 Lefel 4 Lefel 5 Lefel 6 Lefel 7 Lefel 8 Cyfanswm % L5+ % L6+ % dim
28
Gofrestr lefel Cyfanswm niferoedd 2468 0 17 144 583 1118 487 96 5 2450 Canran 0 0.7 5.8 23.6 45.3 19.7 3.9 0.2 99.3 69.1 23.8 0.7
L5+ yw’r ffigur i’r disgyblion a gyrhaeddodd Lefel 5 neu’n uwch mewn Addysg Grefyddol L6+ yw’r ffigur i’r disgyblion a gyrhaeddodd Lefel 6 neu’n uwch mewn Addysg Grefyddol Dim lefel – doedd dim modd dyfarnu lefel i’r disgyblion yma
Atodiad 7 CYFANSODDIAD CYSAG RHONDDA CYNON TAF Cylch gwaith 1. Cynghori'r ALl ar faterion sy'n gysylltiedig ag addoli ar y cyd mewn ysgolion sir. 2. Cynghori'r ALl ar faterion sy'n gysylltiedig ag addysg grefyddol yn unol â'r maes llafur
cytûn. 3. Penderfynu pryd, yn ystod y cyfnod 5 mlynedd statudol, y dylai'r ALl adolygu ei faes llafur
cytûn. 4. Ystyried newidiadau angenrheidiol i'r maes llafur cytûn gyda'r ALl a'r Gynhadledd Maes
Llafur Cytûn. 5. Ystyried y cymorth sydd ar gael ynghylch addysg grefyddol mewn ysgolion, gan
ganolbwyntio ar ddulliau addysgu, y dewis o ddeunyddiau addysgu a hyfforddiant i athrawon.
6. Cynnig cyngor ar unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i'w swyddogaeth, yn ôl yr angen. 7. Cyhoeddi adroddiad blynyddol o'i waith, gan gynnwys:
a. nodi unrhyw faterion y maen nhw wedi cynghori â'r ALl; b. disgrifio natur y cyngor yn fras; c. nodi rhesymau dros gynnig cyngor ar unrhyw faterion nad oedd wedi'u cyfeirio atyn
nhw gan yr ALl yn y lle cyntaf; ch. cofnodi aelodaeth CYSAG a dyddiadau'r cyfarfodydd sy'n cael eu cynall.
9. Cyfrannu at weithdrefnau statudol yr ALl pan fydd cwynion yn berthnasol i addysg
grefyddol ac/neu addoli ar y cyd. 10. Derbyn a gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau gan benaethiaid ysgolion sir ar
gyfer gwella neu addasu gofynion addoli ar y cyd mewn ysgolion, sy'n nodi y dylai fod o natur Gristnogol yn bennaf.
Cyfansoddiad 11. Bydd y cyngor yn cynnwys 3 grŵp sy'n cynrychioli:
a. enwadau Cristnogol neu grefyddau eraill sy’n adlewyrchu prif dueddiadau crefyddol yr ardal yn ôl yr Awdurdod Lleol;
b. dylai'r cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon, yn ôl tyb yr ALl, gael eu cynrychioli gydag ystyriaeth tuag at amgylchiadau'r ardal; a’r
c. yr Awdurdod Lleol. 12. Gall y Cyngor gyfethol aelodau. 13. Bydd aelodaeth o'r Cyngor yn para 4 blynedd. Mae modd ail-benodi aelodau sydd eisoes
wedi gadael
14. Mae aelodaeth i'r Cyngor yn ddibynnol ar yr amod bod yr ALl wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y bobl sy'n cael eu penodi yn gynrychioliadol o'r enwadau neu'r cymdeithasau dan sylw.
15. Rhaid bod aelodau sy'n cynrychioli cymdeithasau athrawon gynnwys athrawon addysg
grefyddol. 16. Mae modd gofyn i unigolion adael y Cyngor os nad ydyn nhw'n gynrychioladol o'r enwad,
cymdeithas neu'r awdurdod y cawsant eu penodi i'w cynrychioli. 17. Gall unrhyw aelod o'r Cyngor ymddiswyddo ar unrhyw adeg. Gweithrediadau 18. Bydd y Cyngor yn cwrdd o leiaf unwaith bob tymor ysgol. 19. Bydd y Cyngor yn ethol cadeirydd ac is-gadierydd o blith ei aelodau yn ystod cyfarfod
cyntaf bob blwyddyn academaidd. Ni fydd cadeirydd ac is-gadierydd yn cael ei ddewis o'r un grŵp cynrychioladol. Mae modd ail-benodi cadeirydd sydd eisoes wedi gadael.
20. Dim ond grwpiau cynrychioliadol y Cyngor sydd â hawl i bleidleisio ynglŷn ag unrhyw
gwestiwn sy'n codi, a bydd gan bob grŵp un bleidlais. Cyn bod pleidlais ffurfiol yn cael ei wneud, bydd gan bob grŵp cynrychioladol gyfle i benderfynu sut bydd pleidlais yn cael ei chyflwyno.
21. Nid oes hawl gan aelodau cyfetholedig i bleidleisio. 22. Bydd yr agenda ar gyfer pob cyfarfod yn cael ei phenderfynu gan y cadeirydd a'r is-
gadeirydd mewn ymgynghoriad â chlerc CYSAG, Y Cyfarwyddwr Addysg a'r Swyddog Proffesiynol. Bydd hawl gan unrhyw aelod CYSAG sy'n pleidleisio i gynnig eitemau ar gyfer agenda.
23. Os nad yw aelod yn gallu mynychu cyfarfod Cyngor, mae modd i'r corff y mae'r person
hwnnw yn ei gynrychioli, enwebu dirprwy, ar yr amod bod y dirprwy yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a bod Cyfarwyddwr Addysg yr ALl yn cael gwybod am hyn cyn y cyfarfod.
24. Bydd cyfarfod yn cael ei ystyried yn ddigonol pan fydd o leiaf un aelod o bob un o'r tri
grŵp cynrychioladol yn bresennol. 25. Ni fydd dilysrwydd Gweithrediadau y Cyngor yn cael eu heffeithio:
a. gan swydd wag yn swyddfa un o aelodau'r Cyngor neu b. ar yr amod fod aelod o'r Cyngor sydd wedi'i benodi i gynrychioli unrhyw enwad neu
gymdeithas, ddim yn cynrychioli'r enwad neu'r gymdeithas dan sylw ar adeg y Gweithrediadau.
25. Mae modd i grwpiau cynrychioladol y Cyngor, heblaw am y rhai sy'n cynrychioli'r
Awdurdod, mynnu adolygiad o faes llafur cytûn yr Awdurdod ar unrhyw adeg. Ar adeg o'r fath, bydd Cynhadledd Maes Llafur Cytûn yn cael ei sefydlu a'i gynnal.
26. Bydd y Cyngor yn ystyried ei adroddiad blynyddol yn ystod cyfarfod cyntaf bob blwyddyn
academaidd. Ar ôl i'r Cyngor gadarnhau'r adroddiad, bydd yn cael ei gyhoeddi.
27. Bydd y clerc CYSAG yn trefnu bod copïau o'r adroddiad blynyddol yn cael eu hanfon at holl ysgolion sir yr Awdurdod, yr Adran Addysg a Sgiliau, y Llyfrgell Genedlaethol ac at unigolion a sefydliadau eraill y mae'r ALl yn dymuno.