16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 375 375 375 375 375 Ionawr 2013 Ionawr 2013 Ionawr 2013 Ionawr 2013 Ionawr 2013 50c Dafydd Head, Llion Smith, Gethin Ellis, Gwennan Smith, Siwan Miller-Jones, Gruff Davies, Efan Davies, Mali Ellis, Mared Smith, Seren Walton, Jonathan Head a Hari Walton CUSAN I SANT CUSAN I SANT CUSAN I SANT CUSAN I SANT CUSAN I SANTA ‘Chwarae teg i Siôn Corn am ddod draw i Ganolfan y Banw i ddosbarthu anrhegion i’r plant bach ac yntau mor brysur. Roedd yr hen Siôn yn amlwg wrth ei fodd yn cael cusan fawr gan Delyth! MERCHED CREFFTUS Llongyfarchiadau i Anwen Owen a Lwsi Morgan o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth Arddangosfa Celf a Chrefft yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Byddant yn mynd i Lanelwedd nesaf i gystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol. A bydded goleuni... A bydded goleuni... A bydded goleuni... A bydded goleuni... A bydded goleuni... Cafodd Bethan ac Amy Evans y fraint o droi’r goleuadau Nadolig ymlaen y tu allan i Gaffi’r Cwpan Pinc eleni. Mae Bethan wedi derbyn triniaeth flin iawn yn ystod 2012 a dymunwn bob bendith ac iechyd iddi hi ac i bob un o ddarllenwyr ‘Plu’r Gweunydd’ yn ystod 2013. Blwyddyn Newydd Dda! Braf oedd gweld capel Moreia yn llawn o deuluoedd ifanc a theidiau a neiniau ar Ragfyr 23 i gefnogi plant yr Ysgol Sul yn actio Drama’r Geni. Roedd gweld eu hasbri a’u clywed yn canu ac yn llefaru’r hen, hen stori yn hwb i’r galon! CYFLWYNO NEGES Y NADOLIG

375 Ionawr 2013 50c CUSAN I SANTA CYFLWYNO NEGES Y …jonhead.myzen.co.uk/.../documents/archive/2013/201301_ionawr_20… · 375 Ionawr 2013 50c Dafydd Head, Llion Smith, Gethin Ellis,

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

    375375375375375 Ionawr 2013Ionawr 2013Ionawr 2013Ionawr 2013Ionawr 2013 5555500000ccccc

    Dafydd Head, Llion Smith, Gethin Ellis, Gwennan Smith, Siwan Miller-Jones, Gruff Davies, EfanDavies, Mali Ellis, Mared Smith, Seren Walton, Jonathan Head a Hari Walton

    CUSAN I SANTCUSAN I SANTCUSAN I SANTCUSAN I SANTCUSAN I SANTAAAAA

    ‘Chwarae teg i Siôn Corn am ddod draw iGanolfan y Banw i ddosbarthu anrhegion i’rplant bach ac yntau mor brysur. Roedd yr henSiôn yn amlwg wrth ei fodd yn cael cusan fawrgan Delyth!

    MERCHED CREFFTUS

    Llongyfarchiadau i Anwen Owen a Lwsi Morgan o Glwb FfermwyrIfanc Dyffryn Banw a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ArddangosfaCelf a Chrefft yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Byddant yn mynd iLanelwedd nesaf i gystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol.

    A bydded goleuni...A bydded goleuni...A bydded goleuni...A bydded goleuni...A bydded goleuni...

    Cafodd Bethan ac Amy Evans y fraint o droi’r goleuadau Nadolig ymlaeny tu allan i Gaffi’r Cwpan Pinc eleni. Mae Bethan wedi derbyn triniaethflin iawn yn ystod 2012 a dymunwn bob bendith ac iechyd iddi hi ac ibob un o ddarllenwyr ‘Plu’r Gweunydd’ yn ystod 2013. BlwyddynNewydd Dda!

    Braf oedd gweld capel Moreia yn llawn o deuluoedd ifanc a theidiau a neiniau ar Ragfyr 23 igefnogi plant yr Ysgol Sul yn actio Drama’r Geni. Roedd gweld eu hasbri a’u clywed yn canuac yn llefaru’r hen, hen stori yn hwb i’r galon!

    CYFLWYNO NEGES Y NADOLIG

  • 22222 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    DYDDIADURIonawr 6 Plygain Eglwys Llanerfyl am 7 o’r glochIonawr 18 Côr Bro Meirion yng Nghanolfan y Banw,

    Llangadfan am 7.30pm. Elw er budd yGanolfan.

    Ionawr 18 Bingo yn Neuadd Pont Robert am 7.30pmIonawr 25 Dawns Santes Dwynwen yng nghwmni

    Pen Tennyn yn Neuadd LlanerfylIonawr 25 Gyrfa Chwist yn Neuadd Pontrobert am

    8.00pmMawrth 7 Merched y Wawr y Foel yn dathlu G@yl

    Ddewi gyda Thriawd Dyfi yng Nghanolfany Banw

    Ebrill 24 Cyfarfod Cenhadol ChwioryddHenaduriaeth Trefaldwyn ym Moreia,Llanfair Caereinion yng nghwmni AledMyrddin, Machynlleth am 7.00

    Mehef. 15 Taith gerdded y Plu yn ardal PontrobertGorff. 19 a 20 Eisteddfod Talaith a Chadair Powys

    Llanfair Caereinion yn y GanolfanHamdden

    Medi 21 Cyhoeddi Eisteddfod Talaith a ChadairPowys Dyffryn Ceiriog

    Medi 26 Cyfarfod Blynyddol Plu’r Gweunydd ynNeuadd Pontrobert am 7.30

    Rhifyn nesafA fyddech cystal ag anfon eich cyfraniadauat y rhifyn nesaf erbyn dydd Sadwrn, 19Ionawr. Bydd y papur yn cael eiddosbarthu nos Fercher, Ionawr 30ain

    TÎM PLU’R GWEUNYDDCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeirydd

    Arwyn DaviesCoedtalog, Llanerfyl, 01938 820710

    Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddDelyth Francis

    Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

    Ysgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionYsgri fenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

    Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

    TTTTTrefnydd refnydd refnydd refnydd refnydd TTTTTanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauanysgrifiadauSioned Chapman Jones,12 Cae Robert, MeifodMeifod, 01938 500733

    Golygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolNest Davies

    Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolCatrin Hughes, Llais Afon, Llangadfan

    01938 [email protected]

    Mary Steele, EirianfaLlanfair Caereinion 810048

    [email protected]

    Alwyn Hughes, Llais Afon, Llangadfan

    Mari Lewis, Swyddfa’r Post, Meifod500286

    Diolchiadau £5Taliad i’r Trysorydd, gohebydd lleol

    neu un o’r tîm

    Nid yw Golygyddion naPhwyllgor Plu’r Gweunydd oanghenraid yn cytuno gydagunrhyw farn a fynegir yn ypapur nac mewn unrhyw

    atodiad iddo.

    “Y gwyliau rydych wedi’ugohirio ers blynyddoedd”

    Cyfarchion Blwyddyn NewyddDymuna Ogwyn Davies, Rhosymenyn a NestaWilliams, Meifod, Flwyddyn Newydd Dda i’wteulu a’u ffrindiau bob un.

    DiolchDymuna Nia Rhosier ddiolch i bawb am eucyfarchion a’u cymorth wedi’r llawdriniaeth ynYsbyty Gobowen fis Tachwedd, yn enwedig i MrsWells, Eirlys, Menna, Myra a Gill (Pentreucha).Blwyddyn Newydd Dda a phob bendith.

    DiolchDymuna Enid Mai Davies, Arosfa, Trallwmddiolch yn fawr iawn am yr holl alwadau ffôn,cardiau a rhoddion a dderbyniwyd tuag at gapelMaesygroes ynghyd â’r arwyddion ogydymdeimlad iddi ar ôl colli ei brawd JohnDavies, Abergele. Gwerthfawrogwyd y cyfan ynfawr iawn.

    DiolchDymuna Marian a Lyn Thomas Strathmore,Westwood Road y Trallwm ddiolch yn fawr iawnam yr holl ymholiadau a’r caredigrwydd adderbyniwyd yn dilyn y ddamwain car a gawsantyn ddiweddar. Maent yn falch o ddatgan nadydynt ddim gwaeth ar ôl y ddamwain.

    DiolchDymunwn fel teulu ddiolch o galon am bobarwydd o gydymdeimlad - mewn gair a gweithreda ddangoswyd tuag atom yn dilyn einprofedigaeth o golli Mam a Nain arbennig iawn,sef Mrs May Jones T~-Isaf Dolanog.(Delyth ac Ifan Bryndu a Bethan Glyn Isaf)

    Dylys Jones, MoelddolwenDymuna Margaret a David ddiolch o galon i bawbam bob arwydd o gydymdeimlad a estynnwydiddynt yn eu colled, a hefyd am y cardiau a’rrhoddion.

    DiolchDymuna teulu’r ddiweddar Kitty Griffiths,Noddfa ddiolch i bawb am y cydymdeimlad addangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golliMam a Nain annwyl ac am y rhoddion hael o£2,300 i’w rannu rhwng Ambiwlans Awyr Cymrua Gofal Strôc.Diolch yn arbennig i’r cymdogion, cyfeillion apherthnasau hynny a wnaeth gymaint igyfoethogi ei bywyd dros y blynyddoedddiwethaf. Gwerthfawrogir eich caredigrwydd ynfawr iawn.

    DiolchDymuna Roy Griffiths, Dyfnant ddiolch o galon ibawb am y galwadau ffôn, cardiau ac arnrhegiona dderbyniodd yn dilyn ei lawdriniaeth yn ysbytyGobowen. Gwerthfawrogir eich caredigrwydda’ch consyrn yn fawr iawn

    RhoddionDiolch yn fawr i William ac Adleis Williams,Gwerddon, Graigfechan (a Garthlwyd gynt) ameu rhodd hael tuag at Plu’r Gweunydd, wrthdanysgrifio am y flwyddyn nesaf.Diolch hefyd i David Jones, Moelddolwen amrodd o £60 tuag at goffrau’r Plu.Diolch i Mrs Glenys Jones, Glan yr Afon, Llanfairam ei rhodd tuag at y papur bro.Diolch yn fawr iawn i Enid Mai Davies, Y Trallwm;a Mr Huw Evans, Llanelen am eu rhoddion haelhwythau tuag at ein papur bro.

    CLWB 200CYMDEITHAS DIFA PLA

    DYFFRYN BANWEni l lwyr :Eni l lwyr :Eni l lwyr :Eni l lwyr :Eni l lwyr :Medi: £20 Alwyn Hughes, Llangadfan

    £15 David Evans, Tyncoed£10 Huw Howells, Goetre

    Hyd: £20 Hywel Jones, Blowty£15 Alwyn Hughes, Llangadfan£10 Laura Roberts, Y Ddôl

    Tach: £20 Trystan Edwards, Glanaber£15 Tudor Evans, Caebychain£10 Oscar Bates, Rhallt ucha

    Rhag: £20 John Gittins, Tynewydd£15 Chloe Davies, Tycerrig£10 Tom Ellis, Tynwern

    Bonws Nadolig:£10 Brian Ellis£5 Gordon Potter

    AR WERTHBynglo 4 Maes Gwyn, Llanfair Caereinion.Manylion llawn ar gael gan Norman Lloyd.Bydd y perchnogion yn fodlon ystyriedunrhyw gynnig rhesymol.

    Peidiwch ag oedi rhagor!

    Patagonia :::: Gwlad y CewriPobl - Tir - Iaith - Hanes -

    Traddodiad - Dathlu - Difyrrwch

    Y trefnwyr mwyaf profiadol- yr unig rai sydd â’u

    gwreiddiau yn ddwfn yn yWladfa.

    Am fanylion pellach, cysylltwch ag

    Haulfan, Maes Carrog, Llanrhystud,Ceredigion. SY23 5AL

    01974 202052e-bost: [email protected]

    Elvey MacDonald,Elvey MacDonald,Elvey MacDonald,Elvey MacDonald,Elvey MacDonald,

    KATH AC EIFION MORGAN

    yn gwerthu pob math o nwyddau,Petrol a’r Plu

    POST A SIOPLLWYDIARTH

    Côr Bro Meirion

    NOS WENER, IONAWR 18fedNOS WENER, IONAWR 18fedNOS WENER, IONAWR 18fedNOS WENER, IONAWR 18fedNOS WENER, IONAWR 18fedyng

    NGHANOLFNGHANOLFNGHANOLFNGHANOLFNGHANOLFAN AN AN AN AN YYYYY BANW BANW BANW BANW BANW,,,,,LLANGADFLLANGADFLLANGADFLLANGADFLLANGADFANANANANANam 7.30am 7.30am 7.30am 7.30am 7.30

    TOCYN £8.00

    Ffoniwch Catrin ar 01938 820594

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 33333

    O’R GADERCilmeriDair wythnos yn ôl, ar yr 11eg oRagfyr, heliodd 500 o bobl ynghydyng Nghilmeri i dalu gwrogaeth iDywysog Cymru, Llywelyn apGruffydd. Efallai ei fod yn fwy

    adnabyddus i rai ohonoch chi fel ‘Llywelynein Llyw Olaf’. ‘Ein Llyw Olaf’ wrth gwrs, ammai fo yn syml iawn oedd yr olaf i’n llywio,neu ein harwain os liciwch chi. Mae’r rhanfwyaf ohonoch chi’n hyddysg yn yr hanes fellywna’ i ddim manylu yma, dim ond i ddeudmai ar y dyddiad uchod yn 1282 y llofruddiwydLlywelyn y tu allan i ‘reolau’ rhyfel gangynrychiolydd o Goron Lloegr.Fues i ddim yng Nghilmeri dair wythnos ynôl, ond mi fydda’ i’n ymdrechu i wneud hynnyyn 2013, er mwyn cael talu gwrogaethpersonol i Dywysog Cymru, Llywelyn apGruffydd. Ac os y ca’ i’r cyfle i ’neud hynny,dwi am ganu cân neu ddwy. A gan y bydd hi’nfis Rhagfyr, falle y bydd cân blygien neuddwy’n addas. Ac mae croeso i garolwyr achantorion Maldwyn ddod efo fi.

    * * *Cyfrifiad 2011Cyhoeddwyd penawdau o ystadegau’rCyfrifiad yn ddiweddar. Edrychaf ymlaen iweld cyhoeddi ffigyrau manylach, mwy lleol,yn nes ymlaen eleni, i gael gweld os ydipolisïau addysg lleol yn ein hardal ni yn llwyddoi gymhathu mewnfudwyr di-Gymraeg iwarchod a chynyddu’r iaith Gymraeg yma’nlleol. Os ydi’r ffigyrau yn dangos nad ydihynny’n digwydd, yna wrth reswm mi fydd ynrhaid ailedrych ar yr holl gyfundrefn addysgyn lleol. Mi fydd aros i weld be fydd canlyniadCyfrifiad 2021 yn llawer rhy hwyr i weithredu.Y senario orau, wrth gwrs, fyddai gweldcynnydd sylweddol yn y siaradwyr Cymraegyn lleol, fyddai’n dangos fod y gyfundrefnsydd gynno’ ni yn gweithio. Cawn weld ynfuan.

    * * *

    AdduneduAdduneduAdduneduAdduneduAdduneduMae hi’r amser o’r flwyddyn lle’n draddodiadolmae llawer o bobl yn gwneud rhyw addunedblwyddyn newydd neu’i gilydd. Ac, yn amlachna pheidio, yn methu â’i chadw! Dyma fentrobeth bynnag. Fy adduned i ydi parhau i wellasafon fy Nghymraeg. Dwi am drio ‘gair y mis’– fe fyddai ‘gair yr wythnos’ neu hyd yn oed‘gair y dydd’ yn llawer gwell, wrth reswm, ondmi wn i r@an na fyddwn i’n cadw at yradduned yn hir iawn o osod y gofyn yn rhyuchel! Felly ‘gair y mis’ amdani, a be’ am eirannu efo darllenwyr y Plu yr un pryd?Ysgogiad pellach i’w gadw! Reit te, gadwchimi estyn y geiriadur. ‘A’ - A dyma un difyr iffarmwr: Ateg/Ategion – cynhalbren, gwanas.prop, stay. Mae gynno’ ni air difyr yn barodyn yr ardal yma am yr un math o beth sef‘Sbwrlas’. Dwn i’m amdanoch chi, ondwyddoch chi mai dyna oedd ‘gwanas’ hefyd?Wyddwn i ddim. Ac mi fydda’ i’n edrych arBethan Gwanas mewn golau gwahanol o hynymlaen! Blwyddyn Newydd Dda.

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybontsydd yn ei argraffu

    “TAWEL NOS...”

    Does dim byd mwy swynol na chlywed côr o leisiau ifanc yn canu carolau wrth ddrws y t~dros @yl y Geni. Aeth dau griw o Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banw i ganu carolau ar nosonoer a gwlyb o amgylch ardaloedd, Foel, Llangadfan a Llanerfyl. Casglwyd £260 ar gyferYmchwil Canser. Diolch yn fawr iawn iddynt am ddod ag ychydig o ysbryd y Nadolig i’ncartrefi

    #####yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?

    Prynwr ardal y Plui Welsh Country

    FoodsFfoniwch Elwyn Cwmderwen

    07860 689783neu

    01938 820769

    CYNGERDD NOS CALAN

    Uchod fe welir rhaglen ar gyfer CyngerddMawreddog a gynhaliwyd yn Institiwt y Banwy,Llangadfan (Hen Neuadd y Foel!) ar DdyddCalan 1931.Tybed pwy oedd y cantorion? Oherwydd roeddLlwyd o’r Bryn yn adroddwr ac arweinyddcyngerdd ac eisteddfod adnabyddus iawn.Roedd rhan gyntaf y rhaglen yn uchelael iawnpan gyflwynwyd darnau gan Verdi, Handel,Saint Saens ac eraill.Mae’n ymddangos nad oedd trefnwyr yCyngerdd hwn yn credu mewn dwyieithrwydd!Sylwer fod y DDWY Anthem Genedlaethol yncloi’r cyngerdd.Diolch i Mrs Dwynwen Jones, T~ Cerrig am yrhaglen.

  • 44444 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    MEIFODMarian Craig01938 500440

    A oes arnoch angen glanhaueich simnai cyn y gaeaf,

    neuhoffech chi brynu coed tân?

    Cysylltwch â Richard JenkinsPont Farm

    Betws Cedewain, Y DrenewyddFfôn: 07976872003 neu

    01686 640 906

    DEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

    D.R. & M.L. Jones

    Atgyweiriohen dai neu

    adeiladau amaethyddol

    LLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLFfôn: Llangadfan 387

    LlongyfarchiadauI Simon a Gemma, Pentre Barrog arenedigaeth bachgen bach o’r enw Callum,brawd bach newydd i Zac.I Lwsi Roberts, Brook House am eipherfformiad ardderchog yn y Noson Lawenar S4C ac mae hi hefyd wedi ennill amryw owobrau mewn eisteddfodau yn ddiweddar, daiawn ti Lwsi.

    Penblwydd HapusDymuniadau gorau i Lynda Pugh, sydd wedibod yn dathlu penblwydd arbennig yngnghwmni teulu a ffrindiau. Pob hwyl Lynda.Mae Brian Roberts hefyd wedi dathlupenblwydd arbennig ac fe ddaeth Ian a Bethana’r merched yn ôl o Awstralia i ddathlu’rpenblwydd a threulio Nadolig yma ym Meifod.

    Diwedd CyfnodTua 40 mlynedd yn ôl, dechreuodd GwynJones gario plant Meifod i Ysgol UwchraddLlanfair yn ei fws ac mewn amser fe ymunoddei fab Martin yn y busnes a rhwng y ddaumaent wedi cario cannoedd o blant yn ddiogeli’r ysgol ac i nofio i’r Trallwm ac hefyd ardripiau ysgol. Ond mae’r cyfnod hir yma wedidod i ben ac mae modd diolch yn fawr iawn iMartin am y gwasanaeth ardderchog a gafwydganddo ef a’i ddiweddar Dad, Gwyn, ac hebanghofio Jean a oedd yn gweithio tu ôl i’r llenni.

    Parti NadoligTrefnodd Carol Owen a Tracy Frost de partiNadolig i godi arian i T~ Gobaith. Roeddentwedi paratoi te arbennig o dda ac yn ystod yprynhawn bu côr o blant yn rhoi perfformiad

    swynol o garolau o dan hyfforddiant LindaGittins. Gwnaethpwyd dros £500 tuag at yrachos.

    Clwb Forget Me NotDaeth nifer dda o aelodau a ffrindiau at eigilydd ym mis Rhagfyr i fwynhau Cinio Nadoligardderchog yn y King’s Head, lle cawsantgroeso cynnes gan Rob a Rachel a’r staff.

    Gwasanaeth NadoligCynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yng Nghapelyr Annibynwyr o dan arweiniad Mrs CeinwenHookway a’i ffrindiau, gyda rhai o aelodau’rCapel hefyd yn cymryd rhan. Roedd ycasgliad eleni yn mynd i’r Clwb Forget MeNot. Yn Eglwys Meifod cafwyd gwasanaethLlith a Charol a Bendithio’r Crud.

    Ysgol MeifodCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligBu prysurdeb mawr yn yr ysgol yn paratoiam y Cyngerdd Nadolig. Roedd y Neuaddyn orlawn ar y ddwy noson. Roedd plant yradran iau yn adrodd stori’r Geni mewn dullmodern a phob un ohonynt yn gwneud eu rhanyn ardderchog ac yn canu ar dop eu llais.‘Fantastic Mr Fox’ oedd y plant h~n yn eiberfformio ac yn wir roedd pob un ohonyntyn ffantastig gyda safon uchel i’r holl waith.Llongyfarchiadau i’r plant a’r staff am ddaugynhyrchiad ardderchog fel arfer.Cinio NadoligCinio NadoligCinio NadoligCinio NadoligCinio NadoligMwynhaodd y plant a’r staff ginio heb ei ail,wedi ei baratoi gan Gwynifer Jones. Mae’rysgol yn ffodus iawn o gael cogyddes o fri,mae’r cinio drwy’r flwyddyn yn ardderchog.Diolch Gwynifer.Parti NadoligParti NadoligParti NadoligParti NadoligParti NadoligI orffen y tymor roedd y plant yn haeddu sborta sbri a threfnodd y llywodraethwyr barti iddyntgyda disgo a gemau a the blasus ac wrthgwrs ymweliad gan Siôn Corn gydag anrhegi bawb.

    ADFARuth Jones, Pentalar

    810313

    Siop Trin Gwallt

    A.J.’sAnn a Ann a Ann a Ann a Ann a KathyKathyKathyKathyKathy

    yn Stryd y Bont, LlanfairAr agor yn hwyr ar nos Iau

    Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 8112271227122712271227

    Oedfa’r OfalaethDaeth nifer dda ynghyd i’r oedfa ar fore DyddSul yr 2il o Ragfyr. Thema’r cyfarfod oedd yrAdfent a chafwyd darlleniadau gan MarionJones a Sian Foulkes. Offrymwyd gweddïaugan Ifor Evans ac Ivy Evans a’r emynau ganEdgar Jones, Ellis Humphreys a Ruth Jones.Wedi’r bregeth gweinyddwyd Cymundeb danarweiniad y Parch Peter Williams yn cael eigynorthwyo gan Maldwyn Evans, MargaretJones, Marion Jones ac Ivy Evans. Wedi’roedfa croesawyd pawb am baned i Neuadd yPentref. Diolchwyd i bawb gan y Gweinidoga chymerwyd y casgliad yn y Capel gan IvyEvans a Margaret Jones.

    Y daith i FethlehemYn ystod yr wythnos ddilynol braf oedd caelcroesawu a chynnig llety eto eleni i Mair aJoseff ar eu taith i Fethlehem. Buont yn arosmewn gwahanol lefydd ym mhlwyfLlanwyddelan ac ym Metws Cedewain ganorffen eu taith yn Nhregynon, ymweld ag YsgolRhiwbechan a chyrraedd yr Eglwys ar noswylNadolig. Mae’r ffigurau bach wedi cael eugwneud yn gelfydd iawn gan Mrs Ivy Buckley,Betws a Mrs Beryl Foulkes a wnaeth ytrefniadau ar ran Eglwys Llanwyddelan.

    Clwb Garddio AdfaUn nos Lun yn Rhagfyr aeth yr aelodau allanam ginio moethus yn y bwyty lleol y ‘Bull andHeifer’ ym Metws Cedewain. Ar ôl y ciniocafwyd ‘gwobr smotyn’ a’r enillydd oedd OlwenWatkin, Coed-y-deri. Carol Jones, TyddynBrongoch ysgrifenyddes oedd yng ngofal yraffl a Suzanne Ffinnant Fawr oedd yng ngofalyr ‘holiad’ i wneud y melysion a’r siocled –dim un enillydd. Diolchwyd i Ann (yperchennog) a’r gweithwyr am noson morgyfforddus a da gan Ivy Evans, Cadeirydd yClwb. Ym mis Ionawr bydd Vera Cattamoleyn dod i’n diddori.

    CydymdeimladDaeth y newyddion yn ddiweddar amfarwolaeth Mrs Eileen Culley gynt o D~ Capelyr Adfa. Daeth Mrs Culley a’i thri plentyn ifyw i’r pentref yn y pumdegau yn ofalwraig yCapel. Yn y dyddiau hynny nid oedd trydan ad@r tap wedi cyrraedd a chan fod mwy ogyfarfodydd yn cael eu cynnal pryd hynnyroedd cadw’r gwres canolog i fynd yn golygullawer o waith. Yn ogystal â hyn bu’n gogyddesyn yr ‘Elephant and Castle’ Drenewydd amflynyddoedd. Mynychodd Joyce, Pat a DavidYsgol Pantycrai ac Ysgol Uwchradd Llanfair.Mae ein cydymdeimlad yn fawr â hwy yn euprofedigaeth o golli eu Mam.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 55555

    Colofn y DysgwyrLois Martin-Short

    Cyrsiau Newydd iDdechreuwyrDach chi’n ’nabod rhywun sy’n meddwl amddysgu Cymraeg? Mae pedwar cwrs newyddi ddechreuwyr yn dechrau’r mis yma yn yrardal:Y Drenewydd: Nos Lun, 7:00-9:00 ColegPowys; dydd Mercher: 12.45—2.45pmNorthside Centre.Y Trallwng: Nos Lun 7.00—9.00 Y CapelCymraeg; dydd Mercher 12.45—2.45pm YCapel Cymraeg.Mae’r cyrsiau’n costio £37 y tymor (10 gwers)neu £27 gyda chonsesiwn. Am fwy o fanylion,ffoniwch Menna Morris 01686 614226, neu’rGanolfan Cymraeg i Oedolion, 0800 876 6975.

    Sadwrn SiaradCofiwch am y Sadwrn Siarad, ddydd SadwrnIonawr 5 yng Ngholeg Powys. Mae’n costio£8 / £5. Ffoniwch Menna 01686 614226.

    Ysgol IonawrPeidiwch ag anghofio am yr Ysgol Ionawr, 9,10 Ionawr yn Nolgellau. Mwy o fanylion 0800876 6975.

    Ysgol ChwefrorBydd Cwrs deuddydd yn Ysgol Maesydre, yTrallwng, dros y penwythnos 9, 10 Chwefror.Mwy o fanylion yn y golofn fis nesaf.

    Dawnsio LlinellOs hoffech chi dipyn o ymarferar ôl y gwyliau, bydd noson oddawnsio llinell yn Gymraeg ynNhw Siamas, Dolgellau, NosFercher, 9 Ionawr am 8.00.Eilwen Jones fydd yn galw, abydd croeso arbennig i ddysgwyr.

    Gwefan i Ddysgu GeiriauTybed dach chi wedi clywed am QuizletQuizletQuizletQuizletQuizlet?Dyma wefan sy’n cynnig miliynau o gardiaufflach a gemau i helpu pobl i ddysgu geiriau affeithiau o bob math. Mae ’na gannoedd osetiau o eiriau a phatrymau Cymraeg, gangynnwys geiriau o’r cyrsiau Mynediad,Sylfaen a Chanolradd. Dysgwyr sydd wedicreu’r cardiau, felly mae ’na gamgymeriadauyma ac acw, ond maen nhw’n ddefnyddiol.Dach chi’n gallu creu eich cardiau eich hunhefyd. Beth am wneud rhai ar gyfer y cyrsiaudach chi’n eu hastudio? Mi fydd hynny ynhelpu dysgwyr eraill.

    App ar gyferMynediad a Sylfaen.Os dach chi’n defnyddio IPhoneneu IPad, mae ‘ap’ ar gael ar

    iTunes sy’n cyd-fynd â’r cyrsiau Mynediad aSylfaen. Byddwch chi’n gallu dysgu Cymraegac ymarfer ar y trên, wrth aros am y bws neumewn ciw - lle bynnag dach chi’n mynd. Mae’rap yn eich helpu chi efo gramadeg ac ynganu.Dach chi’n gallu recordio eich llais a gwrandoer mwyn gwella eich ynganu. Mae’r app argyfer Mynediad ar gael trwy fynd at:

    Clwb Clonc CaerswsCofiwch am y Clwb Clonc. Bydd noson ‘20‘20‘20‘20‘20cwestiwn’cwestiwn’cwestiwn’cwestiwn’cwestiwn’ nos Fercher Ionawr 16, a Swperyng ngwesty’r Buck ar y 30ain. Maen nhw’ncyfarfod yn Lolfa Clwb y Pentref rhwng 8:00a 9:00.

    Radio CymruBraf oedd clywed dysgwyr yn siarad ar Ra-dio Cymru ddydd Mawrth 18 Rhagfyr. Cafwydcyfweliad gyda Bernard Gillespie a oedd ynsiarad am draddodiad y Plygain. RoeddJeremy a Carrie White yn siarad am glywedcanu Plygain am y tro cyntaf a mynd atiwedyn i ddysgu Cymraeg. Canodd Carrie aJeremy ddeuawd yn Gymraeg yn y Plygaini’r dysgwyr yng nghapel y Cilgant. Dyna’r trocyntaf iddyn nhw ganu’n gyhoeddus ynGymraeg a siarad ar y radio hefyd. Tipyn ogamp baswn i’n dweud!

    Dod i’r GolwgMae’r gair ‘‘‘‘‘golwg’golwg’golwg’golwg’golwg’ yn un ddiddorol. Os ydy’r gair yn wrywaidd (masc) yr ystyr Saesneg ydy sight, vision, eyesight. Os ydy’r gair ynfenywaidd (fem), yr ystyr ydy appearance, neu look of.

    Os ydy rhywbeth o fewn golwgo fewn golwgo fewn golwgo fewn golwgo fewn golwg, mae’n ddigon agos inni ei weld. Os ydy rhywbeth o’r golwgo’r golwgo’r golwgo’r golwgo’r golwg, mae o wedi diflannu. Ac os ydy o’n dod i’rdod i’rdod i’rdod i’rdod i’rgolwggolwggolwggolwggolwg rydyn ni’n ei weld o eto. Os oes gen ti rywbeth mewn golwgmewn golwgmewn golwgmewn golwgmewn golwg, dyna beth dach chi’n meddwl am ei wneud. Mae rhywun golygusgolygusgolygusgolygusgolygus ynhandsome neu’n deg yr olwgdeg yr olwgdeg yr olwgdeg yr olwgdeg yr olwg.

    Mae’r gair golwg i’w weld mewn llawer o eiriau eraill. Dyma rai: cipolwgcipolwgcipolwgcipolwgcipolwg – a glimpse, quick look (cipio = to snatch) golygfagolygfagolygfagolygfagolygfa – a scene, view, scenery amlwgamlwgamlwgamlwgamlwg – obvious, prominent golygugolygugolygugolygugolygu – to mean, imply, hefyd to edit golygydd golygydd golygydd golygydd golygydd - editor rhagolwgrhagolwgrhagolwgrhagolwgrhagolwg – preview, outlook rhagolygon y tywydd rhagolygon y tywydd rhagolygon y tywydd rhagolygon y tywydd rhagolygon y tywydd – the weather forecast arolwgarolwgarolwgarolwgarolwg - survey

    Dyma ychydig o enghreifftiau o frawddegau gydag ymadroddion sy’n cynnwys ‘golwg’:

    Wnei di fwrw golwgfwrw golwgfwrw golwgfwrw golwgfwrw golwg dros y cynllun? – Will you take a look at the plan?Yn ôl pob golwgYn ôl pob golwgYn ôl pob golwgYn ôl pob golwgYn ôl pob golwg, mae hi wedi mynd – By all accounts, she’s gone.Does gen i fawr o olwgfawr o olwgfawr o olwgfawr o olwgfawr o olwg ar y dyn – I don’t think much of the man.Mae’n gwneud synnwyr ar un olwgar un olwgar un olwgar un olwgar un olwg – It makes sense in one way .Dyna olwg arni! Dyna olwg arni! Dyna olwg arni! Dyna olwg arni! Dyna olwg arni! - What a sight she is!Beth mae hynny yn ei olyguyn ei olyguyn ei olyguyn ei olyguyn ei olygu? – What does that mean?Daeth dyn gwyllt yr olwg gwyllt yr olwg gwyllt yr olwg gwyllt yr olwg gwyllt yr olwg i mewn. – A wild-looking man came in.Mae golwg wedi blino arnoch golwg wedi blino arnoch golwg wedi blino arnoch golwg wedi blino arnoch golwg wedi blino arnoch chi – You look tired.

    Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae golwg golwg golwg golwg golwg yn dod o’r gair Indo-Europeaidd ‘leuk’, ac ystyr y gair hwnnw oedd ‘goleuni, disgleirdeb.’ Mae’ndebyg fod ‘golau,’ ‘lleuad,’ ‘llygad’, y Saesneg look a hyd yn oed yr enw Lusiffer yn dod o’r un gair.

    Hen air arall am oleuni ydy ‘lleufer,’ ac mae hwnnw yn codi mewn cerdd enwog o’r 6ed ganrif gan Taliesin. Mae’r gerdd yn Farwnad (Elegy)i Owain ap Urien, brenin Rheged. Rheged oedd yr ardal o gwmpas Carlisle. Mae’n cynnwys y llinellau gwaedlyd hyn: Cysgid Lloegr llydan nifer  lleufer yn eu llygaidDyma’r bardd yn disgrifio cyrff marw’r gelyn yn “cysgu” a’r haul yn eu llygaid sy’n dal ar agor. Dyna olygfa ofnadwy!

    Geirfaystyr – meaningdiflannu – to disappear

    ymadrodd - phrasegoleuni – lightdisgleirdeb – brightness

    gwaedlyd - gorycyrff – bodiesgelyn – enemy

  • 66666 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    CynefinCynefinCynefinCynefinCynefinAlwyn Hughes

    HUW EVANSGors, Llangadfan

    Arbenigwr mewn gwaith:

    Codi siediau amaethyddolFfensio

    Unrhyw waith tractorTroi gydag arad 3 cwys ‘spring’

    a 4 cwys dwy ffordd ‘spring’Torri gwair a thorri gwrych

    01938 820296 / 07801 583546

    Datblygiadau ym Myd FfermioFe adewais i yr ysgol yn 1937 i ddechraugweithio ar ffermydd. Roedd cymdogion yngaredig ac roedd ganddynt fwy o amser nagsydd gan bobl heddiw. Cofiaf Mr EdwardOwen, Maesyglydfa yn fy nysgu i droi gydacheffylau. Roeddwn i’n cerdded y tu ôl i’r aradtra arweiniai ef y ceffylau. Ar y dechrau roeddangen nifer o bobl i dorri ~d gyda phladuriau– roeddent yn dilyn ei gilydd mewn rhes ardraws y cae ac roedd morynion yn eu dilynyn clymu a chodi sgubau (sheaves). Cofiaf y‘machine fach’ yn torri ~d ac roedd dau bersonyn eistedd arni – gwaith un oedd hel yr ~d iffwrdd gyda chribin arbennig. Roedd angentua pedwar o bobl i ddilyn yr injan fach ganglymu sgubau a’u codi fesul pedair neuchwech. Yna daeth y ‘self deliverer’ gan olygufod angen un dyn yn unig ar yr injan. Roedd‘hwyliau’ mawr yn troi gan wthio’r ~d i ffwrddo wely’r peiriant a dilynwyd y peiriant gan boblyn clymu a chodi’r sgubau.Datblygiad mawr oedd y beindar oherwyddroedd yn medru torri’r ~d a’i glymu’n sgubaucyn i bobl eu codi. Roedd rhaid torri o amgylchcae o ~d gyda’r bladur (scythe) i ddechre felbod gan y ceffylau le i gerdded. Gelwid hynyn agor allan. Roedd angen tri cheffyl idynnu’r beindar – dau ochr yn ochr o boptu’rpolyn a dynnai’r beindar, ac un ceffyl yn tynnuo’u blaenau. Roedd yr hen bobl yn barticiwlariawn. Cedwid y ceirch (oats) allan am tua tairwythnos cyn ei gludo i’r dâs, cedwid gwenith(wheat) allan am wythnos a haidd (barley) amtua phythefnos.Dyrnid yr ~d yn y gaeaf pan ddeuai’r bocsdyrnu o gwmpas. Roedd yn rhaid i’r ~d fodyn y dâs am o leiaf chwech wythnos iddo oeri’niawn. Nid oedd y teisi yn cael eu toi am chwewythnos rhag i’r ~d or-gynhesu. Roedd toitâs yn dipyn o grefft a gwneid hynny gydagwellt rhydd neu frwyn wedi ei glymu i lawrgyda phegiau cyll a chortyn arbennig a elwidyn gortyn coch.Roedd angen tua deg o ddynion ar ddiwrnoddyrnu. Roedd perchennog y bocs dyrnu’nbwydo sgubau i mewn i dop y bocs ar ôl eutorri. Deuai’r gwellt allan o waelod y bocsynghyd â’r us (chaff) a chludid y rhain i ffwrddi gael ei ‘chaffio’ yn ddiweddarach. Clymid ygwellt gyda rhwymyn a wnaed wrth droi’rgwellt gyda’r dwylo cyn eu clymu am y gwelltrhydd. Gelwid y rhain yn bilion.Deuai’r grawn allan o ran arall o’r bocs dyrnuac i mewn i sachau, gyda dyn yn symud ysachau pan fyddent yn llawn, yna, roedd ynrhaid eu cludo i fyny stepiau’r granar. Gelwidy sachau yma’n bwn neu bynnau, ac roeddentyn drwm iawn. Pwysai pwn o wenith neu haiddtua 224 pwys, ac roedd yn waith caled iawndrwy’r dydd. Gyrrid y bocs dyrnu gan injanstêm yn wreiddiol ac roedd un dyn yn brysuryn cludo d@r iddi.Pan oeddwn i yn yr ysgol symudid y boilarstêm a’r bocs dyrnu gyda’r ceffylau gwedd.Os oedd yr elltydd a’r rhiwiau’n serth, roeddangen chwech neu saith o geffylau. Yn dilyny boilar stêm daeth yr injan dracsiwn (tracsion

    engine) ac roedd hwn yn medru tynnu’r bocsdyrnu y tu ôl iddo. Weithiau roedd mathcynnar o felar neu hen ‘chaff cutter’ yn caelei dynnu y tu ôl i’r bocs dyrnu hefyd.Yn aml iawn roedd rhaid ‘chaffio’ neu dorri’rgwellt yn fân ar ôl gorffen dyrnu. Golygai hynweithio am rai oriau yn y tywyllwch a’r unigolau fyddai dwy neu dair o lampau stabl.Doedd dim sôn am ‘health and safety’ brydhynny, ac mae’n rhyfeddol na chafodd mwyo bobl eu hanafu.

    YR UN LLE OND GYDA WYNEB NEWYDD

    B T SBBBBBINDING TYRE SERVICE

    Y GAREJ ADFA SY163DB

    TEIARS, TRWSIO PYNJARSCYDBWYSO OLWYNION, TIWBIAU

    MEWNOL

    YYYYY ST ST ST ST STOC MWYOC MWYOC MWYOC MWYOC MWYAF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS AF O DEIARS YNGYNGYNGYNGYNGNGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!NGHANOLBARTH CYMRU!

    GWAITH AMAETHYDDOL

    TRELARS4X4 PEIRIANNAU

    HOFFECH CHI I NI DDOD ALLAN ATOCH CHI?

    RYDYM YN CYNNIG GWASANAETH SYMUDOLSYMUDOLSYMUDOLSYMUDOLSYMUDOL

    I DRWSIO A GOSOD TEIARS!

    YN BAROD I’W FFITIO

    GWASANAETH BONEDDIGAIDD A CHWRTAIS

    Ffôn: 01938 81119901938 810347

    Symudol: 07523 359026

    Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

    MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

    Bwyd da am bris rhesymol8.00a.m. - 5.00p.m.Ffôn: 01650 531210

    Fel aeth yr amser ymlaen diflannodd yrolwynion pren gyda chylchoedd haearn a daethtractorau fel y ‘Marshall’ i dynnu’r bocs dyrnuo un fferm i’r llall, ac yna daeth y combeinscyntaf. Roedd y rhain yn torri’r ~d ac yngwahanu’r grawn a ddeuai allan i sachau arochr y combein, tra deuai’r gwellt a’r us allano’r cefn a hynny gyda’r peiriant yn dal i symud– dipyn o ddatblygiad o ddyddiau’r bladur!

    (I’w barhau)

    LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAdeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr TTTTTai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac EstyniadauGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu Gerrig

    Ffôn: 01938 810330

    ANDREW WATKIN

    Froneithin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,

    Hunangofiant Maurice Evans, Hunangofiant Maurice Evans, Hunangofiant Maurice Evans, Hunangofiant Maurice Evans, Hunangofiant Maurice Evans, TTTTTynrhosynrhosynrhosynrhosynrhos(Rhan 2)(Rhan 2)(Rhan 2)(Rhan 2)(Rhan 2)

    Maurice yn sefyll o flaen bocs dyrnu yn Acton Scott, Sir Amwythig

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 77777

    Mr. Bryn EllisY TRALLWMDilys WilliamsCymorth CristnogolCynhaliwyd Bore Coffi yn Neuadd yr Eglwysddiwedd mis Tachwedd fel rhan o weithgaredd‘Eglwysi’r Trallwm Ynghyd’ – cyfle i holleglwysi a chapeli’r dref ymuno mewn ymdrechi godi arian tuag at Cymorth Cristnogol. Bu’rbore yn llwyddiant a gwnaed elw o dros £200.

    Côr y DrefYn ôl eu harfer, bu’r Côr dan arweinyddiaethBeryl Jones, Cegidfa, yn ymarfer ynwythnosol ers mis Medi tuag at eucyngherddau Nadolig – stori ‘Joseff’ wedi eipharatoi yn gelfydd iawn gan Beryl Jones gydaMargaret Benbow yn cyfeilio. Hefyd, pleseroedd cael gwasanaeth Mari Van Hulzen ar yffliwt ac Alecs Peate ar y delyn – dwyddawnus dros ben. Cynhaliwyd dau gyngerdd– y cyntaf yn y Capel y Methodistiaid a’r ailyn eglwys Pool Quay. Bydd y Côr yn ail-gychwyn ymarferiadau nos Lun, Ionawr 7fed,pryd y bydd paratoadau ar gyfer yr Wylflynyddol a gynhelir fis Mai yn dechrau.Croeso i aelodau newydd – os oes gennychdiddordeb – cysylltwch â Beryl Jones (ffôn:553638).

    Cymdeithas ‘Mair a Martha’Trefnwyd gwasanaeth Nadolig ar gyfer eincyfarfod mis Rhagfyr ac fe gawsom brynhawnbendithiol iawn. Gwasanaeth o garolau adarlleniadau am “Y Geni” ydoedd ac aelodau’rgymdeithas a gymerodd ran. Dilys Williamsoedd yn gyfrifol am ddewis y carolau a hi hefydoedd wrth y piano. Cafwyd darlleniadau ganMarian Thomas, Dilys Williams, EirlysRoberts a Theodora Hamer-Harvey ac fe’nharweinwyd mewn gweddi gan Leah Jones.Wedi’r gwasanaeth, cawsom oll baned a theblasus. Cofiwch na fydd cyfarfod fis Ionawr.Ym mis Chwefror, cynhelir ein CyfarfodBlynyddol. LJ

    Capel Cymraeg

    Pleser o’r mwyaf i aelodau a ffrindiau’r CapelCymraeg oedd cael ymuno mewn gwasanaethbedydd y prynhawn Sul olaf o fis Tachwedd.Roedd y gwasanaeth dan ofal Glyn Williamspryd y bedyddiwyd Alys Efa, merch Sian aJamie Jones sy’n byw yn y dref. Croesawydnifer o deulu a ffrindiau’r teulu i’r gwasanaetha chafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul danofal Sian Weaver

    Y Blygain flynyddolCyrhaeddodd yr ail nos Fawrth yn Rhagfyrpan gynhaliwyd ‘y Blygien’ yn y CapelCymraeg. Bu cryn baratoi tuag at yr

    amgylchiad blynyddol yma – Elwyn Daviesyn cysylltu gyda’r partïon a’r merched yntrefnu’r lluniaeth sy’n holl bwysig wrth gwrs –yn arbennig felly i’r rhai sy’n teithio o grynbellter. Cafwyd cynulleidfa dda iawn eleni –oddeutu 70 wedi dod ynghyd - mwy nag awelwyd ers rhai blynyddoedd. Glyn Williamsgymerodd at y gwasanaeth dechreuol ac ynacyhoeddodd fod y Blygien ‘yn agored’.Cafwyd amrywiaeth o unigolion, deuawdau,triawdau a phartïon a phawb wedi mwynhauyr arlwy. Ar ddiwedd y gwasanaeth,gwahoddwyd y dynion ymlaen i ganu Carol ySwper ac yna i’r Festri i fwynhau’r swper wediei baratoi gan y merched dan ofal MarianThomas. Bydd yr holl gasgliadau a wneir ynystod cyfnod y Nadolig yn mynd tuag at yr‘Ystafell Fyw’ yng Nghaerdydd.

    Gwasanaeth NadoligAr fore Sul cyn y Nadolig, cawsom gyfle iymuno gyda plant yr Ysgol Sul i’n paratoi atyr @yl wrth iddynt gyflwyno stori’r ‘Geni’ i ni.Paratowyd hwy gan Sian Weaver a’ichyfeillion yn yr Ysgol Sul a mawr yw eindiolch iddynt. Cymerwyd at yr ail ran o’rgwasanaeth gan Glyn Williams pryd y cafwyddarlleniadau a chanu carolau. Yn dilyn ygwasanaeth, cafwyd cyfle i fwynhau paned asgwrs yn y festri.

    Gwasanaeth Bore NadoligDaeth rhai ynghyd i ymuno mewn gwasanaethCymun dan ofal Trefor Owen. Cafwyddarlleniadau gan rai o aelodau a ffrindiau’reglwys – rhai wedi dod at eu teuluoedd idreulio’r Nadolig a llawenydd oedd eu gweldgyda ni.

    YsbytaiDa yw gallu dweud fod Idris Jones ac ElfedDavies gartref o’r ysbyty erbyn hyn.Meddyliwn hefyd am Bert Lewis, Cegidfa,sydd wedi dychwelyd i’r ysbyty yn y Trallwm.Treuliodd Nest Davies gyfnod yn ysbyty’rAmwythig yn ddiweddar ond rydym yn falchei bod gartref ac wedi gwella’n dda.Derbyniwyd neges nad yw Millie Williams sy’ncartrefu yng Nghaernarfon yn hwylus ydyddiau yma. Fe gofiwch mai hi oedd wrth yllyw yn siop Pethe Powys bob dydd Llun ersy dechrau. Anfonwn ein cofion at y cyfeillionyma i gyd a dymunwn yn dda iddynt.

    trannontree@ btinternet.com

    FOELMarion Owen

    820261GwellhadMae amryw o ddarllenwyr y Plu wedi bod ynwael yn ddiweddar. Dymunwn wellhad i chi yn

    fuan.

    Dathlu Pen-blwyddDim ond tri cofiwch – Carol Popplewell, Y Gerddiar Ionawr y 1af; Mandy Jones, Y Dyffryn arIonawr 21ain a Laura Roberts, Y Ddôl ar Ionawr

    25ain. Pen-blwydd hapus i chi.

    Gwasanaeth NadoligCynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Eglwys St.Tydecho ar bnawn Sul, Rhagfyr 2il. Daethcynulleidfa deilwng iawn i’r gwasanaeth.Ni fu gwasanaeth Nadoligaidd yng Nghapel yFoel eleni. Arferai hwn fod yn ganolbwynt y dathlu

    yma yn y Foel.

    Noson ElusennolTrefnwyd noson arbennig iawn yng Ngwesty’rDyffryn ar nos Sadwrn y 29ain o Ragfyr ganMandy ac Arwel er mwyn codi arian ar gyferAmbiwlans Awyr Cymru. Ar ôl swper blasus,cafwyd ocsiwn addewidion cyn mwynhauadloniant gan Heather Bebb a’i band.Llwyddwyd i godi’r swm anhygoel o £2,000 tuagat yr elusen bwysig hon. Hoffai’r ddau ddiolchyn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth, i’rmerched am roi o’u hamser i weini ar y noson, iGlyn Abernodwydd am ei wasanaeth felarwerthwr, i bawb roddodd wobrau ar yr ocsiwn

    ac am y rhoddion tuag at yr achos.

    Merched y WawrBu Merched y Wawr yn gwledda yng Ngwesty’rDyffryn ar nos Iau, Rhagfyr 13eg. Rhaid diolchunwaith eto am y wledd ac am y croeso. Byddcyfarfod nesa y Wawr yn y Ganolfan ar nos Iau,Ionawr 10fed. Cawn glywed am brofiadau dwyferch o Gefn Coch a fu ar ymweliad â Tanzania.

    Dawnswyr LlangadfanBydd y dawnswyr yn paratoi i fynd i noson y FariLwyd yn Ninas Mawddwy ar Ionawr 12fed.

    Pryd ar GludBu’r gwasanaeth yma ar gael yn yr ardal ersdechrau Mawrth 1998. Ar hyn o bryd, ychydig oalw sydd am y gwasanaeth yma. Os oes gennychddiddordeb, cysylltwch â fi rhag blaen ar 01938820261. Cewch ginio blasus wedi ei baratoiyng nghegin Ysgol y Banw – ei bris yw £3 (amginio a phwdin) a’r cyfan wedi ei baratoi y borehwnnw. Byddwn yn dosbarthu ar ddydd Mawrtha dydd Iau. Rwy’n cymryd y cyfle yma i ddiolch ogalon i’r gwirfoddolwyr a fu’n dosbarthu ac iChristine, y gogyddes. Meddyliwch yn ddwys –rydym yma i’ch cefnogi chwi. Os collwn y cyfle,ddaw o byth yn ôl.Dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i hollddarllenwyr y Plu yn 2013.

    MARS Annibynnol

    Montgomery House, 43 Ffordd Salop,Y Trallwng, Powys, SY21 7DX

    Ffôn 01938 556000

    Ffôn Symudol 07711 722007

    Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol

    Trevor JonesRheolwr Datblygu Busnes

    Morgeisi * Pensiynau * Buddsoddiadau * Cynilion* Yswiriant Bywyd * Diogelu Incwm

    * Adeiladau a Chynnwys

  • 88888 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    ar ddydd Llun a dydd Gwener

    PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

    yn ymarfer uwch ben

    Salon Trin GwalltAJ’s

    Stryd y BontLlanfair Caereinion

    Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

    E-bost: [email protected]

    ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

    Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

    LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

    Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

    Ffôn: 01938 810657Hefyd yn

    Ffordd Salop,Y Trallwm.

    Ffôn: 559256

    R. GERAINT PEATE

    DOLANOG

    Llongyfarchiadau hwyr…… i Carwyn Jones T~ Mawr sydd wedi dod i’rbrig fel Pencampwr Cymru mewncystadleuaeth ‘plygu shetin’ a gynhaliwyd arfferm Bank Wells, Llanfair Caereinion nôl ymmis Tachwedd. Da iawn ti Carwyn am gynnaly grefft.

    ProfedigaethAnfonwn ein cydymdeimlad at ddau deulusydd wedi diodde profedigaethau dros gyfnodyr #yl.Bu farw John Richards, Ty Nant yn HosbisAmwythig ar y 12fed o Ragfyr. Cynhaliwyd ygwasanaeth angladdol yn Eglwys Llanfyllinac yna ym Mynwent Llanfihangel.Cydymdeimlwn â’i chwaer Myfanwy Morgana’r teulu yn eu colled. Cafodd John Richardsofal caredig gan deulu’r Plas yn ystod eiwaeledd a bydd hiraeth a bwlch mawr ar ei ôlyn sicr.Rydym hefyd yn cydymdeimlo â theulu’r BerthFawr yn dilyn marwolaeth Lewis Ellis yngNghaerdydd, brawd i John Ellis.

    PriodasauLlongyfarchiadau calonnog i Owain Plascocha Celine sydd wedi priodi yn ddiweddar drawyng nghartref teuluol Celine yn Lille, GogleddFfrainc. Deallwn i lawer o’r teulu a ffrindiaudeithio draw yno i ddathlu’r achlysur hapus.Rydym yn falch o ddweud mai yma yngNghymru fach y byddant yn gwneud eucartref gan fod y ddau yn gweithio ym myd ygyfraith yng Nghaerdydd.

    Pleser hefyd yw cyfarch Heledd, Y Glyn, gynt(merch John a Siân) a’i phriod, David Williamsar eu priodas yng Nghapel y Traeth Cricieth,ddydd Sadwrn y 29ain o Ragfyr. Mae’r ddauyn gweithio ym myd y cyfryngau yngNghaernarfon a byddant yn byw yn eu cartrefnewydd yn Chwilog.Llongyfarchiadau a phob bendith i’r ddau gwpl.

    LLWYDIARTHEirlys Richards

    Penyrallt 01938 820266

    David a Heledd

    Brysiwch wella…..….i’r rhai sydd wedi bod yn cael triniaeth ynyr ysbyty yn ddiweddar.Mae Gwyneth Jones, Pentrecoed wedi caelllawdriniaeth ar ei braich yn Ysbyty Gobowenddechrau mis Rhagfyr. Da deall ei bod yngwella a dymunwn y gorau iddi eto ym misIonawr wrth iddi fynd am lawdriniaeth arall ynYsbyty Amwythig.Deallwn fod Christopher Lea, Glanrhyd wedicael llawdriniaeth hefyd a dymunwn yn ddaiddo fo.Cafodd Gwyneth Tyarygraig anffawd anlwcusyn ddiweddar gan dorri ei braich uwchben ypen-elin. Gobeithio y bydd pethe yn gwella’nfuan.Rydym hefyd yn anfon cyfarchion at BetiJones, Plasgwyn sydd wedi treulio cyfnod ynYsbyty Stoke. Dymunwn adferiad buan a llwyri chi i gyd.

    Cyfarchion arbennigDa yw deall fod Elvet Lewis, Brynhyfryd yndal i wella a chryfhau ar ôl cael dod adre o’rysbyty ac rydym yn anfon cyfarchion arbennigato y mis yma wrth iddo ddathlu penblwyddarbennig iawn. Gobeithio y cewch chiddiwrnod wrth eich bodd.

    Ar y teleduGobeithio eich bod wedi mwynhau yr arlwy onaws lleol a welwyd ar raglenni S4C yn ystodmis Rhagfyr. Cafwyd gwledd mewn dwy ‘NosonLawen’ gyda Theulu Foeldrehaearn ac AelwydPenllys yn cynnal un rhaglen a Steffan Plascocha Chwmni Theatr Maldwyn i’w gweld ar raglenarall. Edrychwn ymlaen rwan i weld Parti CutLloi a doniau lleol eraill mewn rhaglen arall ynfuan yn y flwyddyn newydd.Nos Sul ola’r mis death recordiad tymhorol o‘Ddechrau Canu Dechrau Canmol’ o Gapel CoffaAnn Griffiths dan arweiniad Tegwyn Jones T~Mawr a Huw Davies wrth yr organ. Cafwyd blashefyd ar draddodiad y canu Plygain gydaThriawd Moeldrehaearn a Phedwarawd AelwydPenllys.

    CydymdeimladGolygyddolGolygyddolGolygyddolGolygyddolGolygyddol: Bu farw May Jones, Ty Isaf,Dolanog, ar Dachwedd 23 a hithau yn 94mlwydd oed. Roedd yn aelod o deulu enwogDolwar Fach ac yn fam i’r ddiweddar Gaynorac i Delyth, Bryndu, lle gofalwyd amdani’ndyner yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Cynhaliwyd gwasanaeth i ddathlu ei bywydyng Nghapel Coffa Ann Griffiths ac yna i ddilynyn Amlosgfa Aberystwyth ar Ragfyr 1af.

    Blwyddyn Newydd Dda i ddarllenwyr y Plu oLwydiarth

    Sefydliad y MerchedSefydliad y MerchedSefydliad y MerchedSefydliad y MerchedSefydliad y MerchedNos Sadwrn, Rhagfyr 15ed, cynhaliwyd y CinioNadolig yn y Dyffryn, Y Foel. Croesawydpawb gan Morwenna Humphreys, a hithauroddodd y Gras Bwyd a’r diolchiadau. Enillwydy nifer mwyaf o bwyntiau yn y cystadlaethaumisol am eleni gan Meinir Hughes.

    Capel SeiloNos Sul, Rhagfyr 16eg, arweinwyd yGwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Pe-ter Williams.

    Eglwys y Santes FairPnawn Sul, Rhagfyr 23ain cynhaliwydGwasanaeth y Cymun gan y Parch. LynRogers. Cyflwynwyd y darlleniadau ganKathleen Morgan a’r Parch. GwyndafRichards. Gwnaed y casgliad gan EifionMorgan a mwynhawyd paned a danteithionNadoligaidd ar derfyn y Gwasanaeth.

    Carol yr WylNoswyl Nadolig ar S4C, darlledwyd y rhaglen,Carol yr @yl, sef, cystadleuaeth cyfansoddiCarol. Perfformiwyd deg o garolau ar y rhaglena chyhoeddwyd mai “Stori Wych” a ddaeth i’rbrig. Cyfansoddwyd y garol gan Meri Jones,Aberdwynant, (geiriau) a Siwan Davies,Llanuwchllyn (cerddoriaeth), a Chôr PlantYsgol Syr O.M.Edwards, Llanuwchllyn, yn eichanu. Nid dyma’r tro cyntaf iddynt ennill ygystadleuaeth. Llongyfarchiadau i Meri aSiwan ar eu llwyddiant!

    CARTREF

    Ffôn:Carole neu Philip ar 01691 648129

    Ebost:[email protected]

    Gwefan:www.cartrefbedandbreakfast.co.uk/rooms

    Gwely a BrecwastLlanfihangel-yng Ngwynfa

    Te Prynhawn a BwytyByr brydau a phrydau min nos ar gael

    Cinio Dydd Sul (archebu o flaen llaw)

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 99999

    O’R GORLANGwyndaf Roberts

    DAVID EDWARDS01938 810 242

    07836 383 653 (Symudol)

    TTTTTANWYDDANWYDDANWYDDANWYDDANWYDD BANWYBANWYBANWYBANWYBANWY FUELS FUELS FUELS FUELS FUELS

    (CARTREF, AMAETHYDDOL,DIWYDIANNOL, MASNACHOL)

    GLO GLO GLO GLO GLO AC OLEW DDYDD AC OLEW DDYDD AC OLEW DDYDD AC OLEW DDYDD AC OLEW DDYDD AAAAA NOS NOS NOS NOS NOSBrian LewisGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau PlymioGwasanaethau Plymio

    a Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogia Gwresogi

    Atgyweirio eich holl offerplymio a gwresogiGwasanaethu a GosodboileriGosod ystafelloedd ymolchi

    Ffôn 07969687916neu 01938 820618

    Mae’n sicr i lawer ohonom glywed yn eingwersi hanes mai’r peth mwyaf chwyldroadoli ddigwydd yn hanes y ddynoliaeth oedd bodpobl wedi dysgu sut i wneud tân am y trocyntaf. Wrth gwrs roedd tân yn bod ym mydnatur eisoes - mellt yn cychwyn tân mewncoedwig heb sôn am y bwrlwm eirias a ddeuaio’r llosgfynyddoedd, ond roedd y gallu igynnau tân a chadw’n gynnes yn gam enfawri’n cyndeidiau cyntefig. A phwy tybed oedd ycyntaf i ddarganfod bod cig wedi’i losgi â thânyn gallu bod yn rhywbeth blasus dros ben?Tân felly meddai rhai oedd y sbardun aroddodd gychwyn ar wareiddiad. Tybed?Yn y mater llosg hwn, fe fyddwn i yn ochrigyda’r rhai sy’n dadlau mai rhywbeth a fumewn bodolaeth ymhell cyn tân, sef gallu pobli siarad a chyfathrebu â’i gilydd, a fu’n gyfrifolam ddatblygiadau na welsom eu pen draw hydyn oed yn ein cyfnod ni. Meddyliwch am ygallu i roi enw i berson, lle a gwrthrych am ytro cyntaf. Dyna rym a ddefnyddiwyd nid ynunig gan deuluoedd ond gan arweinwyr o bobmath dros sawl mil o flynyddoedd yn hanes ybyd. Dyma’r gallu hefyd a oedd yn caniatáu ibobl enwi eu duwiau a’u haddoli. Yn yr henGymraeg, y gair a ddefnyddid am Dduw oeddDwyw neu Dyw ond daeth y ffurf Duw i fod ermwyn gwahaniaethu, mae’n debyg, rhwng ygeiriau a ddefnyddid am ‘dydd’ sef ‘dyw’ a‘diw’. Heb enw iddo, ni fyddai’n bosibl eiaddoli.Mae llenyddiaeth gynharaf y Gymraeg yn nodienwau’r seintiau Celtaidd. Byddai un enw ynddigon i’w hadnabod megis Dewi, Teilo,Deiniol, Cyngar, Cynllo ac Afan, i enwi ondychydig. Roedd yr ychwanegiad ‘Sant’ yngwneud y cyfan yn eglur. Mae yna rywanwyldeb arbennig yn datblygu pan geircaniatâd i ddefnyddio enw cyntaf rhywun.Dyna efallai oedd yr ysgogiad cychwynnol irai o’r llysenwau (blasenw, glasenw, ffugenw)cynharaf yn ein hiaith. Disgrifiadau caredigyw’r mwyafrif o’r enwau hyn megis CanwrigHir, Dafydd Goch, Dafydd Benwyn a DafyddBach. Efallai nad oedd y milwr Dafydd Gammor hoff o’i enw gan mai cyfeiriad sydd ymaat ei lygaid croes! Tybed beth oedd ymatebGwilym Tew pan glywodd yr enw am y trocyntaf? Ymhen amser fe ddaeth yr enw Tewyn gyfenw Seisnig ei s@n, sydd ar leferyddheddiw yn y cyfenw Dew.Ni fyddai’n bosibl dechrau sôn am yr enwaubarddonol a fabwysiadwyd dros y canrifoedd

    gan eu bod yn lluosog iawn, ond oherwyddeu pwysigrwydd yn ein hanes, bu’n rhaidcynnwys mynegai i’r Bywgraffiadur Cymraeghyd 1940 yn cynnwys oddeutu pum cant o’renwau hyn.Nid yw’r arfer o adnabod pobl wrth enw eugwaith wedi llwyr ddiflannu o’r tir chwaith. Ynaml yn y Daily Post, wrth gofnodi marwolaeth,fe geir ychwanegiadau digon diddorol acannwyl. Fe gaiff rhai o’n cymdogion gryn hwylo weld llaeth, glo neu bach ar gynffon rhai o’renwau, ond tybed lle daeth y cyfenwau Baker,Barber, Cook, Thatcher, Glover, Fisher,Brewer, Smith, Slater, Farmer, a Butcher ynwreiddiol? Fe ddylem dalu parch i bob enwpa mor rhyfedd bynnag y bo yn ein tyb ni.Un o’r enwau barddol mwyaf trawiadol sy’nymddangos yn Caneuon Ffydd yw un RobertOwen sef Eryron Gwyllt Walia (1803-70). Fe’iganwyd yn Ffridd-bala-deulyn ger Talysarnond treuliodd ei ugain mlynedd gyntaf yngNghaernarfon. Roedd dau o bregethwyr enwogy cyfnod, sef Robert Roberts Clynnog a JohnRoberts Llangwm yn ewythrod iddo. Wedi caeladdysg dda prentisiwyd ef yn beintiwr. YnEbrill 1824 symudodd i Lundain i ddilyn eialwedigaeth gan ymaelodi yng nghapel JewinCrescent. Roedd eisoes wedi ymddiddorimewn llenyddiaeth a daeth yn gryn feistr arwaith y Piwritaniaid yn ogystal â dechraupregethu pan oedd yn 41 oed. Fe’i hordeiniwydyn weinidog yng Nghymdeithasfa Treffynnonyn 1859, ond daliai hefyd i ddilyn eialwedigaeth fel peintiwr tan oddeutu 1865. Dauemyn o’i eiddo sydd yn Caneuon Ffydd sefrhif 543: Hwn ydyw’r dydd y cododd Crist acemyn cymundeb llai adnabyddus ond hoffusdros ben sef rhif 650: O mor ddymunol ywcael cwrdd.I’r rhai ohonom sy’n dal i gofio’r hen lyfremynau, dichon mai Er dod o hyd i Mara ywun o’r emynau mawr a gafodd gam ganbwyllgor dewis Caneuon Ffydd. I ddeall bodyr emyn hwn wedi dod o ddwfn waelodionprofiad Eryron Gwyllt Walia, mae’n rhaid inniwybod am ddamwain erchyll a ddaeth i ran yrawdur. Wrth ferwi olew ar gyfer ei waith fedywalltwyd hylif poeth dros ran fawr o’i gorffgan ei adael gyda chreithiau enbyd a fu’nachos poenau iddo weddill ei oes. Fe welwchfelly ddwyster unigryw pennill olaf emyn 528pan ddywed: Beth bynnag wnelo’n gerbyd/Fyth at ei blant i ddod,/Ai’r gwynt, ai’r tân, ai’rcwmwl,/Er lles caiff iddynt fod. Ac mae’n cloigyda’r geiriau cwbl syfrdanol hyn: Ac er euholl amheuon,/A’u hofnau o bob rhyw,/Efe eihun sydd ynddo,/A digon, digon yw.Diolch bod ffugenw anarferol yn arwain rhywunat waith g@r mor ddewr ac unigryw ag EryronGwyllt Walia.

    I.P.E. 810658LLANLLUGAN

    Helo ddarllenwyr ein papur bro - YHelo ddarllenwyr ein papur bro - YHelo ddarllenwyr ein papur bro - YHelo ddarllenwyr ein papur bro - YHelo ddarllenwyr ein papur bro - YPlu,Plu,Plu,Plu,Plu, hoffwn ddymuno blwyddyn newydddda ac un sydd yn iachus ac yn hapus i chwii gyd.

    Yr EglwysYr EglwysYr EglwysYr EglwysYr Eglwys Yn ddiweddar cynhaliwyd Ffair Fach Nadoligyn nhafarn Cefncoch gan fod gormod ostondinau i’w chynnal yn y neuadd. Diolchwydi Menna am yr ystafell gan y Ficer DavidDunn pan agorodd ef y ffair, Yna clywsomgloch yn canu a phawb yn syllu tua’r drws adyma fo y g@r yn ei wisg goch a’r farf fawrwen yn mynd heibio i eistedd ar ei orsedd a’rphlant yn myned ato am sgwrs fach ac ynayn cael anrheg ganddo. Gwnaethpwyd bron i£600 tuag at yr eglwys.

    GwahoddiadAr yr 6ed o Rhagfyr cawsom ein triwahoddiad gan Mr a Mrs Gron a PrimroseLewis i ddod a dathlu 65 mlynedd o’u bywydpriodasol yn eu cartref yn Hafandeg. Rydymwedi bod yn lwcus iawn ohonynt am inni gaelgwahoddiad pan oeddynt yn dathlu priodasruddem ym Mhencoed, yr aur a’r diamwnt ynFrondeg Cyfronnydd a nawr 65 “Blue StarSaphire”. Diolch i chi, ein cyn gymdogion acyr wyf yn llongyfarch y ddau ohonoch ar ypenblwydd priodas arbennig hwn.

    NadoligNadoligNadoligNadoligNadolig Daeth llawer o bensiynwyr i Ganolfan y Cwmi gael swper blasus wedi ei baratoi ganferched y pwyllgor. Cafwyd adloniant ganShirley Tycoch, Llanwyddelan a Piers oFronolau, Llanwyddelan.

    PrPrPrPrPrysurysurysurysurysur Mae Menna a’i gweithwyr wedi cael amserprysur yn ddiweddar, rhywun yn ciniawa ynaml yn y dafarn, a gwelais glamp o fws unprynhawn a llawer o bobl yn mynd i mewnam ginio moethus. Yr ydym yn lwcus iawn oMenna - maè‘n darparu gwasanaethardderchog i bawb, ond i’r bobl leol y pwysicafydi’r cinio moethus a geir cyn y ‘Dolig ganA.T.B. Adfa a Chefncoch, ac yna ar ôl y bwyta- yr ocsiwn fawr yn gwerthu pob math o bethaufel ambell i sached o datws, moron ac sachedo fwyd c@n, eitemau trydanol, siocledi a mwy,i gyd yn rhoddion gan yr aelodau a’r arian ynmynd at elusennau fel yr Ambiwlans Awyr.

    Carolau Carolau Carolau Carolau Carolau Daeth llawer o bobl ifanc a hen i’r oedfaCarolau yn yr Eglwys bnawn Sul cyn yNadolig. Y Parchedigion David a Mary Dunnoedd yng ngofal yr oedfa a Mrs Olive Owenoedd wrth yr organ a diolch iddi hi a Michaelam wneud y rhaglenni. Addurnwyd yr eglwysgan Mrs Morfudd Huxley, Mrs Jennie Hill aMr Michael Owen. Cymerwyd rhan ganMaldwyn ac Ivy, Jennie Hill, Michael Owen,Cheryl Andrew, ac Alison Davies. Cafwydpaned a mins pei ar y diwedd.

    Garej LlanerfylCeir newydd ac ail law

    Arbenigwyr mewn atgyweirio

    Ffôn LLANGADFAN 820211

  • 1010101010 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    Croesair 193- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -

    (12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

    Enw: _________________________

    Ar Draws1. William bach o Rwsia! (5,5)8. Enw Seisnig tafarn Yr Alarch (1,4)9. Chwi y Gogs (3)10. Perchennog Bryn Glas (3)11. Adfer yn gartref (5)12. Yn gymharol dywyll (5)13. Mofyn o’r ffynnon (3,3)15 Ail adrodd dweud (1,5)18. T@r o’r Beibl (5)20. Aiff gyda chwpan a soser (3,2)21. Sais pwysig! (3)22. Un fach o’r haf (3)23. Cyn archdderwydd (5)24. Achos heb glywed yn dda (3,2,1,4)

    I Lawr2. Tâl am fod yn gywir! (7)3. Ffordd y Gogs (3)4. Dic fawr (6)5. Rhif y Sadwrn (7)6. Planhigyn yn ôl g@r o India (5)7. Trefnu yn gytun (10)8. Disgrifiad o drefn angladd? (2,8)14. Dyn yn un (7)16. Cronfa dd@r Lerpwl (7)17. Cartref Griffith Jones (6)19. Crwt! (5)23. Aml un ar gae pêl-droed (3)

    Atebion 192Ar Draws1. T~ bach; 4. Toc; 6. Twm; 9. Nwy; 8. DailyPost’ 10. Ymchwil; 11. Degwm; 13. Dillad;15. Arolwg; 18. Bonie; 19. Ehangdy; 20.Bangalore; 23. Dod; 24. Ffwl; 25. SGI; 26.OrlifI lawr1.Tanwydd; 2. Bryn Celyn; 3. Chwd; 4. Teimlo;5. Cryfder; 6. Tro; 9. Tìm; 12. Golygyddol;16. Gwyndai; 17. Pedoli; 18. Bîb; 21. Neb;22. EcoGwall gennyf i yn (14) lawr ac achosi diffygyn (18) ar draws – felly ymddiheuriadau. Prim-rose, Noreen, Alwena, Ivy ac Olwen yn gywir.Blwyddyn Newydd Dda i bawb a beth am fwyo ymgeiswyr?

    Ann y Foty yn cofio hen WeinidogRhyw Nadolig digon bethma fu hiyma yn y Foty. Bu Siôn BlewynCoch heibio ychydig cyn yr #yl agwledda ar y da pluog i gyd. Doeddacw felly na iâr na g@ydd ar gyferein cinio Dolig. Gymaint oedd ygyflafan fel y collais yr awydd i

    goginio a pharatoi bwyd. Trwy drugaredd pwyalwodd heibio ychydig ddyddiau cyn y pumedar hugain ond Eleri Williams y Wern gydagychydig wyau yn anrheg i ni. Rhai brownmawr oedden nhw hefyd. A thra bu pawb arallohonoch yn bwyta eich twrcïod cafodd Gutoa minnau bob i omelet ddigon blasus.Mae’r holl helynt wedi gwneud i mi bendroniar holl ystyr y Nadolig. Pam yr holl wleddaa’r gwario, y magu braster a’r oferedd? Gwirfod pleser i’w gael o wrando’r hen garolauplygain ond does dim dianc rhag y ffaith maiSalm i Famon yw’r cyfnod hwn o’r flwyddynerbyn hyn.Er hynny mi fydda’ i yn cael pleser yn chwilioam anrhegion i deulu a chydnabod. Ondpeidiwch disgwyl i mi fynd i’r siopau cadwynmawr. Gwell o lawer gen i gefnogi’rmasnachwyr lleol, a’r bobl hynny sy’n ceisiocynnal busnes yn yr ardal hon. Un o’r llefyddy bydda i wrth fy modd yn mynd iddyn nhwydy ‘Pethe Powys’ yn y Trallwm. Rydw i’nllawn edmygedd o’r gwirfoddolwyr sy’ngweithio mor galed i gadw’r lle i fynd.Er hynny rhaid dweud mai siomedig braiddoeddwn i ar ôl ymweld â’r lle ddwywaith neudair cyn y Nadolig. A minnau â mryd ar brynullyfrau yn anrhegion Nadolig i rai ffrindiau, rhaiddweud i mi gael fy siomi gan y dewis oeddyno. Gan mai dyma gyfnod prysura’r flwyddyno ran prynu a gwerthu llyfrau Cymraegdisgwyliwn weld cryn dipyn mwy oamrywiaeth. Dydy pobl ddim yn mynd igefnogi siop lyfrau os nad oes digon o lyfrauar gael yno.Rwy’n mawr obeithio eich bod chi ddarllenwyry Plu yn prynu llyfrau Cymraeg ac yn cefnogiPethe Powys. Dw i fy hun wedi bod â nhrwynmewn ambell i lyfr dros y flwyddyn ddiwethaf.Un o’r rhai diweddara’i mi eu darllen ydi ‘HanesGwanas’, hunangofiant Bethan Gwanas. Maepawb ohonom yn ei hadnabod hi a’i theulu acwedi darllen nofelau o’i heiddo a gwrando arni’ntraethu ar deledu (nid fod gen i un fy hun) acmewn cyfarfodydd ar hyd a lled y wlad. Oddarllen yr hunangofiant yr hyn a’m

    syfrdanodd fwyaf ydy ei bod hi wedi goroesicyhyd gan ei bod hi wedi cael bywyd llawnantur a chyffro. Yn fwy na dim mae hwn ynhunangofiant gonest iawn ac mae rhywun ynteimlo ei fod wedi dod i adnabod Bethan yndda iawn ar ôl ei ddarllen.Os ydych yn chwilio am lyfr tawelach a mwyhamddenol beth am ‘Ar y Tir Mawr’, cyfrol ogerddi gan Gareth Neigwl. Bardd gwlad ydyGareth Neigwl ac mae o’n byw ar BenrhynLl~n. Cerddi i’r ardal honno a’r cymeriadausy’n byw yno sydd ganddo yn bennaf. Maeyma gywyddau, englynion a cherddi mewnmydr ac odl. Mae yma hefyd luniau trawiadola wnaed gan yr awdur.Ond pam fod hen wraig o Gwm Twrch yn eichannog i ddarllen gwaith bardd o L~n? Heblawam y ffaith mod i wedi mwynhau’r gyfrol wrthgwrs.Wel mae yna gliw yn y cyflwyniad.Cyflwynwyd y gyfrol i ‘Nhad a Mam amgynhesrwydd aelwyd; Rhian am ddangos i miFwynder Maldwyn; Lowri, Elin, Elliw amwarchod yr ysbryd hogyn ynof; Huw, Myrddina Jôs am brofiadau’r Tir Mawr”. Ydy, maeGareth Neigwl yn fab yng nghyfraith i’rdiweddar Austin M. Thomas fu’n weinidog ynLlangadfan a Dolanog. Yn wir mae ganddogerdd sy’n teyrngedu ei dad yng nghyfraith adyma hi.

    Anrheg(A.M. Thomas 1978)

    Mae gen i atgofion melys iawn am yr henweinidog. Dyn tu hwnt o ddeallus acysgolhaig disglair.Rwy’n erfyn ar y rhai ohonoch sy’n hoffibarddoniaeth i ddarllen cyfrol Gareth Neigwlac yn annog pawb arall i wneud addunedblwyddyn newydd i brynu llyfr Cymraeg.Siawns na fydd rhai ar gael yn ‘Pethe Powys’.

    Gwaith tractor yn cynnwysTeilo â “Dual-spreader”Gwrteithio, trin y tir â

    ‘Power harrow’,Cario cerrig, pridd a.y.y.b.

    â threlyr 12 tunnell.Hefyd unrhyw waith ffensioCysylltwch â Glyn Jones:

    01938 82030507889929672

    Contractwr Amaethyddol

    CONTRACTWR TRYDANOLHen Ysgubor

    Llanerfyl, Y TrallwmFfôn: 01938 820130

    Rhif ffôn symudol: 07966 231272

    ALUN PRYCEALUN PRYCEALUN PRYCEALUN PRYCEALUN PRYCE

    Gosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäig

    Gellir cyflenwi eich holl anghenion trydanol- amaethyddol, domestig

    neu ddiwydiannol.Gosodir stôr-wresogyddion

    a larymau tân hefyd.

    Yn Soar mewn cyflwyniadWedi’r bugeilio maith,Mawrygwyd ’rhen WeinidogAm ofal mawr ei waith.

    Hir iawn fu’r holl deyrngedauAr draul blynyddoedd chwim,A’i braidd yn rhannu’r bara,Er iddo fyw ar ddim.

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 1111111111

    Ffermio- Nigel Wallace -

    Democratiaeth a GwneudDemocratiaeth a GwneudDemocratiaeth a GwneudDemocratiaeth a GwneudDemocratiaeth a GwneudPenderfyniadau.Penderfyniadau.Penderfyniadau.Penderfyniadau.Penderfyniadau.Rydym yn falch o’n traddodiad oddemocratiaeth ym Mhrydain a gwelir hi ganlawer fel rhywbeth sy’n sylfaenol i’n ffordd ofyw. Mae gennym i gyd hawl i fynegi barn aci bleidleisio dros y gwleidyddion a gredwn ycynrychiolant ein safbwynt. Wedi’u pleidleisioi rym, dylem felly ar y cyfan, dderbyn eupolisïau fel llywodraeth gan ewyllys y mwyafrif.Os na hoffwn yr hyn maent yn ei wneud,gallwn bleidleisio’n eu herbyn y tro nesaf. Maegennym hefyd amddiffyniadau oherwydd ygall eu gweithrediadau gael eu herio drwy’rdrefn gyfreithiol. Yn anffodus nid yw hi morsyml.Yngl~n â materion cefn gwlad a’r amgylcheddmae gennym grwpiau pwyso lleiafrifol sy’nllawer uwch eu cloch nag y dylent fod o raneu canran o’r boblogaeth. Mae rheoli’ramgylchedd, sicrwydd bwyd a phrosiectaufframwaith mewnol yn hanfodol igynaladwyiaeth y wlad o achos y boblogaethenfawr. Mae’n rhaid i rywun benderfynu bethsydd er budd go iawn y cyhoedd aphenderfynu ar y sail hon. Fel arfer mae’rgrwpiau lleiafrifol yn mynegi barn gref ar ymaterion hyn. Mae llawer o’r mwyafrif mudsydd naill ai heb ddiddordeb neu â diffyg digono wybodaeth ddiragfarn i wneud penderfyniaddeallus. Yn aml nid yw barn groes i’w gilyddymhlith yr arbenigwyr yn help.Enghraifft nodweddiadol yw Adroddiad y Gr@pGwyddonol Annibynnol am 10 mlynedd argwlio moch daear gan yr Athro Krebs a’i dîm.Ni wnaethpwyd rhai rhannau o’r gwaitharfaethedig ac ymyrrwyd ag eraill - y ddau oachos gweithredu gan weithredwyr hawliauanifeiliaid. Ysgrifennwyd yr adroddiad fel bodyr UAC yn gallu cynhyrchu dogfen oddyfyniadau o blaid cwlio a’rYmddiriedolaethau Bywyd Gwyllt un yn erbyn!Ers hynny heriwyd yn gyfreithiol bob cynnig iweithredu gan y llywodraethau gan y grwpiauymgyrchu ac mae ambell farnwr wedi gwneuddyfarniadau croes sydd wedyn wedi’u

    gwrthddweud gan eraill. Gwelir y gwendid hwnyn y drefn mewn materion eraill. Un amlwgyw 10 mlynedd o gynigion gan y llywodraethi anfon yr eithafwr Islamaidd, Abu Qatada ynôl i Iorddonen. Effeithir ar ynni amgen aphrosiectau fframwaith mewnol eraill e.e.ffyrdd osgoi, ansicrwydd ynghylch llwybrauawyrennau a rheilffyrdd newydd gan heriautebyg a’r oedi sy’n ganlyniad.Mae angen penderfynu ynghylch llawer o’rpethau hyn yn awr er mwyn osgoi argyfyngaua llanast yn y dyfodol. Pan arafir prosiectaubydd costau’n codi a datblygwyr arfaethedigyn colli diddordeb a throi at brosiectau tramorlle mae llai o rwystrau. Am unwaithcydymdeimlaf â safbwynt David Cameron sefbod angen terfyn ar y maint o apeliadau,ymgynghoriadau pellach ac oediadaucynllunio di-ben-draw. Eto mae’n fater ogydbwysedd i gyflawni proses ddemocrataiddsy’n gyfrifol ond hefyd yn effeithiol.Barn Pwy yw’r Farn Gyhoeddus? Yn ystodCynhadledd NFU Cymru (Farmers Weekly 9/11/12) honnodd y Dirprwy Weinidog Amaethnad yw cwlio moch daear yn dal ar yr agenda.Dywedodd hefyd:-1. “Byddai gwleidyddion ym mhob etholaethyn colli eu hernesau pe baent yn ymgyrchu oblaid c@l heddiw.” Sut y cafodd Elin Jones eihail-ethol y tro diwethaf, tybed?2. “Yn blwmp ac yn blaen nid oes mwyafrifyn y Senedd i basio’r polisi.” Ni feddyliais fodcymaint o’r aelodau wedi newid o’r mwyafrifsylweddol a basiodd y polisi yn y llywodraethflaenorol.3. “Nid oes dim cefnogaeth ymhlith y cyhoeddyng Nghymru.” Pwy wnaeth ef eu holi? YrRSPB, yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt,yr Ymddiriedolaeth Moch Daear?Sut yr asesir y farn gyhoeddus heddiw? Ynaml drwy arolwg ar-lein. Mae hyn ynwahaniaethol o ran ei natur. Enghraifftddiweddar oedd yngl~n â phrisiau ynni. Mae’rrhain, yn ôl y llywodraeth, i fod i gael eu rheoliwrth i gwsmeriaid newid cyflenwyr. Sut bynnagnid yw’r rhan fwyaf yn newid. Tybiaf eu bodyn canfod y broses fel un sy’n rhy gymhleth,neu nid oes ganddynt yr amser na’r sgiliaucyfrifiadurol i weithredu.A benderfynir ar y farn gyhoeddus heddiw ganTwitter a’r cyfryngau cymdeithasol ar-leineraill? A ddylem gael ein rheoli gan y rheiny

    sy’n ‘trydar’? Oni ddylai barn y rheiny sy’ngwneud rhywbeth adeiladol fod yn fwygwerthfawr? Wrth fynd yn ôl at fywyd gwylltroedd llythyr gwych yn Farmers Weekly 2/11/12 yngl~n â gwersi o gwlio moch daear.Awgrymwyd y dylai deddfwriaeth i warchodunrhyw rywogaeth gael terfyn amser a chaeladolygiad gwyddonol sy’n ystyried newidiadauyn y nifer ohonynt. Nid oes dwywaith nafyddai’r ‘tweeting classes’ yn hoffi hyn! Mae’rcerddor, Brian May, eto yn Farmers Weekly30/11/12 - yn ymddangos fel rhagrithiwr. Mae’ndebyg iddo ganiatau cwlio ceirw ar ei ystâd!Dywed yr RSPB fod cwlio ceirw yn drugarogond nid yw cwlio moch daear. Honna ‘seleb’arall, Bill Oddie fod y ddau fater yn ‘utterlydifferent’!Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yw enw’r corffsydd yn lle Cyngor Cefn Gwlad Cymru,Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru aChomisiwn Coedwigaeth Cymru. PenodwydCadeirydd, yr Athro Peter Mathews. Dywedirbod ganddo brofiad helaeth o faterion yramgylchedd yn y sectorau cyhoeddus aphreifat yn Lloegr, Gogledd Iwerddon acEwrop. Mae gan y Ceidwadwyr Cymreigbryderon a rannaf am goedwigaeth. A fydd ypwyslais yn symud yn bellach o gynhyrchumasnachol i gadwraeth a hamdden? Maecynhyrchu’n bwysig fel adnodd adeiladu athanwydd cyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’ndebyg y bydd y galw’n cynyddu. A all y drefnnewydd ymateb neu a welwn fwy o fewnforiono wledydd â dulliau cynhyrchu llai cyfeillgarac weithiau’n drychinebus i’r amgylchedd?Un broblem sy’n wynebu’r corff newydd yw’rclwyf ‘Gwywo Onnen’ (Ash Die-back). Credirbod hwn wedi dod o dramor gydageginblanhigion. Pam mae’n rhaid inni fewnforiopan fydd ein coed yma’n hadu mor hawdd?Awgrymir y lladdir y mwyafrif o’r coed ondmae gobaith bod rhai yn wrthsafol. Dywedirnad oes triniaeth ac o’m rhan fy hun pryderafbraidd oherwydd bod gennym lawer o’r coedar y fferm.Firws Schmallenberg.Firws Schmallenberg.Firws Schmallenberg.Firws Schmallenberg.Firws Schmallenberg. Mae’r clwyf hwnwedi cyrraedd Cymru. Dywedir y gwêl sganwyrambell annormaledd sydd efallai’r firws neuyn effeithiau’r tywydd drwg. Mae newyddionda (Farmers Weekly 9/11/12) am frechlyn ganMSD Animal Health. Gobeithir y bydd ynderbyn trwydded cyn bo hir.

    BOWEN’S WINDOWS

    Gosodwn ffenestri pren a UPVC oansawdd uchel, a drysau ac

    ystafelloedd gwydr, byrddau ffasgiaa ‘porches’

    am brisiau cystadleuol.Nodweddion yn cynnwys unedau28mm wedi eu selio i roi ynysiad,

    awyrell at y nosa handleni yn cloi.

    Cewch grefftwr profiadol i’w gosod.

    BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,

    TRALLWM, POWYSFfôn: 01938 811083

    CAFFIa SIOP

    Nwyddau, Papurau Newydd Lleol aChenedlaethol * Byr-brydau a Chinio

    Poeth ac Oer * Bwyd i fynd allan01938 82063301938 82063301938 82063301938 82063301938 820633

    S I O PS I O PS I O PS I O PS I O PDydd Llun i Ddydd Sadwrn

    8.00 tan 5.30Dydd Mercher tan 12.30Dydd Sul 8.30 tan 4.30

    CAFFICAFFICAFFICAFFICAFFICoginio: Dydd Llun i Ddydd Sadwrn

    8.30 tan 2.30Te: Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 8.30

    tan 5.00 (4.00 ar ddydd Sul)

    Y CWPAN PINCym mhentre Llangadfan

    We do right by you

    Galwch 01938 810224 am bris neu galwch i mewn i'r swyddfai siarad ag aelod o'r tim yn Swyddfa NFU Mutual Stryd y Bont Llanfair Caereinion Y Trallwng SY21 0RZ

    Dim pawb sy'n gwybod amein yswiriantty a char

  • 1212121212 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    LLANGADFANMarwolaethAr ôl gwaeledd byr bu farw Mr Huw James,Bryngwalia ddechrau mis Rhagfyr. Anfonwnein cydymdeimlad dwysaf at Dewi a’r teulu igyd.

    ElusenBu Gill, Tynewydd yn brysur iawn yn gwneuddanteithion hyfryd ar gyfer hamperNadoligaidd. Gwerthodd docynnau raffl allwyddodd i godi £150 tuag at Ganolfan DdyddCemotherapi, Ysbyty Amwythig. GwnaethHamper y llynedd hefyd a llwyddodd i gasglu£200 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.Enillydd lwcus yr hamper flasus eleni oeddMrs Eirian Jones, Llangadfan.

    Swper y PensiynwyrUnwaith eto paratowyd gwledd wych ibensiynwyr Foel a Llangadfan gan Bethan acaelodau’r Cyngor Cymunedol. Ar ôl llenwi euboliau cafodd pawb gyfle i eistedd nôl amwynhau adloniant arbennig gan DeuluBrynsion, Dinas Mawddwy.

    GwaeleddTreuliodd Mrs Gwen Ann Morris, Timbercotegyfnod yn yr ysbyty yn ddiweddar, rydym ynfalch o glywed ei bod yn well a bod Wyn aKerry yn gofalu amdani yn eu cartref ynGlanymorfa. Er i Ted Sweeting ddod adre o’rysbyty yn ystod y mis, roedd yn ddrwg iawngennym glywed ei fod wedi gorfod mynd ynôl i’r Ysbyty yn y Trallwm rai dyddiau cyn yNadolig. Rydym hefyd yn cofio am Bethanfach, Cân yr Afon sydd wedi treulio’r Nadoligyn yr ysbyty - gobeithio y byddwch i gyd ynteimlo’n well yn 2013.

    Ffair NadoligCafwyd Ffair Nadolig yn y Ganolfan ar nosWener y 7fed. Roedd pob math o stondinauyn gwerthu nwyddau a chrefftau ac wrth gwrsroedd Siôn Corn wedi galw heibio i rannuanrhegion ymysg y plant a dymuno NadoligLlawen i bawb.

    Goleuadau

    Cawsom noson hwyliog dros ben yn y CwpanPinc ar y 30ain o Dachwedd pan gynhaliwydseremoni i droi’r goleuadau Nadolig ymlaen ytu allan i’r Caffi. Roedd Eirlys, Louise a’r criwwedi bod yn brysur iawn yn paratoi danteithionar gyfer eu cwsmeriaid gan gynnwys minspeis a gwin poeth. Cafodd Bethan ac Amy,Cân yr Afon y fraint o droi’r goleuadau tlwsymlaen.

    Y Cerbyd PincMae amryw fath o gerbyd i’wgweld ar ffyrdd ein bro,A rhai ddim eisau petrol na dervna TVO.Ond, cerbyd newydd modernyw’r ‘Marketeer’ pinc,Sydd i’w weld ar daith foreuol iGaffi’r ‘Cwpan Pinc’.

    Mae’n cario nwyddau’n ddyddiol o’r siop i Nythy Dryw,Ac yno mae’i berchennog a’r mab yn hapusfyw.Y mae wedi ei gynllunio i groesi Pont y ‘RhytI arbed Pont y Stonws – mae’n handi fel ‘shortcut’.

    Ni welwyd Dil yn gyrru ’run cerbyd, naddo’rioed,A rhaid cael cerbyd iddi, o gofio am ei hoed!Hir oes i’r ‘Marketeer’ a’i yrrwr meddem ni,Ond, i gyflawni’r darlun – beth am gi bach‘Pecini’?

    Emyr

    Y Cwpan PincWrth deithio trwy Langadfan ar siwrne drwy einSir,A theimlo yn flinedig, neu weld y daith yn hir;Mae ‘Caffi’ newydd handi, yn ‘dwt’ ar fin y lôn,Lle mae ’na groeso cynnes, a choffi bach a sgon.

    Mae hon yn fenter newydd gan deulu, sydd o’rFro,A wir, roedd angen dybryd am le fel hyn, ers tro!Pob un yn cynorthwyo a golchi llestri’r sincIe, teulu cydweithredol, yw teulu’r Cwpan pinc!

    Mae Eirlys, a’i g@r Malcolm, Louise ac weithiauWayne,Jessica, Macs a Rachel yn barod gyda gwên,Cewch yma ‘cappucino’ neu ‘latte’ blasus iawnA sgons sy’n anghymharol, ar gyfer te’rprynhawn.

    Mae yma nwyddau hefyd ar gyfer pob rhyw bryd,Ac nid oes angen mwyach i grwydro dros y byd!Cewch laeth a menyn hefyd, a ffrwythau ‘ffres’ argael!Ac ymffrost balch y teulu? ‘Ni werthir nwyddaugwael’.

    Mae Eirlys wedi crwydro i lawr y stryd o’r CianI’r fan lle bu y Millsiaid yn cadw post y Llan.Wyth, dau, dim a thri-thri* yw’r Caffi ar y ffôn,Ac nid oes paned tebyg o Fynwy draw i Fôn!

    Mae’n Ganolfan i ymgasglu â ffrindiau i gaelsgwrs!Ac os oes gennych amser, cewch brydiau ‘aml-gwrs’.Pob lwc i’r teulu mentrus a llwyddiant fydd i’wrhan!Mae diolch ardal gyfan am ddeffro yr hen Lan.

    Emyr*Rhif ffôn yw 820633

    JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

    Meifod 500355 a 500222

    Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

    Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Dervac Olew Iro a

    Thanciau StorioGWERTHWR GLOCYDNABYDDEDIG

    A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

    Louise yn cynnig jwg o win poeth i Ann

    Hen ledis bach y pentre, Yn gwisgo capie lasie, Yfed gwin a siwgr gwyn, A chadw dim i'r llancie!

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 1313131313

    PONTROBERTElizabeth Human,T~~~~~ Newydd 500493

    Y Gymdeithas GymraegCroesawyd pawb gan Menna i Neuadd PontRobert – y siaradwr oedd John Ellis efo Patyn gymorth iddo. Roeddem i gyd wrth einboddau yn gwrando arno’n sôn am ei fywydo’i blentyndod yng Nghornorion, Llanfyllin hydat briodi. Diddorol a doniol oedd ei sgwrs efosleidiau i ddod â’r cyfan yn fyw a chodi hiraethar rai ohonom! Diolchodd Tegwyn Jones iJohn – a oedd wedi ei fagu drws nesa iddo –noson ddifyr iawn.

    Pen-blwydd ArbennigDymunwn benblwydd hapus i Roy Dyfnantwedi iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 60 ynddiweddar.

    Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i’r ddau frawd – Roysydd wedi cael llawdriniaeth yn yr ysbyty aBarry sydd wedi torri ei fraich wrth gaelanffawd efo bustach. Brysiwch wella.Braf yw gweld Nia Rhosier o gwmpas eto wedicael clun newydd ym mis Tachwedd.

    CydymdeimlwnEfo Glenys ac Arwyn y Fferm wedimarwolaeth May Jones, Tyisa, chwaer yngnghyfraith a modryb a fu farw yn 94 oed.Bydd colled ar ei hôl.Cydymdeimlwn hefyd â Joyce, Royal Oakwedi marwolaeth Jack Richards, Tynant ynddiweddar. Cydymdeimlwn hefyd efo Carol,Gareth a’r bechgyn, Greenhill ar farwolaethNain Carol, sef Mrs Teressa Richards o’rAmwythig yn 97 oed.

    Clwb CyfeillgarwchMwynhawyd y cinio Nadolig yn y Tanhouseefo Rita wrth y llyw. Bydd y CyfarfodBlynyddol yn y Neuadd ar Ionawr 8fed –croeso i bawb.

    Clwb Cinio Dydd GwenerBu’r clwb uchod hefyd yn y Tanhouse ifwynhau cinio Nadolig efo Ivor Hawkins wrthy llyw. Cafodd yr aelodau anrheg Nadolig yrun, a diolchodd Miriam Durrant i Ivor, Angelaa’u tîm am eu gwaith bob dydd Gwener yntrefnu’r gweithgareddau.

    Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

    Ysgol PontrobertCywDydd Llun y 26ain o Dachwedd, aeth dosbarth y Cyfnod Sylfaen i weld Sioe Nadolig Cyw. Yngyntaf daeth Tigi i mewn roedd Tigi yn bert ac yn gwisgo pinc i gyd. Wedyn daeth Twm Tisiana Ben Dant. Gwelon ni Rapsgaliwn a Dona Direidi roedden nhw yn rapio yn dda. Canodd OliOdl gân neis iawn am ffrindiau. Wedyn gwnaethon nhw gystadleuaeth Cyw Ffactor a’r enillyddoedd Dona Direidi. Roeddwn i yn meddwl mai Bendant ddylai fod wedi ennill, fy hoff ddarn ioedd Ben Dant yn canu cân y môr leidr. Gan Anni Vaughan Jones.

    Cacennau NadoligAr gyfer y Ffair Nadolig bu dosbarth Miss Gruffudd yn brysur yn gwneud cacennau bachNadolig. Roedd angen arbenigedd rhywun ar gyfer y swydd yma, felly dyma alw ar help MrsMyra Chapman. Bu hi wrthi’n brysur am ddau brynhawn gyda’r plant yn coginio ac yn addurno’rcacennau. Gwerthodd pob un yn y Ffair. Diolch yn fawr Mrs Chapman am eich holl help.

    Ffair NadoligDaeth y plant, rhieni a phobl y gymuned ynghyd nos Wener y 7fed o Ragfyr i ganu carolau oamgylch y goeden yn y pentref. Wedyn aeth pawb i fyny at y neuadd ar gyfer te, mins peis agwin poeth. Yn y neuadd roedd amryw o stondinau yn gwerthu pob math o nwyddau, caws,cig, cacennau ac wrth gwrs prosiectau menter a busnes dosbarth Mrs Parry. Dwi’n si@r fod yrhan fwyaf o’r rhieni wedi gadael y ffair a’u waledi yn wag. Diolch yn fawr i bawb am gefnogia diolch i Miss Jane Peate am droi’r goleuadau Nadolig ymlaen. Llwyddodd Dosbarth MrsParry i wneud elw o £210. Bydd hanner yr arian yn mynd tuag at elusen o’u dewis a byddantyn cael dewis ar beth fydd yr hanner arall yn cael ei wario.

    PantomeimAeth yr ysgol gyfan i weld pantomeim Martyn Geraint sef Sindarela. Bu llawer o chwerthin agweiddi ac roedd lleisiau sawl un yn gras erbyn y diwedd.

    Siwmperi Nadolig a Cristingl

    Penderfynodd y cyngor ysgol geisio codi mwy o arian tuag at elusen Achub y Plant cyn yNadolig, felly dyma nhw’n dilyn ymgyrch Achub y Plant ac aethant ati i drefnu diwrnod gwisgosiwmperi Nadolig. Mae’n amlwg fod y rhieni wedi bod yn andros o brysur yn gwnïo pob matho addurniadau ar hen siwmper ac roedd pawb yn edrych yn wych. Enillwyr y gystadleuaetham y siwmper orau oedd Rhys Jones a Kira Jones. Cynhaliwyd Gwasanaeth Cristingl y plantyn eglwys Pontrobert, prynhawn dydd Iau’r 20fed o Ragfyr. Braf oedd gweld cymaint o rieni athrigolion y pentref yno. Cafwyd ystyr y Cristingl gan y Parchedig Warren Williams a bu pobun plentyn yn cymryd rhan. Aeth y casgliad tuag at elusen Achub y Plant.

    Mae gan Pontrobert dalentBore Gwener 21ain o Ragfyr cafwyd cystadleuaeth dalent. Roedd gennym feirniad arbennig,sef Mrs Vaughan. Roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn a dywedodd Mrs Vaughan eibod wedi cael ei diddanu gan blant hynod o dalentog. Enillwyr y gystadleuaeth oedd sgetsKira, Lois, Anni a Fflur.

    Parti NadoligDaeth ymwelwr pwysig i’r ysgol ar ddiwrnod olaf y tymor sef Siôn Corn. Roedd ei sach ynllawn o anrhegion i bawb. Ar ôl ymweliad Siôn Corn cafwyd digon o ddawnsio, gemau a pobmath o fwyd blasus yn y parti.

    Huw Lewis

    Ffôn: Meifod 500 286Post a Siop Meifod

    Adeiladau newydd, EstyniadauPatios, Gwaith cerrig

    Toeon

    Tanycoed, Meifod, Powys,SY22 6HP

    Ffôn: 07812197510 / 01938 500514

    GARETH OWEN

    CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR ADEILADUADEILADUADEILADUADEILADUADEILADU

    Dyfynbris am Ddim

    Cysodir ‘Plu’r Gweunydd ganCatrin Hughes,

    a Gwasg y Lolfa, Talybontsydd yn ei argraffu

  • 1414141414 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    Adran 48 o Ddeddf Cynllunio 2008Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith

    (Ceisiadau: Ffurflenni Rhagnodedig a Gweithdrefn) 2009.(Ceisiadau: Ffurflenni Rhagnodedig a Gweithdrefn) 2009.(Ceisiadau: Ffurflenni Rhagnodedig a Gweithdrefn) 2009.(Ceisiadau: Ffurflenni Rhagnodedig a Gweithdrefn) 2009.(Ceisiadau: Ffurflenni Rhagnodedig a Gweithdrefn) 2009.

    GORCHYMYN CYDSYNIAD DATBLYGU YN FFERM WYNT COEDWIG DYFNANT(GORCHYMYN FFERM WYNT COEDWIG DYFNANT)

    HYSBYSIAD YN RHOI GWYBOD AM GAIS ARFAETHEDIG AM ORCHYMYN CYDSYNIAD DATBLYGU (GCD)

    Hysbysir trwy hyn bod ScottishPower Renewables UK Ltd (yr Ymgeisydd) o 2nd floor, New Building, Cathcart Business Park, Spean Street, Glasgow, G44 4BE ynbwriadu gwneud cais i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 37 o Ddeddf Cynllunio 2008 am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (GCD).

    Mae’r cais yn ymwneud ag adeiladu a gweithredu fferm wynt ar y tir i’w galw yn Fferm Wynt Coedwig Dyfnant (y Prosiect arfaethedig) a bydd yn cynnwys 32 oeneraduron tyrbin gwynt sydd â chapasiti o hyd at 116 megawat. Gan fod y Prosiect arfaethedig yn cynnwys capasiti sy’n fwy na 50 megawat, mae’n cael ei

    ddosbarthu fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, a awdurdodir drwy ddyfarnu GCD. Mae’r Prosiect arfaethedig wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfnant, tuaphum cilometr i’r de o Lyn Efyrnwy ac i’r gogledd o Langadfan ym Mhowys, Cymru.

    Ymhlith pethau eraill, bydd y GCD arfaethedig yn ceisio awdurdod ar gyfer y canlynol:32 o dyrbinau gwynt sy’n hyd at 145 metr uchder i’w brig, a’u sylfeini Sgwaryn o lawr caled ar gyfer pob tyrbin gwynt

    Safle gweithredol Dau fast metereolegol cam gweithredol Llwybrau mynediad (newydd ac wedi’u huwchraddio) a chroesfannau dyfrffyrdd

    Gwelliannau priffordd oddi ar y safle i hwyluso mynediad i’r fferm wyntCeblau o dan y ddaear Tri safle adeiladu dros dro Un ar ddeg pwll benthyg dros dro

    Mae’r Prosiect wedi cael ei ddosbarthu fel ‘datblygiad Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol’ at bwrpas Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol)2009 ac felly mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer y Prosiect. Bydd Datganiad Amgylcheddol yn cyd-fynd â’r cais am y GCD felly.

    Bydd y dogfennau, y cynlluniau a’r mapiau sy’n dangos natur y Prosiect, ynghyd â chopïau o’r wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol ar ffurf y DatganiadAmgylcheddol drafft a’r Crynodeb Annhechnegol, ar gael i’r cyhoedd. Gellir archwilio’r rhain am ddim rhwng 25 Ionawr 2013 a 15 Mawrth 2013 yn y lleoliadau canlynol

    ac yn ystod yr oriau a nodir isod.

    LLEOLIADAU ADNEUO AR GYFER YR WYBODAETH AMGYLCHEDDOL RAGARWEINIOL

    riafnalLllegrfylL

    noiniereaCtwititsnIrY

    noiniereaCriafnalLsywoP

    YR012YS

    nillyfnalLllegrfylLditcneueInaflonaC

    a-aliedAlodenumyhC

    r’uad-oPnillyfnalLrognyC

    BD522YSsyw

    mwllarTyllegrfylLteertSkoorB

    gnwllarTYHP712YS

    tllawsoseorCllegrfylLruhtrAdyrtStllawsoseorCgihtywmAriS

    NJ111YS

    ynaflonahCallegrfylLmascerWuadyddyfleC

    uddsohRddrofFmascerWUA111LL

    riSrognyCsywoP

    nerfaHddrofFgnwllarTY

    sywoPSA712YS

    ddyDnulL uagrA

    ,mp03.21-ma03.9mp5-mp03.1 mp7-ma03.9 mp6-ma9 mp7-ma9 mp5-ma9

    ddyDhtrwaM

    -mp2,mp1-ma01mp5

    ,mp03.21-ma03.9mp5-mp03.1 mp5-ma03.9 mp6-ma9 mp7-ma9 mp5-ma9

    ddyDrehcreM uagrA uagrA mp5ma03.9 mp6-ma9 mp7-ma9 mp5-ma9

    ddyDuaI mp7-mp4

    ,mp03.21-ma03.9mp5-mp03.1 mp1-ma03.9 mp6-ma9 mp7-ma9 mp5-ma9

    ddyDrenewG mp5-mp2 mp7-mp2 mp4-ma03.9 mp6-ma9 mp7-ma9 mp03.4-ma9

    ddyDnrwdaS mp1-ma01 mp03.21-ma03.9 mp1-ma03.9 mp5-ma9 mp4-ma9 uagrA

    Gellir cael copi papur o’r Crynodeb Annhechnegol, y ffurflenni adborth a chopi ar DVD o’r Datganiad Amgylcheddol drafft am ddim gan ddefnyddio’r manylion cyswlltisod. Dylid anfon unrhyw ymatebion i’r Prosiect arfaethedig, neu unrhyw safbwyntiau cysylltiedig â’r Prosiect, at yr Ymgeisydd drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost isod

    neu drwy’r post i’r cyfeiriad isod:

    Fferm Wynt Coedwig Dyfnant, ScottishPower Renewables, , , , , Dyfnant Forest Windfarm, , , , , ScottishPower Renewables, , , , , 2nd Floor, , , , , New Building , Cathcart BusinessPark, Spean Street, Glasgow, , , , , G44 4BEE-bost: [email protected]

    Ffôn: 0800 0930 504******Mae galwadau o Linellau Tir y DU am ddim. Gall prisiau galwadau o ffonau symudol amrywio

    Mae copïau papur o’r Datganiad Amgylcheddol drafft ar gael yn y lleoliadau adneuo i’w gweld, neu gellir eu prynu am £375 a gellir gwneud cais amdanynt ganddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

    Hefyd, ceir rhagor o fanylion am y Prosiect arfaethedig, gan gynnwys y mapiau, y cynlluniau, y Crynodeb Annhechnegol, yr wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol

    a’r ffurflenni adborth y cyfeiriwyd atynt uchod, yng ngwefan yr Ymgeisydd http://www.dyfnantforestwindfarm.com neu http://www.coedwigdyfnant.com

    Yng nghyswllt unrhyw ymateb neu safbwynt mewn perthynas â’r gorchymyn cydsyniad datblygu arfaethedig MAE’N RHAID (i) i’r Ymgeisydd ei dderbyn ar neu cyn15 Mawrth 2013 (ii) iddo fod yn ysgrifenedig (III) datgan y sail ar gyfer yr ymateb neu’r safbwynt (iv) dynodi pwy sy’n ymateb neu’n cyflwyno safbwynt, a (v) nodi

    cyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth berthnasol i’r ymateb neu’r safbwynt iddo.

    Bydd yr ymatebion a’r safbwyntiau eraill yn cael eu cyhoeddi.

    Bydd yr wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol yn cael ei harddangos hefyd a bydd aelodau tîm y prosiect ar gael i ateb ymholiadau yn y digwyddiadau gwybodaethi’r cyhoedd a gynhelir gan yr ymgeisydd yn y lleoliadau ac ar yr amseroedd a nodir.

    DYDDIAU GWYBODAETH I’R CYHOEDD

    Canolfan Gymunedol Neuadd Bentref Institiwt Cyhoeddus Canolfan GymunedolBanwy Dinas Mawddwy Llanfair Caereinion LlanwddynDydd Mercher 20fed Dydd Iau 21ain Dydd Gwener 22ain Dydd Sadwrn 23ain

    Chwefror Chwefror Chwefror Chwefror3pm tan 7.30pm 3pm tan 7.30pm 3pm tan 7.30pm 10am tan 2pm

  • Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013 1515151515

    LLANERFYL

    Ar y faincLlongyfarchiadau i Elen Jones, Hafod syddwedi ei sefydlu fel Ynad Heddwch ar fainc SirDrefaldwyn, yn y Trallwm.

    LlawdriniaethMae David Gepp newydd dderbynllawdriniaeth ‘quadruple-bypass’ ar ei galonyn ddiweddar. Anfonwn ein dymuniadau gorauiddo am wellhad llwyr a buan.

    QueenCafwyd noson lwyddiannus iawn ar Ragfyr y14eg pan ddaeth Band teyrnged Queen ineuadd y pentref i’n diddanu. Roedd hi’nnoson wych a chlywais fod sawl un o ‘Fatbottom girls’ y fro yn joio ac yn rhoi ambell i‘Flash’ wrth ddawnsio i’r hen ganeuonpoblogaidd.

    CydymdeimladCydymdeimlwn ag Alan a Sarah, Caestwbwrna’r teulu wedi marwolaeth mam Alan cyn yNadolig.

    Penblwydd ArbennigAnfonwn ein llongyfarchiadau i Elwyn,Glantanant sydd wedi dathlu ei benblwydd yn50 dros y flwyddyn newydd.

    Prawf GyrruLlongyfarchiadau i Gareth May, Cringoed Isasydd wedi llwyddo i basio ei brawf gyrru ynddiweddar. Pob hwyl i ti Gareth a chymerofal!

    Gwasanaeth y PlantCynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig y plant yngNghapel Bethel eleni. Roedd y capel yn llawna phawb wedi mwynhau’r gwasanaeth yn fawriawn.

    CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

    Ffôn: 01938 811306

    Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

    Gwaith Cerrig

    IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

    Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

    Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol: 07967 386151

    Ebost: [email protected]

    CYSTADLEUAETHSUDOCW

    ENW: _________________________

    CYFEIRIAD: __________________

    ____________________________________

    ____________________________________

    Glaniodd 29 ymgais ar stepen y drws ar gyfercystadleuaeth sudocw’r mis yma a hoffwn ddiolchyn fawr iawn i Heather Wigmore, Llanerfyl, AnneWallace, Llanerfyl, Megan Roberts, Llanfihangel;Beryl Jacques, Cegidfa; Ann Evans, Bryncudyn;Gwenda Williams, Llanidloes; Gwenda Hughes,Penygarnedd; Llio Lloyd, Rhuthun; EurwynJones, Croesoswallt; Gomer P Lewis,Llanbrynmair; David Smyth, Foel; Jean Preston,Dinas Mawddwy; Cath Williams, Pontrobert;Hywel Edwards, Pontrobert; Ieuan Thomas,Caernarfon; Gwynfryn Thomas, Llwynhir;Lisabeth Thomas, Stockport; Malcolm Lloyd,Carno; Tudor Jones, Arddlin; M.E. Jones,Croesoswallt.; Hafwen Roberts, Coed y Cwm,Mary Pryce, Trefeglwys, Mair Williams, Trallwm,Eluned Davies, Cwm Golau, Maureen Jones,Cefndre, Eirwen Robinson, Cefncoch, GwyndafJones, Llanbrynmair, Oswyn Evans,Penmaenmawr, Eirys Jones, Dolanog am roicynnig arni. I mewn â’r holl enwau i’r hosanNadolig ac enillydd lwcus CD newydd SiânJames ydi Llio Lloyd o Ruthun. Dwi’n si@r ybyddi di’n mwynhau gwrando ar y CD Llio.Y mis nesaf bydd yr enillydd lwcus yn ennill tocynllyfr gwerth £10 i’w wario mewn Siop Gymraego’ch dewis.Anfonwch eich sudocw wedi ei gwblhau at MarySteele, Eirianfa, Llanfair Caereinion, Y Trallwm,Powys neu Catrin Hughes, Llais Afon,Llangadfan, Y Trallwm, Powys, SY21 0PW erbyndydd Sadwrn, Ionawr 19eg. Pob lwc.

    RHIWHIRIAETH

    Rhywun?

    Ow! Mi hoffwn i ‘gwarfod’ â rhywun.All rhywun ddweud, ble mae’n byw?Neu, rhywun yn rhywle, rhywbryd –All ddweud o ba genedl yw?A’i Gwyddel, neu Sais neu hen Gymro,Neu Sgotyn, Almaenwr neu Ianc?Mae’n siwr y gall rhywun, rhywle,Roi cymorth i ddyn yn ei dranc!

    Mi ffoniais fy nghyfaill un noson,Gan deimlo yn dipyn o foi,Bod gennyf hanesyn bach blasus!Roedd ‘rhywun’ yn deud wrtha’i ddoe.Roedd ‘rhywun’ wedi fy nghuro i eto,Sut gafodd y stori, ni wn?Ond, petawn i yn ‘cwarfod â ‘rhywun’Ei orffen a wnawn gyda gwn!

    Pwy bynnag yw ‘rhywun’ mae’n glepiog,Yn gwybod pob peth am bob un,Mae’n siarad â phob un ymhobman,Plîs, a oes rhywun â llun?Does ots a phwy y gwnewch siarad,Mae ‘o’ wedi bod yno o’ch blaen,Mae’n gwybod yr holl gyfrinachau,Ac yn wir, y mae’n dipyn o straen!

    Mae ‘rhywun’ yn hollol wybodus.Mae’n glwyddog, mae’n byw ymhob tre,Roedd ‘rhywun’ yn siarad â rhywun,Ond, byth ni chewch wybod ymhle!Mae’n gyfaill sy’n gwbl ddi-enw,Yn gwybod pob dim dan yr haul!Ow! Mi hoffwn gael cwarfod â ‘rhywun’Oes rhywun ag enw ar gael?

    Emyr

    Brian, Afallon ddwedodd rhyw fore Llun fodrhywun wedi dweud rhywbeth wrtho,rhywbryd. Minnau yn gofyn, “Pwyddwedodd?” “Dwi’m yn cofio rwan,” oedd eiateb!

    Morris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant Hire

    OFFER CONTRACWYRAR GAEL I’W HURIO

    gyda neu heb yrwyrCyflenwyr Tywod, Graean a

    Cherrig FforddGosodir Tarmac a Chyrbiau

    AMCANGYFRIFON AM DDIMFfôn: 01938 820 458

    Ffôn symudol: 07970 913 148

    I Seland NewyddI gyd-fynd â dathlu ei phen-blwydd yn drigainoed mae Enid ac Arwel Jones, Melingrug,wedi hedfan i Seland Newydd am dair wythnosi weld eu merch, Bethan, sy’n gweithio ynofel Nani.

  • 1616161616 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2013

    LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIRAIRAIRAIRAIRCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINION

    Plygain yr IfancBraf oedd gweld Capel Moreia yn llawn unwaitheto nos Sul, Rhagfyr 1af i Blygain yr Ifanc.Dyma wasanaeth i godi’r galon bob blwyddynac nid oedd eleni yn eithriad. Arweiniwyd yblygain gan Angharad Lewis, Tremafon, agwnaeth hynny mewn ffordd hwyliog acaddysgiadol gan gyflwyno hanes y blygain igantorion ifanc nad oedd efallai wedi bodmewn un o’r blaen. Wedi iddi gymryd y rhannauarweiniol gwahoddodd aelodau Ysgol SulLlanfair ymlaen i ddechrau’r gwasanaeth adaeth criw o ddwsin o gantorion ifanc a bywiogi’r sêt fawr i ganu’n swynol. Fe’u dilynwydgan gr@p o ferched ifanc Llanerfyl, parti o YsgolLlanerfyl, parti o Ysgol Gynradd Llanfair, ynaParti Grug a Greta gyda thriawd o ysgolPontrobert i ddiweddu. Wedi canu dau gylch,daeth y dynion ymlaen i ganu Carol y Swper adiolchodd Elen Jones, ar ran Pwyllgor lleol yrUrdd i bawb am ddod ac i’r rhai a wnaethbaratoi lluniaeth ar y diwedd.

    Goleuadau’r drefEleni croesawyd y seren opera a theledu ShânCothi i gynnau goleuadau Nadolig y dref a brafoedd ei chroesawu’n ôl. Bu Siôn Corn ynteithio drwy’r dref ar ei sled ac anrhegodd dros70 o blant yn yr Institiwt cyn mynd adref.Roedd Band Arian Porthywaen wrth law i ganucyfeiliant i’r hen garolau ac roedd stondinau alluniaeth yn yr Institiwt i bawb ar y diweddwedi’i drefnu gan Bwyllgor gweithgar yGoleuadau o dan ofal y Cynghorydd ViolaEvans.

    Eglwys y Santes FairCynhaliwyd Noson o Garolau a gwasanaethCymun gyda’r Ficer David, a Betty Davies aryr organ. Braf oedd croesawu rhai o aelodauLlangynyw a Phontrobert atom. Aeth y casgliadtuag at gronfa Uned yr Arennau yn ysbytyTrallwm, lle mae un o’n haelodau yn derbyntriniaeth.Cafwyd Sul arbennig yn yr Eglwys hefyd ar 9Rhagfyr. Roedd y plant bach a’r babanod wedigwisgo mewn gwisgoedd Nadoligaidd.Darllenwyd hanes y Geni iddynt gan NicolaDavies a chafodd y plant a’r gynulleidfa hwylyn dathlu’r Nadolig.Yna ar Sul olaf y flwyddyn cynhaliwydGwasanaeth Carolau dwyieithog yn yr Eglwysa gwahoddwyd aelodau’r capeli lleol atom.Cafwyd eitemau gan Gill a Carys, Plas Iolyn,Parti’r Bechgyn, gan Kelly Hartshorne aShirley Jones a chanodd plant yr Ysgol Sul ary diwedd. Trefnwyd y gwasanaeth gan M