12
2016 No. 429 (W. 138) FOOD, WALES The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016 EXPLANATORY NOTE (This note is not part of the Regulations) These Regulations make provision in relation to the promotion of food hygiene ratings under the Food Hygiene Rating (Wales) Act 2013 (“the Act”). Regulation 2 provides that these Regulations apply to establishments which supply takeaway food. Regulation 3 sets out what food operators must do to promote their food hygiene rating and provides what must be displayed on their printed publicity materials. Regulation 4 provides that where food operators choose to display a food hygiene rating on their printed publicity materials in addition to the statement it is required to display, that rating must comply with the requirements of regulation 4(2) and Schedule 1. Regulation 5 makes it an offence for a food business establishment operator to fail to comply with the requirements of regulations 3 and 4(2). Regulation 6 provides that where a body corporate (such as a company, or any other body incorporated by statute) commits an offence under the Regulations, a director, manager or secretary of that body (or anyone purporting to act in any such capacity) will also be guilty of an offence in circumstances where they are found to be personally culpable. 2016 Rhif 429 (Cy. 138) BWYD, CYMRU Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 NODYN ESBONIADOL (Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau) Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd (bwyd tecawê). Mae rheoliad 3 yn nodi’r hyn y mae rhaid i weithredwyr bwyd ei wneud er mwyn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ac mae’n darparu ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei arddangos ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig. Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo gweithredwyr bwyd yn dewis arddangos sgôr hylendid bwyd ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig yn ogystal â’r datganiad y mae’n ofynnol iddynt ei arddangos, fod rhaid i’r sgôr honno gydymffurfio â gofynion rheoliad 4(2) ac Atodlen 1. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr sefydliad busnes bwyd fethu â chydymffurfio â gofynion rheoliadau 3 a 4(2). Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni, neu unrhyw gorff arall a gorfforir drwy statud) yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau, y bydd cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff hwnnw (neu unrhyw un sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath) hefyd yn euog o drosedd o dan amgylchiadau pan ddyfernir ei fod yn bersonol feius. OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU WELSH STATUTORY INSTRUMENTS

2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

2016 No. 429 (W. 138)

FOOD, WALES

The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene

Rating) (Wales) Regulations 2016

EXPLANATORY NOTE

(This note is not part of the Regulations)

These Regulations make provision in relation to the promotion of food hygiene ratings under the Food Hygiene Rating (Wales) Act 2013 (“the Act”).

Regulation 2 provides that these Regulations apply to establishments which supply takeaway food.

Regulation 3 sets out what food operators must do to promote their food hygiene rating and provides what must be displayed on their printed publicity materials.

Regulation 4 provides that where food operators choose to display a food hygiene rating on their printed publicity materials in addition to the statement it is required to display, that rating must comply with the requirements of regulation 4(2) and Schedule 1.

Regulation 5 makes it an offence for a food business establishment operator to fail to comply with the requirements of regulations 3 and 4(2).

Regulation 6 provides that where a body corporate (such as a company, or any other body incorporated by statute) commits an offence under the Regulations, a director, manager or secretary of that body (or anyone purporting to act in any such capacity) will also be guilty of an offence in circumstances where they are found to be personally culpable.

2016 Rhif 429 (Cy. 138)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd)

(Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â hyrwyddo sgoriau hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd (bwyd tecawê).

Mae rheoliad 3 yn nodi’r hyn y mae rhaid i weithredwyr bwyd ei wneud er mwyn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ac mae’n darparu ar gyfer yr hyn y mae rhaid ei arddangos ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig.

Mae rheoliad 4 yn darparu, pan fo gweithredwyr bwyd yn dewis arddangos sgôr hylendid bwyd ar eu deunyddiau cyhoeddusrwydd printiedig yn ogystal â’r datganiad y mae’n ofynnol iddynt ei arddangos, fod rhaid i’r sgôr honno gydymffurfio â gofynion rheoliad 4(2) ac Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr sefydliad busnes bwyd fethu â chydymffurfio â gofynion rheoliadau 3 a 4(2).

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni, neu unrhyw gorff arall a gorfforir drwy statud) yn cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau, y bydd cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff hwnnw (neu unrhyw un sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath) hefyd yn euog o drosedd o dan amgylchiadau pan ddyfernir ei fod yn bersonol feius.

O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U

W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S

Page 2: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

Regulation 7 provides that food authorities may enforce these Regulations and regulation 8 provides a power of entry and seizure of documents to authorised officers of food authorities to enforce the Regulations.

Regulation 9 provides that an offence under the Regulations is triable in the Magistrates Court and punishable by a fine not exceeding level 3 on the standard scale.

Regulation 10 enables an authorised officer of a food authority to issue a fixed penalty notice (FPN) to a person they have reason to believe has committed an offence under the Regulations. An authorised officer may offer that person the opportunity to discharge any liability to conviction for the offence by payment of a fixed penalty. If the fixed penalty is not paid, the food authority retains the power to prosecute. This regulation also introduces Schedule 2.

Part 1 of Schedule 2 sets out the procedure for fixed penalty notices and the level of fixed penalties payable in respect of an offence under these Regulations.

Part 2 of Schedule 2 makes provision in relation to the form and content of fixed penalty notices.

Regulation 11 provides that food authorities must use the receipts it receives from fixed penalties for enforcing food hygiene in Wales.

Regulation 12 prescribes information that a food authority must send to the operator of a food business establishment.

The Welsh Ministers’ Code of Practice on the carrying out of Regulatory Impact Assessments was considered in relation to these Regulations. As a result, a regulatory impact assessment has been prepared as to the likely costs and benefits of complying with these Regulations. A copy can be obtained at the Health and Social Services Group, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ.

A draft of the Regulations was notified to the European Commission in accordance with Article 8 of Directive 98/34/EC of the European Parliament and of the Council laying down a procedure for the provision of information in the field of technical standards and regulations (OJ No L204, 21.7.1998, p. 37) last amended by Directive 98/48/EC (OJ No L217, 05.08.1998, p. 18).

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff awdurdodau bwyd orfodi’r Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 8 yn darparu pŵer mynediad ac ymafael mewn dogfennau i swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd er mwyn iddynt orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod trosedd o dan y Rheoliadau yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf yn y Llys Ynadon a’i chosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae rheoliad 10 yn galluogi swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd ddyroddi hysbysiad cosb benodedig (HCB) i berson y mae ganddo reswm dros gredu ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau. Caiff swyddog awdurdodedig gynnig y cyfle i’r person hwnnw fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig. Os na thelir y gosb benodedig, mae’r awdurdod bwyd yn cadw’r pŵer i erlyn. Mae’r rheoliad hwn hefyd yn cyflwyno Atodlen 2.

Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig a lefel y cosbau penodedig sy’n daladwy mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb benodedig.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i awdurdodau bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau cosb am orfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae rhaid i awdurdod bwyd ei hanfon at weithredwr sefydliad busnes bwyd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o’r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t. 37) fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 98/48/EC (OJ Rhif L217, 05.08.1998, t. 18).

2

Page 3: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

W E L S H S T A T U T O R Y I N S T R U M E N T S

2016 No. 429 (W. 138)

FOOD, WALES

The Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene

Rating) (Wales) Regulations 2016

Made 18 March 2016

Coming into force 28 November 2016

The Welsh Ministers make the following Regulations in exercise of the powers conferred on them by sections 10(1)(a), (2)(b), (3)(a) and (b) and (c), and 15(1) of the Food Hygiene Rating (Wales) Act 2013(1).

In accordance with section 26(4) of that Act, a draft of this instrument has been laid before and approved by a resolution of the National Assembly for Wales.

Title, commencement, application and interpretation

1.—(1) The title of these Regulations is the Food Hygiene Rating (Promotion of Food Hygiene Rating) (Wales) Regulations 2016 and they come into force on 28 November 2016.

(2) These Regulations apply in relation to Wales. (3) In these Regulations—

“the Act” (“y Ddeddf”) means the Food Hygiene Rating (Wales) Act 2013; “establishment” (“sefydliad”) means food business establishment; “publicity materials” (“deunyddiau cyhoeddusrwydd”) means any printed material which promotes the takeaway food provided by the operator’s establishment and which includes the prices of the food provided together with a description of how a consumer, being an individual to whom food is supplied otherwise

(1) 2013 anaw 2.

O F F E R Y N N A U S T A T U D O L C Y M R U

2016 Rhif 429 (Cy. 138)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd)

(Cymru) 2016

Gwnaed 18 Mawrth 2016

Yn dod i rym 28 Tachwedd 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 10(1)(a), (2)(b), (3)(a) a (b) ac (c), a 15(1) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013(1).

Yn unol ag adran 26(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cludfwyd” (“takeaway food”) yw bwyd sydd wedi ei baratoi yn unol ag archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre; ystyr “deunyddiau cyhoeddusrwydd” (“publicity materials”) yw unrhyw ddeunydd printiedig sy’n hyrwyddo’r cludfwyd a ddarperir gan sefydliad y gweithredwr ac sy’n cynnwys prisiau’r bwyd a ddarperir ynghyd â disgrifiad o sut y caiff defnyddiwr, sy’n unigolyn y cyflenwir bwyd iddo ac eithrio yng nghwrs busnes a gynhelir ganddo, archebu ac eithrio archebu’n bersonol;

(1) 2013 dccc 2.

3

Page 4: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

than in the course of a business carried on by him or her, may place an order otherwise than in person: “rating” (“sgôr”) means a food hygiene rating given under the Act; and “takeaway food” (“cludfwyd”) means food that has been prepared to the specific order of consumers for delivery or collection to be consumed off the premises.

Establishments to which these Regulations apply

2. These Regulations apply to establishments that supply takeaway food direct to consumers.

Requirement to promote food hygiene rating

3.—(1) An operator of an establishment must ensure that its publicity materials display the statement—

(2) The statement must be positioned in a conspicuous place on the publicity materials so it can be easily seen by consumers.

(3) The statement must conform to the following specifications—

(a) type size of at least 9 points as measured in font ‘Times New Roman’ not narrowed; and

(b) space between text lines of least 3mm.

Display of food hygiene rating

4.—(1) Where publicity materials comply with regulation 3, an operator may also choose to display the establishment’s rating on its publicity materials.

(2) Publicity materials which display the rating must—

(a) display a valid rating; (b) position the rating in a conspicuous place on

the publicity materials so it can be easily seen by consumers;

(c) display the rating in such a way that makes it clear to which establishment it relates to if publicity materials promote the takeaway food of more than one establishment; and

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013; ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd; ac ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf.

Sefydliadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Y gofyniad i hyrwyddo sgôr hylendid bwyd

3.—(1) Rhaid i weithredwr sefydliad sicrhau bod ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn arddangos y datganiad a ganlyn—

(2) Rhaid i’r datganiad gael ei roi mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei weld yn hawdd.

(3) Rhaid i’r datganiad gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

(a) maint teip sy’n 9 pwynt o leiaf fel y’i mesurir mewn ffont ‘Times New Roman’ nad yw wedi ei gulhau; a

(b) bwlch rhwng llinellau testun sy’n 3mm o leiaf.

Arddangos sgôr hylendid bwyd

4.—(1) Pan fo deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â rheoliad 3, caiff gweithredwr hefyd ddewis arddangos sgôr y sefydliad ar ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

(2) Rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n arddangos y sgôr—

(a) arddangos sgôr ddilys; (b) rhoi’r sgôr mewn lle amlwg ar y deunyddiau

cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei gweld yn hawdd;

(c) arddangos y sgôr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir i ba sefydliad y mae’n berthnasol os yw’r deunyddiau cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo cludfwyd mwy nag un sefydliad; a

4

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

Page 5: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

(d) comply with Schedule 1.

Offences

5. An operator of an establishment commits an offence if, without reasonable excuse, the operator—

(a) fails to comply with the requirements of regulation 3; and

(b) fails to comply with the requirement of regulation 4(2).

Offences by bodies corporate

6.—(1) This regulation applies where an offence under regulation 5 is committed by a body corporate.

(2) If the offence is proved to have been committed with the consent or connivance of, or to be attributable to any neglect on the part of—

(a) any director, manager or secretary of the body corporate, or

(b) any person who was purporting to act in any such capacity,

that director, manager, secretary or person purporting to act as such (as well as the body corporate) is guilty of the offence and liable to be proceeded against and punished accordingly.

(3) The reference to the director, manager or secretary of the body corporate includes a reference—

(a) to any similar officer of the body; or (b) where the body is a body corporate whose

affairs are managed by its members, to any officer or member of the body.

Enforcement

7. A food authority may enforce the obligations imposed by regulations 3 and 4(2) on establishments in its area.

Power of entry

8.—(1) An authorised officer of a food authority may on production of the officer’s written authority if demanded, enter at all reasonable hours an establishment for the purposes of enforcing the requirements in regulations 3 and 4(2).

(2) But in the case of entry into any part of an establishment used only as a private dwelling 24 hours’ notice of the intended entry must be given to the operator.

(d) cydymffurfio ag Atodlen 1.

Troseddau

5. Mae gweithredwr sefydliad yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

(a) yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 3; a

(b) yn methu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 4(2).

Troseddau gan gyrff corfforaethol

6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan reoliad 5 yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2) Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath;

bydd y cyfarwyddwr hwnnw, y rheolwr hwnnw, yr ysgrifennydd hwnnw neu’r person hwnnw sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3) Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a) at unrhyw swyddog cyffelyb y corff; neu (b) pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei

faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gorfodi

7. Caiff awdurdod bwyd orfodi’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliadau 3 a 4(2) ar sefydliadau yn ei ardal.

Pŵer mynediad

8.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad at ddibenion gorfodi’r gofynion yn rheoliadau 3 a 4(2).

(2) Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

5

Page 6: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

(3) An authorised officer may seize and remove any document which they have reasonable grounds to believe may be evidence of a failure to comply with regulations 3 and 4(2).

Penalties

9. A person guilty of an offence under regulation 5 is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 3 on the standard scale.

Fixed penalties

10.—(1) Where an authorised officer of a food authority has reason to believe that a person has committed an offence under regulation 5, the officer may give a notice to the person offering them the opportunity of discharging any liability to conviction for the offence by payment of a fixed penalty.

(2) Where a person is given a notice under this regulation in respect of an offence—

(a) no proceedings may be instituted for the offence before the end of a period specified in the notice, and

(b) the person may not be convicted of the offence if the person pays the fixed penalty before the end of that period.

(3) Schedule 2 (fixed penalty notices) has effect.

Fixed penalty receipts

11. A food authority must use amounts paid to it under fixed penalty notices issued under regulation 10 for the purpose of its functions relating to enforcement of food hygiene in Wales.

Responsibility of food authorities to send information to operators

12. A food authority must send a statement drawing attention to the requirements of these Regulations to operators of establishments in its area in accordance with section 15(1) of the Act (other powers and responsibilities of food authorities).

The Deputy Minister for Health under the authority of the Minister for Health and Social Services, one of the Welsh Ministers 18 March 2016

(3) Caiff swyddog awdurdodedig ymafael mewn unrhyw ddogfen y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â rheoliadau 3 a 4(2) a’i symud oddi yno.

Cosbau

9. Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 5 yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Cosbau penodedig

10.—(1) Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 5, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person sy’n cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2) Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a) ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

(b) ni chaniateir i’r person gael ei euogfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3) Mae Atodlen 2 (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Derbyniadau cosb benodedig

11. Rhaid i awdurdod bwyd ddefnyddio’r symiau a delir iddo o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 10 at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Cyfrifoldeb awdurdodau bwyd i anfon gwybodaeth at weithredwyr

12. Rhaid i awdurdod bwyd anfon datganiad sy’n tynnu sylw gweithredwyr sefydliadau yn ei ardal at ofynion y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf (pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd). Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6

18 Mawrth 2016

Page 7: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

7

ATODLEN 1 Rheoliad 4

SGÔR HYLENDID BWYD 1. Rhaid arddangos sgôr ddilys ar un o’r ffurfiau a ddangosir isod.

2. Y ffurf briodol ar gyfer sefydliad yw pa ffurf bynnag a ddangosir ym mharagraff 1 sy’n arddangos y sgôr gyfredol ar gyfer y sefydliad hwnnw.

3. Rhaid i’r sgôr gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn— (a) cyfeirnodau lliw: Green: c43 m0 y100 k0 & Black; (b) rhaid i ddimensiynau’r sgoriau fod yn 39mm (lled) x 27mm (uchder) o leiaf.

Page 8: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

8

ATODLEN 2 Rheoliad 10

HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

RHAN 1 Y WEITHDREFN AR GYFER HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

1. Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig y cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

2. Caiff hysbysiad cosb benodedig hefyd gynnig y cyfle i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.

3. Caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

4. Nid yw paragraff 3 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.

5. Os yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.

6. Os caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl— (a) rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad

cosb benodedig, a (b) ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr

hysbysiad ar gyfer y drosedd o dan sylw.

7. Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif— (a) sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a (b) sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y

dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

RHAN 2 FFURF A CHYNNWYS HYSBYSIADAU COSB BENODEDIG

8. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi’r manylion am yr amgylchiad yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, sy’n angenrheidiol i esbonio pam mae trosedd wedi digwydd.

9. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd— (a) enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan

roddodd y swyddog yr hysbysiad; (b) swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb; (c) swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo; (d) canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb; (e) y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir

ei thalu;

Page 9: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

9

(f) drwy ba ddull y caniateir talu; (g) y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo

a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.

10. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd— (a) hysbysu’r person y mae wedi ei roi iddo am ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig, a (b) esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.

© Hawlfraint y Goron 2016h

Argraffwyd a chyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig gan The Stationery Office Limited o dan awdurdod ac arolygiaeth Carol Tullo,Rheolwr Gwasg Ei Mawrhydi ac Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines.

Page 10: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

10

SCHEDULE 1 Regulation 4

FOOD HYGIENE RATING 1. A valid rating must be displayed in one of the forms shown below.

2. The appropriate form for an establishment is whichever form shown in paragraph 1 displays the current rating for that establishment.

3. The rating must conform to the following specifications— (a) colour references: Green: c43 m0 y100 k0 & Black; (b) the dimensions for the ratings must be at least 39mm (wide) x 27mm (tall).

Page 11: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

11

SCHEDULE 2 Regulation 10

FIXED PENALTY NOTICES

PART 1 PROCEDURE FOR FIXED PENALTY NOTICES

1. A fixed penalty notice may offer the opportunity for a person to pay a penalty of £200 (“the penalty”) within a period of 28 days beginning with the day in which the penalty notice is given.

2. A fixed penalty notice may also offer the opportunity for a person to pay a reduced penalty of £150 (“the discounted penalty”) if payment is made within a period of 14 days beginning with the day in which the penalty notice is given.

3. Payment of the penalty or the discounted penalty may be made by posting a letter containing the amount of the penalty to the person described on the notice at the address so described. Payment is to be regarded as having been made at the time at which the letter would be delivered in the ordinary course of post.

4. Paragraph 3 does not prevent payment of the penalty being made by any other method.

5. If a food authority considers that a fixed penalty notice given to a person by an authorised officer acting on its behalf ought not to have been given, the food authority must give notice to that person withdrawing the fixed penalty notice.

6. If a fixed penalty notice is withdrawn— (a) a food authority must repay any amount which has been paid by way of penalty in pursuance

of the fixed penalty notice, and (b) no proceedings may be brought or continued against the person who received the notice for

the offence in question.

7. In any proceedings, a certificate which— (a) purports to be signed by or on behalf of the chief finance officer of a food authority, and (b) states that payment of a penalty was or was not received by a date specified in the certificate,

is evidence of the facts stated.

PART 2 FORM AND CONTENT OF FIXED PENALTY NOTICES

8. A fixed penalty notice must give particulars of the circumstance alleged to constitute the offence as are necessary to explain why an offence has occurred.

9. A fixed penalty notice must also state— (a) the name and address of the authority on whose behalf the authorised officer was acting when

the officer gave the notice; (b) the amount of the penalty and the period for paying the penalty; (c) the amount of the discounted penalty and the period for which the discount applies; (d) the consequences of not paying the penalty before the end of the penalty payment period; (e) the person to whom and the address at which the penalty or discounted penalty may be paid;

Page 12: 2016 Rhif 429 (Cy. 138) 2016 No. 429 (W. 138) BWYD, CYMRU …faolex.fao.org/docs/pdf/uk154276.pdf · 2016. 4. 11. · bwyd ddefnyddio’r derbyniadau y maent yn eu cael drwy hysbysiadau

(f) by what method payment may be made; (g) the person to whom and the address at which any representations relating to the notice may be

made.

10. A fixed penalty notice must also— (a) inform the person to whom it is given of his or her right to be tried for the alleged offence,

and (b) explain how that right may be exercised.

© Crown copyright 201

Printed and Published in the UK by The Stationery Office Limited under the authority and superintendence of Carol Tullo,Controller of Her Majesty’s Stationery Office and Queen’s Printer of Acts of Parliament.

6

£6.00

ONW2658/04/16