Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Y Gofalydd
Rhifyn 76 Gaeaf 2015
Cyfieithwyd i’r
Gymraeg gan
Angharad
Edwards
“Ydych chi’n
iawn?”
Y peth gwaethaf am fod yn gryf yw
bod neb yn gofyn i chi a ydych chi’n
iawn.
Rydym ni’n gofalu am y
gofalydd!
Yn cefnogi oedolion sy’n ofalwyr di-dâl ledled Ynys Môn, Conwy a Gwynedd
Mae’n Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr
Cenedlaethol ym mis Tachwedd
Mae Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yma i helpu gofalwyr di-dâl gydol y flwyddyn. Rydym am i ofalwyr: Wybod eu hawliau a’u hiawnderau Cael mynediad amserol i wasanaethau Teimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a bod
rhywun yn gwrando arnynt Teimlo’u bod yn cael cymorth a gwybodaeth I ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, rydym yn cynnal sesiynau gwybodaeth galw heibio ar Ddydd Gwener 27 Tachwedd mewn lleoliadau amrywiol a byddwn wrth ein bodd eich gweld chi yno. Os na fedrwch chi fynychu, cysylltwch â’ch swyddfa Cynnal Gofalwyr lleol i ofyn am Ganllaw Hawliau Gofalwyr am ddim neu ofyn am wybodaeth neu gymorth gyda’ch rôl gofalu. Gweler tudalen 5 am fanylion y digwyddiad agosaf atoch chi neu ffoniwch eich swyddfa Cynnal Gofalwyr lleol.
Y tu mewn i’r rhifyn hwn: Amserau agor dros y Nadolig; rhifau ffôn mewn argyfwng; stori gofalydd; consesiynau i ofalwyr; hawliau gofalwyr; hysbysfwrdd
Rhif Elusen Gofrestredig 1066262
gofyniad fod yn rhaid i ofalwyr ddarparu “swm sylweddol o ofal yn rheolaidd”. Ewch i www.carersuk.org/wales/policy am fwy o wybodaeth.
Adborth ar y Ddeddf
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 “Manylyn i’w nodi o’r Cylchlythyr diwethaf: rydych ond wedi dyfynnu rhan o’r diffiniad o Ofalydd o Ddeddf 2014 – y darn coll hollbwysig yw na all unrhyw un sy’n cael ei dalu fod yn Ofalydd – dyma’r union ddyfyniad: “Nid yw person yn ofalwr at ddibenion y Ddeddf hon os yw’r person yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal - (a) o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu (b) fel gwaith gwirfoddol.” Golyga hyn na fedr cyrff cyhoeddus alw staff cymorth awdurdod lleol, na staff cymorth asiantaeth na Chynorthwywyr Personol a gyflogir yn breifat yn ‘ofalwyr’ bellach. Wrth gwrs, medr unigolion ddefnyddio pa bynnag derm y dymunant ar gyfer eu gweithwyr cymorth eu hunain, ond bydd yna lawer llai o ddryswch os wnawn ni gadw’r gair ‘gofalydd’ ar gyfer teulu neu ffrindiau di-dâl.”
Vin West
“Rwy’n gweld bod y diffiniad o ofalydd yn newid. Rydych chi’n nodi na fydd y geiriau “sylweddol” nac “arwyddocaol” yn cael eu cynnwys bellach. Wedi darllen y geiriad newydd, rwy’n teimlo braidd yn anghysurus. Rwy’n credu bod y geiriau’n rhy hyblyg. Yn ffodus, nid yw fy anabledd mor ddrwg â hynny...ond pe bawn i mewn cyflwr anghenus, byddai’r geiriad hwn yn gwneud i mi feddwl pwy oedd yn gofalu amdanaf i a pha ddarpariaeth bendant fyddai ar gael, i mi.”
Gillian Baxter
Mae Gofalwyr Cymru’n croesawu’r diffiniad newydd o ofalydd yn y Ddeddf; “person sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl (heb gynnwys gofalwyr sy’n cael eu talu ac ati)”, sy’n dileu’r
Oriau agor dros y Nadolig Bydd swyddfeydd Cynnal Gofalwyr yn cau ar 23 Rhagfyr, 2015 ac yn ail-agor ar 4 Ionawr, 2016. Gweler isod rai rhifau ffôn a fedrai fod yn ddefnyddiol, yn arbennig dros y gwyliau.
Y tu allan i oriau
Gwasanaeth Meddygol y tu allan i oriau
0300 123 55 66
Llinell gymorth 24 awr y GIG 111 Rhadffôn Y Samariaid116123 Rhadffôn Cyswllt Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau 01766 771000 Gwynedd 01248 353551 Ynys Môn 01492 515777 Conwy
Cewch afael ar y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf yn www.cynnalgofalwyr.org.uk
Ym Mai 2014, derbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol a bydd yn dod i rym yn Ebrill 2016. Yn y cyfamser, mae’r ddeddfwriaeth gyfredol yn parhau, tra bod Llywodraeth Cymru’n paratoi’r Rheoliadau, y canllaw a’r Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf newydd.
Stori gofalydd
Dechreuodd fy mywyd fel gofalydd i’m gŵr
yn 2005, blwyddyn ar ôl i ni briodi.
Mae fy ngŵr wedi cael sawl gwahanol fath
o ganser, gan gynnwys canser y tafod,
ond roedd wedi bod heb ganser am dair
blynedd. Yna, bu’n rhaid iddo gael rhai o’i
ddannedd wedi’u tynnu am fod y
cemotherapi a radiotherapi cychwynnol
wedi asgwrneiddio esgyrn ei ên.
Felly, cychwynnwyd ar y dasg lafurus o
addasu ryseitiau fel y medrai fwyta ac
ymddwyn fel ‘cyfieithydd’ pan na allai pobl
ei ddeall.
Roeddwn wedi gweld posteri Gwasanaeth
Cynnal Gofalwyr yn fy meddygfa, ond nid
oeddwn wedi ystyried fy hun yn ofalydd.
Wedi’r cwbl, dim ond gwneud beth oedd
yn naturiol yr oeddwn i. Ond roeddwn i’n ei
chael hi’n anodd. Nid yn gorfforol gan fod
fy ngŵr yn gwbl hunangynhaliol. Y darn
anodd i mi fel ei unig ofalydd oedd gorfod
copïo ei fywyd i raddau, gan fy mod yn
gorfod bod yn gyfieithydd iddo bobman yr
euthum:- mewn apwyntiadau ysbyty a
meddyg, banciau a siopau, gyda ffrindiau
ac ati. Felly, sylweddolais fod angen i mi
gael cymorth gan ofalwyr eraill a gan
Gynnal Gofalwyr.
Cysylltais â Chynnal Gofalwyr yn 2007 a deuthum o hyd i lawer o ddynion a menywod caredig a doeth a oedd yn ofalwyr, ac mae nifer o’r rhain yn ffrindiau i mi bellach. Mae’r staff wedi bod o gymorth enfawr i mi pryd bynnag yr wyf wedi eisiau gwybodaeth neu angen fy rhoi ar y trywydd iawn.
Er enghraifft, gwnaethant drefnu i mi gael
Asesiad Gofalwr gan y Gwasanaethau
Cymdeithasol, sydd wedi hwyluso bywyd
i’r ddau ohonom.
Nawr, mae gennym ofalydd yn dod i
mewn bob dydd i helpu fy ngŵr gyda’i
brydau bwyd, ac mae gofalydd yn dod
i eistedd gydag ef bob pythefnos am
dair awr werthfawr fel y medraf fynd
allan.
Y fantais i’r ddau ohonom yw’r ffaith
nad oes angen i ni fod yn gaeth i’n
gilydd 24/7, sy’n medru bod mor
niweidiol i berthynas.
Mae Cynnal Gofalwyr wedi trefnu
llawer o weithdai defnyddiol lle
medrwn ddysgu unrhyw beth, o
bwysigrwydd trefnu Atwrneiaeth
Barhaus i Gymorth Cyntaf. Yn aml,
cyfunir y sesiynau hyn gyda choffi a
chinio yr wyf bob amser yn eu
mwynhau, ynghyd â chwmni gofalwyr
eraill.
Ac nid dim ond gweithdai a chyrsiau
Cymorth Cyntaf sydd ar gael. Rwyf
hefyd wedi bod ar ddyddiau allan
pleserus iawn.
Mae pob un ohonom yn gwybod mai
ychydig iawn o amser rhydd sydd gan
ofalwyr o ganlyniad uniongyrchol i’w
dyletswyddau gofalu, a medr gofalwyr
deimlo’n unig. Gyda Chynnal
Gofalwyr, mae yna bobl ar gael o hyd
i rannu problem ac ysgwyddo’r baich.
~ gofalydd o Gonwy
Mae gan bawb stori. Os wnaethoch chi fwynhau darllen y stori uchod, pam na rannwch chi’ch stori chi? Ffoniwch neu e-bostiwch Julie yn y swyddfa ym Mangor.
C: Mae fy nhad yn byw ar ei ben ei hun ac wedi bod yn annibynnol iawn erioed. Mae’n mynd yn fwyfwy bregus ac anghofus, ond yn gwrthod cyfaddef hynny – efallai am ei fod yn ofn cael ei roi ‘mewn cartref’. Dwi’m yn gwybod beth i’w wneud. Fedra i ddim eistedd nôl a gwneud dim ac mae ef yn gwrthod mynd at ei feddyg. A: Mae hyn yn broblem i lawer o ofalwyr di-dâl; mae yna gamau y medrwch chi eu cymryd a fedrai wella’r sefyllfa.
Medrwch wneud apwyntiad gyda meddyg eich tad i drafod eich pryderon.
Os oes yna broblemau cofio, medr y meddyg ei atgyfeirio i CPN (Nyrs Seiciatrig Cymunedol) a fedr drefnu i rywun o’r clinig cof ymweld â’ch tad i’w asesu.
Medrai atgyfeiriad i Therapydd Galwedigaethol ei gwneud hi’n bosibl i’ch tad gael offer Teleofal wedi’i osod, fel synhwyrydd nwy, synhwyrydd syrthio neu beth bynnag arall a welir fel risg.
Y diwrnodau hyn, rhoddir pwyslais ar alluogi pobl i fyw’n annibynnol os ydynt yn dymuno. Ceisiwch sicrhau eich tad fod gan y ddau ohonoch chi’r un nod, ond awgrymwch y medrai elwa o bosibl o gael gofalwyr cartref i ddod i’w weld – a byddai hyn hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i chi.
Siaradwch â’ch Swyddog Maes Cynnal Gofalwyr am eich pryderon; medr hi eich helpu gydag atgyfeiriadau a’ch cyfeirio at fudiadau eraill a fedrai helpu’ch sefyllfa; medrai hefyd drefnu i chi gael adolygiad budd-daliadau er mwyn sicrhau bod eich tad yn cael popeth sy’n ddyledus iddo.
Sut i gysylltu â ni
Anfonwch e-bost neu lythyr atom neu ffoniwch ni.
Oriau swyddfa arferol: Dydd Llun – Dydd Gwener 10 - 4
Nodwch ym mha sir rydych chi’n byw wrth anfon e-bost.
Swyddfa Bangor 01248 370797 Uned 6, Mentec, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2UP
Swyddfa Penrhyndeudraeth 01766 772956 Llys Deudraeth, Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth, LL48 6BL
Swyddfa Llangefni 01248 722828 Neuadd y Dref, Llangefni LL77 7LR
Swyddfa Bae Colwyn 01492 533714 Swyddfeydd Islawr y Metropole, Ffordd Penrhyn, Bae Colwyn LL29 8LG
www.cynnalgofalwyr.org.uk
Cysylltwch â ni gydag unrhyw broblem ofalu sydd gennych. Medrwch ofyn cwestiynau neu fwrw’ch baich am eich rôl gofalu; medrwch ofyn am ymweliad gan swyddog maes i drafod datrysiadau, i wneud cynllun at argyfwng neu i drafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol ac am ddim.
Slot Atebion
Dewch i ddigwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr
Dewch i weld y stondinau gwybodaeth i gael gwybod am eich hawliau fel gofalydd; a/neu siaradwch â’n staff am eich rôl gofalu. Ynys Môn: Dydd Gwener 27 Tachwedd, Neuadd y Dref, Llangefni, rhwng 10.00 -12.00
Gwynedd: Dydd Gwener 27 Tachwedd, Uned 6, Mentec Bangor, rhwng 2.00 - 4.00
Conwy: Dydd Gwener 27 Tachwedd, Pwynt Gwybodaeth Gofalwyr, Canolfan Siopa Bay View, Bae Colwyn, rhwng 10.00 - 2.00
Ydych chi’n cael popeth sy’n ddyledus i chi?
A ydych chi’n gwybod eich hawliau fel gofalydd?
Fel gofalydd mae gennych chi’r hawl i:
Gael amser i ffwrdd o ofalu er mwyn gofalu am iechyd a lles eich hun
Cael gwybod am fudd-daliadau fel y Lwfans Gofalwr a gostyngiad yn y dreth gyngor
Cael gwybodaeth am hawlio grantiau ar gyfer eitemau hanfodol
Siarad â staff iechyd am anghenion gofal iechyd y sawl sy’n dibynnu arnoch
Cael asesiad gofalwr gan y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn edrych ar eich anghenion fel gofalydd
Cael gwybodaeth am gymhorthion ac addasiadau defnyddiol i’r cartref, fel Teleofal a chymhorthion symud
Cael gwybodaeth am wasanaethau seibiant fel gofal dydd a gwasanaethau eistedd gyda phobl
Ofyn i’ch cyflogwr am weithio’n hyblyg
“Ydych chi’n iawn?” Rydym yn ceisio cysylltu â chi o leiaf unwaith y flwyddyn i weld sut ydych chi: Yw eich rôl gofalu wedi newid? Ydych chi eisiau mwy o gymorth? Peidiwch â bod yn swil – os ydych chi eisiau siarad â ni, ffoniwch eich swyddfa leol neu anfonwch e-bost.
Mae ein manylion cyswllt ar dudalen 4
Consesiynau i ofalwyr Mae’r cerdyn CEA (Cerdyn Arddangoswyr Sinema) yn caniatáu i bobl anabl gael tocyn am ddim i rywun fynd gyda nhw i’r sinema. Mae Cineworld yng Nghyffordd Llandudno’n rhan o’r cynllun hwn. www.ceacard.co.uk
Mae Cerdyn Mynediad Hynt yn darparu mynediad i theatrau a chanolfannau celf ledled Cymru ac yn caniatáu i ofalwyr neu gymdeithion gael tocyn am ddim pan fyddant yn mynd gyda rhywun ag anabledd. Mae Venue Cymru’n rhan o’r cynllun hwn. www.hynt.co.uk
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ‘gerdyn Mynediad i Bawb Derbyn Un’ sy’n caniatáu i bobl ddod â gofalydd neu gydymaith gyda nhw am ddim. www.nationaltrust.org.uk
Mae Sw Mynydd Bae Colwyn yn cynnig mynediad am ddim i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ond rhaid i’w gofalwyr dalu. Mae gofalwyr yn cael mynediad am ddim yn Sw Caer pan fyddan nhw’n mynd gyda rhywun ag anabledd. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’r anabledd, fel llythyr dyfarnu PIP neu eich bathodyn glas.
Mae’n werth ffonio ymlaen llaw i ofyn am gonsesiynau. Cysylltwch â’r lleoliadau unigol am fwy o wybodaeth.
Hysbysfwrdd
Hyd y gwyddom, roedd y wybodaeth a geir yn y cylchlythyr hwn yn gywir pan gafodd ei argraffu. Ni all Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr fod yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau, esgeulustod nac ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan fudiadau eraill, ac ni fedrwn argymell unrhyw gynnyrch na gwasanaeth.
Adnodd ar-lein newydd yw www.dewis.wales lle cewch afael ar wybodaeth gynhwysfawr am fudiadau, gwasanaethau, grwpiau, clybiau, cyfarfodydd a digwyddiadau sy’n cefnogi lles pobl. Bydd Dewis ar gael ledled Gogledd Cymru yn ystod hydref 2015, a bydd ar gael ledled Cymru yn 2016.
Ydych chi neu’r sawl rydych chi’n gofalu amdano’n dioddef o fyddardod?
Mae Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru’n cynnig:
Cymorth cyfathrebu
Offer yn y cartref
Dosbarthiadau L.I.P.S
Cyngor a Chefnogaeth
Dosbarthiadau Iaith Arwyddion Brydeinig
Ymwybyddiaeth o Fyddardod/Nam ar y Synhwyrau
Mynediad i wasanaethau iechyd
01492 530013 Minicom 01492 524983 Ffacs 01492 532615 SMS 07719 410355
Cyswllt brys i ddefnyddwyr iPhone Oeddech chi’n gwybod y medrwch chi osod rhywbeth o’r enw “Medical ID” ar eich iPhone? Medrwch ddefnyddio hwn hyd yn oed pan fydd y ffôn wedi’i gloi trwy glicio ar yr opsiynau brys a gellir gweld pethau fel eich enw, dyddiad geni, cysylltiadau mewn argyfwng, cyflyrau meddygol a hyd yn oed eich grŵp gwaed! Gellir ei reoli trwy glicio ar yr ap “Iechyd” bach sy’n dod yn ddiofyn ar y ffôn.
Mae gan ofalwyr di-dâl yr hawl i gael brechiad ffliw am ddim. Gofynnwch i’ch meddyg neu fferyllydd lleol am fanylion.
Y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer Corfforol Cyflwynwyd y cynllun i helpu oedolion anweithredol sydd naill ai mewn perygl o fod yn wael eu hiechyd neu sydd â chyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes. Y nod yw hyrwyddo gweithgarwch corfforol hirdymor a gwella iechyd a lles.
Mae’r cynllun yn darparu amrywiaeth eang o opsiynau ymarfer corff, y gellir eu teilwra i ddiwallu anghenion a galluoedd pob unigolyn, gan gynnwys grwpiau cerdded ‘nordic’, dosbarthiadau ymarfer corff mewn dŵr a dosbarthiadau beicio dan do, ymhlith pethau eraill.
Bydd angen i’ch meddyg neu nyrs feddygfa eich atgyfeirio i’r cynllun. Medrwch fynd i wefan eich Awdurdod Lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal.
www.gwynedd.gov.uk www.conwy.gov.uk www.ynysmon.gov.uk