Master page front...Methania ar ôl yr ymdaith i Jerwsalem yn procio nychymyg i. Dwi’n sifir fod...

Preview:

Citation preview

Mae sawl pryd bwyd arbennig yn aros ynfy nghof ar ôl ein taith i’r Philipinas.Rhai ohonynt oherwydd y bwyd agawsom, eraill oherwydd y cwmni.

Mae’r un peth yn wir am hanesioncyfnod y Grawys. Sawl pryd bwyd sy’ndod i’r meddwl? Mae’r pryd o fwyd ymMethania ar ôl yr ymdaith i Jerwsalem ynprocio nychymyg i. Dwi’n sifir fod ydisgyblion wedi chwerthin wrth feddwlam yr olwg oedd ar wynebau rhai o’rysgrifenyddion o weld Iesu ar gefn yrebol asyn! Emosiwn gwahanol a dagrauyn y swper arall yn nhª Seimon yGwahanglwyfus gyda’r wraig aeneiniodd draed Iesu. Ac, wrth gwrs, ySwper Olaf.

Roedd cyd-fwyta’n brofiad arbennig iawni ni yn y Philipinas. Cawsom ein tywysam y pythefnos gan Arvin Chua, aelod ostaff Cymorth Cristnogol. Roedd Arvin ynhynod o hoff o fwyta ac o siarad amfwyd. Roedd yn byrlymu yn ei awydd isicrhau ein bod yn cael cyfle a phrofiad oflasu bwydydd gwahanol y Philipinas. Wni ddim sawl mango gawsom ni ganddo.Roedd yn falch iawn o gael brolio maimangos ynys Cebu yw’r gorau yn y byd igyd – ac mae’n rhaid cyfaddef eu bod ynwell nag unrhyw rai ges i erioed ynunrhyw le arall. Byddai Arvin wedi dewisnifer o blatiau gwahanol o’r fwydlen arein cyfer cyn i ni gael cyfle i leisio barn.Ond gawsom ni mo’n siomi o gwbl wrthgyd-fwyta a mwynhau sawl platiad hynodo ddiddorol a blasus.

Cawsom y fraint ar ynys Mindanao ogael cyd-fwyta gydag aelodau o staffSPI-UFS – partner rhyng-ffydd CymorthCristnogol sy’n meithrin gwelldealltwriaeth rhwng Cristnogion aMwslemiaid. Roedd hi’n gyfnodRamadan, mis ymprydio’r Mwslemiaid traroeddem yno. Ar noson gyntaf ynPagadian daeth aelodau staff UFS atom i

dorri’r ympryd. Roedd hyn yn fraint fawr ini. Mae torri’r ympryd yn bryd bwyd i’rteulu a’r gymuned. Ond daeth Swltan,Saida a Leila i’n cyfarfod ni yn y gwesty igyd fwyta’r wledd ar ôl i’r haul fachlud.

Amser brecwast yn Irosin yw’r profiadarall sy’n aros yn fyw yn y cof – wrthrannu pysgod sych (hynod o esgyrnog!!),reis ac fiy i frecwast roedd y tair ohonomyn rhannu’r profiad o gael ein deffro gandaran fawr yn oriau mân y bore.Roeddem wedi mynd i gysgu yngnghysgod Mynydd Bulusan – mynyddoedd wedi ‘byrpio’ y diwrnod cynt (yn ôldisgrifiad ffermwyr Irosin). Roeddemwedi gweld y mwg yn codi o ystlys yllosgfynydd a’r tair ohonom wedi mynd igysgu efo’r profiad hwnnw yn einhisymwybod. Pan gleciodd y daran, einhymateb ni oedd meddwl mai’rllosgfynydd oedd wedi ffrwydro!

Yn amlach na pheidio nid ydym ynymwybodol o’r ofnau cudd sy’n llechuynom nes i’r daran ein deffro.

Arglwydd da, wynebaist ti ofna dychryn y daith olaf igyfeiriad Jerwsalem a’r groesyng nghwmni dy ddisgyblion athyrfaoedd nad oeddent wedideall nac ymwybodol a’r hyn

oedd ar ddigwydd. Bydd yn agos at bawbsy’n byw mewn ofn y dyddiau hyn.Ymgeledda hwy yn y cariad perffaith sy’nbwrw allan ofn. Amen.

Anna Jane Evans

• I ble nesaf? … t. 2 • Hysbyseb swydd… t. 7 • P & P … t. 8 •

yGOLEUADCYFROL CXLV RHIF 13 DYDD GWENER, MAWRTH 31, 2017 Pris 50c

EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

Myfyrdod Corwynt Cariady Grawys

Cynhaliwyd oedfa i nodi ymddeoliad yParch Jim Clarke ar Chwefror 28ain2017 yn Eglwys Unedig Rhos y GadLlanfairpwll o dan lywyddiaeth T JohnEdwards, Llywydd yr Henaduriaeth.Roedd y trefniadau yng ngofaleglwysi’r Ofalaeth Fro, sef EglwysUnedig Rhos y Gad ac Ebeneser (A),Llanfairpwll a Disgwylfa Unedig,Gaerwen.Agorwyd y gwasanaeth yn effeithiol

gan gôr merched Rhos y Gad danarweiniad Mrs Mair Carrington Roberts

gyda gweddi yn dilyn gan y ParchR O Jones. Cafwyd darlleniadau o’rysgrythur gan Lois AngharadWilliams a Llifon Jones gyda’r ParchMegan Williams yn gweddïo dros yreglwysi.Cyflwynwyd datganiad gan Jane

Richards ysgrifennydd yr Henaduriaethfod dymuniad y Gweinidog i ymddeolyn gynnar mewn trefn ac wedi eigadarnhau gan y Cyfundeb. I ddilyncafwyd anerchiad bwrpasol gan DerecOwen un o ddiaconiaid yr ofalaeth

ynghyd ag anerchiadau yn mynegidiolchgarwch a dymuniadau gorau i’rParch Jim Clarke gan y Parch GeraintRoberts a’r Parch Elwyn Jones.Yn dilyn datganiad gan lywydd yr

Henaduriaeth yn rhyddhau’r Parch JimClarke o’r alwad i fod yn Weinidog Broar yr ofalaeth gweddïwyd drosto gan yParch Ieuan Lloyd.Cafodd y Parch Jim Clarke gyfle

wedyn i fynegi ei werthfawrogiad ogefnogaeth yr ofalaeth dros y

Oedfa Ymddeoliad Y Parch Jim Clarke

(parhad ar dudalen 2)

Cawsom fel enwad ein siâr o ailstrwythuro – ein ‘symud mlaen’. Ond arwaethaf pob ymdrech i symud mlaen ygwir yw nad ydym hyd yn oed wedillwyddo i aros yn ein hunfan. Dim ondrhyw lithro ‘nôl, colli nerth a cholli tir.Mae’r llanw’n rhy gryf i’n herbyn,meddwn. Ac mae amheuon difrifol ganlawer ohonom am ba hyd y gall EglwysBresbyteraidd Cymru oroesi. Tybed bethfydd ei chyflwr yn 2030 er enghraifft?

Ac yna daeth y llais o’r Hen Ogledd, ynNarlithoedd Chalmers 2017 gan ParchDdr Doug Gay. A chanfuwydbod eglwysi sy’n rhannucyfundrefn nid annhebyg i ni,sy’n fwy na ni, yn gyfoethocacha mwy niferus na ni ynymgodymu gyda chwestiynautebyg i’r heriau sy’n einhwynebu ni.

Ac nid ffolineb ar ein rhan wrthglywed yr un cwestiynau’n caeleu trafod gan eraill ywclustfeinio ar sgwrs pobl eraill achlywed rhai atebion agynigiwyd gan bobl wahanolond sydd â chydymdeimlad a’nsefyllfa ni!

Dywedodd Dr Gay bod yn rhaidi ni atgoffa’n hunain bod yr Eglwysynddi’i hun yn fynegiant o missio dei- ogenhadaeth Duw i’r byd. Cafodd yreglwys ei galw gan Dduw cyn iddi gaelei galw i fod yn rhan o’i genhadaeth i’rbyd. Mae’r eglwys yn sefyll gerbron ybyd nid i amddiffyn ei statws neu eisafle ei hun. Saif gerbron y byd igyflwyno Iesu Grist a’i ddysgeidiaeth.Iesu Grist yw canolbwynt galwad Duw

a’i waith i gymodi’r byd ag ef ei hun.Dyma’r neges a’r weinidogaeth agawsom gan Dduw ei Hun. Ac y mae’rYsbryd Glân yn nerthu ei bobl yn eucenhadaeth. Crea’r fath negesgymdeithas arbennig sy’n cydnabod acsy’n cyhoeddi a thystio bod Iesu Gristyn Arglwydd, yn Waredwr, yn gyfaill.

Fel y dywedodd Bill Hybels, o eglwysenwog Willow Creek, nid oes gan yrArglwydd gynllun arall na chyfrwng arallar gyfer dwyn gwaredigaeth i’r byd. Nidoes ‘plan B’ gan yr Arglwydd Dduw.

Felly wrth wynebu dyfodol bregus,meddai Dr Gay, sylweddolwn bod angenam ‘ddiwygio’ (reformation ac adfywiad).Ond nid oes yna lyfrau sydd wedi euhysgrifennu, hyd yn hyn, am eglwysBresbyteraidd sydd wedi llwyddo i’wdiwygio’i hun yn llwyddiannus.

Er mwyn gweld eglwys sy’n bodoli erbyn2030 mae’n rhaid wynebupenderfyniadau anodd heddiw, meddai.

Bydd rhaid

• dewis cau capeli na ellir eu cynnalmwyach

• rheoli cynulleidfaoedd sy’n dirywio• canfod ffyrdd o alluogi eglwysi sy’ngwanhau ar hyn o bryd i dyfu i’rdyfodol

• cynnal cynulleidfaoedd sy’n tyfu • plannu cynulleidfaoedd newydd obosib yn rhai o’r mannau yr ydym arhyn o bryd yn gorfod eu cau.

Er mwyn i hyn ddigwydd bydd angennewidiadau strwythurolpellgyrhaeddol. Nid oes moddgwybod o flaen llaw trwyarbrawf wyddonol ‘beth sy’ngweithio’. Mae’n fater oweledigaeth, yn ddewis, ynfater o farn ac obenderfyniad.

Ond wedi dweud hynny, maehyn yn wir am fywyd yn eigyfanrwydd!

Tybed sut ydych chi’n ymatebi ddadansoddiad neuawgrymiadau o’r fath?Ydych chi’n cytuno gyda’rweledigaeth? Os yw eiawgrymiadau’n cynnig ffordd

ymlaen ydyn nhw’n gofyn gormodgennym? Neu a oes yna ffyrddamgenach o sicrhau tystiolaeth EglwysBresbyteraidd Cymru i’r dyfodol? Bethfyddai ymateb aelodau’n capeli i heriauo’r fath? Sut fath o enwad fydd EglwysBresbyteraidd Cymru yn 2030?

Gadewch i Daro’r Post wybod eich barna’ch ymateb.

Gol.

2 Y Goleuad Mawrth 31, 2017

I ble nesaf? Yn yr Alban (a Chymru?)

Tair elfen cenhadaeth Duw. Darlun o wefan missiodei.co

15 mlynedd diwethaf cyn i gôr yr eglwys gyflwyno datganiadhyfryd o ‘Arwain Fi’ gan S Wesley.Daethpwyd â’r gwasanaeth i ben trwy gyd-ganu, ‘O nefol

addfwyn oen,’ cyn i bawb fwynhau cymdeithasu â’i gilydddros baned yn y festri. Diweddglo dymunol i noson fendithioliawn.

John Lewis Edwards, Llywydd yr Ofalaeth

O’r chwith i’r dde: Mr T John Edwards (Llywydd yrHenaduriaeth), Mr John Lewis Edwards (Llywydd yr Ofalaeth),

Mrs Mair Carrington Roberts, Miss Lois Angharad Williams,Y Parch Jim Clarke, Y Parch R O Jones, Y Parch Ieuan Lloyd,Miss Jane Richards (Ysgrifennydd yr Henaduriaeth), Mr Derec

Owen, Y Parch Megan Williams, Mr Llifon Jones a’rParch Elwyn Jones.

Oedfa Ymddeoliad Y Parch Jim Clarke (parhad o dudalen 1)

Recommended