Download ppt - DPP CBAC 2012

Transcript

DPP CBAC 2012

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012

HY1: Ateb y cwestiwn gosodHY3: Defnydd o’r rhyngrwydHY3: Cyfannu AA2a ac AA2bHY3: Cyfyngu geiriauHY4: Materion ysgrifennu traethodau

Arweiniad ar HY3 ar gyfer 2014

DPP CBAC 2012

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012

Mae Hanes, er gwaethaf pob dim a ddigwyddodd rhwng 2012 a 2013, yn dal yn fyw ac yn ffynnu yn y Canolfannau a gwnaed llawer o waith da gan y lliaws o ymgeiswyr, a rhai perfformiadau gwirioneddol eithriadol gan nifer o fyfyrwyr talentog.

Mae’r rhan hon yn darparu adborth cryno ynghylch rhai o’r materion sy’n codi o arholiadau 2012.

Roedd y materion hyn yn ddibwys o gymharu â’r ymatebion da ac o ansawdd uchel a welwyd o’r canolfannau. Rydym yn tynnu sylw at y rhain dim ond am ein bod yn teimlo bod lle i wella ymhellach neu er mwyn egluro rhai materion sydd efallai’n aneglur.

DPP CBAC 2012

MATERION O ARHOLIADAU 2012

Gellir dod o hyd i nifer o’r materion hyn ynghyd â chyngor cyffredinol ar sut i wella ar wefan CBAC mewn cyfres o gyflwyniadau sain. Ni fyddwn felly yn mynd dros y meysydd cyffredinol heddiw. Mae’r rhain

ar gael ar http://www.cbac.co.uk/

DPP CBAC 2012

MATERION O ARHOLIADAU 2012 – cefnogaeth gwe ar at www.cbac.co.uk

DPP CBAC 2012

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012HY1 – Ateb y Cwestiwn Gosod

Gormod o ymgeiswyr yn methu ateb y cwestiwn gosod.

Maen nhw’n canolbwyntio ar y PWNC a ddysgwyd iddyn nhw yn hytrach nag ar y sgiliau allweddol a’r geiriau allweddol.

Y sgiliau allweddol yw Rhan (a) esbonio PAM Rhan (b) gwerthuso pwysigrwydd/arwyddocâd nifer o ffactorau

Mae’r geiriau allweddol yn y cwestiwn – er enghraifft

1. Gwleidyddiaeth, llywodraeth a’r Goron, c.1483-1543 (a) Eglurwch pam collodd Richard III Frwydr Bosworth. [24](b) I ba raddau y gellir dweud mai iwygiadau Thomas Cromwell oedd y

datblygiad mwyaf arwyddocaol mewn llywodraeth rhwng 1483-1540? [36]

Byddwn yn gwneud y rhain yn amlycach o Haf 2013 trwy amlygu’r geiriau allweddol mewn llythrennau BRAS ond mae angen i chi ganolbwyntio ar ddysgu’r sgiliau allweddol.

DPP CBAC 2012

MATERION O ARHOLIADAU 2012

HY2 – mae’r uned hon yn parhau i godi’r un materion ag arfer sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad ar y we

Bydd y sesiwn wedi’r toriad am goffi yn delio â’r arholiad HY2 sydd wedi’i ddiwygio.

DPP CBAC 2012

Defnyddio’r WeNi welwn ddim o’i le ar ddefnyddio’r we i ymchwilio a chasglu deunydd gan gynnwys ffynonellau.

Ond rydym yn gweld llawer gormod o “gopïo a gludo” darnau am y digwyddiadau – nad ydyn nhw’n werth chweil – a gormod o gopïo a gludo darnau am faterion hanesyddiaeth. Rydym yn ymwybodol bod rhai safleoedd yn cael eu defnyddio’n gyson ond nid yw copïo a gludo’n ddigon. Nid yw hynny’n ddigonol ar gyfer yr ymarferiad hwn a does dim i’w ennill o gopïo a gludo’r manylion hyn ER bod llawer i’w ennill trwy gasglu’r deunydd a’i ddefnyddio’n synhwyrol yn y traethawd.

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012

HY3 – Yn yr uned hon mae gennym bryderon cyffredinol ac rydym am roi arweiniad ar ddau fater.

Mae’n rhaid bod yna fwy i ymarferion gwaith cwrs hanes na llwytho i lawr oddi ar Wikipedia!

DPP CBAC 2012

CYFANNU GWERTHUSO FFYNHONNELL a DEHONGLI / HANESYDDIAETH

I gyflawni Lefel 4 dylai’r ymgeisydd ystyried gwerth y ffynhonnell a DDEWISWYD i ddilysrwydd y dehongliad ac i’r ysgol o hanes neu hanesydd y maen nhw’n ei drafod.

Y cyfannu hwn o werthuso ffynhonnell, dehongli a hanesyddiaeth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â HY3 ac roedd nifer o ymgeiswyr abl yn gallu gwneud hynny i sicrhau marciau Lefel 4. Dylai’r pwyslais yn y traethawd fod ar ddefnyddio’r ffynonellau i drafod y dehongliad a’r hanesyddiaeth sy’n ymwneud â’r cwestiwn gosod. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o ddatblygiad hanesyddiaeth a’r pwys y byddai haneswyr penodol / ysgol o haneswyr yn ei roi ar RAI o’r ffynonellau penodol a ddewiswyd ar gyfer y traethawd.

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3

DPP CBAC 2012

CYFYNGU GEIRIAUEr bod y mwyafrif llethol o ymgeiswyr a chanolfannau wedi cadw at y cyfyngiad geiriau ni ddigwyddodd hyn mewn rhai achosion ac roedd rhaid cosbi. Rydym wedi dweud mai 4000 o eiriau yw’r cyfyngiad a byddwn yn parhau i gosbi pan gaiff ei anwybyddu.

Dylai canolfannau sicrhau y dylai ymgeiswyr sy’n anwybyddu’r cyfyngiad geiriau o 1 – 500 o eiriau golli 2 farc.501 – 750 o eiriau golli 4 marc.mwy na 750 o eiriau golli 8 marc.

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3

DPP CBAC 2012

Gellir dod o hyd i enghraifft o’r math o draethawd yn HY3 sy’n haeddu marciau uchel ar Lefel 4 ar wefan CBAC. Mae’r gefnogaeth ar y we hefyd yn cynnig enghreifftiau o sgriptiau yn HY1 hyd HY4 yn yr adran Nodiadau Arweiniad Athrawon.

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012 – HY3

MATERION YN CODI O ARHOLIADAU 2012

HY4 – yn yr uned hon rydym yn parhau i weld gormod o ymgeiswyr sy’n

Methu dadansoddi gofynion y cwestiwn gosod: rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar y geiriau allweddol yn y cwestiwn.

Ysgrifennu dau hanner traethawd – yr ie oedd a’r na nag oedd dros ac yn erbyn fel ateb

Dibynnu’n helaeth ar ymateb wedi’i baratoi.

Methu strwythuro’r traethawd yn briodol.

Dealltwriaeth o’r materion yn brin ac yn troi at UCN.

Trafodir y materion hyn yn fanwl ar y wefan.

Bydd angen cyflwyniad wedi’i ddiwygio ar gyfer HY3 i’w ddefnyddio yn 2014 (y garfan yn dechrau yn 2012) a rhaid ei seilio ar y ffurflen gynnig sydd ar gael ar wefan CBAC. Bydd hwn yn cynnwys cynllun marcio ar ffurf newydd.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno i gael sel bendith yw 30ain o Dachwedd 2013 – ymhen ychydig dros flwyddyn i nawr.

Bydd angen cwestiwn newydd wedi’i seilio’n AMLWG ar ddehongliad gan hanesydd ac y bydd yn bosibl ei herian gan o leiaf un hanesydd arall yn arddel safbwynt gwahanol neu wrthgyferbyniol i’r dehongliad.

Bydd y cwestiwn newydd yn gweithio orau pan fydd yna ddatblygiad eglur yn y drafodaeth hanesyddiaeth – e.e. adeileddwr / bwriaduswr neu Farcsydd / Adolygiadwr.

Bydd angen pecyn dogfennau i gyd-fynd â phob cwestiwn. Gallwch barhau i ddefnyddio’r pecyn sy wedi’i gymeradwyo os yw’n bodloni’r

meini prawf isod ac yn glos gysylltiedig â’r cwestiwn newydd.

 

ARWEINIAD AR HY3 AR GYFER 2014

Dylai pob pecyn gynnwys lleiafswm o wyth ffynhonnell a mwyafswm o ddeg ffynhonnell

Dylai pob pecyn gynnwys amrywiaeth o fathau gwahanol o ffynonellau.

Gwneud yn siŵr fod y ffynonellau a ddefnyddir yn y pecyn wedi’u priodoli’n fanwl i gynorthwyo gwerthuso’r ffynhonnell.

Dylai pob pecyn gynnwys o leiaf dwy ffynhonnell yn trafod y dehongliad penodol fydd yn cael ei astudio. Gan amlaf byddai’r rhain yn ddau hanesydd yn arddel safbwyntiau gwahanol neu wrthgyferbyniol o’r dehongliad.

Peidiwch â defnyddio MAPIAU fel ffynonellau. Gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith dosbarth.

Peidiwch â defnyddio mwy nag un fideo fel ffynhonnell yn y pecyn dogfennau. Gellir defnyddio’r rhain yn y dosbarth.

Peidiwch â defnyddio mwy nag un dudalen o A4 ar gyfer unrhyw ffynhonnell

Peidiwch â defnyddio mwy nag un ffynhonnell o lyfr/awdur penodol. Bydd angen amrywiaeth.

CRYNODEB O’R MEINI PRAWF AR GYFER PECYN DOGFENNAU 2014