Upload
others
View
3
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.
ACHREDWYD GAN LYWODRAETH CYMRU
TGAU CBAC
LLENYDDIAETH GYMRAEG
MANYLEB
Addysgu o 2015 I’w ddyfarnu o 2017
Fersiwn 2 Ionawr 2019
TGAU
WJEC CBAC Cyf.
CRYNODEB O NEWIDIADAU
Fersiwn Disgrifiad Rhif y dudalen
2
Mân newidiadau i weithiau gosod Uned 2, i’w hasesu o haf 2021.
7
Newidiwyd yr adran ‘Cofrestru’ i egluro’r rheolau ailsefyll, y trosglwyddo marciau asesu diarholiad a’r rheol derfynol.
18
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 1
WJEC CBAC Cyf.
Mae’r fanyleb hon yn bodloni’r Egwyddorion Cymhwyster TGAU sy’n pennu gofynion yr holl fanylebau TGAU newydd neu ddiwygiedig a ddatblygwyd i’w haddysgu yng Nghymru o fis Medi 2015.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 2
© WJEC CBAC Ltd.
¼
Barddoniaeth Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr werthfawrogi a chymharu un o’r cerddi gosod â cherdd nas astudiwyd o’r blaen.
¼
Nofel Cwestiynau wedi’u strwythuro ar y testunau gosod
Llunyddiaeth Caiff yr ymgeiswyr eu harholi mewn grwpiau o dri ar destun llunyddol.
Caiff yr ymgeiswyr eu hasesu ar ddwy dasg: Tasg1 Straeon byrion – gwerthfawrogi rhyddiaith Tasg 2 Drama – dehongli testun yn greadigol
CYFLEOEDD ASESU
Ionawr 2017 a phob blwyddyn
wedi hynny
Mehefin 2017 a phob blwyddyn
wedi hynny
Uned 1
Uned 2
Uned 3
Uned 4
Rhif Cymhwyster ar restr The Register: 601/4914/0
Rhif Cymeradwyo Cymwysterau Cymru ar restr QiW: C00/0720/9
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 3
WJEC CBAC Cyf.
Mae’r fanyleb hon yn annog ymgeiswyr i fwynhau darllen yn eang. Hyrwyddir ymateb personol hyddysg i amrywiaeth o destunau yn ogystal â rhoi cyfle i astudio darnau penodol o lenyddiaeth a deunyddiau amlgyfrwng cyfoes yn fanwl gan ennyn gwerthfawrogiad o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru. Wrth ddatblygu’r fanyleb hon, mae CBAC wedi cadw’r nodweddion canlynol mewn cof:
meithrin yn yr ymgeiswyr agweddau cadarnhaol at yr iaith Gymraeg gan feithrin gwerthfawrogiad o’r Gymraeg a hyrwyddo defnydd effeithiol ohoni
datblygu diddordeb a brwdfrydedd ymgeiswyr yn y Gymraeg a’u harfogi i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog
cyfleoedd ar gyfer dulliau addysgu hyblyg
cwestiynau a thasgau wedi eu cynllunio i alluogi ymgeiswyr i arddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’r hyn maent yn gallu ei wneud
geirio cwestiynau yn glir ac uniongyrchol
hygyrchedd y deunyddiau
cyfleoedd ar gyfer astudiaeth eang ynghyd â gwybodaeth pwnc benodol
defnyddio deunydd nas astudiwyd o’r blaen i’w ddadansoddi mewn asesiad allanol
canolbwyntio’r asesu ar sgiliau iaith penodol
cyfleoedd i gynhyrchu ysgrifennu estynedig
deunyddiau ac arholiadau o safon Mae i’r cymhwyster hwn dair uned asesiad allanol sydd wedi’u pwysoli’n gyfartal ac un uned asesiad diarholiad. Asesir dwy uned allanol yn ysgrifenedig ac un uned allanol drwy arholiad llafar. Mae’r uned asesiad diarholiad yn cynnwys tasgau ysgrifenedig. Wrth gynllunio’r fanyleb hon, mae ystyriaeth ofalus i hyd amser arholiadau a’r nifer o gwestiynau wedi sicrhau cydbwysedd rhwng asesiad cadarn ac ymarferoldeb. Bydd mathau amrywiol o gwestiynau a chyfarwyddiadau clir yn anelu at wneud yr asesiad haenol hwn yn hygyrch i ddysgwyr o bob gallu. Nod allweddol y fanyleb hon yw annog ymgeiswyr i gynhyrchu atebion o safon wrth ymateb yn ysgrifenedig. Er mwyn cynorthwyo dysgwyr i gyflawni hyn, bydd deunyddiau asesu CBAC yn sicrhau bod gwaith ysgrifenedig o safon yn cael ei astudio a all fod yn fuddiol fel patrwm i ddysgwyr wrth iddynt ysgrifennu. Dylid darllen y fanyleb hon ar y cyd â’r dogfennau CGC ar drefniadau mynediad ac ystyriaethau arbennig ac ar gynnal arholiadau. Yn ychwanegol, mae dogfen CGC o’r enw Canllawiau cynnal asesiadau dan reolaeth (cymwysterau TGAU) yn darparu cyngor a chanllawiau ar gyfer asesiadau diarholiad.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 4
© WJEC CBAC Ltd.
Dylai'r fanyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg annog dysgwyr i gael eu hysbrydoli, eu cyffroi a'u newid drwy ddilyn cwrs astudio eang, cydlynol, boddhaus a gwerth chweil. Dylai ehangu diddordeb dysgwyr mewn llenyddiaeth a'u brwdfrydedd tuag ati wrth iddynt feithrin dealltwriaeth o'r ffyrdd y mae llenyddiaeth yn gyfoethog ac yn ddylanwadol. Dylai baratoi dysgwyr i wneud penderfyniadau hyddysg am gyfleoedd dysgu a dewisiadau gyrfa yn y dyfodol. At hynny, dylai TGAU Llenyddiaeth Gymraeg helpu i feithrin diddordeb a brwdfrydedd dysgwyr tuag at yr iaith Gymraeg a pharatoi dysgwyr i gyfrannu at gymdeithas ddwyieithog.
Dylai TGAU mewn Llenyddiaeth Gymraeg baratoi dysgwyr i feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau perthnasol sydd eu hangen i astudio Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 5.
Mae'n rhaid i fanyleb TGAU mewn Llenyddiaeth Gymraeg alluogi dysgwyr i wneud y canlynol:
deall bod testunau wedi bod yn ddylanwadol ac yn arwyddocaol dros amser ac ystyried eu hystyr yn yr oes sydd ohoni
ystyried sut y gall testunau adlewyrchu gwerthoedd, rhagdybiaethau ac ymdeimlad o hunaniaeth neu ddylanwadu arnynt
cysylltu syniadau, themâu a materion, gan ddefnyddio amrywiaeth o destunau
dod yn ddarllenwyr beirniadol rhyddiaith ffuglennol, barddoniaeth a drama/llenyddiaeth fel ffilmiau
profi gwahanol gyfnodau, diwylliannau, safbwyntiau a sefyllfaoedd fel y'u ceir o fewn testunau llenyddol
ymateb i themâu, plotiau, cymeriadaeth, deialog, cefndir a'r ffordd y cânt eu cyflwyno drwy gyfrwng llenyddiaeth weledol yn ogystal ag ar ffurf ysgrifenedig.
Er nad oes anghenion penodol parthed dysgu blaenorol, mae’r fanyleb hon yn
adeiladu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a feithrinwyd yng Nghyfnod Allweddol 3.
Bydd yr arholiad hwn, ynghyd â TGAU Cymraeg Iaith, yn sail gadarn i’r ymgeiswyr hynny sydd yn dymuno parhau â’u hastudiaethau yn y Gymraeg trwy ddilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.
Gellir astudio’r fanyleb hon gan unrhyw ddysgwr, beth bynnag fo’i ryw, cefndir ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol. Nid yw’r fanyleb hon yn oed benodol, ac felly oherwydd hyn darpara gyfleoedd i ymgeiswyr ymestyn eu haddysg gydol oes. Cynlluniwyd y fanyleb i osgoi, lle bo’n bosibl, nodweddion a allasai, heb gyfiawnhad ei gwneud yn fwy anodd i ddysgwyr lwyddo oherwydd bod ganddynt nodwedd benodol wedi ei hamddiffyn. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb y nodweddion penodol wedi eu hamddiffyn yw oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 5
WJEC CBAC Cyf.
Mae’r fanyleb hon wedi ei thrafod â grwpiau sy’n cynrychioli diddordebau ystod amrywiol o ddysgwyr, ac adolygir y fanyleb yn gyson. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr penodol er mwyn eu galluogi i gael mynediad i asesiadau (e.e.cais i gael amser ychwanegol i bwnc TGAU pan fydd gofyn am ysgrifennu estynedig). Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol i’w chael yn nogfen Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) Trefniadau Mynediad Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol. Mae’r ddogfen hon ar gael ar wefan CGC. (www.jcq.org.uk). Byddwn yn dilyn yr egwyddorion a osodir yn y ddogfen ac, o ganlyniad i ddarpariaeth addasiadau rhesymol, ychydig iawn o ddysgwyr fydd yn profi rhwystr llwyr i unrhyw ran o’r asesiad.
Dylai dysgwyr, wrth ddilyn y fanyleb hon, gael cyfleoedd lle bo’n briodol i ddatblygu’r sgiliau sy’n cael eu hasesu fel rhan o Graidd Bagloriaeth Cymru: • Llythrennedd • Rhifedd • Llythrennedd Ddigidol • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau • Cynllunio a Threfnu • Creadigedd ac Arloesi • Effeithiolrwydd Personol.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 6
© WJEC CBAC Ltd.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr astudio’r agweddau canlynol o Lenyddiaeth Gymraeg:
barddoniaeth
rhyddiaith
drama
llenyddiaeth fel ffilm (llunyddiaeth)
Rhoddir cyfle i ymgeiswyr:
ddeall ac ymateb i amrywiaeth o ddeunydd llenyddol drwy ddarllen yn eang gan gynnwys rhai testunau allweddol ac astudio’n fanwl enghreifftiau o lenyddiaeth o wahanol gyfnodau, a thrwy hynny feithrin ymwybyddiaeth o’r etifeddiaeth lenyddol
ymateb i gyflwyniadau llenyddol a gynhyrchir ar gyfer y cyfryngau
arddangos dealltwriaeth o’r ffyrdd y defnyddir iaith gan awduron er mwyn cael effaith
arddangos gallu i ymateb yn effeithiol, gan ddefnyddio mynegiant a geirfa briodol, mewn amrywiaeth o waith llafar ac ysgrifenedig.
Bydd mwyafrif y gweithiau a astudir yn destunau llenyddol a ysgrifennwyd yn y Gymraeg yn wreiddiol, er y ceir rhai addasiadau. Rhoddir cyfle i ymgeiswyr ddysgu am dreftadaeth lenyddol Cymru. Rhaid i ymgeiswyr ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg.
Papur Ysgrifenedig: Barddoniaeth 25% (1¼ awr) Gosodir dau bapur arholiad – Haen Uwch (A* - D) a Haen Sylfaenol (C – G). Gosodir cwestiwn a fydd yn gofyn i ymgeiswyr gymharu un o’r cerddi gosod a nodir isod â cherdd nas astudiwyd o’r blaen. Bydd disgwyl i ymgeiswyr:
ymateb yn sensitif a manwl i gerddi er mwyn gwerthfawrogi eu cynnwys a’u neges/thema
adnabod a gwerthfawrogi mesurau ac arddull y cerddi
cyflwyno ymateb personol i’r cerddi Wrth gymharu’r ddwy gerdd, dylid ceisio annog ymgeiswyr i gydblethu sylwadau am y cerddi os yw hynny’n briodol. Bydd nifer o ffurfiau barddonol – mesurau caeth, rhydd a phenrhydd yn cael eu cynnwys ymysg y cerddi a ddewisir. Daw’r cerddi gosod o’r gyfrol – Fesul Gair (gol. Tudur Dylan Jones). Gall y gerdd nas astudiwyd o’r blaen ddod o’r gyfrol hon neu o ffynonellau eraill.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 7
WJEC CBAC Cyf.
Cerddi gosod
Haen Sylfaenol Haen Uwch
Rhaid peidio dawnsio... Emyr Lewis Rhaid peidio dawnsio... Emyr Lewis
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
Rhys Iorwerth Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
Rhys Iorwerth
Gweld y Gorwel Aneirin Karadog Gweld y Gorwel Aneirin Karadog
Y Sbectol Hud Mererid Hopwood Y Sbectol Hud Mererid Hopwood
Tai Unnos Iwan Llwyd Tai Unnos Iwan Llwyd
Walker’s Wood Myrddin ap Dafydd Walker’s Wood Myrddin ap Dafydd
Ofn Hywel Griffiths
Eifionydd R. Williams Parry
Y Coed Gwenallt
Etifeddiaeth Gerallt Lloyd Owen
Ni chaniateir defnyddio geiriaduron yn yr arholiad hwn.
Papur Ysgrifenedig: Rhyddiaith - Nofel 25% (1¼ awr) Gosodir dau bapur arholiad – Haen Uwch (A* - D) a Haen Sylfaenol (C – G).
Gosodir cwestiwn a fydd yn gofyn i ymgeiswyr:
ymateb yn sensitif a manwl i nofel er mwyn gwerthfawrogi cynnwys, themâu, datblygiad plot a chymeriadau
adnabod a gwerthfawrogi arddull yr awdur gan ddefnyddio tystiolaeth o’r testun fel y bo’n briodol
cyflwyno ymateb personol a chreadigol i’r nofel.
Nofelau gosod: i'w hasesu yn 2019 a 2020
Haen Sylfaenol
Naill ai: Llinyn Trôns
Neu: Bachgen yn y Môr
Neu: Diffodd y Sêr
Bethan Gwanas
Morris Gleitzman Addasiad gan Elin Meek
Haf Llewelyn
Haen Uwch
Naill ai: Y Stafell Ddirgel
Neu: Yn y Gwaed
Neu: O Ran
Marion Eames
Geraint Vaughan Jones
Mererid Hopwood
Nofelau sy’n addas ar gyfer yr holl ystod gallu
Naill ai: Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
Neu: I Ble’r Aeth Haul y Bore?
Neu: Dim
Alun Jones
Eirug Wyn
Dafydd Chilton
Nofelau gosod: i'w hasesu o 2021 ymlaen
Haen Sylfaenol
Naill ai: Llinyn Trôns
Neu: Bachgen yn y Môr
Neu: Diffodd y Sêr
Bethan Gwanas
Morris Gleitzman Addasiad gan Elin Meek
Haf Llewelyn
Haen Uwch
Naill ai: Dim
Neu: Yn y Gwaed
Neu: O Ran
Dafydd Chilton
Geraint Vaughan Jones
Mererid Hopwood
Nofelau sy’n addas ar gyfer yr holl ystod gallu
Naill ai: Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr
Neu: I Ble’r Aeth Haul y Bore?
Neu: Llyfr Glas Nebo
Alun Jones
Eirug Wyn
Manon Steffan Ros
Ni chaniateir defnyddio copïau o’r testunau gosod na geiriaduron yn yr arholiad hwn.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 8
© WJEC CBAC Ltd.
Arholiad Llafar: Llunyddiaeth (hyd at 20 munud y grŵp) Gosodir dau bapur arholiad – Haen Uwch (A* - D) a Haen Sylfaenol (C – G).
Disgwylir i ymgeiswyr ymateb i destun a astudir ar DVD ac a atgyfnerthir gan astudiaeth o’r testun cyfatebol printiedig. Golygir wrth hyn ystyried elfennau megis themâu, datblygiad plot, cymeriadaeth, deialog, cefndir a’r modd y cyflwynir y rhain drwy gyfrwng ffilm.
Testunau Gosod Haen Sylfaenol
Dihirod Dyfed – Pechod Mary Prout; Wil Cefncoch; Cythraul
Cwrw
Disgwylir i’r ymgeiswyr astudio dwy o’r ffilmiau uchod.
Dihirod Dyfed Bethan Phillips
Haen Uwch
Tylluan Wen Y Dylluan Wen Angharad Jones
Testun sy’n addas ar gyfer yr holl ystod gallu
Y Mynydd Grug Te yn y Grug Kate Roberts
Ni chanaiteir defnyddio copïau o’r testunau gosod na geiriaduron yn yr arholiad hwn.
Tasgau Diarholiad – Tasgau Ysgrifenedig 25%
Tasg 1: Straeon Byrion 15% Disgwylir i ymgeiswyr astudio 2 stori fer ar thema benodol o’r cyfrolau 20 Stori Fer Cyfrol 1 ac 20 Stori Fer Cyfrol 2 (gol. Emyr Llywelyn). Bydd CBAC yn dewis dwy thema a newidir y rhain bob dwy flynedd. Rhoddir gwybodaeth am y themâu a astudir drwy gyfrwng cylchlythyr i ganolfannau. Dylai canolfannau osod tasgau a fydd yn gofyn i ymgeiswyr werthfawrogi’r straeon byrion. Nodir rhai tasgau enghreifftiol isod ond gosodir mwy o enghreifftiau thema benodol ar wefan ddiogel CBAC a bydd y rhain yn newid bob dwy flynedd wrth i’r themâu newid. Gall canolfannau addasu’r enghreifftiau a gyflwynir gan CBAC neu gynllunio tasgau tebyg eu hunain.
Pan ddewisir thema ‘Siom a Dadrithiad’ gan CBAC, ni chaniateir defnyddio stori ‘Te yn y Grug’ os bydd ymgeiswyr yn astudio Y Mynydd Grug ar gyfer Uned 3 – Llunyddiaeth Arholiad Llafar
Trafodwch y modd mae’r thema / themâu yn datblygu yn y ddwy stori a ddarllenwyd gennych. Cofiwch sôn am y modd maent yn defnyddio ffurf ac arddull i gyfleu’r thema hon i chi.
Yn y ddwy stori a astudiwyd gennych, dangoswch sut mae’r awdur yn trafod y thema / themâu? Pa nodweddion arddull effeithiol a ddefnyddir yn y straeon? Ydy ffurf y straeon yn addas ar gyfer dangos y thema / themâu hyn?
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 9
WJEC CBAC Cyf.
Disgrifiwch y prif gymeriadau yn y straeon. Sut maen nhw’n datblygu? Pa nodweddion arddull y mae’r awduron yn eu defnyddio i ddarlunio’r cymeriadau hyn?
Tasg 2: Drama 10% Disgwylir i ymgeiswyr astudio drama brintiedig neu gynhyrchiad a welwyd mewn theatr neu a wyliwyd ar y teledu neu ar DVD. Dylai canolfannau osod tasgau a fydd yn gofyn i ymgeiswyr ddehongli’r testun yn greadigol.
ENGHREIFFTIAU O DESTUNAU ADDAS (Adolygir yr enghreifftiau hyn o destunau bob dwy flynedd)
Ar Ddu a Gwyn – Huw Lloyd Edwards
Blodeuwedd – Saunders Lewis
Cyfres Codi’r Llenni - Martha Jac a Sianco: Sgript a Gweithgareddau – Caryl Lewis, Catrin Jones
Cysgod y Cryman: Addasiad Llwyfan – Siôn Eirian
Esther – Saunders Lewis
Gymerwch chi Sigaret? – Saunders Lewis
Sal – Gwenlyn Parry
Tair – Meic Povey
Y Tad a’r Mab – John Gwilym Jones
Traed mewn Cyffion (Addasiad teledu)
Y Graith (Addasiad teledu)
Y Wisg Sidan (Addasiad teledu)
Solomon a Gaenor
Cariad Creulon – Richard Bryn Williams
Chwe Drama Fer – Emyr Edwards
Cyfres Codi’r Llenni - Hi Yw Fy Ffrind: Sgript a Gweithgareddau – Dafydd Llywelyn, Lowri Cynan
Cyfres Codi’r Llenni - I Dir Neb: Sgript a Gweithgareddau – Rhiannon Wyn, Catrin Jones
Dan y Wenallt – Addasiad Cymraeg T. James Jones
Leni – Dewi Wyn Williams
Panto – Gwenlyn Parry
Shirley Valentine – Addasiad Cymraeg Manon Eames
Y Ffin – Gwenlyn Parry
Crash – Sera Moore Williams
Cyfres Copa: Waliau – Bedwyr Rees
Anne Frank – Iola Ynyr
Ar Goll – Addasiad Cymraeg Sharon Morgan
Ma’ Bili’n Bwrw’r Bronco – Addasiad Cymraeg Jeremi Cockram
Lois
William Jones (Addasiad teledu)
Agi! Agi! Agi! – Urien William
Cyfres Codi’r Llenni - Mewn Limbo: Sgript a Gweithgareddau – Gwyneth Glyn, Lowri Cynan
Cyfres Lleisiau
Dramâu’r Drain
Cyfres Copa: Hap a... – Rhian Staples
Cyfres Copa: Gŵyl – Peter Davies
Cyfres Copa: Gwastraff Catrin Jones Hughes
Love Hearts i Bosnia - Gwen Lasarus
Man Gwyn Man Draw – Gwenno Hywyn
Y Sosban – Myrddin ap Dafydd
Gêm o Ddau Hanner – Addasiad Siôn Eirian
Dirgelwch yr Ogof (Addasiad Teledu)
Chwilio am y Nefoedd
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 10
© WJEC CBAC Ltd.
Dylai ymgeiswyr gael y cyfle i gyflwyno tasgau tebyg i’r awgrymiadau isod:
TASGAU POSIBL
(Adolygir yr enghreifftiau o dasgau bob dwy flynedd.)
*Ymson y prif gymeriad / un o’r cymeriadau
Cyfres o ymsonau’r cymeriadau ar adegau arbennig e.e. Leni
Creu diweddglo / golygfa newydd e.e. Y Ffin
Golygfa newydd i gloi
*Dyddiadur / Blog y prif gymeriad / un o’r cymeriadau
*Pytiau o ddyddiadur un neu fwy o’r cymeriadau e.e. Panto
Sgwrs rhwng dwy gymdoges am y digwyddiadau yn y ddrama e.e.
Shirley Valentine
Llythyr e.e. Love Hearts i Bosnia – llythyr Wayne at ei gariad Linda o
Sarajevo; Shirley Valentine – llythyr ffrind at Shirley
Cyfres o lythyrau
Sgwrs rhwng y cymeriadau wrth ailgwrdd ymhen cyfnod o amser e.e.
Agi! Agi! Agi!
Cyfres o negeseuon e-bost rhwng cymeriadau
*Os bydd y ddrama yn cynnwys ymsonau gan gymeriad(au), yna dylid osgoi gosod tasg ysgrifennu ymson gan y cymeriad(au) hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol os cynhwysir dyddiadur gan gymeriad yn y testun, ni ddylid gosod tasg ysgrifennu dyddiadur i’r cymeriad hwnnw.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 11
WJEC CBAC Cyf.
AA1 Nodi a gwerthfawrogi’r cynnwys, y themâu a’r cymeriadau mewn amrywiaeth o destunau gan gyfeirio at y testun fel y bo’n briodol.
50%
AA2 Nodi a gwerthfawrogi’r arddull, y mesur / ffurf a’r iaith a ddefnyddir gan awduron / cynhyrchwyr i greu effaith, gan gyfeirio at dystiolaeth yn y testun fel y bo’n briodol.
30%
AA3 Ymateb ar lefel bersonol i amrywiaeth o destunau llenyddol a/neu weledol.
20%
Mae pwysiad yr amcanion asesu ar draws y cydrannau fel a ganlyn:
AA1 AA2 AA3 Cyfanswm
Uned 1 Papur Ysgrifenedig Barddoniaeth
13.75%
6.25%
5%
25%
Uned 2 Papur Ysgrifenedig Nofel
13.75% 6.25% 5% 25%
Uned 3 Arholiad Llafar Llunyddiaeth
12.5% 12.5%
25%
Uned 4 Asesiad Diarholiad
Tasgau Ysgrifenedig 10% 5% 10% 25%
Cyfanswm Pwysoli
50%
30%
20%
100%
Ar gyfer unedau sy’n cynnwys ysgrifennu estynedig (Uned 1 – Barddoniaeth, Uned 2 – Nofel, Uned 4 - Asesiad Diarholiad – Tasgau Ysgrifenedig), bydd ysgrifennu’r ymgeiswyr yn cael ei asesu o fewn asesiad cyffredinol yr uned honno.
Mae’r cynlluniau marcio ar gyfer yr unedau hyn yn cynnwys y meini prawf penodol canlynol i asesu’r ysgrifennu:
cyfathrebu a threfn (ystyr, pwrpasau, darllenwyr a strwythur)
ysgrifennu’n gywir (iaith, gramadeg, atalnodi a sillafu)
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 12
© WJEC CBAC Ltd.
Ceir manylion llawn am yr arholiad llafar gan gynnwys dyddiadau, paratoi ymgeiswyr, trefn ar ddiwrnod yr arholiad, recordio, safoni ac asesu mewn dogfen ar wahân a fydd ar gael ar wefan CBAC.
(a) Gweinyddu arholiad llafar Asesir ymgeiswyr drwy arholiad ffurfiol a gynhelir cyn neu wedi’r Pasg.
Gofynnir i bob canolfan recordio arholiadau pob grŵp. Neilltuir dau ddiwrnod penodol ar gyfer Arholiad Llafar Llenyddiaeth
Gymraeg - un ar gyfer Haen Uwch a’r llall ar gyfer Haen Sylfaenol. Gosodir y tasgau yn allanol gan CBAC i’w cwblhau mewn grwpiau dan
arweiniad yr athro/athrawes. Bydd y cwestiynau yn profi gallu’r ymgeisydd i werthfawrogi cefndir, cynllun a phlot, cymeriadau, themâu ac arddull.
Ni chaniateir geiriaduron na’r testun printiedig yn yr asesiad llafar allanol.
Ni chaniateir nodiadau a baratowyd o flaen llaw cyn y cyfnod paratoi ond caniateir i’r ymgeiswyr wneud nodiadau byr neu bwyntiau bwled eu hunain yn ystod y cyfnod paratoi.
Ar sail adnabyddiaeth athrawon o’r ymgeiswyr, dylid ffurfio grwpiau nad ydynt yn cynnwys mwy na 3 ymgeisydd. Dylai athrawon sicrhau hyd eithaf eu gallu fod aelodau’r grŵp, os nad yn cynrychioli’n union yr un marciau, o leiaf yn cynrychioli’r un band o farciau. Os na ellir ffurfio grŵp o 3 yna awgrymir asesu mewn pâr (caniateir grŵp o 4 mewn sefyllfa eithriadol).
Dylid cyflwyno’r dasg ar yr haen briodol (Sylfaenol/Uwch) i’r grŵp. Caniateir iddynt baratoi am 25 munud.
Dylid dechrau’r arholiad trwy nodi enw a rhif y ganolfan a gofyn i’r ymgeiswyr gyflwyno eu hunain.
Dylid gofyn i’r ymgeiswyr drafod y cwestiynau a osodir ar eu cyfer gan CBAC a dylid caniatáu iddynt wneud hynny’n weddol annibynnol er y gellid ymyrryd ar adegau er mwyn symud y drafodaeth yn ei blaen.
Dylai’r drafodaeth gymryd hyd at 20 munud. Ar ddiwrnod yr arholiad rhaid nodi marc allan o 40 ar gyfer pob
ymgeisydd.
Rhoddir cyfle i’r ymgeiswyr drafod pynciau/cwestiynau/ isgwestiynau tebyg i’r isod. Bydd y cwestiwn/cwestiynau yn sicrhau cyfleon digonol i drafod yr Amcanion Asesu Priodol. Yn y ddwy haen bydd angen trafod AA1 – cynnwys, themâu a chymeriadau ac AA2 – adnabod a gwerthfawrogi arddull.
Gwerthfawrogi’r ffilm(iau) a’u cymharu â’r testun print gan gyfeirio at y dulliau a ddefnyddiwyd i gyfleu bwriad ac effeithiau'r gwaith.
Trin a thrafod adeiladwaith y ffilm(iau) â’u cymharu â’r testun print gan gyfeirio at y cymeriadau, y cefndir a themâu’r gwaith.
Manylu ar un olygfa arbennig a thrafod y defnydd a wnaed o’r olygfa honno.
Trafod themâu’r ffilm(iau). Ymateb i osodiad fel “Dyma’r cymeriad rwy’n ei hoffi fwyaf a dyma’r un
rwy’n ei hoffi leiaf a pham.” Sut mae’r cynhyrchydd wedi llwyddo i greu golygfeydd effeithiol?
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 13
WJEC CBAC Cyf.
SWYDDOGAETH YR ATHRO/ATHRAWES Dylid: (i) cyflwyno'r dasg i ddechrau'r drafodaeth (ii) sicrhau bod y grŵp yn dechrau ac yn parhau'r drafodaeth (iii) hybu newid cyfeiriad yn ôl gallu'r grŵp, gan ofalu bod yr ymgeiswyr yn
trafod yr isgwestiynau i gyd (iv) ymyrryd pan fo angen, yn arbennig pan fo'r sgwrsio'n ddibwrpas ac yn
cuddio diffyg gwybodaeth neu pan nad yw’r wybodaeth neu’r dystiolaeth sydd ganddynt yn berthnasol i’r cwestiwn
(v) bod yn hyblyg a newid a derbyn pob syniad lle mae tystiolaeth i’w
gadarnhau (vi) cau'r drafodaeth ymhen 20 munud
Safoni Dylai safoni ddigwydd ar ddwy lefel. (i) Er mwyn sicrhau bod safon yr asesu yn gyson ar draws y grwpiau dysgu rhaid i
safoni mewnol trylwyr ddigwydd o fewn canolfan.
Rhaid i ganolfannau safoni asesiadau ar draws gwahanol athrawon a grwpiau addysgu. Rhaid i un person fod yn gyfrifol am y drefn safoni mewnol yn y ganolfan. Rhaid i’r asesu mewnol ddigwydd cyn cyflwyno’r marciau i CBAC.
(ii) Rhaid i ganolfan anfon sampl o dasgau at y safonwr allanol erbyn dyddiad
penodol ym mis Mai. Dylid nodi’r marciau a roddwyd i bob ymgeisydd a gynhwysir yn y sampl ar y taflenni marciau priodol a nodi enwau’r ymgeiswyr, marciau ac enw’r ganolfan yn glir ar bob cryno-ddisg.
Y sampl safoni Caiff sampl o’r gwaith a safonir yn allanol ei ddewis gan CBAC. Bydd y sampl yn adlewyrchu’r holl ystod gallu. Darperir canllawiau pellach i athrawon neu ganolfannau unigol pan na fyddant yn cwrdd â gofynion CBAC. Os oes angen, gellir gofyn am sampl pellach ar gais y safonwr. Os bydd problem ddifrifol yn codi, gall CBAC argymell monitro gwaith y ganolfan a’r broses safoni cyhyd ag y tybir bod angen gwneud hynny. Cyflwyno marciau Cyflwynir marciau pob ymgeisydd i CBAC erbyn dyddiad penodol ym mis Mai.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 14
© WJEC CBAC Ltd.
Mae rheoliadau'r asesiadau diarholiad wedi eu diffinio ar gyfer tri cham yr asesiad:
gosod y dasg
gwneud y dasg
marcio'r dasg Ar gyfer pob cam, pennwyd lefel benodol o reolaeth er mwyn sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd. Nid oes haenau i'r asesiad diarholiad a gwahaniaethir trwy ganlyniad. Gall ymgeiswyr gwblhau’r asesiad unrhyw bryd yn ystod y cwrs. Uned 4 – Tasg 1: Straeon Byrion Gosod tasg Rheolaeth ar lefel ganolig Disgwylir i ymgeiswyr astudio 2 stori fer ar thema benodol o’r cyfrolau 20 Stori Fer Cyfrol 1 ac 20 Stori Fer Cyfrol 2 (gol. Emyr Llywelyn). Bydd CBAC yn dewis dwy thema a newidir y rhain bob dwy flynedd. Rhoddir gwybodaeth am y themâu a astudir drwy gyfrwng cylchlythyr i ganolfannau. Dylai canolfannau osod tasgau a fydd yn gofyn i ymgeiswyr werthfawrogi’r straeon byrion. Gweler rhai tasgau enghreifftiol yn adran 2.4. Gosodir mwy o enghreifftiau thema benodol ar wefan ddiogel CBAC a bydd y rhain yn newid bob dwy flynedd wrth i’r themâu newid. Gall canolfannau addasu’r enghreifftiau a gyflwynir gan CBAC neu gynllunio tasgau tebyg eu hunain. Pan ddewisir thema ‘Siom a Dadrithiad’ gan CBAC, ni chaniateir defnyddio stori ‘Te yn y Grug’ os bydd ymgeiswyr yn astudio Y Mynydd Grug ar gyfer Uned 2 – Arholiad Llafar. Dylai’r athrawon roi’r dasg i’r ymgeiswyr oddeutu pythefnos cyn bod disgwyl iddynt gyflawni’r dasg. Nid yw hyn yn cynnwys yr amser sydd ei angen i baratoi’r testunau gyda’r ymgeiswyr. Yn ystod y pythefnos cyn gwneud y dasg gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gall athrawon drafod a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion/tasgau byrion ar lafar neu’n ysgrifendig i ymgeiswyr i’w cyflawni yn y dosbarth gogyfer ag ymgyfarwyddo â’r testunau neu a fydd yn medru eu cynorthwyo i ddeall natur y dasg. Gall ymgeiswyr weithio yn unigol neu ar y cyd ar yr ymarferion hyn. Dylid cofnodi pa arweiniad a roddwyd i’r ymgeiswyr ar y taflenni marciau unigol wrth gyflwyno’r sampl i’w safoni. Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel uchel Bydd yn rhaid cyflawni’r dasg derfynol o dan oruchwyliaeth ffurfiol yn y ganolfan. Dylid nodi’r testun, y dasg, dyddiad y dasg ar y gwaith a gyflwynir i’w asesu.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 15
WJEC CBAC Cyf.
Caniateir i’r ymgeiswyr gyfeirio at y testunau yn ystod y cyfnod ysgrifennu. Ni ddylai’r rheini gynnwys unrhyw nodiadau ac ni ddylid tanlinellu dyfyniadau arnynt. Caniateir i ymgeiswyr ddefnyddio un ochr tudalen A4 o nodiadau byr a baratowyd ganddynt o flaen llaw a dylid cyflwyno’r dudalen hon gyda’r dasg orffenedig. Ni chaniateir i’r ymgeisydd ddefnyddio gwaith estynedig y bydd wedi ei baratoi o flaen llaw e.e. paragraffau cyflawn/brawddegau llawn ar y daflen hon. Caniateir pwyntiau bwled byr sy’n cynnwys enghreifftiau a dyfyniadau perthnasol i gyflawni’r dasg. Dylid caniatáu i ymgeiswyr ddefnyddio geiriaduron/thesawrws wrth gyflawni’r dasg. Ni chaiff ymgeiswyr ymgynghori â’i gilydd. Caniateir 2½ awr i gyflawni’r dasg. Caniateir mwy o amser i ddisgyblion a chanddynt anghenion arbennig.
Hyd y dasg: Awgrymir lleiafswm o 500 o eiriau ac uchafswm o 1500 o eiriau. Unwaith y cyflwynir gwaith i’r athro/athrawes ni ellir ei ddiwygio ymhellach. Os gweinyddir y dasg yn ystod cyfnodau byrrach na dwy awr a hanner, yna dylid casglu’r gwaith ar ddiwedd pob cyfnod a’i gadw’n ddiogel o fewn y ganolfan. Ni ddylai athro/athrawes nodi unrhyw sylwadau ar y gwaith rhwng y cyfnodau hyn. Ni chaniateir defnyddio Technoleg Gwybodaeth i gyflawni’r dasg hon. Ni chaniateir i’r ymgeisydd adolygu ac ailddrafftio’r gwaith. Marcio’r dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Bydd yr athrawon yn marcio’r dasg yn unol â’r meini prawf yn y fanyleb.
Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 30: AA1 – 20 ac AA2 – 10.
Uned 4 – Tasg 2: Drama Gosod tasg Rheolaeth ar lefel gyfyngedig Gall y ddrama fod yn un brintiedig neu’n gynhyrchiad a welwyd mewn theatr neu a wyliwyd ar y teledu neu ar DVD.
Wrth gyflawni’r dasg hon dylai’r ymgeisydd ddehongli’r testun yn greadigol. Trwy gyfrwng y dasg gall ymgeisydd ddangos ei ddealltwriaeth a’i werthfawrogiad o’r testun a’i ymwybyddiaeth o naws, arddull a chyd-destun. Diffinir dehongli testun yn greadigol yn y cyd-destun hwn fel gwaith sy’n cyfuno’r ffeithiol a’r dychmygol, hynny yw, mae’n defnyddio ffeithiau neu ddehongliadau sydd ymhlyg yn y ddrama/ffilm, ond drwyddynt yn creu rhywbeth nad ydyw ar gael yn uniongyrchol yn y gwreiddiol.
Rhaid i’r dasg hon gael ei seilio yn gadarn ar y testun neu fod yn ddatblygiad amlwg ohono, hynny yw, rhaid i’r testun gael lle pendant, canolog yn y dasg a gyflwynir.
Dylai’r testunau a’r tasgau a osodir fod yn addas ar gyfer gallu’r ymgeisydd. Gall canolfannau ddewis testunau addas eraill ac addasu neu gynllunio tasgau tebyg i’r rhai a nodir yn adran 2.4.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 16
© WJEC CBAC Ltd.
Dylai’r athrawon roi’r dasg i’r ymgeiswyr gan ganiatáu oddeutu pythefnos cyn bod disgwyl iddynt gyflawni’r dasg. Nid yw hyn yn cynnwys yr amser sydd ei angen i baratoi’r testun gyda’r ymgeiswyr. Yn ystod y cyfnod paratoi gall ymgeiswyr weithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig. Gall athrawon drafod a chynnig cyngor cyffredinol i’r ymgeiswyr. Gellir gosod ymarferion/tasgau byrion ar lafar neu’n ysgrifenedig i ymgeiswyr gogyfer ag ymgyfarwyddo â’r testun neu a fydd yn medru eu cynorthwyo i ddeall natur y dasg. Gall ymgeiswyr weithio’n unigol neu ar y cyd ar yr ymarferion hyn. Dylid cofnodi pa arweiniad a roddwyd i’r ymgeiswyr ar y taflenni marciau unigol wrth gyflwyno’r sampl i’w safoni. Gwneud y dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Bydd rhaid i ymgeiswyr gyflawni’r dasg hon yn annibynnol o dan oruchwyliaeth anffurfiol yn y ganolfan. Bydd angen sicrhau bod yr oruchwyliaeth yn ddigonol i sicrhau bod modd dilysu’r gwaith ac mai gwaith yr ymgeisydd unigol a gyflwynir i’w asesu. Dylid nodi’r testun, y dasg, dyddiad y dasg ar y gwaith a gyflwynir i’w asesu.
Gall yr ymgeiswyr ddefnyddio’r testun, nodiadau a geiriaduron wrth gyflawni’r dasg. Gallant ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau ar-lein fel geiriaduron ar-lein a gwirwyr gramadeg a sillafu. Os bydd ymgeiswyr yn cyflawni’r dasg mewn ffurf electronig, yna rhaid cadw’r gwaith yn ddiogel rhwng sesiynau cyflawni’r dasg (e.e. casglu cof bach sy’n cynnwys y gwaith i mewn). Caniateir i athro/athrawes adolygu gwaith ymgeiswyr a rhoi cyngor ar lefel gyffredinol iddynt. Caniateir i ymgeiswyr adolygu ac ailddrafftio gwaith. Caniateir hyd at 3 awr i gyflawni’r dasg.
Hyd y dasg: Awgrymir lleiafswm o 500 o eiriau ac uchafswm o 1500 o eiriau.
Ni ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg na’i chywiro wedi i’r athro/athrawes ei chywiro h.y. ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi ei gywiro mewn drafftiau cynt. Marcio’r dasg Rheolaeth ar lefel ganolig Asesir y gwaith cwrs yn fewnol gan athro neu athrawes yr ymgeisydd yn unol â’r meini prawf yn y fanyleb. Disgwylir i’r athro/athrawes farcio’r dasg o gyfanswm o 20: AA3 – 20. Safoni’r ddwy dasg Dylai safoni ddigwydd ar ddwy lefel. (iii) Er mwyn sicrhau bod safon yr asesu yn gyson ar draws y grwpiau dysgu rhaid i
safoni mewnol trylwyr ddigwydd o fewn canolfan.
Mae'n rhaid sicrhau cyfleoedd i gyfnewid gwaith a thrafod meini prawf yn gyson. Rhaid i ganolfannau safoni asesiadau ar draws gwahanol athrawon a grwpiau addysgu. Rhaid i un person fod yn gyfrifol am y drefn safoni mewnol yn y ganolfan. Rhaid i’r asesu mewnol ddigwydd cyn cyflwyno’r marciau i CBAC.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 17
WJEC CBAC Cyf.
(iv) Rhaid i ganolfan anfon sampl o dasgau at y safonwr allanol erbyn dyddiad
penodol ym mis Mai.
Dylai canolfannau lenwi taflen farciau unigol ar gyfer pob ymgeisydd a ddewisir ar gyfer safoni allanol (ar gael o wefan CBAC). Dylid nodi:
teitlau’r tasgau
unrhyw ragbaratoi ar ran yr ymgeiswyr ac unrhyw gymorth/arweiniad a roddwyd gan yr athro/athrawes
unrhyw nodiadau/sylwadau perthnasol ar gyfer y safonwr megis sut y cafodd y tasgau eu cyflawni
Bydd safoni yn digwydd ar ddwy lefel. 1. Mae gofyn i ganolfannau sicrhau bod safoni mewnol yn digwydd cyn
cyflwyno’r marciau yn derfynol, fel bod y safonau a ddefnyddir yn gyson â’r rheini a welir yn y deunyddiau enghreifftiol, er mwyn sefydlu trefn restrol ddibynadwy o fewn y ganolfan. Gall dulliau addas o gyflawni hyn ddibynnu ar bolisi a threfn canolfannau unigol. Fodd bynnag mae’n rhaid i sampl o ymgeiswyr pob athro/athrawes gael ei asesu gan athro/athrawes arall.
2. Cynhyrchir deunyddiau asesu enghreifftiol yn gyson. Mae’n rhaid i
bob athro/athrawes sy’n addysgu TGAU Llenyddiaeth Gymraeg gwrdd i drafod y deunydd enghreifftiol fel cymorth i osod y dasg, asesu a safoni’r marcio.
Y sampl safoni Caiff sampl o’r gwaith a safonir yn allanol ei ddewis gan CBAC. Bydd y sampl yn
adlewyrchu’r holl ystod gallu. Darperir canllawiau pellach i athrawon neu ganolfannau unigol pan na fyddant yn
cwrdd â gofynion CBAC. Os oes angen, gellir gofyn am sampl pellach ar gais y safonwr. Os bydd problem ddifrifol yn codi, gall CBAC argymell monitro gwaith y ganolfan a’r broses safoni cyhyd ag y tybir bod angen gwneud hynny.
Cyflwyno marciau Cyflwynir marciau pob ymgeisydd i CBAC erbyn dyddiad penodol ym mis Mai.
Ar ddiwedd yr asesiad, bydd y gwaith yn cael ei farico yn ôl yr arfer. Gall ymgeiswyr gael adborth am eu hasesiad ac mae’n bwysig bod y gwaith a chofnod o’r marciau yn cael eu cadw yn ddiogel ym meddiant yr athro/athrawes. Dylid fodd bynnag egluro i’r ymgeiswyr y gall y marciau newid yn dilyn proses safoni allanol.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 18
© WJEC CBAC Ltd.
Manyleb ag unedau yw hon sy’n caniatáu elfen o asesu fesul cam. Bydd uned 1 ar gael yn Ionawr (2017 a phob blwyddyn wedi hynny) a Mehefin 2017 (a phob blwyddyn wedi hynny). Bydd unedau 2, 3 a 4 ar gael ym Mehefin yn unig (2017 a phob blwyddyn wedi hynny).
Unwaith yn unig y gall ymgeiswyr ailsefyll uned unigol. Defnyddir y marc unffurf gwell o'r ddau gynnig i gyfrifo gradd derfynol gyffredinol cyhyd ag y bodlonir y rheol derfynol yn gyntaf h.y. rhaid i ddysgwyr gwblhau'r rhan leiaf o'r asesiad sy'n ofynnol i ennill cymhwyster yn y gyfres y maent yn cyfnewid ynddi. Pennir y rheol derfynol ar 40% o'r cymhwyster cyffredinol yn achos TGAU Llenyddiaeth Gymraeg. Os yw’r asesiad sy’n cael ei ailsefyll yn cyfrannu tuag at y gofyniad rheol derfynol o 40%, y marc ar gyfer yr asesiad newydd fydd yn cyfrif. Os rhoddwyd cynnig ar unrhyw uned ddwywaith a bod ymgeisydd am gofrestru am yr uned am y trydydd tro, bydd yn rhaid i’r ymgeisydd ailgofrestru am bob uned a’r cyfnewid priodol. Cyfeirir at hyn fel ‘dechrau o’r newydd’. Pan gaiff cymhwyster ei ailsefyll (dechrau o'r newydd), gall ymgeisydd roi hyd at ddau gynnig arall ar bob uned. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio canlyniadau o unedau a safwyd cyn dechrau o'r newydd wrth agregu'r radd (graddau) newydd. Gellir cario marciau unedau asesu di-arholiad ymlaen dros gyfnod oes y fanyleb. Os yw ymgeisydd wedi cofrestru am uned ond ei fod yn absennol, nid yw'r absenoldeb yn cyfrif fel ymgais. Fodd bynnag, byddai'r ymgeisydd yn cael ei ddisgrifio fel ymgeisydd ailsefyll. Mae'r codau cofrestru i'w gweld isod.
Teitl Codau cofrestru
Uned 1 Barddoniaeth (Sylfaenol) 3010N1
Barddoniaeth (Uwch) 3010NA
Uned 2 Nofel (Sylfaenol) 3010N2
Nofel (Uwch) 3010NB
Uned 3 Llunyddiaeth (Sylfaenol) 3010N3
Llunyddiaeth (Uwch) 3010NC
Uned 4 Asesiad Diarholiad: Tasgau Ysgrifenedig 3010N4
Cyfnewid Cymhwyster TGAU 3010CS
Rhoddir y gweithdrefnau cofrestru diweddaraf yn ein fersiwn cyfredol o’r ddogfen Gweithdrefnau Cofrestru a Gwybodaeth am Godau.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 19
WJEC CBAC Cyf.
Caiff cymwysterau TGAU eu hadrodd ar raddfa wyth pwynt o A* i G, ac A* yw’r radd uchaf. Bydd cyrhaeddiad disgyblion na fyddant yn llwyddo i gyrraedd y safon isaf bosibl i ennill gradd yn cael ei gofnodi â’r llythyren U (annosbarthedig) ac ni fyddant yn derbyn tystysgrif.
Mae gan ganlyniadau am uned hyd oes a gyfyngir gan hyd oes y fanyleb yn unig. Gall ymgeisydd ailsefyll y cymhwyster cyfan fwy nag unwaith.
Adroddir canlyniadau unedau unigol ar raddfa marciau unffurf (GMU) â’r cyfwerthoedd graddau canlynol:
GRADD UCHAF. A* A B C D E F G
Uned 1 50 45 40 35 30 25 20 15 10
Uned 2 50 45 40 35 30 25 20 15 10
Uned 3 50 45 40 35 30 25 20 15 10
Uned 4 50 45 40 35 30 25 20 15 10
Dyfarniad Pwnc 200 180 160 140 120 100 80 60 40
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 20
© WJEC CBAC Ltd.
HAEN UWCH
Dylai'r ymgeiswyr gydadweithio fel grŵp wrth drafod y cwestiynau.
36 - 40
AA1 arddangos gwybodaeth drylwyr am y ffilm a chyflwyno tystiolaeth i gadarnahau safbwynt yn ardderchog gan gyfeirio at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau yn briodol
trafod plot ac adeiladwaith yn dreiddgar
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dreiddgar o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth dreiddgar o’r themâu a’u datblygiad yn y testun
18 – 20
AA2 dangos blaengaredd ac aeddfedrwydd wrth gyfeirio at y ffynhonnell brintiedig a’r ffilm
defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn dreiddgar
ymdrin yn dreiddgar ag addasrwydd arddull, techneg a’r defnydd o iaith gan ystyried eu heffeithiolrwydd
18 – 20
28 – 35
AA1 arddangos gwybodaeth fanwl am y ffilm a chyflwyno tystiolaeth i gadarnhau safbwynt yn dda gan gyfeirio at olygfeydd perthnasol a defnyddio dyfyniadau addas
trafod plot ac adeiladwaith yn dda iawn
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dda iawn o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth dda o’r themâu a’u datblygiad yn y testun
14 – 17
AA2 dangos aeddfedrwydd wrth gyfeirio at ffynhonnell brintiedig a ffilm
defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn dda iawn
ymdrin yn fanwl ag addasrwydd arddull, techneg a’r defnydd o iaith ac ystyried eu heffeithiolrwydd
14 – 17
22 – 27
AA1 arddangos gwybodaeth dda am y ffilm a chyflwyno tystiolaeth gan gyfeirio at olygfeydd perthnasol
trafod plot ac adeiladwaith yn dda
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dda o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth o’r themâu a’u datblygiad yn y testun
11 – 13
AA2 cyfeirio’n ystyrlon at y ffynhonnell brintiedig a’r ffilm
defnyddio termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth yn dda
trafod addasrwydd arddull, techneg a’r defnydd o iaith gan wneud sylwadau pwrpasol
11 – 13
16 – 21
AA1 arddangos gwybodaeth am y ffilm gan gyfeirio’n fanwl lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
trafod plot ac adeiladwaith yn foddhaol
dangos dealltwriaeth dda o’r cymeriadau
dechrau dangos ymwybyddiaeth o’r themâu a’u datblygiad yn y testun
8 – 10
AA2 gallu cyfeirio at y ffynhonnell brintiedig a’r ffilm
defnyddio rhai termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth
adnabod ac ymdrin ag arddull, techneg a’r defnydd o iaith
8 – 10
8 – 15
AA1 arddangos gwybodaeth am y ffilm gan gyflwyno ffeithiau perthnasol yn gywir a chyfeirio lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
trafod y stori a sut mae’n datblygu
trafod cymeriadau yn eithaf llawn gan roi manylion perthnasol amdanynt
dechrau dangos peth ymwybyddiaeth o brif themâu’r ffilm
4 – 7
AA2 defnyddio ambell derm gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth
dangos peth dealltwriaeth o arddull, techneg a’r defnydd o iaith
4 – 7
0 – 7
AA1 arddangos gwybodaeth am gynnwys y ffilm trwy gyflwyno rhai ffeithiau perthnasol a chyfeiro at y stori a’r sefyllfa
tueddu i ailadrodd rhannau o’r stori
trafod y cymeriadau a rhoi manylion amdanynt
0 – 3
AA2 cyfeirio at rai elfennau yn yr arddull, technegau neu ddefnydd o iaith 0 – 3
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 21
WJEC CBAC Cyf.
HAEN SYLFAENOL
Dylai'r ymgeiswyr gydadweithio fel grŵp wrth drafod y cwestiynau.
36 - 40
AA1 arddangos gwybodaeth am y ffilm gan gyfeirio’n fanwl lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
trafod plot ac adeiladwaith yn foddhaol
dangos dealltwriaeth dda o’r cymeriadau
dechrau dangos ymwybyddiaeth o’r themâu a’u datblygiad yn y testun
18 – 20
AA2 gallu cyfeirio at y ffynhonnell brintiedig a’r ffilm
defnyddio rhai termau gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth
adnabod ac ac ymdrin ag arddull, techneg a’r defnydd o iaith
18 – 20
28 – 35
AA1 arddangos gwybodaeth am y ffilm gan gyflwyno ffeithiau perthnasol yn gywir a chyfeirio lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
trafod y stori a sut mae’n datblygu
trafod cymeriadau yn eithaf llawn gan roi manylion perthnasol amdanynt
dechrau dangos peth ymwybyddiaeth o brif themâu’r ffilm
14 –17
AA2 defnyddio ambell derm gwerthfawrogi llunyddiaeth/llenyddiaeth
dangos peth dealltwriaeth o arddull, techneg a’r defnydd o iaith
14 – 17
22 – 27
AA1 arddangos gwybodaeth am gynnwys y ffilm trwy gyflwyno rhai ffeithiau perthnasol a chyfeirio at y stori a’r sefyllfa
tueddu i ailadrodd rhannau o’r stori
trafod y cymeriadau a rhoi manylion amdanynt
11 - 13
AA2 cyfeirio at rai elfennau yn yr arddull, technegau neu ddefnydd o iaith 11 – 13
16 – 21
AA1 adrodd cynnwys y ffilm o ran y stori a’r sefyllfa
ailadrodd ambell ran o’r stori
cyflwyno cymeriadau gan roi rhai manylion amdanynt
8 – 10
AA2 adnabod ambell nodwedd amlwg yn yr arddull, technegau neu ddefnydd o iaith 8 – 10
8 – 15
AA1 peth gwybodaeth yn unig am y ffilm
gallu adrodd peth o’r stori
sôn yn arwynebol am ambell gymeriad
4 – 7
AA2 ymgais i adnabod ambell elfen yn yr arddull, techneg neu ddefnydd o iaith 4 – 7
0 – 7
AA1 gallu adrodd darn byr iawn o’r ffilm
sôn yn arwynebol iawn am ambell gymeriad
0 – 3
AA2 ymateb yn arwynebol iawn i ambell elfen amlwg iawn yn yr arddull, technegau neu ddefnydd o iaith
0 – 3
Ar gyfer y Haen Uwch a'r Haen Sylfaenol bydd y cwestiynau a osodir ar gyfer yr arholiad llafar yn canolbwyntio ar o leiaf ddau o'r pwyntiau yn AA1 yn ogystal â'r holl bwyntiau yn AA2.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 22
© WJEC CBAC Ltd.
Meini Prawf Asesu Tasgau Diarholiad
Meini Prawf Asesu Tasg 1 - Straeon Byrion – Gwerthuso Rhyddiaith
Cyfanswm marciau i’r dasg
Marciau Mae'r golofn hon yn berthnasol i'r ddau amcan asesu.
AA1 – 20 marc AA2 – 10 marc
28 - 30 AA1 19-20 AA2 9-10
trafod testunau heriol yn dreiddgar a threfnus ac arddangos dealltwriaeth dda o safbwynt yr awdur
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dreiddgar o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth dreiddgar o’r themâu a’u datblygiad yn y testunau
cyflwyno tystiolaeth i gadarnhau safbwynt yn ardderchog gan gyfeirio at rannau perthnasol o’r testunau a defnyddio dyfyniadau’n briodol
cymharu testunau’n fedrus lle bo hynny’n briodol
adeiladwaith sicr a chydlynol
gafael sicr iawn ar sillafu, atalnodi a gramadeg
dadansoddi’n dreiddgar nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am eu priodoldeb gan gynnwys rhesymau perthnasol
ymdrin yn dreiddgar ag addasrwydd arddull / techneg / defnydd o iaith mewn testunau gan ystyried eu heffeithiolrwydd
defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn feistrolgar
25 - 27 AA1 17-18 AA2 8
trafod testunau ymestynnol yn fanwl a threfnus ac arddangos dealltwriaeth o safbwynt yr awdur
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dda iawn o’r cymeriadau a'r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth dda iawn o'r themâu a’u datblygiad yn y testunau
cyflwyno tystiolaeth i gadarnhau safbwynt yn dda gan gyfeirio at rannau perthnasol o’r testunau a defnyddio dyfyniadau addas
cymharu testunau’n ystyrlon lle bo hynny’n briodol
cyflwyno gwaith yn glir a chydlynol
gafael sicr iawn ar sillafu, atalnodi a gramadeg
manylu ar nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am eu priodoldeb gan gynnwys rhesymau perthnasol
manylu ar addasrwydd arddull/ techneg/ defnydd o iaith mewn testunau gan ystyried eu heffeithiolrwydd
defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn dda iawn
22 - 24 AA1 15-16 AA2 7
dangos gwybodaeth dda am y cynnwys
dadansoddi a dangos dealltwriaeth dda o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt
dangos dealltwriaeth o’r themâu a’u datblygiad yn y testunau
cyflwyno tystiolaeth wrth gyflwyno safbwynt
gan gyfeirio at rannau perthnasol o’r testunau a
defnyddio ambell i ddyfyniad addas
cymharu testunau’’n eitha da lle bo hynny’n briodol
cyflwyno'r gwaith yn glir a threfnus
gafael sicr ar sillafu, atalnodi a gramadeg
trafod nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn am eu priodoldeb gan roi rhai rhesymau
trafod addasrwydd arddull/techneg a'r defnydd o iaith gan wneud sylwadau pwrpasol
defnyddio termau beirniadaeth -lenyddol yn dda
18 - 21 AA1 12-14 AA2 6
arddangos gwybodaeth am destunau llenyddol gan gyfeirio’n fanwl lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
dangos dealltwriaeth dda o’r cymeriadau
dechrau dangos ymwybyddiaeth o themâu
cyflwyno rhai rhesymau i ategu eu safbwyntiau a defnyddio ambell ddyfyniad
ymgais i gymharu testunau cyflwyno'r gwaith yn drefnus gafael sicr ar sillafu, atalnodi a
gramadeg
disgrifio nodweddion megis ffurf, cynllun a mynegi barn ar eu priodoldeb
adnabod ac ymdrin ag arddull/techneg a'r defnydd o iaith
defnyddio rhai termau beirniadaeth lenyddol
14 - 17 AA1 9-11 AA2 5
arddangos gwybodaeth am y testunau gan gyflwyno ffeithiau perthnasol yn gywir a chyfeirio lle bo hynny’n briodol at y stori a’r sefyllfa
disgrifio cymeriadau’n eithaf llawn gan roi manylion perthnasol amdanynt
dechrau dangos peth ymwybyddiaeth o brif themâu’r testunau
cyflwyno ambell reswm i ategu safbwynt
cyflwyno'r gwaith yn lled drefnus
gafael gyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg
disgrifio nodweddion ffurf a chynllun ac ymgeisio i fynegi barn am eu priodoldeb
dangos peth dealltwriaeth o arddull/techneg a'r defnydd o iaith
defnyddio ambell derm beirniadaeth lenyddol
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 23
WJEC CBAC Cyf.
11 - 13 AA1 7-8 AA2 4
arddangos gwybodaeth am gynnwys y testunau trwy gyflwyno rhai ffeithiau perthnasol a chyfeirio at y stori a’r sefyllfa
disgrifio cymeriadau gan roi manylion perthnasol amdanynt
dangos trefn mewn rhannau o’r gwaith
gafael gyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg ar y cyfan
ymgais i ddisgrifio rhai nodweddion megis ffurf, cynllun
cyfeirio at rai elfennau yn yr arddull, techneg a defnydd o iaith
8 - 10 AA1 5-6 AA2 3
arddangos gwybodaeth am gynnwys y testun drwy gyfeirio at y stori a’r sefyllfa
cyflwyno cymeriadau gan roi rhai manylion
ceisio rhoi peth trefn ar y gwaith
gafael anghyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg
adnabod ambell nodwedd amlwg yn y ffordd y bydd awduron yn ysgrifennu
5 - 7 AA1 3-4 AA2 2
peth gwybodaeth yn unig am y testun
gallu adrodd peth o’r stori sôn yn arwynebol am ambell
gymeriad
ymgais at ddilyniant
gafael gyfyngedig ar sillafu, atalnodi a gramadeg
ymgais i adnabod ambell nodwedd amlwg yn y ffordd y bydd awduron yn ysgrifennu
0 - 4 AA1 0-2 AA2 0-1
gallu adrodd darn byr iawn o’r cynnwys
sôn yn arwynebol iawn am ambell gymeriad
gafael gyfyngedig iawn ar sillafu, atalnodi a gramadeg
ymateb yn arwynebol iawn i ambell elfen yn unig yn yr arddull, technegau neu ddefnydd o iaith
Asesir yr ysgrifennu yn y dasg hon. Fodd bynnag, gallu ymgeisydd i ddangos ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r testun ynghyd â’i allu i ddadansoddi fydd yn penderfynu yn bennaf pa fand marciau sy’n disgrifio ei waith orau. Yn achos y dasg hon, mae trefnu gwybodaeth yn eglur a rhesymegol a defnyddio geirfa arbenigol megis termau beirniadaeth lenyddol ynghyd ag ysgrifennu’n gywir yn rhan annatod o benderfynu ar farc terfynol i’r dasg.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 24
© WJEC CBAC Ltd.
Marciau Meini Prawf Asesu Tasg 2 Drama – Dehongli testun yn greadigol AA3
19-20 cyfanwaith creadigol sy’n dehongli testun heriol yn dreiddgar a threfnus
adlewyrchu nodweddion canolog y testun gwreiddiol yn llawn o ran naws ac awyrgylch yn dda iawn
ymdrin â chymeriadau yn aeddfed a sensitif
gwybodaeth lawn am y testun gwreiddiol - cymeriadau a digwyddiadau
defnydd hyderus ac effeithiol o ffurf gan ddefnyddio arddull ysgrifennu’n sensitif sy’n briodol i’r pwrpas
adeiladwaith sicr a chydlynol
gafael sicr iawn ar sillafu,atalnodi a gramadeg
17-18 gwaith creadigol â dyfnder sy’n dehongli testun ymestynnol yn fanwl a threfnus
adlewyrchu nodweddion canolog y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch yn dda
dangos sensitifrwydd ac aeddfedrwydd wrth ymdrin â chymeriadau
gwybodaeth fanwl am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau
defnydd hyderus o ffurf gan ddefnyddio arddull ysgrifennu effeithiol sy’n briodol i’r pwrpas
cyflwyno’r gwaith yn glir a chydlynol
gafael sicr iawn ar sillafu, atalnodi a gramadeg
15-16 gwaith creadigol ag apêl iddo sy’n ymateb i’r testun yn fyw a threfnus
cadw nodweddion canolog y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch yn eithaf da
adnabyddiaeth dda o nodweddion a theimladau’r cymeriadau
dangos gwybodaeth dda am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau
dealltwriaeth dda o ffurf gan ddefnyddio arddull ysgrifennu da sy’n briodol i’r pwrpas
cyflwyno’r gwaith yn glir a threfnus gafael sicr ar sillafu, atalnodi a gramadeg
12-14 gwaith creadigol eithaf diddorol sy’n ymateb yn ddeallus i’r testun gyda pheth manylder a threfn
dangos ymwybyddiaeth o brif nodweddion y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch
ymwybyddiaeth o nodweddion y cymeriadau a’u teimladau
gwybodaeth eithaf da am y testun gwreiddiol – cymeriadau a digwyddiadau
adnabyddiaeth eithaf da o ffurf gan ddefnyddio arddull ysgrifennu eithaf da sy’n briodol i’r pwrpas
cylwyno’r gwaith yn drefnus gafael sicr ar sillafu, atalnodi a gramadeg
9-11 gwaith creadigol lled drefnus gyda chyffyrddiadau diddorol wrth ymateb i’r testun
dangos peth ymwybyddiaeth o brif nodweddion y testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch
dangos dealltwriaeth o nodweddion cymeriadau
dangos gwybodaeth am y testun gwreiddiol gan gyflwyno ffeithiau perthnasol i’r dasg dan sylw am y cymeriadau a’r digwyddiadau lle bo hynny’n briodol
ymwybyddiaeth eithaf da o ffurf gan ymdrechu i ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas
cyflwyno’r gwaith yn lled drefnus gafael gyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg
7-8 gwaith creadigol sy’n dangos ymdrech i gyflwyno’n ddiddorol wrth ymateb i’r testun gan ddangos trefn mewn rhannau o’r gwaith
ymgais i adlewyrchu’r testun gwreiddiol o ran naws ac awyrgylch
dangos peth dealltwriaeth o gymeriadau
dangos gwybodaeth am y testun gwreiddiol - trwy gyflwyno rhai ffeithiau perthnasol i’r dasg dan sylw am gymeriadau a digwyddiadau
ymwybyddiaeth fras o ffurf gan ddangos peth ymdrech i ysgrifennu'n briodol i’r pwrpas
dangos trefn mewn rhannau o’r gwaith
gafael gyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg ar y cyfan
5-6 ymgais i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml gydag ymgais i roi peth trefn ar y gwaith
ymateb yn syml i’r testun gwreiddiol
rhai manylion yn dangos peth dealltwriaeth o’r cymeriadau
dangos peth gwybodaeth am y testun gwreiddiol - cymeriadau a digwyddiadau
dangos ymwybyddiaeth o‘r ffurf a’r angen i ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas
ceisio rhoi peth trefn ar y gwaith
gafael anghyson ar sillafu, atalnodi a gramadeg
3-4 peth ymgais i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml - ymgais at ddilyniant
ychydig o ddealltwriaeth o’r testun gwreiddiol
ychydig o fanylion am gymeriadau a digwyddiadau
peth ymwybyddiaeth o’r ffurf gydag ymgais i ysgrifennu’n briodol i’r pwrpas
ymgais at ddilyniant
gafael gyfyngedig ar sillafu, atalnodi a gramadeg
0-2 ychydig o ymdrech i gyflwyno gwaith creadigol yn seiliedig ar destun syml
ychydig iawn o wybodaeth am y testun gwreiddiol
ychydig iawn o fanylion am gymeriadau a digwyddiadau
rhai elfennau o’r ffurf
gafael gyfyngedig iawn ar sillafu, atalnodi a gramadeg
Asesir yr ysgrifennu yn y dasg hon. Fodd bynnag, gallu ymgeisydd i ddangos ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth
o’r testun ynghyd â’i allu i ddehongli fydd yn penderfynu yn bennaf pa fand marciau sy’n disgrifio ei waith orau.
Yn achos y dasg hon, mae cyflwyno’r gwaith yn drefnus, dewis arddull ysgrifennu sy’n briodol i’r pwrpas
ynghyd ag ysgrifennu’n gywir yn rhan annatod o benderfynu ar farc terfynol i’r dasg.
TGAU LLENYDDIAETH GYMRAEG 25
WJEC CBAC Cyf.
Dilysu’r Asesiadau Diarholiad Mae gofyn i ymgeiswyr lofnodi mai eu gwaith eu hunain yw’r gwaith a gyflwynwyd ac mae gofyn i athrawon/aseswyr gadarnhau mai gwaith yr ymgeisydd o dan sylw’n unig yw’r gwaith a asesir ac iddo gael ei wneud o dan yr amodau gofynnol. Bydd CBAC yn darparu copi o’r ffurflen ddilysu, sy’n rhan o’r ffurflen glawr ar gyfer pob ymgeisydd. Mae’n bwysig nodi bod gofyn i bob ymgeisydd lofnodi’r ffurflen hon, ac nid yn unig y rhai y mae eu gwaith yn rhan o’r sampl a gyflwynir i’r safonwr. Nid oes angen adrodd i CBAC am gamymddygiad a ddarganfuwyd cyn i’r ymgeisydd lofnodi’r datganiad dilysu ond rhaid ymdrin ag ef yn unol â gweithdrefnau mewnol y ganolfan. Cyn i unrhyw waith tuag at yr Asesiad Diarholiad gael ei wneud, dylid tynnu sylw’r ymgeiswyr at yr Hysbysiad i Ymgeiswyr perthnasol gan y CGC. Ceir cyswllt i’r hysbysiad yn y ddogfen Cyfarwyddiadau ar gyfer Cynnal Asesiadau dan Reolaeth ar wefan CGC (www.jcq.org.uk). TGAU Llenyddiaeth Cymraeg CBAC WJEC GCSE Welsh Literature Specification 2015/AE 23/09/16