28
CBAC Lefel 3 Gymhwysol Tystysgrif mewn BUSNES (Yn Cynnwys Busnes Adwerthu) WEDI’I REOLEIDDIO GAN OFQUAL WEDI’I DDYNODI GAN CYMWYSTERAU CYMRU CYMHWYSOL DEUNYDDIAU ASESU ENGHREIFFTIOL - ALLANOL Addysgu o 2017 Dyfarnu o 2018

CBAC Lefel 3 Gymhwysol Tystysgrif mewn BUSNES (Yn Cynnwys

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

CBAC Lefel 3 Gymhwysol Tystysgrif mewn

BUSNES (Yn Cynnwys Busnes Adwerthu)

WEDI’I REOLEIDDIO GAN OFQUALWEDI’I DDYNODI GAN CYMWYSTERAU CYMRU

CYMHWYSOL

DEUNYDDIAU ASESU ENGHREIFFTIOL - ALLANOLAddysgu o 2017Dyfarnu o 2018

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 1

© WJEC CBAC Ltd.

CBAC LEFEL 3

Tystysgrif a Diploma Cymhwysol mewn Busnes

(Yn Cynnwys Busnes Adwerthu)

ASESIAD ALLANOL ENGHREIFFTIOL

I’w addysgu o 2017

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 2

Cynnwys

Tudalen

Uned 1: Y sefydliad: goroesiad a ffyniant 3

Taflen amser 17

Cynlluniau Marcio Enghreifftiol 19

Grid Meini Prawf Asesu 27

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 3

© WJEC CBAC Ltd.

Enw’r Ymgeisydd Rhif y Ganolfan Rhif yr Ymgeisydd

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN

BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) LEFEL 3

Uned 1

Y SEFYDLIAD: GOROESIAD A FFYNIANT

AM/PM [dyddiad]

2 awr

Arholwr yn unig

Isadran

Uchafswm

Marc Marc

Ddyfarnwyd

A. 20

B. 80

Cyfanswm

100

Cyfarwyddiadau i ymgeiswyr

Atebwch bob cwestiwn.

Ysgrifennwch eich atebion yn y lleoedd gwag priodol yn y llyfryn hwn.

Defnyddiwch inc neu feiro du. Peidiwch â defnyddio pensil na beiro gel. Peidiwch â defnyddio hylif cywiro.

Gwybodaeth i ymgeiswyr

Cyfanswm y marciau am y papur yw 100.

Mae nifer y marciau wedi’i nodi mewn cromfachau ar ddiwedd pob cwestiwn neu ran o gwestiwn.

Cewch ddefnyddio cyfrifiannell.

Mae ansawdd y cyfathrebu ysgrifenedig yn cael ei asesu yng Nghwestiwn B1(a).

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 4

Cyflwyniad

Theatr 900 Roedd cyngor sir yn eich ardal yn berchen ar hen theatr mewn tref yn agos i ble rydych yn byw. Roedd y theatr mewn hen adeilad Fictoraidd a oedd wedi mynd yn fwyfwy hen ffasiwn ac yn gostus i'w redeg, ac fe gomisiynodd y cyngor sir adeiladu theatr newydd. Agorodd Theatr 900, a enwyd i goffáu 900 mlynedd ers i'r dref dderbyn Siarter Brenhinol i gynnal marchnad stryd, tair blynedd yn ôl yn yr un dref. Er ei bod ym meddiant y cyngor sir, mae'n gweithredu fel sefydliad annibynnol. Wrth i Theatr 900 gael ei hadeiladu, cafodd deunyddiau wedi'u hailgylchu eu defnyddio yn rhan o adeiledd y Theatr. Mae seddau i 650 o bobl yn y theatr ac mae'n cynnig rhaglen eang o berfformiadau byw, yn cynnwys bale, comedi, drama a sioeau cerdd. Mae ail theatr stiwdio, gyda 200 o seddau, yn cynnig rhaglenni mwy arbrofol ac mae'n darparu man ble gall grwpiau amatur lleol berfformio. Yn ogystal â'r ddwy theatr, mae'r cyfleusterau eraill yn cynnwys stiwdio ddawns, ystafell letygarwch ac, ar gyfer y cyhoedd, bwyty, bar a chyfleusterau parcio. Mae Theatr 900 yn lleoliad poblogaidd gyda'i chwsmeriaid, sy'n byw yn lleol ac ymhellach i ffwrdd. Mae'n cyflogi dros 20 aelod staff llawn amser a'r un nifer o staff rhan amser. Yn ei blwyddyn gyntaf, enillodd Theatr 900 dros £2m, gan iddi werthu ymhell dros 100 000 o docynnau. Ei phrif ffynhonnell incwm yw gwerthiant tocynnau. I annog busnes rheolaidd, mae Theatr 900 yn rhedeg cynllun ‘Cyfeillion’ ble mae pobl yn talu ffi flynyddol i ddod yn Gyfaill i'r Theatr, ac yn gyfnewid am hyn mae'r Cyfeillion yn derbyn disgowntiau ar brisiau sioeau ynghyd â hysbysiad ymlaen llaw am y sioeau nesaf. Mae'r Theatr hefyd yn derbyn arian nawdd gan fusnesau yn yr ardal. Mae'r noddwyr busnes lleol yn cynnwys Lee & MacLean, partneriaeth gyfrifyddiaeth leol, a Forssi ccc, cwmni peirianneg mawr gyda ffatri yn yr un dref. Mae'r Cyngor a'r sefydliad twristiaeth lleol yn ystyried Theatr 900 fel y ffordd allweddol o hybu'r dref fel lle deniadol i fyw a gweithio, ac yn ffactor pwysig o ran dod ag ymwelwyr i'r dref.

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 5

© WJEC CBAC Ltd.

Atebwch bob cwestiwn.

ADRAN A 1. Mae cynllun busnes Theatr 900 yn cynnwys datganiad bod y Theatr yn bwriadu

cynyddu ei hincwm o 2.5% dros y cyfnod 12 mis nesaf. Mae'r datganiad hwn yn enghraifft mewn busnes o:

A. ddatganiad cenhadaeth

B. nod

C. amcan

Ch. menter

Pa un o’r gosodiadau uchod sy’n gywir: A, B, C neu Ch? Ticiwch (P) y blwch

perthnasol.[1] 2. Gyda pha un o'r gweithgareddau hyn mae Theatr 900 yn fwyaf cysylltiedig?

A. Cynradd

B. Eilaidd

C. Trydyddol

Ch. Pedwarol

Pa un o’r gosodiadau uchod sy’n gywir: A, B, C neu Ch? Ticiwch (P) y blwch perthnasol. [1]

3. Mae Theatr 900 yn argraffu taflenni a phosteri hyrwyddo sy'n rhoi gwybodaeth am ei

rhaglenni. Pa fath o adnodd yw ei hargraffydd?

A. Dynol

B. Ffisegol

C. Ariannol

Ch. Gwybodaethol

Pa un o’r gosodiadau uchod sy’n gywir: A, B, C neu Ch? Ticiwch (P) y blwch perthnasol.[1]

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 6

4. Mae cynnwys deunyddiau wedi'u hailgylchu yn adeiledd Theatr 900 yn enghraifft sy'n dangos bod yr adeiladwyr yn rhoi ystyriaeth i:

A. ddylanwad cyfreithiol

B. dylanwad gwleidyddol

C. dylanwad technegol

Ch. dylanwad amgylcheddol

Pa un o’r gosodiadau uchod sy’n gywir: A, B, C neu Ch? Ticiwch (P) y blwch perthnasol. [1]

5. Mae'n rhaid i dîm rheoli Theatr 900 sicrhau eu bod yn cynnig cynnyrch o safon i'w

chwsmeriaid. Cyfatebwch y disgrifiadau sy'n cael eu rhoi yn y blychau 1-4 gyda'r fenter ansawdd fwyaf priodol drwy nodi A, B, C, Ch, D, neu Dd ym mhob un o'r pedwar blwch. [3]

1 2 3 4

Mae'r staff yn profi samplau bach o'r bwyd sy'n cael ei goginio ar gyfer y Bwyty

Mae pob aelod o staff yn cyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus

Mae staff y theatr yn cyfarfod i drafod materion cysylltiedig â gwaith

Mae'r rheolwyr yn gwirio'r gwasanaeth a gynigir yn systematig

A RhAH Ch Cylchoedd ansawdd B Dim diffygion D Rheoli ansawdd C Peirianneg o ansawdd Dd Sicrhau ansawdd 6. Mae rheolwyr Theatr 900 wedi ysgrifennu cynllun busnes ar gyfer y Theatr. Mae'r

cynllun busnes yn cynnwys adran ar Farchnata. Awgrymwch dair eitem sy'n debygol o gael eu cynnwys yn yr adran Farchnata. [3] 1 .…………………………………………………………………………………………

2 .…………………………………………………………………………………………

3 .…………………………………………………………………………………………

7. Y cyngor sir sydd berchen ar Theatr 900. Enwch ddau wasanaeth y mae'r Cyngor yn debygol o fod yn gyfrifol amdanynt. [2]

1. .………………………………………………………………………………………… 2. .…………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 7

© WJEC CBAC Ltd.

8. Mae Theatr 900 yn cael ei noddi gan wahanol sefydliadau, yn cynnwys Lee & MacLean (partneriaeth gyffredin leol) a’r cwmni cenedlaethol, Forssi ccc. (a) Nodwch ym mha ffyrdd mae Lee & MacLean a Forssi ccc yn wahanol o ran eu:

Perchenogaeth [2]

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

Rheolaeth [2]

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………

(b) Esboniwch statws atebolrwydd cyfreithiol bob un o'r sefydliadau hyn. [4] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 8

Atebwch BOB cwestiwn

Adran B

1. Mae cyfleusterau Theatr 900 wedi cael eu defnyddio bron i'w llawn gapasiti. Nid oedd y llawr gwreiddiol a gafodd ei osod yn y stiwdio ddawns o ansawdd da, ac o ganlyniad i ddefnydd trwm ohono mae'n cael ei newid am lawr pren siocleddfol (specialist spring wooden floor). Mae disgwyl iddo gostio tua £4 500.

Mae'r Theatr yn rheoli ei materion ariannol ei hun a bydd angen trefnu cyllid ar gyfer y llawr newydd hwn. Gallai naill ai ddefnyddio'r cyfleuster gorddrafft presennol mae wedi ei drefnu gyda'r banc, neu bydd y banc yn fodlon cynnig benthyciad 12 mis. (a) Pa ffactorau cysylltiedig â benthyciadau a gorddrafftiau banc bydd rhaid i reolwyr

Theatr 900 eu hystyried wrth benderfynu pa ffynhonnell o gyllid i'w dewis? [8] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 9

© WJEC CBAC Ltd.

Yn ogystal â'r Adran Gyllid, mae'r adrannau gweithredol eraill yn y Theatr yn cynnwys Marchnata, Prynu, Adnoddau Dynol (AD) a Gwasanaeth i Gwsmeriaid. (b) Esboniwch wahanol rolau'r adrannau AD a Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn

Theatr 900. [6] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

(c) Sut mae gosod a llawr arbenigol newydd yn y stiwdio ddawns yn debygol o

effeithio ar waith yr adrannau Prynu a Marchnata? [6] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 10

2. Mae rheolwyr Theatr 900 yn deall pwysigrwydd cyfathrebu da rhwng y Theatr a'i darpar gwsmeriaid a'i chwsmeriaid presennol.

(a) Nodwch bedwar maen prawf a fydd wedi dylanwadu ar weithwyr y Theatr wrth ddewis pa gyfryngau a dulliau cyfathrebu i'w defnyddio. [4]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

Mae gweithwyr y Theatr yn cyflawni amrywiaeth eang o weithgareddau. I wneud hyn, maent yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau a dulliau cyfathrebu. Mae'r gweithgareddau a'r dulliau/cyfryngau'n cynnwys:

anfon gwybodaeth at y Cyfeillion a'r cwsmeriaid eraill sydd â'u manylion yn y gronfa ddata – gan ddefnyddio e-bost

hysbysebu sioeau yn y dyfodol – prynu lleoedd hysbysebu yn y papur lleol, a slotiau hysbysebu ar y radio lleol

manylion, ac archebion/taliadau ar-lein, am y sioeau nesaf – gwefan y Theatr, sy'n cynnwys dolennau i'w thudalennau cyfryngau cymdeithasol

gwybodaeth am y sioeau nesaf i'r cyhoedd – argraffu posteri a thaflenni

cynnig teithiau tywys addysgol ‘y tu ôl i'r llenni’ i'r Cyfeillion ac ysgolion lleol – cynhyrchu taflenni

(b) Esboniwch sut gall gweithwyr y Theatr asesu effeithiolrwydd y negeseuon cyfathrebu sy'n cael eu cyflwyno drwy'r dulliau a'r cyfryngau hyn. [6]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 11

© WJEC CBAC Ltd.

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

(c) Sut fydd y meysydd cyfraith canlynol yn effeithio ar waith y gweithwyr hyn

sy'n ymwneud â'r gweithgareddau uchod a'u cyfryngau/dulliau cyfathrebu?[10]

Iechyd a diogelwch

Diogelu data

Hawlfraint …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 12

3. Mae CyfeillionTheatr 900 a'i pherchenogion (y Cyngor) yn ddau o'i rhanddeiliaid allanol. [2]

(a) Gan ddefnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei rhoi yn y Cyflwyniad, nodwch:

un rhanddeiliad allanol arall

un rhanddeiliad mewnol. …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

Fel rhanddeiliaid, bydd gan y Cyfeillion a'r Cyngor nodau maen nhw eisiau i Theatr 900 eu cyflawni. (b) Dadansoddwch, gan roi rhesymau dros eich penderfyniadau, sut mae'r ddau randdeiliad hyn yn debygol o:

gytuno

anghytuno

o ran y nodau maent yn debygol o'u cael ar gyfer Theatr 900. [8] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 13

© WJEC CBAC Ltd.

(c) Mae'r Bwyty yn Theatr 900 yn boblogaidd gyda'i Chyfeillion.

Awgrymwch un dylanwad Cymdeithasol allanol, ac un dylanwad Economaidd allanol, sy'n debygol o gael effaith ar weithrediad y Bwyty. Ar gyfer pob dylanwad:

dadansoddwch sut mae'n debygol o effeithio ar waith Bwyty Theatr 900

archwiliwch yr ymatebion y dylai'r Bwyty eu gwneud. [10] …………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 14

4. O ganlyniad i'w llwyddiant a'i thwf dros y tair blynedd diwethaf, mae rheolwyr Theatr 900 yn bwriadu recriwtio dau weithiwr rhan amser ychwanegol. Mae un swydd wag ar gyfer gwaith ‘Blaen y Tŷ’, ble bydd yr ymgeisydd llwyddiannus mewn cysylltiad â'r Cyfeillion a chwsmeriaid eraill. Mae'r swydd wag arall ar gyfer arbenigwr mewn dylunio tudalennau gwe: bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda dau aelod arall o staff ond ni fydd mewn cysylltiad â chwsmeriaid.

(a) Ar gyfer pob swydd wag, nodwch ddau o briodoleddau gweithiwr effeithlon y

dylai'r rheolwyr chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr. Esboniwch pam mae'r priodoleddau hyn yn berthnasol i'r swydd wag benodol yn Theatr 900. [6]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

(c) Bydd rhaid i bob gweithiwr newydd ddilyn hyfforddiant. Bydd y ddau yn derbyn hyfforddiant sefydlu ar ôl hyfforddiant mewn swydd.

(i) Amlinellwch bwrpas rhoi hyfforddiant sefydlu i'r gweithiwr ‘Blaen y Tŷ’

newydd yn Theatr 900.[2]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 15

© WJEC CBAC Ltd.

(ii) Disgrifiwch un o fuddion hyfforddiant mewn swydd i Theatr 900 ac un o'r buddion i'r gweithwyr newydd. [2]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

(ch) Mae rheolwyr Theatr 900 yn deall gwerth cael gweithlu uchel eu cymhelliant. Mae un rheolwr wedi astudio gwaith Frederick Herzberg ac mae'n ymwybodol o'i ddamcaniaeth dau ffactor.

I ba raddau mae ffactorau cymell a ffactorau hylendid yn debygol o effeithio ar foddhad y ddau weithiwr newydd yn y gweithle? [10]

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

…………………………………………………………………………………………………

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 17

© WJEC CBAC Ltd.

CBAC LEFEL 3 TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) TAFLEN AMSER ASESU ALLANOL UNED 1: Y SEFYDLIAD: GOROESIAD A FFYNIANT

Enw'r Ganolfan:

Rhif y Ganolfan:

Enw'r Ymgeisydd:

Rhif yr Ymgeisydd:

Ni all cyfanswm yr amser a ganiateir fod yn fwy nag 1 awr 30 munud. Digwyddodd yr oriau dan oruchwyliaeth, a amserwyd fel a ganlyn:

Tasg

Dyddiad

Amser a Ganiateir: 1 awr 30 munud

Oriau Munudau

Cyfanswm

Rwy'n ardystio bod pob ymgeisydd a gofrestrwyd wedi cael gwybod am y dyddiadau uchod. Llofnod y Goruchwyliwr: …………………………………………….. Dyddiad: ………..................

Rwy'n cadarnhau bod y dystiolaeth a gyflwynwyd i'w hasesu wedi'i llunio gennyf heb unrhyw gymorth y tu hwnt i'r cymorth a ganiateir.

Llofnod yr Ymgeisydd: ……………………………………………… Dyddiad: .........................

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 19

© WJEC CBAC Ltd.

LEFEL 3 BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU)

UNED 1 - Y SEFYDLIAD: GOROESIAD A FFYNIANT

CYNLLUN MARCIO Adran A

Cwestiwn Ateb Marc DD

1. C 1 1

2. Ch 1 1

3. B 1 2

4. Ch 1 1

5. 1 = D

2 = A

3 = Ch

4 = Dd

(2 farc am 3 neu 2 cywir; 1 marc am 1 cywir)

3 2

6. (Mae'r eitemau'n cynnwys) Natur y farchnad leol, cystadleuaeth leol/ranbarthol, dadansoddiad SWOT, polisi prisio, cynlluniau hyrwyddo (3 x 1 marc)

3 1

7. (Mae'r enghreifftiau'n cynnwys) Addysg, cludiant, cynllunio, diogelwch cyhoeddus/tân, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, rheoli gwastraff, safonau masnach (2 x 1 marc)

2 1

8. a. Perchenogaeth: partneriaid (1), cyfranddalwyr (1)

Rheolaeth: partneriaid (1), rheolwyr/bwrdd (1)

4 1

8. b. Partneriaeth: atebolrwydd llawn (1) sy'n golygu y gall dyledion busnes

gael eu hawlio o asedau personol partneriaid (1)

CCC: atebolrwydd cyfyngedig (1) sy'n golygu na all cyfranddalwyr golli

mwy na'u buddsoddiad yn y CCC (1)

(2 x 1 marc gosodiad syml)

(2 x 1 marc datblygu)

4 1

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 20

Adran B

Cwestiwn Ateb Marc DD

1. a. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau. 1 – 2 farc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o fenthyciadau a gorddrafftiau drwy roi disgrifiad sylfaenol yn unig o un ohonynt neu'r ddau. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol. 3 – 5 marc: Mae'r atebion yn disgrifio yn gymharol fanwl ac yn cynnwys peth esboniad o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â'r ddau fath o gyllid. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol. 6 – 8 marc: Mae'r atebion yn cynnwys esboniad llawn o'r holl brif ffactorau sy'n gysylltiedig â'r dewis i'w wneud. Mae'r atebion wedi'u strwythuro'n dda ac wedi'u mynegi'n glir. Defnyddir termau arbenigol mewn ffordd naturiol a chywir. Mae'r atebion tebygol yn cynnwys: Sicrwydd/arwystl – p'un ai fod eu hangen, yn fwy tebygol ar gyfer benthyciad. Cyfradd llog gymharol – telir ar gyfanswm y benthyciad, boed penodol (yn debygol ar gyfer benthyciad 12 mis) neu newidiol (ar gyfer gorddrafft). Hyd yr amser i ad-dalu – benthyciad 12 mis, y Theatr sy'n penderfynu ar y gorddrafft felly'n fwy hyblyg. Effeithiau peidio â thalu – y camau tebygol y byddai'r banc yn eu cymryd. Gwarant gan y banc – benthyciad swm/tymor hysbys, gellir adalw'r gorddrafft. Costau sefydlu – y gorddrafft yn bodoli'n barod, angen trefnu'r benthyciad.

8 1

1. b. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau. 1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o'r rolau gweithredol hyn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder ac/neu enghreifftiau. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol. 4 – 6 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth fanwl o rolau gweithredol a'r gwahaniaethau allweddol rhyngddynt. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr yn glir gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol. Mae'r atebion tebygol yn cynnwys: Ffocws – PD mewnol, Gwasanaeth i Gwsmeriaid allanol; PD gweithwyr, Gwasanaeth i Gwsmeriaid cwsmeriaid. Mae PD yn ceisio (e.e.) cadw staff presennol y Theatr yn hapus/yn uchel eu cymhelliant, recriwtio staff o safon gyda phrofiad ym myd adloniant/hamdden; Mae Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn ceisio (e.e.) sicrhau bod cwsmeriaid y Theatr yn fodlon trwy gael adborth.

6 2

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 21

© WJEC CBAC Ltd.

Cwestiwn Ateb Marc DD

1. c. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau.

1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o'r rolau

gweithredol hyn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder

ac/neu enghreifftiau. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol.

4 – 6 marc: Mae'r atebion yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth

fanwl o'r rolau gweithredol a'r gwahaniaethau allweddol. Mae'r atebion

yn cyfleu ystyr yn glir gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol.

Mae'r atebion tebygol yn cynnwys:

(Prynu) Darganfod beth yn union sydd ei angen (manylion y llawr,

terfynau amser ac ati); gwirio a yw'r cyflenwyr presennol yn addas/dod

o hyd i gyflenwyr newydd; gwirio prisiau; gwirio telerau/cyflenwi;

cysylltu â'r Adran Gyllid i drafod/trefnu tâl; trefnu cyflenwi.

(Marchnata) Trefnu hybu'r llawr newydd; trefnu rhoi cyhoeddusrwydd i

agoriad y stiwdio ‘newydd’; cysylltu â chwsmeriaid presennol i hybu;

cysylltu i gael gwybod dyddiad cwblhau'r gwaith.

6 2

Cyfanswm ar gyfer Cwestiwn 1 20

Cwestiwn Ateb Marc DD

2. a. Meini prawf: (e.e.)

Cywirdeb y neges sy'n cael ei chyflwyno; cyflymder cyflwyno'r neges;

cost y dulliau/cyfryngau; addasrwydd y cynnwys ar gyfer y

dulliau/cyfryngau; unrhyw faterion diogelwch; cyfarpar sydd ar gael/sy'n

berthnasol i'r derbynnydd.

4 2

2. b. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau.

1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o fesur

effeithiolrwydd yn y cyd-destun hwn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond

gyda diffyg manylder ac/neu enghreifftiau. Ychydig neu ddim defnydd o

eirfa arbenigol.

4 – 6 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth a dealltwriaeth

fanwl o fesur effeithiolrwydd yn y cyd-destun hwn. Mae'r atebion yn

cyfleu ystyr yn glir gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol.

Mae'r atebion tebygol yn cynnwys:

Eglurder y neges e.e. amserau sioeau/sêr a roddwyd; rhwyddineb

cyrchu'r cyfrwng e.e. hygyrchedd y wefan; rhif/canran yr atebwyr;

digonolrwydd yr ymateb; cyflymder yr ymateb e.e. cwblhau archebion

mewn pryd.

6 2

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 22

Cwestiwn Ateb Marc DD

2. c. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau.

1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o'r

ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, diogelu data, a

hawlfraint drwy roi disgrifiad sylfaenol yn unig, a ategir gan

enghreifftiau cyfyngedig o'u cymhwysiad yn y cyd-destun hwn. Mae'r

atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder. Ychydig neu ddim

defnydd o eirfa arbenigol.

4 – 7 marc: Mae'r atebion yn disgrifio ac yn esbonio'n gymharol fanwl y

materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r meysydd hyn, ynghyd ag

enghreifftiau o sut gallant gael eu cymhwyso yn y sefyllfa hon. Mae'r

atebion yn cyfleu ystyr gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol.

8 – 10 marc: Mae'r atebion yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth

fanwl o'r prif faterion cyfreithiol ynghyd ag esboniad sy'n gysylltiedig â'r

meysydd hyn. Ategir y pwyntiau a wneir gan enghreifftiau perthnasol a

chlir. Mae'r atebion wedi'u strwythuro'n dda ac wedi'u mynegi'n glir.

Defnyddiwyd termau arbenigol mewn ffordd naturiol a chywir.

Mae'r atebion tebygol yn cynnwys:

(Iechyd/diogelwch) cymhwys'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau

cysylltiedig/HASAW fel Rheoliadau'r Gweithle 1992 a Rheoliadau

Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) – e.e. diogelwch trydan

wrth ddefnyddio e-byst/ddiweddaru'r wefan; arferion diogel wrth

ddefnyddio'r argraffydd ac ymdrin â meintiau sylweddol o waith i'w

hargraffu; awyru digonol wrth argraffu/defnyddio cyfrifiaduron; storio

unrhyw ddeunyddiau peryglus a ddefnyddir wrth argraffu yn ddiogel;

dulliau gweithredu diogel wrth gynnal teithiau tywys.

(Diogelu data) gweithredu'r Ddeddf Diogelu Data – e.e. defnyddio'r

gronfa ddata cwsmeriaid at y pwrpas penodol o hybu sioeau yn y

dyfodol; dileu Cyfeillion o'r gronfa ddata os nad yw'r tanysgrifiad yn cael

ei adnewyddu; cadw gwybodaeth bersonol/gwybodaeth talu ar-lein

cwsmeriaid yn ddiogel ac yn sicr.

(Hawlfraint) rheoliadau hawlfraint/cysylltiedig 2014 a Deddf 1988 fel y'i

diwygiwyd – e.e. cysylltu â sioeau ynghylch defnyddio

ymadroddion/delweddau ar daflenni/posteri a ddefnyddir i hybu; gwirio

gwybodaeth ar y wefan yn erbyn rheoliadau hawlfraint; adolygu unrhyw

ddefnydd o nodau masnach neu batentau mewn deunyddiau

cyhoeddusrwydd.

10 2

Cyfanswm ar gyfer Cwestiwn 2 20

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 23

© WJEC CBAC Ltd.

Cwestiwn Ateb Marc DD

3. a. Allanol (1 marc): aelodau o'r cyhoedd/cwsmeriaid, Lee & MacLean,

Forssi ccc, bwrdd croeso lleol.

Mewnol (1 marc): gweithwyr cyflogedig.

2 1

3. b. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau. 1 - 2 farc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o randdeiliaid drwy roi esboniad/dadansoddiad sylfaenol o'u nodau tebygol. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol. 3 – 5 marc: Mae'r atebion yn disgrifio yn gymharol fanwl ac yn cynnwys dadansoddiad o nodau cyffredin a gwahanol y ddau randdeiliad. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol. 6 – 8 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth lawn drwy ddadansoddiad rhesymegol manwl sy'n dangos y ffyrdd y mae nodau'r rhanddeiliaid hyn yn debygol o gytuno ac anghytuno. Mae'r atebion wedi'u strwythuro'n dda ac wedi'u mynegi'n glir. Defnyddiwyd termau arbenigol mewn ffordd naturiol a chywir. Mae'r atebion tebygol yn cynnwys: Cytuno: e.e. goroesi yn y tymor hir – adloniant parhaus i'r Cyfeillion/incwm i'r Cyngor; cynnig gwasanaeth/adloniant addas ar gyfer yr ardal leol – statws i'r Cyngor, adloniant i'r Cyfeillion; denu mwy o ymwelwyr/cyfoeth i'r dref – cefnogi busnesau lleol (y Cyngor), mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau lleol (y ddau). Anghytuno: e.e. gwneud (mwy o) elw i ad-dalu unrhyw ddyledion/i gyfrannu at incwm (o fudd i'r Cyngor), o gymharu â chynnig (gwell) gwasanaeth (o fudd i'r Cyfeillion); prisiau uwch i gael mwy o incwm (y Cyngor) ond prisiau is i gael costau personol is (y Cyfeillion).

8 1

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 24

Cwestiwn Ateb Marc DD

3. c. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau.

1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o

ffactorau economaidd a chymdeithasol allanol drwy wneud

dadansoddiad a/neu werthusiad gwan a ategir gan enghreifftiau

cyfyngedig yn y cyd-destun hwn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond

gyda diffyg manylder. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol.

4 – 7 marc: Mae'r atebion yn dadansoddi yn gymharol fanwl ac yn

cynnig gwerthusiad o ddylanwad cymdeithasol ac economaidd ar y

Bwyty, ynghyd ag enghreifftiau o'u cymhwysiad. Mae'r atebion yn

cyfleu ystyr gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol.

8 – 10 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth fanwl o ffactor

cymdeithasol ac economaidd yn gysylltiedig â'r meysydd hyn. Ategir y

dadleuon a wneir gan enghreifftiau perthnasol a chlir. Mae'r atebion

wedi'u strwythuro'n dda ac wedi'u mynegi'n glir. Defnyddiwyd termau

arbenigol mewn ffordd naturiol a chywir.

Mae'r atebion tebygol yn cynnwys:

(Cymdeithasol) e.e. newid yn y dyhead am wahanol fwydydd – yn

effeithio ar yr amrywiaeth o fwyd a gynigir gan y Bwyty, ffynonellau a

phatrymau prynu bwyd, costau bwyd – yr ymatebion yn cynnwys newid

bwydlenni, adolygu strategaethau prisio, ymgynghori â'r Cyfeillion

ynghylch eu hoff ddewisiadau o ran bwyd.

(Economaidd) e.e. cynnydd yn y gyfradd gyflog – mae costau uwch yn

cynyddu prisiau yn y Bwyty – yr ymatebion yn cynnwys adolygu

costau/rheoli costau yn well, derbyn costau yn hytrach na chodi prisiau,

codi prisiau'r fwydlen a monitro ymatebion y cwsmeriaid i'r cynnydd.

10 1

Cyfanswm ar gyfer Cwestiwn 3 20

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 25

© WJEC CBAC Ltd.

Cwestiwn Ateb Marc DD

4. a. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau. 1 – 3 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o'r priodoleddau yn y cyd-destun hwn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder ac/neu enghreifftiau. Ychydig neu ddim defnydd o eirfa arbenigol. 4 – 6 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth a dealltwriaeth fanwl o'r priodoleddau yn y cyd-destun hwn. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr yn glir gyda pheth defnydd o eirfa arbenigol. Mae'r atebion tebygol yn cynnwys: Blaen y tŷ: e.e. prydlondeb; cwrteisi; diffyg rhagfarn. Perthnasedd: e.e. cynrychioli ‘wyneb’ Y Theatr felly mae cwrteisi'n ddisgwyliedig; mae'r rhain yn rhinweddau gwasanaeth i gwsmeriaid da. Gwefan: e.e. y gallu i weithio fel rhan o dîm; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig da; bod yn fentrus. Perthnasedd: e.e. angen gweithio gyda phobl eraill; mae'r wefan yn creu delwedd o'r Theatr felly mae sillafu/cyfathrebu da yn bwysig.

6 3

4. b. (i) Pwrpas: e.e. helpu gweithiwr newydd y Theatr i gyfrannu'n gyflym i'r

gweithrediadau Blaen y Tŷ (1) a sicrhau na wneir camgymeriadau

costus sy'n ymwneud â chwsmeriaid (1)

(2 x 1 marc)

2 3

4. b. (ii) Budd: e.e. cost effeithiol (1) dim costau cludiant/treuliau/heb fod yn talu

am hyfforddwyr arbenigol (1)

Mae'r gweithwyr yn y Theatr o hyd (1) felly maent yn dal i gyfrannu at ei

waith (1)

Cynnwys gweithwyr eraill y Theatr (1) a all eu cymell (1)

1 marc am ddatganiad syml, 1 marc am ddatblygu

Anfantais: e.e. oherwydd bod gweithwyr eraill ynghlwm (1) mae'n

ymyrryd ar eu gwaith (1)

Mae ansawdd yn fater (1) oherwydd nad yw'r hyfforddwyr yn

arbenigwyr (1)

Nid yw'r amgylchedd yn canolbwyntio ar ddysgu (1) felly gall fod yn

aneffeithiol (1)

1 marc am ddatganiad syml, 1 marc am ddatblygu.

2 3

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 26

Cwestiwn Ateb Marc DD

4. c. 0 marc: Does dim byd yn haeddu unrhyw farciau.

1 – 2 farc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o

ddamcaniaeth Herzberg drwy roi esboniad sylfaenol o'i chynnwys.

Mae'r atebion yn cyfleu ystyr ond gyda diffyg manylder. Ychydig neu

ddim defnydd o eirfa arbenigol.

3 – 5 marc: Mae'r atebion yn esbonio'r ddamcaniaeth yn gymharol

fanwl ac yn cynnwys peth dadansoddi ar berthnasedd ffactorau cymell

a/neu ffactorau hylendid. Mae'r atebion yn cyfleu ystyr gyda pheth

defnydd o eirfa arbenigol.

6 – 8 marc: Mae'r atebion yn dangos dealltwriaeth lawn ac maent yn

cynnwys barn a dadansoddiad manwl o ddylanwad y ffactorau cymell

a'r ffactorau hylendid. Mae'r atebion wedi'u strwythuro'n dda ac wedi'u

mynegi'n glir. Defnyddiwyd termau arbenigol mewn ffordd naturiol a

chywir.

Mae'r atebion tebygol yn cynnwys:

Mae gwaith Herzberg yn awgrymu y bydd presenoldeb Ffactorau

Cymhelliant yn cymell y gweithwyr Theatr newydd i weithio'n galetach,

os bydd eu gwaith yn cynnwys er enghraifft cael mwy o gyfrifoldeb,

cael gwaith mwy diddorol a derbyn canmoliaeth gan

gwsmeriaid/cydweithwyr.

Dylanwad ffactorau hylendid ar foddhad y gweithwyr â'u gweithle yw na

fydd y rhain, ar eu pen eu hun, yn cymell y gweithwyr newydd ond, os

nad ydynt yn bresennol, gall colli cymhelliant ddigwydd. Bydd y

gweithwyr newydd yn disgwyl cael eu talu, a chael gweithio mewn

amgylchedd gweithio da.

Felly mae ffactorau cymell a ffactorau hylendid yn berthnasol wrth

gyflawni boddhad yn y gweithle, a gall ddylanwadu ar reolwyr y Theatr i

fabwysiadu strategaethau fel helaethu swydd a chyfoethogi swydd, a

fydd yn gwella'r boddhad yn y gweithle ymhellach.

10 3

Cyfanswm ar gyfer Cwestiwn 4 20

TYSTYSGRIF A DIPLOMA CYMHWYSOL MEWN BUSNES (YN CYNNWYS BUSNES ADWERTHU) eSAM 27

© WJEC CBAC Ltd.

Cwestiwn DD1 DD2 DD3 Cyfanswm

Adran A

1 – 4 3 1 4

5 3 3

6 3 3

7 2 2

8(a) 4 4

8(b) 4 4

Adran B

1(a) 8 8

1(b) 6 6

1(c) 6 6

2(a) 4 4

b) 6 6

2(c) 10 10

3(a) 2 2

b) 8 8

3(c) 10 10

4(a) 6 6

4(b)(i) 2 2

4(b) (ii) 2 2

4(c) 10 10

Cyfanswm DD

44 36 20 100

% DD 44 36 20 100

Marciau 35 – 45 35 – 45 20 – 30 100

LEFEL 3 Tystysgrif a Diploma Cymhwysol mewn Busnes eSAMs (Yn Cynnwys Busnes Adwerthu) JF/HT 13 03 17